Adran o’r blaen
Previous section


PENNOD III.


HANES PADDY'S RUN.


Dyma 'r sefydliad Cymreig hynaf yn Ohio, yr
hwn sydd 20 milldir o Cincinnatti, yn swydd Butler.
Dywedir i 'r enw gwyddelig yma gael ei osod ar y
sefydliad hwn, o herwydd i Wyddel, pan yn rhyfela
 â 'r Indiaid, syrthio i nant sydd yn rhedeg trwy
y dyffryn, a bron foddi ynddi; ac o ganlyniad
galwyd y nant a 'r dyffryn yn Paddy's Run.
Ezekiel Hughes, Edward Bebb, John Roberts,
ac Ann Rowlands, (y Gymraes gyntaf a aeth i
wlad Ohio,) o Lanbrynmair, William a Morgan
Gwilym, o Langiwc, Morganwg, a ymadawsant â
Chymru, Awst 4, 1795, y rhai a gawsant lawer
iawn o drafferth a helbul y blynyddoedd cyntaf
yma, trwy lafurio yn ddiflino i orchfygu yr anialwch:
ac y mae yn debyg mai hwy, a 'r rhai a 'i canlynasant
i 'r Gorllewin pell, sydd wedi cael y tir
goreu o 'r holl Gymry sydd yn America. Y mae y
dyffryn hwn yn dir rhagorol, a 'r bryniau yn llawn
o goed a cherig. Y mae, bron, bob tyddyn yn
dir gwastad a bryniog. Y mae y tir yn addas i

[td. 22]
bob math o ŷd, ond yn neillduol i 'r Indian Corn.
Prif waith yr amaethwyr yw codi Indian Corn, a
phesgi moch; rhai ohonynt o 40 i 150 yn flynyddol,
yn ol maint ac ansawdd eu tyddynod. Y mae
yma lawer o feusydd [~ feysydd ] o 10 i 25 o Acrau yn cynnyrchu
 Indian Corn am o 30 i 40 mlynedd, heb
orphwysiad na gwrtaith. Y mae y tir bryniog yn
well at wenith, ceirch, a chloron, na 'r gwastadedd.
Y mae yr ardal hon yn un o 'r rhai iachaf yn y
dalaeth, ac wedi bod felly er ei sefydliad. Nid
oes ond o 200 i 250 o Gymry yn y lle, ac oll bron
yn amaethwyr yn meddianu eu tyddynod, y rhai
sy 'n cynwys o 80 i 400 Acrau, ar ba rai y mae
digonedd o goed tu ag at danwydd a fences. Y
mae y tir yn ddrud ac yn anhawdd ei gael ar
werth yma; a dyna yr achos na b'ai [~ bai ] y Cymry yn
cynnyddu yn fwy. Y mae y tyddynod yma yn
werth o 6 i 18 punt yr Acr; yn cael eu rhentu am
o bunt i ddeg swllt ar hugain y flwyddyn; gweision
yn cael o 25 i 36 punt y flwyddyn, a 'r morwynion
o 15 i 20. Y mae cynnyrch y tir a 'r anifeiliaid yn
hawdd eu gwerthu am brisiau da. Yn 1804, sefydlwyd
eglwys yma gan yr Annybynwyr, er nad
ydoedd ond 5 ohonynt rhwng Cymry a Saeson.
Yn 1817, y dechreuwyd pregethu Cymraeg gyntaf
yma gan y diweddar Barch. Rees Lloyd. Y mae
un o 'r nifer fechan a ddechreuodd yr achos yma,
eto yn fyw, Mrs. Bebb, (chwaer y diweddar
Barch. J. Roberts, Llanbrynmair,) yr hon sy 'n
addurn hardd i 'r achos. Mai 26, 1836, neillduwyd
i gyflawn waith y weinidogaeth, y Parch.
B. W. Chidlaw, A. M. o brif ysgol Miami, yr hwn
sy 'n enedigol o 'r Bala, Meirionydd, ond wedi ei
fagu yn Ohio. Wrth ddechreu ei weinidogaeth

[td. 23]
nid oedd yma ond o 25 i 30 o aelodau, â 'r gwrandawyr
yn anaml, ond yn awr y mae dros 100 o
aelodau, a chynydd mawr ar bob rhan o 'r gwaith.


