Adran o’r blaen
Previous section

Efengyl Iesu Grist yn ôl Sanct Mathew



[td. 452r.b]


PEN. XXVI.


3 Bwriad yr offeiriaid yn erbyn Crist, tywalltiad yr
enaint ar ei ben ef. 26 Swper yr Arglwydd. 34 Petr
yn gwadu Crist. 47 Brâd Iudas. 56 Arwain Crist
at Caiphas.


[1] AC fe a ddarfu wedi i 'r Iesu orphen
y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth
ei ddiscyblion,

[2] Chwi a ŵyddoch mai ym mhen y ddau
ddŷdd y mae 'r Pasc: a Mâb y dŷn a roddir i 'w
groes-hoelio.

[3] Yna y casclwyd yr arch-offeiriaid a 'r
scrifennyddion, a henuriaid y bobl i neuadd yr
arch-offeiriad, yr hwn a elwid Caiphas.

[4] Ac hwy a ymgynghorâsant, pa fodd y
dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent
[ef.]

[5] Eithr hwy a ddywedâsant, nid ar yr ŵyl,
rhag bôd cynnwrf ym mhlith y bobl.

[6] Ac fel yr oedd yr Iesu yn Bethania yn
nhŷ Simon wahan-glwyfus,

[7] Fe ddaeth atto wraig, a chŷd â hi flwch o
enaint gwerthfawr, ac a 'i tywalltodd ar ei benn,
ac efe yn eistedd wrth y ford.

[8] A phan welodd ei ddiscyblion, hwy a lidiasant
gan ddywedyd, pa raid yr afrad hynn?

[9] Canys fe a allasid gwerthu yr ennaint
hwn er llawer, a 'i roddi ef i 'r tlodion.

[10] A 'r Iesu a ŵybu, ac a ddywedodd wrthynt,
 pa ham yr ydych yn gwneuthur blinder i 'r
wraig: canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.


[11] O blegit y tlodion a gewch bôb amser
gŷd â chwi, a mi ni's cewch bôb amser.

[12] Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar
fyng-horph [~ fy nghorff ], a wnaeth hyn i 'm claddu i.


[td. 452v.a]
[13] Yn wir meddaf i chwi, pe [~ pa ] le bynnac y
pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fŷd, hyn
ymma hefyd a wnaeth hi a fynegir, er coffa am
dani hi.

[14] Yna yr aeth vn o 'r deuddec yr hwn a elwyd
Iudas Iscariot at yr arch-offeiriaid,

[15] Ac a ddywedodd wrthynt, pa beth a roddwch
i mi, a mi a 'i rhoddaf ef i chwi? a hwy a
dalasant iddo ddêc ar hugain o arian.

[16] Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas
i 'w fradychu ef.

[17] Ac ar [y dydd] cyntaf o ŵyl y bara croiw,
ei ddiscyblion a ddaethant at yr Iesu gan ddywedyd
wrtho, pa le y mynni i ni baratoi i ti fwytta
'r Pasc?

[18] Ac yntef a ddywedodd, ewch i 'r ddinas at
y cyfryw vn, a dywedwch wrtho, y mae 'r Athro
yn dywedyd, fy amser sydd agos, gŷd â thi y
cynhaliaf y Pasc, mi a 'm discyblion.

[19] A 'r discyblion a wnaethant y modd y
gorchymynnase 'r Iesu iddynt, ac a baratoasant
y Pasc.

[20] Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd
gŷd â 'r deuddec.

[21] Ac fel yr oeddynt yn bwytta, efe a ddywedodd,
 yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, y
bradycha vn o honoch fi.

[22] Yna yr aethant yn drist dros ben, ac a ddechreuasant
bôb vn ddywedyd wrtho: ai myfi
Arglwydd yw [hwnnw?]

[23] Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, yr hwn
sydd yn trochi ei law gŷd â mi yn y ddyscl,
hwnnw a 'm bradycha i.

[24] Mâb y dŷn yn ddiau sydd yn myned fel y
mae yn scrifennedic am dano, eithr gwae 'r dyn
hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn:
da a fuase i 'r dŷn hwnnw pe na's genesid efe er
ioed [~ erioed ].

