Adran o’r blaen
Previous section

Detholiad o faledi gan Hugh Jones (Llangwm)

Cynnwys
Contents

BWB 74(1) Hugh Jones (Llangwm). Tair o Gerddi Newyddion. Yn Gyntaf, Dechreu cerdd yn adrodd fel y mae amryw fath o ddynion yn Tori 'r Saboeth; yw Chanu ar Charity Meistres. ... ... (Argraphwyd yn Amwythig: gan Stafford Prys, tros William Roberts, 1758), 2-3 (baled 1).
BWB 76(1) Hugh Jones (Llangwm). Tair o Gerddi Newyddion. Yn Gyntaf, Cerdd neu hanes rhyfeddol fel darfu i Fachgen pedair Oed syrthio i Grochaned o Ddwr brweedig, a cholli ei Fywyd, a hyn a fu Ymryn y Llyn ymlwy Trawsfynydd, Medi 28 1759. ... ... (Argraphwyd yn y Mwythig: gan Stafford Prŷs, Gwerthwr Llyfrau tros Thomas Roberts, 1759), 2-4 (baled 1).
BWB 77(1) Hugh Jones (Llangwm). Tair o gerddi newyddion. Y Cyntaf; Cerdd Newydd neu Gwynfan Tosturus y Cybyddion am fod y Farchnad mo'r isel a'r Bŷ Cystal a'r Bobl Dylodion; i'w Chanu ar Hutin Dingcer. Yr Ail; Cyngor merch gwedi i'w chariad ei beichiogi hi a'i Gwrthod, a hithe 'n hel i bowyd i fagu ei phlentyn, y Cyngor Hwn sydd er rhybydd i eraill na ddelon i'r un Cyflwr; i'w Chanu ar Luseni Mistres. ... (Argraphwyd in y Mwythig,: gan Stafford Prys, 1761), 2-4 (baled 1).
BWB 77(2) Hugh Jones (Llangwm). Tair o gerddi newyddion. Y Cyntaf; Cerdd Newydd neu Gwynfan Tosturus y Cybyddion am fod y Farchnad mo'r isel a'r Bŷ Cystal a'r Bobl Dylodion; i'w Chanu ar Hutin Dingcer. Yr Ail; Cyngor merch gwedi i'w chariad ei beichiogi hi a'i Gwrthod, a hithe 'n hel i bowyd i fagu ei phlentyn, y Cyngor Hwn sydd er rhybydd i eraill na ddelon i'r un Cyflwr; i'w Chanu ar Luseni Mistres. ... (Argraphwyd in y Mwythig,: gan Stafford Prys, 1761), 4-5 (baled 2).
BWB 83(1) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. Y Gyntaf; Rhybydd i bechaduriaid feddwl am awr angeu, gan ystyried mor frau a darfodedig yw oes dyn. ... (Mwythig: Argraphwyd gan Stafford Prys, tros Huw Ifans, 1765), 2-4 (baled 1).
BWB 91(2) Hugh Jones (Llangwm). Can am lygredigaeth y byd, ... Yn rhybuddio pawb i wellhau eu buchedd annuwiol cyn dyfod Dydd mawr ei ddigter ef a phwy ddichon sefyll Datc, vi. 17 (Mwythig: Argraphwyd gan W. Williams, dros John Jones, 1768), 6-8 (baled 2).
BWB 95(2) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Newyddion. ... Ar ail, Dechreu Cerdd yn rhoddi bur hanes am Citty Lisbon yr hon a faluriodd ir mor ofewn yr ychydig amser guda Rhybydd, i nine onid Edifarhawn y difethir ni oll yr un modd ar gwel yr adeiled (Argraphwyd yn y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 6-8 (baled 2).
BWB 106(1) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Newyddion. Yn Gyntaf Cerdd o rybydd i Bawb Ediferhau tra byddo dydd gras heb pasio ag yn dangos dofded cyflwr yr anuwiol a fyddo marw heb ym gymodi a Christ drwy Edifeirwch. ... (Argraphwyd y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 2-5 (baled 1).
BWB 108(1) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Digrifol, Yn gyntaf, Dirifau digrifol ar ddyll o ymddiddanion rhwng Cristion ag angrhistion ynghyleh mynd ir Eglwis ar gonseet gwyr dyfi. Ar ail. Dirifau digrifol o ymddiddan rhwn dau gerlyn di drugaredd am godied y farchned, fel y maent yn tynu atyn ei hunain ag yn dyfeisio par ffordd y casglant fwye o arian ar farw nad mwngc (Argraphwyd yn y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 2-6 (baled 1).
BWB 108(2) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Digrifol, Yn gyntaf, Dirifau digrifol ar ddyll o ymddiddanion rhwng Cristion ag angrhistion ynghyleh mynd ir Eglwis ar gonseet gwyr dyfi. Ar ail. Dirifau digrifol o ymddiddan rhwn dau gerlyn di drugaredd am godied y farchned, fel y maent yn tynu atyn ei hunain ag yn dyfeisio par ffordd y casglant fwye o arian ar farw nad mwngc (Argraphwyd yn y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 6-8 (baled 2).
BWB 111(1) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Duwiol. Yn Gyntaf. Dechrau Cerdd ar ddull ymddiddan Rhwng y meddw ai gydwybod Cun myned ir farn Bob yn Ail penill ar Gonset gwyr dyfi. ... (Argraphwyd yn y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 2-6 (baled 1).
