Adran o’r blaen
Previous section


[BWB 371(2): Ellis Roberts. Tair o gerddi duwiol Yn gyntaf O Rybydd i bawb ymgroesi rhag iddyn wallgofi o achos y Prês diffaeth. Yn ail. Ymherthynas ir Gwragedd melltigol sydd yn gwerthu eu Plant î Wlâd y Barbariaid dinistriol. [...] (Trefriw: Argraphwyd, 1787), 4-7 (baled 2). ]


[td. 4]

Ffarwel Trefbaldwyn.

CLYWCH hanes Gwragedd drwg di-fuchedd
Aflan ffiedd ciedd câs,
Gwaeth i moddion na 'nifeiliaid [~ anifeiliaid] gwylltion,
Rai pen ryddion a di râs,
Mae 'n galed gweled gwraig ddigwilydd,
Er mwyn elw garw o gerydd,
Anedwydd yn i anwyde,
'Rol [~ Ar ol] magu a Llaeth ei bronne,
Ei phlant a garie i barthe 'r Byd,
Ac iddi brynnu ei hoedl,
I 'w geni trwm yw 'r chwedl,
A 'i magu heb gel mewn cornel cyd,
Mae 'n drwm gweled Mam mor galed
Mo'r [~ Mor] ddi-ystyried o 'i ystôr,
A gwerthu ei phlentyn at bethe anhydyn
Sy 'n draws fyddin draw dros Fôr,
I fysc paganied drwg i gwnie,
Ar Ddaear boeth sy 'n dduon bethe,
Rhai a 'i hwynebe yn frychion,
Nifeiliaid [~ Anifeiliaid] di ofalon,
Digaru dynion nag ofni DUW
Ffei brywnt i fam Crisnogion [~ Cristnogion],
Fod mor ddigwilydd galon,
At bethe chwerwon werthu i Chyw.
Mae 'i ffordd a 'i trafel achos uchel,
I finîon cornel Affricca,

[td. 5]
I wlâd y twllni [~ tywyllni] a 'r trueni,
Heb ronyn ynddi o 'r daioni dâ,
Och o fyned Plant Efengyl,
Obaith tringar i 'r fath dreigl,
At heppil drŵg anhappus,
O waith ei Mamme rheibus,
Oedd ddrygionus fregus fryd,
Rhyw gywilydd mawr di orphen.
Oedd gwerthu eu Cnawd ei hunain,
Na gwneuthur bargen yn y byd;
Mae 'r Eirth a 'r Llewod a 'r Llwynogod,
A 'r Gwnhingod mewn eu nyth,
Yn magu i Cywion mewn gofalon,
I 'w lladd ni byddan bodlon byth,
Mae 'r holl greaduriaid cryfion dewredd,
A nhwythe a 'i rhediad mewn anrhydedd,
Mewn gofal rhyfedd hefyd,
I 'w heppil gael ei bywyd,
Dan ofni ei symud nhŵ i le sal
A Gwragedd gwlâd Gristnogol,
A 'i nofiad mor annuwiol,
Yn gwerthu ei dynol Blant am dâl.
Ow p'le yr aeth hiraeth calon mamaeth
Yn hofflanwaith am ei phlant,
Fu 'n sugno o ddifri ei gwythenni,
Cyn ei geni ddyddie gant.
A chwedi breiniol Laeth ei bronne,
Modd cain hylwydd a 'i cynhalie,

[td. 6]
Pwy fam a werthe yn wrthyn,
O 'i chroth ei hanwyl blentyn,
Oedd iddi yn perthyn purffydd hâd
Roedd iddi 'n rhanne o honno,
Mae 'n debyg inni i 'w dybio,
Bum waith i 'w dystio mwy na 'i Dâd,
Ffei o Wraig mae 'n ffiedd rwygiâd,
Fod mor ddigariad i 'w hâd ei hûn,
'Roedd gwell Cydwybod yn nyddie Herod
Gan Famhaethod lawn glod lun,
Roedd llef fawr rymmus gwragedd Rama,
Yn uwch yn cyrredd na llais Cora,
Am blant anwyla oedd ganddyn,
Ar ôl ei dirfawr derfyn,
A 'i llâdd yn sydyn yno 'n siwr,
Nhŵ oedd yn wylo dagre;
Mewn galar a chystuddie
Nid oes dim geirie wylo un Gŵr,
Y ddwy Buttain oedd yn llefen,
Am gael y Bachgen llawen llon,
Rhai gyttynwyd yn net iawndda,
Drwy sylwedd mwyna Solomon,
Ni glywson fel yr wylodd Rachel,
Ar ol i 'w hade fyn'd o 'i hoedl,
Wel ffarwel yn hoffiredd,
DUW mendio 'r di râs Wragedd.

