Adran o’r blaen
Previous section

Detholiad o faledi gan Ellis Roberts (Elis y Cowper)

Cynnwys
Contents

BWB 268(2) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. ... Yr ail. O Waith Elis Roberts, i ofyn Par o Glocs i'w Gymydog. (Croesoswallt: Argraphwyd gan W. Edwards, tros Richard Roberts, M,DCC,XCIII.), 7-8 (baled 2).
BWB 271(2) Ellis Roberts. Dwy gerdd newydd, ... Yr Ail, Cerdd a anfonodd Ellis Roberts at Thomas Edwards, ar Ddull ymofyn pa Achos fod cymmaint Llygredd a Dallineb yn Eglwys Loegr, &c. (Croesoswallt: Argraphwyd gan W. Edwards ..., M,DCC,XCIV), 4-8 (baled 2).
BWB 332(1) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O drymder galarus am ROYAL GEORGE yr hon a suddodd yn ei Harbwr, gyda mîl o bobl oedd arni lle yr aeth tri Chant o Ferched i'r gwaelod a Phlant gyda nhw. ... (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782), 2-5 (baled 1).
BWB 334(1) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. Y gyntaf o ddiolchgarwch i DDUW a roes llu GEORGE RODNEY i orchfygu ein gelynion, ar y ffordd irIndia. Yn ail CAROL Plygain Newydd i'r flwyddyn o Oedran Crist 1783 (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782), 2-3 (baled 1).
BWB 334(2) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. Y gyntaf o ddiolchgarwch i DDUW a roes llu GEORGE RODNEY i orchfygu ein gelynion, ar y ffordd irIndia. Yn ail CAROL Plygain Newydd i'r flwyddyn o Oedran Crist 1783 (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782), 4-8 (baled 2).
BWB 342(1) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. Rhybydd i bawb feddwl am ei diwedd, a gweled a chlywed rhybuddion ac arwyddion y mae Duw yn ei roddi drwy 'r Mellt ar Tarane y Flwyddyn hon, yn enwedig y Flaned ymddanghosodd y 18. dŷdd o fis Awst. II. Yn mynegi hanes Gwraig yn yr Iwerddon yn y Gwanwyn diwaetha a fu farw o Newyn wedi iw Chymydoges ei naccau hi o luniaeth yngwystl ei Dillad. (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 2-4 (baled 1).
BWB 342(2) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. Rhybydd i bawb feddwl am ei diwedd, a gweled a chlywed rhybuddion ac arwyddion y mae Duw yn ei roddi drwy 'r Mellt ar Tarane y Flwyddyn hon, yn enwedig y Flaned ymddanghosodd y 18. dŷdd o fis Awst. II. Yn mynegi hanes Gwraig yn yr Iwerddon yn y Gwanwyn diwaetha a fu farw o Newyn wedi iw Chymydoges ei naccau hi o luniaeth yngwystl ei Dillad. (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 5-8 (baled 2).
BWB 346(1) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O ffarwel ir MILITIA Cymru. II. O hanes merch fonheddig a Feichîogodd o'i gwâs, ag a laddodd ei Phlentyn, ac aî rhoes dan wely 'r forwyn, ac wenwynodd y gwâs, a phan oedd y forwyn yn cael ei chondemnio, daeth Yspryd y gwâs ar plentyn ac achubodd ei bywyd. (Trefriw: Argraphwyd, gan Dafydd Jones, 1783), 2-5 (baled 1).
BWB 346(2) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O ffarwel ir MILITIA Cymru. II. O hanes merch fonheddig a Feichîogodd o'i gwâs, ag a laddodd ei Phlentyn, ac aî rhoes dan wely 'r forwyn, ac wenwynodd y gwâs, a phan oedd y forwyn yn cael ei chondemnio, daeth Yspryd y gwâs ar plentyn ac achubodd ei bywyd. (Trefriw: Argraphwyd, gan Dafydd Jones, 1783), 6-8 (baled 2).
BWB 347(1) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O Hanes dychryn ofnadwy a fu yn yn yr Italia modd y darfu i Dduw singcio Tri-Chant o Drefydd, a thair o Drefydd Caerog; ac nid oes yno ddim ond llyn o ddŵr dî-waelod. II. Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc ai Gariad, bob yn ail Penill (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 2-5 (baled 1).
BWB 347(2) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O Hanes dychryn ofnadwy a fu yn yn yr Italia modd y darfu i Dduw singcio Tri-Chant o Drefydd, a thair o Drefydd Caerog; ac nid oes yno ddim ond llyn o ddŵr dî-waelod. II. Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc ai Gariad, bob yn ail Penill (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 6-8 (baled 2).
BWB 348(1) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. Hanes Gwraig a phedwar o Blant oedd yn byw yn Sir Kent, fel y danfonodd Duw ei ragluniaeth iw phorthi yn ei Newyn ag a achubodd ei bywyd hi ai Phlant drwy ddanfon Ci a Bara yn ei safn. ... (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 2-6 (baled 1).
