Adran o’r blaen
Previous section

Y Beibl Cyssegr-lan (1588), Genesis 37, 39-41, I Samuel 16-20, Matthew 26-28, II Corinthians 1-9.

Cynnwys
Contents

Llyfr cyntaf Moses yr hwn a elwir Genesis
PEN. XXXVII. 16v.a
PEN. XXXIX. 17v.b
PEN. XL. 18r.a
PEN. XLI. 18r.b
Llyfr cyntaf i Samuel
PEN. XVI. 117v.b
PEN. XVII. 118r.a
PEN. XVIII. 119r.a
PEN. XIX. 119v.a
PEN. XX. 120r.a
Efengyl Iesu Grist yn ôl Sanct Mathew
PEN. XXVI. 452r.b
PEN. XXVII. 453r.b
PEN. XXVIII. 454r.a
Ail Epistol Paul at y Corinthiaid.
PENNOD. I. 519v.a
PEN. II. 520r.a
PEN. III. 520r.b
PEN. IIII. 520v.a
PEN. V. 520v.b
PEN. VI. 521r.b
PEN. VII. 521v.a
PEN. VIII. 521v.b
PEN. IX. 522r.a

Llyfr cyntaf Moses yr hwn a elwir Genesis



[td. 16v.a]


PEN. XXXVII.


2 Ioseph yn achwyn ar ei frodyr wrth ei dâd. 5 Efe
yn breuddwydio, a 'i frodyr yn ei gasau. 28 Ac yn ei

[td. 16v.b]
werthu ef i 'r Ismaeliaid. 34 Galar Iacob am Ioseph.


[1] A Thrigodd Iacob yng-wlâd ymddaith ei
dâd sef yng-wlâd Canaan.

[2] Dymma genhedlaethau Iacob: Ioseph
yn fab dwy flwydd ar bymthec oedd fugail gyd
a 'i frodyr ar y praidd: ac efe oedd yn llangc gyd
a meibion Bilha, a chyd a meibion Zilpha gwragedd
ei dâd ef: yna Ioseph a ddygodd eu
drwg enllib hwynt at eu tâd hwynt.

[3] Ac Israel oedd hoffach ganddo Ioseph
nai holl feibion, o blegit efe a 'i cawse ef yn ei henaint:
ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef.

[4] Pan welodd ei frodyr, fod eu tâd yn ei
garu ef yn fwy nai holl frodyr: yna hwy a 'i casasant
ef, ac ni fedrent ymddiddan [ag] ef yn
heddychol.

[5] Ac Ioseph a freuddwydiodd freuddwyd,
ac a 'i mynegodd i 'w frodyr: am hynny y casasant
ef etto yn ychwaneg.

[6] O blegit dywedase wrthynt, gwrandewch
atolwg y breuddwyd hwn, yr hwn a freuddwydiais.


[7] Ac wele rhwymo ysgubau 'r oeddem ni
yng-hanol [~ ynghanol ] y maes, ac wele fy yscub mau fi a
gyfododd, ac a safodd hefyd, ac wele eich yscubau
chwi a ddaethant o amgylch ac a ymgrymmasant
i 'm hysgub mau fi.

[8] Yna ei frodyr a ddywedasant wrtho ef,
ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu
'r arglwyddieithi arnom ni? etto
am hynny y chwanegasant ei gasau ef, o blegit
ei freuddwydion, ac o blegit ei eiriau ef.

[9] Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd
arall, ac a 'i mynegodd i 'w frodyr, ac a
ddywedodd: wele yr haul, a 'r lleuad, ac vn ar
ddec o sêr yn ymgrymmu i mi.

[10] Ac efe a 'i mynegodd i 'w dâd, ac i 'w frodyr,
a 'i dâd a feiodd arno ef, ac a ddywedodd wrtho ef
pa freuddwyd yw hwn, yr hwn a freuddwydiaist?
ai gan ddyfod y deuwn ni, mi a 'th fam
a 'th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?

