Adran o’r blaen
Previous section


[BWB 480(2): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. [...] Yn ail Cerdd newydd i annerch Owen Jones o Gaer Gybi Oddi wrth ei hên ffrynd John Morris, yr hwn aeth yn un o Filitia Sîr Ddimbech: iw chanu ar ffarwel Brydain (Argraphwyd yn y Bala: gan John Rowland, 1761), 6-8 (baled 2). ]


[td. 6]

Cerdd newydd i annerch Owen Jones o Gaer Gybi
Oddi wrth ei hen ffrynd John Morris, yr hwn
aeth yn un o Filitia Sîr Ddimbech: iw chanu ar
ffarwel Brydan.

Gyru'r ydwyf mo'r garedig
At Ffrynd unig diddig da
Gyru'n ufudd eirie o arwydd
Ddiwedd hylwydd hirddydd Hâ
Gyru o Draserch annerch union
I berchên ffyddlon galon gû
Gyru at Owen Jones ddiapsen
Y byddâ i'n llawen ymhob llu
Gyru o Drymder mewn Cyfyngder
Hyn o fwynder dyner Dôn
Gyru o'm Calon Drwm ochneidion
At drigolion mwynion Môn
Môn iw'r Ynys mae'n wirionedd
Natturioledd weddedd wawr

[td. 7]
Môn a'i ffyddlon fwynion fanne
A Garaf inne un fodde'n fawr
Môn rywiogedd rwyddedd radde
Oedd fy nghartre gore i Gynt
Môn iw'r benna o hon yma
Cymerais redfa rhwydda a'r hynt
Môn rwi'n Gwybod i'w'r breswylfod
Lle rhoddais ormod Syndod Serch
Môn heb ame rwyddedd radde
I frifo'mrone a fage Ferch
Merch am rhoes dan dduloes ddialedd
Mawr anhunedd ryfedd ran
Merch a garwn a'i theg eirie
Pan ddoe, yn ei blode a'i modde ir man
Merch o ddifri bum iw hoffi
Am Clwyfodd gwedi wisgi waith
Merch a geres troi'n elynes
A Dyna gefes gwedi'r gwaith
Merch ai geiri'e o fodde ufyddedd
Am rhoes Dan dialedd Saledd swm
Merch anwadal ddifir ddiofal
Am rhoes yn Sal mewn treiol trwm
Trwm iw'r chwedel rhaid ymadel
Daeth i mi heb gel ryw drafel dri
Trwm heb gelu mynd o Gymru
Ond galla er hynny gredu i Grist
Trwm iw'r arfe Gwn a chledde
Sy'n fy mreichie'n ole'n awr
Trwm wyf ine trwy mofynion
A phydd fy nghalon moddion mawr
Trwm i'w Canu ffarwel Gymry
yn Drwm rwi'n gyru i fynu i Fôn
Trwm iw'r munud tramwy moni
Mewn naws heini mwy na Sôn
Sôn am fynad Syn wyf ine
I gario'r Cledde i rywle'r af
Sôn am adfyd farwol funud
Duw wyr pa fyd i gud a gaf
Sôn am Ryfel Sy'n ym-rwyfo
Ond Crist a fotho'n Pledis in plith
Sôn y leni am Syn elynion

