Adran o’r blaen
Previous section


enter dynstan a ffab[ian]

[td. 54]
Dynstan
mi glowes ddoudud dre..............
fod rhiw un o frutania
ffabian fwun yn cwuno ar led
am gael ych gweled yma

enter plwc
y fi ydi 'r gwr ni cheisiai wad
a ddaeth o wlad brutania
ni ches i cimin er pen ddois i ffraingc
a chlowed caingc ar dane

ffabian
dwed etto ffwlcun sal
pabeth a dal dy newudd

plwc
yn wir ffabian deg i gwawr
ni phara i chwi fawr lawenudd
mae 'ch dwu chwaer yn fawr i stad
wedi troi 'ch tad o 'i euddo
fe roes y ffon o 'i law i 'w guron gas
mawr lles addas iddo
ni wnai mo 'r stori ddim yn llai
mi glowes rai yn dwedud
fod 'r henwr ffol nid ffel
yn gorfod hel i fowud

ffabian dan wulo
os aeth fy nad yn henwr llwud
i fegio i fwud rwan
fe gafodd ormod twull a brad
i golli stad a 'i goran

Dynstan
dwed etto 'r dun o 'i go
brud a doist o frutania
gida ffwu ag yn ma [~ mha] fodd

[td. 55]
y doist i drosodd yma

plwc
blwuddun rhewmawr a 'r mor yn Ia
y sluddresi yma 'r llynedd
a dyna 'r gaia impie pur
a rhewodd y gwur yn y gwragedd

Exitt plwc

Dynstan
Taw ag wulo f' anwul fun
mae hwn yn ddun cylwuddog [~ celwyddog]
na choelia di fy anwulud bach
mo 'i chwedle gwrach anghenog

ffabian
os darfu i nhad [~ fy nhad] ar funud drom
fy ngyru o 'm cymdogeth
mae drwm iddo ynte droi
a 'i yru o 'i Lyfodreth

Dynstan
mi af o 'r grin i lawr i 'r gro
mi fyna ymwrando 'n gowrain
nes cael clowed y gwir ar fur
gen rai o longwur bridain

Exit dynstan

ffabian
och os darfu i nhwu [~ nwu] chwaer
fod mor daer a diras
ag ar i llyfon wneuthur gwad
a gyru nhad [~ fy nhad] o 'i dyrnas
Tair blynedd bum i 'n cario cledd
mi af dair blynedd newudd
er mwun fy nhad gwnaf suful war
i ddial ar fy chwiorudd

mortimer
gida 'ch cenad ffabian gynes
lon fron heini lan frenhines

[td. 56]
ffabian
y capten mortimer lan ddigur
mae 'r newudd pur o 'th fynwes

mortimer
mi weles henwr o frutania
wrth y lodg yn rhodio gyne
a gwallt i ben run lliw a 'r gwlan
a 'i farfan fel yr eira

ffebian
a ofynest iddo i ble mae i daith
na 'i hanes chwaith na 'i henw

mortimer
naddo ond 'n llus y brenin per
y mae fo ar feder galw

ffabian
o na redit i 'w gyfarfod
a pheru iddo hud yma dyfod
na ddwed wrtho pam na phwu
nes gweled wy i 'w ddynabod

mortimer
dyma 'r hen wr wedi dyfod
mae 'n cyfeirio i 'm cyfarfod

enter brenin llur ag a ddowed
y glan gwmpeini pur ymddiffin
ai dyma 'r ffordd i lus y brenin

ffabian
rhowch 'ch het am 'ch pen 'r henwr cu
am bwu ruch i yn ymofun

Llur
nid allai ddwoud i bawb fy neges
Rwi 'n chwenech gweled y frenhines

ffabian
a adwaenochi hono 'n siwr

[td. 57]
pe gwelech hi 'r henwr cynes

llur
rydwi 'n ddwl a hen y rwan
mi a 'i adwaunwn pen oedd hi lodes fechan

ffabian
fy anwul dad mae 'n wir y peth
y fi ydiw 'ch geneth ffabian
fy anwul dad caredig
mae 'n chwith geni weld ych diwig
ar ol trafailio tir a mor
yn henwr mor fethiedig
fy anwul dad diragrith
rhowch imi 'ch nawdd a 'ch bendith

