Adran o’r blaen
Previous section


[BWB 95(2): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Newyddion. [...] Ar ail, Dechreu Cerdd yn rhoddi bur hanes am Citty Lisbon yr hon a faluriodd ir mor ofewn yr ychydig amser guda Rhybydd, i nine onid Edifarhawn y difethir ni oll yr un modd ar gwel yr adeiled (Argraphwyd yn y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 6-8 (baled 2). ]


[td. 6]

Dechrau Cerdd yn Rhoddi Bur hanes am Citty
Lisbon yr hon a faluriodd ir mor ofewn yr ychydig
amser guda Rhybydd, i nine onid Edifarhawn
y difethir ni oll yr un modd.

POb dynion haulion hylwydd sudd yn perchen cred a [~ creda] Bedydd Trwu lawn wubodaeth,
Dephrowch o drwm gwsg pechod rhag Bod yr [a]wr yn dyfod in difa ar un waith,
Mewn pryd gwelwn bawb i gid nad yden yma ond hafotta,
Y gwr cadarna sudd Benna hyfa o hyd,
Rhaid mado ar lle daiarol a mynd i anfarwolfyd
Er bod wr clir yn heuddu clod gan rai hauledd Benieth Bonedd,
Er meddu mawredd anrhydedd Tan y rhôd,
Rhaid myned yn orwerddiog heb geiniog yn i Gôd,

[td. 7]
Mi glowson yn ddiweddar fod crio ag wulo ag alar bu'n gynar gwuno,
Mewn Tref ai henw Lusbon ir gwaelod yr ae'r Trigolion inion yno,
Yr oedd cri yn awr da gwyddon i pan oedd y Brodur heb fawr gysur,
Ond gweiddi yn eglur mewn llafur Tan y lli,
Nid ydoedd fawr ddiddanwch pan ddarfu i harddwch hi,
Ir llawer er gwched oedd i gwawr fe ymollynge'r holl sylfaune,
Dim hwu ni safe i chaure ai murie mawr,
a phawb yn colli ei Bowud mewn munud enud awr
Yr oedd yno flinder echrus fel Sodom wlad arswudus gan boenus benyd,
Y plase mawr or ddau Tŷ or llawer ir nen yn nynu i lawr yn unud,
Pob rhai or Tylwyth yn i tai trwy boen a blinder aeth ir dyfnder,
Yn hynu o amser i llownder oedd yn llai,
Colli a wnen mewn munud i bowud am i bai,
Peth mawr oer ofid oedd yr awr nid oedd yn un lle ddim ai safie,
Nag aur na pherle Trysore gore i gwawr,
ni adawyd un cywaethog ne oludog heb roi i lawr
Nid oedd yr amser hwnw eto i gilidd wiw mor galw ar ddelw ddiles,
a hanwiredd oedd yn ormod i heddychu a Duw oddi uchod hynod hanes,
Fe aeth i lettu a gwelu gwaeth yr holl wyr mawrion,

[td. 8]
Ar Tylodion yr un Rhiw foddion Trwu ochneidion Cwynion cauth,
Yn ferchad plant a gwragedd oer ddiwedd yno a ddauth,
Llenn y ddinas wiw Râs wen cun i darfod oedd mewn cryndod,
Barn Duw uchod am Bechod syndod senn,
Dauth yno ddiliw o ddialedd Tra phuredd am i phenn.
Considrwm ine yn Brysur faint ydoadd [~ ydoedd] Brâd in Brodur amur yma,
Gweddiwn ar Dduw 'r nefoedd Rhag ofan mae 'n dinasoedd ni fydd nesa,
Mewn pryd cin diwrnod Trallod drud rhaid i bob Teulu Edifaru,
A galw ar Jesu fe Ddaw iw helpu o hyd,
Rhag Bod Duw mawr cadarn gru yn llwyr ddibenu 'r Byd
Bob dydd y galon yn ddi gudd su 'n chwenychy 'r Byd oi ddautu,
Mewn Trachwant oerddu y hi yn ymserchu sudd,
Yn olwyn dri chordelog ond Bowiog yma y Bydd.
Mae awydd pawb yn gyfa fe Lyngcan am y cynta 'r Byd yma 'n damed,
Un awr ni feddwl un dyn na cheisio Rainio Ronu 'n [~ ronyn] am yr Ened,
Mae cant yn pluo perchen plant ni waeth gun lawer,
Sudd mewn cryfder os daw llownder wuch hyder wrth i chwant,
Py gwelen y Tylodion yn oerion yn y nant,
Trwu ffydd pob calon galed gudd gwnawn weddie,
Rhag dialedde a gwelwn weithie pa faint o siample sudd,
Oni chawn i drigaredde y ni 'r un fodde a fydd.
Hugh Jones Llangwm ai Cant.