[td. 7]
Os aent mo'r [~ mor] giedd sadwedd senn,
Na yrront mo 'i Plant allan,
I fysg Paganiad aflan,
Yn faith am arian fyth Amen.
Ellis Roberts


[BWB 373(1): Ellis Roberts. Balad newydd yn cynnwys dwy o gerddi Yn Gyntaf, O Rybydd i bob Dyn a Dynes feddwl am y gwirioneddol Dduw cyn cychwyn oi Tai rhag na ddoe nhw byth yn ol yn gyffelyb ir trueiniaîd yma a gollodd ei bywyd wrth ddyfod adre o Ffair FANGOR Dydd llun 25. o Fehefin. 1787. Yr ail, Wedi ei chymmeryd o Efangylaidd leferydd Arglwydd y bywyd, allan or 6. o IOAN. lle mae i fendîgedig fadroddion ysprydol ef (: , Argraphwyd yn y 1787), 2-5 (baled 1). ]


[td. 2]

Consêt y Brenin Wiliam.

CYD neswch yma 'n dyrfa ar dwyn
I wrando geire modde mwyn,
Sy 'n cymell arnoch tra bo'ch [~ boch] byw,
Cyn mynd i daith am gofio Duw
A gwneud eich cownt ac ef wrth rôl,
Rhag ofn na ddeuwch byth yn ôl,
Fe wyr pob dyn pan el o 'i dŷ
Ag nid eill hwn mo 'r dweud yn hy,
Ar gynnydd teg heb gennad Duw,
Fyth at y fan daw etto 'n fyw,
gwir help yr arglwydd llywydd llaŵn
Mewn cadarn nerth a 'n ceidw'n iawn
Na ddweuded neb ni awn o 'n tai,
Ac a farchnattwnn yn ddi fai,
Ac ni ennillwn ar ein taith,
Ni ddown yn ol o 'r siwrne faith,
Heb nerth llaw Duw i 'n dal yn syth
Ni ddoe nhw yn ol yn foddol fyth,

[td. 3]
Mae 'n debyg fod teuluoedd Môn,
Y rhain a suddodd clyŵsoch sôn,
Yn bwriadu dyfod bod ac un,
Sef pawb yn ôl i 'w gartre ei hun,
Ond erbyn rhifo rhain mewn rhôl
Roedd saith ar hugain wedi ar ôl.
Y pumed dydd ar hugain syn
O Fîs Mehefin y by hyn,
Wrth ddyfod adre o Fangor fawr,
Y Cwch o 'i le singcie i lawr,
Ar gyfer y Beumares Drê,
Yn fawr ei grym y waedd oedd gre
Trwm oedd y galar hagr hwn
I bawb a 'i care yn boene yn bwnn
Pob un y bore yn mynd o 'i dŷ,
Yn iach a llawen wcha llu,
A chyn y nôs drwy angau 'n siwr
Nhw gowson derfyn yn y dŵr
Mater trymedd sadwedd synn,
Fel cloie tost oedd clywed hyn,
Clywed gwaedd y ffasiwn lu,
Yn suddo i lawr y dyfnfor du,

[td. 4]
Yngolwg [~ Yng ngolwg] goleuni tir ei gwlad,
Mae 'n ing yn brudd gwnaeth angau brad,
Mae llawer calon ddwyfron ddwys,
O 'i dyddie i ben yn dynn dan bwys,
Aml Wraig sydd am ei Gwr,
Mewn mawr drallod syndod siwr,
Plant am ei Tâd rhai am ei Mam,
Rhai am eu ceraint yn ddi nam,
Rhai yn wylo am ffrindie pur,
Rhai am eu cariad yn dwyn cur,
Tri deg a dau mewn troiau trwch,
Yn Mangor aeth i mewn i 'r Cwch
A chyda 'r nôs nî âdawodd Duw,
Ond pedwar Enaid yno 'n fyw,
Dyma 'r eilwaith clywsoch sôn,
A darfu am drigolion Môn,
Yn Abermenai llowna lli,
Boddi wnaeth pum deg a thri,
Ac un yn rhagor i 'r Cefnfor caeth
Ag un yn fyw i 'r lan a ddaeth,
Ynrhaeth [~ Yn nhraeth] oer Lefen diben dŷdd,