[11] A 'i frodyr a genfigennasant wrtho ef, ond
ei dâd a gadwodd y peth [mewn côf:]

[12] Yna ei frodyr ef a aethant i fugeilio
praidd eu tâd yn Sichem.

[13] Ac Israel a ddywedodd wrth Ioseph, onid
[yw] dy frodyr yn bugeilio yn Sichem?
tyret, a mi a 'th anfonaf attynt: yntef a ddywedodd
wrtho ef, wele fi.

[14] Yna y dywedodd ei [dâd] wrtho ef, dos
weithian, edrych [pa] lwyddiant [sydd] i 'th frodyr,
a [pha] lwyddiant [sydd] i 'r praidd, a dŵg
eilchwael [~ eilchwyl ] air [i] mi: felly efe a 'i hanfonodd ef o
lynn Hebron, ac efe a ddaeth i Sichem.

[15] Yna y cyfarfu gŵr ag ef: ac wele efe yn
cyrwydro [~ crwydro ] yn y maes, a 'r gŵr a ymofynnodd
[ag] ef, gan ddywedyd, pa beth yr ydwyt yn ei
geisio?

[16] Yntef a ddywedodd ceisio fy-mrodyr yr
ydwyf fi: mynega atolwg i mi pa le y maent
hwy yn bugeilio?


[td. 17r.a]
[17] A 'r gŵr a ddywedodd  cychwnnasant [~ cychwynasant ] oddi
ymma, o blegit clywais hwynt yn dywedyd,
awn i Dothan: yna Ioseph a aeth a'r [~ ar ] ôl ei frodyr,
ac a 'i cafodd hwynt o fewn Dothan.

[18] Hwythau a 'i canfuant ef o bell, a chyn ei
ddynessu attynt hwy 'r ymfwriadasant hefyd
[yn] ei [erbyn] ef, i 'w ladd ef.

[19] A dywedasant bôb vn ŵrth ei gilydd, wele
accw y breuddwyd-wr yn dyfod.

[20] Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn
ef, a thaflwn ef yn vn o 'r pydewau, a dywedwn,
bwyst-fil drwg a 'i bwyttaodd ef: yna y cawn weled
beth fydd ei freuddwydion ef.

[21] A Ruben a glybu, ac a 'i hachubodd ef,
o 'i llaw hwynt, ac a ddywedodd, na laddwn ef yn
farw.

[22] Ruben a ddywedodd hefyd wrthynt, na
thywelltwch waed: bwriwch ef i 'r pydew
hwn, yr hwn [sydd] yn yr anialwch, ac nac estynnwch
law arno ef: fel yr achube ef o 'i llaw
hwynt i 'w ddwyn eil-waith at ei dâd.

[23] A phan ddaeth Ioseph at ei frodyr, yna
y gwnaethant i Ioseph ddiosc ei siacced [sef] y
siacced fraith 'r hon [ydoedd] a'm dano [~ amdano ] ef.

[24] Yna y cymmerasant ef, a thaflasant ef
i 'r pydew, a 'r pydew [oedd] wâg hêb ddwfr
ynddo.

[25] Yna 'r eisteddasant i fwytta bwyd, ac a
dderchafasant eu llygaid, ac a edrychasant: ac wele
fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead yn myned
i wared i 'r Aipht, a 'i camelod yn dwyn llyssiau,
a balm, a myrr.

[26] Yna y dywedodd Iuda wrth ei frodyr, pa
lesaad [a fydd,] ôs lladdwn ein brawd, a chêlu
ei waed ef?

[27] Deuwch a gwerthwn ef i 'r Ismaeliaid,
ac na fydded ein llaw ni arno ef: o blegit ein
brawd ni a 'n cnawd ni ydyw efe: a 'i frodyr a gytunasant.


[28] A phan ddaeth y marchnad-wyr o Midian
heibio, y tynnasant, ac y cyfodasant Ioseph
i fynu o 'r pydew, ac a werthasant Ioseph i 'r Ismaeliaid,
er vgain darn o arian: hwyntau a
ddygasant Ioseph i 'r Aipht.