BWB 112(2) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Newyddion. ... Ar ail, Ymddiddanion rhwng y meddwon ar tafarne bob yn ail penill ar gonset gwyr dyfi ney loth to depart (Argraphwyd yn y Mwythig: trôs Evan Ellis, dim dyddiad), 5-8 (baled 2).
BWB 124(2) Hugh Jones (Llangwm). Tair o Gerddi Newyddion, ... Yn ail, Dirifau digrifol sudd yn gosod allan fel y mae ymadroddion dynion wrth ddyfod or eglwysydd y syliau, yr hain sudd yn dangos mae nid o ran gwrando ar y person yn unig y mae neb yn dyfod yno ond er mwyn rhuw negesau bydol eraill. ... (Argraphwyd yn y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 4-5 (baled 2).
BWB 171(1) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Newyddion. Yn Gyntaf, Dechrau Cerdd, Newydd, ar Fesur Truban, Ymddiddan rhwng y meddwyn a Gwraig y Dafarn, ar ol ir Arian Ddarfod. ... (Argraphwyd yn y Mwythig: tros William Roberts, c. 1759), 2-4 (baled 1).
BWB 172(1) Hugh Jones (Llangwm). Tair o Gerddi Newyddion. Yn Gyntaf. Dechrau cerdd yn adrodd cyneddfau'r oes hon gyda rhybydd i bawb wellhau cyn ei ddiwedd yw chanu ar charity Meistres. Yn Ail, Dechrau cerdd ne ymrouad oferddun i madel ar dafarn yw chanu ar y consymsiwn. ... (Argraphwyd yn y Mwythig: tros William Roberts, 1758), 2-5 (baled 1).
BWB 172(2) Hugh Jones (Llangwm). Tair o Gerddi Newyddion. Yn Gyntaf. Dechrau cerdd yn adrodd cyneddfau'r oes hon gyda rhybydd i bawb wellhau cyn ei ddiwedd yw chanu ar charity Meistres. Yn Ail, Dechrau cerdd ne ymrouad oferddun i madel ar dafarn yw chanu ar y consymsiwn. ... (Argraphwyd yn y Mwythig: tros William Roberts, 1758), 5-6 (baled 2).
BWB 477(2) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Ddewisol Gerddi ... Yr Ail Hanes Gwr ar i Gla-wely o Glefyd Marwoleth yr hwn a dawodd i anwyl Ferch yn gyd Ysucutores ai Mam, Ai Mam drwy dywll Satan a Laddodd'r Eneth o herwydd y Pywer fel y daeth Yspryd yr Eneth i Wirio'r Waithred' (Argraphwyd ym Modedern yn Sir Fon: gan Iohn Rowland, dim dyddiad), 4-6 (baled 2).
BWB 480(2) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. ... Yn ail Cerdd newydd i annerch Owen Jones o Gaer Gybi Oddi wrth ei hên ffrynd John Morris, yr hwn aeth yn un o Filitia Sîr Ddimbech: iw chanu ar ffarwel Brydain (Argraphwyd yn y Bala: gan John Rowland, 1761), 6-8 (baled 2).
BWB 483(1) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. Yn gyntaf Ystyriathau ynghych diwedd Amser neu'r Dychrynadwy Arwyddion, a Ryyfeddodau a fydd yn y dydd diweddas: gwedi i gymeryd allan o amriw fannau o'r Yscrthyrau Sanctaidd; sef y Dychrŷn a fŷdd ir anuwiolion weled Diben pob pêth, a mawr Orfoledd y eyfiawn yn y Nefoedd. Yn Ail Cerdd Tros Wraig aedd yn Diodde caethiwed a Carchar, gan ei gwr ei hynnan iw chanu ar y Dôn y Ceiliog Du (Argraphwyd yn Bala: gan John Rowlad tros William Davis, dim dyddiad), 2-6 (baled 1).
BWB 483(2) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. Yn gyntaf Ystyriathau ynghych diwedd Amser neu'r Dychrynadwy Arwyddion, a Ryyfeddodau a fydd yn y dydd diweddas: gwedi i gymeryd allan o amriw fannau o'r Yscrthyrau Sanctaidd; sef y Dychrŷn a fŷdd ir anuwiolion weled Diben pob pêth, a mawr Orfoledd y eyfiawn yn y Nefoedd. Yn Ail Cerdd Tros Wraig aedd yn Diodde caethiwed a Carchar, gan ei gwr ei hynnan iw chanu ar y Dôn y Ceiliog Du (Argraphwyd yn Bala: gan John Rowlad tros William Davis, dim dyddiad), 6-8 (baled 2).
BWB 524(1) Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. Y Gyntaf, Rhybudd i Bechadur i feddwl am ei Ddiwedd ac ymadel a gwagedd y Byd hwn. Iw chanu ar y don elwir King's Farewel, neu Ymadawiad y Brenhin. ... (Caerfyrddin: Argraphwyd tros Hugh Efans, gan J. Ross, 1765), 2-4 (baled 1).
BWB 712(1) Hugh Jones (Llangwm). Tair o gerddi newyddion Y Gyntaf; Hanes buchedd y rhan fwyaf o Ddŷnion sŷdd hêb feddwl am eu diwêdd, ond sŷdd yn hyderu ar y Byd ymma; i'w chanu ar gwêl yr Adeiliad. ... ... (Mwythig: Argraphwyd gan Stafford Prys, tros Thomas Elias, 1766), 2-4 (baled 1).


