Adran o’r blaen
Previous section


PENNOD IV.


Peth pwysig a difrifol yw ymadael â gwlad
ein genedigaeth, ein cartref, a 'n cyfeillion—teithio
miloedd o filldiroedd dros fôr a thir, a bod yn
estroniaid mewn gwlad bell a dyeithr[.] Peth
anaddas iawn i neb fod yn ddifeddwl, ac mewn
anwybodaeth, wynebu taith annghynefin a hirbell;
y mae yn angenrheidiol ceisio cyfarwyddyd gan
yr Arglwydd, a difrifol ystyried y peth cyn
cychwyn. Y mae llawer o drigolion Cymru wedi
myned i America er llesiant mawr iddynt hwy
a 'u hiliogaeth, wedi cyfnewid tylodi am ddigonedd
o bob bendithion ag sydd yn gwneyd bywyd yn
ddymunol, ond nid heb lawer o anhawsderau, a
llawer o ymdrechiadau diflino i 'w mwynhau. Y
mae ereill drwy gyfnewid gwlad, wedi gwaethygu
eu sefyllfaoedd; eu holl ddisgwyliadau hyfrydlawn
wedi troi allan yn siomedigaeth a thor-calon
iddynt. Y mae America mor ëang, ac o 'r fath
amrywiaethau o dir a manteision, y sefydliadau
Cymreig mor annhebyg i 'w gilydd, fel na bydd
darluniad cywir o un rhan, neu un sefydliad, ddim
yn ateb i 'r cwbl. Fel y mae gwahaniaeth mawr
rhwng dyffrynoedd ar lenydd Hafren, â mynyddig
wlad Meirionydd; felly yn gymwys yn yr Unol
Daleithiau, a 'r sefydliadau Cymreig yn y Dwyrain
a 'r Gorllewin. Dynion a theuluoedd, y rhai sydd
yn byw yn gysurus, a golwg am yr un fendith i 'w

[td. 36]
plant ar eu hol, afreidiol iddynt symud o wlad eu
genedigaeth, o herwydd nad allant ddysgwyl yn
amgen mewn un wlad arall. Nid hawdd-fyd a
chyfoeth, gyda diogi a diota, sydd i 'w ddysgwyl
wrth fyned i America. Cofier nad oes yno loches
glyd i 'r rhai sydd yn ffoi o afael y gyfraith wladol,
ond gallant fod yn sicr “y goddiwedda eich pechod
chwi.” Nid ffoi o gyrhaedd gofid, ymdrech,
a llafur y maent, ond i gyrhaedd gwell cyfleusderau
i lafurio, os bydd gwroldeb a chalon i 'w
defnyddio, nag sydd yn gyffredin yn y wlad hon.
Cynghoraf y rhai sydd heb arferyd â gweithio, ac
heb fawr o awydd at hyny, i beidio a chroesi y
dyfnder mawr. Ymroad a diwydrwydd yw cymeriad
pawb sydd yn llwyddo yn America, a hwy yn
unig sydd a hawl i ddisgwyl am fod yn gysurus a
llwyddiannus yn eu hamgylchiadau. Er fod y
cyflog yn fawr, nid oes yno le da i fyw wrth lafur
dynion ereill heb wneyd dim eu hunain. Y mae pob
Freeholder yno, os yn iach, ac yn trin tir, yn gofalu
ac yn llafurio ar ei dyddyn. Mae y plant yn cael
eu dysgu i lafurio, ac felly rhwng ymdrech rhieni
a 'u plant, y mae golud yn cynnyddu yn mhob
gwlad. “Deisyfiad y diog a 'i lladd; canys ei
ddwylaw a wrthodant weithio: ond llaw y diwyd
a gyfoethoga.” Y mae rhai pobl yn myned i
America, gan feddwl y bydd pob peth yn dylifo
iddynt, yn dysgwyl am ddim ond llwyddiant a
hyfrydwch parhaus, ond yn ddiameu y cânt eu
siomi yn hyn yn ddirfawr. Ni weddai i neb fyned
i America, sydd yn “cyfeiliorni trwy win, ac yn
ymryfysu [~ amryfuso ] trwy ddiod gadarn,” ni waeth iddynt
warth, dirmyg, bywoliaeth, a bedd y meddwyn
yma nag yno. Pob un ag sydd yn meddwl treulio