Llur
ar dy ben bo 'n llwuddo 'n llawn
ryfedi grawn y gwenith
ffabian fy anwul blentun
nid teilwng imi gael fy nerbun
mor gariadus ar ol gwg
a wneis i er drwg yn d' erbun

ffabian
fy nhad cymerwch gysur
chwi ellwch dduall hun yn Eglir
mae fi iw Ioseph i 'ch croesawu
a ffraingc iw 'r Aipht i 'ch llawenychu
a chwithe iw Israel a ddaeth o ganan
newun iw 'ch dwu ferch a 'ch trodd allan

[td. 58]
fy ngar [~ nghar] ine iw 'r brenin pharo
a rudd linieth a 'ch diwallo
yn lle 'r hugan benagored
chwi cewch [~ ] wisco siwt o felfed
pedwar cant a deg o bune
cin y nos a dal 'ch lifre
mynai ych rhoi mewn newudd wiscied
cun y caffo ngwr [~ fy ngwr] 'ch gweled

Exit oll

Mortimer
mawr iw 'r gras a 'r cariad su rhyngthoch
Ewch ych deuwedd gynta a galloch

enter y ddau ddiwc
fy mrawd morgan diwc morganwg
ai gwir iw hun ertolwg
fod brenin ffraingc ag armi o wur
ar feder gwneuthur mowrddrwg

morgan
I mae nhw yn doud o soweth
fod fy nhad yn ngyfreth [~ nhad-yng-nghyfraith]
yn dwad ag armi dros y mor
i 'n curo ni o 'r freninieth
os daw o i fewn a ffabian
i ddifa i wur i hunan
fe ddwg aliwns i fewn i 'r wlad
i guro i nafiad allan

Hewin
rhaid ini am hun gonsidro
mai 'n bai ni 'n hinen iw o
droi 'r hen wr fel diras blant

[td. 59]
o 'i feddiant a 'i ddifyddio

morgan
wel wel pa beth dybygwn
troi doe yn ol nis gallwn
ni godwn armi deg os daw
i 'w dal nhw draw os gallwn
mae 'n rhaid i chwithe yn sydun
alw am aed o lychlun
gida 'r brutanied i gadw 'r dwr
yn mhob harbwr yni herbun

Hewin
rwi 'n ofni nad iw o bwrpas
darfu ini ymdroi mewn andras
mae 'r brutanied bawb yn bur
I dderbun llur i 'w dyrnas
am hynu ni awn i siarad
yn bene noethion att benaithied
mae geni yn llychlun ddeuddeg mil
i gud tynu o hil brutanied

Exit

enter Heilin
och och och yn uchel
rwi 'n ddigon blin o 'm hoedel
o achos ffolog ffrilog ffraeth
a 'm hiwsiodd yn waeth na chythrel
ochenaed f' enaed arni
am y nwun [~ fy nwyn] i i 'r fath dylodi
ni dawodd [~ adawodd] gimint a llwu bren
heb wneuthur pen amdani