[29] Wedi hynny Ruben a ddaeth eil-waith
i 'r pydew, ac wele nid [ydoedd] Ioseph yn y
pydew: ac yntef a rwygodd ei ddillad.

[30] Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd,
 y llangc nid [ydyw] accw: a minne i
ba le 'r âf fi?

[31] Yna hwy a gymmerasant siacced Ioseph,
ac a laddasant lwdn gafr, ac a drochasant y siacced
yn y gwaed.

[32] Ac a anfonasant y siacced fraith, ac a 'i
dugasant at eu tâd hwynt, ac a ddywedasant,
honn a gawsom, mynn ŵybod weithian ai siacced
dy fâb [yw] hi, ai nad e.

[33] Yntef a 'i hadnabu hi, ac a ddywedodd, siacced
fy mab [yw hi] bwyst-fil drwg a 'i
bwyttaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Ioseph.

[34] Ac Iacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd

[td. 17r.b]
sach-len am ei lwynau, ac a alarodd am ei
fâb ddyddiau lawer.

[35] A 'i holl feibion, a 'i holl ferched a godasant
i 'w gyssuro ef, ond efe a wrthododd gymmeryd
cyssur, ac a ddywedodd: yn ddiau descynnaf
yn alarus at fy mâb i 'r beddrod, a 'i dâd a
wylodd [am dano] ef.

[36] A 'r Midianiaid a 'i gwerthasant ef i 'r
Aipht i Putiphar tywysog Pharao, [a 'r] distain.



[td. 17v.b]


PEN. XXXIX.


1 Gwerthu Ioseph i Putiphar. 2 Gwraig Putiphar
yn ei demptio ef. 13 Ac yn achwyn arno ef. 20
Ei garchar ef. 21 Ymgeledd Duw iddo ef.


[1] FElly Ioseph a ddygwyd i wared i 'r Aipht, a
Phutiphar yr Aipht-wr tywysog Pharao
[a 'i] ddistain a 'i prynnodd ef o law 'r Ismaeliaid,
y rhai a 'i dygasent ef ei wared yno.

[2] Ac yr oedd yr Arglwydd gyd ag Ioseph,
ac efe oedd ŵr llwyddiannus: tra fu efe yn nhŷ
ei feistr yr Aiphtiad.

[3] A 'i feistr ef a welodd mai yr Arglwydd [oedd]
gyd ag ef, a [bod] yr Arglwydd yn llwyddo
yn ei law ef yr hyn oll a wnele efe.

[4] Felly Ioseph a gafodd ffafor yn ei olwg
ef, ac a 'i gwasanaethodd ef, yntef a 'i gwnaeth ef
yn ben-golygwr ar ei dŷ ef, ac a roddes [yr hyn]
oll oedd eiddo dan ei law ef.

[5] Ac er pan wnaethe efe ef yn ben-golygwr
ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll [oedd] eiddo ef, darfu i 'r
Arglwydd fendithio tŷ 'r Aiphtiad er mwyn
Ioseph: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr
hyn oll oedd eiddo ef yn y tŷ, ac yn y maes.

[6] Am hynny y gadawodd efe yr hyn oll [oedd]
ganddo tan law Ioseph, ac nid adwaene
ddim ar [a oedd] gyd ag ef, oddi eithr y bwyd
yr hwn yr oedd efe yn ei fwytta: Ioseph hefyd
oedd dêg o brŷd, a glân yr olwg.

[7] A darfu wedi y petheu hynny i wraig ei
feistr ef dderchafu ei golwg ar Ioseph, a dywedydd:
 gorwedd gyd a mfi [~ myfi ].

[8] Yntef a wrthododd, ac a ddywedodd wrth
wraig ei feistr, wele fy meistr nid edwyn pa beth
[sydd] gyd a 'm'fi [~ myfi ] yn y tŷ: rhoddes hefyd yr hyn
oll [sydd] eiddo ef, tan fy llaw i.

