Adran o’r blaen
Previous section

Y Brenin Llur, Cwrtmawr 212 (1700-50), testun cyflawn / entire text.



[td. 1]
................... teg lan gynlleidfa
......................... hawddgar dyrfa
ych cenad mewn distawrwudd da
...... ......edd a ddymuna
...........ni 'r Iefengtud
.... a bon i yn 'n Iechud
............... lawenudd mwun
.............a dwrhydid
.....h.... brud cyfaddas
ni ddaethom yma o bwrpas
.. chwryddieth ger ych bron
I gampio hon o gwmpas
os dealldwch gwmni dichlin
mi draethaf i chwi 'r testun
y prolog llawn yn hun o le
fel mae y chware 'n calun
mae 'r stori yn wir i 'w gweled
yn nghronicle y brutanied
am frenin llur wr pur i air
gen hwn 'r oedd tair o ferched
[Cord]ila oedd henw 'r hyna
a henw 'r ail oedd rodia
a ffe[bian] .....ddol siriol serch
.......d............... ferch Ifienga

.................er y...............

[td. 2]
.............................dau n..........
.............................lw.....y........
....... ..................ched yn y man
...wr hyn[o]d dan i henw
fe ddaw yma gybudd chwanog
.... henw iw heilin gribddeiliog
hwn sudd groes ar les y gwan
hen gerun anrhigarog
mae 'r brenin Llur yn galw
I dair merch dan i henw
y naill ar ol y llall yn lli
hen wr i 'w holi yn arw
I gwestwn sudd yn gofun
drwu lw pa un ohonun
a 'i care 'n bura hud i fedd
gan addo anrhydedd uddun
y ddwu ferch hyna 'n gowrain
a dyngcie lyfon milen
y caren nhw i tad yn hynu o le
yn fwu na 'i heneidie i hinen
y drydudd ferch heb dyngu
a ddoude i bod i 'w garu
mor bur a un ferch buth i 'w thad
................r wad am hy[n]u

[td. 3]
fo ddigie wrth hon yma
eisie i bod a 'i gair fel rodia
ag yno rhane 'r dyrnas glaer
rhwng y ddwu chwaer hyna
y diwc o lychlun yna
su 'n cael y ferch cordila
a 'r diwc morganog enfog aer
su 'n mund a 'r ail chwaer rodia
y drydudd ferch mewn dychrun
su 'n tori i gwallt hir felun
mewn dillad mab yn mund o 'i bro
tros for i dreio i ffortun
yn nganol [~ nghanol] hun o gyffro
daw gwur ar fur i 'w examio
yn enw 'r goron dan arfe 'r eiff
a phrysur y ceiff i phresio
Tair blynedd hir o ddyddie
i gario clog a chledde
dan enw capten gynen gaingc
dan frenin ffraingc a 'i arfe
mhen hun o amser di brin
fe ddoude rhai i 'r brenin
i bod hi 'n stowtia milwr ffraeth
ag osododd saeth ar linin
mae dynstan frenin hynod
pen ddelo i 'w dynabod
o gowur g[ar]iad pura serch
..............................

[td. 4]
..............................
..............................
fod i dwu chwaer hyna 'n  twullo ....... i thad
a dwun i stad a 'i goron
Llur lwud trwu dristwch ynte
pen gollo i fyddiane
wrth rodio 'r bud a 'i frud drwu serch
mae 'n taro wrth i ferch ifienge
a hono sudd fwia i chroeso
Er iddo 'n ddygun ddigio
i 'w anrhydeddu wedi 'r dig
mae 'n bur garedig iddo
daw ffebian ag aed yn inion
i guro 'r diwcied ffeilsion
ar ol cefnu i dwu chwaer groes
hi garia yn i hoes y goron
yn llanw ar hun o destun
mae 'r ffwl yn twullo 'r cerlun
I briodi hiran ddiddeunudd ffol
i beru i 'r bobol chwerthin
mae hiran hon ddiddeunudd
yn difa euddo 'r cybudd
mae ynte 'n tori i galon gerth
heb feddu gwerth y nodwudd
ni ddoudes gwmni diddig
fy nhestun yn garedig
ag er yn bod ni a beie 'n llond
na farnwch ond ychydig
diwedd prologue

