Adran o’r blaen
Previous section

Huw Lewys. Perl mewn adfyd neu, Perl ysprydawl, gwyrthfawrocaf ... (Rhydychen: Joseph Barnes ai Printiodd, 1595), 1-101.

Cynnwys
Contents

Pennod cyntaf. 1
Pen. 2. 5
Pen. 3. 12
Pen. 4. 20
Pen. 5. 26
Pen. 6. 32
Pen. 7. 52
Pen. 8. 60
Pen. 9. 65
Pen. 10. 69
Pen. 11. 79
Pen. 12. 85
Pen. 13. 96


[td. 1]


Pennod cyntaf.


Pob trwbleth ag adfyd sydd yn
dyfod oddiwrth dduw


HYnny oll a gyfriaf
yn adfyd, nev flinder,
a 'r y syd' yngwrthwyneb
 ewyllys,
ne ddysyfiad
dyn, megys, aflonyd'
ruthrae y cnawd, profedigaeth
y cythraul, clefyd corfforawl, cymar
cildynnus, anuwiol, mewn priodas,
plant anufuddgar, cymdeithion
annaturiol, neu anniolchgar,
colled o dda, caethiwed o ryw hen
fraint, ne rydid, colliant o enw da,
malais neu anfod' dynion, newyn,
drudaniaeth, nodeu, rhyfel, carchar,
ag angeu: ag yn y rhol honn i henwir
hefyd, bob bath ar adfyd a chledi,
pwy vn bynnag fyd'o, ai perthyn
attom ni ein hunain, ai att ein cyfeillion
a 'n cyfnesafieit, ai cyffredin,
ai anghyffredin, ai dirgel a chuddiedig,

[td. 2]
ai goleu ag eglur, ai rhyglyddus,
ai anrhyglyddus: yn 'r hol' bethau
hynn (meddaf) fe ddyle bob
dyn Christnogaid' ystyried yn gyntaf
y gwreiddin, 'r achos, a 'r dechreuad,
fal hynn: sef, y dylem ni gymryd
a derbyn yn ddioddefgar pa
beth bynac, y mae duw yn i anfon:
erwyd' hynn sy wir, mae düw yw
ein creawdr, a 'n gwneuthurwr, a
ninnau, ym waith i ddwylaw ef; ef
yw ein brenin, ein arglwyd', a 'n tad
ag fal nad yw weddus i 'r crochan, fanson
yn erbyn y chrochenud', felly
mae 'n anweddeiddiach o lawer i
ni, furmur, ne rwgnach yn erbyn ewyllys,
a barnedigaeth ein duw.

Ag er bod gorthrymder ag ing yn
codi, ag yn dyfod yn fynych, drwy
ddrygioni ein gelynion, annogiad y
cythraul, ne drwy ryw fod' aral', etto
ni ddylem ni feddwl i bod yn dyfod
o ddamwain, heb oddefiad, ordeiniad
ag ewyl'ys duw, onid trwy

[td. 3]
i ragwybodaeth, i ragordeiniad, a 'i
bwyntmant ef: ag i ddoedyd 'n gymwys,
yr vn mod' yw, tu ac att am
ein diogelwch pwy vn bynac fyddom
yn byw, ai mewn tlodi, ai mewn cyfoeth,
yn y tan, ai yn y dwfr, ymysc
yn gelynion, ai ymysc yn cyfnesafieit,
canys mae duw 'n gweled, yn
gwybod, yn dosparthu, ag yn llywodraethu
pob peth, mal i tystia llyfr
I. o Samuel: yr Arglwyd' syd' yn
marwhau, ac yn bywhau, ef syd' yn
dwyn i wared i 'r bed', ac ef a ddwg
i fynu, &c.

A Iob hefyd a destiolaetha yn i
drueni, yr arglwyd' a 'i rhoes, yr arglwyd'
a 'i dyg: a Christ i hun a ddyweid,
na ddescyn vn o adar y to, ar
y ddayar, heb ewyllys ych tad, ie,
mae gwallt ych penn y gyfrifedig.