[9] Nid oes [neb] fwy yn y tŷ hwn na myfi,
ac ni waharddodd efe ddim rhagof, onid ty di, o
blegit ei wraig ef [wyt] ti: pa fodd gan hynny
y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu
yn erbyn Duw?

[10] Ac fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Ioseph
beunŷdd, ac yntef heb wrando arni hi, i orwedd
yn ei hymyl hi, gan fod gyd a hi.

[11] Yna yng-hylch [~ ynghylch ] y cyfamser hwnnw y bu
i Ioseph ddyfod i 'r tŷ i wneuthur ei orchwyl:
ac nid [oedd] yr vn o ddynion y tŷ yno yn
tŷ.

[12] Hithe a 'i daliodd ef erbyn ei wisc, gan
ddywedyd, gorwedd gyd a mi: yntef a adawodd
ei wisc yn ei llaw hi, ac a ffoawdd, ac a aeth
allan.

[13] A phan welodd hi adel o honaw ef ei
wisc yn ei llaw hi, a ffoi ohonaw allan.

[14] Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a
draethodd wrthynt gan ddywedyd: gwelwch,
efe a ddûg i ni Hebrewr i 'n gwradwyddo: daeth
attafi i orwedd gyd a my fi, minne a waeddais

[td. 18r.a]
a llêf vchel.

[15] A phan glywodd efe dderchafu o honofi fy
llef, a gweiddi: yno efe a ffoawdd, ac a aeth allan,
ac adawodd ei wisc yn fy ymmyl i.

[16] A hi a osododd ei wisc ef yn ei hymmyl,
hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

[17] Yna hi a lefarodd wrtho yn y modd hyn,
gan-ddywedyd [~ gan ddywedyd ]: yr Hebre was, yr hwn a ddugaist
i ni a ddaeth attaf i 'm gwradwyddo.

[18] Ond pan dderchefais fy llef, a gweiddi, yna
efe a adawodd ei wisc yn fy ymmyl, ac a ffoawdd
allan.

[19] A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig
yrhai [~ y rhai ] a lefarase hi wrtho ef, gan ddywedyd, yn y
modd hwn y gwnaeth dy wâs di i mi: yna yr
enynnodd ei lid ef.

[20] Yna meistr Ioseph a 'i cymmerth ef, ac a 'i
rhoddes ef yn y carchar dŷ, lle yr oedd carcharorion
y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y
carchar-dŷ.

[21] Ond yr Arglwydd oedd gyd a Ioseph, ac
a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafor
iddo ef yngolwg pennaeth y carchar-dŷ.

[22] A phennaeth y carchar-dŷ, a roddes tan
law Ioseph yr holl garcharorion, y rhai [oeddynt]
yn y carchardŷ, ac efe oedd yn gwneuthur
yr hyn oll a fuasent hwy yn ei wneuthur yno.

[23] Nid [oedd] pennaeth y carchar-dy yn edrych
am ddim oll [a 'r a oedd] tann ei law ef, am
[fod] yr Arglwydd gyd ag ef: a 'r hyn a wnai efe
yr Arglwydd a 'i llwydde.


PEN. XL.


3 Pharao yn carcharu ei ben-trulliad a 'i ben-pobydd.
8 O Dduw y daw deongliad breuddwydion. 19 Ioseph
yn deonglio breuddwyd y ddau garcharor.
23 Aniolchgarwch y pen-trulliad tu ag at Ioseph.


[1] A Darfu wedi y petheu hynny i drulliad
brenin yr Aipht, a 'r pobydd bechu yn erbyn
eu harglwydd hwynt, brenin yr Aipht.

[2] A Pharao a lidiodd wrth ei ddau bennaeth
[sef] wrth y pen-trulliad, a 'r pen-pobydd.

[3] Ac a 'i rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ
y distain [sef] yn y carchar-dŷ, lle 'r oedd Ioseph
yn rhwym.

[4] A 'r distain a wnaeth Ioseph yn olygwr
arnynt hwy: yna efe a 'i gwasanaethodd hwynt,
a buant hwy mewn dalfa ddyddiau [lawer.]

