Adran o’r blaen
Previous section

Llyfr cyntaf i Samuel



[td. 117v.b]


PEN. XVI.


Duw yn peri i Samuel eneinio Dafydd yn frenin. 13.
Ac yn rhoddi ei yspryd ei hun ar Ddafydd.


[1] A 'R Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel,
 pa hyd y galêri di am Saul, gan i mi
ei fwrw ef ymmaith o deyrnasu ar Israel? llanw
dy gorn ag olew, a dos, mi a 'th anfonaf di at
Isai y Bethlehemiad, canys ym mysc ei feibion
ef y canfyddais i'm [~ im ] frenin.

[2] A Samuel a ddywedodd pa fodd yr âfi?
canys Saul a glyw, ac a 'm lladd i: yna y dywedodd
yr Arglwydd, cymmer anner [o blith]
y gwartheg gyd a thi, a dywet, deuthum i aberthu
i 'r Arglwydd.

[3] A galw ar Isai i 'r aberth, a mi a yspyssaf i
ti yr hyn a wnelech, fel yr eneiniech i mi yr hwn
a ddywedaf wrthit.

[4] Felly y gwnaeth Samuel yr hyn a archase
yr Arglwydd, ac a ddaeth i Bethlehem, ac
henuriaid y ddinas a ddychrynnasant wrth gyfarfod
ag ef, ac a ddywedasant, ai heddychlon
[yw] dy ddyfodiad?

[5] Ac efe a ddywedodd, heddychlon: deuthum
i aberthu i 'r Arglwydd, ymsancteiddiwch a deuwch
gyd a mi i 'r aberth: ac efe a sancteiddiodd
Isai, a 'i feibion, ac a 'i galwodd hwynt i 'r aberth.

[6] A phan ddaethant, yna efe a welodd Eliab,
ac a ddywedodd: diau [ddyfod] ei eneiniog
ger bron yr Arglwydd.

[7] A 'r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel,
 nac edrych ar ei olŵg ef, nac ar vchter ei
gorpholaeth ef, canys gwrthodais ef: o herwydd
nid [edrych Duw ar] yr hyn a edrych dyn, canys
dŷn a edrych ar y llygaid, ond yr Arglwydd
a edrych ar y galon.

[8] Yna Isai a alwodd am Abinadab, ac a
barodd iddo ef fyned o flaen Samuel: a dywedodd
yntef, ni ddewisodd yr Arglwydd hwn ychwaith.


[9] Yna y gwnaeth Isai i Samma ddyfod, a
ddywedodd yntef, ni ddewisodd yr Arglwydd
hwn ychwaith.

[10] Yna y parodd Isai i 'w saith mab ddyfod
ger bron Samuel: a Samuel a ddywedodd
wrth Isai, ni ddewisodd yr Arglwydd [yr vn]
o 'r rhai hyn.

[11] Dywedodd Samuel hefyd wrth Isai, a
ddarfu y plant? yntef a ddywedodd, yr ieuangaf

[td. 118r.a]
etto sydd yn aros, ac wele [y mae] efe yn bugeilio
y defaid: yna y dywedodd Samuel wrth
Isai, danfon, a chyrch ef, canys nid eisteddwn ni i
lawr, nes ei ddyfod ef ymma.

[12] Yna yr ynfonodd [~ anfonodd ], ac y cyrchodd ef, ac efe
[oedd] wrid-coch [~ writgoch ] a thêg yr olwg, a hardd o
wedd: a dywedodd yr Arglwydd, cyfot, eneinia
ef, canys dymma efe.

[13] Yna y cymmerth Samuel gorn yr olew,
ac a 'i heneiniodd ef yng-hanol [~ ynghanol ] ei frodyr, a daeth
yspryd yr Arglwydd ar Ddafydd o 'r dydd
hwnnw allan: yna Samuel a gyfododd, ac a
aeth i Ramah.

[14] Ond yspryd yr Arglwydd a giliodd oddi
wrth Saul: ac yspryd drwg oddi wrth yr Arglwydd
a 'i poenodd ef.

[15] A gweision Saul a ddywedasant wrtho
ef, wele yn awr drwg yspryd Duw yn dy boeni
di.

[16] Dyweded attolwg ein meistr ni [wrth]
dy weision [y rhai ydynt] ger dy fron [am]
yddynt [~ iddynt ] geisio gŵr yn medru canu telyn, a bydded
pan ddelo drwg yspryd Duw arnat ti, yna
iddo ef ganu a 'i law, a [hynny] fydd da i ti.

[17] Yna y dywedodd Saul wrth ei weision,
edrychwch yn awr i mi [am] ŵr yn medru canu
yn ddâ, a dugwch ef attafi.

[18] Ac vn o 'r llangciaid a attebodd, ac a ddywedodd,
 wele gwelais fab i Isai y Bethlehemiad
yn medru canu, ac yn gadarn [o] nerth, ac yn
rhyfel-wr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn
ŵr lluniaidd, a 'r Arglwydd [sydd] gyd ag ef.

[19] Yna yr anfonodd Saul gennadau at Isai,
ac a ddywedodd: anfon atafi Ddafydd dy
fab yr hwn [sydd] gyd a 'r praidd.

[20] Ac Isai a gymmerth assyn [llwythoc] o
fara, a chostrêled o wîn, ac vn mynn gafr, ac a 'i
hanfonodd gyd a Dafydd ei fab at Saul.

[21] A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd
ger ei fron ef, yntef a 'i hoffodd ef yn ddirfawr, ac
efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.