[BWB 106(1): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Newyddion. Yn Gyntaf Cerdd o rybydd i Bawb Ediferhau tra byddo dydd gras heb pasio ag yn dangos dofded cyflwr yr anuwiol a fyddo marw heb ym gymodi a Christ drwy Edifeirwch. [...] (Argraphwyd y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 2-5 (baled 1). ]

Dechreu Cerdd ar gwump y dail ne rybudd i bawb
edifarhau.

YR hen Bechadur difir daith myfyriwr maith oferedd,
Cais oth fuchedd ffiedd ffo,
na hir ymdro mewn Camwedd
yr wut yn chware wrth dy chwant ar fin y geulan lle bu gant
ond gwilia syrthio i lawr y nant,
rhag mund i fethiant fythol,
mae mil yn cael plesere'n Awr ar fin y geulan oer wan wawr
ond pan falirio hon i lawr,
Can phwrnas fawr uphernol.
Cofia'r dun y gwr ath wnaeth mae 'n ddyled gaeth i Addoli
Cais ddechre galw ar Grist ar fur,
rhag bod yn rhowur iti
Os Treuli'r Dudd cun dechre'r daith ar ruw Blesere modde maith
pan fo ar ddarfod gormod gwaith,
mae'r siwrne'n faith i fethi,
rhaid ini heddiw 'n loew lan ymado ar Aiphdied fawr Aman,
nid eir Trwu'r mor ar mynudd Tan,
i ganan mewn drygioni.
Cofie'r dun pwu bynag wut nad wut ond Bwud i bryfed
Mae'n ddigon siwr mae marw a wnei
pa ham yr ei cwn falched
Bu farw Apsilon, mewn Coed bu farw Sampson yn ddi oed
ni wiw ir cryfa ddyn fu erioed
roi ar i hoed fawr hyder,
bu farw Eglon Tan yrhod bu farw Dafydd fawr i glod
fe ddarfu ir ange roddi'r nod
mewn syndod Alixander.
Pan ydoedd Arthur fwua i rum yn rhwyfo 'n llum mewn rhyfel,

[td. 3]
yr Ange bach o gysgod llwyn,
a hede i ddwyn i hoedel
pan fyddon ine Teca 'n gwedd yn ynill clod wrth drin y Cledd
os egur Ange safn y Bedd
rhaid gorfedd Tan y gurfa,
Fel yr hen oludag yn i wres a wnaeth i dai yn dda ar i les,
pan ydoedd Ange Ato yn nes,
ai ddyfes am i ddifa.
Os gelwir nine at orsedd Duw an Bod yn Buw'n Amharod,
mi fyddwn oll mewn cyflwr prudd,
pan ddel y dudd cyfarfod,
fe a'r Duwiolion Bod ag un, ar ddeheulaw Duw i hun,
Budd ynte'r Anwir drwg i lun,
oer resun ar yr Asw,
fe fudd annedwydd pen i nod oflan yr Arglwydd mawr i glod,
Tan fryme a chreigie fe fyne,
fod y diwrnod hynod hwnw.
Edifrer hawn a chymrwn ddruch Tra bon yn wuch mewn iechud
ni wiw ini geisio Troi yn in hol,
o ddalfa Tragowyddolfud,
Cofia ddeifas phraethwas phri er mor greulon oedd i gri,
ni chadd o ddwr fe wuddon i
un difin i oeri i dafod,
pan ydoedd Lasrws dduwiol ddoeth ynghwmni Angylion cyfion coeth,
Cadd ynte'n wir i daflu yn noeth,
ir geulan Boeth heb waelod.
Pan ddel yr Enaid Bach i lawer ir dibin mawr di obeth,
fe geiff ddiodde am i ddrwg,