[5] Yna breuddwydiasant freuddwyd ill dau,
pob vn ei freuddwyd ei hun yn yr vn nôs [a]
phob vn ar ol deongliad ei freuddwyd ei hun, y
trulliad a 'r pobydd, y rhai [oeddynt] eiddo brenin
yr Aipht, ac yn rhwym yn y carchardŷ.

[6] A 'r borau y daeth Ioseph attynt, ac a edrychodd
arnynt, ac wele hwynt yn athrist.

[7] Ac efe a ymofynnodd a phennaethiaid Pharao,
'rhai [oeddynt] gyd ag ef mewn dalfa [yn]
nhŷ ei feistr ef gan-ddywedyd [~ gan ddywedyd ]: pa ham [y mae]
eich wynebau yn ddrwg heddyw?

[8] Yna y dywedasant wrtho, breuddwydiasom
freuddwyd, ac nid [oes] a 'i deonglo ef: yna
Ioseph a ddywedodd wrthynt, onid i Dduw

[td. 18r.b]
[y perthyn] dehongli? mynegwch adolwyn i mi.

[9] Yna y pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd
ef i Ioseph, ac a ddywedodd wrtho: yn
fy mreuddwyd [yr oeddwn,] ac wele winwŷdden
o 'm blaen.

[10] Ac yn y win-wŷdden [yr oedd] tair
caingc, ac [yr ydoedd] hi megis yn blaendarddu:
ei blodeun [~ blodeuyn ] a dorrasse allan, ei gwrysc hi
oeddynt addfed [~ aeddfed ] [eu] grawn-win.

[11] Hefyd [yr oedd] cwppan Pharao yn fy
llaw, a chymmerais y grawn-wîn, a gwescais
hwynt i gwppan Pharao, a rhoddais y cwppan
yn llaw Pharao.

[12] Yna Ioseph a ddywedodd wrtho ef, dymma
ei ddeongliad ef: tri diwrnod yw y tair
caingc.

[13] O fewn tri diwrnod etto Pharao a dderchafa
dy ben di, ac a 'th rŷdd di eilwaith yn dy
swydd, a rhoddi gwppan Pharao yn ei law ef
fel y buost arferol yn y cyntaf pan oeddyt drulliad
iddo.

[14] Etto cofia fi gyd a thi, pan fo daioni i ti,
a gwna attolwg a mi drugaredd a choffâ fi wrth
Pharao, a dwg fi allan o 'r tŷ hwn.

[15] O blegit yn lledrad i 'm lladrattawyd o
wlâd yr Hebreaid, ac ymma hefyd ni wneuthum
ddim, fel y gosodent fi yng-harchar [~ yng ngharchar ].

[16] Pan welodd y pen-pobydd mai daioni a
ddeonglase efe, yna y dywedodd wrth Ioseph,
minne hefyd [oeddwn] yn fy mreuddwyd, ac
wele dri chawell rhwyd-dylloc ar fy mhen.

[17] Ac yn y cawell vchaf [yr oedd] peth o
bôb bwyd Pharao o waith pobydd: ar ehediaid
yn eu bwytta hwynt o 'r cawell oddi ar fy
mhen.

[18] Yna Ioseph a attebodd, ac a ddywedodd,
 dymma ei ddeongliad ef: tri diwrnod yw
y tri chawell.

[19] O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharao
dy benn di oddi arnat, ac a 'th groga di
ar brenn, a 'r ehediaid a fwyttant dy gnawd ti oddi
am danat.

[20] Ac ar y trydydd dydd, yr oedd dydd ganedigaeth
Pharao, yna efe a wnaeth wledd, i 'w
holl weision, ac efe a dderchafodd ben y pentrulliad,
a phen y pen-pobydd ym mysc ei weision
ef.

[21] Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn
ei swydd, ac yntef a roddes y cwppan i law
Pharao.

[22] A 'r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehongliase
Ioseph iddynt hwy.

