Adran o’r blaen
Previous section



[td. 12]


PENNOD II.


GOLWG AR DALAETH OHIO.


Y mae yn hysbys i 'r rhan fwyaf o 'r Cymry fod
llawer o 'u cyd-genedl yn trigianu yn y lle hwn.
Y mae Ohio yn un o daleithiau yr Undeb, ac yn
debyg o ran ei hansawdd i 'r taleithiau Gorllewinol
ereill. Y mae yma ddyeithriaid o bob gwlad yn
dyfod yn barhaus. Nid hawdd penderfynu ystyr
y gair Ohio; enw ydyw sydd wedi ei roddi i 'r
afon a 'r dyffryn hyfrydaf yn y Gorllewin. Dywedir
fod Ohio yn arwyddo gwaedlyd, a 'i fod wedi ei
briodoli i 'r afon, o herwydd y tywallt gwaed a 'r
ymladdfeydd dychrynllyd a fu ar ei glanau gan
yr Indiaid. Ereill a ddywedant mai oddiwrth
arferiad yr Indiaid o waeddi “O-hi-o” wrth rwyfo
eu badau.

Y mae talaeth Ohio yn gorwedd rhwng lledred
33° 30' a 42° 15' Gogleddol, ac hydred 80° a 40' a
85° Gorllewinol o Lundain. Y mae y dalaeth
hon yn 220 milldir o hyd, a 200 o led, ac yn cynnwys
26,000,000 o Acrau o dir; wedi eu rhanu yn
75 o swyddi, a 'r swyddi yn blwyfydd. Yn 1790,
nid oedd yn y dalaeth hon ond 700 o drigolion,
heblaw yr Indiaid. Cynnyddodd y boblogaeth,
yn y 50 mlynedd diweddaf, i rifedi, bron, yn annghredadwy.
Eu rhifedi yn bressennol yw 1,500,000
o bobl wynion, 1,500 o Indiaid, ac o 15,000
i 20,000 o Negroes rhyddion. Y mae Ohio yw
llywodraeth rydd, ac yn gymysgfa o drigolion yr
hen daleithiau, a 'r gwahanol wledydd Ewropa.
Saesonaeg yw iaith gyffredin y wlad, er fod llawer
o ieithoedd ereill yn cael eu harferyd. Y mae
y dyeithriaid yn arferyd iaith y Saeson, eu dull o

[td. 13]
fyw, a thrin y tir, ac yn syrthio i drefn y wlad; yn
mwynhau rhyddid gwladol a chrefyddol; a mawr
a gwerthfawr yw eu breintiau.

Haner can mlynedd yn ol, Indiaid ac anifeiliaid
gwylltion oedd yn meddianu y dyffrynoedd Ohio,
ac adsain eu bloeddiadau rhyfelgar, yn nghyda [~ ynghyd â ]
drwg-nadau bwystfilod rheibus yn unig oedd yn
tori distawrwydd nattur. Ond nid felly yn awr;
y gwylltfilod wedi eu difa, a 'r Indiaid wedi eu
gwareiddio, neu gilio yn mhellach i 'r anialwch. Y
mae yma wlad helaeth a ffrwythlawn, yn drigle i
1,500,000 o drigolion rhydd, moesol, a chysurus.
Barna dynion deallus, cyfarwydd âg ansawdd y
wlad, pe byddai yr holl dir sydd yn addas i 'w
lafurio, wedi ei arllwyso a 'i drin fel tiroedd Ewrop,
y byddai ei gynyrchiad yn ddigonol chwe gwaith
i 'w thrigolion presenol; a gellir dywedyd yr un
peth am yr holl daleithiau Gorllewinol. Diogi a
meddwdod yn unig sydd yn achosi tylodi mewn
gwlad mor helaeth a ffrwythlawn a hon. Y mae
y rhan Ddeheuhol [~ Ddeheuol ] o 'r dalaeth yn gyffredin yn dir
toredig; a 'r Gogledd yn wastadedd, ac yn lled laith,
heb nemawr ohono yn rhy uchel i 'w aredig, neu
yn rhy wlyb i 'w weirgloddi. Y mae coed yn tyfu
yn naturiol ar y tir, (ond y Plains,) ac o wahanol
rywogaethau, sef, derw, cyll ffrengig, ŷn [~ ynn ], llwyfenau,
cherry, hicory, ffawydd, poplars, &c., y rhai sydd
o 40 i 50 troedfedd yn unionsyth at y canghenau.
Weithiau nid oes dim llawer o fân-goediach i 'w
gweled; a thro arall prin y gellir marchogaeth yn
rhwydd drwyddynt. Y mae rhai o 'r derw yn 15
troedfedd o gwmpas, ac yn 100 o uchder: yn hyn
y maent yn rhagori ar goed y wlad hon, ond nid
cystal eu parhad. Coed yw tanwydd cyffredin

