enter Heilin
ha ha beth a ddoudid i ffwlcun
ai arian sudd gen riwun
budd ngalon [~ fy nghalon] yn chwerthin dan y mron [~ fy mron]
pen glowi son amdanun
plwc
son a mae nw fyrth [~ fy ewythr] heilin
am bawb sudd genthun dipin
y budd raid i gyru nhw ar frus
i 'w newid i lus y brenin
Heilin
och fine hynu heno
i ba beth y gyrir nhw yno
nid ydi luseni [~ eluseni] i 'w rhoi nw cluw
i 'r brenin duw a 'i cato
plwc
nid i rhoi nw floedd aflonudd
ond i newid nw am arian newudd
ag i gael gwbod hynu toc
beth iw stoc pob cybudd
Exit plwc
Heilin
pacia grigwt [~ grigwd] i ffwrdd i 'th grogi
nid a mo 'm arian i yno leni
ag ni chan w geniog futh
ond a dalwi oer drith yn drethi
och o 'r bud helbylus ydoedd
talu ardreth mawr am diroedd
talu murdd o drethi mowrion
[td. 18]
am ole 'r dudd a dwr 'r afon
heb law talu trethi trymion
nw fynan gael degyme mowrion
gwair ag ud a phob nyfeilied [~ anifeiliaid]
meirch a moch gwlan a defed
Degwm Ieir a degwm gwudde
oni chan nw cowion nw fynan 'r wuie
ni cheiff dun truan yma 'n ddiran
ddim a fo i euddo i hunan
y meister tir ar ben y dwrnod
y fudd yn chwidir Iawn yn dyfod
I yru 'r da yn fawr i draffeth
oni budd o 'n siwr o 'i ardreth
casa gwr ar gefn cynhaia
geni weled y ffordd y rhodia
iw 'r degymwr suth i pengclog
'n cario fy ud i a 'i picwarch bigog
yno budd y gwas ar forwun
heblaw talu am fara ag enllun
yn gweiddi am gyflog mawr yn rhagor
ar ol gwasneuthu darn o dymor
Talu am hau a chau a chwnu [~ chwynnu]
talu am fedi 'r ud a 'i ddyrnu
talu am nithio talu am falu
talu am bobi a chorddi a chrasu
talu am fyta mwud fy hunan
taled dawl am i daflu fo allan
[td. 19]
ag ar ol talu i bawb ohonun
bychan Iawn fudd rhan 'r henddun
pen fwi 'n meddwl am fy holl drafferthion
mi ga glowed haid o dylodion
yn fy nrws i yn gweiddi 'n oeredd
bychan geni tori i danedd
gwell geni glowed buwch 'n brefu
na chlowed 'r un o rhain yn nadu
rwi 'n doud y gwir yn ddigon ffri
ni fedra i mo 'r gwadu
oni bai 'r gost su 'n magu corgwn
chwaneg ar f' einioes ohonun a fynwn
i gowrsio 'r tylodion i ffwrdd o 'r bro [~ ]
a mine yn i postio ar pastwn
considred pawb su 'n trin y bud
y modi [~ fy mod i] 'n doud y gwir i gid
o gyfadde 'r cwbwl ni cheisia i orchest
biw olieth sal iw deilio 'n onest
pe dawn i gonest ar bob gweithred
gwn y gallwn fod yn fy ngolled [~ ngholled]
raid imi gribddeilio yn mob [~ mhob] bargenion
os mynai gadw ngode [~ fy nghodau] 'n llownion
mi roses [~ arhosais] yma 'n hwu na 'm bwriad
ni does geni gartre neb yn gwarchad
hwrach fod holl nifeilied [~ anifeiliaid] y pentre
yn pori fy ud i a 'm gwair i gore
gobeithio fod fy anifeilied ine
yn llyfu oll i llafur nwuthe
Exit
enter Brenin a 'i 2 ferch a 'r 2 ddiwc
[td. 20]
Brenin
Dowch pan Erchwi 'n nes fy merched
Efo 'ch gwur drwu bur ystyried
fel a galloch wrando 'n addas
y modd y rydwi 'n setlo yn tyrnas
fy mab Hiwin diwc o Lychlun
fel hun a mae fy llythur cymun
i chwi mi roddes fy merch hyna
yn dwusoges gwledudd mersia
ch braint chwi yn hun o amser
a fudd arglwuddieth diwc Caerbier
yno cewch i fuw 'ch deuwedd
tra boch i 'n inig heb etifedd
a 'r mab hyna i chwi a enir
o gnawd olieth cordila gowur
os daw mewn oed a phwull mesurlon
hwn a fudd 'n aer i 'r goron
i chwithe Morgan diwc morganwg
y roes fy ail ferch rodia 'n amlwg
ag yn nhwusogeth [~ fy nhywysogaeth] gwlad y dehe