[23] Ond y pen-trulliad ni chofiodd Ioseph
eithr anghofiodd ef.


PEN. XLI.


26 Dehongliad breuddwyd Pharao. 40 Ioseph yn lywyawdur
ar yr holl Aipht. 50 Ganedigaeth daufab Ioseph,
Manasses, ac Ephraim. 54 Y newyn yn dechreu
ar hyd yr holl wledydd.


[1] YNa ym mhen dwy flynedd lawn y bu i
Pharao freuddwydio: ac wele efe yn sefyll

[td. 18v.a]
wrth yr afon.

[2] Ac wele yn escyn o 'r afon saith [o] wartheg
têg yr olwg, a thewon o gig, ac mewn
gwyrglodd-dir [~ gweirglodd-dir ] y porasent.

[3] Wele hefyd saith o wartheg eraill yn escyn
ar eu hol hwynt o 'r afon yn ddrwg yr olwg,
ac yn gulion o gîg: a safasant yn ymmyl y
gwartheg [cyntaf] ar lann yr afon.

[4] A 'r gwartheg drwg yr olwg a chulion o
gîg a fwyttasant y gwartheg têg yr olwg, a
breision: yna y dihunodd Pharao.

[5] Efe a gyscodd hefyd, ac a freuddwydiodd
eil-waith: ac wele saith o dwysennau [~ dywysennau ] yn tyfu
ar vn gorsen, o [dwysennau [~ dywysennau ]] breiscion a dâ.

[6] Wele hefyd saith o dwysennau [~ dywysennau ] teneuon,
ac wedi eu deifio gan wynt y dwyrein, yn tarddu
allan ar eu hol hwynt.

[7] A 'r twysennau [~ tywysennau ] teneuon a lyngcasant y
saith dwysen [~ dywysen ] fraisc, a llawn: yna y deffroawdd
Pharao, ac wele breuddwyd [oedd.]

[8] Ac yn foreu y darfu i 'w yspryd gynhyrfu,
yna efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid
yr Aipht, a 'i holl ddoethion hi: a Pharao
a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion: ond
nid [oedd] a 'i deongle hwynt i Pharao.

[9] Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharao,
gan ddywedyd: yr wyf fi yn cofio fy meiau
heddyw.

[10] Llidio a wnaethe Pharao wrth ei weision,
ac efe a 'm rhoddes mewn carchar [yn] nhŷ y
distain, my fi a 'r pen-pobydd.

[11] Yna y breuddwydiasom freuddwyd yn
yr vn nos, mi ag ef: breuddwydiasom bob vn ar
ol deongliad ei freuddwyd ei hun.

[12] Ac [yr oedd] yno gyd a nyni langc o
Hebread, gwâs i 'r distain, pan fynegasom
[ein breuddwydion] iddo ef, yntef a ddeonglodd
i ni ein breuddwydion, yn ol breuddwyd
pôb vn, y deongliodd efe.

[13] A darfu fel y deonglodd i ni felly y bu:
rhoddwyd fi eilwaith i 'm swydd, ac yntef a
grogwyd.

[14] Pharao gan hynny a anfonodd, ac a alwodd
am Ioseph: hwytheu ar redec a 'i cyrchasant
ef, o 'r carchar: yntef a eilliodd [ei wallt,]
ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharao.


[15] A Pharao a ddywedodd wrth Ioseph,
breuddwydiais freuddwyd, ac nid [oes] a 'i deonglo
ef: ond myfi a glywais ddywedyd am
danat ti, y gwrandewi freuddwyd i 'w ddeonglu.

[16] Yna Ioseph a attebodd Pharao gan ddywedyd:
 Duw nid my fi a ettyb lwyddiant i
Pharao.

[17] Pharao gan hynny a ddywedodd wrth
Ioseph: wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar
fin yr afon.

[18] Ac wele 'n escyn o 'r afon saith o wartheg
tewon o gîg, a theg yr olwg, ac mewn
gwyrglodd-dir [~ gweirglodd-dir ] y porasent.