[BWB 74(1): Hugh Jones (Llangwm). Tair o Gerddi Newyddion. Yn Gyntaf, Dechreu cerdd yn adrodd fel y mae amryw fath o ddynion yn Tori 'r Saboeth; yw Chanu ar Charity Meistres. [...] [...] (Argraphwyd yn Amwythig: gan Stafford Prys, tros William Roberts, 1758), 2-3 (baled 1). ]


[td. 2]

Dechreu Cerdd yn adrodd fel y mae amriw fath o ddynion yn
Tori 'r Saboeth, y 'w Chanu ar Charity Mistres.

POB Dyn Sy 'n perchen bedydd mae 'r Dasg yn fawr aneiri yn awr
Fe ddylen hwyr a Bore fynd bawb ar linie i lawr
I addoli 'r Arglwydd nefol a wnaeth y Byd hyfrydol fryd
A gwelwyd mewn modd gwaeledd o 'n groedd yn ei gryd
I bryny pechaduried o Uffern danbed oedd yn dost
Fe 'n dygodd o i 'r nefol fro heb unwaith gwino 'r gost
Fe addawson ine i foddio galw arno a 'i gofio 'n gu
Ond balchder sydd bob nos a Dydd ben llywydd ar bob llu
Yr Arglwydd mewn chwe Diwrnod a wnaeth y Tir a mor yn glir
Y Byd a 'r Cwbwl sy ynddo fe ddylen gofio 'r gwir
Fo wnaeth y 'w lyfodraethu neu gydfawrhau mewn moddion Clâu
Mor berffaith ag angylion o dirion ddynion ddau
Gorffwyse 'r Tad yn bendant mawr ei lwyddiant yn ei le
Trwy gadarn ffydd y Seithfed Dydd yn ufudd yn y ne
Dymunodd ar ei Bobol gwir Dduw nefol Siriol Sant
Am gydfawrhau y Saboeth Clau yn oesau pleidiau 'r Plant
Ond gwelwn i drigolion ein bod Trwy faith anwiredd waith
Yn cadw 'r Diwrnod yma 'n ddihira Siwra o 'r Saith
Bydd amlach Tyngu a rhegi a medd-dod mawr rhwng lloer a llawr
Pan ddelo 'r Sabath Sanctedd nefoledd weddedd wawr
Bydd r'ywyr [~ ryhir] gan rai dynion modd di gyfion am ei gael
I wneud yn ffri Trwy 'n gwledydd ni bob gwegi heini hael
I meddwl mewn rhai mane mae meddwi a chware ag eiste a gan
Nid mynd ar frys i 'r nefol lys neu Egwlys liwyslan
O 'r Rhai sy 'n mynd i 'r Eglwys rhy amal yw rhagrithio ei Duw
Mae 'rhain yn arfer gormod o bechod yn ei byw
Pan ddelo dydd yr Arglwydd fe wnan ei rhan i fynd i 'r llan
Ni wyr un dyn mo 'r Cwbwl o 'i meddwl yn y man
Rhai yn amwisgo oddi allan mewn dillad Sidan wiwlan waith
A chalon cant fel gwaelod nant o drachwant meddiant maith
Rhai eraill yn rhy arwyn fawr i berw 'r Byd
Gan wneud i ne mewn cadarn le yn ei Cistie a 'i Cloue Clyd
Daw llawer ar y diwrnod yn deg bob rhan i lliwie i 'r llan
Bydd abal i hwynebe i fynd un fodde i 'r fan
Ond yn y galon gwiliwch yn Cario yn gu genfigen ddu
Dichellion inion yno sydd gwedi gwreiddio 'n gry

[td. 3]
Gwrando 'r gair rhagorol mor wynebol freiniol fryd
A 'r Galon gre yn llawn bob lle o fagle a bache 'r Byd
Nid Cofio 'r meddig Tyner a gadd hir amser lawer loes
Ond Cofio 'r byd a blawd ag ŷd un fryd o hyd ei hoes
Mewn wllys pan ddon allan meddylian fwy fynd pawb y 'w Blwy
Neu ddilin rhiw Blesere Tra bo'n yn nyddie i nwy
Ni sonian am wasaneth neu 'r Bregeth bryder gwrando o hyd
Na chofio 'r gwir Jachawdwr neu farnwr yr holl fyd
Bydd Siarad pur gysurus am ryw drafferthus foddus fyw
Pan ddont heb gel mor siwr ar Sel o demel Dawel Duw
Rhai 'n chwenych yn bur chwanog le i gymydog rowiog ran
Rhai Gymre 'n ffri ddau dir ne dri wrth fynd Trwy 'r llwyni i 'r llan
Bydd eraill mewn Tafarne mewn llan a Thre yn llawn ei lle
A 'i Cefnau mewn modd Creulon yn inion at ŷ ne
Bydd yntau 'r Cythrel gwasarn pan fo'n ar fai yn suo i rai
Rhag Cofio ddeddfau dyddfarn o 'i Cadarn dafarn dai
Tyngu a rhegi ''n drafrith oer athrylith felltith fawr
Rhai Tan go yn ei alw fo a rhai yn ymlowio a 'r lawr
Rhai 'n ddoethion mewn chwryddiaethe [~ chwaryddiaethau] pob plesere chware Chwith
A 'r Cythrel Clau sydd yno 'n hau gwag efrau plauau i 'n plith
Dylaen y diwrnod hwnnw pan doro 'r wawr roi moliant mawr
Am hyfryd waith yr Arglwydd pen llowydd nef a llawr
A 'i dreilio mewn gweddion bob gaua a ha yn Jach a chla
A darllen llyfrau 'sbrydol [~ ysbrydol] Crefyddol Duwiol da
A mynych gyrchu i 'r Eglwys sydd gariadus weddus waith
A Chalon lan fel gwresog Dan Sancteiddlan diddan daith
A gwrando 'r gair a 'i gredu nid Cyrdeddu a bachu 'r byd
A throi yn ein hol wrth Siamplau Pôl o 'r hydol fradol fryd
Nid diwrnod meddwi a chware a roed yn rhydd yw 'r Seithfed dydd
Ond dydd i foli 'r Drindod Trwy glod a pharod ffydd
Nid diwrnod Tyngu a rhegi na checri chwaith yn filen faith
Nid Diwrnod gwag farchnata a 'i gadw 'n Sala o 'r Saith
Nid Diwrnod i negesa Trwy 'r byd yma Tryma Tro
Ond Diwrnod gwaith i fynd ar daith i 'r nefoedd fath yw fo
Dydd y dylen ine bwrpasu 'n siwrne heb ame i ben
Dydd nefol wawr i gofio 'r awr a 'r diwrnod mawr Amen.
HUGH JONES A 'i Cant.