[td. 8]
Bradwyr Creulon chwerwon chwith
Sôn y byddau o hyn allan
Na chawn yn ddiddan fwynlan fyw
Sôn a ddylen am ddi ale
Holl gyfreithie a deddfe Duw
Duw all wared fy mhenaethiad
Na ddelo llydded ar y llawr
Duw'n ddiame ond Credu iw eirie
Am gwared ine modde mawr
Duw all roddi y Myd i leni
Na ddelo gledi Difri Daith
Duw ydi'r blaenor pur ei gongor
Bydd i mi'n Iôr o'r frodor faith
Duw fu'r gwared yr Israelied
Daw etto a nodded aton i
Duw ydi'r nefol brynwr breiniol
Mwyn tra ufuddol mentra fi
Mentro allan mynd trwy wllys
I gadw'r ynys liwys lan
Mentro 'nyddie i gario arfe
Mentraf ddiodde briwie i'm bron
Mentro 'n addas dyna mhwrbas
I Gadw'r Dyrnas wiwras wen
Mentro'r Gelyn ar dir Gole
Nes del fy nyddie heb ame i ben
Mentro'n ffyddlon dan y Goron
O flaen Gelynion Dd|ynion del
Mentra o wynedd un tair blynedd
Hoff arfedd rhoi ffarwel
Ffarwel i Gymru Deulu dilys
Ffarwel i ynys fedrys Fôn
Ffarwel heb ame i Bawb am care
Ffarwel fesure a thanne a Thôn
Ffarwel yn ddygyn mae dy ffortyn
I mi'n dirwyn yma'n daer
Ffarwel a fotho i bawb am caro
Yn frwd a chofio am frawd a chwaer
Ffarwel ffarwel af a'r drafel
Gall fod yn ddirgel hoedel hên
Ffarwel blesere Gwiwlan gole
Ffarwel i chwithe un modde Amen.
Hugh Jones


[BWB 483(1): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. Yn gyntaf Ystyriathau ynghych diwedd Amser neu'r Dychrynadwy Arwyddion, a Ryyfeddodau a fydd yn y dydd diweddas: gwedi i gymeryd allan o amriw fannau o'r Yscrthyrau Sanctaidd; sef y Dychrŷn a fŷdd ir anuwiolion weled Diben pob pêth, a mawr Orfoledd y eyfiawn yn y Nefoedd. Yn Ail Cerdd Tros Wraig aedd yn Diodde caethiwed a Carchar, gan ei gwr ei hynnan iw chanu ar y Dôn y Ceiliog Du (Argraphwyd yn Bala: gan John Rowlad tros William Davis, dim dyddiad), 2-6 (baled 1). ]


[td. 2]
POB Cymro diniwaid Sy'n meddwl am ei enaid
Doed yn nês i wrando mae'n brŷd ini ystyrio.
Fe ddywedodd y pregethwr yn ddoeth ag yn ddi gynwr
Fod amser i bob amcan ag mae gwagedd oedd y cyf[an]
Ac fe dyngodd yr Angel a gwir ydiw ei chwed[el]
I'r hwn Sy'n buw'n dragywydd pob amser d______
Fe fu gynt amseroedd y llenwyd y bydoedd,
Dinasoedd a chestill a llawer o bethau erill:
Pob arfau miniog a'r holl Ddelwan Sefydlog.
Llawer enw tramawr mewn prês a meini gwerthfawr
Mae ganddon innau etto amser i'w dreulîo
ymmhob math a'r wagedd ag i ddilyn oferedd
A chynddon i gyfeillion Ceraint a chymdogion
A'n amser ni heb oedi ydiw mawrhau rheini
A hoffi'n da bydol yr rhain ynt oll yn farwol,
Ond Cofiwn y gair bellach na bydd amser mwyach
fe ddaw'r amser hwnnw y bydd y Byd farw
a hynny gallwn dd'weudyd mewn moddion dychrynllyd
Y Dinasoedd yn Syrthio a'r meini'n malurio;
yr holl arfau a doddan y Prês a'r Delwau arian
Y Glendid pryd daearol ar holl gofoeth bydol.
Ceraint a chyfeillion a dorir yn gyrph meiwron
A phob Cofiadwriaeth gradd a galwedigaeth;
A fydd marw beunydd byth yn Dragywydd.
Llawer o arwyddion a rydd yr Arglwydd cyfion
Cyn Dydd y frwydur i Rybuddio pechadur,
Aml drallodau newyn a phlâau;
Daear gryn Rhyfel a llifoeddyfroedd uchel
Gwynt ag ystormydd a Sychder drwy'r Gwledydd
A Christ Jesu'n danbed a gwyd ei Greaduriad
I Ryfela'n brysur yn erbyn Pechadur,
Cyfiawnder Duw galluog a fydd'n Gapten arfog
Barnedigaeth a ddaw allan a sancteiddwrwydd yn darian
A'i ddigofaint yn Waewffon i ladd ei Elynion;

