Adran o’r blaen
Previous section


[td. 21v]
mair vam dduw
ssiosseff vy nghalon oernad
ryfedd na thyr yn wastad
gan gymain [~ gymaint] vil o weithie
ym gaffel poenav irad
moes vy mab ymv [~ imi] i ssychv
i archollie ssy yn gwaedv
melldigedic vor dynion
o 'r drain a wnaeth dy goron
oni tiboen [~ onid diboen] imab [~ i 'm mab] yw
melldith dduw i 'r iddewon
o gwae vi vyth drymed
mor alaith [~ alaeth] ym dy weled
vy vn mab och vi ddyw gwyn
ar dyll hyn ar v' arffed

ssiosseff ba[r]mathi[a]
dyred mair a 'th vab genyd
kymer gynffwrdd mair hefyd
ssych dy ddevrydd v' anrrydedd
yw roi mewn bedd gwyn yn byd

mair vam dduw
welav [~ wele] mae genym inav
wylmant yw holl archollav
eliwn o 'i iad i 'r llawr
i gorff gwrthfawr wedi angav

[td. 22r]
ssiosseff barmathia
dyro i lawr y korff tyner
j amdoi v' arglwydd a 'm ner
ssyndonn dros i weliav
gwai [~ gwae] vinav Rac mawr bryddder

mair vam dduw
yn ifank i 'th vegais
trwy lywenydd mawr i 'm hais
heddiw yn drist i 'th amdoyai di
gwai [~ gwae] vi o 'r awr i 'th welais

ssiosseff barmathia
Rown garec vawr ar i fedd
ni a glyddasom [~ gladdasom] yn mowredd
gadwn yma y korff v' anraith
awn ymaith bawb i 'n tyedd
yn jach jessu dy wledd
yn jach vrenin y rinwedd
yn jach arglwydd yn Raid wyd
yn jach broffwyd y mowredd.

[td. 22v]
yn iach wr bendigedic
mewnn [~ mewn] lle addvwyn vrddedic
hyd ymhen y trydydd dydd
vy llywenydd nid ysgic
yn iach ddyssgwr kyfiawn ffydd
a dangoswr llywenydd
a gwir brynwr yr eneidie
amddiffynwr llv bedydd

[syr peilad]
tewch henawgwyr [~ hynafgwyr] ystyriol
tewch arglwiddi [~ arglwyddi] glan yrddassol
pob bonheddic ivank yrddol
tewch a 'ch ssiarad a 'ch afrwol [~ afreol]
yn ssikir mi a wn ofni
vy ngallyawl bowair [~ bŵer] i
myn mahownt vy nyw difri
y wnaeth i 'r lloer oleni [~ oleuni]
tost yn isel mi a wnaf
wady ywch am hyn ymaf
gwybyddwch chwi wyr o stad
gar bron syr peilad ymaf

[td. 23r]
chwchwi wyr ymladd ssiaradwyr
ofer ddynion diystyr
kydnabyddwchi wyr o stad
mae ych browdwr chwi peilad
kanys mi yw 'r ychel iestys [~ ustus]
dros y byd ymhob ynys
holl india dan dekeriys
lasamja erod ffilypys
rwyvi yn hyssbys gydnabod
ywch law pawb vy ngallv vod
y gyflenwi kyfraith hynod
Jessu o nassreth yn varw y vod
yn hoeth [~ yn noeth] wedi i sgwrsio
val ir odd [~ oedd] gyfraith yno
yr hwn a 'i galwai i hvn evo
brenin iddewon yno
loinssias a 'i ffon a 'i brathodd
a 'i galon ef a holldodd
ac er hyny gwedi i varw
ffest a garw y pregethodd

[td. 23v]
ydd oedd e 'n twyllo ymhobyl i
ac mewn kywilydd y rhoddi
gorchymyn yr wyfi ichwithe
y bregeth ef i hofni
ac am hyny vy nghynghorion
kayffas ac annas yrddolion
v' anrydeddol amddiriaid
a 'm dewissiaid dywsogion [~ dywysogion]
o chlowchi neb a 'i pregethav
pa arglwiddi [~ arglwyddi] o dyrav
perwch yddyn beth bychan
yn vyan yfyddhav
val traetyriaid gair mron [~ fy mron]
dygwch mewn Rwymay krevlon
myn mahownt os kai i 'm golwc
mi a wna yn amlwc i archollion