[BWB 76(1): Hugh Jones (Llangwm). Tair o Gerddi Newyddion. Yn Gyntaf, Cerdd neu hanes rhyfeddol fel darfu i Fachgen pedair Oed syrthio i Grochaned o Ddwr brweedig, a cholli ei Fywyd, a hyn a fu Ymryn y Llyn ymlwy Trawsfynydd, Medi 28 1759. [...] [...] (Argraphwyd yn y Mwythig: gan Stafford Prŷs, Gwerthwr Llyfrau tros Thomas Roberts, 1759), 2-4 (baled 1). ]


[td. 2]

Dechreu Cerdd neu hanes rhyfeddol fel darfu Fachgen
pedair Oed syrthio i grochaned o Ddwr berwedig, a cholli
ei Fywyd, a hyn a fu Ymryn y Llin, Ymlwy [~ ym Mhlwyf]
Traws-Fynydd Medi 28 1759. i 'w chanu ar Fryniau
'r Werddon.

GWrandewch alarus gwynion ochneidion trymion trist
A chofio bro drigianol dragwyddol grasol Grist
Mae newydd mawr i 'w glywed digwyddol flaned flin
I Fachgen Lliwys llawen mwyn llon o Fryn y Llin.
Hwn oedd yn bedair oedran a diddan iawn bob Dydd
Cyn cael ei drwm ddibendod ond mawr yw 'r syndod sydd
Llawen iawn gan chware bob hwyr a bore bu
Awn yma yn nechreu ei amseroedd bleser llawer llu.
Bu ddiwrnod mawr o 'i herwydd mae 'n rhybydd i bob rhai
Alw ar Grist oddi uchod a pheidio a bod mewn bai
Sydyn a dychrynllyd y darfu ei fywyd fo
I bawb o 'i deulu tyner bydd trymder lawer tro.
Llond Crochan oedd ferwedig trwy ddirmyg yno o Ddwr
Ar ymil hwn fo eistedde ac iddo syrthie 'n siwr
Tosturus fod y Bachgen yn llefen yn y Llyn
A 'r Dwr trwy ddirfawr ddychryn yn llosgi ei gorphyn gwyn.
Yr oedd yno alar caled ymgleddu 'r gowled gu
A rhoddi ei gorphyn howddgar i fynd i 'r Ddaer [~ ddaear] ddu
A meddwl ei lawened a mwyned ymhob [~ ym mhob] man
Planed flin ei diwedd oedd ryfedd yn ei ran.
Ei Dad oedd wrth ei arfer yn Lloegr deg ei lle
A 'i Fam mae 'n wir y chwedel a 'r drafel aethe i 'r Dre
Ac adre 'roedd yn dyfod cyn darfod cwrs y Dydd
Roedd yno alar gole a phawb a 'u brone 'n brudd.
Newydd mawr dychrynllyd oer fynud oedd i 'r Fam
I 'w chalon aeth dychryndod mae 'n hawdd ini wybod pam
Ond clywed gwaedd echryslon ei phlentyn gwirion gwael
Hwn oedd yn iach y bore trwy ddonie modde a mael.

[td. 3]
Fe fu mewn dirfawr boene tra bu fe heb ame byw
I bawb fe barodd alar oedd glaear yn ei glyw
Ond Duw oedd yn drugarog alluog uwch y llawr
Fe 'i cymre i 'w nefol orsedd trwy bur amynedd mawr.
A 'i Dad pan ddaeth o 'i siwrne yfo ryfedde 'n fwy
Ei fachgen bach oedd ddidrangc neu 'n ifangc yn ei nwy
Oedd gwedi marw a 'i gladdu a hynny i 'w synny sydd
I 'w galon ef mae syndod yn dyfod nos a Dydd.
Mae 'r Arglwydd yn rhoi rhybydd er deunydd i bob Dyn
Yr hen a 'r ifangc nhwythe na safia 'r Ange yr un
Yn nechreu 'r Dyddiau diddan dwg allan wyddlan rai
A 'r lleill yn hên a gleddir gan ado eu Tirr [~ Tir] a 'u Tai.
Er diodde o 'r Corphyn bychan un diddan yn y Dwr
Yr Arglwydd oedd drugarog alluog enwog Wr
A ddaeth i esmwytho ei flinder mor dyner ydyw Duw
Cymerai 'r enaid hyfryd i wlad y Bywyd byw.
Cadd lawer o Ferthyron a Dynion doethion Duw
Yn Lloegr ac ynghymru [~ yng Nghymru] eu llosgi i fyni 'n fyw
Ond dwr na than nid alle mo 'r llosgi Eneidie 'n awr
Caen fynd i wlad gogoniant i ganu moliant mawr.
I bawb mae pur wybodaeth nad barned gaeth Duw
Am bechod y Dyn bychan na chowsai fwynlan fyw
Ond rhybudd i rai erill [~ eraill] ymgynnill bodag [~ bod ac] un
I addoli 'r Arglwydd nefol dragwyddol dri ag un.
Y ni [~ Nyni] sydd bechaduried ag arnom ddyled ddwys
Gweddiwn ar yr Arglwydd a hyn trwy ffydd a phwys
Na chaffo ange caled deisyfed mo 'r neshau
Rhag syrthio i 'r mawr druenu [~ drueni] a diodde cledi [~ caledi] clau.
Na roed un Dyn un amser mo 'i hyder arno ei hun
Na 'i ymddiried ar gorph gwisgi er bod yn lysti lun
Os byddwn heddyw 'n gartre a 'n campe 'n ole nawr
Y foru [~ Yfory] byddwn farwedd a 'n lluniedd yn y llawr.

[td. 4]
Dod gysur Argwlydd Iesu i 'r hywddgâr deulu da
Sydd heddyw 'n byw 'n alarus hiraethus glwyfus gla
Dod iddynt synwyr Dafydd Wr ufudd a 'i fawr ras
Hwn oedd i 'r Arglwydd nefol ddewisol weddol was,
Gweddiwn hwyr a boreu a gwir galone glan
Na ddel mo 'r fath helyntie un modde i fawr na mân
Pan fo'n mewn nerth ag iechyd nid mewn clefyd cla
Mae erfyn am drugaredd cyn bedd a diwedd da.
Hugh Jones Llangwm a 'i Cant.