[td. 5]
Saith ar hugain aeth dan gudd,
A phedwar i 'r Bewmares fan,
O 'r daith oer li a ddaeth i 'r lan,
Gwarchoded Duw yr hen Fon dan gô
Rhag ofn y trymedd drydydd trô,
Wel hen fam Gymru lon-gu lwys,
Cymerwch siampl ddyfal ddwys,
Nad eled neb o 'ch dynol ryw,
I gyfan daith heb gofio Duw,
Rhoi 'ch Gweddi arno 'n fawr yn fach,
Mewn dawn yn ôl eich dwyn yn jach
Os bydd Duw gyda chwi ar eich taith
A 'i yspryd nefol moddol maith,
Nid rhaîd î chwi ofni un angau yn siwr
Ar wneb [~ wyneb] Daear nag mewn dŵr,
Os misiwch fynd yn ôl i 'ch lle
Mewn gwcha nerth chwi gewch y Ne
ELIS ROBERTS


[BWB 373(2): Ellis Roberts. Balad newydd yn cynnwys dwy o gerddi Yn Gyntaf, O Rybydd i bob Dyn a Dynes feddwl am y gwirioneddol Dduw cyn cychwyn oi Tai rhag na ddoe nhw byth yn ol yn gyffelyb ir trueiniaîd yma a gollodd ei bywyd wrth ddyfod adre o Ffair FANGOR Dydd llun 25. o Fehefin. 1787. Yr ail, Wedi ei chymmeryd o Efangylaidd leferydd Arglwydd y bywyd, allan or 6. o IOAN. lle mae i fendîgedig fadroddion ysprydol ef (: , Argraphwyd yn y 1787), 6-8 (baled 2). ]


[td. 6]

Belisle march.

GWrandewch sancteiddiol jaith ysprydol
Da lesol un di lîd,
Ar ol porthi, y pum mil rheini,
A 'i llawn ddigoni eu gid [~ i gyd]
Fe ddaeth dynion pelledigion [~ pellenigion]
Yn llawnion yno yn llû,
I weld ei wrthie yn rhannu 'r Torthe,
Un gore ei fodde a fu,
Canlhynen [~ Canlynent] fe i bob Gwlad;
O ran cael bwyd yn rhâd;
I borthi ei llawen Gyrph eu hunain,
Ni adwaenen nhw mo 'i Dâd,
Ond pan gynhygie Fara i 'w Heneidie;
Nhŵy ni ddehalle hyn;
Heb fedru teimlo llais yr Athro,
Wrth sefyll yno yn synn.
Fe ddweuda Mâb Duw tri,
Rych chwi 'n y ngheisio [~ yn fy ngheisio] î,
Ran cael bwytta o 'r cnawdol Fara,
Ar Ddaear brafia ei brî,
Llafuriwch beunydd am fara newydd,
Mawr gynnydd ydi ei gael,
Sef Bara Nefol dros dragwyddol,
Ysprydol fywiol fael,
A fwyttatho yr croyw fara hwnnw,
Ni bydd o marw mwy,
Ceist ei ddigoni hen newyn gwedi,
Na chledi [~ chaledi] chwaith na chlwy,

[td. 7]
Bu 'ch Tade cynta trwy Foses bura,
Yn bwytta 'r Manna maith,
Heb gael gwir ydi mo 'i digoni,
Ond marw gwedi 'r gwaîth,
Gofynen iddo fe,
pa beth a wnaent i 'r llê,
Fel y caen wynfyd bara 'r bywyd,
Gan bur Anwylyd Nê,
Rhaid ichwi gredu meddai 'r Iesu,
I 'm Tâd Nefolgu yn faith,
Fe a 'm danfonodd î o 'r Nefoedd,
O 'm gwirfodd at y gwaith,
I 'ch porthi chwi bob pryd,
A gwlêdd a hêdd o hyd.
Canys Bara 'r Nefoedd ucha,
Ddoeth ymma yn bennâ i 'r Bŷd,
Fi ydi eich lluniaeth drwy ragluniaeth,
Yn Ysprydoliaeth Duw,
Mi adgyfoda y meirwon gwaela,
I fowrdda etto yn fyw,
Yr hen Iuddewon nis credason,
Ni's Doethon at Fab Duw,
Er bod yr Iesu yn addo ei helpu,
A 'i codi i fynu yn fyw,
Ffaelio gwybod chwaith na chanfod,
Gan bechod trallod trist,
Nes doe y Nefol Dâd tragwyddol,
I 'w dwyn nhŵ i 'r grasol Grist,
Ni ddaw neb i 'r Nefol Wlâd,
Nes tynnir nhw gan y Tâd,
I 'w gwneud nhw o Newydd gan yr Arglwydd
Dwys ufudd i leshâd,
Fe ydi 'r hyfryd Fara 'r Bywyd,