[25] Ac Iudas yr hwn a 'i bradychodd ef, a attebodd
ac a ddywedodd, ai myfi yw [efe] Athro?
yntef a ddywedodd wrtho, ti a ddywedaist.

[26] Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a
gymmerth y bara, ac wedi iddo fendigo efe a 'i
torrodd, ac a 'i rhoddes i 'r discyblion, ac a ddywedodd,
 cymmerwch, bwyttewch, hwn yw
fyng-horph [~ fy nghorff ].

[27] Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan a diolch,
efe a 'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd,
yfwch bawb o hwn:

[28] Canys hwn yw fyng-waed o 'r Testament
newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer
er maddeuant pechodau.

[29] Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf
o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y
dydd hwnnw, pan yfwyf ef yn newydd gŷd â
chwi yn nheyrnas fy Nhâd.

[30] Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant
allan i fynydd yr Oliwŷdd.

[31] Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, chwychwi
oll a rwystrir heno o 'm plegit i: canys
scrifennedic yw, tarawaf y bugail, a defaid y

[td. 452v.b]
praidd a wascerir.

[32] Eithr wedi fy adgyfodi, mi a âf o 'ch
blaen chwi i Galilæa.

[33] Ac Petr a attebodd ac a ddywedodd wrtho,
 pe rhwystrid pawb o 'th plegit ti, etto ni 'm
rhwystrir fi byth.

[34] Yr Iesu a ddywedodd wrtho, yn wîr yr
wyf yn dywedyd i ti, mai 'r nos hon cyn canu yr
ceiliog i 'm gwedi dair-gwaith.

[35] Petr a ddywedodd wrtho, pe gorfydde i
mi farw gŷd â thi, etto ni 'th wadaf: a 'r vn modd
hefyd y dywedodd yr holl ddiscyblion.

[36] Yna y daeth yr Iesu gŷd ag hwynt i fann a
elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddiscyblion,
 eisteddwch ymma tra 'r elwyf, a gweddio
accw.

[37] Ac efe a gymmerth Petr a dau fâb Zebedeus,
ac a ddechreuodd dristau ac ymofidio.

[38] Yna efe a ddywedodd wrthynt, trîst yw
fy enaid hyd angeu, arhoswch ymma, a gwiliwch
gŷd â mi.

[39] Ac efe a aeth ychydig pellach, ac a syrthiodd
ar ei wyneb, ac a weddiodd gan ddywedyd,
 fy Nhâd, os gellir aed y cwppan hwn oddi
wrthif, er hynny nid fel yr ewyllysiwyfi, ond fel
yr [ewyllysiech] di.

[40] Ac efe a ddaeth at ei ddiscyblion, ac a 'u
cafas hwy yn cyscu, ac efe a ddywedodd wrth
Petr, pa ham? oni allech chwi wilied vn awr
gŷd â mi?

[41] Gwiliwch a gweddiwch rhac ei'ch [~ eich ] myned
mewn profedigaeth, yr yspryd yn ddiau
sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wann.

[42] Efe a aeth trachefn yr ailwaith, ac a weddiodd,
gan ddywedyd, fy Nhâd, oni's gall y
cwppan hwn fyned oddi wrthif heb orfod i mi
ei yfed, gwneler dy ewyllys.

[43] Ac efe a ddaeth, ac a 'u cafas hwy yn cyscu
trachefn: canys eu llygaid hwy oeddynt
drymmion.

[44] Ac efe a 'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymmaith
trachefn, ac a weddiodd y drydedd waith,
gan ddywedyd yr vn geiriau.

[45] Yna y daeth efe at ei ddiscyblion, ac a ddywedodd
wrthynt, cyscwch bellach a gorphywyswch:
wele y mae 'r awr wedi nessau, a Mâb y
dŷn a roddir yn nwylo pechaduriaid.

[46] Codwch, awn, wele, y mae ger llaw yr
hwn a 'm bradycha.

[47] Ac efe etto yn dywedyd hyn, wele Iudas,
vn o 'r deuddec, a thyrfa fawr gŷd ag ef â
chleddyfau, a ffynn oddi wrth yr arch-offeiriaid
a henuriaid y bobl.