[td. 24r]
ka[iaphas]
ssyr peilad anrydeddys
brenin kyfraith yn hynys
gwrandewch yn reswm ninav
lle ir ychi yn ddiav yn iestvs [~ ustus]
merkwchi yr ymddiddanion
a ddywod ef yngwydd tystion
dywod i bwrie demyl vawr
y lawr a wnaethoedd ssalmon
ac o fewn y trydydd dydd
y gwnai 'r demyl o newydd
wrth y bowair [~ bŵer] ef i hvn
geiriav bychain gorfydd
chwchwi y tywssogion [~ tywysogion]
proffwydodd geiriav ffeilsstion
trwy obaith i troe yn holl iaith
wrth i gyfraith a 'i ymddiddanion

[Syr Peilad]
beth a fyddyliwchi [~ feddyliwch chwi] anas
a 'ch doethineb kayffas
pen ievstys yn kyfreithiav
moes yn ddiav gyngor addas

[td. 24v]
[Anas]
y mae 'r traetvr hwnw yn dwedyd
y trydydd dydd i kyfyd
yn vyw yn ssikir o 'i vedd
gwedi gorwedd mewn gweryd
ac am hyny gorchmynwch
ych marchogion gwybyddwch
gadwn ssikir gylch i vedd
hyd y drydydd nos perwch
Rac ofn yr dyssgyblon
drwy vawr dwyll a chynghorion
geissio yn lledrad ddwyn y korff
er amorth ym kynghorion
chwchi warden gorycha
ar vyrder gwnewch hynyna
gellwch gynal ych yrddas

[td. 25r]
a ffob kas chwi a 'i gorffena
mae ych power yn allyawl
gorchmynwch yn amserawl
gadw 'r bedd dan boen marw
angay garw tragwyddawl

[Syr Peilad]
diolch ywch vy nghyfeillion
am ych parod gynghorion
kanys wrth yn kyfraith ni
chwi ssydd Rwymedigion
pedwar marchoc dewch gar bron
y essmwytho vy nghalon
allan yma ym kadw
kanys ofni idd wyf yn grevlon

m[archoc kyntaf]
v' yrddassol veistyr pryder
na chymerwch vn amser
yr ym ni bedwar marchoc
yn arfoc ych kyfiownder

[td. 25v]
yr ail marchoc
os gorchmynwch y nyni
ni a wnawn drichant y drengi
nac vn dyrnod nid a yn Rad
ssyr peilad i 'th voli

y trydydd marchoc
pei delai yma ddav kant
mi a wnawn yddynt dan warant
gryny i krwyn a 'i hesgirn
os a min heyrn i trawant

y pedwerydd marchoc
nid wy vi yn ofni
twssogion [~ tywysogion] nac arglwiddi [~ arglwyddi]
mi a wna gymaint erochi
a 'i dwyn atoch yw krogi

y marchoc kynta
ssyr peilad mi a 'i gwna yn varw
ac a dorraf i wddw
od amkana gyfodi
try vythw vi yn i gadw

yr ail marchoc
y essgirn gwna yn ddryllie
a 'i gic a 'i groen a 'i ie
a 'i hymenydd heb ddim gwad
ssyr peilad kyn i kode

[td. 26r]
y trydydd marchoc
arglwydd ym kyredwch [~ credwch] eto
ni allodd y gwr ystentio
a droes attafi i wyneb
o 'm gwelai neb yn digio

y pedwerydd marchoc
bai amdano arfav kadarn
o ddyr nei [~ neu] bres nei [~ neu] hayarn
ssyr peilad kewch i orfod
ar vn dyrnod yn gadarn

ssyr peilad
byd ta [~ byd da] ywch varchogion
chwyrn a chredic a chrevlon
chwi a dynassoch ar vyrder
yr holl bryder o 'm kalon
kedwch y vedd yrddolion
yn ssikir ddiogel ddigon
Rac dwyn y korff trwy vwriad
yn lladrad o 'r dissgyblon

[td. 26v]
dihafarchwyr yn ternas
gorofeddwchi o gwmpas
a 'i vedd ef kedwch yn dda
a mine a 'ch gwna mewn yrddas
v' ymddiriaid yssydd ynoch
dim a 'r allwy gwna eroch
nid arhomi vod yn drwch
ewch kedwch val i gwyddoch

[y marchoc kyntaf]
od amkana godi o 'i wely
ar i ben mi a 'i tery
ac yn ddiav be bai kawr
j lawr eilwaith mi a 'i tery