[td. 5]

enter phwl

ffwl
gida 'ch cenad fawr a bychan
hen ag ifangc a phob oedran
mae hi yma cin frithed ar fy ngair
ar siope ar ffair wulifan
pwu ydech i bawb a wela
ag i ba beth y daethoch i yma
ai haid o dolwuth [~ dylwyth] teg a drodd
ynte sipsiwns 'n rhodd a 'ch galwa
nis gwn i amcan prun su ore
ai doud yn deg ai bwgwth fy arfe
budd perigl am 'ch houdel myn gwaud Iar
os tyna i nglun oddiar fy ngledde [~ nghleddau]
Rwi 'n hen ryfelwr fine
yn cario gwn a chledde
pe cawn i wubod am awr ne ddwu
yn filen pwu a ym ladde
mae ngolwg [~ fy ngolwg] i 'n o egwan
gore i mi dynu fy spectol allan
ni bu mo 'i bath o dwun i dwun
Erioud am drwun dynlluan
chwi welwch i bod hi 'n globen
heb wudur a chylche o wden
a naud i fy nain i weld mund i 'w harch
o birion march friaren
drwuddi mi a 'ch gwela 'n ole
yn wriw ag 'n feniw bawb yn 'r unlle
...................... bob cwr i 'r bud
...................... i gid fel fine

[td. 6]
..................... fy spectol
................ dra rhagorol
mi wela 'r chwain wrth ole 'r ser
yn cerdded coese 'r bobol
mi wela fod 'r haul y leni
tros wlad 'r aipht yn codi
yn eitha 'r dwuren dros y mor
a dacw ferch yn cedor gosi
yn inion tros fynudd twr caergybi
yn ymul Llunden deri
mi wela ar frun anferth o faint
lu mawr o wraint yn pori
ag yn y dehe yn inion
mi wela hen wrach ddigllon
Ers haner awr 'n gwneuthur dwr
yn ngysgod [~ nghysgod] hen dŵr babilon
fy spectol sudd at fy mwrpas [~ mhwrpas]
ni does mo 'i bath mewn tyrnas
mi ga drwu hon os rhoi fy mrud
weled y bud o 'i gwmpas
mae geni dri dodrefnun
a rhinwedd mawr su arnun
myfi awn i 'r fan lle don
y bydd llawer o son amdanun
un iw 'r honos heini
a dyna 'r gwn su geni

[td. 7]
a 'i henw hi ydi pretti thing
a welwch i 'r spring su ynthi
yr ail dodrefnun tewgru
sudd geni iw ngledde [~ fy nghleddau] glowddu
hwn a wnaud i daid fy nain
I guro 'r chwain o 'r gwelu
y trydudd iw 'r spectol gryno
chwi wuddoch hanes hono
mi glowa dwndwr islaw 'r brun
nid alla i ond hun mo 'r tario

Exit

Enter morgan diwc morganog
y fi ydiw morgan diwc morgania
aer y dehedir gwir a ddouda
llawn brud tyner llin Brutanied
o droia daeth fy henhanafied
nid oes o fewn y dyrnas yma
mae 'r geirie 'n ddidwull y gwir a ddouda
un ferch o stat nag o gynhysgeth
gyfaddas imi o 'r un gwaudolieth
nag nid etib neb i 'm colin [~ canlyn]
ond un o ferched llur y brenin
ni chyfathrachi ag aliwns diffeth
Rhag llygru 'n Iaith a 'n gwir waedolieth
gwela i wr o ymddygiad uchel
draw yn dyfod ar i drafel
mi ddybygwn wrth i diwig
mai 'r diwc o llychlun iw 'r pendeddig [~ pendefig]
fe ydiw 'r gwr rwi 'n hysbus ddigon
mae yn cyfeirio yma 'n inion

[td. 8]
hiwin
[Hen]ff[y]ch well i chwi diwc morga[nia]
oes dim newudd tyner yn ynus brutan[ia]
mae dda geni ddwad Iawn fwriad a fae
mewn dewr awchus amod i wrando 'ch resyme

morgan
can croeso a fo ichwi 'r diwc hiwin
beth iw 'r newudd gore o llychlun
ydiw bob peth wrth fodd 'ch calon
trwu 'ch tyrnas Iawn addas yn inion

hiwin
mae pawb yn Iach am ddim ar glowes
yn buw i gid heb lid na males
ond yma a dois yn wir i ymofun
am un o ferched llur y brenin

morgan
y brenin sudd heb setlo 'r goron
y gwir a ddouda na gwneud addwidion
mae gantho ferched glan o brud
ag ynte ag olud ddigon

hiwin
ni awn 'n deuwedd tuagatto
i gael ymgomio peth ag efo
fe alle down cun yn bedd
drwu rinwedd yma i rainio