[td. 8]
Sy 'n unfryd yn y Ne,
Fe ddioddefodd dan y Nefoedd,
Dros lluoedd sy 'mhob [~ ym mhob] llê
Fe ydi 'r nerthoedd mawr,
a 'n cwyd ni fynu o 'r llawr,
O 'r mawr dwllni [~ dywyllni] i 'r goleuni
i weld ei wisgi wawr,
Fe ydi 'n bywyd fe ydi 'n gwynfyd,
I 'n codi o 'n tynfyd tost
A 'i ŵaed fe dalodd dros ei luoedd,
Mewn gwirfodd yr hollt gost.
O 'r bendigedig etholedig
yr unig meddyg mawr
Oen bendigied gwynfyd enaid,
Oedd gweled dy lan wawr,
Wyt ti yngolygon [~ yng ngolygon] Cadwedigion,
IOR cyfion Sion Saint,
Wyt ti 'n ysprydol hefo 'r Duwiol,
A 'th nefol freiniol fraint.
Rhoist ti dy waed o 'th gnawd,
O IESU ein hanwyl frawd,
Ond yspryd ucha sy ffieiddia
o ledia ni 'n dylawd,
Nid oes lle î ymguddîo ond poenydio,
I neb a 'th adawo di.
Pan ddel dŷdd prudd-der diwedd amser,
I 'r Nefoedd cymmer ni,
Bydd inni o 'r nef yn aed
i galyn ôl dy draed.
Mae hyd y llwybre y bu dy siwrne,
I 'w gweled ddafne gwaed,
Dydi ydi 'r hyfryd Bara 'r bywyd,
Dwys hyfryd a di sen,
I 'r Arglywydd hynod ail gyfammod,
Bo mawrglod byth Amen.
Ellis Roberts
TERFYN


[BWB 374(2): Ellis Roberts. Balad Yn Cynnwys Tair O Gerddi Newyddion. [...] II. I annerch y Prif-Fardd awenyddol a gyfenwir SION ap SION o Lan y Gors o Blwyf Cerrig y Drudion III. Penill ir Pres diffaeth (: tros Dafydd Dafis, Argraphwyd yn y Flwyddyn 1787), 4-7 (baled 2). ]


[td. 4]

DUW gadwo 'r BRENIN.

FY anwyl ffrind cywir derbyniais dy Lythyr
Rwy 'n canmol dy synwyr di Sion

[td. 5]
Cei barch genni o 'm calon O herwydd Cynghorion;
Ddyn ffyddlon mae 'n dirion dy don.
Cynhalied yr Arglwydd dydi mewn gwir sadrwydd,
I galyn glân sobrwydd yn syth,
Rwyfi wedi llithro fil canwaith rwy 'n cwyno
A ffaelio rwy beidio yma byth,
Mi dreiliais [~ dreuliais] fy Ifiengctid ar wndwn o wendid,
I ddilyn aflendid di flas,
Ag rwan rwi [']n henddyn ymin [~ ym min] angau melyn,
Heb geisio fawr ronyn o râs,
Mi syrthiais i fale 'r hên satan er's dyddie,
Wrth gellwair am droie dyn drŵg;
Am iddo ddynwared caeth riwlio Cythreilied
Och frynted a garwed y gŵg,
A hwn a droes atta yr araith ddihira,
Ffieiddia er Adda fu erioed;
Ni bu mo 'r fath eirie; Mewn llyfr nag mewn gene,
Na chwaith ar dafode di foed;
Edliw nghenedlaeth [~ fy nghenhedlaeth] mewn budr wybodaeth;
A barodd elyniaeth o lid;
Rhag codwm mor galed ymysg pechaduried;
Mâb Duw fo 'n ein gwared ni gid [~ i gyd].
O 'r Seilo glân sylwedd agoro 'i drugaredd
A 'n dygo i 'r un duedd ein dau,
Ymostwn ar ddeulin o flaen nêf Frenin
Rhag cael mewn lle cyfyng ein cau,