RADNOR.


Enw plwyf yn swydd Delaware, ar Afon Scioto,
32 milltir o Columbus, ac 8 o dref Delaware. Y
mae y wlad yn wastad, ac yn dir da, ond braidd
yn isel a llaith. Dechreuwyd y sefydliad yma yn
1804. Clywais rai o 'r hen sefydlwyr yn darlunio
eu dechreuad yma yn y coed—heb ddim crefftwyr,
masnach-dai, melinau, na chapeli—eu dillad a 'u
hymborth oedd ffrwyth llafur eu dwylaw eu hunain.
Cyn hir, ar ol llawer o ymdrechiadau, daeth y
goedwig afluniaidd yn gartref hyfryd iddynt hwy
a 'u plant. Y mae yma fwy o Gymry nag un lle
arall yn Ohio[.] Y mae y tir yn addas i godi pob
math o ŷd, ac yn rhagorol am wair a phorfa. Gellir
prynu tyddyn a rhan ohono wedi ei arllwyso, a
thŷ ac ysgubor arno, o 4 i 6 phunt; y mae tir
gwyllt am yr haner neu lai. Gwell i ddyeithriaid,
os gallant, brynu tyddyn wedi ei arllwyso yn barod,
os na byddant yn gyfarwydd a hyny, fel y caffont
fywioliaeth yn uniongyrchol ohono. Y mae y
Cymry sydd yma, y rhan fwyaf, o swyddi Trefaldwyn
a Brycheiniog. Y mae yma ddigonedd o
ysgolion yn nghyraedd yr holl drigolion, a phob
mantais i ddysgu eu plant. Y mae prisiau da i 'w
cael yn y marchnadoedd am bob peth a fyddo i 'w
gwerthu. Y mae gan y gwahanol enwadau crefyddol
eglwysi a chapeli. Y mae diwygiad mawr
wedi bod yma yn ddiweddar gan yr Annybynwyr;
eu gweinidog yw y Parch. R. Powell. Y mae
y Bedyddwyr a 'r Wesleyaid Cymreig, wedi uno

[td. 24]
â 'r Saeson, er fod pregethwyr Cymreig yn eu plith,
sef y Parch. D. Cadwalader ac Elias George. Y
mae yma le da i amaethwyr i fagu anifeiliaid, codi
ŷd, a gwneuthur enllyn, o herwydd fod tiroedd yn
hawdd i 'w cael, a 'r marchnadoedd mor gyfleus.


NEWARK A 'R WELSH HILLS.


Y mae Newark yn dref ar gynydd mawr, ar
lan y gamlas sy 'n arwain o Lyn Erie i Afon Ohio.
Y mae llawer o grefftwyr o Gymry yn trigianu
yma, ac yn byw yn hynod o gysurus. I 'r GogleddOrllewin
oddiyma y mae y Welsh Hills, lle y
mae rhai canoedd o 'r Cymry yn preswylio. Y
mae y wlad hon yn lled agored ac iachus, a phob
digonedd o ddwfr rhedegog ynddi. Dechreuwyd
y sefydliad hwn gan Theophilus Rees ac ereill, yn
1803, a chodwyd achos crefyddol gan y Bedyddwyr,
yr hwn sy 'n llwyddo dan weinidogaeth y
Parch. Thomas Hughes. Yn 1832, unodd yr
Annybynwyr a 'r Trefnyddion Calfinaidd, i godi
achos crefyddol, ac i adeiladu capel—y mae llwyddiant
yn dilyn eu hymdrechiadau—y Parch. W.
Parry, (Calfiniad) sydd yn llafurio yn eu plith,
ac yn yr ardaloedd oddiamgylch, lle y mae Cymry
yn cyfaneddu. Amaethwyr yw y bobl yn gyffredin.
Y mae y tir yn uchel o bris, ac yn anhawdd ei
gael, sef o 5 i 10 punt yr Acr. Wrth feddwl am
amgylchiadau presenol y Cymry sydd yn Ohio, y
rhai sydd wedi byw yn sobr, diwyd, ac ymdrechgar,
y mae cyfnewidiadau mawr yn eu sefyllfaoedd, ac
arnynt fawr achos i ddiolch am diriondeb Duw
tuag atynt. Y mae llawer ohonynt wedi dechreu
heb ddim, ond yn awr yn perchen tyddyn o dir da,
a golwg am fywioliaeth gysurus.