BWB 358(1) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I Hanes Fel y rhoes Merch Fonheddyg ei ffansi ar Fâb i Hwsmon yn yr Iwerddon ag fel yr enynodd llîd ei Thâd yn eu herbyn or achos ag a geisiodd ei llâd ag a wnaeth benn am dano eî hun. II Cwynfan hên Ferch oedd wedi pasia dyddiau Carwriaeth (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1784), 2-4 (baled 1).
BWB 358(2) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I Hanes Fel y rhoes Merch Fonheddyg ei ffansi ar Fâb i Hwsmon yn yr Iwerddon ag fel yr enynodd llîd ei Thâd yn eu herbyn or achos ag a geisiodd ei llâd ag a wnaeth benn am dano eî hun. II Cwynfan hên Ferch oedd wedi pasia dyddiau Carwriaeth (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1784), 5-8 (baled 2).
BWB 359(1) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O Rybydd i bob Dyn, i ochelyd Cwmpeini yn Siampl ofnadwy fu flwyddyn hon, am un Michael Jaccar, yr hwn a darawodd yn ddiarwybod wrth ddau o Ladron oedd yn dwyn Wates, ag o achos bod yn ei Cwmpeini mis Mowrth fo gafodd golli ei fywyd o achos ei drygioni nhw. II. Ymddiddan rhwng y Ffarmwr ar Tylawd bob yn ail penill (Trefriw: Argraphywd gan Dafydd Jones tros Harri Owen, 1784), 2-4 (baled 1).
BWB 359(2) Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O Rybydd i bob Dyn, i ochelyd Cwmpeini yn Siampl ofnadwy fu flwyddyn hon, am un Michael Jaccar, yr hwn a darawodd yn ddiarwybod wrth ddau o Ladron oedd yn dwyn Wates, ag o achos bod yn ei Cwmpeini mis Mowrth fo gafodd golli ei fywyd o achos ei drygioni nhw. II. Ymddiddan rhwng y Ffarmwr ar Tylawd bob yn ail penill (Trefriw: Argraphywd gan Dafydd Jones tros Harri Owen, 1784), 4-7 (baled 2).
BWB 370(1) Ellis Roberts. Balad. Yn Cynnwys Dwy O Gerddi Duwiol. I. Ar Dorriad y Dydd am ddyfodiad CRIST ir Farn. II. Ar Belisle march, o ddull ymddiddan rhwng yr Enaid ar Corph: bob yn ail Pennill (Trefriw: Argraphwyd, 1787), 2-4 (baled 1).
BWB 370(2) Ellis Roberts. Balad. Yn Cynnwys Dwy O Gerddi Duwiol. I. Ar Dorriad y Dydd am ddyfodiad CRIST ir Farn. II. Ar Belisle march, o ddull ymddiddan rhwng yr Enaid ar Corph: bob yn ail Pennill (Trefriw: Argraphwyd, 1787), 4-8 (baled 2).
BWB 371(1) Ellis Roberts. Tair o gerddi duwiol Yn gyntaf O Rybydd i bawb ymgroesi rhag iddyn wallgofi o achos y Prês diffaeth. Yn ail. Ymherthynas ir Gwragedd melltigol sydd yn gwerthu eu Plant î Wlâd y Barbariaid dinistriol. ... (Trefriw: Argraphwyd, 1787), 2-3 (baled 1).
BWB 371(2) Ellis Roberts. Tair o gerddi duwiol Yn gyntaf O Rybydd i bawb ymgroesi rhag iddyn wallgofi o achos y Prês diffaeth. Yn ail. Ymherthynas ir Gwragedd melltigol sydd yn gwerthu eu Plant î Wlâd y Barbariaid dinistriol. ... (Trefriw: Argraphwyd, 1787), 4-7 (baled 2).
BWB 373(1) Ellis Roberts. Balad newydd yn cynnwys dwy o gerddi Yn Gyntaf, O Rybydd i bob Dyn a Dynes feddwl am y gwirioneddol Dduw cyn cychwyn oi Tai rhag na ddoe nhw byth yn ol yn gyffelyb ir trueiniaîd yma a gollodd ei bywyd wrth ddyfod adre o Ffair FANGOR Dydd llun 25. o Fehefin. 1787. Yr ail, Wedi ei chymmeryd o Efangylaidd leferydd Arglwydd y bywyd, allan or 6. o IOAN. lle mae i fendîgedig fadroddion ysprydol ef (: , Argraphwyd yn y 1787), 2-5 (baled 1).
BWB 373(2) Ellis Roberts. Balad newydd yn cynnwys dwy o gerddi Yn Gyntaf, O Rybydd i bob Dyn a Dynes feddwl am y gwirioneddol Dduw cyn cychwyn oi Tai rhag na ddoe nhw byth yn ol yn gyffelyb ir trueiniaîd yma a gollodd ei bywyd wrth ddyfod adre o Ffair FANGOR Dydd llun 25. o Fehefin. 1787. Yr ail, Wedi ei chymmeryd o Efangylaidd leferydd Arglwydd y bywyd, allan or 6. o IOAN. lle mae i fendîgedig fadroddion ysprydol ef (: , Argraphwyd yn y 1787), 6-8 (baled 2).
BWB 374(2) Ellis Roberts. Balad Yn Cynnwys Tair O Gerddi Newyddion. ... II. I annerch y Prif-Fardd awenyddol a gyfenwir SION ap SION o Lan y Gors o Blwyf Cerrig y Drudion III. Penill ir Pres diffaeth (: tros Dafydd Dafis, Argraphwyd yn y Flwyddyn 1787), 4-7 (baled 2).
BWB 374(3) Ellis Roberts. Balad Yn Cynnwys Tair O Gerddi Newyddion. ... II. I annerch y Prif-Fardd awenyddol a gyfenwir SION ap SION o Lan y Gors o Blwyf Cerrig y Drudion III. Penill ir Pres diffaeth (: tros Dafydd Dafis, Argraphwyd yn y Flwyddyn 1787), 8 (baled 3).


