Adran o’r blaen
Previous section


[BWB 342(2): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. Rhybydd i bawb feddwl am ei diwedd, a gweled a chlywed rhybuddion ac arwyddion y mae Duw yn ei roddi drwy 'r Mellt ar Tarane y Flwyddyn hon, yn enwedig y Flaned ymddanghosodd y 18. dŷdd o fis Awst. II. Yn mynegi hanes Gwraig yn yr Iwerddon yn y Gwanwyn diwaetha a fu farw o Newyn wedi iw Chymydoges ei naccau hi o luniaeth yngwystl ei Dillad. (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 5-8 (baled 2). ]


[td. 5]

Parson Parish

CLOWCh hanes gwraig di duedd,
Am wneud trugaredd gu,
A chanddî hi 'r oedd moddion,
Jaith unîon yn ei thŷ,
Daeth atti hi gymdoges,
Mae 'r hanes yma o hyd,
Mewn alar mawr dan wylo,
I dreio amser drud.
Nî fedde hon yn llymed,
Na thamaid yn ei thŷ,
A phedwar o Blant bychain,
Yn llefain yno 'n llu,
Yn Crio i gid gan Newyn,
Ond gerwin oedd y gwaith,
Ag un yn fychan yno,
Yn sugno mawrdro maith.
Ei Mam nhw gododd allan,
Yn egwan iawn ei nerth,
Heb feddu o fewn ei Chaban,
Nag Arian chwaith na'î gwerth
Hi gymre ei phais ai ffedog,
Ddyledog Wraig dylawd,
Dan obaith cael am danyn,
Mewn gerwin flwyddyn Flawd.
Hi aeth i dŷ Cymdoges,
Iuddewas drwg di Dduw,

[td. 6]
I ddeisyf ei syberwyd,
i safio ei bywyd byw,
Ai Dillad iw rhoi 'n wystl,
Yn syfyl am y saig,
I aros trugaredde o rywle i dalu ir wraig,
Y Wraig ddi deimlad honno,
Er Cwyno ai naccaes,
Er maint a grefa hi yno,
Dan wylo a lleisio yn llaes,
Nî chadd hi un briwsionyn,
Fe berthyn hyn i bwys,
I safio ei phedwar Plentyn,
Rhag Newyn dygn dwys.
Y Plant yn dweud iw gilydd,
Ein Mam ddedwydd toc a ddaw,
Daw inni rhag marwolaeth,
A lluniaeth pur oi llaw,
Cawn oddiwrth ei phais ai Ffedog,
Yn fowiog iawn o fwyd,
Fel na bo'm mewn eisie,
An lliwie oll mor llwyd.
Ei Mam ddoe'n fuan adre,
Heb gael gwerth Dime ar dir,
Heb ddim i dorri ei Newyn,
Bu 'n erwin hyn yn wir,
Hi gymmerth ei dyn bychan,
Modd breulan at ei bron,
Gan Newyn daeth marwolaeth,
Anhowaeth toc ar hon.

[td. 7]
Y Wraig oedd anrhugarog,
Yn gefnog dweuda iw gwr,
Y modde y naccause,
Y Wraig ar siwrne'n siwr,
A fase am wystlo ei dillad,
Ai llîw mewn llygriae lwyd,
Fel cowse ei phlant rhag eisie,
Yn rhyw fodde ganddi fwyd,
Y gwr pan glywodd hynny,
A gode i fynu 'n fwyn,
Ag aeth a lluniaeth iddi,
I dorri ei chyni ai chwyn,
Ond erbyn iddo fyned,
Yn fwynedd iw Thŷ hî,
Fe wele'r Wraig yn farwedd,
Ar Plant dan groywedd grî,
Roedd plentyn bâch yw sugno,
Ar ol iddo drigo draw,
Ar ol iddi farw o Newyn,
Drwy niwed mawr a braw,
Ar Gwr yn gweiddi allan,
Yn fuan yno fu,
Nes codi 'r holl gymdogion,
Modd tirion at y tŷ.
Nhw aent ar plant iw porthi,
Ag iw digoni 'n gu,
A rhoddi ei Mam drwy alar,