[td. 60]
hi a ddifethodd f' arian loned stwc
rhwngthi a phlwc y Twrw
prynu sir dda a llenwi chest
a gwario rest am gwrw
mae merched a gwragedd yn chwanog
y leni i feddwi 'n gynddeiriog
yn ngrog [~ nghrog] a bo 'r ffasiwn hon amen
i 'w gweddi 'r hen gribddeiliog
Rwi 'n ddeg a ffedwar igien
daeth er ioud tisa i 'm talcen
o gwrw tafarn myn fy ngred [~ nghred]
pe crogid fi loned crogen
rwi 'n cerdded ers pedwar diwrnod
yn ddigon gwag fy ngeudod [~ ngheudod]
heb gael gen neb 'n henddun llwud
friwsionun o fwud na diod
lle 'r elwi i ddoud fy ngaledi [~ nghaledi] a niwig
cymesur medd rhai yn ffyrnig
bychan genthun yn fawr i swn
fy llichioi [~ lluchio i] a chwn a cherig
y man aerod a 'r crach fonddigion [~ foneddigion]
ddanfone erstyddie imi anregion
ni ron heddiw imi 'n siwr
ddafan o ddwr 'r afon
pen ddarfu 'r arian yn y boced

[td. 61]
fo ddarfu 'r parch a 'r cariad
nid cof gen y gwur a 'r code man
fod tanai wan denanted
Rwi 'n mund i farw o newun
mi eisteddaf ar fy ngolun
ag a ganaf benill ar y faes
o ffarwel i oes y cerlun

canu ar faes
mae 'r bud i gid i 'm gado mawr anhynedd
marw heno yn ddi gariad wedi gwario
fy euddo yn ddi fudd
gwae fi 'n gybudd o herwudd Hiran
o wir oferedd wario f' arian tur y galon
tor yn gelen yhi yn i sidan sudd
gwnaeth y goegen eitha gwagedd
hull ddiwedd fy holl dda
a mine beunudd heb un beni yn digaloni 'n gla
fy newun tost sudd heb fost i beri i rai
gael berw a rost i dori anghenion ar fy ngost [~ nghost]
mor ddifost fy rhoi 'n fas
ped faswn ine yn credu o 'm crud fy hun gymerid rhan
yn lle colli o eis bwud fy mowud yn y fan
Rydwi 'n brudd man [~ myn] fy ffudd y fi heb gel yn siamal sudd
i bob cerlun cyndun cudd
rhag buw yn un cybudd cas

enter plwc y twrw

plwc
corph a gwaed S:t Silin
ai marw wnaeth fyrth [~ fy ewythr] Heilin
pe torwn fy syched ar frwuth brag

[td. 62]
ond iw o 'n digon gwag i bwdin
nis gwni ddarfu i riwun diried
roi iddo fach mewn tamed
ag nis gwn i hefud mae rudd on fain
a dynodd y brain mo 'i lygied [~ lygaid]
ho naddo y glan gwmpeini
mae o newudd farw heb oiri
er hynu mae 'n brud oddyma i ddwun
mae pen i drwun on drewi
ond gore imi chwilio 'r cene
yn fanwl i bociede
yn pen bottwm sudd yn hon
a thair o hoelion prenie
Hiran cais weiddi hai hwchw
mae dy wr di wedi marw
rwitithe heddiw huw 'n dy ran
yn globen o widdan weddw

Hiran
efengil futh o 'th gene
mi ro iddo sen eisie marw tyddie
pe cen i riw un am dal 'n hawdd
yn ngwalod [~ ngwaelod] clawdd a 'i cladde

plwc
ni ffrisiwn i res o bine
er cloddio iddo fedd a 'm cledde
gad ini daro ati dul
I ganu iddo glul on clolie