[td. 6]
Doed gallu 'r IOR nefol ag awen ysbrydol
a fotho 'n fwy llesol i 'w llê,
Oddi wrth ffiedd fadroddion celwyddog a budron
Duw a 'n golcho ni yn afon yn nê,
Drwy 'r Diawl cawson rydid, I edliw pob gwendid;
a hynny drwy ferdid y fall;
I fod yn anhydyn mewn buchedd ysgymun
Ond oeddem yn ddeddyn pur ddall,
Yr arglwydd agoro ein llygaid i ddeffro,
Rhag ofn ini syrthio i le sâl,
Am iwsio drwg fuchedd, a phob geirie ffiedd,
Rhy debyg o 'r diwedd cawn dâl
Ni feddwn ddim esgus o 'n gorchwyl cwilyddus,
Pan fo [~ fôm] nî o flaen Ustus y gê,
am râs ceisiwn sengud tra bo'n [~ bôm] yn ein bywyd
Rhag bod yn hyll embyd [~ enbyd] ein llê,
Cofiwn y rheini a fydd yno 'n gweiddi,
Eu cuddio rhag goleuni 'r Oen glân,
A 'r Brenin nefolgu yn ordro i 'w deulu;
O 'i olwg fe [']i taflu nhw i 'r tân.
Wel William ddi waeledd, Yn lle dilyn jaith fudredd,
Ymorol am sylwedd y Saint;
Trin Llyfre 'r Diafol sy 'n ddrŵg anesgorol;
a phechod anferthol o faint,
Yr Arglwydd a 'th drotho,
[td. 7] Mewn mwynder i ymendio [~ emendio];
Duw fotho yn dy lwyddo yn dy lê
Mae ngobaith [~ fy ngobaith] dy weled; Er maint ein cam synied,
ar rediad at nodded y ne;
Rwi 'n madde i ti farnu, ar fy merch wedi chladdu [~ ei chladdu],
Gad lonydd ond hynny i 'm plant i;
Er maint o ddrygionî fu rhynthoch [~ rhyngoch] a myfi,
Ni leiciwn ond daioni i 'th blant ti;
Os leici di ganu yn rasol fawl Iesu,
Neu rwbeth i deulu mab Duw.
Mi fydda pur fodlon o ewyllys fy nghalon
a hynny tra byddom ni byw.
Mi atteba 'n wyllysgar ac nid ymrysongar:
Bydd felly 'n fwy claear ein clod;
Na gyrru gwag araeth i gege rhai diffaeth,
O sywaeth anobaith y nôd;
Rhown ffarwel y rwan; Bob sut i 'r hên Satan;
Daw 'n dyddie yn dra buan i benn.
Mae ngobaith [~ fy ngobaith] i weled; o 'th ddywlo well canied;
Rwy 'n cwbl ddymuned Amen.
ELlIS ROBERTS


[BWB 374(3): Ellis Roberts. Balad Yn Cynnwys Tair O Gerddi Newyddion. [...] II. I annerch y Prif-Fardd awenyddol a gyfenwir SION ap SION o Lan y Gors o Blwyf Cerrig y Drudion III. Penill ir Pres diffaeth (: tros Dafydd Dafis, Argraphwyd yn y Flwyddyn 1787), 8 (baled 3). ]


[td. 8]

Penill i 'r Arian Cochion ar Bêlisle March

FfEI o 'r budron Arian Cochion;
Mae 'n dorriad calon Cawr;
Mae pawb yn ffyrnig felldigedig;
Yn rhegi 'r ferwig fawr;
O frenhinoedd cowntir cantoedd;
Gweiniodd newydd gêr,
Ni thal wedi yr un o rheinî
o flaen cwmpeini per;
Nid neb ar draed na Horse;
A wneiff mo 'i fol yn gors,
Heb arian Cochion llafne llyfnion.
Fu 'n nyddie 'r Secon SIORS,
oes neb yn unlle yn fyw 'n ei ddyddie,
A wneiff Ddime a gerdde yn goch,
Ar ol marw 'r brenin hwnnw.
Gwnawn grio yn groyw groch,
ow Twm o 'r Uchel Bont,
Wnaeth lawer Dime front
Bu hwnnw yn Cweinio [~ cyweinio] a mold ddu ganddo
Nid ffeilio a syddo o 'r sond,
ond beth bynnag a fo 'n beniaeth,
Daw rhywbeth cyn yr Ha,
Rhoêd perchen dedwydd gred a bedydd,
I Ddafydd Ddime dda.
Ellis Roberts
TERFYN

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section