y budd 'ch breintie chwi a hithe
chwi gewch gud rioli [~ reoli] 'r dyrnas
gwiliwch ddilin llid na males
gida 'ch gilidd yn un galon
a gwnewch gylanedd [~ gelanedd] o 'ch gelynion
na fyddwch chwanog i ryfela
nid iw ond blinder mawr a thraha
os cewch yn ddidawl hawl a heddwch
buth hud angie [~ ] 'n rhodd cymerwch
yn ngaerlludd [~ Nghaerlludd] sef Troia newudd
cymera ine miwolieth beunudd
[td. 21]
ag a fyddaf llawen ddigon
yn fy enw yno i gario 'r goron
Hiwin
fy nad yngyfreth [~ nhad-yng-nghyfraith] rwi 'n gobeithio
fod y dyrnas gwedi i setlo
a phob peth mewn modd cariadus
gwnawn ine bawb yn ol 'ch wllus
Morgan
gobeithio fod pob peth o 'r gore
yn ol ych addusg byddwn ine
yn un galon gida 'n gilidd
drwu gowur nod yn glod i 'n gwledudd
Cordila
fy anwul dad bod hir oes i chwi
yn 'ch henaint i rioli [~ reoli]
nes y gweloch i 'ch gorwurion
yn i hoed i gario 'r goron
Rodia
Medda fine boed llawenudd
I chwi nad [~ fy nhad] yn hen wr dedwudd
budd cofio am frenin llur yn llwura
hen brud hoenus waed brutania
Brenin
awn yn gwlwm efo 'n gilidd
Draw yn awr i droia newudd
I alw i 'r unlle bawb gerbron
o 'r boneddigion dedwudd
Exit oll
ffabian mewn dillad mab
Dyma fine tost i thyngied
yn mell [~ ymhell] o 'm bro 'n trafailio 'n galed
mewn dillad mab ers haner blwuddun
etto heb adnabod undun
chwith imi wisco coat o frethun
yn lle sidan ag aur melun
closun main 'n ngulch [~ ynghylch] fy lwune
[td. 22]
yn lle melfed a rubane
crysie holand main a chamrig
oedd geni lawer nid y chydig
ni
i rwan ond crus garw
o garth llin a da cael hwnw
mi ges fy magu 'n gu ag anwul
a phob danteithion yn fy ymul
rwan ni feddai nag aur nag arian
rhaid imi fegio o hun allan
enter sarjant
pwu ydech i 'r gwr Ifangc cryno
pam yr edech i yma 'n loutro
o ble daethoch beth iw 'ch neges
moswch [~ moeswch] glowed cwrs o 'ch hanes
ffabian
Llengcun ydwi o frutania
mewn gwirionedd mae 'r gair yna
daeth yn wisc ymen osoweth
dan ymofun am washaneth [~ wasanaeth]
Sarjant
chwi gewch washaneth [~ wasanaeth] geni o 'r gore
dan frenin ffraingc i wisco arfe
foru 'r bore i fynd i ryfel
ag i ymladd am ych houdel
ffabian
ni wnewch mo hynu sir gobeithio
nes dyscu imi 'r ffordd i drainio
gwn na bu erioed yn unlle
yn fy llaw na phik na chledde
Sarjant
ai ofn su arnoch fynd i ryfel
pa golled su arol 'ch bath na 'ch houdel
[td. 23]
nid ych daioni. mi wn o 'r gore
erioed a 'ch dygodd oddi cartre
ffabian
ni wnes i ddrwg i neb mewn unman
ond a wnes i mi fy hunan
Sarjant
fo geir gweled hynu Etto
pen ddowch i o flaen y giamp i daro
ond beth iw 'ch henw dowch yn syden
gael imi 'ch rhoi yn lust y capten
ffabian
os wy i fab y gwir rwi i 'w ddoudud
ni does arna i henw ond alldud
Sarjant
Capten Mortimer dowch ar gyfer
dyma soldiwr gwuch o fenter
enter Mortimer
mae hwn 'n landdun ifangc lysti
ni does mo 'i fath yn fy ngwmpeini [~ nghwmpeini]
o ble doisti 'r glanddyn mwuna
alltud
Mortimer
beth a 'th gyrodd di ffordd yma
alltud
fy anlwc oedd 'r achos mwia
Mortimer
beth iw dy anlwc mos [~ moes] imi glowed
alltud
fy nal i 'n gaeth ymlith dieithred
Mortimer
witi 'n ddieuog ddiwrth waed gwirion
alltud
ydw etto 'n ddiddrwg ddigon
Mortimer
pam a doist i o 'th gymdogeth
alltud
i mofun [~ ymofyn] yn mell [~ ymhell] am well gwasaneth
[td. 24]
Mortimer
cei wasneuthu 'r meister pe.......