[td. 37]
ei amser mewn segurdod a diota, na ddysgwylied
gysur na llwyddiant yn y wlad lle y mae y diodydd
meddwawl mor rhadlawn a digonol. Dymunaf ar
bob un ag sydd am wynebu America, am fod o
egwyddor ac arferiad yn llwyr-ymataliwr oddiwrth
bob math o 'r diodydd meddwawl, gan nad
ydynt o ddim lles i gyfansoddiad, ond y mawr
ddrwg i bob dyn. Pobl, wedi cyrhaedd oedran
mawr a hen ddyddiau eu goddiweddyd, cynghoraf
hwynt gyda golwg ar eu cysur personol, i aros yn
ngwlad eu genedigaeth: ond os ydynt am wneuthur
daioni i 'w plant, trwy aberthu peth o 'u cysur wrth
newid eu gwlad, gwell iddynt hwy a 'u teulu fyned i
America, yr hyn a fydd yn sicr yn fendith fawr
i 'w hiliogaeth. Ond yn awr pwy sydd yn debyg
o wella eu hamgylchiadau wrth gyfnewid gwlad?
Nid allaf ddywedyd yn benderfynol, ac anffaeledig,
am fod hyny dan fendith yr Arglwydd,
yn ymddybynu [~ ymddibynnu ] arnynt eu hunain: ond gallaf
ddywedyd hyn, nad ydyw myned yn unig i wlad
dda, yn gwneyd neb yn gyfoethog na chysurus.
Y mae yn ofynol iddynt ddysgwyl gwynebu peth
caledi, ac ymddifadrwydd [~ amddifadrwydd ] o lawer o bethau, ac i
fod yn llafurus a diwyd, onide byddant yn yr un
amgylchiad ac yr oeddynt cyn cychwyn. Rhieni,
y rhai sydd yn magu teuluoedd, a chanddynt eiddo
yn eu meddiant, ac yn methu, bron, a thalu eu
ffordd, er gwneyd pob ymdrech tuag at hyny,
byddai yn llawer iawn gwell i 'r cyfryw fyned i
America, lle y caent, yn ddiamau, cyn hir, weled
cyfnewidiad mawr ar eu byd, a hyny er gwell; y
mae yno, ar ol eu llafur a 'u hymdrech, lawer gwell
lle iddynt ddysgwyl cael mwynhau eu gwobr.
Y mae llawer o anhawsderau yn goddiweddyd

[td. 38]
dyeithriaid mewn gwlad bell—anadnabyddiaeth o
waith, ac iaith y lle; weithiau afiechyd a siomedigaethau;
ond er y cwbl, ar ol dyoddef [~ dioddef ], a diflin
ymdrechu, fe fydd i 'r teulu well taledigaeth: ac yn
mhen y flwyddyn, gallant lawenhau fod gwenau
Duw arnynt, a 'u bod yn mhell o gyrhaedd yr House
of Industry
, ac fod ganddynt gartref cysurus, a
golwg am yr unrhyw gynysgiaeth i 'w plant, pan y
byddant hwy yn pydru yn y graian [~ graean ] oer. Pobl
ieuainc, sobr, diwyd, a ffyddlawn, morwynion a
gweision, yn nghyd [~ ynghyd ] a chelfyddydwyr cyffredin,
gweithgar, a medrus, sydd addas i fyned i America.
Y mae traul am ddilladu yn llawer mwy yno nag
yma, er hyny, ond iddynt fod yn gynnil, gallant
gadw llawer o 'u henill. Yn mhell yn y Gorllewin,
sef, Ohio, Indiana, ac Illinois, a 'r taleithiau newydd,
Jowa a Wisconsen, ydyw y lle goreu i gael tir da
am ychydig o arian. Y mae llaweroedd yn oedi
newid eu gwlad hyd ne's byddo eu meddianau
bron wedi darfod, a braidd y bydd digon ganddynt
i 'w dwyn i dir, a thrwy hyny yn aros yn yr hen
daleithiau, neu yn dechreu mewn gwlad newydd,
dan lawer o anfanteision. Peth lled galed yw i
deulu ddechreu gydag ychydig o foddion mewn
gwlad estronol; ond gallaf ddweyd fod llawer
wedi gosod eu traed ar dir America heb ddim,
ond yn awr yn esmwyth eu hamgylchiadau, wedi
gwneyd eu hunain, trwy ymdrech, yn gysurus eu
byd. Ond eto, nid pawb sydd felly. Gwlad dda
y mae miloedd o hen Gymry wedi cael yr Unol
Daleithiau; a bydd gan eu plant achos priodol i
ddiolch yn barhaus am wrolder eu tadau yn
gwynebu y geirwon dònau, i sefydlu yn yr anialwch,
a throsglwyddo iddynt etifeddiaeth hyfryd,