[BWB 77(1): Hugh Jones (Llangwm). Tair o gerddi newyddion. Y Cyntaf; Cerdd Newydd neu Gwynfan Tosturus y Cybyddion am fod y Farchnad mo'r isel a'r Bŷ Cystal a'r Bobl Dylodion; i'w Chanu ar Hutin Dingcer. Yr Ail; Cyngor merch gwedi i'w chariad ei beichiogi hi a'i Gwrthod, a hithe 'n hel i bowyd i fagu ei phlentyn, y Cyngor Hwn sydd er rhybydd i eraill na ddelon i'r un Cyflwr; i'w Chanu ar Luseni Mistres. [...] (Argraphwyd in y Mwythig,: gan Stafford Prys, 1761), 2-4 (baled 1). ]


[td. 2]

Yn Gyntaf; Cerdd Newydd neu Gwynfan Tosturus y Cybyddion
am fod y Farchnad mo'r isel a 'r Bŷd Cystal a 'r
Bobl Dylodion, i 'w chanu ar Hutin Dingcer.

WEL Dyma fyd helbulus ddigon
Duw a 'n helpo ni 'r Cybyddion
Lle mae 'n gadarn flawd ac yde,
Gan lawer costog yn eu Cistie,
P'le mae 'r hên Brisie brâf,
Py doe etto 'r Byd a welson
E'n i deuru a gyrru am Goron,
Yn rhwyddion amser Hâf.
Nid oes mo 'r Byd ddim fellu 'rwan
Ni wiw i gybydd fynd o 'i gaban
Ni cheir mewn tre ne lanne leni
A'm [~ am] flawd ac ŷd bo wiw mo 'i godi
A 'i roddi fo 'n firi a'r Farch;
Gwae ni erioed i 'r Ffrangcod golli
Bu ddydd y rhoesen aer yn rhesi
rheini oedd yn peri parch.
Y rwan gallwn sefyll tridie
A thagu o syched efo 'n sache
Wrth wrando ar ambell wraig cynffoffrith
Yn cynig saith swllt dyna felltith
Ini am y Gwenith gwyn
Yn lle 'r ygini [~ gini] ac Arian parod
Fu 'n ein dyrne Lawer Diwrnod
Hyn aeth yn syndod syn.
Gwaeth i'w edrych ar fegeried
Oedd gynt yn ll'wgu [~ llewygu] o flaen i'n [~ ein] Llyged
Pwy sy 'rwan Foneddicach
Na thwm y Cariwr a phob Ceriach
A ninau sydd Legach lŷn;
Mae hynny 'n dost pydaen ond eiste
Fe gan ryw baeled yn eu bolie
Ni welwch yn dene un dŷn.
Mae gwragedd gwedi myn [~ mynd] gyn ddiocced
Ni waeth py tynne frain eu llyged
Ewch i gabandy llawer Bwndog

[td. 3]
Na thalo i pheisie a 'i gowne geiniog
Fe yfan yn donog Dê;
Cwpane gwnion yn ei gynal
A phot a phig a phwt a phagal
I'w 'r treial ymhob [~ ym mhob] Trê.
Py dech i 'n gweled mo'r ysmala
Ydi gwragedd y Malisia
O! mo'r heini i'w llawer honos
Yn cael i choron gron bob wythnos
A byw mewn diddos da
A 'r gwŷr a 'n harian nine'n rorio
Ar eu trafel yn Cyntreifio
Yswagro a rhodio yr Hâ.
A nine 'n talu trethi trymion
I 'w cadw nhw yn eu Cotie cochion
A threthi llownion Leni a 'r Llynedd
Sydd gwedi ymgrogi at gadw 'r gwragedd
Mae 'n ffiedd ini 'r ffair
Er bod y gwŷr ymhell o 'u Cartre
Y mae 'r Cym'dogion [~ cymdogion] a'r eu gore
Fe wnan un dene 'n dair.
Ond gresyn bod pob howden ddiog
Yn brathu i 'w bolie a britho eu balog
Heb hidio os methan Byw 'n esmwythach
A nine o foddion anufreddach
A photes llegach llwyd,
Py gwelen eto 'r Diwrnod hwnnw
'R ae 'r yd i 'r Dŵ o 'r Cistie Derw
Caen nhwythe feirw am fwyd.
Mae pob tylawd fel gwr bonheddig
Bwyta a chodi Gwneud ychydig
Mwya pleser yr holl langcie
Tobaco a chwrw a mynd i chware
Neu eiste a 'i 'Lode [~ aelodau] a'r lawr
A phob rhyw hogen fain gynffonog
Cyn yr enillo Bynt o gyflog
Bydd honno 'n feichiog fawr.
Neu fe redan i 'w pyriodi [~ priodi]
Cyn ymedrau Olchi 'r Llestri
Geir gweled llawer hyll gynhwyfar
Yn ffaelio ehedeg efe i hadar
A\'n lliwgar ym mhob elle
Fel rhyw anhapus ddyrys ddwyradd
Y rhain sy 'n amla 'n mynd tan ymladd
Trwadd ym mhob Trê.

[td. 4]
Gwae ni erioed o 'i mynd yn Rhyfel
Digon cwte [~ cwta] i'w pris y Catel
Ni cheiff na blawd nag yd fynd allan
Ni welir fyth mo Goli o Ruddlan
Gŵr llydan ymhob [~ ym mhob] lle
Ac fo'n llinyn hyd y llanw
Ni waeth i lawer Dori ei wddw
A'r ol ei farw fe.
Nid oes ini ond rhoi 'n Credinieth
I dreio dynion y daw drudanieth
Mae rhai 'n proffwydo hyn ffordd yma
Bydd prinder mawr y flwyddyn nesa
Cawn cem ein bara beth
Fellu bydden i 'n foneddigion
A nhwythe hyd gymoedd yn gefn geimion
Ac arnun hw [~ nhw] drymion dreth.
Yr holl gybyddion cydweddiwch
Am gael o 'r ffrangcod unwaith heddwch
Cawn innau [~ ninnau] gario blawed ein gore
Gynta gallon i Ddolgelle
A 'i lusygo [~ lusgo] fo i 'r [l]longe 'n lli
Fe geid gweled y tylodion
Yn rhodio o 'n lledol yn ben llwydion
A chanddun nhw greulon gri.
H---h J----, Ll-----, a 'i Cant.