[td. 25]


COLUMBUS.


Y mae yma lawer o ieuenctyd Cymru yn gwasanaethu,
ond nid llawer o deuluoedd, ac y maent
yn dyfod yma yn barhaus. Y mae yma ddigonedd
o waith i bawb, a chyflogau da; y gweision o 3 i
5 punt y mis, a 'r morwynion o 7 i 10 swllt yr wythnos;
y crefftwyr yn ol eu gwaith a 'u medrusrwydd,
4s a 6d i 6s y dydd, a 'u bwyd. Y mae gan yr
Annybynwyr a 'r Bedyddwyr achos yma, ond yn
lled isel, a phregethu Cymraeg.


CINCINNATTI.


Gellir dywedyd yr un peth am y ddinas hon
ag a ddywedwyd am Columbus, ond fod yma lawer
mwy o Gymry yn byw. Yr unig anhawsder y
mae dyeithriaid yn wynebu arno wrth ddyfod i le
fel hyn, ydyw, i gael gwaith a chartref i ddechreu;
ac ar ol cael lle, a dangos eu hunain yn deilwng a
ffyddlon, nid rhaid ofni mwy. Mae y gweithydd
mawrion sydd yn y ddinas hon yn rhoddi cyfleusderau
i bob celfyddydwyr, a chyflogau uchel, yn ol
y gwaith, sef o 6 i 8 swllt y dydd; cant ymborth a
llety am o 10 i 16s. yr wythnos. Adeiladant yma
agerdd-fadau, a thai helaeth; adeiliadwyd yma
400 o dai pridd-feini y flwyddyn ddiweddaf, ac y
mae y ddinas ar gynydd yn barhaus. Y mae yma
addoldai perthynol i 'r Cymry. Y mae rhai o 'r
ieuenctyd, sef crefftwyr, ar ol cynnhilo ychydig o
arian, yn prynu tiroedd â hwynt mewn gwlad
newydd, ac yn myned iddynt i fyw; ereill a 'u
gosodant, ac a ddilynant eu galwedigaeth yn y
ddinas. Y mae yn Newport a Corington, yn
Kentucky, yr ochr arall i Ohio, weithydd haiarn,
a llawer o Gymry yn byw yno.


[td. 26]


OWL CREEK.


Enw afon yn Swydd Knox, 36 o filldiroedd
o Columbus, lle y mae amrywiol o deuluoedd
Cymreig yn byw. Y mae yr amaethwyr yma yn
gwneyd yn dda; y tir yn lled isel, ac yn dwyn ŷd
a gwair lawer; a marchnad dda i gynnyrch y tir.
Y mae yma achos gan y Bedyddwyr, a 110 o
aelodau, a chapel helaeth; y Parch. John Thomas
yw eu gweinidog, yr hwn sydd yn pregethu yn
Gymraeg a Saesonaeg. Mae y tir wedi codi yn
ei bris yn ddiweddar; ac ychydig o dir coediog
sydd i 'w gael yma.