[td. 14]
y wlad, er fod digonedd o lo ar lan afon Ohio.
Mae y tir, wrth osod treth arno, yn cael ei ranu
yn dair gradd, fel y canlyn:—Y gyntaf yn cynnwys
y tir brasaf, yr hwn sydd yn y dyffrynoedd, ac ar
geulanau yr afonydd, yn bridd du, rhydd, a bras.
Gwelais feusydd [~ feysydd ] ohono wedi eu llafurio am 40
mlynedd heb wrtaith na gorphwysiad, a chystal
golwg am gnwd eleni ag a welwyd erioed. Y mae
yn hawdd adnabod tir da wrth y coed a fyddo yn
tyfu arno; nid wrth eu maintioli neu eu rhifedi,
ond wrth eu rhywogaeth; o herwydd wrthynt hwy
y bernir brasder a ffrwythlonder y tir Indian Corn
sydd yn ateb oreu yn y dyffrynoedd, yr hwn sydd
yn dwyn o 80 i 100 bwsiel yr Acr. Yr ail radd:
Y mae tir o 'r ail radd yn fwy cyffredin na 'r gyntaf,
yn bridd tywyll, rhydd, ac yn lled fras, yn dwyn
gwenith, haidd, ceirch, clover, &c., ac yn addas
i 'r Indian Corn, ac yn rhoddi o 40 i 60 bwsiel yr
Acr. Y drydedd radd: Gosodir y tir bryniog
yn y drydedd radd, ac yn werthfawr am y coed
sydd arno: weithiau am y glo, haiarn, cerig, &c.
yr hwn sydd addas i fod yn dir gwair a phorfa,
ac i ddwyn gwenith rhagorol; ac un peth arall, y
mae yn well am ffynhonau ac iechyd na 'r gwastadedd.
Os na bydd ffynon i 'w chael, ceir dwfr yn
mhob man ond tori pydew o 10 i 50 troedfedd o
ddyfnder. Felly, gwelwn fod mantais ac anfantais
yn berthynol i bob gradd; cymysgedd o 'r graddau
yw y goreu os gellir ei gael: dyffryn a bryn sydd
yn gwneyd tyddyn yn gyfleus a gwerthfawr, yn
hawdd ei drin, ac yn hir ei barhad. Ni welais
erioed galchu tir yn Ohio; ond y mae gwrtaith
yn llesol i hen dir, a 'r ail a 'r drydedd radd.
Ar lenydd Afonydd Meeskingum a 'r Ohio, hyd at

[td. 15]
Portsmouth, y mae digonedd o lo, haiarn, halen,
a cherig nâdd, yn nghrombil y ddaear, ac yn
hawdd eu cael. Y mae cerig calch yma a thraw
dros yr holl dalaeth. Nid llawer o weithio sydd
eto gyda 'r glo, haiarn, a 'r halen. Rhwng y gwlân
a 'r llîn, cynnyrch y maes, a 'r ardd, gwneyd sebon[,]
siwgr, a chanhwyllau, nid rhaid i 'r amaethydd ymdrechgar
a 'i deulu ofni, trwy fendith Duw, am
ddigonedd o ymborth a gwisgoedd addas. Y mae
yn Ohio lawer o afonydd yn rhoddi cyfleusderau
i wneyd melinau, factories gwlân a chottwm, a
gweithydd ereill. Ychydig o 'r afonydd hyn sydd
yn fordwyol i agerdd-fadau, er fod llawer o rafts a
badau eraill yn dyfod i lawr ar lifeiriant. Y mae
afon Ohio yn golchi glanau y dalaeth am 450 o
filldiroedd, ac yn nofiadwy i 'r badau mwyaf; braidd
y mae awr yn y dydd nad oes rhai ohonynt yn
rhwygo trwyddi; a syndod y fasnach sydd ar
hyd-ddi. Y mae 150 o filldiroedd o Lyn Erie,
yn gorwedd ar ei ffin Gogleddol, a llawer o borthladdoedd
ar ei lan. Y mae yn Ohio lawer o
gamlasau a ffyrdd haiarn, wedi eu gorphen, ac ar
waith. Y mae camlas yn 334 milldir o hyd, sef
o Cleaveland, ar lan Llyn Erie, trwy ganol y
dalaeth, i Portsmouth, ar lan afon Ohio; ac un
arall o Cincinnatti ar hyd dyffryn Miami, i ben
Gogleddol y Llyn Erie, ac Afon Maumee, 190 o
filldiroedd; mae y gamlas yma yn myned trwy y
wlad newydd, lle mae y Cymry yn sefydlu, sef
Putnam a Vanwert, yr hon, pan ei gorphenir, a fydd
yn gyfleustra nid bychan i 'r holl wlad. Mae yr
anifeiliaid gwylltion wedi darfod neu gilio draw,
ac nid rhaid ofni nadroedd na bwystfilod rheibus.
Y mae yno geffylau, gwartheg, defaid, moch,