[td. 4]
ni ddaw fe ir golwg eilweth,
pe rhoese'r hollfud mwyn sud mawr ai drysor pu[r] lan wiwlan wawr,
ni chae oi gaethiwed fyned fawr,
na munud Awr o Amynedd,
py dae Bersonied yr holl fud yn crio Trosdo ag wulo i gud
ni chae gan Dduw o hynu o brud,
ond dilin llîd a dialedd.
Ni wiw 'r Awr hono grio ar Grist na bod yn drisd am Bechod,
nid oes obeth gwedi hun,
ond delwi'n llun diwaelod,
wulo awnant gan Boen y tan achrunu'danedd fawr a Mân,
gan oerni rhew ag eira a gan,
mewn Tost ag aflan gyflwr,
niwiw mor galw'r nefol dad uw gwneud yn rhudd nar gwir fab rhad
nid oes yn r holl uphernol wlad
na cheidwad nag iachawdwr.
Considra dithe 'r corphun gwan mae dyna ran yr Ened,
ni Byddi dithe'r Telpun Clai,
ddim ronun llai'r Caethiwed,
pan ddel yr Arglwydd efo i lu i ddechre'n galw'n groew gru,
Cei dithe ddychrun dygun du,
ath godi i fynu 'n swynedd,
Os gudar anwir Bu dy ran yn dilin rhuw blesere gwan,
Cei weled Crist yn hynu o fan,
yn Agorud Anrhugaredd.
Yr holl Blesere a gest i gunt a phob rhuw helunt ddigri,
Cei weled hynu ger dy fron,
yn Boene chwerwn iti,
Am bob rhuw fiwsig beredd foes a gadd dy glistie gunt yn d'oes,
Fe gan i Teimlo ai gwrando 'n groes,

[td. 5]
yn Athrylith noes Cythreilied,
Yn lle 'r oferedd gunt a fu a chwmni Tyner llawer llu
Cei holl drigolion uffern ddu,
yn Cud ymdyme am dened.
Am hun Bechadur galw ar Dduw a dechre fuw 'n fucheddol,
a gwilia Bechu mewn un lle,
ni wnaeth mor ne 'r Anuwiol,
yno Agorir Cura di Cais drugaredd phraethedd ffri
a gofun nawedd gan un Duw Tri,
a hynu yn ddi wahanieth,
dy jechudwrieth Sadwaith sudd gweithia 'n dirion wrth liw dudd
Cais Trwu gariad a gwir phudd,
ofalu am ddudd marwoleth.
Hugh Jones Llangwm ai cant.


[BWB 108(1): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Digrifol, Yn gyntaf, Dirifau digrifol ar ddyll o ymddiddanion rhwng Cristion ag angrhistion ynghyleh mynd ir Eglwis ar gonseet gwyr dyfi. Ar ail. Dirifau digrifol o ymddiddan rhwn dau gerlyn di drugaredd am godied y farchned, fel y maent yn tynu atyn ei hunain ag yn dyfeisio par ffordd y casglant fwye o arian ar farw nad mwngc (Argraphwyd yn y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 2-6 (baled 1). ]

Dechrau cerdd ar ddull ymddiddan rhwng Creadun ag
angreadadun ynghuch myned ir Eglwys iw chanu ar
gonset gwur dyfi.