[td. 39]
a mwynhad o iawnderau dynol i farnu drostynt
eu hunain mewn pethau gwladol a chrefyddol.
Ychydig ar ol bod yn America, a dychwelyd i 'w
hen wlad, sydd yn dewis aros ynddi; eu tyniad
sydd yn ol i fyw a marw dan gysgod canghenau y
Tree of Liberty. Pobl ieuainc sydd wedi arfer â
gweithio, a chanddynt arian, y mae yn America
bob cyfleusdra iddynt i gael llôg da amdanynt;
neu brynu tir mewn gwledydd newyddion, yr hwn,
trwy ei adael am ychydig flynyddau, fydd wedi
codi, a dyfod yn werthfawr iawn. Gormod o duedd
sydd yn y Cymry i aros yn yr hen sefydliadau,
neu i ddewis tir uchel a thoredig; ar ol gadael
cartrefi, a chyfleusderau crefyddol, oedd unwaith
yn eu meddiant; ni waeth iddynt ymdrechu i gael lle
da, a thir ffrwythlawn, fe fydd i 'r wlad gynnyddu,
a breintiau crefyddol i 'w chanlyn. Ond iddynt
hwy gadw gyda 'r arch yn bersonol a theuluaidd,
fe fydd moddion gras yn fuan yn eu cyraedd.
Nid oes yn bresenol lawer o 'r dir y llywodraeth
heb ei werthu, yr hwn sydd yn 6s a 6c yr acr; ond
y mae digonedd yn mhellach i 'r Gorllewin, yr hwn
sydd yn lle manteisiol iawn i brynu, gyda golwg
ar gael tyddynod mewn amser dyfodol, neu i 'w
hail-werthu.

Pan ar y môr, clywais hen Sais o Loegr, wrth
ddychwelyd i 'w wlad, wedi cael ei siomi yn
America, yn dywedyd ei wrthwynebiadau yn ei
herbyn fel y canlyn:—1. Fod yno ormod o gydradd
rhwng y gwas a 'r meistr, y ddau yn cydweithio,
yn cyd-fwyta, ac yn cyd-gyfeillachu
—merch i Independent Freeholder yn codi oddiwrth
y ford i wneyd lle i 'r gwas: a fu erioed y
fath beth?—ni allaswn ei ddyoddef [~ ddioddef ].—2. Ni's gall