[td. 8]
I bridd y Ddaear ddu,
Y Gŵr a fu ddîcllonus,
Am anghysurus saig,
Ei waith yn anrhugaredd,
Mor ryfedd ar ei Wraig,
Gwynfŷd a fo 'n drugarog,
Medd gwir Eneiniog Nê,
Bydd hwnnw i gael ei alw,
I hoyw loyw lê,
Ceîst fod yn fendigedîg,
Nodedig wedi ei daith,
A mynd ir Deyrnas dirion,
Am ffyddlon wiwlon waîth:
Peth drwg iw calon gledwch,
Dî degwch medd gair Duw,
Pedfase ai porthase fe fase hon yn fyw,
Yr Arglwydd an gwaredo,
Rhag syrthio i ffasiwn sen,
I ado neb mewn newyn,
Na niwed fyth Amen.
Ellis Roberts a'i Cant
DIWEDd


[BWB 346(1): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O ffarwel ir MILITIA Cymru. II. O hanes merch fonheddig a Feichîogodd o'i gwâs, ag a laddodd ei Phlentyn, ac aî rhoes dan wely 'r forwyn, ac wenwynodd y gwâs, a phan oedd y forwyn yn cael ei chondemnio, daeth Yspryd y gwâs ar plentyn ac achubodd ei bywyd. (Trefriw: Argraphwyd, gan Dafydd Jones, 1783), 2-5 (baled 1). ]


[td. 2]

Ffarwel Brydain.

FfARWEL fo i 'r enwog lân lu arfog,
Dan SIOR Goronog gywir râs,
I fynd o 'i cartre i bell siwrne,
I gadw ein caera [~ caerau] rhag rhai câs,
Sy a meddwl creulon am lâdd ein dynion,
Dîstryw estron fryntion fryd,
Eî dyfais waedlyd sydd bob munud,
Am ddwyn ein bywyd oll o 'r byd,
Nerth i fyned i 'r hên Frutanied,
Oedd gynt ddiniwed dan y Nê,
I gadw allan holl lu Satan,
Sy ar gefnfor llydan ym mhob lle.
Dowch yn un galon ddownus ddynion,
H[o]ll Langcie dewrion mwynion Mon,
Byddwch barod i ymgyfarfod,
A 'r lluoedd Ffrangcod syndod sôn,
Byddwch fentrus dros eich Ynŷs,
[H]ên wlad barchus ddilys dda,
[Y]n hon mae golud ymborth bywyd,
Mewn enw hyfryd Aua [~ aeaf] a Hâ,
Dowch chwi rai lysti Langcie yr Yri [~ Eryri],
Mae clod fawr i chwi yn Army o nerth,
I attal bleiddied aflan willied,
Gwag Babistied synied serth.

[td. 3]
Gwŷr Dimbych dirion ddownus ddynion,
Chwi yn un galon oll ymgwyd,
Yn 3 chant o 'ch gwirfodd dowch mewn dewrfodd
'Run [~ Yr un] modd a lluoedd Athan Llwyd,
I attal milain bradwyr Brydain,
Duw drachefen fo gyda chwi,
Ag a 'ch dygo adre yn ol o 'ch siwrne,
Mewn moddion gore breintie a bri,
Doed da dynghedfen i 'r cant ag ugien [~ ugain],
O 'r Fflint drachefen lawen lê,
Duw fo 'n eich gwarchod chiw 'n eich gorchwyl,
Mewn dawn anwyl dan y Nê.
Daionî i ddynion mawrwych Meirion,
I droi gelynion drawsion draw,
A 'i harfe gloywion nhw sydd ddewrion,
I rwystro estron fryntion fraw,
Chwi wŷr addfwyn Sîr Drefaldwyn,
Sy 'n gwchol gochwyn rwyddfwyn rai,
Glân ddysgawdwyr dewr ryfelwyr,
Gore Sawdwyr chwi ni sai,
Byddwch ddewrion oll un galon,
Na ddel caseion brenin SIOR,
Sy 'n llawn mewn Llonge o danllyd arfe,
Yn nofio tonne murie 'r môr.
Chwi wŷr gwisgi Aberteifi,
Sy mynd o ddifri y leni ar led,
Byddwch ffyddlon dan y goron,
Rhag gelynion cryfion cred,
Duw fo 'n llwyddo gwŷr Sir Benfro,

