[‘Y dioddefaint’ (ms. 1552), BL. Add. 14986, 10v-33v. ]
[td. 10v]
Llyma y dioddefaint yngymraec
ar englynion gair kyrch ynessa i
gallwyd wrth ddysc a synwyr a dyallt
a 'i droi o 'r llading [~ Lladin] ynghymraec
[td. 11r]
ac llyma i dechrav ynhwy [~ nhwy] yn enw duw
y genad oedd hwn
Tewch a 'ch siarad a gwrandewch
am y chwedyl mawr meddyliwch
hen ag ifaink yn ych sswydd
y chware i 'ch gwydd a welwch
y kenadwr
ssvddas dravtvr yn llawen
gwerthodd jessu heb amgen
j 'r twsogion [~ tywysogion] pena yn y tir
yn wir er dec ar hvgaen
jessu o nassreth daliasson
y gwyr ar arfe krevlon
hyd at anas essgob ffraeth
mewn Rwym kaeth anvonason
ssyr kayffas lle i danvonen
j gynghorwyr mawr adwaenen
danvonen at beilatvs
ywchel ievstvs [~ ustus] kaer sselen
[td. 11v]
yw farnv yn varwol daith
wrth ddefod ievstvs [~ ustus] vnwaith
am vod jessu yn draetvr yn
yn ddyn yn erbyn kyfraith
syr peilat jestvs [~ ustus] gwrol
yn i arvav vrddasol
aeth yw nevadd val i gwn
y dydd hwn anrydeddol
jessu kyrchwyd geir i vron
j edrych i weithredon
ac erdolwyn y bobloedd tewch
a gwrandewch i atebion
Syr peilad
Rowch ych holl ddyallt chwi
atavi jestvs [~ ustus] peilad
arglwiddi [~ arglwyddi] ychel ystad
gwrandewch vi drwy vawr gariad
kanys myfi ysydd yn dala 'r kledd
o gyfiownder a mowredd
dan ssissar brenin kadarn
ac yn rroi barn brenhinedd
ac am hyn idd wi yn gorchymyn
ssirif a sserssiant dan vn
y ddwyn y kyrcharwyr [~ carcharwyr] ger vy mron
j roi kyfreithie vddyn
[td. 12r]
yr iddew kyntaf
anrydeddvs yn ich kaid
syr peilad jestys [~ ustus] kadarn blaid
dissmas dessmas barbas
yssy yn van draetiriaid
yr iddew ail
gwrandewch ievstys [~ ustus] arnomi
ller ymi yn deisif ichwi
heddiw yw yn pasc ywchel ddydd
ynyd yw yn Rydd ini i dori
syr peilad
yr iddew kyntaf
oni bai vod i traetyriaeth
yn i veddwl traws Ryfeddaeth
ni ddygesym fe yr awr hon
gar bron ych arglwyddieth
syr peilad
yr ail iddew
nid yw gyfion i nyni
wrth gyfraith ladd na llosgi
[td. 12v]
na dwyn neb i gael angav
ond kadarnhav kyfreithiav
syr peilad
jessu o nassreth gair y [~ fy] mron
kyfod dy law yn inion
a dywaid wir wrthyfi
wyd ti vrenin iddewon
jessu
a wyd ti yn dywedyd hyn yn ffraeth
wrth dy veddwl natyriaith
pa vn ai kael gan arall
val angall wybodaeth
syr peilad
jessu gwrando v' atebion
nid vy ngwaed i yw 'r iddewon
dy bobyl a 'th gynhedlaeth [~ genhedlaeth]
yn ffraeth a 'th gyhyddason
ac ymeddiant [~ yn fy meddiant] i 'th roeson
dywaid ym eiriav inion
ai brenin iddewon wyd
ai nad wyd moes atebion
jessu
pei hanffwn i o 'r wlad hon
o rywogaeth iddewon
vy ngwyssnaythwyr [~ ngwasanaethwyr] a ymladd
kyn i 'm poynaer [~ poener] gwyr o radd
