Adran o’r blaen
Previous section

Ail Epistol Paul at y Corinthiaid.



[td. 519v.a]


PENNOD. I.


Y mae yn dangos fod ei gystudd yn Asia yn ddiddanwch
iddynt hwy. 17 Ac yn dangos nad o yscafnder meddwl
yr oedâse efe ddyfod attynt pan addawse.


[1] PAUL Apostol Iesu
Grist, a 'r brawd Timotheus
trwy ewyllys
Duw at eglwys
Dduw yr hon sydd
yn Corinth, gyd â 'r
holl seinctiau y rhai
sy yn holl Achaia:

[2] Grâs fyddo gyd â
chwi, a thangneddyf gan Dduw ein Tâd, a 'r
Arglwydd Iesu Grist.

[3] Bendigedic fyddo Duw Tâd ein Harglwydd
ni Iesu Ghrist [~ Grist ], Tâd y trugareddau, a
Duw holl ddiddanwch,

[4] Yr hwn sydd yn ein diddânu ni yn ein holl
orthrymder, fel y gallom ddiddânu y rhai sy

[td. 519v.b]
mewn dim gorthrymder, trwy y diddanwch ein
diddenir ninnau gan Dduw.

[5] O blegit fel yr amlheir dioddefiadau Crist
ynom, felly yr amlheir ein diddanwch ni trwy
Grist.

[6] Hefyd os cystuddir ni [y mae hynny] er
diddanwch, ac iechydwriaeth i chwi, yr hon a
weithir gan ymaros yn yr vn rhyw ddioddefiadau,
y rhai yr ydym ni hefyd yn eu dioddef: ac
os diddenir ni, er diddanwch ac iechydwriaeth i
chwi [y mae hynny.]

[7] Ac y mae ein gobaith yn siccr am danoch,
gan i ni ŵybod, mai megis yr ydych yn gyfrannogion
o 'r dioddefiadau, felly [y byddwch] hefyd
o 'r diddanwch.

[8] Canys frodyr ni fynnem i chwi fod heb
ŵybod, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso
arnom yn anfeidrol vwch ben [ein] gallu,
hyd onid oeddem yn ammeu na allem fyw.

[9] Ond ni a dderbyniasom farn angeu ynom,

[td. 520r.a]
fel na obeithiom ynom ein hunain, onid yn
Nuw yr hwn sydd yn cyfodi i fynu y meirw.

[10] Yr hwn a 'n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw
ddirfawr angeu, ac sy yn ein gwaredu: yn
yr hwn yr ydym yn gobeitho y gwared efe rhag
llaw.

[11] Os chwy-chwi a gydweithiwch mewn
gweddi trosom, fel, am y rhoddiad a rodded i ni
o herwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer
trosom,

[12] Canys ein gorfoledd ni yw hyn, [sef,]
testiolaeth ein cydwybod ni, o blegit mewn disymlrwydd
a duwiol burdeb, ac nid yn noethineb
cnawdol, ond trwy râs Duw, y bu i ni ein
ymddwyn ein hunain yn y bŷd, ac yn enwedic yn
eich mysc chwi.

[13] Canys nid ydym yn scrifennu amgen
bethau attoch, nac yr ydych yn eu darllen, neu
yr ydych yn eu cydnabod, ac yr ydwyf yn gobeithio
y cydnabyddwch hyd y diwedd.

[14] Ac megis y cydnabuoch ni, o rann ein
bôd yn orfolaeth i chwi, fel yr ydych chwithau i
ninnau yn nŷdd yr Arglwydd Iesu Grist.

[15] Ac yn y gobaith hyn yr oeddwn yn ewyllysio
dyfod attoch y waith gyntaf, fel y caffech
ail grâs.

[16] A myned (heb eich llaw chwi i Macedonia,
a dyfod trachefn o Macedonia attoch, a
chael fy hebrwng gennwch i Iudæa.

[17] Gan hynny pan oeddwn yn amcanu fel
hyn, a arferais i o yscafnder? neu a wyfi yn amcanu
y petheu yr wyf yn amcanu, ar ôl y cnawd,
fel y bydde gyd â mi îe, îe, ac nag ê, nag ê?

[18] Ond Duw sydd ffyddlon, canys nid îe,
ac nag ê ydoedd ein ymadrodd wrthych chwi.

[19] Canys Mab Duw Iesu Grist yr hwn a
bregethwyd yn eich plith genym ni, sef myfi a
Silfanus a Timotheus, nid ydoedd, îe, ac nag e
eithr ynddo ef ie ydoedd.