[td. 3]
Pob peth a Ryfela yn erbyn hîl Adda;
Y mellt or Cymylau megis bwa a Saethau!
A'r Cenllysg yn ochrog trwy lid tra themestlog
Y Mor mawr a gynhyfa ar Afonydd a lifa!
Gwynt nerthol ar unwaeth a'i chwyth hwynt ymeth
pob peth sydd yn danbed yn erbyn pechaduried
Nef Daer yn eglur Dwr tân ag awyr!
Nefoedd yn dechreu taflu Sêr yn bellenau!
Yr awyr yn bygwth trowyntoedd disymwth;
Taranau dychrynllyd a Themestloedd enbyd!
Y Ddaear yn Crynu gan y swn ofnadwy
Hollti'n fil o safne bwrw allan fynydde,
Claddy dinasoedd yn ei 'mysgoedd,
Y Môr yntau'n rhuo'r tonau i gid yn neidio.
Gan godi meis brynnie yn uwch na'r Cymyle!
Gan ruad Cefnfor bawb ym mhob goror
A fydd i gid yn synnu ag yn barod i drengu;
Y Tân ar Brwmstan ynte'n tori allan
Gan losgi'n ddiwad y Cwbl yn Wastad,
Pa beth a Wna Ddynion yn y terfysg Creulon,
Synnu bawb yn yr un lle ac yn lleision megis ange,
Ofn a dychryn garw a'i deil y prŷd hwnw
Ofnadwy fydd y moddion yr holl drefydd yn weigion
Y Gorseddfeincie o'u deutu heb undyn yn barnu,
Ni bydd neb yn y diwedd yn ymgais am anrhydedd
Na chwmpeini gwŷr doethion na phlesere nwyddion
Fe fydd ynte'r Cybydd gwedi darfod ei awydd
Holl Blase Brenhinodd yn dân hyd y nefoedd!
Yr arglwyddi a'r Ducied yn ffailio bwyta ac yfed
Gan ofan o herwydd y lliffeiriant tragowydd,

[td. 4]
Ni bydd dim Coffadwriaeth am un hen dreftadaeth
Ni fydd gan neb mor pleser Sôn am Elixander!
Dysg Aristotl ffyddlon ne ddoethineb Solomon;
A'r Gwyr enwoca a fu erioed er oes Adda:
Fe gleddir pob enw gan y dychryn hwnnw
A'r Morwy'r trien gan gynddaredd yr Elfen
Mewn Dychryn Cystyddiol rhag dinistr tragwyddol
Taflant eu trysor a'i golyd i'r Gefnfor,
Tra bo'r bud fellu'n malurio o'r ddeutu.
Ymmha gyflwr anhowddgar bydd trigolion y ddaear
A hyn fydd y Cynwr am ddigio'r Creawdwr
Tân y Dydd hwnnw fydd yn lle Diluw
Ni bydd modd i'w ochelud ond i'r Sanctaidd ei fywyd
Fe fydd y rhai bydol yn yspio o'i lledol,
Ar ei holl gyfoeth mwynlan yn aur ag yn arian;
Eu Paleserau mowrion ai holl eiddi Gwchion,
A phob aur fanwylwaith yn toddi ei gyd ar unwaith
Ai hyfryd berllennau yn mynd i ffwrdd yn ffaglau
Ni chlybwyd yn un lle y fath alarnade,
Pan oedd Rufain hynod yn llosgi saith niwrnod;
A than mawr Caer Droea yn llosgi a Difetha
Wylofain mawr ydoedd wrth ddinistro dinasoedd;
Ond beth oedd tosturi y Cyfyngder ar C'ledi
Er bod gwr yn gweled i wraig mewn caethiwad
Ac yn Gwrando llefen a gwaedd i blant bychen
Heb allu ei dwyn allan nai achub ei hunan
Nid oedd hyn o flindere ond am gwrs o ddyddie
Nag yn llosgi'n wnias mo'r hollfyd oi Gwmpas
Ond y llosgiad yma fydd yr amser diwedd.
Ni âd na gro na cherig na dim byw gwaeledig
Y Cybydd âd heibio'r hyn oll sydd ganddo