alltud
mi ga fy lladd foru os hapia
Mortimer
os cei dy ladd di gei gwmpeini
alltud
nid raid imi ddwun cur y reini
Mortimer
alltud
ond mwu futh a fudd fy mlindra
Mortimer
beth iw dy enw 'r llengcun tirion
alltud
alltud iw fy henw 'n inion
Mortimer
ydiw 'ch tad 'n buw 'n Mrutania
alltud
yno roedd pen weles i o ddiwaetha
Mortimer
ydi fo 'n wr o stat a lifin
alltud
roedd o gimin i barch a brenin
Mortimer
wel wel alltud cymer galon
cei foru ddial ar dy Elynion
alltud
yn wir yn wir rwi 'n credu 'n ffyddlon
fod pawb yma imi 'n Elynion
Sarjant
hwdiwch deliwch meister alltud
saeth a bwa a chledde hefud
Dowch i 'r gwersullt draw i dreio
am yn tro i ddyscu trainio
alltud
Ewch lle mynoch ni does gen ange
ddim mwu o gas i mi na chwithe
Mortimer
cymrwch ofal amdano 'r Sarjant
rwi fi 'n leicio 'r llangc 'n galant
Exit i gid
plwc y twrw
para bwint gwnion ferched
[td. 25]
a fynwch i hi boni bengaled
mi a 'ch gwela 'n chwerthin meinir dal
Ran bod y gal i 'w gweled
mae hithe 'n wbodol bidin
uwch ben i marchnad Eirin
ag yn crechneitio yn i lle
ych gweled chwithe 'n chwerthin
a fynwch i fy mun reiol [~ reol]
honyma am dro ar dreial
pen foch yn mund i hwilio 'ch cloc
gosodwch hi 'n goc i 'ch deiol
y cerddor cun ymadel
can imi jig o ffarwel
fine a ddownsia 'n ddigon sionk
os tiwni imi sponk bogel
enter Heilin
pa beth iw trwst gwnhwunol [~ gynhwynol]
su o 'm deutu mor rhyfeddol
mi wn fod 'ch swn 'n ddigon cru
er haner dychrynu 'r bobol
y cerddor cais di 'r carne
gida dy groesion bricie
ag oni te a 'm pastwn da
fel 'r attebwi mi a 'i gwna 'n dipie
a chwithe clol maharen
..yd hi rwan fud i fod 'n llawen
[td. 26]
oni bai rag ofn drwg fi a drawn
mewn golwg mi 'ch gnawn 'n gelen
plwc
os trewi fi ar fy midin
mi ro [~ roddaf] ngledde [~ fy nghleddau] drwu dy bwdin
roes rhiw beth i fus 'n dy din di do
ddarfuti amhwilio heilin
Heilin
anhwilio rwi wedi clir amhwilio
och mae newudd drwg i 'm blino
gwau fi glowed 'r awr hon
I rydwi mron llysmeirio
plwc
mi ddoudes i 'r smeitin
fod rhiw bru 'n men fyrth [~ fy ewythr] Heilin
rwiti 'n wan jawn nis gwni beth
a doresd i bleth dy ddwu glun
Heilin
na ddo naddo plwc y Twrw
gwaeth na thori corn y ngwddw [~ fy ngwddw]
mai 'n dwad 'n rhyfel blin o 'i cho
a 'm code i Eisio i cadw
plwc
ho ho mi glowa rwan
ofn sudd arnat i ddwun dy arian
reitiach iti ofni wumed cath
rhag i riwun roi ti frath dy hunan
Heilin
gwell geni gael brath fy hunan