o 'r achos hyn nid wyvi
o gynhedleth [~ genhedlaeth] yrheni
ac ni bv ingychwniad
ich gwlad ni chefais barch [ynddi]
[td. 13r]
yr peilad
er nad ydiw dy wreiddin
o 'r wlad yma na 'th veithrin
mi a ddyweda chwedyl gwir
mewn Ryw dir ir wyd vrenin
jessu
ydd wyd ti yn y ddweydyd othefod [~ o 'th ddefod]
yn ryw le yn vrenin vy mod
j hyny j 'm ganed i i 'r tir
a thi yn wir a gai wybod
fy ssiwrnai a gymerais
j 'r byd hwn penn imroddais
j ddwyn tyst ar wirionedd
nid balchedd a gymerais
dal gida gwirionedd
a chida baraint a rhinwedd
ac yn wirion er i mwyn
jr wyvi yn dwyn kynawd [~ cnawd] daiaredd
syr peilad
Gwelwch nad wyvi iddewon
yn kael achos gyfreiddlon [~ gyfreithlon]
j dyly jessu o nassreth
ddwyn marvoleth grevlon
hyn yw yn kostwm ni gwrandewch
bob pasc os gofynwch
y gwr ssydd o 'i alw gar bron
brenin iddewon kymerwch
[td. 13v]
yr iddewon
syr peilad
myn mahownd yr iddewon
chi vynwch roi gwr gwirion
j varfolaeth ar y groes
er nad os [~ oes] dim achosion
nid wyvi yn kael achosion
j roi jessu yn gyfreithlon
moeswch ym ddwr i molchi [~ ymolchi]
y mae 'r gwr yma yn wirion
mi a molchais [~ ymolchais] nid wi waeth
vy nwylaw o 'i waedolaeth
ni ellais i gydgordio
na chytvno a 'i varfolaeth
yr iddeon [~ iddewon]
nage gedwchi i waed efo
arnomi a 'n plant i ssyrthio
a rowch veddwl ych penaeth
a bernwch y varfolaeth
syr peilad
yr iddewon
nid ydychithe gowir ych rin
j gyfraith ssisar yn brenin
mae yn gwnvthyr [~ gwneuthur] tresswn heb gel
a 'i alw yn vchel vrenin
[td. 14r]
syr peilad
paham chwi gewch iddewon
weled vy ngally krevlon
dywevdwch ym ych myddyliav [~ meddyliau]
y gwblav ych wllysiav
yr iddewon
peilatvs jestvs [~ ustus] kadarnaf
dan ssisar y gwr penaf
y mae vo yn dywevdvd ffalstwr yw
mae vo yw mab duw gorycha
chwchi yssydd ievstvs [~ ustus] geirwir
ych kadarnhav yn gelwir
pob dyn a wnel kamwedd maith
wrth ych kyfraith i treir
syr peilad
paham nad wyti yn traythv
pa le i 'th enw di jessu
mae imi yr vn a vynwy ym gradd
ai dy ladd ai dy farnv
jessu
nid os [~ oes] bower ithefod [~ i 'th ddefod]
er nad ydwyd ti yn i wybod
ond trwy bower vy nhad i
j gelli di vy ngorfod
syr peilad
chwchi varchogion krevlonder
kymerwch jessu ych pryddder
ac yn ffest wrth y post Rwymwch
ac yssgyrssiav ysgyrssiwch
yr iddewon
chwchi jestvs [~ ustus] ni a 'i gwnawn
yn ddiballedic ddigawn
[td. 14v]
ac am i gorff yn gyhoedd
ni a rown wisgoedd newyddion
y marchoc
Rwymwch ef yn ffest ddigawn
wrth bost ffyrf mawr krevlawn
ni a 'i Rwymwn ef o 'i eiste
i gael graddav newddion [~ newyddion]
y trydydd marchoc
y pedwerydd marchoc
yssgwrsiwch ef drwy ddirmic
ac nac ofnwch vriwo i gic
mae ym lywenydd vy lloned
