Adran o’r blaen
Previous section


Exit gid

enter Hiwin diwc o lychlun
oes neb yma ganfu ertolwg
fy mrawd morgan diwc morganwg
mae yn rhowur geni 'n ddi ffael
yma i gael i 'r golwg
fe ddawodd [~ addawodd] ddwad yma
i 'm cyfwrdd i chwedleua
o 'r diwedd dacw fo gerllaw
wr gwiwlan draw mi a 'i gwela

enter morgan
para bwint Hiwin y mrawd [~ fy mrawd] hyna
pa fodd y mae fy chwaer cordila
pa fodd mae 'ch mab mund ragddo 'n awr
er cynudd mawr cynedda

Hewin
i mae fy mab yn myned
rhagddo 'n birion wrth yn bwried
ond eisie ymgwfwrdd yma 'n blaid
I gael o 'i daid i weled

Morgan
pe caen i 'r henwr yma 'n llawen
i setlo 'r goron ar y bachcen
cen ine 'r dyrnas i 'w riwlio 'n ffel
ar f' enioes [~ einioes] fel y fynen

[td. 36]
brenin llur
fy meibion 'n ngyfreth [~ yng nghyfraith] glana ar dir
da ceni yn wir 'ch gweled
yn Iach lawen yma 'ch dau
pa fodd y mau fy merched

Hewin
fy nad yn ngyfreth [~ nhad-yng-nghyfraith] er 'ch cwmffwrdd
fo ddaw cordila yma 'ch cyfwrdd
a 'i mab bychan ar i breuchie
ch wur cynedda yma heb ame

morgan
fy nhad a 'm brenin trwu gowirserch
mae 'ch merch rodia 'n 'ch anerch
hithe newudd ddwun i 'w gwelu
ar i merch bach Twusoges Cymru

Brenin
mae 'n dda geni fod fy merched
yn cadw hepil i 'r brutanied
dan obeithio os can w i houdel
a cadwan hwuthe fraint ddiogel

enter Cordila
fy anwul dad a 'm brenin
rwi 'n syrthio ar fy naulin
I ofun tros fy mlentun [~ mhlentyn] bach
ych bendith a 'ch ymddiffin

Brenin
fy mendith 'n mob [~ mhob] rhith ar hwn
yn bena o 'r nasiwn inion
a llawenudd gynudd gant
i 'r rest o 'm plant a 'm wurion

Morgan
fy nhad 'n ngyfreth [~ nhad-yng-nghyfraith] na ddigiwch wi [~ chwi]
os dywuda fi fy meddwl
ruch i 'n henedd iawn i fod
yn cymrud gormod trwbwl

[td. 37]
fy mrawd Hewin a mine sudd
yn ifaingc 'n nudd 'n cryfder
gwnewch cynedda yn aer i 'r dyrnas hon
a chymrwch i 'ch bron Esmwuthder
A thra bo hwn yn dwad i 'w oed
ni bu 'r ioed beth howsach
i nine 'r goron yn dau i 'w thrin
heb ddim o 'r ffilsin ffalsiach

Hewin
os cawn i 'n dau reoli 'r wlad
cewch chwithe nhad yn ngyfreth [~ fy nhad-yng-nghyfraith]
rhwng 'ch dwu ferch yn un a wnan
tra boch i 'ch glan fiwolieth

Cordila
chwi ellwch gofio nad [~ fy nhad] yn daer
y llw roes fy chwaer a mine
ni gadwn hwn tra bo chwuth
nid rhaid i chwi buth mo 'r ame

Brenin
o ran fy mod i 'n hen ar faingc
a chwithe 'n ifaingc heini
os cedwch fi tra bwi 'n y bud
cewch chwithe gud reioli [~ reoli]
dan obeithio y cai fy rhan
fel brenin gan i feibion
Dowch cymerwch feddiant rhad
drwu gariad yn y goron