[td. 40]
Gentleman Farmer fyw yn America, y mae pawb
yno yn gweithio, ac heb hyn nid oes llwyddo.
Gyru fy ngweision, ac edrych arnynt, a bod yn
ddiymdrech fy hun, yw fy ffordd i; ond ni etyb
hyny yno; y mae yn rhaid i bawb weithio; ni
allaswn i byth blygu i hyn.—3. Dynion sydd
am gael cysuron yn eu bywyd, trwy dreulio eu
hamser mewn segurdod, diota, a chwmni difyr,
hela, a rhedeg ceffylau, er fod ganddynt ddigonedd
o arian, nid ydynt yn cael y parch sydd yn
ddyledus iddynt, nac ychwaith gyfleusderau i
fwynhau bywyd difyr.—4. Nid ydyw eu cwrw a 'u
gwirod cystal!! Y mae yn rhaid cyfaddef fod
llawer o wirioneddau yn y gwrthddywediadau
hyn, eto dymunaswn fod mwy. Wrth weled a
chlywed y dyn siomedig, braidd nad ofnais ei fod
ar y ffordd i fyned i ddiweddu ei ddyddiau o
fewn muriau yr House of Industry; neu, o leiaf,
heb fod yn Gentleman Farmer. Dyna angraifft [~ enghraifft ]
dda o ddynion, y rhai sydd yn anaddas i fyned i
America; canys hyn fydd eu rhan, naill ai bod
yn annedwydd yno, neu ddychwelyd adref wedi
cael eu siomi. Y dynion sydd a chymhwysderau
addas i 'r daith hon, ydynt y rhai sydd yn dysgwyl
cael dail surion, a chwpaneidiau chwerwon, yn
gymysgedig â 'r melus win; dyna y rhai na chânt
eu siomi wrth gyfnewid eu gwlad. Wrth fyned i
America y mae llawer o anhawsderau i 'w gwynebu,
sef gadael gwlad, teithio dros fôr a thir, iaith ac
arferiadau newyddion i 'w dysgu, a dechreu y byd
drachefn—mewn gair, y mae myned i America yn
chwyldröad mewn bywyd dyn.


[td. 41]


Y DAITH.


Ychydig o bethau sydd yn talu y draul a 'r
drafferth i 'w cludo i America, am eu bod mor isel
eu pris, a hawdd i 'w cael yno fel yma. Dillad o
frethyn a lliain wedi eu gwneyd, gwelyau (y rhai
fydd barod ar y daith) ac ychydig o fân bethau
ereill, sydd o werth eu cludo mor bell. Da fyddai
rhoddi gorchudd o liain bras am y gwelyau i 'w
cadw yn ddiogel ar y daith. Ceir llestri addas at y
fordaith, a chyfarwyddiadau beth fydd yn ofynol,
yn Liverpool; rhwystr ac anhwylusdod parhaus
fydd i 'r teithwyr oddiwrth eu luggage; goreu pwy
leiaf fydd ohonynt. Y mae pob math o ddillad,
llestri pridd, a chyllill a ffyrch, yn llawer drutach
yno nag yma; ni cheir myned a dim, ond yr hyn
a fyddo angen ar y teulu, heb dalu teyrnged (duty)
amdanynt. Yn gyffredin, byddaf yn gweled fod
arian yn well na llawer o luggage, ar ol cyrhaedd
tir America. Mewn perthynas i gyfnewid arian, os
bydd aur Lloegr, (Sovereigns) ni raid eu cyfnewid,
am eu bod yn gymeradwy trwy yr holl Unol
Daleithiau. Bydd yn well i deuluoedd, ar ol
cyrhaedd Liverpool, gymeryd ystafell, (room) a
byw ynddi ar eu hymborth eu hunain, hyd nes
y byddo y llong yn barod i gychwyn. Liverpool
yw y lle goreu i gymeryd llong i fyned i America,
am fod yno rai yn hwylio yn wythnosol, ac weithiau
yn ddyddiol, a thrwy hyny yn rhoddi llawer o le i
ddewis. Mewn trefydd mawrion, fe fydd i 'r teithwyr
gyfarfod â phob math o ddynion; gwelant
lawer mewn rhith-gyfeillion, yn ymddangos yn
hynod o barod i 'w cynnorthwyo, trwy gymeryd
llong, a pharotoi ymborth iddynt; ond dylai pawb
fod yn wiliadwrus, i beidio a chredu pob peth a