[19] Wele hefyd saith o wartheg eraill yn escyn

[td. 18v.b]
ar eu hôl hwynt, culion, a thra drwg yr olwg,
ac yn druain o gîg: ni welais rai cynddrwg a
hwynt yn holl dîr yr Aipht.

[20] A 'r gwartheg culion, a drwg a fwyttasant
y saith muwch tewon cyntaf.

[21] Er eu myned i 'w boliau, ni wyddyd iddynt
fyned i 'w boliau, canys yr olwg arnynt oedd
ddrwg megis yn y dechreuad: yna mi a dde
ffroais.

[22] Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac
wele saith dwysen [~ dywysen ] llawn, a thêg yn cyfodi o 'r
vn gorsen.

[23] Ac wele saith dwysen [~ dywysen ] teneuon, meinion,
wedi eu deifio [gan] ddwyrain-wynt yn tyfu ar
eu hol hwynt.

[24] Yna y twysennau [~ tywysennau ] teneuon, a lyngcasant
y saith dwysen [~ dywysen ] dêg: a dywedais [hyn] wrth y
dewiniaid, ond nid oedd a 'i deongle i mi.

[25] Yna y dywedodd Ioseph wrth Pharao,
breuddwyd Pharao sydd vn, yr hyn y mae
Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharao.

[26] Y saith o wartheg têg saith mlynedd
[ydynt] hwy: a 'r saith dwysen [~ dywysen ] têg, saith
mlynedd [ydynt] hwy, vn breuddwyd yw hyn.

[27] Hefyd y saith muwch culion a drwg y
rhai [oeddynt] yn escyn ar eu hol hwynt, saith
mlynedd [ydynt] hwy: a 'r saith dwysen [~ dywysen ] gwag
gwedi eu deifio [gen [~ gan ]] y dwyrain wynt, a fyddant
saith mlynedd o newyn.

[28] Hwn yw y peth yr hwn a ddywedais i
wrth Pharao: yr hyn a wna Duw efe a 'i dangosodd
i Pharao.

[29] Wele saith mlynedd yn dyfod: o amldra
mawr trwy holl wlad yr Aipht.

[30] Ond ar eu hol hwynt y cyfyd saith mlynedd
o newyn, fel yr anghofir yr holl amlder
trwy wlad yr Aipht: a newyn a ddifetha y
wlâd.

[31] Ac ni wybyddir [oddi wrth] yr amldra
cyntaf trwy y wlâd, o herwydd y newyn hwnnw
yr hwn [a fydd] wedi hynny: o blegit
trwm iawn [fydd] ef.

[32] Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharao
ddwywaith, [hynny a fu] o blegit siccrhau y
peth gan Dduw, a bod Duw yn bryssio i 'w
wneuthur.

[33] Weithian gan hynny edryched Pharao
[am] wr deallgar a doeth, a gosoded ef yn swyddog
ar wlâd yr Aipht.

[34] Gwnaed Pharao hyn, sef gosoded olygwyr
ar y wlâd a chymmered bummed ran
[cnwd] gwlad yr Aipht tros saith mlynedd yr
amldra.

[35] Yna casglant holl ymborth y blynyddoedd
daionus hynny y rhai ydynt ar ddyfod:
sef casclant ŷd dan law Pharao, a chadwant
[ymborth] mewn dinasoedd.

[36] A bydded yr ymborth yng-hadw [~ yng nghadw ] i 'r wlâd
tros saith mlynedd y newyn, y rhai fyddant
yng-wlad yr Aipht, fel na ddifether y wlâd gan
y newyn.


[td. 19r.a]
[37] A 'r peth oedd dda yng-olwg Pharao ac
yng-olwg ei holl weision.

[38] Yna y dywedodd Pharao wrth ei weision,
 a gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn [y mae] yspryd
Duw yndo?

[39] Dywedodd Pharao hefyd wrth Ioseph,
wedi gwneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll,
nid deallgar, na doeth neb wrthit ti.