Exitt oll

enter alltud ne ffabian
wel dyna fine ffabian
yn gwisco enw a lifre capten

[td. 38]
a chwedi bod mewn rhyfel creulon
tan frenin ffraingc a 'i goron
ers tair blynedd hir o ddyddie
heb gael erioed na braw na briwie
yn gorwedd gida meibion yno
ag nis gwur neb mai merch wi etto
ag y rwan darfu i 'r fyddin
ynill [~ ennill] aeres fawr i 'r brenin
merch i dwusog gwlad italia
a dwun i ffraingc fawr gaeth gludfa
mae 'r swuddogion oll y rwan
yn cael mynd bawb i 'w gartre i hunan
I roi tro ymlith i tolwuth [~ tylwyth]
a chael i bud yn ddigon Esmwuth
galar mawr i 'm calon ine
pan fyddyliwi am fynd adre
a hireth trwm am wlad brutania
myned yno mi lyfasa
tra bw i yma yn ochneidio
mi ro fy arfe i lawr i orphwuso
i 'm difyru myfi a dreia
ganu cerdd yn Iaith brytania

Canu rwan ar y Queens dream

Tost imi 'n ferch i frenin
gan ofal yn gynefin
fynd allan gida 'r fyddin a dilin arfe dur

[td. 39]
yn lle parlwre tawel
dda agwedd fwun ddiogel yn rhifo gwur i ryfel
am hoedel gafel gur
yn lle gwr bum i 'n siwr mewn amal daro ar dir a dwr
yn rhyfela 'n nerth y cledde am fy mowud Efo mwa
gorchfygu rhai marchogion yn galonog o 'm gelynion
a llawer brwudir greulon ddigwuddion blin i 'm gwawr
fel milwr balch mi nilles [~ enillais] farch i drefio 'r beik drwy fawr barch
cynal caingc o fyddin ffraingc a 'm barnu 'n fawr wuth ar y faingc
wrth weled fy ngwroleth mi gefes oruwchafieth
yn gapten ganwrieth a milwrieth mawr
Duw madde i nhad [~ fy nhad] anhydun ddigio am ddim mor ddygun
a 'i gilwg fel y gelun yn fy erbun i fel hyn
a gyru i anwul eneth ael adun o 'i lyfodreth
heb gymod mewn dig ymeth o soweth rydwi 'n sun
hireth mawr sudd arnai 'n awr
fel brathiad cledd i 'm gwedd a 'm gwawr
yn dwun galar dwus di gymar
fel oeredd Eira ar y ddaiar
o na bawn i beunudd yn ngaere fy ngharenudd
orchafieth fel fy chwiorudd dda ddeunydd yno ddwu
Llur lwud pa le rwit garw nhad [~ fy nhad] a 'm gyre i rwud
fel y rydw heb neb i 'm galw
ond fy hunan a wur fy henw
capten alltud meddan yn lle arglwuddes ffebian
yn musgc penaithied Brytan y rwan yma rwu
diwedd canu

[td. 40]
enter capten mortimer
Iechud ichwi lan ferch gryno
wuch gowreindeb bum i 'ch gwrando
ych tryth a 'ch cyffes sudd a 'ch trallod
yn fy meddwl su 'n rhyfeddod

ffabian
capten mortimer na chymrwch gyffro
ni wiw i chwi ar hun mo 'r hidio
gwendid fy men [~ mhen] a chur fy ngalon [~ nghalon]
a 'm roes i ddadwrdd oer fyrddwudion [~ freuddwydion]

mortimer
nage nage mae 'r co o 'r gore
mi glowes son am ffabian fine
ddigio o 'i thad ai throi o 'r gwledudd
Eisie bod yn un air a 'i chwiorudd
mae tair blynedd ar y mater
er pen ydech imi 'n bartner
yn cud gysgu a chud gyfeddach
erioed ni wubum mai merch oeddech

ffabian
merch oeddwn yn ddiame
a merch wi etto mewn gwir eirie
fy mhartner pur myfi a dynga
nad wur neb yn y dyrnas yma
o gyfadde 'r gwir rydwi 'n forwun
fel a does i 'r bud yn blentun
man [~ myn] fy ffudd os fi di [~ ydyw] ffebian
ni ches i yrioed ddrwg air na gogan