ar f' enioes [~ einioes] na dwun f' arian
sudd yn fy ngadw [~ nghadw] i 'n fy hwul
y ngalon [~ fy nghalon] anwul oedden
plwc
rwiti yn barod iawn i farw
dwed imi etto hwtw
pen fochdi ar feder mund i 'r ne
[td. 27]
pwu geiff y code i 'w cadw
Heilin
gore ne imi iw fy arian
pur i 'm cadw iw pob codan
os cai lonudd yn hun o le
does di i 'r ne dy hunan
plwc
ha: ha: ha pwu na chwerdde
deidi [~ nid ei di] buth i 'r ne ni dwaunost [~ adwaenost] mo 'r llwubre
Heilin
mi fentrwn ddal am ddime ne ddwu
na deidi [~ nad ei di] yno mwu na mine
plwc
ai ni deidi [~ nid ei di] i 'r ne os cei di drigfa
Heilin
y peth a wpwi [~ wypwyf] na cha nis ceisia
plwc
di eist yn satan drwg i fol
yn mell [~ ymhell] y bo 'th siol ysmala
Heilin
amal regfa drom gen lawer
a geiff gwr fo 'n perchen power
nid gronun anhaws gen i ffynu
er i 'r hogie ffol fy rhegu
pe cawn i hen wrach fantach erwun
o gybyddes arthes wrthun
a chynth arian da dybygwn
mewn pur adeg mi priodwn
rydwi wedi mynd yn henedd
ag yn gwla o eisie ymgeledd
a ddysci di imi plwc y twrw
gael i 'w charu hen wrach arw
[td. 28]
[plwc]
..............................
a 'i henw odd.ddan ....... iw hiran ddiddeunudd
o glednen legach o birion hilogeth
dygun dig awudd a digon o goweth
Heilin
dyna hi 'n birion pe dau hi o barod
cun colli 'r fath henwrach lle gallwn i chanfod
os bydda i 'n i leicio i 'm boddio bun lwcus
I drin fy nodranach [~ nodrefnach] a mine 'n oedranus
plwc
di fydi yni leicio a 'th dithe cin llacied
mi a 'i galwa i 'r gole i gael iti gweled
mae thad hi 'n aer bodheble
Heilin
plwc
fo dal i mam hi fil o byne
Heilin
plwc
fo dal i nain hi wedd a phenffust
Heilin
plwc
fo dal i thaid i grogi wrth gebust
ag os tybyga hith [~ hithau] i 'w phobol
hi dal i 'w chynio yn i chanol
Heilin
does i 'w nol a brysia 'n fuan
gad gael golwg mwun ar hiran
gida 'r gair mi a 'i gwela 'n cerdded
yn un cwrwm tin y gored
ai llangces ifangc wit rwi 'n gofun iti
[td. 29]
Hiran
Rwi yn ddigon hen er fy naioni
Heilin
oni ddoudest ti i bod hi 'n henedd
mae hon 'n Ifangc mi wn wrth i danedd
plwc
ti graffest yn fuan tu mewn i 'w min
di ei i spio i 'w thin hi o 'r diwedd
mae hi 'n abal hen o 'i hoedran
ond i bod hi 'n fyches fechan
Heilin
gore bechan iw bechan buwch
ni base hi gwaeth er bod ddyrfedd [~ ddyrnfedd] 'n uwch
plwc
ti Estyni hynu arni yn y gwelu
Heilin
nid wufi abal gen bysychu [~ besychu]
Hiran
oni ystynwch hwu na hynu o sias