[BWB 77(2): Hugh Jones (Llangwm). Tair o gerddi newyddion. Y Cyntaf; Cerdd Newydd neu Gwynfan Tosturus y Cybyddion am fod y Farchnad mo'r isel a'r Bŷ Cystal a'r Bobl Dylodion; i'w Chanu ar Hutin Dingcer. Yr Ail; Cyngor merch gwedi i'w chariad ei beichiogi hi a'i Gwrthod, a hithe 'n hel i bowyd i fagu ei phlentyn, y Cyngor Hwn sydd er rhybydd i eraill na ddelon i'r un Cyflwr; i'w Chanu ar Luseni Mistres. [...] (Argraphwyd in y Mwythig,: gan Stafford Prys, 1761), 4-5 (baled 2). ]

Yn Ail; Cyngor merch gwedi i 'w chariad ei beichiogi hi
a 'i Gwrthod, a hithe 'n hel i bowyd i fagu ei phlentyn,
y Cyngor Hwn sydd er rhybydd i eraill na ddelon 'r un
Cyflwr
; i 'w Chanu ar Luseni Mistres.

DOWCh Ferched a Morwynion i 'styrio [~ ystyrio] 'nglŵy [~ fy nghlwyf] a 'r modd yr ŵy
Oddiyma 'n mynd i gychwyn a 'm plentyn hyd y plŵy
Pan ddelwyf hyd y gwledydd caf gerdded glau gan un ne ddau
A 'r lleill mewn llid a gwradwydd er Cerydd i 'm naccau

[td. 5]
Fy stwrdio [~ ystwrdio] am hel bastardied rhythu llyged ym mhob lle
Rwi Duw 'n fy rhan mewn Cyflwr gwan don ufudd dan y ne
Rhaid dal fy mhen yn isel a phawb heb gel a chwedel chwith
Ond hon ond te oedd gynt yn Dre a chnotie a Breidlie brith.
Y rwan Cymrwch gyngor pob Cangen ffri Gwrandewch fy ngri
Gochelwch fyned gwenfron un foddion ac wyf i
Rhaid Cerdded hyd y gwledydd a 'm geneth lon yn sugno 'mron [~ fy mron]
Nid downsio a charu a chwrw Rhaid syo heddiw i hon,
Mi fum yn llon y llynedd fawl wych hafedd fel y chwi
Gwnewch ithe 'ch rhan mewn Tre a llan na ddowch yr un fan a m'fi [~ myfi]
Dymunaf ferched mwynion a wel fy moddion rwyddion rai
A m dyddie 'n gla pa beth a wna na fwriwch arna i fai.
Ffarwel Ifieungtid mwynion fe ddarfu i mi 'rwi 'n oer fy ngri,
Fy nghymrud i 'ch rhybuddio a chofio ddylech i,
Ffarwel i 'r hên gariade oedd gynt ar dŵyn a 'i modde mŵyn
Ni welai 'r un y leni o rheini 'n troi mo 'm trŵyn
Yn lle mynd hyd y ffeirie yswagro heb ame yn ole a wnawn
Bodlona i 'm Byd wrth sugla 'r Cryd fe ddarfu 'r llonfyd llawn
A'm [~ am] wneuth'r [~ wneuthur] wrth ei feddwl 'rwyf i tan gwmwl Drwbwl draw
Y fo bob Dydd yn holliach sydd a mine 'n brudd mewn braw.
Hugh Jones, Llangwm, a 'i Cant.


[BWB 83(1): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. Y Gyntaf; Rhybydd i bechaduriaid feddwl am awr angeu, gan ystyried mor frau a darfodedig yw oes dyn. [...] (Mwythig: Argraphwyd gan Stafford Prys, tros Huw Ifans, 1765), 2-4 (baled 1). ]


[td. 2]

CERDd y 'w chanu ar Charity Meisres.

POb un sy' ar enw Cristion, deffrowch, deffrowch Rai cleifion clowch,
I mofyn [~ ymofyn] am drugaredd, cyn delo diwedd dowch;
Na rowch mo 'ch hyder ormod mewn syndod syn ar fyd fel hyn,
Nad ydi ond ail i farig, yn llithrig ar y llyn:
Meddyliwch am y siwrne, yn ddigon bore gore gwaith,
A hynny cyn, i 'r ange tyn, roi terfyn ar ein taith;
Tra bytho 'r haul yn ll'wrchu [~ llewyrchu] mae i ni enynu am y ne',
Nid oes dim hedd tan bared bedd ond pydredd lygreddle.
Cadd calon dyn o 'r dechreu ei themptio 'n fawr, Cwymp Adda i lawr,
A barodd hyn o lygredd, drwy fuchedd waeledd wawr,
A'r galon oedd dir gole, dan fronne y rhain cyn amser Cain,
Neshau o 'r gelyn ynddi ryw arw ddrysni o ddrain;
A 'r drain yw 'r call biccellau, Sydd i 'n calonne ninne yn awr;
Sef gormod chwant sy 'n rwystro cant, i 'r llwyddiant meddiant mawr;
Pan hauer [~ heuer] hadau ffrwythlon yn y galon, ddiclon ddwys,
Mae 'r drain yn fawr y 'w dal i lâwr tan ddirfawr boen fawr bwys.
Ond hyn yw 'r ystyr ore i bob rhyw ddyn, a 'i cario 'i hun,
Weled, O mor waeledd, neu lygredd ydi ei lun,
A meddwl mai yr un moddion, y gwneud pob rhai, o 'r pridd a 'r clai,
A byrred ydyw 'r terfyn, pwy 'n sydyn ymma sai;
Y mwya 'i barch a 'i olud, sydd ymma 'n glud, mewn bywyd byr,
Debygai fe, na lithre o 'i le, ond fel ewyn tonne y tyrr:
Ni pheri ei fonedd funud, ni cheidw ei olud enbŷd o;
Mo 'r dyn yr un fan, heb fynd i 'r llan i 'r graen tan y gro.
Dirybudd yw awr ange, a pham i ni o gnawdol fri,
Na chofiwn yn ein cryfder y daw ei hamser hi;