[BWB 268(2): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. [...] Yr ail. O Waith Elis Roberts, i ofyn Par o Glocs i'w Gymydog. (Croesoswallt: Argraphwyd gan W. Edwards, tros Richard Roberts, M,DCC,XCIII.), 7-8 (baled 2). ]


[td. 7]

"Anhawdd Ymadael."

HYD attoch benillion yn gyson i gyd, \
Yn gywraint rwy 'n gyrru y leni 'n ddi lid, \
I 'ch cofio ag i 'ch cyfarch naws annerch yn siwr, \
Un Edward Sion Edward da ei gariad yw 'r gwr. \
Hwsmon mwyneiddlan a diddan ei daith, \
Fe weithiai mewn heiddiant yn gywraint bob gwaith; \
Pan fyddo fo yn 'smala [~ ysmala] yn y Gaia' mi a 'i gwn, \
Clocsiwr pur drefnus a hwylus iw hwn. \
Wrth glywed eich canmol wr reïol erioed, \
Am glocsen pur daclus wr trefnus i 'm troed, \
A wnaeth imi yrwan oer gwynfan ar gais, \
A lledu fy hopran yn llydan a 'm llais. \
Am bâr o glocs mawrion a hirion ar hynt, \
I 'm cadw ymhob [~ ym mhob] cornel rhag oerfel a gwynt, \
Gwnewch hwy o newydd wych beunydd o 'ch bodd, \
Ac imi danfonwch a rhoddwch hwy 'n rhodd. \
Rwyfi etto 'n dymuno ichwi eu llunio hwy 'n llawn, \
Crwyn dau o geffylau yn eu cefnau pe cawn; \
A gwadnau o goed gwydnion yn llyfnion o 'ch llaw \
Ni fynnai 'run [~ yr un] wernen na bedwen bren baw. \
Rhaid imi gael derwen mae 'n dirion y gwaith, \
I gerdded y dolydd ar mynydd oer maith, \

[td. 8]
A rheini rhwng dwylath a thairllath o dew, \
Hwy fyddan yn burion rhag barrug a rhew. \
Gwisg certwen yn waltas o 'n cwmpas wr call; \
Yn llawn o strôc hoelion yn bolion di ball; \
A dwy fil o llympiau yn eu sodlau nhw yn siwr, \
I guro mewn cerrig oer derrig a dwr. \
Mi af ynddynt i garu tan ganu tôn gu, \
Fe adwaenir fy rhediad yn dwad at dy, \
Mi fydda yn fras gammwr a neidiwr y nos, \
Mi gerdda bob ceunant a phennant a ffos. \
Mi ddarfum yn sydyn eu gofyn i 'r gwr, \
Rwy 'n ofni beth gormod mae 'n syndod yn siwr, \
Fy nghoesau sydd feinion rhw foddion rhy faith, \
Nid allai mo 'i cario na 'i chwimio nhw ychwaith. \
Dymuno rwy yrwan y truan di drai, \
Gael fy nwy glocsen wr llawen beth llai: \
Ni waeth geni wernen na derwen gwir yw, \
Mae honno 'n ysgafnach a llonnach ei lliw. \
I 'ch dysgu wr dawnus nid trefnus mo 'r tro, \
Gwell y gwyr creftwr [~ crefftwr] digynnwr dan go, \
Na dyn sy 'n pen synnu tan ganu ton gall, \
Heb feddu mo 'r llygad i weled ei wall. \
Ond gweithiwch nhw 'n gryfion yn burion trwy bwyll, \
Yn glampiau o glocs newydd a deunydd di dwyll \
Pan ddelont i 'm dwylo mae 'n deilwng i mi, \
Roi diolch yn bendant wych haeddiant ichwi. \
DIWEDd.


[BWB 271(2): Ellis Roberts. Dwy gerdd newydd, [...] Yr Ail, Cerdd a anfonodd Ellis Roberts at Thomas Edwards, ar Ddull ymofyn pa Achos fod cymmaint Llygredd a Dallineb yn Eglwys Loegr, &c. (Croesoswallt: Argraphwyd gan W. Edwards [...], M,DCC,XCIV), 4-8 (baled 2). ]


[td. 4]

I 'w chanu ar "King's Farewell."

Y Brawd Tomas dyma 'r tymmor, \
I mi d' anrhegu a geiriau 'n rhagor; \
A dod dy ferdyd i mi ar fyrder, \
Pwy dynnodd lygaid Eglwys Loegr? \

[td. 5]
Am nad yw brwd nag oer ei geiriau, \
Ond yn glaiar a than gloiau, \
Heb nefol sain 'r Efengyl gain, \
I gywrain ragori \
I godi dynion i 'r daïoni, \
A 'u dadwreiddio o fudredi: \
Ow! Darfu 'r awdurdodau didwyll, \
A fyddeu i gynne 'r fuddiol ganwyll, \
I oleuo dyn i 'w wel'd ei hun, \
Ar ffyrdd y golyn gwaeledd, \
A 'i fod mewn gyrfa draw yn gorfedd, \
Ym mhell aneiri ymhwll [~ ym mhwll] anwiredd. \
Ow! Eglwys Loegr dwl olygon, \
Tu mewn i odineb y mae ei dynion; \
Ac at y Buttain Babilonaidd, \
Mae pawb yn 'nynnu [~ enynnu] bob yn enaid, \
Ond o wiriondeb ant i wrando, \
Mae 'n dosturus, heb ystyrio, \
Na cheisio byw yn ol gair Duw, \
Ond swyro [~ sawru] rhyw bleserau, \
A rheini ddaliant eu meddyliau, \
Mewn cyfyng ing rhag cofio angau \
Ac a ddarllenant yn y llannau, \
Am drugaredd Duw mewn geiriau, \
Heb geisio efe, na theyrnas Ne' \
Ond ar dafodau 'n fydol, \
A 'u holl galonnau hwy 'n olynol, \
Mewn dull anafus dwyll annuwiol. \
Fy ffrynd considra hyn mewn sadrwydd, \
Pa sut orau yw ffordd sancteiddrwydd? \
A'i [~ Ai] fel mae dynion gwael eu doniau, \
Yn gwneud gwaith saled ar y Suliau? \
Hwy ant i 'r Eglwys mae 'n beryglon, \