[td. 63]
canu clul bob yn ail a dol

ffwl
canwn hai ding dong bel
ffarwel hen Heilin

Hiran
yn y muw [~ fy myw] ni chawn le ar fy min
i grio gin chwerthin

plwc
canu yn lle crio croch
a dyblu 'r gloch ding ding

Hiran
ding ding ding pasing bel
can ffarwel Heilin

plwc
can ffarwel cleiriach claer
a 'r code a 'r aur melun

Hiran
ag i 'r arian drwg i cwrs
gwag iw pwrs Heilin

plwc
mae ol fy ngledde [~ nghleddau] ar i hers
yn smotiog ers smeitin

Hiran
a rhegfudd y Tlawd
yn hilio cnawd Heilin

plwc
mae 'n ddigon hun o sowndio 'r bib
o glul i 'r cribddeilun

Hiran
brysiwch bellach dan wneud gwen
I gladdu 'r hen Heilin

plwc
gad ini i riwle i rolio
ni ddeil o mell [~ ymhell] mo 'i gario

Hiran
bwriwn i 'r bedd wr bur i barch
heb nag arch nag amdo

[td. 64]
plwc
ymafel yni gloren
cwed [~ cyfyd] wale hai rwan Hiran
ni a 'i claddwn yn domen hud i din
a blaen i bidin allan
mi weles briodi 'r cono
ag a weles i gladdu fo etto
ni choilie i fod neb drwu holl gred
yn gweled i fydyddio

Exitt oll

enter Llur a dynstan a ffabian

Dynstan
fy nhad yn ngyfreth [~ nhad-yng-nghyfraith] cowur inion
pa fodd yn rhodd mae 'ch corph a 'ch calon
mewn gwlad ddiarth yn oedranus
da geni 'ch gweld yn llawen Iachus

Llur
diolch i chwi dynstan frenin
fy mab y ngyfreth [~ yng nghyfraith] pur ymddiffin
am fawr urddas fy merch ffabian
a 'ch wllus da imi fy hunan
Mae fy ngorph [~ nghorff] yn llawen ddigon
ond un peth su 'n blino ngalon [~ fy nghalon]
yn fwu na dim o 'm holl drafferthion
i 'm dwu ferch i dyngu anudon
deigien mlynedd mi fynega
a bum i 'n frenin yn Mrutania
drwu gario 'n ddidwn y goron ddedwudd
heb na thwull na brad i 'm bronudd
rwan cael fy mlant [~ mhlant] fy hunan
mwy trwu wllus i 'm troi allan

[td. 65]
a 'm difyddio o 'm da feddiant
mewn anhunedd yn fy henaint
chwithe sudd yn frenin graslon
heb ddim cilwg yn 'ch calon
yn fodlon wedi cael fy ngeneth
yn ymddifad heb gynhysgeth

Dynstan
fy nad ngyfreth [~ nhad-yng-nghyfraith] rwi fi 'n fodlon
mi ges y ferch a gare ngalon [~ fy nghalon]
a hun iw 'r gynysgeth ore
ag er i mwun mi a 'ch cara chwithe

ffabian
fy nhad nid ydwi 'n bur fodlon
I chwi golli 'ch parch a 'ch coron
a 'ch troi o 'ch gwlad fel tratur agos
heb wubod pam nag am bar achos
gid a chenad f' arglwudd frenin
fy ngwr anwul a 'i ymddiffin
ar fur odro ni fynwn dreio
ych dwun i 'ch meddiant unwaith etto

Llur
Mae geni wllus fy merch ffabian
nithio 'r brad o 'r ynus allan
yn lle cynysgeth chwi gewch ithe
wisco 'r goron yn 'ch dyddie
ag ar 'ch ol i fod yn nesa
i chyfion aer iw fwur cynedda
ag os hwn a ddaw drwu dyciant
mi yra i dad a 'i fam o feddiant

[td. 66]
plwc
gid a 'ch cenad a ddarfu chwi 'ch cinio
gwur grasol gai groeso
mi ddois yma a phetisiwn i chwi 'ch tri
o scrifen ddigri 'r cymro

Dynstan
o diwrth [~ ] bwu 'r postiwr doist a 'th petisiwn
ag i bwu gostwm ag ar ba gwestiwn

plwc
i 'r Llur lwud ar llaw lydan
daethum i a phapur ag i 'w ferch ffabian
i ellwch ithe i ddarlen [~ ddarllen] budur i fin
ne beidio 'r brenin dynstan