[td. 5]
Ni rwstra'r Cwrw i'r oferddyn farw
Glendid yr holl Ferched sydd yn toddi n llymed
y Gwŷr Cryfion yn methu a phob Cnawd yn crynny
Ni cheidw holl ofud gwr mouo funud
Ni ddieng y gwŷr Cryfion na'r mwya i ddichellion
Ni ddieng y Llong gynta'n a'r Mach troed ysgafna
Bydd Môr o Dân ysol i'w difa'n Dragywyddol.
A dyna resynys gyflwr dyn trienys
A'i wylofain drwy drymder y dydd ola o'i amser.
„ Gwae fi o hyn allan ydwyf Ddŷn truan
„ Pa fyd na pha gysur a gaf i bechadur!
„ Pa gyngor a gymeraf yn y cystudd mwyaf
„ Ynghydwybod sydd estro ag i'm tost gyhuddo;
„ a'r holl fyd bychan yn mynd yn eiries dan
„ I ba le y Diengaf rhag y cystydd mywaf
„ Pe'r awn i'r Mynyddau táu am goddiweddau
„ Os af i'r dystryndir yr holl Wlad, a losgir
„ Y Castelli mwya a phob amddiffynfa,
„ Pa lês a wna rheini maent i gid yn llosgi,
„ A dyna ddychryndod ar amser gwedi darfod,
„ Mi druliais yn union ymhôb ofer foddion
„ Lawer o amser wrth dori Sabothe
„ Yn canu ag yn downsio yr amser aeth heibio,
„ Fe fu amser arall i'm alw ar Dduw'n ddiball
„ Ac i ofyn cymmod am bob math o bechod:
„ Pan oedd llawer Teulu a Disgyblion i Jesu,
„ Yn Pregethu'r Efengil a minau'n troi ngwegil,
„ Bu amser grâs unwaith a Dydd Jechydwriaeth,
„ Ond yr amser yma mae'r Byd a'r chwalfa,
„ Oni Wiw mo'r gofidio pob peth sydd yn pasio.

[td. 6]
A dyna gwynfan y pechadur truan
Nid oes i hwn obeth ond tost farnedigaeth
Am ei fod mor ofer hyd ddiweddiad i amser.
Ond er maind y dychryndod a'r hollfyd yn darfod
Gwybydded pob Cristion nad fellu budd y cyfion
Bydd hwnnw beunydd yn llamman o lawenydd
Fod amserau'n dyfod iddo gael i ddatod
A'i Brynwr eglyr yn ei dderchafu i'r awyr
I fysg yr holl seintiau yn uwch na'r Cymylau,
Ac oddi yno'n gweled y byd yn un llymed
Ac ynte'n cael madde i holl gamwedde
Mor ddedwdd a fyddant yngwlad y gogoniant
Lle bydd yn yr unlle fil o filiwne
O'r nefolion Deulu'n darllen ac yn canu,
A disglair wynebryd i'n iachawdwr hyfryd
I'w goleuo'n wastad yn lle Haul na Lleuad
A gwlad mo'r ddedwddol a beru'n dragywyddol,
A phwy na oe oglyd yn rhan yma oi fywyd;
Am fynd ir uchelne lle mae yr holl Seintie,
A dedwddwch na dderfydd fyth yn dragywydd.
Hugh Jones Llangwm a'i Cant


[BWB 483(2): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. Yn gyntaf Ystyriathau ynghych diwedd Amser neu'r Dychrynadwy Arwyddion, a Ryyfeddodau a fydd yn y dydd diweddas: gwedi i gymeryd allan o amriw fannau o'r Yscrthyrau Sanctaidd; sef y Dychrŷn a fŷdd ir anuwiolion weled Diben pob pêth, a mawr Orfoledd y eyfiawn yn y Nefoedd. Yn Ail Cerdd Tros Wraig aedd yn Diodde caethiwed a Carchar, gan ei gwr ei hynnan iw chanu ar y Dôn y Ceiliog Du (Argraphwyd yn Bala: gan John Rowlad tros William Davis, dim dyddiad), 6-8 (baled 2). ]