PALMYRA.


Plwyf yn Swydd Portage, 40 milldir o Lyn
Erie, a 22 o gamlas Ohio. Ni ddechreuodd y
Cymry yma yn yr anialwch, ond prynasant eu tir
ar ail law, ni roddasant y pryd hyny ond o 1 i 3
punt yr Acr amdano; ond yn awr y mae yn werth
o 3 i 8 punt. Y Cymro cyntaf a ddaeth yma oedd
John Davies, yn 1829. Nid yw ansawdd y tir
yma cystal a llawer o 'r sefydliadau ereill, ond ei
agosrwydd at y camlas a Llyn Erie, sydd yn ei
wneyd yn fanteisiol iawn. Y mae gan y gwahanol
enwadau crefyddol Cymreig, addoldai ac eglwysi
yma, a 'u hachos ar gynydd.


GALIA A JACKSON.


Yn y Swyddi yma y mae llawer o Gymry wedi
sefydlu yn ddiweddar, sef o 20 i 30 o filldiroedd
o Ohio; y mae y tir yn hynod o doredig a chleiog.
Dyma y wlad a 'r tir salaf a ddewisodd y Cymry
yn Ohio. Daeth yma ganoedd o Swydd Aberteifi
yn y blynyddau diweddaf; ond gwell o lawer a

[td. 27]
fuasai iddynt fyned 1,000 o filldiroedd yn mhellach,
i ddyffryn Mississipi, i gael tir o werth i 'w
arlwyso. Y mae yma ddigonedd o gerig a glo yn
y bryniau; ond tylawd am ŷd a phorfa. Er nad
yw y wlad yn wastad a brâs, y mae yn lle hynod
o iachus, a 'r trigolion yn cael bywioliaeth gysurus[.]


PUTNAM A VANWERT.


“Saith mlynedd yn ol Indiaid oedd yn meddianu
ag yn gwladychu yn y siroedd yma, yn y gongl
Ogledd-Orllewinol o 'r dalaeth. Gwerthodd yr
Indiaid y tir i 'r llywodraeth, a 'r llywodraeth ar ol
ei fesur, yn ei werthu i bwy bynag a ewyllysio ei
brynu am 6 swllt a 9 ceiniog yr acr. Yn bresenol
hawdd cael tyddynod wedi dechreu ei agoryd—tŷ
wedi ei godi ag o 10 i 30 acr wedi ei arlwyso am o
2 i 4 punt yr acr, mae tyddynod yn cynnwys o
80 i 320 neu 640 acr yn gyffredin er fod rhai
Cymry wedi prynu o 800 i 1600 o acre. Y mae yn
gorwedd ar Afon y Maumee, yr hon sydd yn rhedeg
i ben Gogleddol y Llyn Erie; y mae camlas yn
cael ei gwneyd trwyddi, o ddinas Cincinnatti i
Lyn Erie; ac y mae y wlad yn goediog, a 'r tir yn
frâs, a 'r gwastadedd braidd yn wlyb. Yn 1834,
daeth amrywiol o Deuluoedd Cymreig o sefydliad
Paddy's Run, i ddechreu yma yn y coed; ac ar
ol dyoddef [~ dioddef ] ychydig o galedi, a llawer o lafur, y
mae ganddynt yn awr ffermydd agored, a digon
o bob peth at eu gwasanaeth er eu cysur. Y mae
yma yn bresenol o 40 i 50 o deuluoedd Cymreig,
a llawer yn dyfod yn barhaus. Y mae y tir yn codi,
ac nid llawer o dir y llywodraeth sydd i 'w gael, ond
y mae yma wlad o dir da, a gellir ei brynu ar yr
ail law heb wneuthur dim iddo, neu ac ychydig o