[22] Yna Saul a anfonodd at Isai, gan ddywedyd:
 arhosed Dafydd attolwg ger fy mron
i, canys efe a gafodd ffafor yn fyng-olwg.

[23] A phan fydde [drwg] yspryd Duw ar
Saul yna y cymmere Dafydd y delyn, ac y câne
a 'i [ddwylaw:] a bydde esmwythdra i Saul, a
dâ [oedd hynny] iddo ef, a 'r yspryd drwg a gilie
oddi wrtho ef.


PEN. XVII.


Y modd y gorchfygodd Dafydd Goliath.


[1] Yna y Philistiaid a gasclasant eu byddinoedd
i ryfel, ac a ymgynnullasant i Socho,
yr hon [sydd] yn Iuda, ac a werssyllasant rhwng
Socho, ac Azecah yng-hwrr [~ yng nghwr ] Dammim.

[2] Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasclasant,
ac a werssyllasant yn nyffryn Elah: ac a luniaethasant
ryfel yn erbyn y Philistiaid.

[3] A 'r Philistiaid oeddynt yn sefyll ar fynydd

[td. 118r.b]
o 'r naill du, ac Israel oeddynt yn sefyll ar fynydd
o 'r tu arall, a 'r dyffryn [oedd] rhyngddynt.

[4] Yna y daeth gŵr rhyngddynt hwy o werssylloedd
y Philistiaid a 'i enw Goliath o Gath: ei
vchter [oedd] chwe chufydd a rhychwant.

[5] A hêlm o brês ar ei ben, a lluric emmoc a
wiscodd efe, a phwys y lluric [oedd] bum mil o
siclau prês.

[6] A bottyssau prês [oeddynt] am ei draed ef,
a tharian prês rhwng ei yscwyddau.

[7] A phaladr ei waiw-ffon ef [oedd] fel carfan
gwehyddion, a blaen ei waiw-ffon ef [oedd]
chwe-chant sicl o haiarn: a 'r hwn oedd yn dwyn
y tarian oedd yn myned o 'i flaen ef.

[8] Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd
Israel, ac a ddywedodd wrthynt: i ba beth
y deuwch i luniaethu rhyfel, onid [ydwyf] fi
Philistiad? a chwithau yn weision i Saul? dewiswch
i chwi ŵr i ddyfod i wared attafi.

[9] Os efe a orchfyga wrth ymladd a mi, ac
a 'm lladd i, yna y byddwn ni yn weision i chwi,
ond os myfi a 'i gorchfygaf ef, ac a 'i laddaf ef, yna
y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch
ni.

[10] Y Philistiad hefyd a ddywedodd, myfi a
wradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn,
moeswch attafi ŵr fel y cyd-ymladdom ni.

[11] Pan glybu Saul, a holl Israel y geiriau
hynny [gan] y Philistiad, yna y brawychasant,
ac yr ofnasant yn ddirfawr.

[12] A 'r Dafydd hwn [oedd] fab i Ephratewr
o Bethlehem Iuda, a 'i enw ef Isai, ac iddo ef
[yr oedd] ŵyth o feibion: a 'r gŵr [oedd] yn nyddiau
Saul yn hên yn dyfod ym mhlith [hên]
ddynion.

[13] A thri mab hynaf Isai a aethant [ac] a
ddaethant ar ôl Saul i 'r rhyfel: ac enw ei dri
mab ef y rhai a aethant i 'r rhyfel [oeddynt] Eliab
y cyntafanedic, ac Abinadab yr ail, a Samma
y trydydd.

[14] A Dafydd hwnnw [oedd] ieuangaf: a 'r
tri hynaf a aethant ar ôl Saul.

[15] Dafydd hefyd a aeth, ond efe a ddychwelodd
oddi wrth Saul i fugeilio defaid ei dad yn
Bethlehem.

[16] Felly y Philistiad a nessaodd yn foreu, ac
yn hwyr, ac a barhaodd ddeugain nhiwrnod [~ niwrnod ].

[17] A dywedodd Isai wrth Ddafydd ei fab,
cymmer yn awr i 'th frodyr Epha o 'r crâs-ŷd
hwn, a 'r dêc torth hyn: ac ar redeg dwg [hwynt]
i 'r gwerssyll at dy frodyr.

[18] Dŵg hefyd y dêc cossyn îr hyn i dywysog
y mîl, ac ymwel a 'th frodyr mewn heddwch,
a dwg [yn rhydd] eu gwystl hwynt.

[19] Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel
[oeddynt] yn nyffryn Elah yn ymladd a 'r Philistiaid.


[20] Felly Dafydd a gyfododd yn foreu, ac a
adawodd y defaid gyd a cheidwad, ac a gymmerth
 y pethau hynny, ac a aeth megis y gorchymynnase
Isai iddo ef: ac a ddaeth i 'r gwerssyll,

[td. 118v.a]
a 'r llu a aethe allan i 'r gâd, ac a floeddiasent yn
y rhyfel.

[21] Canys Israel a 'r Philistiaid a fyddinasent
fyddin yn erbyn byddin.

[22] A Dafydd a adawodd y mûd oddi wrtho
tann law ceidwad y dodrefn: ac a redodd i 'r fyddin,
ac a ddaeth, ac a gyfarchodd ei frodyr.

[23] Pan oedd Dafydd yn ymddiddan a hwynt,
yna wele yr gŵr (yr hwn [oedd yn sefyll]
rhwng y ddeu-lu) yn dyfod i fynu o fyddinoedd
y Philistiaid (Goliath y Philistiad o Gath [oedd]
ei enw ef,) ac efe a ddywedodd yr vn fath eiriau
fel y clybu Dafydd.