[td. 6]
A 'r byd yn gywlaid yn y galon; \
Chwantau 'r cnawd, gwyn a gwawd, \
Yn llys y brawd Nefolgu, \
Mewn dwl hanes a dâl hynny, \
Mynd mor ddiras trwy byrth yr Iesu ? \
Ac o ran ffasiwn gwnant gyffesiad, \
Eu bod yn daerion bechaduriaid, \
Gan adde i gyd, eu bod mewn byd, \
Heb ddim o 'r iechyd iachus, \
Ger bron ar osteg Nefol Ustus, \
Dweud celwyddau, byd cywilyddus. \
A thrwy 'r Gwasanaeth yn gysonol, \
Hwy wrandawant fel rhai duwiol; \
Gwrandawant Bregeth hefyd yno, \
A 'r holl hanes sydd am honno: \
Ni hwrach [~ hwyrach] y dywed rhai rhagrithiol, \
Fod y geiriau yn dda rhagorol, \
Ac yno o hyd, ant at y byd, \
Dewisol fryd i ymdesach; \
"Un i 'w faes, a 'r llall i 'w fasnach," \
Heb fawr ymofyn am Dduw mwyach: \
Fe aeth Gwasanaeth Eglwys Loegr, \
Ymgais ofer megis arfer; \
Mynd i 'r Llan, o fan i fan, \
Fel rhai o ran pleser, \
Heb geisio dim ond pasio 'r amser, \
Yn ail i nwyfus ddynion ofer. \
Fe luniwyd dau o ddyddiau mawrion, \
Yn Eglwys Loegr mewn golygon, \
Y Pasg a 'r Sulgwyn yw eu henwau, \
Gwyliau nodawl i 'r eneidiau; \
Gwyliau i fwyta Bara Nefol, \
Gwyliau______________________ol! \

[td. 7]
Amser yw, i gyduno a Duw, \
Trwy Grist gwir yw 'r ystyr, \
I iachau a chodi pob pechadur, \
I gym'ryd gafael ar ffordd gywir; \
Trwy addaw bod o hynny allan, \
Yn ddi wahaniaeth yn Nghrist ei hunan, \
Ond nid felly bydd, prin cadw un dydd, \
I ymgeisio ffydd gyson, \
Ar ol eu Cymmun, troi i ffyrdd ceimion, \
Heb ddim mwy cofio am waed y Cyfion. \
Os ceiff Duw cyfran bach o 'r Suliau, \
Mae 'r ddau ddydd Llun i 'r Satan yntau; \
Ceir gweled amryw fu 'n cymmuno, \
Wrth Butt Ceiliogod yn cyd lygio, \
Rhai efo Thenis, rhai efo Thannau, \
Bawb yn ymgyrraedd ar y gorau; \
Pwy bynnag fydd am gario 'r dydd, \
Dig'wilydd [~ Digywilydd] o du 'r gelyn, \
I 'w riwlio camwedd ar ol eu Cymmun, \
Bydd ynte i 'w coledd ac i'w ca'lyn [~ canlyn]; \
Bydd rhai yn llafar dyngu llyfon, \
A rhai yn fyddar ac yn feddwon, \
Ar ol cael cnawd Crist Iesu frawd, \
A 'i waed ddiffawd i 'w golchi; \
Ant at y gowdel fel ci gwedi, \
Neu' r hwch a dreiddiff i fudreddi. \
Wel meddi di 'r gwir frawd hyfrydol, \
Ai 'n groes i 'r Bibl y mae 'r bobl, \
Yn meddwl myned i Baradwys, \
A hwythau yn cadw 'r ffasiwn Eglwys; \
Ond trwm yw gwel'd y rhai feddylied, \
Heb berchi 'r un Duw mwy na 'r Indiaid, \
Gwneuthur gwawd o fwyta cnawd, \

[td. 8]
Crist Iesu ein brawd a 'n T'wysog [~ Tywysog]; \
Ac ail ddirynnu 'r goron ddreiniog, \
Ar ben ein anwyl Oen eneiniog; \
Ow! Poeri i wyneb un pur ei anwedd, \
Ac a ' i groeshoelio Nefol Sylwedd, \
Oh! ffiaidd aed, sathru a thraed, \
Cof i ni Waed Cyfammod, \
O ran drwy 'r Cymmun y mae 'r cymmod, \
I 'mendio [~ emendio] buchedd pawb o bechod: \
P'le 'r aeth 'r Efengyl wen a 'i dyfais, \
A 'n hadgenhedlau ni a 'i hadlais? \
Yn Physygwriaeth byddau ei geiriau, \
Iawn hynodawl i 'n heneidiau; \
Ni welir weithian fawr gyfnewid, \
Yma ar undyn ond byw 'n ei wendid, \
A llwyr ymroi, heb geisio troi, \
Ac wedi ymgloi mewn pechod: \
Nid oes o 'u ddeutu neb i 'w ddattod, \
Nes y geilw Crist nhw o 'r gwaelod; \
Wel dyma 'r tymmor dywed Tomas, \
_wyth oer uchel beth yw 'r achos, \
[B]od eglwys Crist mewn byd mo'r [~ mor] drist, \
A 'r ffasiwn anghrist ynddi, \
I roi iddi 'n berffaith lanwaith 'leuni [~ oleuni], \
Duw a 'i dda lwyddiant a ddel iddi. \
DIWEDd.


[BWB 332(1): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O drymder galarus am ROYAL GEORGE yr hon a suddodd yn ei Harbwr, gyda mîl o bobl oedd arni lle yr aeth tri Chant o Ferched i'r gwaelod a Phlant gyda nhw. [...] (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782), 2-5 (baled 1). ]


[td. 2]

Cwynfan Brydain.