[td. 42]
glywant, ond edrych a siarad drostynt eu hunain,
wrth gymeryd llong: ond fe fydd cynnorthwy
dynion ag sydd deilwng o ymddiriediad, ac yn
gyfarwydd â llongau, a pharotoi erbyn mordaith,
yn llawer o leshad a boddlonrwydd; dylai pawb
fod yn ofalus rhag iddynt gael eu cam-arwain a 'u
twyllo. Yr arwydd oreu fod llong yn myned i
hwylio yn ddioed, ydyw, pan y byddo wedi ei
llwytho; ac nid geiriau teg am gychwyn, ond cael
golwg ar y llwyth ; dyna y ffordd sicraf i wybod ei
hagosrwydd i gael codi ei hwyliau. Y mae rhai,
ar ol cymeryd llong, wedi gorfod aros yn Liverpool,
weithiau, am amser maith, heb gael cychwyn yn
ol y cytundeb. Gan fod y llongau yn aros yn
Liverpool yn hwy na 'r addewid heb gychwyn,
byddai yn ddoethach i 'r teithwyr fynu cael eu
cytundeb yn ysgrifenedig ganddynt; ac addewid
am hyn a hyn y dydd, am bob diwrnod y byddant
yn gorfod aros am y llong tros yr amser penodedig.
Y draul am gario gyda 'r Packets, (yn y Steerage)
ydyw o 4 i 5 punt; yn y Cabin am £25. Ceir
myned gyda llongau Marsiandwyr da a chyflym,
am o 3 i bedair punt, yn y Steerage; yn y Cabin am
o 15 i 20 punt. Y mae llongau yr America yn
rhagori yn fawr ar rai Brydain i fyned yno; ac y
maent i 'w cael yn barhaus yn Liverpool. Y mae
Packets yn wastad yn gadael y porthladd ar y
dydd pennodedig, os bydd y tywydd yn caniatau;
ond nid oes cymaint o ddal ar y lleill. Ar ol
cymeryd llong, gwell cael pob peth yn brydlawn
ar ei bwrdd; gosod y luggage a 'r ymborth yn
ddyogel [~ ddiogel ] cyn cychwyn, fel na byddo dim yn rhydd
i gael ei daflu yma a thraw ar y môr; gwell i 'r
Cymry barotoi bara, a blawd ceirch, ymenyn, caws,

[td. 43]
a chig, cyn gadael eu cartref—dyma yr ymborth
iachaf, a goreu ar y fordaith; ceir tê, coffi, siwgr,
triagl, halen, &c., yn Liverpool. Dyna yr ymborth
sydd yn angenrheidiol, er y gall pawb fyned a
ddewisant. Rhaid parotoi ymborth gogyfer a 6
neu 8 wythnos; gwell gormod na rhy fach: ond
fe fydd y gweddill yn fuddiol ar ol cyrhaedd New
York. Gwell i ddyeithriaid, am ychydig amser
ar ol myned yno, ddilyn eu harferiad cyffredin o
fyw, fel y byddo eu hiechyd yn well. Nid oes
angen am wirodydd ar y fordaith; os byddant yn
ofynol fel meddyginiaeth, byddant i 'w cael gan y
Cadben [~ capten ]; cadw y corff yn dymherus sydd yn beth
da iawn tuag at fwynhau iechyd ar y môr: am
hyny bydd ychydig o Epsom salts neu Rhubarb yn
llesol, os bydd angen am hyny. Iselder meddwl,
difaterwch, a segurdod, yw haner afiechyd y môr;
myned ar y bwrdd, a cherdded oddiamgylch, a
chyfeillach siriol gyda 'u gilydd, yw y meddyg
goreu i gadw rhagddo, ac hefyd i 'w wellhau. Ar y
môr, dylai pawb ymdrechu i gydymddwyn â 'u
gilydd, ac i fod yn gariadus a chymwynasgar, fel
y byddo eu taith yn gysurus, a phawb i ymadael
mewn tangnefedd. Ar ol cyrhaedd y tir, os yn
aros yn y porthladd, gwell iddynt ymdrechu am
waith yn ddioed; a bod yn ofalus am eu hiechyd,
eu cymeriad, a 'u llwyddiant, trwy beidio segura,
diota, a myned i gwmni afreolus. Dyma sydd
wedi drygu canoedd o ddynion ar ol cyrhaedd
America. Y mae yma le da i weision, a morwynion,
a chrefftwyr, yn y dinasoedd mawrion; ond nid
cystal i deuluoedd; gwell lle i 'r cyfryw mewn
gwlad neu bentrefi.