Creadadyn.
DYdd da fo ir gwr dawnus da weddus di wawd
Cluw gâr ith gynghori su leni 'n dylawd,
Tyrd gyda'm fi ir Eglwys fel dawnus ŵr da,
I wrando 'r Efengyl yn suful nesha.
Angreadadun.
Nid iw dy gynghorion ond gweigion a gwael,
Mae gini yn ddi safnach ymgenach iw gael,
Ti wyddost mae 'r eglwus dda lewrchus ddi lid,
Iw meddwl a moddion y galon i gid,
Credadyn.
Mae Eglwus agored a linied ar lawr,
I alw Cristnogion yn gyson i gwawr,
I dalu diniwed adduned i Dduw,
Trwu gowir lan galon Tra Boddo nhw Buw.
Angredadyn.
Mae rhai yn cael yno rwi'n Tybio fyd Ta [~ da],
Wrth dderbyn yn gwlwm ruw ddegwm go dda,
Oni Bae arian yn Burlan Bob awr,
Ae 'r Eglwus gyffredin ar linin i lawr.
Credadyn.
Tyrd unwaith yn wisg i da ddioni i dŷ Dduw,
Cynhesiph dy galon cei foddion i fuw,
Ne linieth ysbrydol da gweddol di gas,
A chyfran or diwedd yn groewedd oi grâs.
Angredadyn.
Na wna mona i'n ynfyd un munud om ous,

[td. 3]
Dim ond ffolineb yn dwyneb nid ous,
I drin y Byd yma yn adda rhoed ni,
Rwi 'n dweudud mae gwirion ddyn Tirion wyti.
Credadun.
Os rhoes yr hen adda rhuw foddfa ru fawr,
Ni 'i drin y ddaiaren aniben yn awr,
Yr ail an gwaredodd ordeiniodd ni ar dwyn,
I wrando Bob diwsul i efengyl yn swyn.
Angredadyn.
Gwrando ar y person yn rhwyddion Bydd rhai,
Yn dweudud yn 'r Eglwys yn Bwullus i bai
Ar ol iddo egor i gyngor yn gauth,
I ddull pan ddaw allan sydd gyfan ddau gwauth,
Credadyn.
Ow gwrando 'r pechadur ag ystyr yn gall,
Rwut gwedi dy demptio i foddio rhen fall,
Dy galon ddyn Tauog afrowiog i fryd,
Su'n meddwl bob amser am bower y Byd.
Angredadyn.
Y dyn ni fedd bower yn ofer a wnaed,
Ni waeth iddo i gladdu ne drengu ar i draud,
Dilin rhuw grefydd wan beunudd o bell,
Mae'r byd yr wi yn adde ai degane dau gwell.
Credadyn.
Fe fydde 'n hyfrydwch at heddwch i ti,
Ddowad unwaith yn Gristion da foddion fel fi,
I gaere 'r wir eglwus da ddownus dy Dduw,
Lle mae yr ysbrydol Jawn bobl yn buw.
Angredadyn.
Y flwyddun su 'n dowad rwi n dirnad y Daw,
Ar bobol dylodion yn llymion i llaw,

[td. 4]
Mi ro fy sguborie Tan gloue 'n bŷr glyd,
Bydd digon Ty'r gwanwyn o mofyn am yd.
Credadyn.
Cofia 'r goludog galluog uwch llawr,
Gwneud i sguborie fe i myne 'n dai mawr,
Yn fuan 'r ol hynu y darfu am y dyn,
Fe gollodd yn ddirgel i hoedel i hyn.
Angredadyn.
Os gwrando rhuw straue'n wanfodde a wnafi,
Mi a'n fuan mor wirion Iaith dirion ath di,
Yr wi 'n siwr mae'r cowaethog wr rhowiog yr ha,
A fydd ymhob moddion mewn Tirion fyd Ta.
Credadyn.
Fe elliff Duw nefol hyfrydol i fryd,
Gadw'r Tylodion yn birion i bŷd,
Fe gadwe 'r usraelied heb niwed un awr,
Wrth fyned i ganan rai gwiw lan i gwawr.
Angredadyn.
Buwiolieth go fechan su 'r owan ar rai,
Hi eiff etto rwi 'n Tybed nid Lliwied yn llai,
Fe ddwedodd rhuw brydydd ar gynydd im gynt,
Rau'r gwenith or diwedd yn beredd i bynt.
Credadyn.
Ni wur yr un prydydd pa ddeunydd a ddaw,
Gall Duw er gogoniant Trwu lwyddiant droi law,
Fel amser Eleias deg addas tan go,
Dair blynedd a haner bu brinder in bro.
Angredadyn.
Hi all yma fod beder a haner o hyd,
Ag oni ddaw chwaneg ar redeg or yd,
Ni feddan yn dyffryn un hadun o haidd,