[48] A 'r hwn a 'i bradychodd ef a roese arwydd
iddynt, gan ddywedyd, pa vn bynnac â gusanwyf,
hwnnw yw, deliwch ef.

[49] Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a
ddywedodd, henffych well Athro, ac a 'i cusanodd
ef.

[50] A 'r Iesu a ddywedodd wrtho, y cyfaill, i
ba beth y daethost? yna y daethant, ac y rhoesant

[td. 453r.a]
ddwylo ar yr Iesu, ac a 'i daliâsant.

[51] Ac wele vn o 'r rhai oeddynt gŷd â 'r Iesu
a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac
a darawodd wâs yr arch-offeiriad, ac a dorrodd
ei glust ef.

[52] Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, dôd ti dy
gleddyf yn ei wain, canys pawb ar a gymmerant
gleddyf, a ddifethir â chleddyf.

[53] A ydwyt ti yn tybied na's gallaf yr awr
hon ddeisyf ar fy Nhâd fel y rhodde efe fwy nâ
ddeuddec lleng o angelion i mi?

[54] Pa fodd yntef, y cyflawnir yr scrythyrau
y rhai a ddywedant, mai felly y gorfydd bôd?

[55] Yn yr awr honno, y dywedodd yr Iesu
wrth y dyrfa, chwi a ddaethoch allan megis at
leidr â chleddyfau, ac â ffynn i 'm dala i: yr oeddwn
beunydd yn eistedd, ac yn dyscu yn y Deml,
ac ni 'm daliasoch.

[56] A hyn oll a wnaethpwyd er cyflawni 'r
scrythyrau, a 'r prophwydi: yna 'r holl ddiscyblion
a 'i gadawsant ef, ac a ffoasant.

[57] Hwythau a ddaliasant yr Iesu, ac a aethant
ag ef at Caiphas yr arch-offeiriad, lle 'r
oedd yr scrifennyddion a 'r henuriaid wedi ymgasclu
 yng-hŷd [~ ynghyd ].

[58] Ac Petr a 'i canlynodd ef o hir-bell hyd
yn llŷs yr arch-offeiriad, ac a aeth i mewn, ac a
eisteddodd gŷd â 'r gweision i weled y diwedd.

[59] A 'r arch-offeiriad a 'r henuriaid, a 'r holl
gyngor a geisiasant gau destiolaeth yn erbyn yr
Iesu, i 'w roddi ef i farwolaeth.

[60] Ac ni's cawsant, îe er dyfod yno gau-dystion
lawer ni chawsant: eithr o 'r diwedd fe a
ddaeth dau gau dyst:

[61] Ac hwy a ddywedâsant, hwn a ddywedodd,
 mi a allaf ddestruwio Teml Dduw, a 'i
hadailadu mewn tri diwrnod.

[62] Yna y cyfododd yr arch-offeiriad, ac a
ddywedodd wrtho, a attebi di ddim? pa beth sydd
pan fyddo y rhai hyn yn testiolaethu yn dy erbyn?


[63] A 'r Iesu a dawodd, yna yr attebodd yr
arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, yr ydwyf
yn dy dynghêdu di trwy 'r Duw byw, ddywedyd
o honot i ni, os ty di yw Crist Mâb Duw.

[64] Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ti a ddywedaist:
eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch
Fâb y dyn yn eistedd ar ddeheu-law gallu
[Duw,] ac yn dyfod yn wybrennau 'r nef.

[65] Yna y rhwygodd 'r arch-offeiriad ei ddillad,
gan ddywedyd, efe a gablodd: pa raid i ni
wrth mwy o dystion: wele clywsoch ei gabledd
ef.

[66] Beth dybygwch chwi? hwy a attebâsant,
gan ddywedyd, y mae efe yn euog i farwolaeth.


[67] Yna y poerâsant yn ei wyneb, ac a 'i bonclustiasant,
eraill a 'i cernodiasant ef,

[68] Gan ddywedyd, prophwyda i ni, ô Crist,
pwy yw 'r hwn a 'th darawodd?

[69] Petr oedd yn eistedd allan yn y neuadd,

[td. 453r.b]
ac fe a ddaeth morwyn atto, ac a ddywedodd, yr
oeddit tithe gŷd â 'r Iesu o Galilæa:

[70] Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac
a ddywedodd, ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.