Yn ail Cerdd ar y don a elwir y Ceiliog Dâ

O Dduw trugarog rowiog ri
Clyw fi'n galw a'r d' enw di
Mewn gorthrymder trymder trais
O Clyw Dduw nef fy llef am llais
O lawr fy ngharchar galar gwyn
Danfon d'ange o'm dyddie i'm dwyn

[td. 7]
Neu ryw Ollyngdod hynod hael
mado A'm lletu gwelu gwael.
Er allo'n awr na mawr na mân
Mi ga fy llosgi leni yn lân
Nid oes am gwerud a llaw gref
Ond hyder nerth y Tâd o'r nef
Och gofio ngwr mae'nagre'n lli
O'ch oera fodd na chare fi
Ond er fy rhoi dan dymder dro
O Cywir fyth y Cara i fo.
Ac er Caethed iw fy nghwyn
'Rwyf iddo fe am fadde'n fwyn
Mi mrof i alw'n Groew ar Grist
O'm Gwelu oer trwm am Galar trist
fe gadd Susana'r ucha o radd
Mewn bâr a llid ei bwrw i'w lladd
Ar Dduw or nef rhoe lef wawr lon
Fe safio fywyd hyfryd hon
Y Rhai mewn adfyd Clefyd cla
A'r duwiol fuchedd diwedd da
Er bod mewn trallod syndod swydd
Mae Duw'n gwaredu rheini'n rhwydd
Ar gwyr Sydd gryfion Greulon groes
mae Duw'n terfynu o hynny ei hoes
Fel Dafydd freiniol weddol Wawr
A'r Oes yn gla Goleiah i Lawr
Er bod mewn gwasgfa tyna taith
yn dioddie cur a merthur maith
Yn feichiog fawr ar lawr oer le
Caf eto'n hawdd dy nawdd Duw ne

[td. 8]
i'm holl elynion greulon gri
mewn modde dwys o madde di
A'th drigaredd haeledd hên
Ow Da i mi o dod Amen.
Hugh Jones a'i Cant


[BWB 524(1): Hugh Jones (Llangwm). Dwy o gerddi newyddion. Y Gyntaf, Rhybudd i Bechadur i feddwl am ei Ddiwedd ac ymadel a gwagedd y Byd hwn. Iw chanu ar y don elwir King's Farewel, neu Ymadawiad y Brenhin. [...] (Caerfyrddin: Argraphwyd tros Hugh Efans, gan J. Ross, 1765), 2-4 (baled 1). ]

Y GERDd gyntaf, sef Rhybudd i Bechadur, &c.

TYdi bechadur amhur yma cla yw dy gyffes clyw dy goffa,
I ddechre ystyr gwaith angenrhaid mwya ei rinwedd am yr Enaid,
Paham yr wyti mor ofalus am drin o hyd y byd enbydus
A'r enaid gwan Duw ar ei ran mor druan ei ymdrawiaeth
O eisiau chwilio iddo 'n helaeth ysol gariad physygwiaeth
Dy holl ofalon sydd yn benna am bethau damwain y byd yma
Heb feddwl fawr rhwng lloer a llawr am awr dirfawr derfyn,
Ange arswydus ergid sydyn heb le i gilo rhag y gelyn.
Cofia feddwl yn ufuddedd am yr enaid mewn gwirionedd
A gwilia i'r gwael lygredig gorphyn er ei anwyled droi yn elyn,
Y cnawd wrth natur sydd bob amser yn ceisio ei nwyfus blasus bleser
A thithau yn fwyn yn cyd-ddwyn heb achwyn ebychiol,
Am gynnorthwy cadarn nerthol a da fwriad edifeiriol,
Ond garw fod y gwaeledd briddin yn lladd yr enaid bob yn ronyn,
Eisie cael yn ddiffael ei ddiwael addewid,
Yn y bedydd dedwydd dwedyd ar fath hydol ymwrthodid.
Na ddod mor rhwysc i'r marwol gorphyn ond y porthiant sydd iddo 'n perthyn
Maethu'r corph a'i blesio yn ormod sydd yn bachu dyn i bechod;
Bwyd a diod yn gymhedrol sydd yn gymwys iawnn iw ganmol
Dillad clud yn y byd rhag anwyd ddigonedd,
A hyn iw fedd 'n ufuddedd gyda gwiwlan iawn ymgeledd
Bodlondeb ydyw 'r iawn brydferthwch gyda geirie diolchgarwch
I Dduw Tad yn ddiwad trwy gariad rhagorol,
Am bob bendithion yn odiaethol a chalon ddirwest onest unol