CLYWCh alar Clychau wylo, \
Trwm gwyno tra mawr gynnwr [~ gynnwrf], \
Am Lestr Cadarn dichlyn \
a sydde [~ suddai] i 'r goflin gyflwr \
Amdani hi mae colled \
a dwned am ei dynion, \
A newydd dâ sy o 'i cholli \
y leni i 'n gelynion, \
Hi oedd yn llawn o arfe \
am fyned oddi Cartre, \
I roi dwys boena [~ boenau] i Longe 'Spaen, \
Ni bu ar Fôr mo 'i chystled, \
Na Llongwyr cyn gowreiniaid, \
Am yrru bleiddiaid drŵg o 'i blaen, \
Ow Royal George gyflymma, \
Drwy 'r Deyrnas a 'r gadarna, \
Hî oedd y fwya ond un ar Fôr, \
Pob Batle a 'r ymladde \
mewn 'wllys hi a 'i enîlle, \
Bu 'n bur bob siwrne i 'r Brenin SIOR. \
Yr awr yr aeth hi i 'r gwaelod, \
Roedd diwrnod prydd i 'r Deyrnas, \
Sef gweled yno 'n feirwon, \
Ei champion oll o 'i Chwmpas, \
Rhai ddywed ma'i [~ mai] diofalwch, \
Gwybyddwch oedd ei boddi, \
Ei gadel hi ar ei hochor \
i fwrw 'r Cefnfor iddi, \
Pedfese [~ Ped fuasai] Dduw 'n i gwilio, \
Ni allase 'r Môr mo 'i thwtsio, \
Nag i suddo hi yno yn siwr, \
Pur debyg mai gwaith pechod, \
A bare i 'r Nefol Dduwdod, \

[td. 3]
Roddi dyrnod iddi a 'r dŵr, \
Fe fase hi a 'i dynion \
mewn llawer mwy beryglon \
Ym mysc gelynion fryntion fryd, \
Nag oedd yr amser honno. \
O sywaeth cadd hi suddo, \
A 'i departio o olwg byd. \
Peth na fynno 'r Arglwydd, \
Da lywydd byth ni lwydda, \
O achos digio 'r Cyfion \
dialeddion aeth i laddfa, \
O herwydd pechod gwirfodd, \
Y boddodd hi gwybyddwch, \
Fel na chadd hi mwach [~ mwyach] nofio, \
Ar ol digio Duw a 'i dêgwch, \
Fe gafodd hir lwyddiant, \
Dros saith ar hugain pendant, \
O flwydde dweudant [~ dywedant] ar y dŵr, \
Hi oedd y Llong gadârne [~ gadarnaf] \
oedd gan y brenin pura \
A 'r gyflyma a 'r sada yn siŵr, \
Ow Royal George oedd wisgi, \
A 'r Cowraint wŷr oedd arni, \
Sydd wedi boddi Cledi [~ Caledi] clir, \
Ag nid ymhell mewn gyrfa, \
Ond yma yn ymyl cartre, \
Moddion taera ymin [~ ym min] ein tîr, \
Tri chant oedd ynddi o Ferched, \
Roedd hyn yn flaenad flina, \
A dynne donne 'r Cefn-for, \
ar dymor o 'r byd yma \
Ni achubwyd un honyn [~ ohonynt], \
o 'r sydyn ddwr arswydus, \
Nhw gawsant yno drengu, \

[td. 4]
A 'i llwyr ddibennu 'n boenus, \
Mae 'r Nefol frenin Cyfion, \
Yn gweled pob dirgelîon, \
I lawr yn union o wlad Nê, \
Er ei fod ê yn hir ei amynedd, \
Fe ddaw i daro o 'r diwedd, \
Heb un trugaredd gyd [~ gydag] ê, \
Daeth help o law puteindra, \
I syddo 'r Llestr ymma, \
I ddigio 'r penna doetha Duw, \
Danfonodd wynt ar donne, \
Mewn ychydig o funude, \
Gwnaeth fel na fydde neb yno 'n fyw, \
Pan oeddent ar ei Cinio, \
Heb neb am goelio o 'i galon, \
Na chlywed yn ei ffroena [~ ffroenau], \
Ddim arogle drwg beryglon, \
A chyn dau bedwar munud, \
Caen [~ Caent] symmud o 'r oes ymma, \
Aeth mil i lawr i 'r gwaelod, \
Yn gafod yno yn gyfa, \
Tri Chant a ffoes oddi yno, \
Oedd ar y Dec yn waitio, \
Dan gyd ddylifo doent i 'r lan, \
Yn ôl 'roedd dêg o gantoedd, \
Drwy Ange a 'r dŵr a drengodd, \
Oll yno foddodd yn y fan, \
Roedd hyn yn olwg drymllyd, \
I gymaint golli ei bywyd, \
Heb arnyn glefyd ymin [~ ym min] ei gwlad, \

[td. 5]
Mae aml heilltion ddagre, \
I 'w hanwyl geraint gore, \
Mae i Dade a Mame 'r briwie brâd, \
Mae yn golled fawr î 'n Brenin, \
Sydd ben pob gwerîn gwiwras, \
Am Royal George a 'i thegwch, \
Cadarnwch oedd i 'w Deyrnas, \
A cholli ei Wŷr hwylusa, \
Gâdd am Ryfela foliant, \
Oedd gowraint am drin arfe, \
Nhw ymladde dros ei lwyddiant, \
Roedd hên lawenydd Calon, \
I bob un o 'i ddrwg elynion, \
Roedd ei golledion ô i 'w gwellhau, \
'Ran 'roedd y Llong nodedig, \
A 'i Hadmiral parchedig, \
Yn curo 'r ffreinig Wŷr bob ffrau, \
Yr Arglwydd a warchodo, \
Wyr SIOR lle bont yn Morio, \
Rhag etto syddo î flin senn, \
A ymgadw mewn gofalon, \
Rhag aflan druhwant creulon, \
I gid 'run [~ yr un] moddion oll Amen. \
E Roberts


[BWB 334(1): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. Y gyntaf o ddiolchgarwch i DDUW a roes llu GEORGE RODNEY i orchfygu ein gelynion, ar y ffordd irIndia. Yn ail CAROL Plygain Newydd i'r flwyddyn o Oedran Crist 1783 (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782), 2-3 (baled 1). ]


[td. 2]

Duw gadwo'r Brenhin.