i weled mor boenedic
syr peilad
y marchoc kyntaf
bellach ffesstwch y rhwymon
a rhwymo i ddwylo yn grevlon
a rhowch yw iad goron vlin
megis brenin yr iddewon
yr ail marchoc
[td. 15r]
y trydydd marchoc
hempych [~ hanbych] gwell er dy vokio
brenin iddewon etto
od wyd vrenin arnynt wy
dywaid pwy ysy 'n dy daro
y pedwerydd marchoc
proffwyda di ym o 'th vin
pwy yssydd i 'th daro yn ddivlin
a dywaid yma i 'n gwydd
ai da sswydd vod yn vrenin
syr peilad
welwch jessu yn waed hayach
heb arno vn vodfedd iach
er ych mwyn i kafos [~ cafas] boen trwch
dewiswch ef bellach
yr iddew kyntaf
yr ail iddew
syr peilad
chwchi iddewon drwc y moes
Ryfedd ych kam a 'ch anvoes
tewch paham i rhofi
ych brenin chwi ar y groes
[td. 15v]
y trydydd iddew
nid oes ini vrenin byw
onid ssisar gwr gwir yw
Rowchi ef i varvolaeth gref
dywad mae ef oedd vab duw
syr peilad
ydd wyvi yn barnv yn ffraeth
o riolti [~ reiolti] vy mhenaeth
yr jessu vyned i gael gloes
ar y groes trwy gyfraeth [~ gyfraith]
ve a 'i galwe i hvn brenin gwar
gan dwyllo ymhobyl hygar
ac a ddalie valchder tyn
yn erbyn brenin sissar
barnu rwy dav ffilwm wr
dissmas dessmas dav ffalstwr
heb ddim grass barna yrheini
oss myvi ssydd reiolwr [~ reolwr]
barabas yn Rydd aed gar bron
heb na thitiad na holion
jddewon a 'i harche yn Rodd
mi a 'i Rois o fodd vy nghalon
[td. 16r]
y marchoc
dered ffordd y krakwr kyfraeth [~ cyfraith]
ti a geffi boinydigaeth [~ boenedigaeth]
att y groes ywchelvowr gref
j ddioddef dy varfolaeth
yr essgob
kerdda yn ebrwydd i gael gloes
nessav mae adwydd d' einioes
ar y ttair hoel hyn yn wir
yth vyrthyrir ar y groes
chwi varchogion gorchmynwch
y ssimon y groes brysiwch
j gael jessu yw chanlyn
ac val hyn chwip gwybyddwch
dered yma ssimon dyred
dwc y groes hwip [~ chwip] dan gerdded
kerdda yn ebrwydd [ar yn gair]
j roi mab mair yw dynged
ssimon
kered vn kam nis gallaf
dan y groes hon dybygaf
mi a wn i ssyrthia i 'r llawr
mae yn vawr i ffwys arna
y marchoc kynta
kyssyria tydi y travtwr
ydd wyti heddiw yn traetwr
dos a 'r groes hon ar d' ysgwydd
dos yn ddi dramgwydd
[td. 16v]
yr ail marchoc
gostyngwch oll ych penav
a chrymwch oll ych garav
myn mahownd mi a wna waed
Rai o 'i traed hyd i ssgwyddav [~ ysgwyddau]
y pedwerydd marchoc
kerdda wr yn dra chymen
dwc y groes yma yn llawen
yn ssikir tydi a 'i dwc
ne mi a wna yn ddrwc dy ddien
yr essgob
dyro i lawr y groes grevlon
yssgwrssiwch ef yn dda ddigon
beth a dal gallv mab mair
mae genym dair o hoelon
y marchoc kynta
yr ail marchoc
y trydydd marchoc
beth a wnawn yw bais yntav
jessu o nassreth v' yneidiav
a 'i thori yn bedair darn
a 'i Roi ar varn kwtysav
y pedw[er]ydd ma[r]choc