[71] A phan aeth efe allan i 'r porth y gwelodd
[morwyn] arall ef, ac hi a ddywedodd wrth y
rhai oeddynt yno, yr oedd hwn hefyd gŷd â 'r
Iesu o Nazareth.

[72] A thrachefn efe a wadodd, gan dyngu, nid
adwen i y dŷn.

[73] Ac ychydig wedi hynny y daeth atto rai
a oeddynt yn sefyll ger llaw, ac a ddywedasant
wrth Petr, yn wîr yr wyt ti yn vn o honynt, canys
y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.

[74] Yna y dechreuodd efe ymregu, a thyngu,
gan ddywedyd, nid adwen i y dŷn, ac yn y man
y cânodd y ceiliog.

[75] Yna y cofiodd Petr eiriau 'r Iesu yr hwn
a ddywedase wrtho, cyn canu 'r ceiliog ti a 'm
gwedi fi dair gwaith, yna yr aeth efe allan, ac
yr ŵylodd yn dost.


PEN. XXVII.


Yr Iddewon yn rhoddi Crist yn rhwym at Pilat. 34
Hwy yn ei roddi ef ar y groes, ac yn ei gablu, 50 Ac
yntef yn marw. 57 Ioseph yn ei gladdu ef.


[1] A Phan ddaeth y boreu, yr ymgynghorodd
yr holl arch-offeiriaid a henuriaid y bobl
yn erbyn yr Iesu fel y rhoddent ef i farwolaeth.

[2] Ac hwy a aethant ymmaith ag ef yn rhwym,
ac a 'i rhoesant at Pontius Pilatus y rhaglaw.


[3] Yna pan weles Iudas yr hwn a 'i bradychodd
ef fyned barn yn ei erbyn ef, fe a fu edifar
ganddo, ac a ddug trachefn y dêc ar hugain
arian i 'r arch-offeiriaid a 'r henuriaid,

[4] Gan ddywedyd, pechais gan fradychu
gwaed gwirion, hwytheu a ddywedasant, pa beth
yw hynny i ni? edrych ti.

[5] Ac wedi iddo daflu 'r arian yn y Deml, efe
a ymadawodd, ac a aeth, ac a ymgrogodd.

[6] A 'r arch-offeiriaid a gymmerasant yr arian,
ac a ddywedasant, nid cyfreithlon i ni eu
bwrw hwynt yn y tryssor-dŷ, canys gwerth
gwaed ydyw.

[7] Ac wedi iddynt ymgynghori, hwy a brynnasant
ag hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa
diethriaid [~ dieithriaid ].

[8] Ac am hynny y gelwir y maes hwnnw,
maes y gwaed, hyd heddyw.

[9] (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywetpwyd
trwy Ieremias y prophwyd, gan ddywedyd, ac
hwy a gymmerasant ddec ar hugain o arian,
gwerth y gwerthedic, yr hwn a brynnasant gan
feibion Israel.

[10] Ac hwy a 'i rhoesant am faes y crochenydd,
megis y gosodes yr Arglwydd i mi.)

[11] A 'r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw,
a 'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd: a
wyt ti yn frenin yr Iddewon? a 'r Iesu a ddywedodd
wrtho, ti a 'i ddywedaist.


[td. 453v.a]
[12] A phan gyhuddwyd ef gan yr arch-offeiriaid
a 'r henuriaid, nid attebodd efe ddim.

[13] Yna y dywedodd Pilatus wrtho, oni
chlywi faint o bethau y maent hwy yn eu testiolaethu
yn dy erbyn?

[14] Ac nid attebodd efe iddo vn gair, fel y
rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.

[15] Ac ar yr ŵyl honno yr arfere y rhaglaw
ollwng i 'r bobl vn carcharor, yr hwn a ofynnent.


[16] Yna yr oedd ganddynt garcharor hynod
a elwyd Barrabas.

[17] Ac wedi iddynt ymgasclu yng-hyd [~ ynghyd ], Pilatus
a ddywedodd wrthynt, pa vn a fynnwch i
mi ei ollwng i chwi? Barrabas, ai 'r Iesu 'r
hwn a elwir Crist?