[td. 4]
Caerfyrddin gryno gore eî grym,
Doed gwyr purlan hen wlad Morgan,
Yn erbyn llydan gledde llym,
Doed llu enwog gwŷr Mercheiniog
Yn erbyn enwog lidiog lu,
I gadw beunydd gaera [~ gaerau] ein gwledydd,
A Duw fo 'n llywydd ar y llu.
Chwi langcie cywir y DEHEUDIR,
A GWYNEDd siccr gwn a sai,
Rhyfelwyr Cymru oedd gynt yn ffynnu,
I 'w rhifo i synu yn rhai di fai,
Byddwch ddichlyn dan eich brenin,
Yn erbyn gerwin fyddin fawr,
Os bydd Duw Celi yn gymorth i chwi,
Fe gewch ei torrî y leni i lawr,
Mae 'n fyd peryglus ar ein hynŷs,
Trî chant iw dewis ymhen pob dau,
Sydd yn yr atgas bedair teyrnas,
Sy yn awr o 'i cwmpas ymron cau,
Boed llaw Duw pura ymhlaid [~ ym mhlaid] MILITIA,
I 'w rhwystro nhw yma garwa gwyr,
Nhw fasen drosodd er's blynyddoedd,
Ond fel ympurîodd Arglwydd pur,
Nid ŷm ni i'n gweled ond megis dyrned
Wrth beder llonged fawr o 'r llu,
Ond mae Duw yn attal ei nerth nhw etto,
Rhag ein darnio a 'r cledde du,
Mae rhyw drugaredd maith di ddiwe[dd]
Ond pur ryfedd mae 'n parhau,

[td. 5]
Mae i ni ragluniaeth y Duw perffaith,
A 'i nefol gywaeth heb ei gau.
Gwŷr Ifeingc Cymru ymwnewch mewn gallu,
Os Duw sy 'n ffynnu hyn î fod.
Y 3 blynedd yma fydd ddiwaetha,
Drwy 'r Messeia glana ei glôd,
Ymrowch bob calon am Dduw cyfion,
Nhw fyddan blinion lymion lid,
Nid oes ond trugaredd y Duw santedd
Na basen gaethedd oll eu gid [~ i gyd],
Mae hynny yn ddigon Duw tro bob calon,
I roi gweddion yma yn ddwys,
Gwna nî 'n unig yn gadwedig,
Cyn y pergyg mawr a 'r pwys.
Y glan Frutaniaid na fyddwch ddiriaid,
Ond dinîwaid dan y Nê,
Gadewch bob traha a phuteindra,
Rhag del lladdfa î bob llê,
3 blynedd blinion llawn peryglon,
A gewch chwi yn drymion hyn o dro,
Rhag i Dduw y purder ddanfon trymder,
Neu ryw brinder mawr i 'n bro,
Pawb sy 'n caru Militia Cymru,
Rhoed Weddî gu heb synnu sen,
Ar Dduŵ 'r uchel-ne i gadw o 'r dryge,
I gyd mewn gore modde Amen.
Ellis Roberts


[BWB 346(2): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O ffarwel ir MILITIA Cymru. II. O hanes merch fonheddig a Feichîogodd o'i gwâs, ag a laddodd ei Phlentyn, ac aî rhoes dan wely 'r forwyn, ac wenwynodd y gwâs, a phan oedd y forwyn yn cael ei chondemnio, daeth Yspryd y gwâs ar plentyn ac achubodd ei bywyd. (Trefriw: Argraphwyd, gan Dafydd Jones, 1783), 6-8 (baled 2). ]


[td. 6]

Amorylis.