Exitt

Llur
fy mab dynstan darllenwch allan
beth iw 'r ar...l su yntho rwan

Dynstan
yn ol 'ch archiad mi a 'i darlena [~ darllenaf]
y scrifen law 'n jaith brutania
yni yn un air jeirll a diwcied
ag arglwiddi tir brutanied
at y grasusaf frenin llur
a mae yn pur ddeisyfied
yn gimaint a darfod drwu fradwrieth
i 'ch plant 'ch gyru o 'ch llyfodreth
yn i dewrder yn ddi awdurdod
a nine 'ch pobol oedd heb wubod
ni chanw lyfodraethu arnon
maenhw 'n euog o dyngu anudon
pen wnen a 'i tad y ffasiwn beth
a 'i droi o 'i lyfodreth gyfion
dowch a 'ch cowur ferch caurudd
nine godwn gylars gida 'n gilidd

[td. 67]
i 'ch rhoi etto 'n llawen ddigon
yn 'ch cariad tan ych coron

llur
wel fy merch a 'm mab yn ngyfreth [~ yng nghyfraith]
chwi glowch fod yno fater diffeth
awn yn llu yno mewn llawenudd
i roi y dyrnas mewn distawrwudd

ffabian
cychwnwch [~ cychwynnwch] f' anwul dad calonog
ni awn yn lluoedd mawr galluog
yno yn un aed gida nyni
rag i gadarn fradwur godi

Exitt oll

enter Cordila
och wel dyma fi Cordila
mi syrthies mewn cyfyngdra
trwu othrymder trymder trwch
ond mawr iw 'r tristwch sarna [~ sydd arnaf]
rwi i 'm barnu beunudd
yn ferch ddi serch anufudd
ag yn euog o dori llw
i farwgarw gerudd
rwi gida mlentun [~ fy mhlentyn] tawel
yn diangc am fy hoedel
yn y muw [~ fy myw] ni chawn mewn gwlad na thre
drwu degwch le diogel
fy anwulwr mwuneiddgar
sudd wedi i gyrchu i garchar
a 'm brawd yn ngyfreth [~ yng nghyfraith] yn 'r un dudd
rwi 'n ofni a budd edifar

[td. 68]
o waith gyru nhad [~ fy nhad] o 'i feddiant
daeth arnom flin aflwiddiant
fe droes y rhod i 'n herbun ni
hoff un wedd yn ddi ffyniant
bu farw fy chwaer Rodia
pen glybu hi 'r newudd yma
mae ngalon [~ fy nghalon] ine ar bigie dur
yn drom o gur a blindra
y cerddor can riw fesur
ar dy dane yn eglir
a fo gyfaddas Iawn i hun
I galun testun tostur

Cordila yn canu ar ffarwel ..ed..huw
Trom iw ngalon [~ fy nghalon] inion j
ag ochneion difri i 'm dwufron
blin oedd blaened a 'm ganed gunt
i 'm dwun i 'r helunt greulon
gwae fi rioud fy ngeni i 'r bud
i 'r adfud penud poenus
yn f' erbun draw y rhod a drodd
mewn cwla fodd cwilyddus
mi dynges yn greulon yn anedwudd anudon
yn erbun duw cyfion i yru nhad [~ fy nhad] graslon
o 'i dyrnas lan dirion i dario
daeth dialedd duw i 'm dilin heb arbed i 'm herbun
yn ofnadwu funudyn am ddwus gamwedd ysgymun
mae 'n wrthun y testun su 'n tystio
fy ngwr i sudd mewn cyflwr caeth
rwi 'n ofni gwaeth nag undun