y mae yn Raid ichwi roi ysgrifen
o eiriav ffalst ywch i ben
[td. 17r]
a rhoi ynddi ymadroedd per
val i medrer i darllain
syr peilad
llyma vi ywch ben
wedi gwnvthyr [~ gwneuthur] ysgrifen
groec a llading [~ Lladin] ac ebriw
hawdd iawn heddiw i darllain
jessws nasyrinws
yr iddew
na newch [~ wnewch] ysgrifen hynod
yn vrenin iddewon vod
ond ir jessu yn Ry hy
ddywevdyd hyn a 'i dafod
mair vam grist
chwys a dwr yssydd ym griddiav [~ gruddiau]
am jessu vy mab inav
peilad idd wi yn gobeithio
gadw v' anraith Rac angav
jessu
mair vy mam nid Ryfeddod
nad ydychi i 'm ydnabod
nid oes dyll gwr ar vy nghroen
wedi i 'r poen mawr vy ngorvod
mair vam grist
och vi och vi vy mab da
o 'r awr i doethym i yma
och vi weled y dydd hwn
pan na wn mae ti yssydd yna
[td. 17v]
jessu
yr iddew kynta
ti a vwryd temyl i lawr
kaer sselem kyn teirawr
ac a 'i gwnavd y gwr llonydd
o newydd kyn trydydd dydd
yr ail iddew
yr essgob
ef allai help meddan
i bob kry [~ cryf] ddoe a ffob gwan
gedwch heddiw i 'r jessu
brofi i helpv i hvnan
y marchoc kyntaf
os mab duw wyd a 'n kreodd
val i dwaid d' ymadrodd
dyred i lawr nyni a 'th roes
oddiar y groes o 'n hanvodd
jessu
edrych wraic vlin i chyflwr
dy fab o vlaen ar gysswr
ac yn lle dy vab weithian
kymer jevan engylwr [~ efengylwr]
[td. 18r]
jevan ydd wyd yn kysgv
ar vy mrest dan ovalv
kymer edolwc [~ adolwg] vy mam
attad yw hamgleddv [~ hamgeleddu]
mair vam grist
och pa refeddod [~ ryfeddod] voddion
yn lle gwr Roi duw kyfion
am hyn o refeddod [~ ryfeddod] ddirmic
mae yn boenedic vy nghalon
jessu
vy mam na chymer attad ti
val na bo trymach iti
yr holl grevlonder a 'th ffydd
nid ywr dydd val i gweli
dissmas y lleidyr
or dwyd [~ ydwyt] vrenin arnomi
ac ar gaer sselem gwedi
dere oddiar y groes dy hvn
ac ni ac gredwn itti
dessmas y lleidyr
taw a 'th eiriav ynvydion
ac na vokia dduw kyfion
nyni a haeddoson gael tramgwydd
mae vo yn arglwydd gwirion
[td. 18v]
arglwydd ystyria vy rhaid
lle mae yn drwm v' ychenaid
a ffan elych i 'th dernas
kymer i 'th ras vy enaid
jessu
y marchogion
gwrandewchi yfo gair bron
yn gwnheithio [~ gwenieithio] i 'r lladron
Raid ini gyfarch iddo
os yfo yw brenin iddewon
eli eli lama ssabattane
jessu
yr iddew kynta
gwrandewchi ef yn galw ar dduw nef
mae yn tybiaid i gwrendy i lef
vo ddaw duw yma yn bryd
ac a 'i llvdd ef i ddwedyd
jessu
ydd wyvi yn ssychedic
ac yn dra blin ssychedic
[td. 19r]
herwydd maint vy nolyr maith
ve wyl pawb waith vy niwic
yr ail iddew
moesswch wenwyn er dirmic
a bystyl [~ bustl] hwerw [~ chwerw] ssychedic
ac wedi vod ef yn hwy
ni bydd e mwy ssychedic
jessu
welwch holl griadyriaid [~ greaduriaid]
kydnabyddwchi vy rhaid