CLOWCh hanes creulon moddion mawr,
Am ferch fonheddîg glan ei gwawr,
Mewn agwedd noeth mynega yn awr,
Fel a bu dirfawr derfyn,
Beichiogi o 'r gwâs a wnaeth hi 'n faith,
Mewn hudol waith anhydyn,
Hi lîniodd [~ luniodd] fyned gyd ag ê,
I arswydus siwrne sydyn.
Hi a gychwyne i ffwrdd o 'i phlas,
Gyda ei morŵyn bur a 'i gwâs,
I 'r Bath y dweuda y ferch ddirâs,
Yr ae hi o bwrpas yno,
I edrych oedd mewn moddion ffri,
Ddim mwynder iddi ymendio,
Yr aîl nôs o 'i chartre daeth,
Yn glafedd aeth i glwyfo.
Roedd gwely eî morwyn lan ei bri,
Yn yr un Siamber efo hi,
Ond ei meistres yno yn wael ei chri,
Trwm oêdd y cledi [~ caledi] a 'i cludodd,
A 'r gowlaid [~ goflaid] bach pan ddaeth i 'r byd,
Gwall hefyd hi a 'i lladdodd,
A 'i morwyn hefyd glan ei gwawr,
O 'i chlefyd mawr ni chlwyfodd.
'Rol [~ Ar ol] iddi fygu 'r gowlaid [~ goflaid] wan,

[td. 7]
Hi gode yn ddistaw yn y man,
Ag at y forwyn oedd liw 'r can,
Rhoe 'r gelan [~ gelain] dan ei gwely,
A hon oedd flin ar ol ei thaith,
Mewn cysgod waith yn cysgu,
Hêb fawr feddwl yn hynny o lê,
Fod allan ddrygau felly.
Fe fore gôde 'r ferch ddi-râs,
Yn sydyn galwodd ar i gwâs,
Dan ddŵeud yr ae hi 'n ol i 'w phlâs,
Fod achos addas iddi,
Fod yno hardd gwmpeini mwyn,
Yn galw ar dwyn amdani,
Ag ar y ffordd y gwas mewn braw
Dechreua eî hylaw holi.
A gofyn iddi yn hynny o bryd,
A ddaetha 'r plentyn bâch i 'r byd,
Fel galle fagu hwn o hyd,
A gado bywyd iddo,
I 'w synnu o hyd pan sonie hyn,
Dechreue 'n ddygn ddigio,
Yn y pentre nesa ymlaen pan ae,
Yn union gwnae 'i wenwyno.
Ar hyn fe ddaeth Swyddogion aed,
I 'w dwyn yn ol a 'i dal a wnaed,
Cae forwyn gloie ar ei dwylo a 'i thraed,

[td. 8]
A 'i barnu a wnaed yn euog,
A 'i barnu i 'w chrogi ar ddiwrnod prydd,
Mawr gerydd anrhugarog,
Oni bae ragluniaeth Duw o 'r Nê,
A 'i dyge o friwie afrowiog.
Doe 'r gwas a gawse ei wenwyno i 'r lle,
A 'r Plentyn bychan gyd ag ê,
O flaen y faingc drwy waith Duw Nê,
I ddweud geiria [~ geiriau] dros y gwirion,
A 'r feistres yno yn ei llê,
Gadd ddiodde loesa [~ loesau] creulon,
Mae Duw yn gweled o 'i nefol fro,
Ag i 'w gofio sawl sy gyfion.
E. R.
DIWEDd.


[BWB 347(1): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O Hanes dychryn ofnadwy a fu yn yn yr Italia modd y darfu i Dduw singcio Tri-Chant o Drefydd, a thair o Drefydd Caerog; ac nid oes yno ddim ond llyn o ddŵr dî-waelod. II. Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc ai Gariad, bob yn ail Penill (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 2-5 (baled 1). ]


[td. 2]