rhaid i chwi gadw gwas i 'ch helpu
Heilin
ond ydiw dyrnfedd 'n hir aruth [~ aruthr]
Hiran
beth am bymtheg modfedd f' ewurth [~ ewythr]
Heilin
cwus rhu ddyfn i hadud henddun
Hiran
wrth fel y bytho 'r tir yn gofun
Heilin
witi yn doud y doidi i 'm calun
Hiran
ni chlowes i etto neb yn gofun
Heilin
wel rydwi 'n gofun iti gweno
hiran
chwi gewch ofun unwaith etto
Heilin
Rwi gwedi gofun dod imi atteb
[td. 30]
hiran
trowch yma un o 'ch dau wyneb
heilin
ai dau wyneb fudd gen henddun
hiran
ie os hapia dri gen gerlun
Heilin
mi a 'th wela 'n abal llom dy ysgwudd
oes genti etto ddim dillad newudd
hiran
mae rhain yn rhydda os daw i 'm rhan
I fuw mewn caban cybudd
Heilin
Rwiti yn ddigon doeth a symel
a fedri di wneuthur gwaith a gorchwul
hiran
mi fedra weithio os cai le
a chware yn 'ch ymul
Heilin
a fedri di farchnata yn gyndun
wrth werthu ud ag enllun
hiran
mi fedra farchnata 'r henwr cu
a phlanu plu 'n 'ch corun
Heilin
a fedri di ddyrnu a nithio
ag edruch gwalle a godro
hiran
mi edrycha walle os galla i 'n glir
at ych coffre yn wir ddigyffro
Heilin
a fedri di godi yn fore f' ened
i odro geifir a defed
hiran
mi goda pen dwno [~ dywynno] 'r haul ar y gwudd
oni budd hi 'n ddudd peidied
Heilin
a fedri di hyswi ddi barch
nyddu gwlan a chowarch
hiran
mi fedra gribo 'ch coese 'r nos yn dda
[td. 31]
oni weithwch yn dra hafarch
plwc
ond ydech yn cyttyno 'n odieth
chwi gewch amser etto i drin 'ch swieth [~ hyswiaeth]
rowch i 'ch gilidd yma 'ch cred
ne geisiwch fyned ymeth
Heilin
ryden i yn cyttuno yn abal
ni byddai gweled ffeiried [~ offeiriaid] on [~ ond] go anamal
ni waeth chydig siarad a merch a chod
na chadw gormod dadal
hiran
os mynwch i fi gyrwch i nol
offeiried ffol ne glochudd
plwc
rwi fi 'n abal ffeiried [~ offeiriaid] er y mod [~ fy mod] yn ffwl
i briodi hen garbwl o gybudd
prun ai leisans a fudd a 'i gofun
heilin
ffordd gynta ar rata i 'r henddun
plwc
rhaid bod leisans ne ostegion
Heilin
nid ai ymhel i hel meichiafon
plwc
Dyna ben rwi 'n ddigon bodlon
fo gust i 'ch pwrs y fi iw person
nid a hi heno yma 'n ffair
nes gofun tair gostegion
o ist o ist o ist rwi 'n rhybiddio pawb o 'r fyddin
i ddwad y foru i du fyrth [~ fy ewythr] Heilin
mae yn ddwrnod rhan yd ag enllun
arian cig caws ag ymenun
heilin
gwaed fo a 'th witsied di y cene
doed neb yno mi dora ..................
[td. 32]
di gollest dy ...............
ai fellu a gofyni ostegio[n] p........