[20] O blegit holl addewidion Duw ynddo
ef ydynt, îe, ac ynddo ef [ydynt] Amen, er gogoniant
Duw trwyddom ni.

[21] A Duw [yw] 'r hwn a 'n cadarnhâ ni
gyd â chwi yng-Hrist [~ yng Nghrist ], ac a 'n enêiniodd ni.

[22] Yr hwn hefyd a 'n seliodd, ac a roes
wystleidiaeth yr yspryd yn ein calonnau.

[23] Ac yr ŵyf fi yn galw Duw yn dŷst i 'm
henaid, mai er eich arbed chwi na ddaethym
etto i Corinth.

[24] Nid am ein bôd yn arglwyddiaethu ar
eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwŷr
i 'ch llawenydd: o blegit trwy ffydd yr ydych yn
sefyll.


PEN. II.


Y mae yn dangos fod yr hwn a yscymunasid am loscach
neu insest yn beth achos na ddaethe efe attynt hwy.
6 Yn maddeu i hwnnw, gan ewyllysio eu cydundeb
hwythau i hynny. 14 Yn diolch am ffynniant yr Efengyl.
17 Ac yn amddeffyn [~ amddiffyn ] ei athrawiaeth yn erbyn
y gau athrawon.


[1] EIthr mi a fwriadais hyn ynof fy hunan, na
ddelwn attoch trachefn mewn tristwch.


[td. 520r.b]
[2] O blegit as [~ os ] myfi a 'ch tristâf chwi, pwy
yw 'r hwn a 'm llawenhâ fi, ond yr hwn a dristawyd
gennifi?

[3] A mi a scrifennais hyn ymma attoch, rhag
(pan ddelwn) cael o honof dristwch ar dristwch
gan y rhai y dylwn ymlawenhau: gan obeitho
am danoch oll, fôd fy llawenydd i yn llawenydd
i chwi oll.

[4] Canys mewn gorthrymder mawr, a chyfyngder
calon yr scrifennais attoch â dagrau
lawer, nid fel i 'ch tristaid chwi, eithr fel y gwybyddech
y cariad sy gennif yn enwedig i chwi.

[5] Os gwnaeth nêb dristau, ni wnaeth efe i
mi dristau, ond o rann, rhag i mi bwyso arnoch
chwi oll.

[6] Digon [yw] i 'r cyfryw [ddŷn] y cerydd
ymma yr hwn a rodded iddo gan lawer.

[7] Megis yn hytrach yng-wrthwynêb, y dylech
chwi faddeu iddo a 'i ddiddânu, rhag llyngcu
y cyfryw gan ormod tristwch.

[8] Am hynny yr ydwyf yn attolwg i chwi,
gadarnhau eich cariad arno.

[9] Canys er mwyn hyn hefyd yr scrifennais,
fel y cawn ŵybod profedigaeth am danoch, a
fyddech vfydd ym mhob peth.

[10] I 'r hwn yr ydych yn maddeu dim iddo,
[yr wyf] finne: canys os maddeuais i ddim, i 'r
hwn y maddeuais er eich mwyn chwi [y maddeuais]
yng-olwg Crist.

[11] Rhag ein siommi gan Satan: canys
nid ydym heb ŵybod ei amcannion ef.

[12] Pan ddaethym i Troas i [bregethu] Efengyl
Grist, ac agoryd drŵs i mi gan yr Arglwydd,


[13] Ni chefais lonydd yn fy yspryd am na
chefais Titus fy mrawd, eithr gan ganu yn
iach iddynt, mi a euthym ymmaith i Macedonia.

[14] Ond i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn,
yn oestad [~ wastad ] sydd yn peri i ni orfoledd yng-Hrist [~ yng Nghrist ],
ac sydd yn eglurhau arogledd ei ŵybodaeth
trwyddom ni ym mhôb lle.

[15] Canys per-arogl Crist ydym ni i Dduw,
yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig.

[16] I 'r naill yr [ydym] yn arogl marwolaeth
i farwolaeth, ac i 'r lleill yn arogl bywyd i fywyd,
a phwy sydd ddigonol i hyn?

[17] Canys nid ydym ni fel y mae llawer, yn
gwneuthur twyll am air Duw, eithr megis o
burdeb, eithr megis o Dduw, yng-wydd Duw
yr ydym yn llefaru yng-Hrist [~ yng Nghrist ].


PEN. III.