Ffarwel Trefaldwyn,

DOWCh bechaduriaid oll i glywed,
Ar hyn o ganied [~ ganiad] bod ag un,
Modd y mae 'r Arglwydd hylwydd haela,
Yn rhoi dalfa ar bob dyn,
Pob un a ddalio î 'w ddigio yn ddygn,
Fo geiff arswydus ddiwedd sydyn,
Fel rhoes ê 'r Diluw a 'r Dialedd,
I foddi byd o anwiredd,
Am gamwedd budredd ffiedd ffol,
A 'i bwrw i ffwrn Uffernol,
Na ddeuen dros dragwyddol,
Bethe annuwiol byth yn ol,
Mae 'r Duw dihalog Nefol Dwysog,
Yn drugarog digon gwir,
Ag mae fe 'n gyfion dalwr diclon,
I 'r dynion bryntion cledion [~ caledion] clir,
Y becho i 'w erbyn ê 'n ddi arbed,
Yn ddi-gywilydd galon galed,
Fe rydd Duw felldith hirdrom,
Fêl rhoes o gynt yn Sodom,
Yn ystorom tân tost iawn,
A 'i wlawîo yn fflame trymfodd,
I 'w nafu [~ anafu] oll o 'r Nefoedd,
I losgi lluoedd oedd yno 'n llawn,
Yngwlad [~ Yng ngwlad] Italia y flwyddyn yma,
Bu drom wasgfa tyna taith,

[td. 3]
Mae 'n gyffelybrwydd mae digio 'r Arglwydd,
Yn ddi gywilydd a fu 'r gwaith,
Fe roes y cofus frenin cyfion,
Ar Dir a Moroedd Daranau mowrion,
A 'r Mellt yn Saethe tanllyd,
Bob moment â phob munud,
Yn ddychrynllyd embyd [~ enbyd] iawn,
A 'r Ddaear oedd yn siglo,
A 'r Trefydd mawr yn syrthio,
I lawr yn llithro yno 'n llawn,
Y Tân yn fflamio a 'r Môr yn rhuo,
A 'r tai yn cwympio yn llithro o 'i llê,
A 'r holl wlad burlan liwdeg lydan,
Yn 'nynny [~ enynnu] 'n anian dan y Nê,
A 'r Trefydd cryfion fowrion furie,
Yn mynd i 'r gwaelod hefo 'i gwalie,
Aeth trî chant o Bentrefydd,
I 'r gwaelod hefo 'i gilydd,
I 'r un dihenydd cerydd câs,
Dros drigain mil o ddynion,
Ei bywyd a gollason,
O rai pen ryddio oedd ddi-ras,
Tair o Ddinasoedd yno gwympiodd,
Ac a suddodd oll yn siwr,
Nid oes hanes un ohonyn,
Ar llawr derfyn ond llyn dwfr,
Na 'r un î 'w gweled o 'r trigolion
I gell isel a gollason,
Ow 'r plant a 'r glan famhaethod,

[td. 4]
Mewn galar aeth i 'r gwaelod,
Mae wedi darfod oll ei dydd,
Ple bynnag y mae cartre,
Hynodol i 'w Heneidie,
Nhw aent i 'r siwrne a 'i brone 'n brudd,
Dyma ddychryn sadwedd sydyn,
Dyma anffortyn dygn dwys,
Dyma adfyd na chawsen ddiengud,
Cyn cwrdd a drygfyd penyd pwys,
Yr holl achosion mawr trwch ysig,
Oedd achos digio 'r bendigedig,
Sef ffiedd bechod hagr,
Agorodd safn y Ddaear,
I 'w llyngcu i 'r galar bod ag un,
Ni buon heb ddepartio
mor ugain munud cryno
I waelod yno ni welwyd un,
Dyma syndod mawr di ddarfod,
Am fod dan bechod drwg yn byw,
Dyma gyffro hir y 'w gofio,
A 'r achos yno oedd digio Duw,
Dyma 'r dygn farnedigaeth,
Mynd i 'r dyfnsiwn oll ar unwaith,
Heb hanes un ohonyn
yn ffoi o 'r blin anffortyn,
Ond syrthio i 'r gerwin dychryn du,
Drwy 'r maith anfeidrol ddyffryn,
Yn awr ni weliff undyn,
Ddim ol na Thyddyn chwaith na Thŷ.