[yr ail marchoc]
o chyfyd ef oddyma
i holl gorff mi a 'i ssgwrsia
yn ddwys yn dost yn chwerw
ac yn varw mi a 'i gada

[y trydydd marchoc]
ni 'm tawr pwy a 'm kylowo [~ clywo]
od a yn vyw od ysgyd efo
nestel ym vriw vara
onis gwna i ef yn ddryllie

[td. 27r]
[y pedwerydd marchoc]
yn grevlon ac yn ddifri
ar i fedd i gorweddwni
ac ni a wnawn iddo varw
o ffraw oddyma gyfodi

enaid krist
drwy bendwmpian mi a gysgais
ac o 'm nattvr mi a brofais
er mwyn dyn varfolaeth chwerw
y kariad hwnw dangosais
wrth orchymyn vy nhad i
jdd wyvi yrywan yn kodi
oni ddelwy i 'th gymorth
vy nghorff gorffowys di
vy nhad addaf af yw gyrchy
ssydd ynhywllwc yffern ddv
a 'i lv ganto yn ddie
yn y poene hir i bv
v' anrydeddol gorff yn iach
gobaith gorffowys bellach

[td. 27v]
drychefn [~ drachefn] oni ddelwyf
mawr yw v' elw o 'r fasgnach
agorwch byrth yffernol
dywysogion heb rwol [~ reol]
drwy ddirfawr wrth a welwch
agorwch byrth nefol
y mae brenin y llywenydd
yn dyfod yn dragowydd
y drigo yn i dernys [~ deyrnas] hvn
yn gyfiawn dduw bevnydd

lissiffer
pwy ssydd yma nid yw addas
wrth yn melltigedic dernas
ni 'dewis [~ adewis] ef yma mwy
ni wn i pwy a 'i kafas

enaid krist
mab duw wyf vi o allv
brenin krevlon a gwr kv
bonheddic a mewn llywenydd
mawr vy nghystydd kyn angav

[td. 28r]
[lissiffer]
how ple idd ychi yn wrol
holl dywsogion [~ dywysogion] vffernol
dowch wrth vy' ngalw yn ffest
wrth orchymyn yn barodol
ych pyrth pres kedyrn yno
gwnewch yn ffest ich kylch etto
ac yn sikir gan ych pwyll
yn ddidwyll Rac i syrthio

[sattan]
y mae wrth ych gorchymyn
vffern dan gloe kedyrn
ac yn sikir gwedi kav
a rhaffav kadwynav heyrn

[lissiffer]
ai vo ywr brenin gorychel
a aeth a lassar heb ddim kel
a oedd genym ni yngharchar
mewn heyrn bar diogel

[sattan]
je v' arglwydd yfo sydd yna
j weithred yw dyfod yma
a 'n ysbeilio ni yw i fryd
j gyd am ssilltydd adda

[td. 28v]
[lissiffer]
gorchymyn nid oferedd
o 'm kydernid [~ cadernid] a 'm anrydedd
ywch nas gatoch lle i bwyvi
mae e yn ddifri yn i vowredd
pan oedd ef yn galw lasar
ni veiddiwn i ddwyn i far
na ffrwytho dim i ymladd
val dyna radd anhygar
vo aeth oddiwrth yr holl gythrelied
heb ond ynwaith i weled
val hedydd yn vyan
mawr a bychan arswyded

enaid krist
yffernol byrth agorwch
chwi dywyssogion tywllwch [~ tywyllwch]
yn llydan llydan werin
j frenin y digrifwch

[sattan]
pwy yw brenin krevlon kry [~ cryf]
yr hwn nid ydiw i 'n hofny
na 'n poen na 'n penyd hynod
ond dyfod yn Ry hy
o fewn heddiw a thori
yr holl ddryse a 'n pyrth ni
Ond Ryfedd vod i feddwl
yn gwbwl i 'n amherchi

[td. 29r]
[enaid krist]
agorwchi ych drysse
holl wassnaethwyr vffernlle
ac yn ychel dyrchefwch
byrth nef kedwch y mine
ymdrigwn mewn llywenydd
gida brenin tragowydd
yrwan ir wy yn entrio
ternys [~ teyrnas] gwlad nef awn yno
yrddassol dad bendiga
a ddoeth ohonod adda
a 'm heddwch a 'm ythrylith
ych plith fyth a orchmyna

[Adda]
o 'r doethineb gorvcha
a ddoethost di hyd yma
oddi vry oddiwrth vy nhad
mawr o gariad a roist arna
athoniav [~ â 'th ddoniau] rwyvi i 'th alw
brenin yr israel akw
mi a 'th roes di yn ddiddic
bendigedic vo dy enw