CYD ganwn ar gynnydd, o foliant ir Arglwydd \
A roddodd nerth newydd i ni, \
I ymladd an creulon aflonydd elynîon, \
Llu diclon rai bryntion ei bri, \
Er cryfed ei Harmy er amled ei llestri, \
Er cîmin yw llenwi 'roedd llid, \
Doe Admiral Rodney i dorri ar ei chwareu, \
Fo wnaeth a nhw or goreu yno'i gid, \
Ag iddyn nhw y talodd ar furie 'r hen forodd, \
Fo'i torrodd fo'i drylliodd nhw draw, \
Cadd allu gan yr Arglwydd iw gostwn i gystudd \
Ai gwneuthur yn llonydd gerllaw. \
Ar ffordd i West India y Brenhin gorucha, \
Danghosodd [~ Dangosodd] anwyldra yno yno i ni, \
Drwy Rodney'r gwr nerthol rheolwr ei bobol, \
Rhinweddol îawn freiniol freîniol o fri, \
Mawr fyddin or ffrangcod ai drylliodd i drallod \
Fo'i taflodd i benod o bwys, \
Fe gowsont ei cludo yn rhwym i Jewmacco, \
Am iddyn nhŵ ddeilio mor ddwys, \
Deg Cistied o Arian a golle 'r llu aflan, \
Yn gyfan bu'n anîan y nod, \
Oi gwaith bod yn giedd iw dilyn doe'r dialedd \
Iw herbyn troe'n rhyfedd y Rhod, \

[td. 3]
Mae colled nhw oi cyfri am 9 oi mawr Lestri \
Ag un gadd ei llosgi yn y lle, \
Tri chant ar ddeg union o aflonydd elynion, \
Oedd ar un Llong greulon o grê \
Hon oedd fawr aneiri a Chanans prês arni, \
Gwir ydi yn ei broi yn ei bryd, \
I Hadmiral ciedd roedd yno faint rhyfedd \
Saith droedfedd un hoywedd o hyd, \
Er cryfed y fulen hen wr deg a thrugain \
A roddodd un diben ar daith, \
Er pob nerth a chryfdwr Duw ydi Rhyfelwr, \
Cyntreifiwr a gwêithiwr y gwaith, \
Un awr ar ddeg cyfa parhaes yr ymladdfa, \
Heb wybod pwy'n benna oedd yn bod, \
Ond er cimin oedd cryfder y ffrangcod di 'sgeler \
Aeth Lloegr eglurber ar glod, \
Gwyr Rodney gyfarwydd, \
Gâdd nerth gan yr Arglwydd, \
I wneuthur gonestrwydd mewn nerth, \
Er cimin y llarpio drwy 'r diwrnod a darnio, \
Fe ddarfu congcwerio' llu'r certh, \
Gwyr brydain oreurog ymladde'n galonnog, \
Yn erbyn rhai llidîog yn llawn, \
Dan Sior frenin ffyddlon, \
Gwŷr ffraingc a gurason, \
Ymhob moddion nhw wnaethon yn iawn. \
Llaw Duw gogoneddus sy'n cynnal ein hynys, \
Yn erbyn rhai barus sy'n bod, \
Neu base'n holl ddynion dan draed ein gelynion, \
Er ei bod yn rhai glewion o glôd \

[td. 4]
Mae brenhin y Nefoedd i'n cadw nin rhywfodd, \
Yn erbyn teyrnasoedd o nerth, \
Saf pedair o honyn sydd dost yn ein herbyn, \
A gallu pob gelyn sydd gerth, \
Cynhalied yr Arglwydd, \
Ein teyrnas mewn sadrwydd, \
In brenhin ai Goron an heglwys lan dirion, \
Ai dynion run moddion Amen. \
E Roberts


[BWB 334(2): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. Y gyntaf o ddiolchgarwch i DDUW a roes llu GEORGE RODNEY i orchfygu ein gelynion, ar y ffordd irIndia. Yn ail CAROL Plygain Newydd i'r flwyddyn o Oedran Crist 1783 (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782), 4-8 (baled 2). ]

Gwel yr Adeilad

TRIGOLION union anwyl, deffrowch, \
At nefol orchwyl, ar berwyl bore, \
Mae'n wyl Mâb Duw sancteiddlan, i gofio \
Ei henw 'n gyfan a glân galone, \
Dydd mawr: llowydd nef llawr, \
Diffoddodd fflame Uffern loesa, \
Fe agorodd gaera nef ole gore'i gŵawr, \
Clod fyth yw enw hyfryd bob munud enyd awr, \
Mae'n ddydd: yn Seion ffyddlon ffydd, \
Llawenydd inni darfu genî or forwyn Fari, \
Un Duw in rhoddi 'n rhydd, \
Fe dynodd golyn ange, \
An rhoesa an bronne 'n brudd. \
Fe roddodd Duw 'n Tâd Adda, Yngardd Eden \
Gwir a ddweuda man lowna am luniaeth, \
Fe roes orchymyn arno, 'n wybodol \
Yno beidio, a phren gwybodaeth, \
Mewn ffost: daeth sattan filen fost, \