Exit ddau

plwc y Twrw
ydech i bawb yma fel roeddech i gyne
mi dewes [~ adewais] i fy spectol gartre
spiio rwi dan neuthur [~ wneuthur] wep
oes yma neb yn eisie
glowch i 'r glan ferchede mwuna
a daenoch [~ adwaenoch] fi pen weloch fi nesa

[td. 9]
Rwi 'n tybio 'ch bod fy rhien ber
yn Edruch llawer arna
mi fedra gofio yn odieth
henwe rhai o 'm henafieth
pob merch a red yn nerth i thraud
gael dwad i 'r fath waed olieth
fy nhad i oedd sieffre gefnbant
oedd 'n tario twntu [~ tu hwnt i] 'r Crygnant
ni bu mo 'i fath mewn gwlad na thre
Erioed am chware 'r sturmant
fy mam i oedd gweno Traws fynudd
oedd gansiwn afrosgo a chrwb ar i hysgwudd
hi ddoude gelwudd heb na thor na thrai
mae Etto rai o 'i chwiorudd
fy naid [~ nhaid] i oedd howel sion guto
o gene go dorllaes ymul llandrillo
doedd mo 'i fath am fyta oddyma i fon
os clowsoch i son amdano
fy nain oedd Iewan bengaled
yr wrthuna rioed ar weled
yn braffach i choese na phen i chlun
ag yn fur o un o 'i llygied [~ llygaid]
fy hendaid oedd hirlwn din dene
o gene hull gethin hirion i scythre
fy hen nain oedd morfudd mawr i bar
nis gwn i nad wi 'n gar i chwithe
mae imi bart o garenudd o ddoud y gwirionedd
.e medrw........... cofio o 'i dechre i 'w diwedd

[td. 10]
................... wrth .....
fy mod i ................... o fowredd
fu agos bod arna i ange garw
ddoudud i chwi pa fodd i 'm galw
fe roed arna i henw braf wrth lwc
y meister plwc y Twrw
ffarwel mi af i lus y Brenin
os daw amdanai neb i ymofun
nhw gan afel ynthai 'n un twr
yn cogor yn ngwr y gegin

Exitt

enter Brenin ag oswin
oswin bur fy men conghorwr [~ mhen cynghorwr]
gwn dy fod yn ddoeth dduscawdwr
dy gyngor da ar hun o bwrpas
pa fodd y mae imi setlo 'm tyrnas
mi eis y fi mewn cwrs o oedran
nid alla i bellach fawr ymlwubran
fy nair [~ nhair] merch sudd mewn oedran caru
pa fodd y mae imi cynhyscaeddu

oswin
fy arglwudd frenin pur pe gwuddwn
y cyngor gore i chwi a roddwn
er mwun cadarnhau y goron
a lles i chwi a 'ch plant a 'ch wurion
galw newch [~ wnewch] i nghud 'ch merched
a 'i hel yn gul i 'w holi 'n galed
ar ddoetha gaffoch i madroddion [~ ymadroddion]
setlo ar hon a wnewch i 'r goron

[td. 11]
a 'r ddwu erill wedi hynu
a wnewch er lles i cynesgauddu [~ cynysgaeddu]
a 'i diweddio i wur o urddas
drwu gadernid yn y dyrnas

Brenin
wedi setlo ar un y goron
beth os matsia hon ag estron
a dwun aliwns i 'r frenhinieth
a llygru 'n Iaith a 'n holl hiliogeth

[os]win
mae 'n rhaid i chwi rhwmo [~ rhwymo] 'n fanwl
na ffriodo buth o 'ch meddwl
ne cun setlo 'r goron arni
fynu gweled dudd diweddi

[br]enin
Rwi fi 'n leicio dy resyme
am hun mi rodia beth tua 'r grisie
a gur cordila fy merch hyna
ata i yma i ymgomio 'n gynta

[os]win
fy arglwudd frenin gida 'ch cenad
mi af i 'w chyrchu wrth ych archiad

Exit osw[in]

[bren]in
mae geni wllus i 'm resymu
a phob un o 'r tair o 'r neilldu
a 'r fwia honun [~ ohonynt] a fo 'n ngaru [~ fy ngharu]
myna i ore i chynyscauddu

[cordila]
fy anwul dad mi glowes alw
rwi 'n dwad attoch gynta gallw
[fe]l a bo imi yma yn amlwg
..........ud 'r hun fo dda 'n 'ch golwg

[td. 12]
[brenin]
....... ...... ..............................
....... .........................
....... a ................. hynu
[p]or gen bured yr wit i mi Caru

[cordila]
fy anwul dad mi dynga 'n sydun
man [~ myn] y goron sudd ar 'ch corun
Rwi yn 'ch caru yn mwu ffyddlon
na 'm henaed sy yn fy ngorph [~ nghorff] a 'm calon