[td. 3]
A hyn ar bryd na wyddom, fel Sampson gawr, Goliah fawr,
Pan ddaeth yr ange y 'w taro, Gwnae i rheini lithro i lawr.
Brenhinoedd mwa [~ mwyaf] 'u cryfder pan ddel tan ser, eu hamser hwy,
Py dae 'r holl fyd, i 'w cadw 'n glud, ni chaent un munud mwy.
Ni thyccie gwyr mewn arfe yn erbyn ange modde maith
Ni atteba un dyn on trosto ei hun, ar derfyn dygyn daith.
Cyffelyb ydyw 'r ange, i saer di oed, mewn llwyn o goed,
Yn rhifo ei brenie deunydd, rhai beunydd o bob oed;
Rhai glas brenie o 'r bronnydd, a dyrr i lawr, rhai 'n glampie mawr,
Rhai egin coed rhywlogedd, rhai 'n henedd waeledd wawr;
_ ddeunyddio mewn dawn addas, at ei bwrpas urddas i w
[A] phob pren da, ei gadw a wna, ___ywiocca rhwydda rhyw:
_wobr union i geubrenni, fe hel y rheini, I losgi yn lan,
Eu diwedd trwch, i llosgi yn llwch, eu tegwch yn y tan.
Ac felly angeu yw terfyn pob cnawdol ddyn, mae fe ynddo ynglun,
Yr ifangc fab arafa. A 'r feinir lana o lun.
A 'r plentyn bach wrth sugno ar fron ei fam, hawdd deall pam,
Tyrr ange ei oes cyn fyrred, cyn gallu cerdded cam.
Tyrr angeu 'r dynion nerthol, sydd fwya llwyddol ymhob lle,
Tyrr yn y man, yr hen a 'r gwan, sy 'n anniddan dan y ne'.
Y brenin mawr cadarna, tyr ange ei yrfa doetha dyn;
Ac yno heb wawd, tyrr angeu ei frawd, sydd dylawd ei lun.
Yn awr mewn nerth ac iechyd, fe ddyle dyn, ei holi ei hun,
A golchi 'r galon gnawdol, anllesol iawn ei llun;
Nid dyled clwy na dolur, a 'r briddyn brau. I 'w edifarhau,
Cyn llesgedd glafedd glefyd, rhoi 'n llawnfryd ar wellhau;

[td. 4]
___[treulio r dydd] trwy bechu a mynd ar glaf welu, [I] grefu ar Grist;
Och dyna 'r fawr ddeuddegfed awr, mewn moddion trymfawr trist.
Sef awr y ffol forwynion y gwnae 'r Oen cyfion, ei naccau;
Am aros cyd, caen fynd o 'r byd, i ddiodde clefyd clau.
Ni chymmer rhai mewn iechyd mo 'r amser clau, i edifarhau,
Gan geisio 'r byd yn bendant, mewn llwyddiant yw gwellhau.
Segurud yssig arw, mewn clefyd sydd, i 'r galon brudd,
Yn gorfedd tan y gyrfa. Y cryfa a gyrcha eu grudd,
Golau 'r dydd sy 'n darfod, a 'r nos yn dyfod ddyfnod ddu,
A 'r dyn ar daith, heb ddechre ei waith, ymysg ei lanwaith lu.
Rhy hwyr y munud hwnnw, fydd dechre galw, ar Enw yr Iôn;
Ei ddolur clau, fydd y 'w lesghau [~ lescàu], ni wiw neshau na son.
Rhai eraill sy 'n rhy oeredd, heb feddwl fawr, pa bryd yw yr awr,
Nes y trawo ange o 'r diwedd, nhw yn llwyredd yn y llawr.
Mae 'n taro rhai mewn tiroedd, a 'r cledde trwm, a 'i ddwylo plwm,
I feirw mewn munud, dychrynllyd synllyd swm.
Fe alle y rheini yn syrthio, heb feddwl ceisio, Dyddio a Duw;
Na dim o 'u bryd ond pethau 'r byd, mewn claufyd yn eu clyw.
O Dduw pa dristwch calon, na ystyrie dynion, rwyddion rai;
Gan ddal yw co, Air Duw bob tro, a cheisio llithro llai.
Rhowch flaen ffrwyth nerth a chryfder, yn aberth hedd, i arlwyo 'r wledd,
Clefydon a doluriau, iw 'r llwybre i barthe 'r bedd;
Ond haws i rai mewn iechyd, rhag Pharoh ffoi, ac ymbarattoi,
Na 'r dŷn fo 'n ffaelio symmud, gan glefyd wedi ei gloi.
Dydd gras sydd gwedi darfod, a 'r nos yn dyfod, Syndod syn;
Bydd oer ei gri, a Christ i ni sydd yn cyhoeddi hyn.
Y neb a wrthnebo ei natur, gan rodio ei lwybur, yn ei le;
I rhain dan go, o 'i freiniol fro, mae Crist yn addo 'r Ne.
Huw Jones a 'i cant.


[BWB 91(2): Hugh Jones (Llangwm). Can am lygredigaeth y byd, [...] Yn rhybuddio pawb i wellhau eu buchedd annuwiol cyn dyfod Dydd mawr ei ddigter ef a phwy ddichon sefyll Datc, vi. 17 (Mwythig: Argraphwyd gan W. Williams, dros John Jones, 1768), 6-8 (baled 2). ]


[td. 6]

Yn ail Cerdd ar ddyll ymddiddan rhwng Gwr
Ifangc a 'i gariad yr hon oedd feichiog ohono
ef ynte yn ei Gwrthod hi, yr hon a genir a'r
Ffiena bob yn ail pennill y Ferch yn dechre.