[td. 5]
A wertha'n i undyn na menyn na maidd.
Credadyn.
Mae Duw ai drugaredd mawr rinwedd erioud,
Yn cadw rhai a gredo bawb iddo bob oed,
Bu pobol Samaria mewn dalfa go dyn.
Gwaredodd Duw sanctedd nhw 'n rhyfedd er hyn.
Angredadyn.
Pan ddel yr ha unweth mawr goweth aga,
Ceiph pawb cyfoethogion modd Tirion fyd Ta,
Ni werthan heb arirn modd breulan iw brawd,
Trwu'r bala na rhuthun byth flowyn o flawd,
Credadyn.
Pa fodd ydoist i wubod ar ddiwrnod yn dda,
Y bydd hi 'n ddrudanieth mawr heleth yr ha,
Gall Duw oi anrhydedd da hauledd i hyn,
Roi 'r byd iw ddinistro na adawo yr un dyn.
Angredadyn.
Mae astronomyddion gwur doethion i dawn,
Wrth reol yr wybur ni all llwubur yn llawn,
Yn dalld mae drudanieth yn ddifeth a ddaw,
Tros gyflawn bumlynedd yn bruddedd mewn braw.
Credadun.
Na ddoro moth hyder trwu fwynder yn faith,
Ar ffilosoffyddion rai gwirion i gwaith,
Su 'n Tremio 'r plannede rhuw gyfle rhu gauth,
Heb gofio Duw'n bendant deg nwyfiant ai gwnaeth
Angredadun.
Mi rodda fy hyder heb drymder yn drist,
Fod arian yn wastad Tan gauad y gist,
Trwu 'r hain yn y diwedd yn buredd cai Barch,
Fe rwustran rwi'n tybed im fyned i farch.

[td. 6] Credadyn.
Sothach fethianllud anhyfryd in hoes,
Su'n gwneuthur pob dynion yn greulon ne groes,
Fe ddweudodd pôl ddownus dda weddus ddi ŵg,
Mae nhw ydi gwreiddin dodrenun pob drwg.
Angredadun.
Wel dyma 'r un moddion ddyn gwirion oi go,
Nid oes un dyn hyfryd iw fowyd a fo,
Na fferson na chlochydd Jawn beunudd yn bod,
Nad da gynddo fo arian yn gyfan iw gôd.
Credadyn.
Ffarwel angredadun mae n ddygyn dy ddull,
Ar byd yn dy galon anhirion yn hyll,
Ti ai rhoit o ruw amser ar gyfer yn gall,
Rhag myned yn erwin i fyddin y fall.
Hugh Jones Llangwm ai cant.


[BWB 108(2): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Digrifol, Yn gyntaf, Dirifau digrifol ar ddyll o ymddiddanion rhwng Cristion ag angrhistion ynghyleh mynd ir Eglwis ar gonseet gwyr dyfi. Ar ail. Dirifau digrifol o ymddiddan rhwn dau gerlyn di drugaredd am godied y farchned, fel y maent yn tynu atyn ei hunain ag yn dyfeisio par ffordd y casglant fwye o arian ar farw nad mwngc (Argraphwyd yn y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 6-8 (baled 2). ]

Barned mwngc.

DYdd da fo i howel ffel i ffydd,
Pa newyddion sudd drwy nodded,
Yn awr mae'r newydd ymhob man y gallwn ifan yfed,
Y newyddion gore su'n y byd,
In rhoi'n wyr codog cefnog cŷd,
Fod y farchned oll yn ddryd y blawd ag ŷd ar godiad
Os daw'r gwyr mawrion ffyddlon ffydd,
Gyd a nyni fellu a fydd,
Y gwr o rhiwlas nos a dydd am osdwn y bydd o'n wasdad.
Ni rown i am hynu o fater bin,
Fod blawd yn brin iw bryny,
Arian a fydd gan bawb or fro ar bant i dwylo i daly