[td. 69]
fel gwbedun pell o 'i le wedi ddal yn ngwe 'r pru copun
bu farw ym chwaer mae 'n newudd chwith
daeth arnom felltith ffiedd
am yn balchder a 'n ffalster ffol
ni gowson ddol o ddialedd
yr howddgar ferchede cymerwch fi 'n siample
a 'r dynion nid ame gweddiwch ar linie
rag syrthio dan fagle pyryglon
pob twull a chamwedde pob diles fyddylie
er i ciddio tros ddyddie amdanun rhaid
diodde pen ddelo i 'r gole 'n dirgelion
ffarwel y cwmni grasol
rhaid imi ymado a mhobol [~ fy mhobl]
i rodio 'r bud o fan i fan
fel dynes ansynhwurol

enter Llur dynstan a ffabian

llur
fy mab y ngyfreth [~ yng nghyfraith] pur i foddion
a ffabian fwun fy merch yn galon
duw a 'ch bendithio yma ych dau
am fod mor glau a glewion
am fy nwun i yn ol i 'm tyrnas
cewch geni barch ag urddas
y goron a gewch i geni yn rhodd
i 'w riwlio mewn modd addas

Dynstan
diolch i chwi nhad y ngyfreth [~ fy nhad-yng-nghyfraith]
am 'ch cariad pur ddi wenieth
i wneud ych wllus mewn pur ddawn
a mae fy ngyflawn [~ nghyflawn] obeth

[td. 70]
mawr fu 'r dwull oedd yn 'ch herbun
dwun ych coron oddiar ych corun
a 'ch gyru chwithe i hel ych bwud
yn hen wr llwud i gudun

ffabian
f' anwul dad mwun tyner
i 'ch calon rhowch esmwuthder
fe ddarfu duw drwu bur dda bwull
gofio i twull a 'i ffalster

llur
am y bradwur diffeth
mi rho nhw i 'w marfoleth
mynai llosgi rwi 'n doud yn glau
bob un o 'r ddau ar unweth

ffabian
f' anwul dad a 'm brenin
rwi 'n syrthio ar fy neilin
ger 'ch bron ar hun o brud
i fegio i bowud uddyn
na wnewch mo 'r niwed uddun
gadewch nhw i dreio i ffortun
fe ddial duw am i twull
yn well i bwull nag undun
os buon dratiried ffeilsion
i 'ch erbun fel gylynion
gwneud da dam ddrwg iw wllus duw
ar ffordd i fuw fel cristion

llur
f' anwul blentyn tirion
caredig iw dy galon
ni ddigia i monot di er dim
rwi yn madde i 'm gylynion

[td. 71]
ond mynai gyru yn ddiymwared
o 'm tyrnas fel tratiried
ag ni chan w tra bo chwuth
mo 'r dwad buth i 'm gweled
awn ymeth gida 'n gilidd
yn awr i droia newudd

llur a dynstan
bendithion duw a fo yn 'ch plith
fel y man wlith foreuddudd

Exitt oll

enter plwc
ow llur gru a 'r llaw grafell
ni wubum rioed dy fod mor musgrell
a rhoi dy dorth i wr o 'th bro [~ ]
a mynd i geisio tafell
ond fo ddaeth ngares [~ fy nghares] ffebian
a thydi i 'th wlad dy hunan
meddwl dithe amdanat dy hyn
yn hollawl o hun allan
a glowch 'r cwmni mwinion
mi weles fatel greulon
rhwng dwu falfoden ddu
oedd un o bobtu 'r afon
roedd yno ymgornio garw
a tharo yn waeth na teirw
mi ddianges fi nad elw i o 'm co
yn mell [~ ymhell] dan floeddio hwchw
y cerddor a 'r boche pedler
cweiria dy dane yn dyner
rwi yn tybio ba deit i 'n ddigon pell
y downsiwn i 'n well o lawer

[d]ownsio rwan

[td. 72]
ni waeth imi ddownsio chydig
ar y cwrw rwi 'n amcanu cynig
dowch ithe bawb o 'r cwmni pur
ar f' ol yn bur garedig
os gwelsoch arnon feie
fellu mae ar y gore weithie
camolwch ych cymydog ar ol i gefn
fo wneiff ynte drachefn a chwithe
Terfun y chware

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section