I beidio a 'i ganmol ei hun y mae efe yn dangos fod ei
glôd ef i 'w gweled yn y Corinthiaid. 6 A bod yr Efengyl
yn fwy gogoneddus nâ 'r gyfraith.


[1] AI dechreu yr ydym ni ein canmol ein hunain
trachefn? ai rhaid i ni fel i eraill wrth
lythyrau canmoliaeth attoch chwi, neu canmoliaeth
oddi wrthych chwi?

[2] Ein llythr ni ydych chwi yn scrifennedig
yn ein calonnau, yr hwn a ddeallir, ac a ddarllenir
gan bôb dŷn.


[td. 520v.a]
[3] Gan fod yn eglur eich bôd chwi yn llythr
Crist, yr hwn a roddwyd allan trwy ein gweinidogaeth
ni, ac a scrifennwyd, nid ag ingc, ond
ag Yspryd Duw byw, nid mewn llechau cerrig,
eithr mewn cnawdol lechau y galon.

[4] A chyfryw obaith sydd gennym trwy
Grist ar Dduw.

[5] Nid o herwydd ein bôd ni ddigonol o honom
ein hunain i feddylio dim megis o honom
ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o Dduw.

[6] Yr hwn hefyd a 'n gwnaeth ni yn weinidogion
y Testament newydd, nid i 'r llythyren,
ond i 'r Yspryd: canys y mae y llythyren yn
lladd, a 'r Yspryd sydd yn bywhau.

[7] Ac os oedd gweinidogaeth angeu yr hon a
argraphwyd â llythyrennau ar lechau yn ogoneddus,
fel na alle plant yr Israel edrych yn
ŵyneb Moses gan ogoniant ei wyneb-pryd, yr
hwn [ogoniant] a ddeleuwyd [~ ddilewyd ],

[8] Pa fodd nad mwy y bydd gweinidogaeth
yr Yspryd mewn gogoniant?

[9] Canys os bu gweinidogaeth colledigaeth
yn ogoneddus, mwy o lawer y rhagora gweinidogaeth
cyfiawnder mewn gogoniant.

[10] Canys yr hyn a ogoneddwyd, ni ogoneddwyd
yn y rhan hon, [sef] hyd y perthyn i 'r
gogoniant ardderchog.

[11] O blegit os yr hyn a ddeleuid [~ ddileid ] ymmaith
oedd yn ogoneddus, mwy o lawer [fydd] yr
hyn a erys, yn ogoneddus.

[12] Felly, gan fôd gennym gyfryw obaith, yr
ydym yn arfer hyfder.

[13] Ac nid ydym ni fel Moses, yr hwn a rodde
orchudd ar ei wyneb, rhag i blant Israel
edrych ar ddiwedd yr hyn a ddeleuid [~ ddileid ].

[14] Am hynny y caledwyd eu meddwl hwy:
canys hyd y dydd heddyw y mae y gorchudd
hwnnw yn aros heb ei dadguddio wrth ddarllen
y hên Destament, yr hwn yng-Hrist [~ yng Nghrist ] a dynnir
ymmaith.

[15] Eithr hyd y dydd heddyw pan ddarllenir
Moses, y rhoddir y gorchudd ar eu calonnau
hwynt.

[16] Er hynny pan ymchweler at yr Arglwydd,
y tynnir y gorchudd.

[17] Yr awron yr Arglwydd yw 'r Yspryd,
a lle mae Yspryd yr Arglwydd, yno y mae
rhydd-did.

[18] Eithr edrych yr ydym ni oll, megis mewn
drych, ar ogoniant yr Arglwydd ag wyneb
agored, ac i 'n newidir ni i 'r vnrhyw ddelw, o
ogoniant i ogoniant, megis gan Yspryd yr Arglwydd.


PEN. IIII.


Dywydrwydd [~ Diwydrwydd ] Paul yn ei swydd. 13 A 'r achosion y rhai
sy yn peri.


[1] AM hynny gan fôd i ni y weinidogaeth
hon, megis y cawsom drugaredd, nid
ydym yn pallu.

[2] Eithr ni a wrthodasom ddirgelwch gwradwydd,
heb rodio yn ddichellgar, nac arfer

[td. 520v.b]
twyll am air Duw: eithr trwy eglurhâd y gwirionedd
yr ydym yn ein canmol ein hun wrth
bôb cydwybod dŷn ger bron Duw.

[3] Ac os yw ein Efengyl ni yn guddiedic, yn
y rhai colledig y mae yn guddiedic.