[td. 7]
Ni a fyddwn yn glampie o wyr dan glob,
Pawb ag aur yn britho i gob,
Ni a gasglwn o bower fwy na Job mae pynt yn hob yn rhuwbeth
Mae ganddon o hono fwy na mwy,
A phawb mewn blinder hyd y plwy,
Ni fedden yn glir mae pawb un glwy mor digon drwy'r gymdogeth
Ni a werthwn gartre fesyr llai,
Ag a heliwn rai gwehilion,
Ni gariwn y gore'n bŷr ddi drefn ir Bala ar gefn ebolion,
Ni fasen y leni'n adferth wyr,
An sachau mawrion wrth bob mŷr,
Ond mawr iw'n dyrnod syndod syr oedd golli gwyr dolgelle,
Roedd yno lawer dyn di rol,
Ai natyr ddwys o ddeytu'r ddôl,
Gwedi cymryd ffansi ffol redeg i nol yr yde,
Ni a gawn lonydd yn yman,
Pan wylltion o lan elltyd,
Fe ddaw rhuwbeth ag ai tur doen adre ar fyr or foryd
Brolio i rhyge ai heiddie gwiw,
Byth na welo neb moi liw fe ddwed rhai mae'r gŵr o rhiw,
Su iw gario o drefriw'n dryfrith.
Eiff tre lanrwst os da yd ingho [~ ydy fy nghof] yn ddigon dryd ar fyr o dro,
Mae nhw yno'n cerdded o faes i co,
Ddigonedd i geisio gwenith,
Pa beth su ar bapur newydd caer,
Mae hwnw'n daer yn teyru,
Y gisdwn y farchned eto ar frys mae rhuwyn ai wllys felly,
Nid ydwi'n hidio haner pin,
Mi ddalia am werth y gaseg dsin,
Bydd llawer un yn ddigon prin ei lafyr cin gwyl ifan
Mi a wranta'r farchnad yn siwr y cwyd,

[td. 8]
Bydd rhai yn'r ha mor dene i rhwyd,
A mine'n llawn am ceffyl llwyd o gwrw a bwyd ag arian,
Pei gallwn i ddyrnu clamp o ddas tra botho bras i brisie,
A llenwi o hono loned côr,
Ai rolio ar fôr i ruwle,
Os daw o dylodion ddau ne dri atai'n chwyrn ney atochwi,
Am ei harian ffyaethlan ffri,
Yr heliwn ni wehilion,
A mund ar top i ffwrdd myn tân iw ffeirio'n glir am arian glan,
Gwerthy gartre'r yde mân,
Roedd coli lân ei galon.
Tra bo'r farchnad yn bur ddryd y cawn ni'n bŷd yn llawen,
Fe fydd ein harian yn ei lle,
Fel cerig creigie corwen,
Pedfaen ar lyn rhuw dwr ar lawr codi a wnae ni gyda'r wawr,
Ai sum nhw cimin myn y cawr,
A renig fawr ney'r aran.
Peth braf iw ymhel a blawd ag yd iw drin ai droi ar amser dryd,
Pa beth su brafiach yn y byd,
Na hir gymeryd arian.
Mae leni arwyddion yme a thraw medd dynion y daw drudanieth,
Mae llygod y ffrangcod hyd y wlad,
Yn cadw nadanodieth,
Ond rhown ni'n gweddi anwyl gar a phawb su ag arian yn ei ysgâr,
Na ddelo lewis fawr i fâr,
Yn hwylus ar ei hole,
Fo geiff y croeso lleie rioed ar ol ir cene fynd ar coed
Ni rown dylodion o bob oed,
Iw yru ar ddae droed adre.
Hugh Jones o Langwm ai cant.


[BWB 111(1): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o Gerddi Duwiol. Yn Gyntaf. Dechrau Cerdd ar ddull ymddiddan Rhwng y meddw ai gydwybod Cun myned ir farn Bob yn Ail penill ar Gonset gwyr dyfi. [...] (Argraphwyd yn y Mwythig: tros Evan Ellis, dim dyddiad), 2-6 (baled 1). ]


[td. 2]

Dechrey Cerdd ar ddull ymddiddan Rhwng ymeddw ai
gydwybod Cun myned ir farn Bob yn Ail penill ar
gonset gwyr Dyfi.