Gan' fod wrth hynny pob trwbleth
a blinfyd yn dyfod oddiwrth dduw
ni a ddylem ddarostwng ac vfud'hau

[td. 4]
ein calonneu a 'n meddylieu, iddaw
ef, gann oddef iddaw ef wneuthyr a
ni, fal i gwelo i sanctawl ewyllys ef
fod yn iawn: pa bryd bynac gann
hynny, y byd' i dowyd' stormus, niweidio
ne lad' yd, a ffrwyth y ddaear,
ne pann i 'n difenwir gann ddrwgddynion,
gann godi gwradwyd', ne
gabl i 'n erbyn, pam y dylem ni rwgnach,
ne furmur yn erbyn yr elfynae [~ elfennau ]
ne geisio ein dial ar ein gelynnion?
erwyd', oni dderchafwn ein meddylie,
ag ystyriaw mae duw syd' yn gosod
i law arnom, ag mae efe syd' i 'n
ceryddu, cyffelib ydym i gwn (eb
ddim gwell) rhain pann i tafler a
cherig, a gnoant y garreg, heb ystyr
pwy sy yn taflu attynt. Ac hefyd ni
ddyle neb fod yn anfoddgar, neu 'n
anwllyscar i aildalu y dalent ne 'r
gwystl, 'rhwn a roddwyd iddaw 'n
vnic er i gadw. Duw sy yn rhoddi
bowyd, iechyd corfforawl, nerth,
gwraig, plant, cymdeithion, cyfoeth

[td. 5]
anrhyded', gallu, awdurdod, heddwch,
esmwythdra, a diogelwch
dros amser, tra ryngo bodd iddo ef:
yr awrhon, os yr vnrhyw ddüw yma,
a ddwg drachefn rai o 'r pethau
hynn, neu 'r cwbl, nid yw ef yn dwyn
dim onid yr eiddaw i hun, a 'r peth
yr ym yn d'ledus iddaw o honaw.
Erwyd' paham, y mae yn bechod anfeidrawl,
dialeddus, furmur yn
erbyn ewyllys duw, neu wrthryfela
yn erbyn i farnedigaethau ef.


Pen. 2.


Pob trwbleth, gorthrymder, ag adfyd,
a ddanfonir arnom ni gann
ddüw, er cospedigaeth am
ein pechodae.


YR awrhon beth yw 'r achos sy
yn peri i ddüw anfon adref hyd
attom, ac ymweled a ni drwy orthrymder,
ing, a gofyd? am y pwnc yma,
ystyr hynn yn dda: pa beth bynac

[td. 6]
a hauddod', neu a ryglyddawd'
dyn, hynny oll a ddyle ef i d'erbyn,
a 'i ddioddef yn llawen, ac yn ewyllyscar:
Holed, ag ecsamnied, pob
dyn i hunan, oni ryglyddawd' ef i
gospi, a 'i geryddu gan dduw, naill
ai am ryw bechod yspysol, yr hwn
a wnaeth ef yn bresennol, ne am bechodau
a wnaeth ef ar amseroed' eraill:
yr awrhon, yr arglwyd' ein
duw ni, ymhob bath ar gosbedigaeth,
ac ymweliad, a ddengys ac a
fanega, drefn, ne ordr i gyfiawnder
a 'i anfeidrawl ddiclloned', a digofaint,
yn erbyn pechod ag anwired':
can's ef a ddyweid yn yr ail gorchymyn,
myfi 'r arglwyd' dy dduw di,
wyf d'uw eid'igus, yr hwn a ymwel
a phechodae y tadau ar y plant hyd
y dryded' a 'r bedwared' genedlaeth
os hwy a 'm casant, &c. Ac yn y pumed
llyfr o Foeses: i rhifir yr oll
ddialeddau ar ol i gilyd', rhain a
dywelltir ar yr anwir, a 'r anuwiol:

[td. 7]
ac yn y trydydd-ar-ddeg o Luc, i
doedir fal hynn, oni wellewch ych
buched' fe a 'ch cyfergollir chwi oll.