OW f' anwyl gariad i gwrandewch fy ngwaedd a 'm cri
'R wi 'n fawr fy lled ym marn holl gred; a 'm llyged yma 'n lli;
Fy nghyflwr i sydd gaeth, chwi ydi 'r gwr a cwnaeth
I 'm dwyrdd i fynd mo'r ddifri a 'm brone lenwi o laeth:
Ces eirie teg do naw ne ddec neu chwaneg ganddoch chwi,
Am gado 'n Awr yn llwyd fy ngwawr mae 'n ddigon mawr imi.
Rhaid trin y By[d] a suglo 'r cryd bob munud enyd iach,
Fy nghaniad i sydd hai lw li, wrth drin y Babi bach.

[td. 7]
Mi af ine i ffordd o 'm gwlad rhag gwrando aniddan nad,
Gwell gan i am dro ymado a 'm bro, pwy ae i fedyddio 'n dad?
Pwy goelie chwaith yr un o'r Merched teg ei llun,
Mae nhw dan ser fal pwisi per, yn denu llawer dyn?
Bu Tamar wen yn gwisgo ei phen yn Buten irwen aeth,
I 'r dre mewn gwyn yn deg i llun er denu dyn y daeth;
A merched Lot caed arnun flot roen uddo bot yn bur
Beichiogi o 'i Tad ag ynill had o eisie 'n wastad wyr.
Och och pa beth a wna wel dyma 'r gwyn aga
Y chwi a 'ch brydur rodio 'r Byd, a'm fi [~ a myfi] mewn glyw yn gla:
Mi wela' mod [~ fy mod] yn ffol ymro's mi ddois i 'r Ddol,
Ow byddwch glau dan ben 'r lau, ond fellu parau Pol:
Cy iagwddd gwyn fydd ar y bryn heb arno un briwsyn braw,
Ar wydd mewn pant neu lawr y nant a 'i llwyddiant yn ol llaw,
O llwyd i'w ngwawr [~ fy ngwawr] a 'm dagre mawr sydd hyd y llawr yn lli,
A 'm bron yn brudd bob nos a dydd a hyn o 'ch herwydd chwi.
Y llinos deg ei llun rinweddol foddol fun,
y gwir a sai ow bernwch lai, 'r oedd peth o 'r bai ar bob un;
Mae natur Llwybr llawn yn drech na dysg na Dawn
A llawer llangc yn Firi ar fangc, Meu'n Ifangc beth a wnawn!
Pan ddelo chwi at landdyn ffri 'n aneiri toddi wnewch.
A d'weud [~ dweud] bob tro pan ofyno os Da 'r wi 'n Cofio cewch,
Ond gwell naccau na edifarhau a gwasgu 'n glau bob Glin,
Tro doe yn ol rhyw Reswm ffol byn weddol foddol fin.
Pob Cangen ffraclhwen ffri gwrandewch fy 'ngyngor [~ nghyngor] i,
A gwnewch i 'ch rhan mewn Tre a Llan, na ddowch yr un fan a m'fi [~ myfi];
'R wi fi mewn Niwl a gwlaw a 'm Cariad yn troi draw,
Neu 'n rhodio yn rhydd bob nos a Dydd, a mine yn brudd mewn braw:
Mae 'n deg i 'ch lle mewn Llan a thre ochel thwyde rhain,
Na wnewch ymroi cyn cael i 'ch Gli rhag ofn ymdroi mewn drain:

[td. 8]
yfi [~ Myfi] sy 'n Rhwyd am Bol a gwyd 'r wi 'n ddigon [~ llwyd] fy lliw,
Ar fyr o dro o 'i achos o mi a i ffaelio rhodio ybew.
Gwrandewch fy nghyngor maith holl feibion dirion daith,
Rhudd llawer un y fai ar y Dyn, mae fo ydi gwyn y gwaith,
Mae llawer teg ei Llun yn fwyn ohoni ei hun,
Gall fellu fod yn rhwydd dan y rhod, yn bechod ar bob un.
I Deimlo bron Lili lon naws u nion os nesewch,
Ni chlywch mo 'i llais er codi phais ond dweud bob cais y cewch,
Os deil ei hun heb ail droi llun ni hidia bun mo 'r baw,
Dylae fod plant gan lawer Cant sy a llwyddiant ar ei llaw.
Farwel I fieingtud glan yn awr o fawr i fan,
'Rwi'n llwyd fy ngwawr am Bol yn fawr, a'r fynd i lawr yn lan;
Ow can ffarwel drwy gri ar dwyn i'm Cariad i,
Py daswn nes y ar Law na thes ni cheres ond chwi:
Mi fethes fi ymgedwch chwi yr holl Lodesi ar dwyn;
'Rwi gwedi ymroi a phawb yn ffoi heb neb yn troi mo'm trwyn
Am fod yn bur'r wi'n diodde cur cai ferthyr atto fwy,
Rhaid mynd yn syn fe wyddoch hyn am plentun hyd y plwy.
Rhof ine y nghwbl fryd ar fynd i rodio'r Byd
'R wyf etto yn rhydd er bod trwy'r Dydd, yn Canu'r Cywydd Cyd;
Am Cyngor i bob Dyn iw ceisio i Gadw i hun
Nid eill o'n awr rhwng lloer a llawr y mddiried fawr i'w fun;
Am hyn o staen ni hidia i Ddraen fy lliw am graen sydd gry
Mi mendia ngwawr mi rodia'r llawr ni chofio i fawr a fu,
Cumpeini a ga Cyn diwedd Ha'r Lodesi glana yn glir,
Cewch chwi, wich wach y Babi bach mi af ine yn iach yn wir.
Hugh Jones, Llagwn ai Cant.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section