[18] Canys efe a ŵydde yn dda, mai o genfigen
y rhoddasent ef.

[19] Ac efe yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ei
wraig a ddanfonodd atto gan ddywedyd, na fydded
i ti a wnelech â 'r cyfiawn hwnnw, canys
goddefais lawer heddyw mewn breuddwydion
o 'i achos ef.

[20] A 'r arch-offeiriaid a 'r henuriaid a hudasant
bobl i ofyn Barrabas, a difetha 'r Iesu.

[21] A 'r rhaglaw a attebodd, ac a ddywedodd
wrthynt, pa vn o 'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng
i chwi? hwythau a ddywedasant, Barrabas.


[22] Pilatus a ddywedodd wrthynt, pa beth
a wnaf i Iesu 'r hwn a elwir Crist? hwy oll a
ddywedâsant wrtho, croes-hoelier ef.

[23] Yna y dywedodd y rhaglaw, ond pa
ddrwg a wnaeth efe? yna y llefâsant yn fwy,
gan ddywedyd, croes-hoelier ef.

[24] Pan welodd Pilatus na thyccie iddo,
ond bôd mwy o gynnwrf yn codi, efe a gymmerth
ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo ger bron y
bobl, gan ddywedyd, dieuog ydwyf oddi wrth
waed y cyfiawn hwn, edrychwch chwi.

[25] A 'r holl bobl a attebodd, ac a ddywedodd,
bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.

[26] Yna y gollyngodd efe Barrabas iddynt,
ac efe a fflangellodd yr Iesu, ac a 'i rhoddes i 'w
groes-hoelio.

[27] Yna mil-wŷr y rhaglaw a gymmerasant
yr Iesu i 'r dadleudŷ, ac a gynhullasant atto
yr holl fyddin.

[28] Ac hwy a 'i dioscasant, ac a roesant am dano
fantell o scarlat,

[29] Ac a blethâsant goron ddrain, ac a 'i dodasant
ar ei benn, a chorsen yn ei law, ac a blygasant
eu gliniau ger ei fron ef, ac a 'i gwatwarâsant,
gan ddywedyd, henffych well, Brenin yr
Iddewon.

[30] Ac hwy a boerâsant arno, ac a gymmerasant
gorsen, ac a 'i tarawsant ar ei benn.

[31] Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a 'i dioscasant
ef o 'r fantell, ac a 'i gwiscasant ef â 'i ddillad
ei hun, ac a aethant ag ef i 'w groes-hoelio.

[32] Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy

[td. 453v.b]
a gawsant ddŷn o Ciren a elwyd Simon: a
hwn a gymhellhâsant hwy i ddwyn ei groes ef.

[33] A phan ddaethant i le a elwyd Golgatha,
sef yr hwn yw y benglogfa,

[34] Hwy a roesant iddo i 'w yfed finegr yn gymyscedic
 â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd
efe yfed.

[35] Ac wedi iddynt ei groes-hoeli ef, hwy a
rannasant ei ddillad, ac a fwriasant goel-brennau,
er cyflawni y peth a ddywetpwyd trwy 'r
prophwyd: hwy a rannasant fy nillad yn eu
plith, ac ar fyng-wisc y bwriasant goel-brennau.


[36] Ac hwy a eisteddâsant, ac a 'i gwiliâsant
ef yno.

[37] Ac hwy a osodâsant hefyd vwch ei benn
ef ei achos yn scrifennedic, Hwn Yw Iesv
Brenin Yr Iddewon
.

[38] Yna y croes-hoeliwyd dau leidr gŷd ag
ef, vn ar y llaw ddehau, ac arall ar yr asswy.

[39] A 'r rhai oeddynt yn myned heibio a 'i cablasant
ef, gan escwyt [~ ysgwyd ] eu pennau,

[40] A dywedyd, ti 'r hwn a ddestruwi 'r
Deml, ac a 'i hadailedi mewn tri-diau, cadw dy
hun, os ti yw Mâb Duw, descyn oddi ar y
groes.