Meddwyn
OW gwrando cydwybod gwyn ormod gan i
Gwahoddiad yn fore i Ruw siwrne g'es i
I fynd i le dierth Rwi 'n ddi nerth o ddyn,
A ddoi di'n ffrynd imi da heini dy hûn.
Cydwybod
Pa le mae'r Cymdeithion pur fwynion a fu,
Roedd genit yn d' amser grun Lawer o lu,
Godineb a meddwdod fu'n dyfod Bob dydd,
Ith galon ir dafarn yn gadarn heb gudd.
Meddw.
Fe ddarfu imi ymadel yn ddirgel ar ddau
Yr ydw'n ddigyffro yn llinio gwellhau,
Ond cefes Ruw Rybydd ni wn Beunudd gan Bw[y]
Nid allaf yr owran mor Aros dim hwy.
Cyd.
Dy gŵr a ddirmygest ne sethrest yn sarn,
Su ith Alw'n o fanwl i fyned ir farn,
Mae arnat grun gyfri am ddyreidi 'n ddi Râs,
Fi fuost Ragrithiol Anweddol iawn was.
Medd.
Yr owan cydwybod Rwi'n gwybod y gwir
Mae Barnwr Tragwyddol natiriol pob Tir,
Turd guda 'm fi uw olwg er Tolwg iti,
A Budd yn Beth swccwr a'mwynwr imi.
Cyd.
Dof guda 'th di yn Amlwg ir golwg ar gais,
O flaen 'r holl Alluog yn llidiog fy llais,
Am llyfre yn Agored yn danbed i dysg,
Ni ddaw ond rhai Cyfion dda i moddion uw mu[sg.]
Medd.
Na sudd ddim im herbyn ar ddygun awr [ddu]
A chimin yn famser o fwynder a fu,

[td. 3]
Nim gwelwyd ar gyhoedd mewn lleoedd na llan
Na Bydde gydwybod Air hynod im Rhann,
Cyd.
Pan seit efo'r meddwon mae digon o Dyst,
Ar wraig ar plant gartre ai pene wrth y pust,
yn noeth ag yn newnog ddi gefnog mi gwn,
Tro pur ddi gydwybod wedd hynod oedd hwn.
Medd.
Mi fum Cun ofered Rwi 'n gweled y gwall,
A llawer un foddion o ddynion oedd ddall,
Mi droesim ers dyddie ddawn die 'n ddyn da,
Ir dafarn ddu ffyrnig nôd eiddig nid â.
Cyd.
Pan Lithrodd y power ar llownder yn llai,
Ti welest ddyn Trwstan do 'n fuan dy fai,
Pocede Aeth yn weigion ond Creylon iw'r Cri,
Yn fwrn ar dafarne erus dyddie yr eist i.
Medd.
Gobeithio Cydwybod mae'n ddiwrnod go ddu
I fynd o flan yr Arglwydd pen llowydd pob llu,
Y Byddi 'n heddychol Jaith weddol ath was,
Na fwrw fi ir gelyn wr Cyndyn air Câs.
Cyd.
Rhoist flode dy Amsere mewn gradde Rhu groes
Heb gofio am gydwybod un Diwrnod yn d oes
Ond meddwi hyd Tafarne Rhuw droue Rhu drist
Heb ofyn Trugaredd yn groewedd i grist.
Medd.
Yn feddw pan fyddwn mi gofiwn yn gu,
Am Dduw Bendigedig yn feddig a fu,
Nid Awydd Rwi'n gwybod i fedd dod ne fael
Ond dilin Cwmpeini gair heini gwur hael.
Cyd.
Gwuch gan y Cythrel air Tawel wr Tun,
Dy glowed yn feddw yn galw ar Dduw gwun,
Y fo'n cael 'r Addoliad ne 'r Taliad gunt i,
O flaen Duw Trugarog su eneiniog ini.