[td. 44]


CYFARWYDDYD O NEW YORK.


Na wrandewch ar ffug-gyfeillion yma yn fwy
nag yn Liverpool; ceir digon yn barod i 'ch cyfarwyddo,
ond gwell chwilio a barnu drostoch eich
hunain. Y mae Offices yn New York i gael
gwybodaeth am y daith; yma ceir clywed a
gwybod pob peth, fel y gall pawb wybod y ffordd
oreu i fyned yn eu blaen. Os am fyned i Utica,
neu y rhanau Gogleddol o Ohio, gofyner am y fan
lle mae yr agerdd-fadau i Albany yn cychwyn;
yno fe wêl pawb drostynt eu hunain; felly am bob
man arall. Gan mai arian America a droir yma,
rhoddaf y prisiau yn ddolars—pob dolar yn cyfateb
i 4s a 6d. Y daith a 'r prisiau fel y canlyn:—

O New York i Albany, 160 mill. (agerdd-fad)...... 2 ddolar
O Albany i Utica 110 mill. (camlas).............. 1 ½ eto
O Utica, i Buffalloe, 254 mill. (camlas)............ 3 ¾ eto
O Buffalloe i Cleaveland, 193 mill. (agerdd-fâd).... 2 ½ eto
O Cleaveland i Newark, 171 mill. (camlas)........ 2 eto
O Newark i Columbus, 40 mill. (camlas) ........ ¾ eto
O Columbus i afon Ohio, 82 mill. (camlas)........ 1 ¼ eto
O Afon Ohio i Cincinnatti, 100 mill. (agerdd-fâd).. 1 eto
Y daith oll yn 1,110 milldir.—Y draul oll yn 14 ¾ dollars.


Gwybydded pawb nad ydynt i gael eu hymborth
a 'u cludiad am y prisiau uchod, ond eu gwelyau
a 'u cludiad yn unig. Os byddis [~ byddir ] yn cymeryd y
Cabin Passage, bydd o 42 i 50 dollars. Gorphenir
y daith uchod gyda rhwyddineb cyffredin, mewn
o 15 i 18 o ddyddiau. Y ffordd i fyned i Putnam
a Vanwert, yn Ohio, ydyw o Cleaveland i
Perrysburg, ar Afon Maumee; ac oddiyno i Kalida,
neu Lima, mewn gwageni.

Taith arall i Cincinnatti, trwy Pensylvania:—

O New York i Philadelphia, 100 mill. (agerdd-fâd) 1 ½ dol.
O Philadelphia i Columbia. 81 mill. (Rail-Road).... 1 ½ eto
O Columbia i Pittsburg, 313 mill. (camlas)........ 4 ½ eto
O Pittsburg i Cincinnatti, 500 mill. (agerdd-fâd).... 3 eto
Y daith oll yn 994 milldir.—Y draul oll yn 10 ½ dollars.


Y Cabin Passage o 40 i 45 dollars. Gorphenir
y daith mewn o ddeg i ddeuddeg diwrnod. Y
mae yn ofynol i dalu am y luggage wrth y cant,
os bydd mwy na deugain pwys.

Y neb a fyddo am fyned i Palmyra, dylent
ymadael â 'r gamlas yn Akron, 39 milldir o
Cleaveland; os i Radnor, gadael y gamlas yn
Columbus; os i Ebensburg, gadael y gamlas yn
Johnstown, 285 milldir o Philadelphia; os i Galia,
neu Jackson, gadael Afon Ohio yn Galliopolis,
270 milldir o Pittsburg. Gellir dyfod y ffordd
hon i Cincinnatti, ac oddiyno, ar y gamlas, i Piqua,
90 milldir; ac oddiyno, 40 neu 50 milldir, i Putnam
a Vanwert, mewn gwagen. Os am fyned i
Indianna, Illinois, Wisconsin, neu Iowa, i lawr
Afon Ohio ydyw y ffordd oreu.