[4] Ym mha rai y dallodd Duw y bŷd hwn
feddyliau yr anffyddlonion, rhag tywynnu
iddynt lewyrch Efengyl gogoniant Crist, yr
hwn yw delw Dduw.

[5] Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain,
ond Crist Iesu yr Arglwydd, a ninneu
yn weision i chwi er mwyn Iesu.

[6] Canys Duw yr hwn a orchymynnodd i 'r
goleuni lewyrchu o dywyllwch, [yw] yr hwn a
lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni
gwybodaeth gogoniant Duw, yn ŵyneb Iesu
Grist.

[7] Eithr y tryssor hwn sydd gennym mewn
llestri pridd, fel y bydde ardderchogrwydd y meddiant
hwnnw o Dduw, ac o honom ni.

[8] Ym mhôb man ein cystuddir, er hynny nid
ydym mewn ing: y mae yn gaeth arnom, ond
nid ydym gwbl heb obaith.

[9] Wedi ein herlid, ond heb ein gwrthod, wedi
ein taflu i lawr eithr heb ein difetha.

[10] Gan arwain bob amser o amgylch yn y
corph, farwolaeth yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer
hefyd fywyd Iesu yn ein corph.

[11] Canys yr ydys yn ein rhoddi ni y rhai
ydym yn oestad [~ wastad ] i farwolaeth er mwyn Iesu, fel
yr eglurhaer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol
gnawd ni.

[12] Ac felly y mae angeu yn gweithio ynom
ni, ac enioes [~ einioes ] ynoch chwithau.

[13] A chan fôd i ni yr vn yspryd ffydd, megis
ac y mae yn scrifennedic, credais, ac am hynny y
dywedais, ninnau hefyd ydym yn credu, ac am
hynny y dywedwn,

[14] Gan ŵybod y bydd i 'r hwn a gyfododd
yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd
trwy Iesu, a 'n gosod gyd â chwi.

[15] Canys pôb peth sydd er eich mwyn
chwi, fel yr amlhâo yr helaethaf râs trwy ddiolch
llawer er gogoniant i Dduw.

[16] Am hynny nid ydym ni yn ymollwng,
eithr er llygru ein dŷn oddi allan, er hynny y
dŷn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.

[17] O blegit y mae yscafnder ein cystudd yr
hwn ni pheru ond munyd, yn peri i ni yn rhagorol
[gael] rhagorol a thragywyddol bwys gogoniant.


[18] Tra nid ydym yn ystyried y pethau a welir
ond y pethau ni welir: canys y pethau a welir
sy amserol, a 'r pethau ni welir sy dragywyddol.


PEN. V.


Mor fuddiol yw marwolaeth dduwiol i 'r duwiol. 14
Mawredd grâs Duw. 20 Swydd a braint eglwys-wyr.


[1] CAnys ni a wyddom os daiarol dŷ ein presswylfod
a ddotodir [~ ddatodir ], fôd i ni adeilad gan
Dduw, [sef] tŷ, nid o waith llaw, [ond] tragywyddol
yn y nefoedd.


[td. 521r.a]
[2] Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio
gan ddeisyfio cael ein gwisco â 'n tŷ yr hwn sydd
o 'r nêf.

[3] O blegit os gwiscir ni, ni 'n ceffir yn
noethion.

[4] Canys yn ddiau [nyni] y rhai sy yn y babell
hon ydym yn ocheneidio, ac yn llwythog
am nad ewyllysiem ein diosc, ond ymwisco, fel
y llyngcid yr hyn sydd farwol gan fywyd.

[5] A 'r hwn a 'n creawdd ni i hyn yw Duw,
yr hwn hefyd a roddodd i ni ŵystleidiaeth yr
Yspryd.

[6] Am hynny yr ydym bôb amser yn hyderus,
ac yn gŵybod tra fôm gartref yn y corph, ein
bôd oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd.

[7] Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac
nid wrth y golwg.

[8] Er hynny yr ydym yn hyderus, ac y mae
yn fodlonach gennym fod oddi cartref o 'r corph
a chartrefu gyd â 'r Arglwydd.

[9] Am hynny hefyd yr ydym yn chwennychu
pa vn bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref,
fôd yn gymmeradwy ganddo ef.

[10] Canys rhaid yw i ni oll ymddangos
ger bron brawdle Crist, fel y derbynio pob vn y
pethau a [wnaethpwyd] yn y corph, yn ôl yr
hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg.