[td. 5]
Dyma 'r garwa ddiwedd tosta,
Fel llu Cora tryma trô,
Y Ddaear embyd [~ enbyd] yn agoryd,
I ddwyn ei bywyd gaethfyd go,
Ni chaent mor cimin o waith camwedd,
Ag un munud nag amynedd,
Ond mynd i lawr yr eigion,
I dywyllwch fel rhai deillion,
A bod trwm foddion yno fyth,
Gwae rhai a ddigio 'r Arglwydd,
Ni welant yn dragywydd,
Ddim o 'r llawenydd sadrwydd syth.
Rhain oedd ddynion uchel feilchion,
Yn rhith Crisnogion [~ Cristnogion] waelion wedd,
Nhw aeth o 'i Cartre o 'r un Ange,
Mewn aswy boena yn is na 'r Bedd,
Rhain oedd daeredd bechaduriaid,
Ag er na wyddent mo 'r diweddiad,
Fod Cledde Duw mor agos,
I 'w torri nhw 'n ddi ymaros,
I wlâd yr hîrnos byr nos ben,
Cymerwn ninne rybydd,
Holl bobl Cymru beunydd,
Mewn hendre a mynydd oll Amen.
Ellis Roberts


[BWB 347(2): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O Hanes dychryn ofnadwy a fu yn yn yr Italia modd y darfu i Dduw singcio Tri-Chant o Drefydd, a thair o Drefydd Caerog; ac nid oes yno ddim ond llyn o ddŵr dî-waelod. II. Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc ai Gariad, bob yn ail Penill (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 6-8 (baled 2). ]


[td. 6]

Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc a 'i Gariad bob yn ail penill; ar Loath to Depart fyrraf.

Mab.
Y Ganaid iredd gain a dewrwych,
Clos yn adrod clws yn edrych,
A rowch i genad un deg union,
I ddweud fy meddwl hardd ei moddion.
Ferch
Mae ganddoch Dafod landdyn mwynlan,
Ddâ wych enw o 'ch eiddo 'ch hunan,
Y mwyndeg rosyn mae i chwi groeso,
Wneud was hynod iws ohono,
Mab
Doeth ymadrodd iawn pe 'i medrwn,
Y Chwi o filoedd a ganfolwn,
Rhown i chwi beunydd ymâ yn benna,
Fawl daionus fel Diana,
Ferch,
Nid wi 'n ymorol am gymyreth,
Tyfiad gwan na 'r tafod gweiniaeth,
Gwell geni o 'r galon un gair gole,
Na mil ar gân o fawl o 'r gene,
Mab
Nid ar Dafad hynod hanes,
Y doethum yma i goffa 'r gyffes,
Ond o 'r galon enw gwiwlwys,
Yn ffyddlon burffydd un berffeiddiwys,
Ferch
Mi glywais ddweudyd fod y meibion,