[dafydd broffwyd]
hael Jessu o 'r gwraidd ganaid
bv gan dy bobyl wiliaid
padriairch a ffroffwidi
maen yn dy henwi yn honaid

[td. 29v]
danvon ni yr llywenydd
nefawl akw yn dragowydd
bendigedic vo dy enw
a hwnw byth ni dderfydd
o oen duw yr holl bychode [~ bechode]
tynaist ymaith wrth oddef
o 'th farfolaeth i gwnaethost
da vyost wrthym nine
yn vffern peraist gyffro
a throi y balchedd heibio
o 'th henw kysgredic [~ cysegredig]
bendigedic vyth a fo

enaid krist
vy heddwch i v' yneidie
yma a fy i 'ch plith chwithe
abram ben ffydd a 'n gweryd
essac jakob yn ddie
chwi a gewch wlad vrddasol
ych treftad brenin nefol
am a wnaethochi ero [~ erddo]
y kewch drigo yn dragwyddol
mihangel gwna hyn yma
dwc gynyd vy nhad adda
[i 'r] llywenydd tragwyddol
[lle y mae] nefol orffwysfa

[td. 30r]
enaid krist
adda awn i vynnv
wrth orchymyn yr jessu
ni allwn vod yn llawen
mae 'r vargen gwedi ffynv

lissiffer
gwae ni ssattan heb y lisiffer
yma i drigwn mawr yw yn pryddder
daeth brenin mab duw gwrol
o dragwyddol ychelder
gwnewch ddiogel byrth Ragddo
Rac i ddyfod yma eto
ac yn sikir gwybyddwch
na bom ni ttrwch i ssyrthio
val i gallom ni yn ddiogel
gadw yma bawb a ddel
ni a fwriasom heb ddim ttal
yn holl ofal yn isel

enaid krist
vy nhad o 'r nef gorvchaf
Rwyfi yn gofyn yt hyn ymaf
gael o 'm pobl dref i tad
o gariad mi a 'i harchaf
j 'r llywenydd pan i 'ch kefais
pradwysol [~ paradwysol] i 'ch anvonais
yn dragwyddol i bon yno
yn ttrigo am a ddioddefais
wele yrowan mi a af
at vy nghorff ac a orchmynaf
ymddangos yn gorfforol
j 'm kariadol vam wyraf

[td. 30v]
jessu
vy mam vair wedi ych prvddder
kymerwch ych yssmwythder
wedir wylo a wnaethost
mair gwybvost vawr vlinder
tristwch wylofain yma
a 'ch gorfv chwi gan mwya
v' anRydeddol vam vorwyn
er vy mwyn beth gorffwysa

mair
jevan vy mab ttirionder
ni allai gymryd v' ysmwythder
er penn welais ben i oes
vy mab ar y groes dduw gwener
yn wraic vo a 'm galwodd
ac a ddywod o 'i madrodd [~ ymadrodd]
edrych dy vab ar y groes
yn y oes erioed ni thygiodd
pe ym gylwasai [~ galwasai] vy mab tirion
vi yn vam ttrasai [~ torasai] vy nghalon
gorffowys di jevan beth
mawr yw aleth ynwyfron

enaid krist
ampych [~ hanbych] gwell vam drygaredd
paid a 'th wylo v' anrrydedd
kic a gwaed wyvi yn barod
gwedi gorfod o 'r diwedd
a chynawd [~ chnawd] dyn myvi a 'i prynais
yn y modd i dioddefais
ar dduw gwener y kroglith
vy ngwaed i 'ch plith a gollais

[td. 31r]
v' anrydeddol vam vair wen
adolwc byddwch lawen
ni allai mwy bellach
drigo hayach mi af ywch ben
ym disgyblon i dywedwch
ac i bedyr gair gyrwch
kan vy ngweled bwrien drem
ynghaer sselem adroddwch

mair
kyfod jevan vy mab kv
kyfod a wyd ti yn kysgv
jessu gwelais yti dyweda
vy mab yma vo vv
ef a erchis imi yno
wrth ymadel ag efo
vod yn llawen yn ssefyll
jr oedd i erchyll ef yn tropio
er hyn jevan ni vyne
ym hir drigo gidag ef
mi a ssychais i wyneb gwyn
vy mab kyn i archoll ef

jeuann vengylwr [~ efengylwr]
gwai [~ gwae] vine vyth vy mam dda
a fv dduw jessu yma
angredic [~ angharedig] ym vyoch
och och ple mwy i keisiaf