[41] A 'r vn modd yr arch-offeiriaid a 'i gwatwarasant
ef, gŷd â 'r scrifennyddion a 'r henuriaid,
gan ddywedyd,

[42] Efe a waredodd eraill, nis gall efe ei
ymwared ei hun: os Brenin yr Israel yw efe,
descynned yr awr hon oddi ar y groes, ac ni a
gredwn iddo.

[43] Efe a ymddyriedodd yn Nuw, rhyddhaed
efe ef yr awr hon os myn ef: canys efe a
ddywedodd, Mâb Duw ydwyf.

[44] Yr vn peth hefyd a edliwiodd y lladron,
y rhai a grogasid gŷd ag ef, iddo ef.

[45] Ac o 'r chweched awr y bu tywyllwch
mawr ar yr holl ddaiar, hyd y nawfed awr.

[46] Ac yng-hylch [~ ynghylch ] y nawfed awr, y llefodd yr
Iesu â llef vchel, gan ddywedyd Eli, Eli, lama
sabachthani?
hynny yw, fy Nuw, fy Nuw, pa
ham i 'm gwrthodaist?

[47] A rhai o 'r sawl oeddynt yn sefyll yno, pan
glywsant, a ddywedâsant, y mae hwn yn galw
ar Elias.

[48] Ac yn y fan vn o honynt a redodd, ac a
gymmerth yspwrn, ac a 'i llanwodd o finegr,
ac a 'i rhoddes ar gorsen, ac a 'i rhoes iddo, i 'w yfed.


[49] Eraill a ddywedâsant, gad ti iddo: edrychwn
a ddaw Elias i 'w waredu.

[50] Yna y llefodd yr Iesu trachefn â llef vchel,
ac a ymadawodd â 'r yspryd.

[51] Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn
ddau, o 'r cwrr vchaf hyd yr isaf, a 'r ddaiar a
grynodd, a 'r main a holltwyd.

[52] A 'r beddau a ymagorâsant, a llawer o
gyrph y sainct y rhai a oeddynt yn huno, a godâsant,



[td. 454r.a]
[53] Ac a ddaethant allan o 'r beddau ar ôl ei
gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i 'r ddinas
sanctaidd, ac a ymddangosâsant i lawer.

[54] Pan welodd y canwriad, a 'r rhai oeddynt
gŷd ag ef yn gwilied yr Iesu, y ddaiar yn
crynu, a 'r pethau a wnaethid, hwy a ofnasant
yn fawr, gan ddywedyd, yn wir Mâb Duw ydoedd
hwn.

[55] Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych
arno o hir-bell, y rhai a ganlynâsent yr
Iesu o 'r Galilæa gan weini iddo ef.

[56] Ym mhlith y rhai 'r oedd Mair Magdalen,
a Mair mam Iaco, ac Ioses, a mam meibion
Zebedeus.

[57] Ac wedi ei myned hi yn hwyr fe a
ddaeth gŵr goludog o Arimathia, a 'i henw Ioseph,
yr hwn a fuase yntef yn ddiscybl i 'r Iesu.

[58] Hwn a aeth at Pilatus, ac a ofynnodd
gorph yr Iesu: yna y gorchymynnodd Pilatus
roddi 'r corph.

[59] Ac felly y cymmerth Ioseph y corph, ac
a 'i hamdoes â lliain main glân.

[60] Ac a 'i rhoddes yn ei fedd newydd, yr
hwn a dorrase efe mewn craig, ac a dreiglodd
faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymmaith.


[61] Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a
Mair arall yn eistedd gyferbyn â 'r bedd.

[62] A thrannoeth yr hwn sydd ar ôl y darparwyl
yr ymgynhullodd 'r arch-offeiriaid a 'r
Pharisæaid at Pilatus,

[63] Ac a ddywedasant, ô arglwydd y mae
yn gof gennym ddywedyd o 'r twyll-wr hwnnw,
ac efe etto yn fyw, o fewn tri-diau y cyfodaf.


[64] Gorchymyn gan hynny gadw y bedd
yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod ei
ddiscyblion o hŷd nos a 'i ladratta ef, a dywedyd
wrth y bobl, efe a gyfododd o feirw, ac felly y
bydd yr amryfusedd dyweddaf [~ diweddaf ] yn waeth nâ 'r
cyntaf.