[td. 3]
Mae llawnder o wresogion seigiau rwi'n coelio yn waeth na phringder weithiau,
A fo digonol ni chais gwyno ond gollwng ingau Crist yn ango,
Medd-dod pechod mawr anghyfion a fag odineb ymysc Dynion
Amrafael maith lawer gwaith canwaith bu cynnen,
Gwn o'r achos mawr yw'r ochen och i fagad a chenfigen,
Llawer gwraig a phlant sy'n geran mewn lle llwm cibog yn eu caban
Ac wyneb llwyd eisie bwyd ac anwyd iw gwinedd,
Pan fo 'r gwr yn anhawddgaredd efo 'r cwrw yn ei berfedd
Mewn cyffro digio ei gymdogion plesio is awyr ei gaseion
A gwascaru heb gelu'r golud gall o'r achos golli'r jechyd,
Troi delw Crist ar lun anifel yn aswy ei guchia eisie gochel
Ffydd ddiras y cythrel cas anaddas iawn iddo,
Rhoddi'r enaid bach i raenio er maint deisyfiad Crist iw safio
Cofia Lot a brenin Babel a chais ddigryn ffydd ddiogel
A thro 'n ol fawl pur fel Pawl wrth reawl athrawiaeth.
Di gei dirion jechydwriaeth ond gwir ddeisyfu ar Jesu o Nazareth.
Yn llyfr Mathew 'r chweched bennod di gai hanes deg hynod
A'r modd i arfer union yrfa gore sylfaen dy breswylfa,
Gochel falchder hyder hudol gochel bechod defod diafol
Dy dynnu'n dost fechan fost ry dost i rwyde,
Dryge ffyrnig draig uffern-le rhyw ddyn dwl anian ai dilyne
Diharebion doeth odiaethol a Jaco hapusdeg yr Apostol
Sy'n rhoi i ni rybudd ffri i 'mgroesi modd grasol,
A'r brenin Dafydd arwydd wrol sy rwi'n tybed yn attebol.
O pam y porthi 'r corphyn gwaeledd o flaen yr enaid mawr ei rinwedd
Llawer peth all ladd y corphyn na byddo 'r enaid gwaeth o ronyn

[td. 4]
_________ yr enaid ___iau anianol jawn dro gweddus yn dragwyddol
Dan le sydd ar ol ein dydd trwy gynnydd trigiannol,
Y nefoedd wiw-ras dddinas ddoniol a'r llall yw'r ffyrnig bwll uffernol
Os gwerthi d'enaid i fynd yno y corph o'i letty a ddychwel atto
Cyd-diodde'r tân yscol rân aniddan rwi'n adde,
Archoll benyd erchyll boenau le damnedig i eneidiau.
Pwy all ddiodde un wreichionen ar bys bychan aswy heb ochen
O'r tân dirym daearol yma wrth dân ysol y pwll isa,
Ni byddit chwarter un munudyn yn ceisio i ddifa hynny o ddifyn
Llawer peth yn ddifeth o doreth daearol,
Dail a llysiau fyddai llesiol iw gwneud a chysur yn iachusol
Heb ddim gochel tân uffernol lle bydd rhai'n gwaeddi yn dragwyddol
Heb ddiwedd byth syndod syth mewn adwyth boenydiol
Hen ddwys gerydd anescorol heb iw newid i'r annuwiol,
Ceisiwn fwriad edifeirwch ceisiwn gryaedd gwir hawddgarwch
Ceisiwn yscol Jacob dduwiol i ddringo'n ufudd i' wlad nefol
Ceisiwn lampau 'r call forwynion i oleuo i deithio fel y doethion
I fynd o hyd trwy donnau 'r byd i'r llawnfyd mwy llonfawr,
Grym a sylfaen gry rasol fawr yn faith i'n dilyn fyth hyd elawr,
Fel dwedodd Pedr yr apostol a'n dwg i feddiant dawn ufuddol,
At y Tad yn ddiwad trwy gariad tra gwrol,
I'w nefol deyrnas ddinas ddoniol trwy ffydd a gweddi yn dragwyddol.
HUGH JONES.