[bre]nin
Cordila fy merch rwiti 'n gwbwl
hollawl glir wrth fodd fy meddwl
a 'r llw a roddest ni angofiaf
a 'th cariad imi ni amheuaf

[cord]ila
nid raid i chwi 'r llw a roddes
na byddaf i chwi fel a doudes

[br]enin
Sa [~ saf] di draw fy merch Cordila
tra bwi 'n galw dy chwaer rodia
I glowed beth iw i rheswm hithe
dowch fy merch 'n nes i 'r gole

[ente]r [Ro]dia
fy anwul dad gida 'ch cenad
mi ddois i 'r gole wrth 'ch archiad
ag yma rydwi 'n bur fodlon
I wneud yr hyn a garo 'ch calon

[b]renin
os gwnei y peth a gar fy ngalon [~ nghalon]
mae 'n rhaid iti fod 'n ffyddlon
a hun drwu lw gofynaf iti
pa cin bured ferch a 'm cari

[R]odia
fy nad anwul man [~ myn] y goron
su ar 'ch pen mi a 'ch cara 'n ffyddlon
ag yn fwu purach tyngaf etto

[td. 13]
na 'm henaed su yn fy ngorph [~ nghorff] i 'm safio

[brenin]
fy merch rodia mewn gwirionedd
.....................h dwuwedd
.........................Ianga
..............................


[td. 14]

..............................
..............................
..............................
..........................rnach

Exit gid ond phabian

[td. 15]
phabian
rwi fine i chwi yn chwaer gyfreithlon
un dad un fam un waed un galon
heb ddigio nad [~ fy nhad] er yn faban
i 'm hoed er ioed dim hud 'r wan
ag yrwan digio 'n greulon
o eisie imi dyngu llyfon
am beth allase i galon goelio
heb na llw na rheg amdano
fy nwu chwaer sudd lawen weithian
weld fy nad fel alltud allan
er na wneuthim un achos uddun
dig na thwull er ioed i 'w herbun
pen gaeue nhw i clistie 'n dynion
rhag rhoi luseni [~ eluseni] i dylodion
mine a fyddwn drwu bur wllus
yn rhoi rhoddion i 'r angenus
Rwi 'n gobeithio fod bendithion
rheini yn gwreiddio yn fy ngalon [~ nghalon]
ag y don i 'm calun hefud
pen fo fwia f' ing a 'm caethfud
fine dora ngwallt [~ fy ngwallt] hir felun
ag a fyna siwt o frethun
mewn dillad mab mi a i drefailio
ni does le imi yma i dario
er fy mod i 'n ferch i frenin
rwi mewn cyflwr gwaeth na gwerin
draw dros foroedd fi drafailia
lle na chlowir mo 'r son amdana
pen elw [~ elwyf] i unwaith o 'm gwlad allan
ni ffyn imi fod yn ffebian
..............................
..............................

[td. 16]
plwc
..........................yn..
yn chwen................. mi wela
ow ai rhaid iti ado 'r wlad
fo witsied dy dad mi dynga

phabian
gwrando 'r dun lled ynfud
a fedri di etto ddoudud
ple mae llongie gwuch i stor
mi fentra i 'r mor fy mowud

plwc
Roedd yna gyne i wared
yn cychwun i wlad y Tyrcied
gwilia di na ddoes i 'w rwud
nw a 'th wnan di 'n fwud i willied

phabian
os gnan [~ gwnânt] w hynu ffarwel i 'm mowud
dyna ddiwedd poen a adfud

Exit ffebian

plwc
rwi ti yn ddigon smala ymado a 'th wlad
o achos dy hen dad ynfud
Does lle mynech meinir ddichlin
di gest i fendith o cun dy gychwun
er dicied oedd ni bu arnat wall
am fod mor gall a 'i ofun
oni chlowes i fod rhai rhieni
yn cosbi i plant am dyngu
a 'r hen ffwl acw yn anog i blant
ag yn digio na wnaethant hynu
a glowchi 'r cwmni mwun lan
ni chai mo 'r amser i gellwer rwan
mae rhiw geubren o gybudd ffol
yn dwad ar f' ol yn fuan
Mi ...on a dounoch i 'r gwr godidog

[td. 17]
I henw fo iw heilin gribddeiliog
fo chwerdde pe clowe i alw ar led
y meistar llyged y geniog
ar hynu dyma 'r gwr i hunan
ho ho meister Heilin hoiwlan
au welwch i gimin sudd gentho fe
yn i gario o gode ag arian

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section