[td. 16]
gwyddau, hwyaid, a ieir, megys yn y wlad hon.
Gan fod y wlad mor wastad, hawdd yw gwneyd
camlasan a ffyrdd trwyddi; fel y mae trigolion
yn cynyddu, y maent yn myned yn mlaen. Y mae
ansawdd yr hin a 'r climate yn wahanol i 'r wlad
hon; gwres yr Haf, ac oerfel y Gauaf yn fwy;
yr Haf yn hwy, a 'r gauaf yn fyrach nag yma.
Y cynhauaf yn Mehefin a Gorphenaf; y tywydd
sych sydd weithiau am ddau fis heb fawr o wlaw.
Y Gauaf yn sych a rhewllyd, heb ond ychydig o
eira: nid oes bron neb yn rhwymo eu gwartheg,
ond yn eu porthi allan y maent.

Yn mhob gwlad y mae dynoliaeth yn agored i
ddamweiniau, clefydau, a marwolaethau, ac yn
fynych yn eu cyfarfod mewn gwlad ddyeithr, a
hyny o herwydd cam-arferiad ac anwybodaeth.
Yr oedd Ohio yn llawer mwy afiachus ychydig o
flynyddau yn ol nac ydyw yn bresenol; eto, nid
ydyw mor iachus a 'r hen Gymru fynyddig. Y
mae y dyeithriaid yn fwy agored i 'r afiechyd na 'r
gwladyddion genedigol; felly y mae yn ofynol
iddynt fod yn hynod o ofalus am eu hiechyd, trwy
beidio yfed gormod o ddwfr oer ar amser cynes,
pan yn chwys; arferyd a gwisgo dillad ysgafn y
yr Haf, a chynes yn y Gauaf; i beidio eistedd na
gorwedd ar y ddaear, a bod heb ddillad addas
hwyr a boreu yn y tywydd cynes. Y clefydau
mwyaf cyffredin ydynt, y cryd, y billious, a 'r intermitting
fever
, plurisy, rhumatism, a 'r darfodedigaeth.
Mewn afiechyd, y mae y cymydogion yn
hynod o gymwynasgar a ffyddlon, a meddygon yn
hawdd eu cael; a phan ddygwyddo [~ ddigwyddo ] marwolaeth, y
mae yr un cydymdeimlad a 'r caredigrwydd yn cael
ei ddangos. Bydd y marw yn cael ei gladdu yr ail

[td. 17]
dydd; ac yn ei ddilyn i 'r dystaw [~ distaw ] fedd, dyrfa ar
draed, ar geffylau, ac mewn cerbydau, gyda phob
symlrwydd a pharch; a gwasanaeth crefyddol,
addas i 'r amgylchiad, yn cael ei gyflawni: nid oes
ond ychydig o alar-wisgoedd i 'w gweled yma. Y
mae cyfreithiau hynod o dda yma mewn perthynas
i eiddo y trancedig—cyfiawnder i bawn yn ol
deddf natur a rheswm. Os bydd ewyllys wedi
cael ei gwneyd, hono fydd yn sefyll; os heb yr un,
y weddw fydd yn cael, dros ei hoes, y drydedd ran,
a 'r ddwy ran arall yn cael eu rhanu yn gyfartal
rhwng y plant, pan ddelo yr ieuengaf i gyrhaedd
oedran gwr. Y mae priodasau yn cael eu gweinyddu
gan bregethwyr yr efengyl, neu Ynad heddwch,
yn nhŷ y ferch ieuanc, heb wahaniaeth amser,
hwyr neu foreu. Nid yw yn arferiad cyffredin
gan rieni roddi llawer o feddiannau i 'w plant wrth
ddechreu eu byd; rhoddant ychydig iddynt i gychwyn,
ac wedi hyny cant ymdrechu drostynt eu
hunain. Y mae hyn yn fendith fawr i bobl ieuainc,
ac yn unol â nattur y wladwriaeth, ac egwyddorion
ymdrechgar yr Americaniaid, sef dysgu
iddynt ymddybynu [~ ymddibynnu ] arnynt eu hunain, ac nid i
ddisgwyl wrth ereill, ond iawn ddefnyddio eu
meddianau trwy wybod eu gwerth.