[td. 28]
agoriad arno am o 15 swllt i 2 bunt yr acr. Mae
yma gyfleusderau da i brynu tir i 'w adael i godi
pris, neu i fyned i fyw arno. Nid oes treth ar
dir y llywodraeth am bum mlynedd, felly, nid
oes traul wrth adael y tir i sefyll; ac fe fydd yn
sicr o ddyblu ei werth yn yr amser. Gan fod y
tir mor isel, a 'r camlesydd mor gyfleus, y mae yn
debygol y bydd yma yn fuan fwy o Gymry nac
un dalaeth arall yn Ohio. Y mae yma beth o dir y
llywodraeth eto heb ei werthu; ond nid yw o 'r
radd oreu. Y mae yn hawdd cael tyddynod a
pheth diwygiad arnynt; ac os gall dyeithriaid eu
cael, dyma y rhai goreu iddynt i 'w prynu. Y mae
yma lawer o bobl grefyddol, ond gan fod y wlad
mor newydd, nid oes eglwysi wedi eu ffurfio eto,
nac addoldai wedi eu cyfodi; y mae gan yr Annybynwyr
bregethwr yma, ac y maent yn paratoi i
sefydlu achos.


UTICA.


Yn y ddinas hon, yn cynnwys 11,000 o drigolion,
y mae lluoedd o Gymry yn byw, a golwg
gysurus a llwyddianus arnynt, yn gymeradwy fel
cenedl, ac yn ddiwyd a defnyddiol yn eu galwedigaethau.
Y mae y cyfryw ag sydd yn y ddinas yn
fasnachwyr, celfyddydwyr, ac mewn gwasanaeth;
ond yn y wlad oddiamgylch, y maent yn amaethwyr,
yn trin y tir, ac yn cadw gwartheg. Y mae
y ddinas hon ar wastadedd ar lan Afon Mohawk,
mewn dyffryn yr hwn sy 'n dir da; ond yn mhell
oddiwrth yr afon, y mae y wlad yn doredig, heb
fod yn gwbl mor ffrwythlon, ond yn well am weirgloddiau
a phorfaoedd nag am ŷd. Dechreuodd y
Cymry sefydlu yma yn 1800. Yr Annybynwyr

[td. 29]
Cymreig a agorodd yr addoldy cyntaf yn y ddinas
hon, sef yn y flwyddyn 1802; er nad oeddynt ond
13 mewn rhifedi y pryd hwnw, y mae ganddynt
yn awr gapel o bridd-feini hardd a helaeth, a 250
o aelodau, dan weinidogaeth y Parch. J. Griffiths.
Y mae yma achos gan y Bedyddwyr, wedi dechreu
yn 1803, a chanddynt gynnulleidfa luosog, ac ar
gynydd. Y mae yma gan y Trefnyddion Calfinaidd
gapel o bridd-feini, a llawer o wrandawyr, a 'r
achos yn cael ei gynal yn ffyddlon ganddynt. Y
mae gan yr enwadau uchod ysgolion, a phregethu
Cymraeg pob Saboth. Hyfrydwch mawr oedd
genyf weled fy nghydwladwyr, mewn gwlad bellenig,
yn mwynhau y fath freintiau crefyddol a
thymhorol. Y mae y tymhor haf yn gysurus
iawn yma, ond y Gauaf yn oer a maith—bydd eira
ar y ddaear am bedwar mis. Mae y tir yn ddrud,
ac yn anhawdd i 'w gael; y mae yma well lle i
gelfyddydwyr a gwasanaethwyr, nac i 'r amaethwyr.
Y mae yma alwad mawr am gelfyddydwyr a gwasanaethwyr;
y mae cyflogau y celfyddydwyr yn
4s a 6c y dydd, a 'u bwyd; gwasanaeth-ddynion o
3s i 4s; morwynion o 6s i 10s yn yr wythnos.
Y mae y dillad yn llawer drutach yma nag yn
Nghymru.


DEERFIELD.