[11] Felly gan i ni ŵybod ofn yr Arglwydd,
yr ydym ni yn peri i ddynion gredu, ac ni a wnaed
yn hyspus i Dduw, ac yr ydwyf yn gobeithio
hefyd ddarfod ein gwneuthur yn hyspus
yn eich cydwybodau chwi.

[12] Canys nid ydym yn ymganmol trachefn
wrthych, ond yn rhoddi i chwi achos gorfoledd
o 'n plegit ni, fel y caffoch [beth i atteb] yn
erbyn y rhai sy a 'u gorfoledd yn yr wyneb, ac
nid yn y galon.

[13] Canys os amhwyllo yr ydym, i Dduw yr
ydym, ac os bôd yn ein pwyll, i chwi [yr ydym.]

[14] Canys y mae cariad Crist yn ein cymhell
ni, gan i ni farnu hyn, os bu vn farw tros
bawb, yna mai meirw oedd pawb.

[15] Ac efe a fu farw tros bawb, fel y bydde
i 'r rhai byw, na fyddent fyw rhag-llaw iddynt
eu hunain, ond i 'r hwn a fu farw trostynt, ac a
adgyfododd.

[16] Am hynny o hyn allan, nid ydym yn adnabod
nêb yn ôl y cnawd, ac os buom ni hefyd yn
adnabod Crist yn ôl y cnawd, er hynny o hyn
allan nid ydym yn ei adnabod ef mwy [felly.]

[17] Gan hynny od oes nêb yng-Hrist [~ yng Nghrist ] [y
mae efe] yn greadur newydd, yr hên bethau a
aethant heibio, wele, gwnaethbwyd pob peth
yn newydd.

[18] A 'r cwbl sydd o Dduw, yr hwn a 'n cymmododd
ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a
roddodd i ni weinidogaeth y cymmod.

[19] Canys Duw oedd yng-Hrist [~ yng Nghrist ], yn cymmodi
y bŷd ag ef ei hun, heb adliwio [~ edliwio ] iddynt eu
pechodau, ac a osododd ynom ni air y cymmod.

[20] Am hynny yr ydym ni yn gennadau tros

[td. 521r.b]
Grist, megis pe bydde Duw yn ymbil â chwi
trwyddom ni: yr ydym yn attolwg i chwi tros
Grist, cymmodwch â Duw.

[21] Canys efe a wnaeth yn bechod trosom
ni, yr hwn ni adnabu bechod, fel ein gwnelid ni
yn gyfiawnder Duw ynddo ef.


PEN. VI.


Y mae efe yn eu hannog hwynt i amryw rinweddau
rhagorol. 14 Ac yn anad dim i ochelyd ymgymharu
 â 'r rhai anghredadwy.


[1] FElly ninnau gan gydweithio ydym yn attolwg
i chwi na dderbynioch râs Duw yn ofer

[2] (Canys medd efe, yn amser cymmeradwy
i 'th warandewais, ac yn nydd iechydwrieth
i 'th gynhorthwyais: wele yn awr yr amser cymmeradwy,
wele yn awr ddydd yr iechydwrieth)

[3] Heb roddi dim achos tramgwydd mewn
dim, rhag beio ar y weinidogaeth.

[4] Eithr gan ein gosod ein hun allan ym
mhôb peth fel gweinidogion Duw, mewn
ammynedd mawr, mewn cystudd, mewn angen,
ac mewn cyfyngder,

[5] Mewn gwialennodau, mewn carcharau,
mewn terfyscau, mewn poen, mewn gwiliadwriaetheu,
mewn ymprydiau,

[6] Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn
ymaros, mewn tiriondeb yn yr Yspryd glân,
mewn cariad diragrith.

[7] Yng-air gwirionedd, yn nerth Duw, mewn
arfau cyfiawnder ar y llaw ddeheu, ac ar y
llaw asswy.

[8] Mewn parch ac ammarch, mewn clôd, ac
anglod, megis twyllwŷr, ac er hynny yn gywir,

[9] Megis anadnabyddus, ac [er hynny] yn
adnabyddus, megis yn meirw, ac wele ni yn
fyw, megis wedi ein cospi, ac heb ein lladd,

[10] Megis yn dristion, ac etto yn oestad [~ wastad ] yn
llawen: megis yn dlodion, ac etto yn cyfoethogi
llawer: megis heb ddim cennym [~ gennym ], ac etto yn
meddiannu pôb peth.

[11] Oh y Corinthiaid, ein genau a agorwyd
i chwi, ein calon a ehangwyd.