[td. 41]
mortimer
mi af a 'r newudd yma 'n ddi brin
i 'w dystoliaethu o flaen y brenin
mi wn pan glowo 'ch bri a 'ch galwad
y cewch i gantho barch a chariad

ffabian
Tewch yn uchel Iawn a siarad
pwu a wela i draw yn dwad

mortimer
dacw dynstan frenin ffyddlon
ar i ben mi wela 'r goron

enter dynstan
pwu sudd yma yn cwmnieth
ai 'r capten mortimer a 'i gydymeth
pa fodd yr ydech fy ngaptenied [~ nghapteiniaid]
oes dim newudd da i 'w glowed

mortimer
mae geni newudd a dal i goelio
os rhynga fodd i 'ch gras i wrando
am fawr rhyfeddod a fu 'n 'ch armi
anamal jawn mae 'r fath stori

Dynstan
yn enw 'r nef beth iw dy newudd
mos [~ moes] i glowed yma 'n ebrwudd

mortimer
er ys tair blynedd yn 'ch byddin
mewn dillad mab mae merch i frenin
fel rhyfelwr gwrol gwaedlud
yn cadw enw capten alltud
dyma hi a 'i henw ffebian
chwi ellwch siarad a hi 'ch hunan

[td. 42]
dynstan
rydwi gwedi synu 'n anian
yn rhodd yn rhodd ai chwi ydi ffabian
dyges alar mawr i 'm mynwes
yn hynod eisie cael 'ch hanes
mi glowes ddoudud riw dro arall
y peth a wnaeth 'ch tad mor angall
ch gyru o 'r wlad mewn bwriad didro
ond bu edifar ganwaith gantho

ffabian
yn wir f' arglwudd frenin purlan
fy inion henw i ydi ffebian
fy nad iw llur o bur waed Troia
brenin tyner gwlad brutania
os darfu nad [~ fy nhad] yn ddygun ddigio
nid raid imi am hun mo 'r gwrido
ni wada i buth mo 'm henw i yndun [~ undyn]
er a wneis o dwull i 'w herbun

Dynstan
ffabian fwun mi glowes dystio
leied achos a gadd o 'i ddigio
ag am 'ch trafel yn fy myddin
cewch barch a heudde merch i frenin
dowch i wared tua 'r siope
mi a 'ch rho mewn melfed a sidane
Tlyseu gwerthfawr aur ag arian
a modrwie perleu purlan
ran o 'm bwud a 'm bwrdd fy hunan
a buw 'n hollawl o hun allan

[td. 43]
enter hewin a morgan

hewin
Diwc Morganog Enwog inion
fe ddaeth y bud wrth fodd yn calon
cael y goron mewn modd ffel
i riwlio fel y fynon

morgan
yni 'n deuwedd drwu gytundeb
sudd yn riwlio mewn gwroldeb
nid all neb ar for na thir
ddoudud i 'r gwrthwuneb
am hynu gwnawn ni gudsentio
yn dau heb fethu er dim a fytho
I yru 'n tad yngyfreth [~ tad-yng-nghyfraith] 'n glir
ffwrdd o 'i dir i dario

enter llur
cyfarch well fy meibion yngyfreth [~ yng nghyfraith]
pa fodd yn rhodd y mae 'm dwu eneth

hewin
be fynwch chwi a gynw 'n siwr
yr hen fradwr diffeth

llur
pam 'r attebwch fi mor ddigllon
pa beth yn rhodd su 'n blino 'ch calon
beth sudd yn peri dan y rhod
wur grasol fod mor groesion

hewin
ych merched sudd yn 'r un feddylie
oll yn oll ag yden ine
am ych troi ffwrdd o 'r tir
mae 'n ddigon gwir y geirie

llur
yn rhodd .......h...d..a.dd .........