[24] A holl wŷr Israel pan welsant y gŵr
hwnnw a ffoasant rhagddo ef, ac a ofnasant yn
ddirfawr.

[25] Dywedodd gwŷr Israel hefyd oni welsoch
chwi y gwr hwn yn dyfod i fynu? diau i
wradwyddo Israel y mae yn dyfod i fynu: a 'r
gŵr yr hwn a 'i lladdo ef, y brenin a gyfoethoga
hwnnw a chyfoeth mawr, ei ferch hefyd a rydd
efe iddo ef, a thŷ ei dâd ef a wnaiff efe yn
rhydd yn Israel.

[26] Yna y llefarodd Dafydd wrth y gwŷr
y rhai oeddynt yn sefyll gyd ag ef gan ddywedyd:
 beth a wneir i 'r gŵr yr hwn a laddo
y Philistiad hwn? ac a dynn ymmaith y gwradwydd
oddi ar Israel? canys pwy [yw] y Philistiad
dienwaededic hwn, pan wradwydde efe fyddinoedd
y Duw byw?

[27] A 'r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn,
gan ddywedyd: felly y gwneir i 'r gŵr yr hwn
a 'i lladdo ef.

[28] Ac Eliab ei frawd hynaf ef a 'i clybu ef
pan oedd efe yn ymddiddan a 'r gwŷr, a digter
Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd, ac efe a
ddywedodd, pa ham y daethost i wared ymma?
a chyd a phwy y gadewaist yr ychydic ddefaid
hynny yn yr anialwch? myfi a adwen dy falchder
di, a drygioni dy galon di, canys i weled y
rhyfel y daethost di i wared.

[29] Yna y dywedodd Dafydd, beth a wneuthum
i yn awr? onid oedd neges [i mi?]

[30] Ac efe a ddychwelodd oddi wrtho ef at
vn arall, ac a ddywedodd yr vn modd, a 'r bobl a 'i
hattebasant ef air yng-air [fel] o 'r blaen.

[31] Pan glybuwyd y geiriau y rhai a lefarodd
Dafydd, yna y mynegwyd hwynt ger bron
Saul, ac efe a barodd ei ddwyn ef [atto ef.]

[32] A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, na
lwfrhaed calon dŷn erddo ef, dy wâs di a aiff, ac
a ymladd a 'r Philistiad hwn.

[33] Yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd, ni
elli di fyned at y Philistiad hwn i ymladd ag ef,
canys llangc [ydwyt] ti, ac yntef sydd yn rhyfel-wr
o 'i febyd.

[34] A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, bugail
oedd dy wâs di ar ddefaid ei dâd, pan ddaeth
y llew, a 'r arth a chymmeryd oen o 'r praidd.

[35] A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a 'i tarewais
ef, ac [a 'i] hachubais o 'i safn ef: pan gyfododd

[td. 118v.b]
ef i 'm herbyn i, yna mi a ymaflais yn ei farf ef,
ac a 'i tarewais, ac a 'i lleddais ef.

[36] Felly dy wâs di a laddodd y llew, a 'r
arth: a 'r Philistiad dienwaededic hwn fydd
megis vn o honynt, canys efe a amharchodd fyddinoedd
y Duw byw.

[37] Dywedodd Dafydd hefyd, yr Arglwydd
yr hwn a 'm hachubodd i o grafangc y llew, ac o
balf yr arth, efe a 'm hachub i o law y Philistiad
hwn: yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd,
dos, a 'r Arglwydd fyddo gyd a thi.

[38] A Saul a wiscodd Ddafydd a 'i wiscoedd
ei hun, ac a roddodd helm o brês ar ei benn ef:
ac a 'i gwiscodd ef [mewn] lluric.

[39] Yna y gwregysodd Dafydd ei gleddyf
ar vchaf ei wiscoedd, ac a geisiodd gerdded am
na phrofase efe, yna y dywedodd Dafydd wrth
Saul, ni allafi fyned yn y rhai hyn, canys ni
phrofais i: am hynny y dioscodd Dafydd hwynt
oddi am dano.

[40] Yna y cymmerth efe ei ffon yn ei law,
ac a ddewîsodd iddo bump o gerric llyfnion o 'r
afon, ac a 'i gosododd hwynt yng-hôd [~ yng nghod ] y bugeiliaid
yr hon [oedd] ganddo, sef yn yr screpan: a 'i ffon
dafl [oedd] yn ei law ef: ac efe a nessaodd at
y Philistiad.

[41] A 'r Philistiad a gerddodd, gan fyned, a
nessau at Ddafydd: a 'r gŵr oedd yn cludo y tarian
o 'i flaen ef.

[42] Pan edrychodd y Philistiad o amgylch,
a chanfod Dafydd, yna efe a 'i dremygodd ef, canys
llangc oedd efe, gwrid-coch [~ gwritgoch ], a thêg yr olwg.


[43] A 'r Philistiad a ddywedodd wrth Ddafydd,
 ai cî ydwyfi, gan dy fod yn dyfod attafi a
ffynn? a 'r Philistiad a regodd Ddafydd drwy
ei dduwiau ef.

[44] Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth
Ddafydd, tyret attafi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid
y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes.

[45] Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad,
 ti ydwyt yn dyfod attafi a chleddyf, ac a
gwaiw-ffon, ac a tharian: a minne ydwyf yn
dyfod attat ti yn enw Arglwydd y lluoedd,
Duw byddinoedd Israel yr hwn a geblaist ti.