Enw plwyf, ychydig i 'r Gogledd o Utica, lle y
mae llawer o Gymry yn trigianu, a 'r rhan fwyaf
ohonynt yn meddianu tir, ac yn gwneuthur caws,
ymenyn, &c., ac yn cael bywioliaeth gysurus.
Y mae y wlad yn doredig, a 'r tir yn ganolig o dda,
ac wedi ei phoblogi yn aml. Ychydig o dir
coediog sydd yma, ond a berthyn i 'r tyddynod sydd

[td. 30]
wedi eu harllwyso. Y mae gan y gwahanol enwadau
crefyddol gapeli, a phregethu yn Saesoneg.
Y Parch. J. Griffiths, Utica, yw gweinidog yr
Annybynwyr yn y lle hwn; a rhifedi yr aelodau
yw 50 neu 60; eu capel sydd o goed.


FFLOYD.


Plwyf, sydd 12 milldir o Utica, lle y mae
llawer o Gymry yn byw. Amaethwyr ydynt yn
gyffredin, yn ddiwyd ac ymdrechgar yn y pethau a
berthynant i 'r bywyd hwn, a 'r hwn a fydd. Mae
yma ddau gapel Cymraeg, un gan y Trefnyddion
Calfinaidd, a 'r llall gan yr Annybynwyr. Bethesda
yw enw capel yr Annybynwyr: yr Aelodau sydd o
40 i 50, dan weinidogaeth y Parch. Hugh Lewis.


STEUBEN.


Enw plwyf sydd 20 milldir i 'r Gogledd o Utica,
lle na welir ond epil Gomer yn ei boblogi yn
gyffredin. Pan mewn cymanfa yma, wrth edrych
ar y dyrfa luosog a siriol oedd yn gwrandaw, eu
gwynebau gwrid-coch iachus, a 'r bryniau gwyrddleision
oddiamgylch, meddyliais fy mod wedi
cyrhaedd gwlad Gwalia. Y mae yr amaethwyr,
yn gyffredin, yn byw ar eu tiroedd eu hunain.
Nid ydynt yn codi llawer o ŷd, ond gweirgloddiau
a phorfäu yw eu tiroedd yn gyffredin. Y mae
caws ac ymenyn yr ardaloedd hyn yn uchel eu
clod yn mhell ac yn agos. Y maent yn cadw yr
ymenyn mewn tybiau o 100 i 120 pwys yr un, ac
yn ei werthu yn yr Hydref, yn Utica, am o 9c. i
swllt y pwys; oddiyno anfonant ef ar y gamlas i
New York. Y mae yr amaethwyr yn cadw o 10
i 40 o wartheg godro, yn ol helaethrwydd eu

[td. 31]
tyddynod. Y cŵn sydd yn corddi y llaeth â 'r
peiriant, (machine;) y mae hyn i 'w gael yn mhob
tŷ, ac yn arbed llawer o lafur i 'r merched; nid
yw yn costio ond ychydig, sef o ddwy i dair punt.
Y mae y teuluoedd sydd yn y wlad er's blynyddoedd,
wedi llwyddo yn fawr yn y byd—hwy a 'i
plant yn meddianu tir, ac yn byw yn y mwynhad
o bob bendith angenrheidiol i wneyd bywyd yn
ddymunol. Y mae plwyf arall, a elwir Remsen,
i 'r Dwyrain oddiyma, wedi ei boblogi gan y Cymry,
ac yn debyg o ran gwlad a manteision i Steuben.
Y peth mwyaf annghysurus yn y gymydogaeth
hon yw y tywydd oer a 'r eira mawr yn y Gauaf,
yr hwn sydd yn parhau o bedwar i bum mis. Y
mae y wlad hon yn iachach na 'r sefydliadau
Cymreig yn Ohio: nid yw y tir mor ffrwythlon,
a thymorau y flwyddyn mor gysurus. Yn Ohio,
ychydig sydd yn rhwymo eu gwartheg yn y
Gauaf; ond yma y maent yn gofalu am eu
hanifeiliaid megys yn Nghymru. Y mae yma
ddigonedd o waith i 'w gael yn yr Haf, ond nid
cymaint yn y Gauaf. Y mae gwasanaeth-ddynion
yn cael o ugain i ddeg punt ar hugain yn y flwyddyn,
a 'r merched o ddeg i bymtheg punt. Y mae
y tir yn anhawdd iawn i 'w gael yma: y mae y
tyddynod wedi eu harllwyso, ac adeiliadau
da arnynt, o wyth i ddeuddeg punt yr Acr. Y
mae adeiliadau da i 'w gweled ar bob tyddyn,
a chyfleusderau da i wneyd melinau, &c.; a marchnadoedd
yn gyfleus iawn. Y mae crefydd a
dirwest yn llwyddo yn yr ardaloedd hyn. Y mae
gan yr Annybynwyr ddau o gapeli helaeth; yn un
ohonynt y mae 220 o aelodau, ac yn y llall 50,
o dan weinidogaeth y Parch. R. Everett. Hefyd,