[12] Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr
chwi a gyfyngwyd arnoch yn eich ymyscaroedd
eich hunain.

[13] Am yr vn gwobr, megis wrth fy mhlant
yr wyf yn dywedyd, ymehengwch chwithau.

[14] Nac iauer chwi yn anghymharus gyd â 'r
anffyddlonion, canys pa gymdeithas sydd
rhwng cyfiawnder, ac anghyfiawnder? a pha
gyfeillach rhwng goleuni a thywyllwch?

[15] A pha gyssondeb sydd rhwng Crist a
Belial? neu pa ran sydd i 'r credadwy, ac i 'r
anghredadwy?

[16] A pha gydfod sydd rhwng teml Dduw,
ac eulynnod? canys chwi yw teml Duw byw:
fel y dywedodd Duw, mi a bresswyliaf, ac a
rodiaf yn eu mysc hwynt: a mi a fyddaf eu Duw
hwynt, ac hwy a fyddant yn bobl i mi.

[17] Am hynny deuwch allan o 'u plith hwy,
ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd: ac na chyffyrddwch

[td. 521v.a]
ddim aflan, yna mi a 'ch derbyniaf chwi

[18] A mi a fyddaf yn Dâd i chwi, a chwi a
fyddwch yn feibion, ac yn ferched i mi: medd
yr Arglwydd holl-alluoc.


PEN. VII.


Y mae yn eu hannog i sancteiddrwydd gan gofio iddynt
addewidion Duw. 8 Yn ymescusodi am eu tristau
hwynt. 13 Ac yn ddiolchgar yn coffau eu caredigrwydd
hwynt i Titus.


[1] AM hynny, gan fôd i ni yr addewidion hyn
(annwylyd) ymlânhawn oddi wrth bob
halogrwydd cnawd, ac yspryd, gan berffeithio
sancteiddrwydd yn ofn Duw.

[2] Derbyniwch ni, ni wnaethom gam i nêb,
ni lygrasom nêb, nid yspeiliasom nêb.

[3] Nid i 'ch condemnio yr wyf yn dywedyd,
canys mi a ddywedais o 'r blaen eich bôd yn ein
calonnau ni, i gyd-farw, ac i gyd-fyw.

[4] Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych:
y mae gennif orfoledd mawr ynoch: yr
wyf yn llawn o ddiddanwch, ac yn dra-llawen
yn ein holl orthrymder.

[5] Canys wedi ein dyfod i Macedonia ni
chai ein cnawd ni ddim llonydd, eithr ni a orthrymmid
o bôb parth, rhyfeloedd oddi allan, ac
ofn oddi mewn.

[6] Eithr Duw, yr hwn a ddiddâna y rhai cystuddiedig,
a 'n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus

[7] Ac nid âi ddyfodiad ef yn vnic, ond hefyd
â 'r diddanwch y diddanwyd ef gennych chwi,
pan fynegodd efe i ni eich awydd chwi, eich galar,
eich annwyl-serch i mi, fel y llawenheais i
yn fwy.

[8] Canys er i mi eich tristau chwi mewn llythyr,
nid yw edifar gennif, er bôd yn edifar gennif:
canys yr wyf yn gweled dristau o 'r llythr
hwnnw chwi, er [bôd hynny] tros amser.

[9] Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich
tristau, ond am eich tristau i edifeirwch, canys
tristau a wnaethoch yn dduwiol, fel na chawsoch
niwed mewn dim gennym ni.

[10] Canys duwiol dristwch a bair edifeirwch
er iechydwiaeth diedifarus: eithr bydol
dristwch a bair angeu.

[11] Canys wele, pa ofal ei faint a weithiodd
hyn ynoch chwi? [sef] tristau o honoch yn dduwiol,
 îe pa amddeffyn [~ amddiffyn ], îe, pa ddigofaint, îe, pa ofn,
ie, pa chwant, îe, pa wŷnfydiaid, îe, pa ddial? ym
mhôb peth yr ymddangosasoch i fod yn bur yn
y peth hyn.

[12] O herwydd pa ham, er scrifennu attoch,
ni [scrifennais] o 'i blegit ef a wnaethoedd y
cam, nac o blegit yr hwn a gafodd y cam, ond
er bôd yn eglur i chwi, ein gofal am danoch ger
bron Duw.

[13] Am hynny ni a ddiddanwyd o achos eich
diddanwch chwi, eithr llawenach o lawer oeddem
am lawenydd Titus, am lonni ei yspryd
ef gennych oll.