[46] Y dydd hwn y dyru yr Arglwydd dydi
yn fy llaw i, a mi a 'th darawaf di, ac a gymmeraf
ymmaith dy ben di oddi arnat ti, ac a roddaf
gelanedd gwerssyll y Philistiaid y dydd hwn i
ehediaid y nefoedd, ac i fwyst-filod y ddaiar:
a holl [drigolion] y ddaiar a gânt ŵybod fod
Duw i Israel.

[47] A 'r holl gynnulleidfa hon a gant ŵybod,
nad a chleddyf, nac a gwaiw-ffon y gwared yr
Arglwydd: canys eiddo yr Arglwydd [yw]
y rhyfel, ac efe a 'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.

[48] A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a
nessau i gyfarfod Dafydd: yna y bryssiodd Dafydd,
ac y rhedodd tu a 'r fyddin i gyfarfod a 'r
Philistiad.

[49] A Dafydd a estynnodd ei law i 'r gôd, ac a

[td. 119r.a]
gymmerth oddi yno garrec, ac a chwrndaflodd [~ chwyrndaflodd ],
ac a darawodd y Philistiad yn ei dalcen: a 'r
garrec a soddodd yn ei dalcen ef, ac efe a syrthiodd
i lawr ar ei wyneb.

[50] Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad,
a ffon-dafl, ac a charrec, ac a darawodd y
Philistiad, ac a 'i lladdodd ef: er nad [oedd] cleddyf
yn llaw Dafydd.

[51] Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y
Philistiad, ac a gymmerth gleddyf hwnnw, ac a 'i
tynnodd o 'r wain, ac a 'i lladdodd ef, ac a dorrodd
ei benn ag ef: pan welodd y Philistiaid farw o 'i
cawr hwynt, yna y ffoasant hwy.

[52] A gwŷr Israel, ac Iuda a gyfodasant, ac
a floeddiasant, ac a erlydiasant y Philistiaid hyd
[y ffordd] y dêlech i 'r dyffryn, ac hyd byrth Acaron:
a 'r Philistiaid a syrthiasant yn archolledic
ar hyd ffordd Saarim, sef hyd Gath, ac hyd Acaron.


[53] Yna meibion Israel a ddychwelasant o
ymlid ar ôl y Philistiaid: ac a anrheithiasant
eu gwerssylloedd hwynt.

[54] A Dafydd a gymmerodd benn y Philistiad,
ac a 'i dûg i Ierusalem: a 'i arfau ef a osododd
efe yn ei babell.

[55] A phan welodd Saul Ddafydd yn myned
i gyfarfod a 'r Philistiad, efe a ddywedodd
wrth Abner tywysog y filwriaeth, mab i bwy
[yw] 'r llangc hwn, Abner? ac Abner a ddywedodd
 [fel] y mae yn fyw dy enaid ô frenin
nis gŵn.

[56] Yna y dywedodd y brenin, ymofyn di
mab i bwy [yw] 'r gwr ieuangc hwn.

[57] A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y
Philistiad, yna Abner a 'i cymmerodd ef, ac a 'i
dûg ef o flaen Saul: a phenn y Philistiad yn ei
law.

[58] A Saul a ddywedodd wrtho ef, mab i
bwy [wyt] ti y gwr ieuangc? yna y dywedodd
Dafydd, mab i 'th wâs Isai y Bethlehemiad.


PEN. XVIII.


Y Gefeillach a oedd rhwng Ionathan a Dafydd. 11
Saul yn casau, ac yn ofni Dafydd.


[1] A Phan orphennodd efe ymddiddan a Saul,
yna enaid Ionathan a ymgylymmodd [~ ymglymodd ]
wrth enaid Dafydd: fel y carodd Ionathan ef,
megis ei enaid ei hunan.

[2] A Saul a 'i cymmerth ef [atto] y diwrnod
hwnnw: ac ni adawodd iddo ddychwelyd i dŷ
ei dâd.

[3] Yna Ionathan a wnaeth gyfammod a
Dafydd: o herwydd efe a 'i care megis ei enaid
ei hun.

[4] Ac Ionathan a ddioscodd y fantell yr hon
[oedd] am dano ei hun, ac a 'i rhoddes i Ddafydd,
a 'i wiscoedd, îe hyd yn oed ei gleddyf, a 'i
fwa, a 'i wregys.

[5] A Dafydd a aeth yn gall i ba [le] bynnac
yr anfonodd Saul ef, a Saul a 'i gosododd ef ar
y rhyfel-wŷr: ac efe oedd gymmeradwy yngolwg
yr holl bobl, ac yng-olwg gweision Saul

[td. 119r.b]
hefyd.

[6] A bu (wrth ddyfod o honynt) pan ddychwelodd
Dafydd o ladd y Philistiad, yna ddyfod
o 'r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel dan
ganu, a dawnsio i gyfarfod a 'r brenin Saul: a
thympanau, a gorfoledd, ac ag [offer] tri-thant.

[7] A 'r gwragedd yn chware a ymmatebent,
ac a ddywedent: tarawodd Saul ar ei filoedd,
a Dafydd ar ei fyrddiwn.

[8] Am hynny y digiodd Saul yn ddirfawr,
a 'r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef, ac
efe a ddywedodd, rhoddasant i Ddafydd fyrddiwn,
ac i mi y rhoddasant filoedd: [beth]
mwy [a roddent] iddo ef, eithr y frenhiniaeth?