[td. 7]
O dêg olwg a dwy galon,
Un mewn dwyfron ymin [~ ym min] darfod,
A 'r llall yn tyfu yngwraidd [~ yng gwraidd] y tafod.
mab
Rwyfi mor bur a 'r dur heb dorri,
Fel roedd y Puramws a Thesbi,
Mi dybiais i eich bod lliw 'r eira,
Yn fwy tybyccach [~ tebycach] i Rebecca.
ferch
Rwyfi o synwyr fel Siwsanna,
I garu 'r parod landdyn pura,
Pedfawn yn gwybod pwy ydi hwnnw,
Mi fyddwn ffyddlon iddo hyd farw,
mab
Fi ydi 'r dyn ei hun i 'w henwi,
Mewn byrr atteb yn bur itti,
Ag di gei weled gwen lliw 'r hinon,
Fod pura golwg fel y galon,
ferch
Mi glywais ddweudyd fod rhai meibion,
Yn angharedig pan brîodon,
Wedi altro 'r tafod melfed,
A 'i droi fel Cefn y Draenog caled.
mab
O na choelia pur ei Chalon,
Na bydda yn ddi-dwyll fy addewidion,
Mentra di a choelia ngeiria [~ fy ngeiriau]
Y byddai yn bur i ti hyd Anga [~ Angau].
ferch
[td. 8]
Mi fenrwn [~ fentrwn] hefo chwi yn fwy hyfach,
Pedfae 'r Farchnad yn beth rhatta,
Ofni rwy na chawn mo 'r lluniaeth,
I gael gafeilîo [~ gafaelio] mewn bywoliaeth,
mab
Fe istwn ŷd daw byd o 'r gore,
Nid ydym ni ond dau o benne,
Cyn delo chwaneg taw na chwyna,
Bydd haws cael bwyd y flwyddyn nesa.
ferch
Ofni rwy na fyddwn flwyddyn,
Nag un Chwarter heb y Plentyn,
I 'r Cyflwr hwnnw cyd fodlonwn,
Ran ein bod mor glos i 'r ffasiwn
mab
Paid fy Anwylyd ac anghoelio,
Ni gawn ddigon gan Dduw Iago,
Ni gawson hyd yn hyn ein lluniaeth,
Ni a 'i cawn yn felys hyd farwolaeth,
Ferch
Geiriau teg sy 'n gwyro meddwl,
I rwy fi yn gwybod hyn yn gwbl,
Pedfawn i gyda chwi 'n ddyweddi,
Mi gawn yn gegnoeth genych goegni.
Rwy fi 'n dy garu di fy anwylyd,
O flaen un ferch o fewn yr hollfyd,
Mae genyf aur ac arian ddigon,
Di gei fyd wrth fodd dy galôn.
Ellis Roberts.
DIWEDd.


[BWB 348(1): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. Hanes Gwraig a phedwar o Blant oedd yn byw yn Sir Kent, fel y danfonodd Duw ei ragluniaeth iw phorthi yn ei Newyn ag a achubodd ei bywyd hi ai Phlant drwy ddanfon Ci a Bara yn ei safn. [...] (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783), 2-6 (baled 1). ]


[td. 2]

Cwynfan Brydain.

RhOWCh genad immi draethu,
Neu ganu hyn ôm gene,
Fel mae rhagluniâeth Nefol,
Dedwyddol yn ein dyddiau;
Maê'r Arglwydd mawr yn clywed,
Mae 'n gweled pob dirgelion,
Fe ŵyr cyn inni feddwl yn fanwyl ein gôfynion
Mae Duw trugarog ffyddlon,
Mae'n borthwr y tylodion,
Cofus cyfion union iw:
A'i ofal sydd drachefen,
Dros bob gwaelion truain,
Neu ni basen ddim yma 'n byw,
Danghosodd mewn ffordd ryfedd,
Ir weddw wael dylodedd,
O'i ddwylo'r llynedd dda wellhâd,
Hon oedd ai phedwar Plentyn,
Yn ymyl marw o Newyn,
Ond rhoes Duw 'n sydyn i hon leshad.
Ymhlwy Stutn roedd hi 'n tario,
Yn sir Kent er cofio 'r cyfan,
Ai gwr oedd wedi marw,
Heb ond ei henw ei hunan;
At gadw ei phedwar plentyn,
O dyddiau Newyn oeddynt
Ar plwy heb roi fawr iddi,
Na'i holi am ei helynt,

[td. 3]
Ei henw oedd Mary Blacca,
Doeth arni flin gyfyngdra,
O eisio bara llymdra llwyd,
Ar plant yn gwneud oer leisie,
Yn wylo 'r heilltion ddagre,
Ar nôs a bore o eisio bwyd,
Er cerdded drwy 'r gymdogaeth,
Ni chadd hî ddim cynhaliaeth,
Ran mor ddiluniaeth oedd y Wlâd,
Er cŷmin oedd ei chledi,
Ni ystyrient mewn tosturi,
I geisio ei lloni a dim gwelhad.
Ag yno 'r aeth ei Newyn,
Yn drablin ag yn drwblus,
Ar Wraig dechreuodd alw,
Ar dâ enw Duw daionus,
Ar plant yn wylo yn chwerwedd,
Yn ddi duedd fyth heb dewi,
Ow Mam mae 'n helynt galed,
Rhowch unwaith damed inni,
Ar hyn doe fastiff yno,
A darn mawr o fare ganddo,
Dan ei gario fo'n ei eêg,
A rhwng y plant gollyngodd,
Yn ol ar frŷs prysurodd,
Fo ai gadawodd yno yn dêg,
Y plant a lawenhasan,
Yn union nhw ai cymmeran,
Ag ai bwyttason rwyddlon ri,
Ei mam hefyd a ddymune,
Iddyn ddîolch ar ei glinie,
Ir hwn yrase iw cartre 'r Ci,