plwc
'r ail osteg rwi i 'ch rhybiddio
ddwad atfr.th Heilin y foru i 'ch cinio
mae yn gwerthu i stoc a rhoi 'r tir i fynu
i fund gida i wraig i gaer i fyrddu
Heilin
melldith dy fam i ti cydafel [~ cadafael]
rwiti yn waeth dy gwrs na chythrel
oni fedri di 'n well na hun briodi
cymer iti hi a does i 'th crogi
plwc
wale seilans bawb gwrandewch fy eneidie
y drydudd waith mae 'r goel os hapie
rwi 'n cyhoiddi gostegion priodas wudun
rhwng heilin gribddeiliog o lanbidirodun
a hiran ddiddeunudd o blwu mynudd y tylodi
wures yn ngyfreth [~ wyres-yng-nghyfraith] i doreth y diogi
os gwur neb ohonoch achos na rhwustur
na ddylid mo 'i rwmo [~ rwymo] doudan mae 'n rowur
os gwuddoch osodiad dwedwch yn sydun
dyma 'r drydudd waith yni gofun
chwi ellwch roi 'ch dwulo ngud [~ ynghyd] pen fynoch
wrth hir ymgeisio ond da 'r ymgowsoch
ni does neb am y glowa i
ar feder tori rhyngoch
bu agos imi a gadel fy llyfur 'n ango
lle mae geirie 'r strodur lan i 'ch rwmo [~ rwymo]
hai dowch yn mlaen be sudd 'n 'ch brud
na rowch i ngud [~ ynghyd] 'ch dwulo
y Briodas rwan
[td. 33]
Rwi fi Heilin gribddeiliog
yn dy gymrud di hiran ddi hirog
i dirio 'r nos ag i dori nwu
dy filen glwu dy falog
wale heilin anhaeledd
dyna arnoch i gnot o 'r diwedd
dywedwch ithe hiran ar f' ol i 'r wers
i gael cwlwm hers ych deuwedd
Rwi fi hiran yn dy gymrud ti ddihirun
I ddyfrodi dy dda gerlun tra meddi di gwrlid
I dalu i fy montin wel dyna fy mantes
ag i dori 'r gogles
ar y din gaglud
ar hun o brading cun gorphen priodas
offrymwch yn gynta a chwithe 'n cael cowntes
chwi wuddoch fod geni galon gru
i briodi 'r fath ddau bru anghynes
Heilin
ow gorffun tafod drwg gorphen dy fatter
goflin i 'r tengcwl fynu gyflog fel tingcer
plwc
mi wna i fy ngorchwul slap
ag a 'ch rhof chwi whap yn ngonglog
fel na bo iti Escis wyneb ci
rhag talu imi fy ngyflog [~ nghyflog]
wale hai fyrth [~ fy ewythr] heilin
i lawr dula chwi ar 'ch deilin
a chwithe hiran wuneb 'r hufr
i gael gweddi 'r llufr cyffredin
dau ar i glinie
gweddio
gweddia fi beunudd na bo i 'r hen gybudd
ai hiran ddiddeunudd ond gwradwudd i 'ch ... gwrido
[td. 34]
topun yn dopun bob dudd yn y flwuddun
yn llwm 'n noeth llumun y ddau grebun yn ymgru.....
drwu boen bochi ben ben ar ledel a 'r mopren
yn dilio tra dalien 'ch talcen a dolcio
a ffust ag a ffastwn nes y cysco pob ascwrn
yn boeth y bo 'r ffasiwn buth heb orphwuso
trwu afraid 'n anoeth ar elo 'ch holl goweth
cun trenudd ne dranoeth na feddoch ddodrefnun
ag fellu run moddion 'r elo da 'r holl gybyddion
na roddo i 'r tylodion roddion o 'r eiddun
dyna weddi o 'r ore ffynu wnelo 'r geirie
amen doudwch ithe Efengil o 'm gene
Heilin
os darfu ti dy weddi pendrist
cais gychwun hiran hwyrdrist
I yru 'r wedd i erw 'r wal
mi ddoine [~ ddof innau] i ddal y penffust
plwc
mi na [~ wnaf] iti dalu imi ngyflog [~ fy nghyflog] athust
cun dal na gwedd na phenffust
ag oni te man [~ myn] gwaed y gog
mi a 'th rho di ngrog [~ yng nghrog] wrth gebust
Heilin
gad lonudd paid a 'm crogi
ti gei geni gadach i giddio dy noethni
a hen glosun clytiog am i ham
yn abal am briodi
plwc
gwaed dy galon a geulo
ai hen glosun wedi glytio
ai dyna 'r cyflog gai
am briodi rwiti 'n byrddwudio [~ breuddwydio]
[td. 35]
Hiran
taw a 'th dafod deifiog
na ddigia 'r hen ddun tonog
os byddi bodlon y fi a 'th wna
yn abal da dy gyflog
plwc
gad iddo Heilin hoiwlan
mi goda ngyflog [~ fy nghyflog] a 'm llaw fy hunan
am log f' arian barfan fraith
mi af lawer gwaith ar hiran