[9] A bu Saul yn gwilied Dafydd o 'r dydd
hwnnw allan.

[10] Bu hefyd drannoeth i ddrwg yspryd
Duw ddyfod ar Saul, ac efe a brophwydodd
yng-hanol [~ ynghanol ] y tŷ, yna Dafydd a ganodd a 'i law,
fel o 'r blaen: a gwaiw-ffon [oedd] yn llaw
Saul.

[11] Yna Saul a siglodd y waiw-ffon, ac a
ddywedodd, tarawaf trwy Ddafydd, a thrwy 'r
pared: a Dafydd a giliodd ddwy-waith o 'i ŵydd
ef.

[12] A Saul a ofnodd rhac Dafydd: o herwydd
bod yr Arglwydd gyd ag ef, a chilio o
honaw ef oddi wrth Saul.

[13] Am hynny Saul a 'i gyrrodd ef ymmaith
oddi wrtho ef, ac a 'i gosododd ef tano ei hun yn
dywysog [ar] fil: ac efe a lywodraethodd y
bobl.

[14] A bu Ddafydd gall yn ei holl ffyrdd: a 'r
Arglwydd [oedd] gyd ag ef.

[15] Pan welodd Saul ei fod ef yn gall iawn:
yna 'r ofnodd efe rhacddo ef.

[16] Eithr holl Israel, ac Iuda a garodd Ddafydd:
am ei fod ef yn eu llywodraethu hwynt.

[17] Yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd,
wele Merab fy merch hynaf, hi a roddafi i ti yn
wraig, yn vnic bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd
ryfeloedd yr Arglwydd: (canys dywedase
Saul, ni bydd fy llaw i yn ei erbyn ef, onid
llaw y Philistiaid fydd yn ei erbyn ef.)

[18] A Dafydd a ddywedodd wrth Saul,
pwy [ydwyf] fi, a pheth [yw] fy mywyd [neu]
dŷlwyth fy nhâd i yn Israel, fel y byddwn yn
ddaw i 'r brenin?

[19] Eithr yn yr amser [y dylesid] rhoddi Merab
merch Saul i Ddafydd, yna hi a rhoddwyd
i Adriel y Meholathiad yn wraig.

[20] Yna Michol merch Saul a garodd
Ddafydd: a mynegasant [hynny] i Saul, a 'r
peth fu fodlon ganddo.

[21] (A dywedodd Saul, rhoddaf hi iddo ef,
fel y byddo hi iddo 'n fagl, ac y byddo llaw y
Philistiaid yn ei erbyn ef:) felly Saul a ddywedodd
wrth Ddafydd, drwy 'r llall yr ymgyfathrechi
a mi heddyw.

[22] A Saul a orchymynnodd i 'w weision
[fel hyn:] ymddiddenwch a Dafydd yn ddistaw,

[td. 119v.a]
gan ddywedyd, wele y brenin sydd hoff ganddo
dydi, a 'i holl weision ef a 'th garant di: yn awr
gan hynny ymgyfathracha a 'r brenin.

[23] A gweision Saul a adroddasant wrth
Ddafydd y geiriau hyn: a Dafydd a ddywedodd
ai yscafn [yw] yn eich golwg chwi ymgyfathrachu
a brenin, a minne yn ŵr tlawd, a gwael?

[24] A gweision Saul a fynegasant iddo, gan
ddywedyd: fel hyn y llefarodd Dafydd.

[25] Yna y dywedodd Saul, fel hyn y dywedwch
wrth Ddafydd, nid yw y brenin yn ewyllysio
cynhyscaeth, onid [cael] cant o flaen-grwyn
y Philistiaid i ddial ar elynnion y brenin: (canys
Saul a feddyliodd am ladd Dafydd drwy
law y Philistiaid.)

[26] A 'i weision ef a fynegasant i Ddafydd y
geiriau hynn, a 'r ymadrodd fu fodlon gan Ddafydd
am ymgyfathrachu a 'r brenin: ond ni ddaethe
yr amser.

[27] Yna y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth,
a 'i wŷr, ac a darawodd ddau can-wr, o 'r Philistiaid,
a Dafydd a ddygodd eu blaen-grwyn
hwynt, ac a 'i cwbl dalasant i 'r brenin, i ymgyfathrachu
a 'r brenin: am hynny y rhoddes Saul
Michol ei ferch yn wraig iddo yntef.

[28] Yna y gwelodd Saul, ac y gwybu mai 'r
Arglwydd [oedd] gyd a Dafydd: a Michol
merch Saul a 'i carodd ef.

[29] A Saul a ofnodd fwy-fwy rhac Dafydd,
a bu Saul yn elyn i Ddafydd byth.

[30] Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan,
a phan elent hwy, Dafydd a fydde gallach
na holl weision Saul, a 'i enw ef oedd anrhydeddus
iawn.


PEN. XIX.


Ionathan yn rhybyddio Dafydd o gâs ei dâd Saul iddo
ef. 11 Michol ei wraig yn ei achub ef. 23 Saul
yn prophwydo wrth erlid Dafydd.


[1] YNA y dywedodd Saul wrth Ionathan ei
fab, ac wrth ei holl weision am ladd Dafydd:
ond Ionathan mab Saul oedd hôff iawn
ganddo Ddafydd.

[2] Am hynny y mynegodd Ionathan i Ddafydd
gan ddywedyd: Saul fy nhâd sy yn ceisio
dy ladd di: ac yn awr ymgadw attolwg hyd y
boreu, ac aros mewn [lle] dirgel, ac ymguddia.