[14] Canys os gorfoleddais ddim wrtho am
danoch, ni 'm cywilyddiwyd: eithr megis y
dywedasom wrthych bôb dim mewn gwirionedd

[td. 521v.b]
, felly hefyd yr oedd ein gorfoleddiad ni
wrth Titus yn gywir.

[15] Ac y mae ei galondid ef yn helaethach tu
ag attoch, wrth gofio eich vfydd-dod chwi oll,
pa fôdd trwy ofn a dychryn, y derbyniasoch ef.

[16] Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder
arnoch ym mhôb dim.


PEN. VIII.


Y mae efe yn eu hannog hwynt i fod yn hael i 'r brodyr
tlodion, gan ddwyn iddynt siampl y Macedoniaid, 9
A Christ ei hun: 24 Gan ddangos hefyd y galle fod
ar y Corinthiaid eu heisieu hwythau.


[1] YR ydym hefyd yn yspysu i chwi, (frodyr) y
grâs Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia.


[2] Canys mewn mawr brofedigaeth cystudd
yr amlhaodd eu llawenydd hwynt, a 'i llwyr
eithaf dlodi a amlhaodd i 'w helaeth gymmwynascarwch
hwynt.

[3] Canys yn eu gallu (yr wyfi yn testiolaethu)
ac vwch-law eu gallu yr oeddent yn ewyllyscar.


[4] Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil,
ar dderbyn o honom ni yr haelioni a 'r cyfranniad
[a roddent] i wasanaethu 'r seinctiau.

[5] A [hyn a wnaethant] nid fel yr oeddem yn
gobeitho, ond hwynt hwy a 'i rhoddasant eu hunain
yn gyntaf i 'r Arglwydd, ac yna i ninnau,
trwy ewyllys Duw:

[6] Fel y dymunasom ni a 'r Titus, (megis y
dechreuase efe o 'r blaen) felly hefyd orphen yr
vn-rhyw haelioni yn eich plith chwi.

[7] Am hynny fel yr ydych yn amlhau yn
mhôb dim, mewn ffydd a gair, a gwybodaeth, ac
ym mhôb astudrwydd, ac yn eich cariad tu ag
attom ni, [ceisiwch] amlhau hefyd yn y grâs
hyn.

[8] Nid o rann gorchymyn yr ydwyf yn dywedyd,
ond o blegit diwydrwydd rhai eraill, a
chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.

[9] Canys chwi a adwaenoch râs ein Harglwydd
Iesu Grist, ac efe yn gyfoethog, ei fyned
er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid
chwi trwy ei dlodi ef.

[10] Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn,
canys da fydde hyn i chwi, y rhai a ddechreusoch,
nid yn vnic wneuthur, ond hefyd ewyllysio
er yr llynedd.

[11] Ac yn awr gorphennwch wneuthur hynny
hefyd, fel, megis yr oedd y parodrwydd i ewyllsio
[~ ewyllysio ], felly y byddo hefyd i gwblau o 'r hyn
sydd gennych.

[12] Canys os bydd yn gyntaf ewyllyscarwch,
cymmeradwy yw, yn ôl yr hyn sydd gan
ddŷn, nid yn ôl yr hyn nid yw ganddo.

[13] Ac nid i fod esmwythdra i eraill, a chustudd
[~ chystudd ] i chwithau.

[14] Eithr mewn cymhwysdra y mae eich helaethrwydd
chwi y pryd hyn, yn [diwallu] eu diffig
hwy, fel y gallo hefyd eu helaethrwydd hwynt
ddiwallu eich diffig chwithau, fel y byddo
cymhwysdra.


[td. 522r.a]
[15] Megis y mae yn scrifennedic, yr hwn
a gasclodd lawer, nid oedd ganddo weddill, a 'r
hwn a gasclodd ychydig, nid oedd arno eisieu.

[16] Ac i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn a
roddodd yng-halon [~ yng nghalon ] Titus yr vn-rhyw ofal
trosoch.

[17] Am iddo gymmeryd y dymuniad, a chan
fod yn fwy gofalus, ddyfod attoch chwi o 'i waith
ei hun.

[18] Ac ni a ddanfonasom hefyd gyd ag ef y
brawd yr hwn y mae ei glôd yn yr Efengyl,
trwy 'r holl eglwysi,

[19] (Ac nid [hynny] yn vnic, eithr hefyd efe
a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdeithio â
ni a 'r grâs hyn, yr hwn yr ydym ni yn ei wasanaethu,
o herwydd gogoniant yr Arglwydd, ac
[amlygiad] eich ewyllyscarwch chwithau)

[20] Gan ymochelyd hyn, rhag i nêb feio arnom
yn yr helaethrwydd ymma, yr hwn yr ydym
ni yn ei wasanaethu.