Wrth deithio, gofaled pawb am beidio yfed dwfr
oer pan yn chwys; i beidio aros allan yn y nos; ac
o fwyta ymborth iachus yn brydlawn; a thrwy
wneuthur felly, ni byddant mor debyg o gael
afiechyd. Ar ol cyrhaedd pen y daith, cymeryd
amser, a gwrandaw ar gynghorion cyfeillion sydd
wedi bod yn hir yno, sydd beth hynod o lesiol.
Os bydd arian ganddynt, gwell iddynt brynu tir
wedi ei arlwyso; ond os na fydd ganddynt, gwell
iddynt brynu tir coed, o 20 i 40 o Acrau, a 'u crino,
trwy dori eu rhisgl hwynt, a 'u gadael am dair
blynedd, wedi hyny bydd yn hawdd i 'w arlwyso.
Ar ol iddynt brynu tir coediog, a thori eu rhisgl,
gwell iddynt gymeryd tir ar rent am dair blynedd,

[td. 46]
a chodi stock dda arno, wedi hyny bydd y coed
wedi crino, ac yn hawdd i 'w llosgi, a 'r tir yn barod
i 'w arlwyso. Nid da i ddyeithriaid fyned yn
uniongyrchol i agoryd tir coediog, am fod cymaint
yn fwy o waith gydag ef na phe baent yn aros
iddynt grino.


DYFFRYN MISSISSIPPI.


Dyma yr enw a roddir i 'r rhan hono o 'r Unol
Daleithiau sydd yn cael ei ddwfrhau gan Afon
Mississippi, a 'i holl ganghenau, yr hwn sydd yn
gorwedd rhwng yr Allegany a 'r Mynyddoedd
Creigiog, yn 1,400 milldir o 'r De i 'r Gogledd;
ac yn 1,500 o 'r Dwyrain i 'r Gorllewin; yn cynwys
833,000,000 o gyfeiriau o dir. Yn y dyffryn
helaeth hwn y mae taleithiau Ohio, Indiana, Illinois,
Missouri, Mechigan, Kentucky, Tennessee,
Mississippi, Alabama, Arkansas, Louisiana, Jowa,
a Wisconsin; yn nghyda [~ ynghyd â ] gwlad helaeth sydd yn
feddiannol gan yr Indiaid. Yn y flwyddyn 1790,
nid oedd yno ond 100,000 o bobl wynion; ond yn
bresenol y mae mwy na 7,000,000. Meddylir nad
oes un rhan o 'r byd yn cynwys y fath helaethrwydd
o dir da a ffrwythlawn a hwn. Y mae pob rhan o 'r
dyffryn yn cael ei ddwfrhau gan afonydd mawrion
a mordwyol; ac yn addas i wneyd camlasau a
ffyrdd. Nid oes ynddo un mynydd i 'w weled; y
tir yma a thraw yn fryniog; ond yn gyffredin yn
wastadedd. Y mae yn cael ei ranu yn ddwy ran,
sef yr Isaf a 'r Uchaf. Y mae yr Isaf yn y Deheudir,
islaw arllwysiad Afon Ohio i 'r Mississippi,
yr hwn sydd yn cynwys saith o daleithiau, sef,
Kentucky, Tennessee, Alabama, Mississippi,
Louisiana, Arkansas, a Missouri, yn mha rai y