[3] A mi a âf allan, ac a safaf ger llaw fy nhâd
yn y maes, yr hwn [y byddi] di ynddo, mi hefyd
a ymddiddanaf a 'm tâd o 'th blegit ti: ac mi a
edrychaf beth [a ddywedo efe,] ac a fynegaf i
ti.

[4] Ac Ionathan a ddywedodd yn dda am
Ddafydd wrth Saul ei dâd: ac a ddywedodd
wrtho ef, na pheched y brenin yn erbyn ei wâs,
[sef] yn erbyn Dafydd, o herwydd na phechodd
efe i 'th erbyn di, ac o herwydd [bod] ei weithredoedd
ef yn dda iawn i ti.

[5] Canys efe a osodes ei enioes [~ einioes ] yn ei law, ac
a darawodd y Philistiad, a 'r Arglwydd a wnaeth
iechydwriaeth mawr i holl Israel, ti a welaist
[hyn] ac a lawenychaist: pa ham gan hynny

[td. 119v.b]
y pechi yn erbyn gwaed diniwed, gan ladd
Dafydd yn ddiachos?

[6] Yna Saul a wrandawodd ar lais Ionathan,
a Saul a dyngodd [nid] byw yw 'r Arglwydd
os lleddir ef.

[7] Felly Ionathan a alwodd ar Ddafydd, ac
Ionathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn:
ac Ionathan a ddug Ddafydd at Saul, ac efe a
fu ger ei fron ef megis cynt.

[8] Yna y bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth
allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid,
ac a 'i tarawodd hwynt a phla mawr, ac hwy
a ffoasant rhagddo ef.

[9] A drwg yspryd yr Arglwydd oedd ar
Saul pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ, a 'i waiwffon
yn ei law: a Dafydd yn canu a 'i law.

[10] A cheisiodd Saul daro a 'i waiwffon drwy
Ddafydd, a thrwy yr pared, ond efe a giliodd o
ŵydd Saul, ac yntef a darawodd y waiw-ffon
yn y pared, a Dafydd a ffoawdd, ac a ddiangodd
y noswaith honno.

[11] Saul hefyd a anfonodd gennadau i dŷ
Ddafydd i 'w wilied ef, ac i 'w ladd ef y boreu: a
Michol ei wraig ef a fynegodd i Ddafydd gan
ddywedyd, onid achubi dy enioes [~ einioes ] heno, y foru
i 'th leddir.

[12] Felly Michol a ollyngodd Ddafydd i
lawr drwy 'r ffenestr, ac efe a aeth, ac a ffôdd, ac
a ddiangodd.

[13] Yna y cymmerodd Michol ryw ddelw,
ac a 'i gosododd yn y gwely, a chlustog [o flew]
geifr a osododd hi yn obennydd iddi: ac a 'i goblygodd
a dillad.

[14] Pan anfonodd Saul gennadau i ddala
Dafydd: yna hi a ddywedodd, [y mae] efe yn
glâf.

[15] Anfonodd Saul eilwaith gennadau i edrych
Dafydd, gan ddywedyd: dygwch ef i fynu
attafi yn ei wely, fel y lladdwyf ef.

[16] Pan ddaeth y cennadau, yna wele y ddelw
ar y gwely: a chlustog [o flew] geifr yn obennydd
iddi.

[17] Yna y dywedodd Saul wrth Michol,
pa ham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist
fyng-elyn i ddiangc? a Michol a ddywedodd
wrth Saul, efe a ddywedodd wrthif, gollwng
fi, onid ê mi a 'th laddaf di.

[18] Felly Dafydd a ffoawdd, ac a ddiangodd,
ac a ddaeth at Samuel i Ramah, ac a fynegodd
iddo yr hyn oll a wnaethe Saul i 'w erbyn
ef, ac efe a aeth gyd a Samuel, ac a drigasant
yn Naioth.

[19] A mynegwyd i Saul gan ddywedyd:
wele [y mae] Dafydd yn Naioth o fewn Ramah.


[20] Yna Saul a anfonodd gennadau i ddala
Dafydd, pan welsant gynnulleidfa y prophwydi
yn prophwydo, a Samuel yn sefyll, wedi ei
osod arnynt hwy: yna yr oedd ar gennadau
Saul yspryd Duw, fel y prophwydasant hwythau
hefyd.


[td. 120r.a]
[21] Pan fynegasant [hyn] i Saul, yna efe a
anfonodd gennadau eraill, a hwythau hefyd a
brophwydasant: ac eilwaith y danfonodd Saul
gennadau y drydedd waith, a phrophwydasant
hwythau hefyd.

[22] Yna yntef hefyd a aeth i Ramah, ac a ddaeth
hyd y ffynnon fawr yr hon [sydd] yn Sechu,
ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, pa le [y
mae] Samuel a Dafydd? ac [vn] a ddywedodd
 wele [y maent hwy] yn Naioth o fewn
Ramah.

[23] Ac efe a aeth yno i Naioth yn Ramah:
ac arno yntef hefyd y daeth yr vn yspryd Duw,
a chan fyned yr aeth, ac y prophwydodd, nes ei
ddyfod i Naioth yn Ramah.

[24] Ac efe a ddioscodd ei ddillad, ac a brophwydodd
hefyd ger bron Samuel, ac a syrthiodd
i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a 'r
holl nôs: am hynny y dywedent, a ydyw Saul
hefyd ym mysc y prophwydi?


PEN. XX.