[BWB 712(1): Hugh Jones (Llangwm). Tair o gerddi newyddion Y Gyntaf; Hanes buchedd y rhan fwyaf o Ddŷnion sŷdd hêb feddwl am eu diwêdd, ond sŷdd yn hyderu ar y Byd ymma; i'w chanu ar gwêl yr Adeiliad. [...] [...] (Mwythig: Argraphwyd gan Stafford Prys, tros Thomas Elias, 1766), 2-4 (baled 1). ]


[td. 2]

Cerdd newydd, hanes Buchedd y rhan fwya o ddynion;
sydd heb feddwl am eu Diwedd, ond hyderu ar y
Byd yma, i'w chanu ar Gwel yr Adeilad.

YStyried holl Blant Adda, mae damwen,
I'w 'r Byd ymma, neu yrfa oerfaith,
Er maint i'w 'n hyder ynddo, wrth nattur,
Ni gawn etto amdo i ymdaith,
Nid oes er Adda i'r hwya i hoes,
I Weîthio 'n gore cyn dwad ange,
Ond byrr o ddyddie i godi 'n gradde 'n groes,
A hyn drwy boen a blinder creulonder lawer loes,
A phwy pan fydde yn nyddiau ei nwy,
Na feddylia hwyr a Bore am ddyrnod Ange;
Cŷn rhoddi o'i gledde o glwy,
Gall Duw ein rhoi mewn gwerud heb fyw'r un munud mwy.
Mae Cristion yn ymrwymo, Drwy ffydd,
A Bedydd beidio a gwyro i gerydd,
Cashau o hyd ei hoedel, y Byd,
A'r Cnawd a'r Cythrel afel ufudd,
Ymroi yn rhyfedd iawn a rhoi,
Ei addewidion fod yn ffyddlon,
Neu Siccrwydd ddigon hoff union y gwnae ffoi,
Ne wnaiff yn maglau'r Cythrel ar drafel ddim ymdroi,
Pan fo mewn oedran gyfan go,
Daw'r Byd a phechod i'ŵ gyfarfod,
Fe durr yr ammod waith hynod a wnaeth fo,
Ni feddwl ef na cheisio, trafaelio trwyddo un tro,
Ond at yr hen Elynion, draw 'n annwyl,
Fe dru 'n union oerion eirie,
Yn lle cyfiawni yn wrol, neu ddeus 'u,
Am fyw 'n urddasol fel yr addawse,
Y Byd â hwn fo ymglyma 'n glyd,
Fe dru i'w lafurio a'i galon ynddo,
Fe grediff iddo pan ddelo 'n gryno o'i gryd,
Heb gofio'r Bywyd nesa lle ceiff o drochfa dryd,
A'r llall ail Elyn cyndyn call
Y Cnawd a'i drachwant a fydd i'w feddiant,