[td. 5]
I'w denu 'n dynar i ddigio ei meistr, \
Mewn llid a ffalster gorthrymdor caethder cost, \
Ag afal gwaharddedig, \
Fe 'î rhoes mewn dirmyg dost \
Rol hyn: daeth trâllod syndod synn, \
Yn boenus benyd fe'i troes Duw hyfryd, \
Nhw o dir y bywyd i adfyd tynfyd tyn, \
I lawr ir wae dragwyddol, \
O ardd nefol freiniol frynn. \
Daeth iddyn dost anffôrtyn, am iddyn, \
Goelio gelyn ââhydun hudwr, \
Nhw gollant wlad trugaredd, nhw aent \
I bwll anwiredd, mewn gwaeledd gyflwr, \
Ei braint rhyfeddol yw ei faint, \
Cyn rhoi tragwyddol Baradwys nefol, \
Am ffwrn Uffernol poenydiol hydol haint, \
Collasoch chwech o oesa drysore Duw ai sain, \
Fe ddaeth dychryndod syndod saeth, \
Ai gwaith am golli gwlad golenni, \
Rhoi plant mewn cledi trueni gweîddi gwaeth \
Ond clod ir arglwydd santedd \
Trugaredd deiwedd daeth. \
Ni allase angylion nefodd, na lluoedd \
Daear Moroedd roi fyth ymwared \
Nes dyfod mâb Duw santedd, a agore \
Ddrws trugaredd di oferedd fwriad, \
Ei hun yn Dduw nefol ddoniol ddyn, \
Or Nefoedd ucha ir Ddaear isa \
I achub gwaela hil Adda llyma llun, \
In codi o bwll trueni in golchi bod ag un, \

[td. 6]
Mewn cnawd: doe'r brenin Iesu ein brawd, \
Mewn nerth dragywyddol i safio ei bobol, \
Mewn byd cystuddiol, di lesol yn dylawd, \
Dioddefodd flin gystuddie, \
Blindere geirie gwawd. \
Ni chadd y Nefol Iesu, ond lletty oer \
Mewn beudy, gwely galar, \
Gwell helynt na'r Duw pura, a gafodd \
Y tylotta ar sala ei sylwedd; \
Fe roed ir gwâela er Adda erioed, \
Amgenach triniaeth ddydd genedigaeth, \
Nag ir Duw perffaith, \
Mewn purffydd fodd di-foed, \
Iw sywyd cadd ffordd bigog, \
A dreiniog iw ddau droed, \
Ei oes: o hyd oi gryd iw Groes, \
Câdd flin ofidie a gorthrymdere, \
A chwerwon loesa, fe gerdda lŵybre loes, \
Er hynny Iesu'r Cyfion yn rhyddion ef an rhoes \
Fe gafodd erledigaeth, a mawr \
Gystuddie helaeth cyn diodde hoelîon, \
Fe geîsiodd Herod oerddu, drwy fwrdro \
Yr plant oi ddeutu, ladd Iesu'r cyfion, \
Pan ddaeth: dan bechod pawb yr aeth, \
Yr Oen sancteiddiol, yr Iôr tragwyddol, \
Gwnae wrthie nerthol rhyfeddol foddol faith \
Ir gole ef an galwodd, fe an cododd o le caeth, \
Troi'r dŵr: yn wîn yn sydyn siwr, \
Rhoi clyw îr byddarion, tafode i fudion, \
Traed ir cloffion, ein tirion Dduw an twr, \

[td. 7]
Ir Eglwys mae fe'n gymwys, \
Yn burlwys wiwlwys ŵr, \
Fe ymendiodd y cythreilig, bu'n feddyg \
Ir rhai lloerig, Oen Duw llariedd, \
Fe gododd Lazarus hwnnw, a unig, \
Fâb y weddw, o feirw i fowredd, \
Rhoi'r dall: i weled pob rhyw wall, \
Fe borthe gwaelion bum mil dynion, \
Fe ddysge'r gwîrion ffordd gyfion i syw'n gall, \
Datododd rwyde an daliodd, \
Difrododd waith y fall, \
Gwir Iôr a gauodd Uffern ddôr, \
Fe ddaeth in prynnu at nefol deulu, \
I wlad nefolgu i ganu nefol gôr, \
Gostegodd nerthol donne fe gerdde ymyle 'r môr \
Dioddefodd ef bob dirmyg, er mwyn \
Ein troi 'n gadwedîg, un didwyll haeledd, \
Fe gafodd ei gernodio, eî focio \
Ai wawdio ai guro'n ddi-drugaredd, \
Fe'i gwnaed gan Iuddewon eirwon aed, \
Yn ferthyr mwya ar Ddaear yma \
Bu'Ngardd Gethsemane yn chwsu wiwdda waed \
Yn llys yr Arch-Offeiriad yno, \
Yr Nef Athro ei guro a gaed, \
Ei ben ef: Eneiniog brenin Nef, \
Ar bigog Goron o ddrain llymion, \
Ai ddal rhwng Lladron ar groes oedd greulon gre \
Bu'n diodde poen a dirmyg, \
Hyll oerddig oedd y llef, \

[td. 8]
Wrth ddiodde 'r groes Oen grasol, \
Bu farw ei natur ddynol i fywiol fywyd, \
Gorchfyge ai farwolaeth, nerth Uffern \
Golledigaeth, fe an dyge i wynfyd, \
Gwaith ni: Oen Duw ath roddodd dî, \
I dost ferthyrdod milen chwerdod, \
Eist dan ein pêchod, oedd bechod cryndod cri \
Ti gollist waed dy galon tros ddynion fryntion fri \
Oen Duw ein bywyd gwynfyd gwiw, \
Doist in codi o bob trueni ag etto gwedi, \
Ymhob caledi ti an clyw, \
Di wyt waredwr nerthol ar ran y dynol-ryw. \
Mil faith gant pedwar ugain a dwy flwydd, \
Oed ein perchen, Duw cyfiawn cofir, \
Ymgeisiwn bawb ein goreu, am fyned \
Hyd dy lwybre mewn geirie geirwir, \
Drwy'n craig cawn Nefol siriol saig, \
Cawn fynd yn union i Gaersalem dirion, \
I fysg Angylion drwy roddion had y wraig, \
A llwyddiant ar eîn siwrne, \
Oddi wrth holl holl ddryge 'r Ddraig, \
Ein pen: Mâb Duw or Nefoedd wen, \
Gwir gadw 'n gyfion ein brenin ffyddlon, \
An Heglwys dirion rhag dynion surion sen, \
Dod heddwch i ni'n Lloegr a mwynder oll Amen \
Ellis Roberts
TERFYN