[td. 32]
yn Remsen, y mae ganddynt ddau o gapeli, ac yn
un ohonynt 150 o aelodau, dan weinidogaeth
y Parch. Morris Roberts. Yn y flwyddyn
ddiweddaf, bu diwygiad mawr a grymus yn mhlith
yr Annybynwyr, ac y mae y gwaith yn llwyddo yn
barhaus. Y mae ganddynt ysgoldai, a manau
ereill i bregethu, heblaw a enwyd uchod. Y mae
yr Ysgol Sabbothol, a 'r Cymdeithasau Crefyddol,
Cartrefol a Thramor, yn derbyn eu cynnorthwy.
Y mae yma lawer o Fedyddwyr yn yr ardaloedd
hyn; y mae ganddynt bedwar o addoldai, sef,
Bethesda, yn yr hwn y mae 110 o aelodau—Capel
y Bont 46—y ddau o dan weinidogaeth y Parch.
Jesse Jones—Bethel, yn Remsen, 50 o aelodau,
o dan weinidogaeth y Parch. David Michael—
Capel South Trenton, o dan weinidogaeth y Parch.
J. Richards. Methais gael gwybod rhifedi aelodau
a phregethwyr y Trefnyddion Calfinaidd; y mae
ganddynt bump o addoldai yn y gwahanol gymydogaethau
Cymreig. Mae gan y Wesleyaid un
capel ac agos 100 o aelodau; y Parch. J. Jones
sydd yn gweinidogaethu arnynt. Y mae yma bob
cyfleusderau crefyddol, ac ysgolion da i blant, yn
y sefydliadau hyn. Er nad ydyw y tir mor wastad
a brâs ag yn Ohio, y mae golwg byw yn gysurus
ar y miloedd o drigolion Cymreig sydd yn cartrefu
yn y wlad hon.


DINAS NEW YORK.


Y mae yma lawer iawn o Gymry yn byw; ond
nid cymaint o deuluoedd ag sydd o bobl ieuainc.
Y mae llaweroedd wedi gorfod aros yn y ddinas
hon o herwydd prinder arian i fyned yn mhellach;
ond ar ol iddynt ddyfod mewn gallu, y maent yn

[td. 33]
ymsymud yn mhellach i 'r Gorllewin: gweithwyr,
celfyddydwyr, a masnachwyr, yw y cyffredin o
honynt; ac y mae y rhai sydd yn llafurus, ymdrechgar,
a sobr, a golwg gwych arnynt, a
digonedd o waith, a chyflogau da. Y mae yma
beth anhawsdra i ddyeithriaid i gael gwaith
ar y cyntaf, ond ar ol iddynt ddechreu, a
dyfod yn gymeradwy, nid rhaid iddynt ofni. Y
mae yma gapel helaeth, a chynulleidfa luosog,
gan yr Annybynwyr, dan weinidogaeth y Parch.
J. S. Jones. Hefyd y mae yma addoldai Cymreig
gan y Bedyddwyr a 'r Trefnyddion Calfinaidd.
Yn gyffredin, os bydd modd, gwell i 'r dyeithriaid
fyned ymlaen i 'r wlad nag aros yn y dinasoedd
ar lan y môr, yn neillduol bawb ag sydd a theuluoedd
 ganddynt.