[td. 3]
Yn llawn o nwyfiant mor bendant yno heb ball
A hwn wrth gael ei Dendio'n gwyro i foddio'r fall.
Fe ddilyn Bob drygioni, yn rhugul,
Ni ddaw fo i wrando 'n fwynedd, ar unig,
Air gwirionedd; o'i Annedd unwaith,
Ymroi fel pharo heb geisio ffoi,
A Christ a'i Eglwys wiladwris yn galw 'n gymwys,
Neu ddownus pam na ddoi,
O'th ffordd a'th fuchedd aflan gwell iti druan droi,
Clyw, Clyw medd geiriau a deddfau DUW;
Dychwel weithan cyfod allan o rwydau Satan,
Bŷdd etto rwyddlan rŷw,
Ymâd a'th holl ddrŷgioni ag fellu byddi byw.
Ond dyma'r modd yn eglur, bydd calon,
Pob pechadur amhur ymma,
Yn dweud pan ddelom i'n henedd; mi faria,
Bob oferedd ag mi edifarha,
Pwy ŵyr, pa un a'î [~ ai] Bore a'i [~ ai] hŵyr,
A'i [~ ai] heddyŵ a'i [~ ai] foru y geilŵ 'r Iesu,
A'i lîd o'n Dautu yn cynnu fel y Cwŷr,
Neu gyrr o'r Ange in difa a rhoi ini laddfa lwyr,
Yr oedd bryd, yr enwog clymog clyd,
Pan wnae 'n ei amser dai drwy wchder
Yn llawn o gryfder i gadw i bwer Byd,
Fe Synnodd y nos honno ymado ag efo i gyd.
Yn Ifangc Boddio Satan ' a chadw,
I dduw ei hunan Ddyddiau ei henaint,
Ni chymer yr oen gwirion, (mo'r gweddill,
Diafol gwyddon) y Person Pŷr saint
A phwy, a fentra yn nyddie eu nwy,
Ddilyn gwagedd fâr oferedd,
Rhag ofn yn henedd ddwad arno'n glafedd glwy,
A'i daro heb allu symud na dweud gair methlud mwy,
Pan fydd y gruddiau ar Bronau 'n brudd,
Y Traed yn fferru ar ddwylaw'n sychu,
A'r Cnawd yn crynnu a phallu o wendid ffydd,
Ni ddywed dri gair hynod a'i dafod yn y Dydd,

[td. 4]
Yn llesg rhaid dechre Crefu, ar golwg,
Ar i fynu 'n galw 'n fwynedd,
Fe dd'wed Jesu o Nazareth “ Dwyfamod,
“ O dos ymeth araith oeredd,
“ Pa ri, o ddyddie brafia eu bri,
“ Cest lawer Blwyddyn er yn blentyn,
“ Gallesit gychwyni mofyn peth a mi,
“ A mine laŵer wythnos a ddarfu d' aros di
Gwanhau, wan 'r Corphyn briddin brau,
Wrth ddiodde gormod baich o bechod,
A hi Cydwybod naws hynod yn neshau,
Ac ofan mynd o ddifrri i ddiodde cledi clau.
A'r dyn o'r Cyflwr hwnnw; 'n ddi' morol,
A fo marw bydd garw ei gerydd,
Medd geiriau glan y g'leuni; gŵae iddo,
Erioed moi eni i'w boeni beunydd,
Bydd dryd holl ofer bethe'r byd,
Y bu'n ei casglu ŵr tar a'i tyrru,
Gan hel o'i ddautu a'u prynu lawer pryd,
Cydwybod dda 'r dydd hwnnw sydd gwell nag elw i gyd
Pa lês ni fydd ô'n nawr ddim nes,
Py cae fo 'r hollfyd yn ei fywyd,
A dŵeud bob mynud y gwynfyd yma ges,
Os bydd yr Enaid truan yn gruddfan yn y gwres,
Meddylied Pawb yn wastad, mae hoedel
Dyn fel hediad, neu dynniad tonne,
Rhai'n henedd iawn a hûnan; rhai 'n Ifengc,
Fellu y Byddan yn mynd i'w bedde,
Bob awr mae'r Ange modde mawr,
Yn rhoi ini ddyrnod gwae ni o'i ddyfod mawr,
Mae'n llâdd y gwan a'r cryfa fo roes Goliah i lâwr,
Pôb pen, rhag gormod syndod sen,
Ceisiwn eil-fyd mewn Ifieingtyd,
Nid oes un munud o'r howddfyd ymma i'r hên,
Yn Ifangc troi sydd ôre' â Duw fo madde Amen.
Hugh Jones, Llangwm a'i Cant.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section