[BWB 342(1): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. Rhybydd i bawb feddwl am ei diwedd, a gweled a chlywed rhybuddion ac arwyddion y mae Duw yn ei roddi drwy 'r Mellt ar Tarane y Flwyddyn hon, yn enwedig y Flaned ymddanghosodd y 18. dŷdd o fis Awst. II. Yn mynegi hanes Gwraig yn yr Iwerddon yn y Gwanwyn diwaetha a fu farw o Newyn wedi iw Chymydoges ei naccau hi o luniaeth yngwystl ei Dillad. (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 2-4 (baled 1). ]


[td. 2]

Duw gadwo 'r Brenhin.

CYD ddowch or un duedd \
Yn Ysbryd gwirionedd, \
I ystyr yn buredd drwy bwys, \
Fel 'rydych yn gorwedd ynghanol anwiredd, \
Heb weled y diwedd blin dwys, \
Na chanfod y moddion er addysg arwyddion, \
Fel 'rydoedd Duw 'n danfon bob dŷdd, \
Nag attal chwaith etto, \
Na chymryd dim cyffro, \
Na ystyrio ond rhodio 'n ben rhydd, \
Mis Awst y daunawfed y gwelwyd coch Flaned, \
Yn arwydd or caled fyd caeth, \
Fod Angeu du'n dyfod am wneud ein dibendod, \
Bydd chwerdod a syndod y saeth, \
Ni waeth gin ange diclon pa fuchedd a fyddom \
Fo an gwneiff yno'n feirwon îr fan, \
Na pha'run or ddau feistr fydd ini'n yr amser, \
Pan ddelo dydd llymder y llan, \
Os byddwn nî meirw yn y pechod blin chwerw, \
Cawn fod y dydd hwnnw 'n ddi-hedd, \
Os awn tan law ange cyn 'mado an pechode, \
Ni erus ein beie yn y Bêdd, \
Drachefn doen iw gweled yn Nydd adgyfodiad, \
I beri caethiwed caeth iawn, \
Pan ddelo dŷdd Iesu trwy bur nerth in barnu, \
Lle cawn ein colledu yno'n llawn, \

[td. 3]
Digofaint Duw 'r lluoedd sy'n ofid or Nefoedd, \
A hyn a rybyddiodd y byd, \
Yn Flaned oer flina cyn dyfod trom wasgfa \
Yn ddalfa ac yn draha blin drud, \
Mae'r Arglwydd ar fedr an rhoddi ar fyrr amser \
Ir caethder ar trymder mawr trist, \
Rhag penyd cystuddiol dau gwell i ni ymorol, \
Fel unol rai grasol am Grist, \
Marwolaeth di ddarfod geifr dyn yn ei bechod, \
Heb gaffael iawn gymod yn gu, \
A hynny cyn clefyd pan oedd yn ei iechyd, \
Yn unfryd ei fywyd a fu. \
Rhybyddion or Nefoedd bu deni laweroedd, \
Ar Mellt yma laddodd gryn lu, \
'Nifeilied a dynion yngwledydd y Saeson, \
Rhyw greulon o foddion a fu, \
Rhyw bobl a leche pan oedd y mawr Drane \
Ynghysgod dwys gore Das gwain, \
A Mellten aî trawodd ar cwbl ennynnodd, \
Ar tân yno ympiriodd fel pair, \
Y gwair aeth ny ulw ar bobl yn feirw, \
Ai Cnawd oedd yn lludw hyd y lawr, \
Ni welwyd un Corphyn yn hynod o honyn \
A hyn mewn munudyn un awr, \
'Roedd eraill wrth Dderwen \
Yn gochel gwlaw milen, \
Ag attyn doe Fellten go fawr, \
Hi wnaeth y pren creulon wasgarog ysgyrion \
Ai daflu 'n ddellt llymion ir llawr, \

[td. 4]
Rhai yno fynafodd ar lleill a ddychrynodd, \
Ar cwbl a synodd yn siwr, \
'Nifeilied yn cwympio gan Fellt yn ei dragio, \
A syndod yn gwyro pob gwr, \
Oni bae fod yr Arglwydd, \
Yn llawn trugarogrwydd, \
Fe allase fwy tramglwydd ar dro, \
A rhoddi dibenion ar filoedd o ddynion, \
Oedd ymma 'n rhai bryntion in brô. \
Bu 'r Ddaear yn crynnu, \
Hyd fanne yngwlad Cymru, \
Mae 'n debyg fod Iesu Mâb Duw, \
Ar fyrrder am ddyfod i farn in cyfarfod, \
Gwae rhai sy dan bechod yn byw, \
Bu leni golofne o Niwl hyd ein parthe, \
Ar Haul yma goche yn ein gwydd, \
Roedd llawer o bobl yn disgwyl nerth Nefol, \
A Christ yn orseddfol iw swydd, \
Ni hwyrach yn bene cyn del y ffair nesa, \
Y gelwir ni ir Noddfa uwch y nenn, \
Yr Arglwydd Dduw hynod, \
An gwnelo nî 'n barod, \
I ennill y mawr glod Amen. \
Ellis Roberts a'i Cant

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section