[td. 31v]
mair
yn sikir kyn ymado
y dywad wrthi efo
vy mab eilwaith y gwelwn
ynghaer selem awn yno

mair glewffas
pai delem at i vedd
pwy a 'm helpai v' anrrydedd
o droi y garec wrthfawr
ssydd ar gorff y gwr yn gorwedd
val i gwelwn i amdo
vendigedic korff yno
a 'r olew kysgredic [~ cysegredig]
gwac vi o hir dric yno

mair vadlen
korff kalon o ryfeddod
yssydd ymi yn gyfnod
weled bedd mor loyw
gwych a hoyw ywr arfod

yr angel
nag ofnwch wragedd heno
jessu ydd ychi yn i geisio
hwn dioddefodd varfolaeth
ar y groes vawr a 'i ysgwrsio
vo godes mawr fv ymryddder
er hyn ymaf o amser
gwener mal i gosoded
y gorff hynod vy aur ner

[td. 32r]
a dywedwch yw ddysgyblon
ac i bedyr gar ych bron
a bid hysbys genwchi
i galali i daw vy ion

mair vadlen
a ffan tynodd y terfen [~ terfyn]
llawn diffeithwch aniben
och vy nghalon i a dyr
ar vyrr o ddirfawr angen
v' arglwydd a 'm duw a golles [~ gollais]
y gwr mwya a geres [~ gerais]
ni 'dewis [~ adewis] hwn yn yr holl vyd
help ond vn vy nghyffes

mair vam grist
ha ha madlen how tydi
pam i gedaist yw golli
jessu vyth ple i kwyna
ymherffeithia gariad i
mi af at vair a ffedyr
i ddywedyd yw gyd vrodyr
val y gwelais wir jessu
yn kodi gwedi i ddolyr

y marchoc kynta
kodwch wyr ni all ero [~ erddo]
na llaw na throed ystentio
gan rryw fflam o dan aeth
ym golwc val saeth heibio

[td. 32v]
yr ail marchoc
yrowan hyno ir oeddwn
yn haner dall dybygwn
nid oedd geni ddim kryfder
kodi vy mer nis gallwn

y trydydd marchoc
Raid ym er bod yn anodd
ym harglwydd peilad adrodd
j vyned efo ymaith
yn byrffaith [~ berffaith] o 'n gwir anfodd

y pedwerydd marchoc
o arglwydd yrddassol da
proffwyd kadarn gorvcha
heno i vyny i kododd
o 'n hanfodd i gid yma

syr peilat
ffei ohonoch draetyriaid
ffei vyth o 'r lle imddiriaid
kysgv a wnaethoch nos a dydd
gwae chwi aros i gyfraid
chwi 'dowsoch [~ adawsoch] i 'r dysgyblon
ladrata 'r korff anhirion
gwna i 'ch klonav [~ calonnau] grynv yn chwyrn
a 'ch oll esgyrn vawheion

[td. 33r]
y marchoc kynta
myn mahownt peila [~ peilad] tirion
yr oedd mor gryf a chrevlon
ac ni feiddiem ni ystentio
ddim rragddo gwae vy nghalon

yr ail marchoc
syr peilad anrrydeddys
ve rodd i droed ar v' ysdlys
ni wyddywn pynn myn fy ffydd
ai nos ai dydd i kwnws

y trydydd marchoc
ve 'm rroddai i lawr ar vyrder
syr peilad am holl bower
ni allwn i vil an bod
brofi gorfod i gryfder

y pydwerydd [~ pedwerydd] marchoc
be basai honom [~ ohonom] eto
ygain ag eraill wrtho
syr peilad o 'n gwir anfodd
ef aethoedd oddyno

syr peilad
ffei fawheion llwfr anhy
pam i dywedech vyth hyny
och rrac kywilidd tra fwy byw

[td. 33v]
sswrth yma yw geny hyny
ffei ohonoch draetyriaid
lle ni 'ch gwelwy o 'm llygaid
ddychi [~ ydd ych chwi] yn ffeilsion kymain [~ cymaint] hyn
chwi vyoch vn ai vyned
ond kyn i bwytawy ddim bara
myn y gwr i kreda
vo a 'i pryn ych krwyn
a 'ch esgirn ddwyn korff oddyma

Ac velly y ttyrfyna [~ terfyna]

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section