[40] Ty di a oruwchwili [~ oruchwyli ] fy nhŷ fi, ac ar dy fîn
y cusana fy mhobl oll: [yn] y deyrn-gader yn
vnic y byddaf fwy na thy di.

[41] Yna y dywedodd Pharao wrth Ioseph,
edrych, rhoddais di [yn swyddog] ar holl wlad
yr Aipht.

[42] A thynnodd Pharao ei fodrwy oddi ar ei
law, ac a 'i rhoddes hi ar law Ioseph, ac a 'i gwiscodd
ef mewn gwiscoedd sidan ac a osododd
gadwyn aur a'm [~ am ] ei wddf ef.

[43] Ac a wnaeth iddo ef farchogeth yn yr ail
cerbyd yr hwn [oedd] iddo ef ei hun: a llefwyd
o 'i flaen ef Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl
wlad yr Aipht.

[44] Dywedodd Pharao hefyd wrth Ioseph
my fi [ydwyf] Pharao: ac hebot ti ni chyfyd
gŵr ei law, nai droed trwy holl wlad yr Aipht.

[45] A Pharao a alwodd henw Ioseph Zaphnath
Paaneah, ac a roddes iddo Asnath merch
Potiperah offeiriad On yn wraig: yna yr aeth
Ioseph allan dros wlad yr Aipht.

[46] Ac Ioseph [ydoedd] fâb deng-mlwydd
ar hugain pan safodd ef ger bron Pharao brenin
yr Aipht: ac Ioseph aeth allan o wydd Pharao,
ac a drammwyodd drwy holl wlad 'r Aipht.

[47] A 'r ddaiar a gnydiodd, tros saith mlynedd
yr amldra, yn ddyrneidiau.

[48] Yntef a gasclodd holl ymborth y saith
mlynedd y rhai a fuant yng-wlad yr Aipht, ac a
roddes ymborth mewn dinasoedd: ymborth
maes y ddinas yr hwn [fyddei] o 'i hamgylch, a
roddes ef o 'i mewn.

[49] Felly Ioseph a gynnullodd ŷd fel tywod
y môr, yn dra lluosoc, hyd oni pheidiodd a 'i rifo,
o blegit [yr ydoedd] heb rifedi.

[50] Ond cyn dyfod [vn] flwyddyn o newyn
y ganwyd i Ioseph ddau fâb, y rhai a ymddûg
Asnath merch Potiperah offeiriad On iddo ef.

[51] Ac Ioseph a alwodd henw y cyntafanedic
Manasses: oblegit [eb efe] Duw a wnaeth
i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy-nhad
oll.

[52] Ac efe a alwodd henw 'r ail Ephraim, oblegit
[eb efe] Duw a 'm ffrwythlonodd i yngwlad
fyng-orthrymder.

[53] Yna y darfu saith mlynedd yr amldra, y
rhai a fuant yng-wlad yr Aipht.

[54] A 'r saith mlynedd newynoc, a ddechreuasant
ddyfod fel y dywedase Ioseph: ac yr oedd
newyn yn yr holl wledydd: ond yn holl wlad yr
Aipht yr ydoedd bara.

[55] Felly y newynodd holl wlad yr Aipht:
a 'r bobl a waeddodd ar Pharao, am fara: a Pharao

[td. 19r.b]
a ddywedodd wrth yr holl Aiphtiaid, ewch
at Ioseph: yr hyn a ddywedo efe wrthych gwnewch.


[56] Y newyn hefyd ydoedd, ar holl wyneb y
ddaiar: Ioseph gan hynny a agorodd yr holl
[leoedd] yr hai [~ y rhai ] [ 'r ydoedd ŷd] ynddynt, ac a werthodd
 i 'r Aiphtiaid: o blegit gorfuase y newyn
yng-wlad yr Aipht.

[57] A 'm [~ Am ] hynny y daeth holl wledydd yr Aipht
at Ioseph i brynnu: o herwydd gorfuase y newyn
yn yr holl wledydd.


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section