PITTSBURG.


Gelwir y ddinas hon yn gyffredin Birmingham.
Y mae yn y ddinas yma a 'i hamgylchoedd, amryw
filoedd o Gymry, a 'r rhan fwyaf ohonynt yn dyfod
o ddeheudir Cymru. Gweithfeydd glo, a haiarn, a
gwydr, sydd yma yn fwyaf neillduol. Y mae
golwg gwneuthur yn dda ar y rhan fwyaf o 'n cydwladwyr,
er fod meddwdod yn llwyr ddyfetha [~ ddifetha ]
llawer yma fel yn Mrydain. Y mae yma gynnulleidfa
luosog, ac achos blodeuog, gan yr Annybynwyr,
dan weinidogaeth y Parch. Thomas
Edwards. Hefyd, y mae yma eglwysi Cymreig
gan y Bedyddwyr a 'r Trefnyddion Calfinaidd.


EBENSBURG.


Y mae uchelderau mynyddoedd Allegany yn
breswylfod i lawer o Gymry[.] Dechreuwyd y

[td. 34]
sefydliad hwn yn 1796, a chan fod y tir yn lled
dylawd a 'r wlad yn fynyddig, nid oes yma fawr
o gynydd. Y mae yn debyg iawn i Gymru,
ond ei bod yn fwy coediog, yn iachus a hyfryd yn
yr Haf. Nid ydynt yn codi llawer o lafur, ond
yn cadw gwartheg a gwneyd enllyn. Y mae
gan yr Annybynwyr achos Cymreig yma, ac
addoldai yn y dref a 'r wlad, dan weinidogaeth y
Parch. W. Williams. Yma bu y Parch. George
Roberts yn ffyddlon lafurio am hir o flynyddoedd,
ne's i 'w hen ddyddiau, i raddau ei anghymwyso
i 'r gwaith; ac y mae yn gorphen ei fywyd defnyddiol
yn barchus yn ngolwg byd ac eglwys; a
gobeithio y bydd i haul ei fywyd fyned i lawr yn
ddi-boen, i wawrio am byth yn ardaloedd anfarwoldeb.
Y mae gan y Bedyddwyr achos a gweinidog
yma, er fod rhai ohonynt wedi troi yn ddilynwyr
i Alexander Campell.


POTTSVILLE.


Y mae Pottsville yn y rhan Ddwyreiniol o
dalaeth Pensylvania. Y mae yma, ac yn Minersville,
a Corbendale, lawer o weithfeydd glo a
haiarn. Nid oes yma amaethwyr, ond gweithwyr
ydynt, a 'r rhan fwyaf ohonynt yn dyfod o Ddeheudir
Cymru. Y mae gan y Cymry dri o addoldai,
a gweinidogion ymdrechgar perthynol iddynt.
Y mae y Parch. Evan B. Evans, yn llafurio yn
dderbyniol a llwyddiannus yn mhlith yr Annybynwyr.


Nid hawdd gwybod cryfder y gwahanol enwadau
crefyddol yn yr Unol Daleithiau, ond, mor agos
ag y gallwn ddyall [~ ddeall ], eu bod yn debyg fel y canlyn:—

[td. 35]

Annybynwyr 16 o Eglwysi 15 o Weinidogion.
Bedyddwyr 13 --------- 9
Trefn. Calfinaidd 12 --------- 10
Wesleyaid 3 --------- 3
Eglwys Loegr 2 --------- 1

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section