[td. 44]
[hewin]
.........................elfed
mae hon o 'r gore i hel 'ch tamed
ceisiwch etto drwg i wawr
globen fawr o waled

Exitt

llur
yrioud yrioud nid aeth i 'm calon
y cowswn i 'r fath groeso digllon
gen fy mlant [~ mhlant] fy hun ar goedd
mor ddidwull oedd i addwidion
sydun iawn a darfu angofio
sydun iawn rae 'r cariad heibio
a bod yn euog o dori 'r llw
a roddasen hw i gowiro
pe dase rwan ar fy helw
ond y peth fu geni yn ngadw [~ fy nghadw]
mi a 'i cowswn yn ystwuthach beth
y ddau gydymeth accw
am hun rhaid imi yn ddiddig ddiodde
tra bo 'r aniwiol yn i flode
i hel fy mara yn ddrwg fy llun
a 'm corpws yn un carpie

[td. 45]
[f]fabian
ni does genifi am 'ch cariad
ond can diolch i chwi 'n wastad
a bod trwy foddol feddwl odieth
jach gu synied euch gwashaneth [~ gwasanaeth]

Exit oll

enter hiran
Dyma fine hiran
mi gyma [~ gymeraf] fy mud yn llawen
tur y carl i galon yn y man
hen gleiriach gwan i gloren
digllon jawn iw heilin
fy mod i 'n wuch fy montin
mi af cin wched a haul ha
tra dalio da 'r cribddeilin
ni fwu geni glowed yn bloeddio
na chlowed buwch yn beuchio
nid ai a 'm sens chwaith yn mell [~ ymhell]
mi wn yn well oddwrtho
er drenged bloedd y brebwl
nid ydwi ond drwg wrth swmbwl
ni roi mo ngalon [~ fy nghalon] dan fy nroed [~ nhroed]
ni bum i erioed ar feddwl
mi wisca ddillad gwchion
rybane a lasie tylysion
tra meddo 'r cerlun god na phwrs
calyna i gwrs bonddigion
a gasclo dda trwu drawster
daw arall wrth i bleser

[td. 46]
y casa o 'i ffruns a wna waith main
I wisco rhain ar wasgar

enter plwc
ow huran suran serfull
mi a 'th wela 'n bropor erchill
ag er dy fod yn dy ddillad stwff
mi af arnat i hwff o 'm sefull

enter Heilin
gwaed haul a 'i hoelion
ai dyma 'r cwrs su a 'r carn lladron
mund ar 'ch gilidd yn ngwudd y wlad
mi gura siad 'ch calon
ewch i hwrio etto buten
mi bydra dom 'ch bedren
gormod gwres sudd ar 'ch tin boeth
mi a 'ch gwna chwi 'n noeth 'ch cloren
a chwithe giw dihareb
mi dala i chwi 'ch godineb
oes dim o 'r cwilidd ar dy raen
fynd arni o flaen fy wuneb

plwc
fel y cymerir mae 'r cwilidd
ni weld di ronun ar y nwurydd [~ fy nwyrudd]
na ladd moni yn dy lid
does arni hi na gwrid na gwradwudd

Heilin
gwradwudd ar dy wyneb haiarn
yn effro bo dy eisie 'n uffern
yn ngrog [~ nghrog] a bochdi wrth gaingc nglun
yn erbun dy gudyn cadarn

[td. 47]
plwc
dyma dal giw sal go sosi
y bradwr a gai am briodi

Heilin
oni chowsoch i dal yn y bala boch
pasel siwrne roesoch i arni
Dyma iti dal yn ddigon siwr
y bostiwr broliwr brilin

plwc
mi ro fy ngledde [~ nghleddau] drwu dy fol
os torest fy nglol [~ nghlol] i heilin

Heilin
mwrdwr mwrdwr fy ngelun

Hiran
paid tithe a lladd yr henddun
gwell geni na 'i fwrdro yn fy nig
roi plu 'n mrig i gorun

plwc
cun iddo fo dy bluo di
yn ddioed gwna fi ddiangc

Exitt plwc

Heilin
os fy hoedel gaf i
mi gofia i chwi 'r gwr ifangc
ewch chwithe dam oddyma
fi ddysca i chwi ladrata
mund yn ddrwg o gorph a llaw
hi dorodd naw o 'm cloia