Y cyfammod yr hwn a oedd rhwng Ionathan a Dafydd.
30 Saul yn digio wrth Ionathan o achos Dafydd.
36 Ionathan yn saethu tair saeth i rybyddio Dafydd.



[1] YNA y ffoawdd Dafydd o Naioth yn Ramah,
ac a ddaeth, ac a ddywedodd ger bron
Ionathan, beth a wneuthum? beth [yw] fy anwiredd,
a pheth [yw] fy mhechod o flaen dy dâd
ti, gan ei fod efe yn ceisio fy enioes [~ einioes ] i?

[2] Ac efe a ddywedodd wrtho, na atto Duw,
ni byddi farw, wele ni wnaiff fy nhâd na pheth
mawr, na pheth bychan heb [ei] fynegu i mi:
pa ham gan hynny y cêle fy nhâd y peth hyn oddi
wrthifi? ni [wna efe] hyn.

[3] Yna Dafydd a dyngodd eilwaith, (ac a ddywedodd,
 dy dâd a ŵyr yn hyspys i mi gael ffafor
yn dy olwg di, am hynny y dywedodd, na chaffed
Ionathan ŵybod hyn rhac ei dristau ef:)
cyn wîred a bod yr Arglwydd yn fyw, a 'th enaid
dithe yn fyw [nid oes] onid megis camm rhyngofi
ag angeu.

[4] Yna y dywedodd Ionathan wrth Ddafydd:
 dywet beth [yw] dy ewyllys, a mi a 'i
cwplhaf i ti.

[5] A Dafydd a ddywedodd wrth Ionathan,
wele [y dydd cyntaf o 'r] mis [yw] foru, a minne
gan eistedd a ddylwn eistedd gyd a 'r brenin i
fwytta: gollwng fi gan hynny fel yr ymguddiwyf
yn y maes hyd bryd nawn y trydydd
[dydd.]

[6] Os dy dâd gan goffau a goffa am danaf:
yna y dywedi, Dafydd gan ofyn a ofynnodd
[gennad] gennifi i redeg i Bethlehem ei ddinas
ei hun, canys aberth blynyddawl [sydd] yno
gan yr holl genedl.

[7] Os fel hyn y dywed efe, dâ, heddwch
[sydd] i 'th wâs: ond os gan ddigio y digia efe
gwybydd fod y malis wedi ei baratoi ganddo ef.

[8] Felly y gwnei drugaredd a 'th wâs canys
mewn cyfammod yr Arglwydd y dugaist

[td. 120r.b]
dy was gyd a thi: ac od oes anwiredd ynofi,
lladd di fi, canys i ba beth y dygi di fi at dy dâd?

[9] Yna y dywedodd Ionathan, na atto Duw
[hynny] i ti: canys os gan wybod y caf wybod
fod y malis wedi ei baratoi gan fy nhâd i ddyfod
i 'th erbyn, onis mynegwn i ti?

[10] A Dafydd a ddywedodd wrth Ionathan,
pwy a fynega i mi os ettyb dy dâd ti ddim yn
galed?

[11] Yna y dywedodd Ionathan wrth Ddafydd,
 tyret fel yr elom i 'r maes: ac hwy a aethant
ill dau i 'r maes.

[12] Dywedodd Ionathan hefyd wrth Ddafydd,
 Arglwydd Dduw Israel [fyddo tŷst] y
chwiliafi [feddwl] fy nhad yng-hylch [~ ynghylch ] y pryd
[hyn] y foru [neu] drennydd, ac os daioni
[fydd] tu ag at Ddafydd, ac oni anfonaf yna
attati fel y mynegwyf it,

[13] Fel hyn y gwnel yr Arglwydd i Ionathan
ac y chwanego: os da fydd gan fy nhad
[ddwyn] y drwg i 'th erbyn yna y mynegaf it, ac
a 'th ollyngaf fel yr elech mewn heddwch: a bydded
yr Arglwydd gyd a thi, megis y bu gyd
a 'm tad i.

[14] Felly nid tra fyddwyfi byw, ac nid a mi
[yn vnic] y gwnei drugaredd yr Arglwydd fel
na byddwyf marw:

[15] Ond na thorr ymmaith dy drugaredd a 'm
tŷ maufi byth, na phan ddestruwio 'r Arglwydd
elynnion Dafydd bob vn oddi ar wyneb y ddaiar.


[16] Felly y cyfammododd Ionathan a thŷ
Ddafydd [ac efe a ddywedodd:] gofynned yr
Arglwydd oddi ar law gelynion Dafydd [eu
camwedd.]

[17] Yna y chwanegodd Ionathan dyngu
wrth Ddafydd, o herwydd efe a 'i care ef: (canys
fel ei enaid ei hun y care efe ef.)

[18] Ac Ionathan a ddywedodd wrtho ef, y foru
[yw 'r dydd cyntaf o 'r] mis, a thi a goffeir,
am y bydd dy eisteddle yn wâg.
Wedi i ti lechu dridieu yna tyret i wared
yn fuan, a thyret i 'r lle yr hwn yr ymguddiaist
ynddo, yn y dydd [y bu] y gwaith hyn [o 'r
[19] blaen] ac aros wrth faen Ezel.

[20] A mi a saethaf dair o saethau at [ei] ystlys
[ef:] fel pes gollyngwn [hwynt] at nôd.
Wele hefyd mi a anfonaf y llangc [gan
[21] ddywedyd,] dôs, cais y saethau: os gan ddywedyd
y dywedaf wrth y llangc, wele y saethau
[ennyd] oddi wrthit o 'r tu ymma i ti dwg hwynt:
yna tyret ti, canys heddwch [sydd] i ti, ac
ni bydd dim [niwed, fel] mai byw yw 'r Arglwydd.