[td. 4]
Ae'r Wraig ar frys ir siambr,
Drwy alar mawr dan wylo,
Dan ddweud gwna ben yn fuan,
I mi fy hunan heno,
Dan ofni na chae eilweth,
Ddim lluniaeth fyth iw llenwi,
Ar Plant oedd yn Rheol,
Gogwyddol yn rhoi gweddi,
Ar fyrr doe ddau wr heibio,
Pan oedden nhw 'n gweddio,
Nhw droen yno i ymgomio yn gu,
Ir Plant y ddau ofyne,
Pam 'roedden ar ei glinîe,
A nhwythe attebe pa fodde a fu,
Mae nhw oedd mewn tost newyn,
A dyfod Ci i ryw un,
A bare yw galyn yn ei gêg,
A nine roes weddion,
Ar yr hwn a wnaeth ei ddanfon,
Mewn pur foddion tirion têg.
Ag yno doe 'r Wraig allan,
Ei hunan yn un hoenus,
Dan ddweudyd faint ei Newyn,
Mewn sydyn fodd arswydus,
Gwyr yma wrth ei chlywed,
Wnae ystyried ei thost eirie,
Ag a roes iddi arian, iw chodi o druan droye,
A hynny a fu y llynedd,
Y Gwanwyn tost oedd gaethedd,
Cadd weled mowredd doethedd Duw,
Yn danfon y gwyr Duwiol,

[td. 5]
Drwy bur ragluniaeth Nefol,
I'w dwyn yn fywiol i ail fyw,
Mae Duw mewn ffordd ryfeddol,
Ai galon yn dosturiol,
Yn cadw ei bobl yn y byd,
Bu yn borthwr ir rhai gwana,
Drwy 'r flwyddyn ddrud ddiwaetha,
Ir munud yma yn haela o hyd.
Mae Duw yn rhoddi ymwared
Drwy wael greaduriaid oerion,
Mae'r cwbl at ei orchwyl,
Yn anwyl ac yn union,
Run modd ar Gigfran atgas,
Yn porthi Elias loyw,
A Bara a Chig yn buredd,
Rhag iddo oi fowredd farw,
Rhagluniaeth a fu 'n danfon,
I borthi 'r plant tylodion,
Y Bara a gawson gan ryw gi,
Ni ddoethe 'r fath beth aflan,
A dim oi ran eu hunan,
Mewn gwedd anian gwyddon ni
Pob rhyw sy yn nwylo 'r Arglwydd,
Yn weinidogion hylwydd,
Ni wyddom beunydd ymhob oes
Ni thwtsie 'r barus Lewod,
Ar gorph un Daniel hynod,
Yn iach oi ffauod ef o ffoes,

[td. 6]
Mae'r Tân yn elfen chwerw,
Gwna 'n ulw bob anialwch,
Nid eill hwn er maint ei gyffro,
Ddim digio 'r Nefol degwch,
Oni te fe fase yn llosgi,
Y Llangcie rheini ai rhinwedd,
Ar ol ei taflu nhw iddo,
Ai gwyro 'n ddi drugaredd,
Rhagluniaeth Duw sy'n riwlîo,
Morfilod sy 'n trafaelio,
Yn tynnu nofio tano y Nê,
Oni te ni ddaethe Jona,
Dros byth îr bywyd yma,
Nag i un noddfa i Ninife,
Trugarog fu 'r Gorucha,
Ir weddw o Serepia,
Rhoes iddi fara pu_ pen
Gogoniant mawl di-ddiwedd,
A fytho yw enw Sainctaidd,
Mewn gore mowredd fyth Amen.
Ellis Robets a'i Cant

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section