Oddiwrth natur y llywodraeth, nid oes ond trethi
ysgafn. Ychydig sydd yn ofynol at draul y wladwriaeth;
ond at wneuthur camlesau [~ camlasau ] a ffyrdd y mae
y rhan fwyaf o 'r trethi yn cael eu gosod, yr hyn oll
sydd er lleshad y cyffredin. Nid oedd cyflog ein
[l]lywodraethwyr, a thraul y llywodraeth, y flwyddyn
ddiweddaf, ond £35,000, yr hyn oedd yn cael
eu casglu oddiwrth 1,500,000 o drigolion[.] Y
mae pawb yn talu treth yn ol eu meddianau; yr

[td. 18]
amaethwr sydd ganddo 300 o Acrau o dir, a 'r stock
yn gyflawn, ni bydd arno ond £5, ac ychydig o
ddyddiau o waith ar y ffordd fawr. Y mae hefyd
ychydig o dreth, yn ol yr eiddo, at ysgolion; yn
hyn y mae y cyfoethog yn cynnorthwyo y tylawd,
i roddi dysg i 'w blant. Os bydd arian gan un ar y
llôg, rhaid talu punt y cant o dreth; ond ceir o 6
i 12 punt y cant yn hawdd am arian ar dir, neu
feichniaeth [~ fechnïaeth ] diogel. Am dreth y tylodion, anaml
yn Ohio y clywir sôn amdani; ond am y degwm
ni chrybwyllir amdano ond mewn diolchgarwch
nad oes y fath orthrymwr yn ein plith. Y mae
plwyfydd yn mhob swydd, ac addas ymgeledd i 'r
tylawd: ond anfynych y mae achos am hyn. Y
mae yma le, trwy gael iechyd, a byw yn sobr a
diwyd, fel y gall pawb gael eu digonedd o bob
peth angenrheidiol, heb ofyn dim i blwyf.


LLYWODRAETH.


Yn Ohio y mae cyfreithiau taleithiol yn cael eu
gwneyd gan 36 o Seneddwyr, a 75 o Gynnrychiolwyr,
y rhai sy 'n cael eu dewis gan y wladwriaeth.
Y mae y gynghorfa yn eistedd yn flynyddol am
2 neu 3 mis, yn Columbus, a phob aelod yn cael 15
swllt y dydd, ar ei draul ei hun. Nid helaethrwydd
meddianau sydd yn codi dynion i 'r gynghorfa hon,
ond cymhwysderau; nid un gŵr mawr yn pleidio
y llall, ond rhydd ddewisiad pob dinasydd, y
tylawd fel y cyfoethog. Y mae Rhaglaw Ohio yn
cael ei ddewis yr un modd, bob yn ail blwyddyn;
ac nid yw yn cael ond £300 yn flynyddol. Nid
yw holl draul llywodraeth Ohio, er ei maint a 'i
phoblogaeth, yn fwy na thraul ambell fonheddwr
yn y wlad hon: dyma sydd yn achosi fod y trethi

[td. 19]
mor isel. Y mae hawl a chyfleusderau i bawb i
sicrhau eu hiawnderau cyfreithlawn, trwy fod
Ustus heddwch yn mhob plwyf, a llys gwladol yn
chwarterol yn mhob swydd, i brofi troseddwyr, ac i
drefnu pob achos arall. Y mae pob prawf gerbron
y barnwr a 'r rheithwyr, megys yn y wlad hon, ac
eithaf cyfiawnder yn cael ei weinyddu.


YSGOLION.