[td. 4] Medd.
Gwario o Ran pleser Trwy fwynder a fu,
A dilin yn f Amser grun lawer o lu,
Ag yfed yn llawen heb gynen ne gâs,
Heb un dyn yn hoffi dyreidi di Râs.
Cyd.
Cofia Felsastar an foddgar a fu,
Yn frenin galluog ond enfog i dy,
Wrth yfed gwin melys yr hwylus wr hael,
A Bwysed mewn Clorian Bu fechan i fael.
Medd.
Os gelli cydwybod ddawn hynod ddwyn hynn
O feie 'n giddiedig neu farig fodd sunn,
Na chofia ir goruchaf mor gwaethaf air gwir,
Mae nghalon o ddifri ymron Torri ar y Tir.
Cyd.
Mae'n cofio 'r holl Lyfe erys dyddie Roist i
Ar holl eirie gweigion Budd greylon dy gri,
Cei farn yn ddi duedd ne Bruddedd mewn Braw,
A hyn a fo uniondeb yn dwyneb y daw.
Medd.
Ni fum i Bechadur Air Amur erioed,
O fai di drugaredd am hyredd im hoed,
Rhuw aros ag yfed y llymed yn llawn,
A chlod gan Bob dynion yn gyfion a gawn.
Cyd.
Drws llydan i Bechod uw'r medd dod air mwyn
Lle i ddechre pob undeb godineb ar dwyn.
Lladd d Enaid yn feddw a chwrw wrth dy chwant
Rhoi'r wraig mewn mawr drymder a Blinder i blant.
Medd.
Oes modd i gael cymmod am ddiwrnod ne ddau,
Tra bothw yn ymdrwsio ag yn llinio gwell hau,
Ag yno mewn munud Rwi'n deudud y Do,
Am Cyfri 'n o ddichlin i frenin y fro.
Cyd.
Fe ddarfu am ydyddie i ddedwddol wellhau,
Mi fum ith Rybyddio ond Rwi'n cofio it naccau,
Pan fyddwn yn crefu iti nesu ata yn ol,

[td. 5]
[F]y nghyngor Bob munud un ffunud cedd ffôl.
[Me]dd.
Rwi'n ofni fy meie'n Rhuw fodde rhu fawr,
[I] fynd at Ben Twysog galluog pob llawr.
[O]w dadle cydwybod am gymod un gair,
Pan fothw oflaen dwy fron dda moddion mab mair.
Cyd.
Ni wiw ini ymddadlu ne deuru oflaen Duw,
Mae'n farnwr Tragwyddol ne Rasol i Ruw,
O eisie'n Amserol droi 'n ol or hen nuth,
Ti gei 'n ol dy haeddiant yn feddiant am fyth.
Medd.
Pa dasit yn deudyd Ruw Funud yn faith,
Pan oeddwn yn ifangc yn ofer fy Jaith,
Y Base Raid imi Roi Cyfri heb naccau,
Nid Aethwn at fedd dod na diwrnod na dau.
Cyd.
Mi fum wrth hir grefu yn dy dynnu Bob dydd
I ddrws y wir eglwys Tra ffarchus Trwy ffydd,
Os gwelit gwmpeini Rhuw ffansi Rhu ffôl,
Ti droit yn o gadarn ir dafarn yn d ôl.
Medd.
Rwi'n gweled llu'r Twysog galluog mewn llwydd
Yr owan py gallwn ym giddiwn oi gwydd,
Yr wi 'n dealld fy muchedd mae ffiedd fu'r ffair,
Ni fedra i mor Rhoddi mi wn gyfri am un gair.
Cyd.
Cei glowed yn ole dy feie yn y farn,
Heb un dyn Trwy 'r holl fyd a gyfud yn garn,
A llawer neb nidro yn edrach yn Brudd,
O eisie Cydwybod Cun dyfod or dydd.
Medd.
Considred pob dynion yn feddwo'n a fu,
Rhaid mund ir farn hynod mae'n ddiwrnod go ddu
Y fi sudd yn myned am llyged yn lli,
Duw doro drugaredd air mwynedd imi.
Cyd.
Y dyn ar Bob munud oi fowyd a fydd,
Heb gofio cydwybod Tra ffarod i ffydd,

[td. 6]
Pan ddelo Barn weddedd yn Bruddedd mewn braw
Y fine yn i erbyn yn ddygyn a ddaw.
Hugh Jones Llangwm ai Cant.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section