[22] Ond os fel hyn y dywedaf wrth y bachgen,
 wele y saethau [ennyd] oddi wrthit o 'r tu
hwnt: dôs ymmaith, canys yr Arglwydd a 'th
anfonodd ymmaith.

[23] Am y peth yr hwn a leferais i, mi a thi:
wele 'r Arglwydd [fyddo] rhyngofi, a thi yn
dragywydd.


[td. 120v.a]
[24] Felly 'r ymguddiodd Dafydd yn y maes,
a phan oedd y dydd cyntaf o 'r mis, y brenin a
eisteddodd wrth y bwyd i fwytta.

[25] Ie y brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa,
megis ar amseroedd eraill, [sef] ar yr eisteddfa
wrth y pared, ac Ionathan a gyfododd, ac Abner
a eisteddodd wrth ystlys Saul: a lle Dafydd
oedd wag.

[26] Ac nid yngênodd [~ ynganodd ] Saul ddim y diwrnod
hwnnw: canys meddyliodd [mai] damwain
[oedd] hyn, am nad [oedd] efe lân, o herwydd
[ei fod] yn aflan [ni ddaeth.]

[27] A bu drannoeth, yr ail [dydd] o 'r mis fod
lle Dafydd yn wâg: yna y dywedodd Saul
wrth Ionathan ei fâb, pa ham na ddaeth mab Isai
at y bwyd na doe, na heddyw?

[28] Yna Ionathan a attebodd Saul: Dafydd
gan ofyn a ofynnodd i mi [am gael myned]
hyd Bethlehem.

[29] Canys efe a ddywedodd, gollwng fi attolwg,
o herwydd ein tylwyth ni [ydynt yn offrymmu]
aberth yn y ddinas, a 'm brawd yntef
a 'm gwahoddodd i, ac yn awr o chefais ffafor yn
dy olwg di, gad i'm [~ im ] fyned attolwg, fel y gwelwyf
fy mrodyr: o herwydd hyn ni ddaeth efe i
fwrdd y brenin.

[30] Yna y llidiodd digter Saul yn erbyn
Ionathan, ac efe a ddywedodd wrtho, [ti] fab y
gyndyn wrthnyssic, oni ŵyddwn i ti ddewis
mab Isai yn wradwydd it, ac yn gywilydd [a]
gwarth i 'th fam?

[31] Canys yr holl ddyddiau ar y byddo mab
Isai yn fyw ar y ddaiar, ni 'th sicrheuir di na 'th
deyrnas: yn awr gan hynny, anfon, a chyrch ef
attaf, canys marwolaeth [a gaiff] efe.

[32] Yna Ionathan a attebodd Saul ei dad,
ac a ddywedodd wrtho: pa ham y bydd efe marw?
beth a wnaeth efe?

[33] Yna Saul a ergydiodd y waiw-ffon tu
ag atto ef, i 'w daro ef: wrth hyn y gwybu Ionathan
[fod] y bwriad ymma gan ei dâd ef, sef
lladd Dafydd.

[34] Felly Ionathan a gyfododd oddi wrth y
bwrdd mewn llid digllawn: ac ni fwyttâodd
fwyd yr ail dydd o 'r mis, canys gofidiodd dros
Ddafydd, o herwydd i 'w dâd ei wradwyddo ef.

[35] A 'r borau, yr aeth Ionathan i 'r maes erbyn
yr amser a osodase ef i Ddafydd: a bachgen
bychan gyd ag ef.

[36] Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen,
rhêd, cais yn awr y saethau, y rhai 'r ydwyfi yn
eu saethu: y bachgen a redodd, yna yntef a saethodd
saeth gan gyrheuddyd trosto ef.

[37] Pan ddaeth y bachgen hyd y fan [yr oedd]
y saeth yr hon a saethase Ionathan: yna y llefodd
Ionathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd,
onid [yw] y saeth ennyd oddi wrthit o 'r tu hwnt?

[38] Llefodd Ionathan drachefn ar ôl y bachgen,
 cyflymma, bryssia, na saf: yna bachgen
Ionathan a gasclodd y saethau, ac a ddaeth at
ei feistr.


[td. 120v.b]
[39] A 'r bachgen ni ŵydded ddim, onid Ionathan
a Dafydd a wyddent y peth.

[40] Yna Ionathan a roddes ei offer at y
bachgen yr hwn [oedd] gyd ag ef, ac a ddywedodd
wrtho ef, dos, dûg [~ dwg ] [y rhai hyn] i 'r ddinas.

[41] Y bachgen a aeth ymmaith, yna Dafydd
a gyfododd o 'r tu dehau [i 'r maen,] ac a syrthiodd
i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymmodd dair
gwaith: a hwy a ymgusanasant bob vn ei gilydd,
ac a ŵylasant y naill wrth y llall, a Dafydd
a ragorodd.

[42] Yna y dywedodd Ionathan wrth Ddafydd,
 dôs mewn heddwch: yr hyn a dyngasom
ni ein dau yn enw 'r Arglwydd gan ddywedyd,
yr Arglwydd fyddo rhyngofi a thi, a rhwng fy
hâd i, a 'th hâd dithe, [safed hynny] yn dragywydd.


[43] Yna [Dafydd] a gyfododd ac a aeth ymmaith:
ac Ionathan a ddaeth i 'r ddinas.


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section