[td. 47]
maent yn codi cottwm, siwgr, tobacco, a rice: y
mae y gaethfasnach yn flodeuog yma hefyd. Mae
y tir yn wastad, ac yn hynod o fras a ffrwythlawn.
Ei afonydd ydynt y Mississippi, Missouri, y Goch,
Cumberland, Arkansas, Tazoo, Jabine, Alabama,
Ossage, &c. Cyfrifir Mississippi yn un o 'r afonydd
penaf yn y byd; y mae yn cario yr holl
ddyfroedd ag sydd yn rhedeg drwy y dyffryn
anferth hwn i 'r môr. Y mae ei chychwyniad o 'r
Llyn Ceder Coch Uchaf, (Upper Red Ceder Lake,)
ac yn ymarllwys i gyfyngfor Mexico. Y mae
ei rhediad oddeutu tair mil o filldiroedd. Y mae ei
lled, gyferbyn a 'r Afon Missouri, o ddwy fil i
ddwy fil a phum cant o latheni. Yn New Orleans,
a thu isaf i hyny, y mae hi oddeutu chwech ugain
o droedfeddi o ddyfnder. Y mae ynddi lifeiriaint
mawrion ddwy neu dair gwaith yn y flwyddyn;
y cyntaf ohonynt oddeutu dechreu y flwyddyn
newydd; a 'r olaf yn yr wythnos gyntaf yn mis
Gorphenaf, pryd y bydd lled yr Afon yn New
Orleans o 80 i 100 milldir o led.

Y mae y Dyffryn Uwchaf yn cynwys chwech
o daleithiau, sef Ohio, Indiana, Illinois, Michigan,
Jowa, a Wisconsin. Nid oes yma ddim caethion
—ond pawb yn rhyddion—a mawr yw y fendith
i 'r wladwriaeth yn gyffredinol, canys y mae y
taleithiau rhyddion yn cynnyddu mewn pob peth,
yn llawer mwy na 'r taleithiau caeth. Y mae y
tir yn dda, ac yn dwyn cnydau helaeth o Indian
Corn
, gwenith, haidd, rhyg, ceirch, cloron, &c.
Ei afonydd ydynt Ohio, Wabash, Illinois, Rock,
Kaskaskia, Miami, Sciotio, Muskingum, &c. Y
mae yr hin yma yn fwy tymherus ac yn iachach
nag yn y Dyffryn Isaf. Y mae glo, plwm, halen,

[td. 48]
a haiarn i 'w cael mewn llawer o fanau yma. Y
mae gweithfeydd plwm helaeth yn Illinois a Missouri;
a haiarn, glo, a halen yn Ohio. Y mae
yma goed o bob rhywogaeth. Yn y fath ddyffryn
anferth a hwn y mae amrywiaeth o dywydd—
poeth ac oer—gwlyb a sych—iach ac afiach. Yn
y Dyffryn Isaf y mae poethder yn yr Haf, ac
ychydig o rew ac eira yn y Gauaf—braidd yn
Wanwyn a Haf parhaus. Yn Ohio, Indiana, &c.,
y mae yn fwy tymherus yr Haf, ond yn oerach y
Gauaf—y pedwar tymhor fel yn y wlad hon; ond
fod yr Haf yn gynnesach ac yn hwy; a 'r Gauaf yn
fyrach. Nid yw y tywydd poeth neillduol yn para
ond am ychydig ddyddiau; ac felly y tywydd
oeraf. Yn ardaloedd Cincinnatti, gwelais lawer
Gauaf heb braidd ddigon o eira i orchuddio y
ddaear. Y mae Afon Ohio yn rhewi yn gyffredin
bob Gauaf—Ond nid yw y Mississippi byth felly.
Anaml y gwelir gwartheg dan dô, ond yn cael eu
porthi allan. Y mae llawer o wahaniaeth rhwng
trigolion y ddau ddyffryn uchod—Yn yr Isaf y
maent yn cynnal y gaethfasnach—yn byw ar lafur
annghyfreithlawn—yn ddiog—yn ddiymdrech—yn
falch—yn anfoesol—yn caru pob oferedd—ac yn
gyffredin yn ddiofn Duw. Ond yn yr Uchaf, y
maent yn gyffredin yn gwbl groes i 'r nodweddiad[.]


ENGLYN.


TEIThIAF—hwyliaf fôr heli—ar antur—
Mi w'rantaf [~ warantaf ] rhag siomi;
Caf yno waith maith i mi,
Ag Arian sy 'n rhagori.
Mervinian.

LlANRWST: ARGRAFfWYD GAN J. JONES.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section