Mae haelioni y wladwriaeth wedi rhoddi drws
agored o flaen pawb, yn ddiwahaniaeth, i gael dysg
angenrheidiol i 'w gwneyd yn addas ddinasyddion
rhydd lywodraeth, ac i ymdrin â phob masnach
gyffredin. Ar wybodaeth a moesoldeb y werin y
mae colofnau y llywodraeth yn sefyll; os gwna
anwybodaeth ac annuwioldeb deyrnasu, fe ddaw
terfysg ac annhrefn, yn lle heddwch a llwyddiant;
am hyny y mae yr holl wlad yn ymdrechu i roddi
dysg i 'r ieuenctyd; a thra parhao yr ymdrech o
blaid dysg a moesau da, fe saif rhyddid gwladol a
chrefyddol, yn yr Unol Daleithiau, yn gadarn a
diysgog. Y mae yn Ohio 1,280 o blwyfydd, ac
ynddynt yn barod 7,500 o ysgolion dan nawdd y
llywodraeth. Y mae yr arian yn dyfod oddiwrth
y tir, a 'r dreth yn cael ei rhanu yn mhob plwyf,
yn ol rhifedi y plant: yn ein plwyf ni, y mae naw
o ysgoldai, a 756 o ieuenctyd rhwng 4 ac 20 oed,
ac ysgol yn mhob un ohonynt y rhan fwyaf o 'r
flwyddyn; y mae athrawon da, dysgedig, a diwyd
yn cael o 4 i 6 phunt y mis; athrawesau addas, o
3 i 4 bunt y mis, ar eu traul eu hunain. Y mae
yn Ohio lawer o athrofau, i feibion a merched i
gael helaethach dysg nag yn yr ysgolion cyffredin;
heblaw amryw o golegau gan y gwahanol bleidiau

[td. 20]
crefyddol; a dwy brif athrofa dan awdurdod y
llywodraeth. Yn yr ysgolion yma y mae lle i
bawb, os bydd ganddynt arian at y draul, sef o 30
i 50 punt yn y flwyddyn; ac ar ol iddynt fod yno
4 blynedd, maent yn cael y gradd A. B.; ac ar
ol bod 7 mlynedd, cant y gradd A. M. Barnaf
fod yn yr athrofeydd hyn yn bresenol o 800 i 1,000
o fyfyrwyr, a 'u rhifedi yn cynnyddu yn barhaus.


CREFYDD.


Ymffrost yr Unol Daleithiau ydyw, fod
crefydd yn llwyddo heb gynnorthwy sefydliadau
gwladol; fod capeli yn cael eu hadeiliadu, a
gweinidogion yn cael eu cynnal, heb dreth eglwys
na degwm, ond rhydd ac ewyllysgar gyfraniadau y
bobl. Yn sicr, nid oes digon o bregethwyr, na
chapeli, i ateb gofyniadau y trigolion; y mae yno
lawer o annuwioldeb yn uchel ei ben; eto, y mae
cynnydd crefydd, undeb a brawdgarwch y gwahanol
enwadau, yn rhoddi lle i ddysgwyl y bydd
têg ddyffrynoedd y Gorllewin cyn hir, megys gardd
yr Arglwydd. Y mae llawer o gyhoeddiadau
crefyddol (yn Saesonaeg) yn cael eu cyhoeddi yn
wythnosol a misol, gair Duw, a llyfrau buddiol,
yn ymledaenu dros yr holl wlad. Y pleidiau
crefyddol mwyaf lluosog yn Ohio, yw y Trefnyddion
Wesleyaidd, Bedyddwyr, Presbyteriaid
Annibynwyr, Eglwys Esgobawl, Dutch Reformed,
Lutheriaid, a 'r Pabyddion; er fod yno lawer o
bleidiau crefyddol ereill, sef y Shaking Quakers,
Campeliaid, Universalists, os teilwng eu galw yn
enwadau crefyddol. Y mae llawer o eglwysi yn
weiniaid, a thrwy hyny dan anfantais i gynnal
gweinidogion; ond os bydd cynnorthwy yn ofynol,

[td. 21]
y mae gan y gwahanol enwadau gymdeithasau at
gynnal gweinidogion ffyddlawn yn y fath eglwysi;
ac yn mhen ychydig flynyddoedd, trwy fendith
Duw, byddant yn alluog i gynal pregethwyr eu
hunain, heb ofyn dim i neb, ac yn eu tro yn
cyfranu at angenrheidiau eglwysi gweiniaid ereill.
Y mae yr Ysgol Sabbothol, Cymdeithas Dirwest,
y Beibl, Traethodau, a 'r Antislavery, yn cael eu
pleidio yn wresog, ac felly yn gwneyd llawer o
ddaioni.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section