Exit Hiran
hi gafodd god mewn cilfach
Lle roedd fy hen arianach
na welson oleini ddudd man [~ myn] dun
Ers llawer blwuddun hir Iach

[td. 48]
ni adawodd na thwll na chornel
yn uchel nag yn isel
o fewn y tu gwae fi na ddo
heb i chwalu a 'i chwilio 'n ddyfal
rhanu 'r yd a 'r enllun
I bawb a ddou i 'w gofun
i chwi ag arall ond brwnt a gwnaeth
a 'r llefrith a 'r llaeth enwun
Dwun fy arian gleision
I brynu dillad gwchion
a gwneud sir dda budd llaes i mwng
a 'i rhanu rhwng cymdeithion
pen fwi yn fy ngwelu 'n gruddfan
hi fudd hith [~ hithau] 'n ngil [~ nghil] y pentan
yn porthi i melys ddant per
yn potsio swper bychan
ni welodd neb mewn towull na gole
ar i llawr na throell na gardie
ag ni wna hi ddim ond cyscu i raid
a byta 'r tamaud gore
oes yma neb am arian
a 'i witsia hi oddiwrthai rhiw fan
mi af yn inion yn y man
I roi offrwm yn llan Elian

Exitt heilin

enter Dynstan a Mortimer
Capten Mortimer dwed imi
a ddarfu ffabian wisco amdani
hi ddawodd [~ addawodd] ddwad i 'm cyfarfod
mae 'n hireth geni amdani 'n dyfod

[td. 49]
Mortimer
mae hi 'n dwad mewn gwisc euraud
yn ferch lana erioed a 'r welaed [~ weled]
gwn na welsoch frenin cynes
dybycach hon i brud angyles

Dynstan frenin
mi a 'i gwela 'n gangien burwen barod
gwen gnawd afieth gwedi dyfod
croeso ffabian burlan berlwus
Dowch dan rodio i 'm gomio yn gymwus

enter ffabian yni gwisc i hun
f' arglwudd frenin ych gwasnaeth ferch
wufi a 'm trwsiad pur drwu draserch
I chwi 'n ddiolchgar buth hud ange
mewn modd ufyddol byddaf ine

Dynstan
ffabian lan can croeso i chwi
dy brudferthwch rwi yn i hoffi
yn fy Llus mi wnaf amgenach
cewch barch Twusoges fel 'r heuddech
ers tair blynedd drwu fawr drafel
a bum i 'n cynal fflit i ryfel
yn colli gwaed ac arfe ag arian
fel y gwuddoch hynu 'ch hunan
Yrwan cefes fuddugolieth
a 'm llu adre i 'm llyfodreth
trwu orfoledd a dedwddwch
a lle i aneddu mewn llynyddwch
wrth rwmo [~ rwymo] 'r heddwch gwnaed 'n amod
ferch y Twusog imi yn briod

[td. 50]
hon sy 'n aeres lan dwusogaeth
heb law escud fawr gynhysgaeth
ag yrwan rydwi 'n fodlon
o wir wllus gwaed fy ngalon [~ nghalon]
I droi 'n nol wel dyna nghyffes [~ fy nghyffes]
os cai 'ch gwneuthur chwi 'n frenhines

ffabian
f' arglwudd frenin nid wi addas
I chwi roddi imi 'r fath urddas
i roi imi gimaint goruwchafieth
ni does geni ddim cynhysceth

Dynstan
Rwiti 'n lan o brud a gwedd
rwiti 'n synhwurol ddoeth mewn hedd
rwiti 'n birion dy waedolieth
rwiti 'n well na chan cynhyscieth

ffabian
fe fernir arnoch frenin clws [~ tlws]
am briodi llangces yn y drws
priodwch chwi dwusoges addfwun
byddaf iddi hi 'n llaw forwun