yr rwi yn gwnythyr [~ gwneuthur] tessmant ffraeth
er kael o 'm penaeth v' enaid
gorchmyna v' enaid vy hvn
j 'm gorvchel dad a 'm kvn
ac jevan nid yw gam
vy mam idd wi yn i orchymyn
a 'm korff i iddewon blaid
a 'm pechod i 'r kythereiliaid [~ cythreuliaid]
vy meddiant i 'm dissgyblon
a 'm postolion [~ apostolion]s dwyfoliaid
a 'm nefoedd i gyfiawnwyr
a 'm passiwn i difeirwyr [~ edifeirwyr]
llyma ddangos o 'm diwedd
vy moredd [~ mawredd] i 'm kariadwyr
[td. 19v]
yr iddewon
gwirion vab duw ydiw hwn
yn diodde i bassiwn
a ddioddefodd farwol loes
ar y gyroes [~ groes] mi a 'i gwiddiwn
peilad krogaist ladron chwyrn
Ydolwc yn tyrnged [~ teyrnged] yn
a dydd ychel yw vory
j gael i hessgirn yw kladdv
syr peilad
ewch yn ebrwydd varchogion
a chymerwch y kyrff meirwon
mi a 'i gorchmyna hwy atoch
gwnewch a fynoch i 'r lladron
y marchogion
moysswch yn dyny ymaith
i kyrff meirwon da yw yn gwaith
moysswch yn gan y gwynt
i kyladdv [~ claddu] hwynt ar vnwaith
y marchoc kyntaf
yr ail marchoc
arch i loinssias o 'i ddewrder
y marchoc mawr i bryddder
ddodi ffon wrth ais jessu
a 'i vrathv o 'i gryfeder [~ gryfder]
[td. 20r]
loinssias
y mae ofn ar vy nghalon
vod hwn yn wr gwirion
herwydd wrth y gwaed o 'i ais
myvi a gefais vy ngolygon
v' arglwydd ym kadw vy enaid
yr awr hon ir wi i 'th weled
mi a wn dy vod yn gyfion
pen i kawn vy ngolygon
josseb barmathia
o jestys [~ ustus] anrydeddol
o 'ch gwiriondeb tostiriol [~ tosturiol]
pob kyriawdyr [~ creadur] dan ych power
ychel dyner gallyol
Rowch i mi y korff marw
yssy ynghyroc ar y groes akw
a Rowch genad yw gladdv
mewn bedd darfv boen garw
nigodemws
[td. 20v]
nicodemws ssy 'n dwevdyd
nid oes veddiant kyn gryfed
vei gwyr pawb a 'r a aned
kanys dan ych power chwi
i mae poini pob gweithred
ssiosseff barmathia
ni all neb ymgythlybv
ych anRydedd a 'ch gallv
deissyfa 'r korff gwedi i oes
oddiar y groes yw gladdv
syr peilad
y mae yn Ryfedd gen vy nghalon
os marw eto yr owron
gedwchi ef i dreio yr hawl
oni vo yn varwol ddigon
kanys o kyfyd ef eilwaith
gedwch i varw o 'r vnwaith
o metha Roi i ddihenydd
vo dry ffydd yn holl iaith
ssaintwrw
[td. 21r]
syr peilad
josseff barmathia
o gorff gwrthfawr o anRydedd
o gynawd [~ gnawd] kvfiawn o vowredd
o v' arglwydd a 'm proffwyd
o v' ymborth wyd a 'm hymgeledd [~ hamgeledd]
o bendigedic ddolvrvs
arglwydd mawr anRydeddvs
i 'th dwytsio nid wi gyfion
dy gorff gwrthfawr dioddefvs
o wir broffwyd dioddefawr
a meistyr jssrael gwrthfawr
parod yw yngrym a 'm gallv
j 'th erbyn jessu i 'r llawr
nigodemws dal di i draed
tra vwy yn rryddhav dwylo gwaed
y tair hoel hyn sy yn ryfedd
heb drigaredd yn galed
Ir brig | Adran nesaf |