[65] Yna y dywedodd Pilatus wrthynt, y
mae gennych wiliadwriaeth, ewch, gwnewch
mor ddiogel ac y medroch.

[66] Ac hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd
yn ddiogel a 'r wiliadwriaeth, ac a seliasant y
maen.


PEN. XXVIII.


Adgyfodiad Crist, 2 yr Angel yn cyssuro y gwragedd.
hwythau yn gweled Crist. 18 Crist yn anfon ei ddiscyblion
i bregethu.


[1] YNa yn niwedd y Sabboth, a hi yn dyddhau
yn y dydd cyntaf o 'r wythnos, y daeth
Mair Magdalen a Mair arall i edrych y bedd.

[2] Ac wele bu daiar-gryn mawr: canys descynnodd
Angel yr Arglwydd o 'r nef, ac a ddaeth

[td. 454r.b]
, ac a dreiglodd y garrec oddi wrth y drws,
ac a eisteddodd arni.

[3] A 'i wyneb-pryd oedd fel mellten, a 'i wisc
yn wen fel eira.

[4] A rhag ei ofn ef dychrynnodd y ceidwaid
ac aethant megis yn feirw.

[5] A 'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd
wrth y gwragedd, nac ofnwch: canys mi a wn
mai ceisio 'r ydych yr Iesu 'r hwn a groes-hoeliwyd,


[6] Nid yw efe ymma, canys cyfododd megis
y dywedodd, deuwch, a gwelwch y fann lle
y rhoddwyd yr Arglwydd.

[7] Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i 'w ddiscyblion
gyfodi o honaw o feirw: ac y mae efe
yn myned o 'ch blaen chwi i Galilæa: yno y
gwelwch ef: wele dywedais i chwi.

[8] Yna 'r aethant yn ebrwydd o 'r fonwent [~ fynwent ]
gan ofn a llawenydd mawr, ac a redâsant i fynegu
i 'w ddiscyblion.

[9] Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegu i 'w
ddiscyblion ef, yna wele cyfarfu 'r Iesu ag hwynt
gan ddywedyd, henffych well, ac hwy a ddaethant,
ac y ymafelâsant yn ei draed ef, ac a 'i
haddolâsant.

[10] Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, nac
ofnwch: ewch a dywedwch i 'm brodyr, fel y delant
i Galilæa, yno y gwelant fi.

[11] Ac wedi eu myned hwy: wele rhai o 'r
wiliadwriaeth a ddaethant i 'r ddinas, ac a fynegâsant
i 'r arch-offeiriaid yr hyn oll a wnaethid.

[12] Ac wedi iddynt ymgasclu yng-hyd [~ ynghyd ] a 'r
henuriaid, hwy a ymgynghorâsant, ac a roesant
arian yn helaeth i 'r milwŷr,

[13] Gan ddywedyd, dywedwch, ei ddiscyblion
a ddaethant o hŷd nôs, ac a 'i lladratâsant ef,
a ni yn cyscu.

[14] Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a 'i dygwn
ef i gredu, ac a 'ch gwnawn chwi yn ddiofal.

[15] Ac hwy a gymmerasant yr arian, ac a
wnaethant fel yr addyscwyd hwynt: ac fe a gyhoeddwyd
y gair hwn ym mhlith yr Iddewon
hyd y dydd heddyw.

[16] Yna 'r aeth yr vn discybl ar ddêc i Galilæa,
i 'r mynydd lle 'r archase yr Iesu iddynt.

[17] A phan welsant ef, hwy a 'i haddolâsant
ef, a rhai a amheuasant.

[18] A 'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt
gan ddywedyd: rhoddwyd i mi bôb awdurdod
yn y nef, ac ar y ddaiar.

[19] Ewch gan hynny a dyscwch yr holl genhedloedd,
gan eu bedyddio hwy yn enw 'r Tâd,
a 'r Mâb, a 'r Yspryd glân.

[20] Gan ddyscu iddynt gadw pôb peth a 'r a
orchymynnais i chwi: ac wele 'r ydwyf gŷd â
chwi bob amser, hyd diwedd y byd. Amen.


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section