[21] Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau
onest, nid yn vnic ger bron yr Arglwydd, ond
hefyd o flaen dynion.

[22] Ac ni a anfonasom gyd â hwynt ein brawd,
yr hwn a brofasom yn fynych o amser, ei fôd yn
ddyfal yn llawer o bethau, ac yn awr yn ddyfalach
o lawer, am y mawr ymddyried [sydd gennif]
ynoch.

[23] Os [gofynnir] am Titus fyng-hydymaeth
[~ fy nghydymaith ] [yw,] a chydweithydd tu ag attoch chwi:
neu [am] ein brodyr, cennadau yr eglwysi [ydynt,]
a gogoniant Crist.

[24] Am hynny dangoswch tu ag attynt hwy
ger bron yr eglwysi, brofedigaeth o 'ch cariad, ac
o 'n hymffrost ni am danoch chwi.


PEN. IX.


Y mae efe yn dangos yrru o honaw ef Titus, ac eraill attynt,
fel y ceid hwynt yn barod, ac yn ewyllyscar i gyfrannu,
7 yr hwn beth sydd dda gan Dduw, 13
a moliannus iddo ef.


[1] CAnys, tu ag at am y weinidogaeth i 'r
sainct, afraid yw i mi scrifennu attoch.

[2] O herwydd mi a adwen eich ewyllyscarwch
chwi, [am] yr hwn yr wyf yn gorfoleddu
am danoch wrth y Macedoniaid, fôd Achaia yn
barod er yr llynedd, a 'r zêl [a ddaeth] oddi wrthych
chwi a annogodd lawer.

[3] A mi a ddanfonais y brodyr, rhag i 'n gorfoledd
ni am danoch fôd yn ofer, yn y rhann hon,
fel (megis y dywedais) y byddoch barod:

[4] Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyd â
mi, a 'ch cael chwi yn amharod, bôd i ni (ni ddywedaf
i chwi) gael cywilydd yn hyn o sylwedd
gorfoledd.

[5] O herwydd pa ham, mi a dybiais fôd yn
angenrhaid attolwg i 'r brodyr ddyfod o 'r blaen
attoch, ac i gwplau o 'r blaen eich bendith yr hon
a ragfynegwyd, fel y bydde yn barod, megis fel
bendith, nid fel o gymmell.

[6] A hyn [a ddywedaf,] a hauo yn brin a fêd
hefyd yn brin, ac a hauo yn helaeth a fêd hefyd yn

[td. 522r.b]
helaeth.

[7] Pob vn megis y mae yn amcanu yn ei galon,
felly gwnaed nid yn athrist, neu wrth gymmell,
canys y mae yn hoff gan Dduw roddwr
llawen.

[8] Ac y mae Duw yn abl i beri i bob grâs
amlhau tu ag attoch, fel y galloch chwi (â phôb
digonoldeb gennych, ym mhôb dim, bôb amser)
amlhau i bôb gweithred dda,

[9] Megis y mae yn scrifennedic, efe a wascarodd,
[ac] a roddodd i 'r tlodion, y mae ei gyfiawnder
yn parhau yn dragywydd.

[10] Hefyd yr hwn sydd yn rhoddi hâd i 'r hauwr,
rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaued
eich hâd, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder,


[11] Fel ym mhôb ffordd i 'ch cyfoethoger i
bôb cymmwynascarwch, yr hyn a weithia trwyddom
ni ddiolch i Dduw.

[12] Canys y mae gweinidogaeth y swydd
hon, nid yn vnic yn cyflawni angenrhaid y
sainct, ond hefyd yn amlhau, gan lawer diolch i
Dduw, trwy brofiad y weinidogaeth hon,

[13] [Y rhai sy] yn moliannu Duw am eich
cydsynniol ymostwng i Efengyl Grist, ac am
eich cymmwynascar gyfranniad iddynt hwy, ac
i bawb oll,

[14] A thrwy eu gweddi hwythau y rhai ydynt
yn hiraethu am danoch chwi, am yr ardderchawg
râs Duw [yr hwn sydd] ynoch.

[15] Ac i Dduw y byddo 'r diolch am ei anrhaethol
dawn.


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section