Dynstan
ffabian fwun os coeliwch fi
nid wi 'n cyfflybu hono i chwi
ond fel llwch ne dom ar frethun
i 'w werthu er moliant wrth aur melun
rhowch imi 'ch meddwl pur dda ffabian
rhof ine i chwithe wllus purlan
rhan o 'm cariad rhan o 'm coron
a rhan o 'm coweth a rhan o 'm calon

ffabian
f' arglwudd frenin y ngael [~ fy nghael] 'n gariad

[td. 51]
nid iw i chwi ddim caffailiad
ond fel y rwi drwu burder calon
mi fydda futh i 'ch caru 'n ffyddlon
bychan geni gwn na wuddoch
gasanu [~ gusanu] 'r tir a 'r ffordd a gerddoch

Dynstan
Bychan Iawn genine [~ gennyf innau] hud angie
gysanu 'th dwu wefus doethus dithe
llaw yn llaw turd gida myfi
I orphen llinio dudd diweddi

Exitt oll

enter plwc
ffarwel iti madam ffabian
mae itithe obeth weithian
gael twls [~ tlws] yn lle cledde cri [~ cryf]
o euddo iti dy hunan
llawer gwaith a bum i 'n rhyfeddu
pa sut a bu hi cud yn cyscu
gid a mab heb godi 'r wun
ar gala yn 'r un gwelu
pe gwubuase Mortimer wallgo
fod Ieint mor agos ato
fo gowse sport yn ysgwud i hers
a llawer gwers o dongcio
hai hwchw futh hai hwchw
dacw Heilin fawr i dwrw
rhaid imi lechu rhag drwg i radd
rhag iddo ym lladd i 'n farw

Exitt

enter Heilin

[td. 52]
ow mae ngalon [~ fy nghalon] i 'n drom ryfeddol
pen elo 'r bud yn ngwrthuneb i 'r bobol
nid un ffordd na dwu y daw
ond wuth ne naw yn gynhwunol
ond gwir iw 'r hen ddihareb
pen drotho 'r bud i wuneb
oddiwrth ddun i 'w erbun 'n glir
daw pob peth i 'r gwrthwuneb
ni fedrai ond wulo 'r dagre halltgri
ag wulo wnewch ithe pen ddoudwi i chwi
a fath warchad oedd geni gartre
ar ol ymadel a chwi gyne
pen eis i gynta iolwg y caie
mi welwn hollt gatel y pentre
cin dewed ar gyrodd yn y ffair
hud wuneb y gwair a 'r yde
a 'm dwulo 'n nghud mi ro fy melldith
i 'r golwg a weles i 'n drafrith
Defaed y pentre boda ag un
yn pori fy egin gwenith
y moch yn y deisi 'n gwneuthur i hwllus
ag yn fy scubor modd echrydus
a 'r gwudde a 'r hwiad a 'r jeir i gid
yn byta fy ud trwu manus

[td. 53]
yn tu roedd canu a downsio
ar hast a berwi a rostio
pen weles i 'r helthio y cwrw a 'r bir
ni fedres i yn wir ond ffeintio
mi fum ar y llawr yn lleden
mewn llysmer trwm heb amgen
a nwuthe 'n canu nglul [~ fy nghlul] a nglod [~ fy nghlod]
yn tybed fy mod i yn gelen
pen ddois atta fy hun a chodi
fo ddiangodd pawb i 'w crogi
ni ches i ond y wad ar foc
am stwrdio toc i dewi
yn nganol [~ nghanol] hun o draffeth
daeth atta i dristwch anferth
dyma 'r meister tir yn dwad toc
i farcio 'r stoc am ardreth
fe aeth y gair atto yn inion
y modi yn tori yn greulon
tored Hiran i gwddw ond e
mi dora fine ngalon [~ fy nghalon]
pe cawn riw un cylfyddgar [~ celfyddgar]
a fedre roi imi lythur ysgar
ne a 'i witsie o 'r bud yn ddigon pell
fe aeth llawer o 'i gwell i 'r barcer

Exit

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section