Ag fal i galloch weled yn eglurach,
ac megys o flaen ych llygaid,
pa fod' y mae cospedigaeth, a phla,
yn ddyledus am bechodau, mae
duw yn gosod, ac yn rhoddi y cospedigaeth,
yn gyffelyb i 'r pechod, fal i
gallo 'r ddau gydgordio, yn gystal
mewn ffurf a chyfflybrwyd', ac
mewn llun a chyneddf: er ecsampl:
mal ir halogod' Dafyd' wraig Urias
felly ir halogwyd i wraged' ynteu
drachefn: ef a barod' lad', Urias,
ac am hynny y lladdod' i fab ynteu
ei frawd ei hun, ag a godod' gynddryged',
a digased' yn erbyn ei dad,
gann i hel a 'i ymlid allan o 'i deyrnas,
fal na ddichon neb ddatgan yn ddigonol,
y dialed', a 'r trueni, 'rhain, a
fu ar ddafyd', a 'i bobl, am y cwylyddgar
anwired', a 'r ffieidd-dra,
rhain a wnathe ef.


[td. 8]
Yr awron ystyria, a ffwysa, megys
mewn cowir glorian, yr vnionder
yr hwn y mae duw o 'r naill du
yn i erfyn arnom, a hol' gwrs ein buched'
nineu, o 'r tu aral': pe i buase hiliogaeth
dyn, yn vfud'ol i gyfreithie
duw, ac heb yscogi oddiarnynt, e fuasse
yn ollawl yn gwbl ddedwyd',
fendigedig, yn dragowyd': ag ni lygrase,
ag ni wyfase [~ wywasai ] ymaith, fal
ffrwyth, ne lyssieu y meusyd': euthr
ef a yscogod', ag a gwympod' y tro
cyntaf o 'r dechrevad: yn rhieni, a 'n
henafieid cyntaf, a ddifrawasont, ag
a wnaethont yn ddiystyr, o orchmynnion
duw, ac felly nineu trwy
i cwymp hwy, ydym lygredic, a
chlwyfedig, a 'n holl reswm, synnwyr,
a 'n deuall a ddallwyd, a 'n ewyl'ys
a wenwynwyd: i ddym yn clywed,
ag yn cael ynom ein hun, anwireddus
wnniae, a thrachwantae,
gan geisio ein chwant, a 'n pleser yn
y byd hwnn, yn erbyn sancteiddiol

[td. 9]
air duw: ac fal pe i bae i assyn ymwisco
a 'i ad'urnio i hun mewn croen
llew, a mynnu bod yn llew, etto i
hir glustieu sythion yn bryssur
a 'i datguddie, ag a 'i gwnae ef yn hynod:
yn yr vn mod', er i nineu yn
trwsiadu, a 'n gosod ein hunain allan,
ag ychydig brydferth, a gogoneddus
weithredoed', fal na ddichon neb
d'oedyd na bom ni yn gwbl wirion,
ag yn ddifeius mewn llawer o bynciau,
er hynn i gyd, mae ynom galoneu
budron, aflan, anwireddus, yn
llawn diofalwch, a dirmig o dduw,
gwedi ein rhoddi yn ollawl, i 'n caru
ein hunain a phob difrawch. Yr awrhon
, os ni a ymgylchir, ne os ymwelir
a ni, a chlefyd, tlodi, rhyfel, ne
gyfrysedd, ni ddylem ni roddi y bai
o hynn, vn, ar swyd'og, arall ar bregethwr
ne wenidog gair duw, ne ar
y ffyd' a 'r crefyd', ne ar yr elfynav [~ elfennau ] a 'r
ser, ne ar dduw i hun, fal pe i bae vn
o rhain yn achos o 'r cyfryw ddialeddau:

[td. 10]
megys ag na ddyle neb feiaw
ar y Physygwr, (fal pe i bae ef
yr vnic achos, o ddwfrhaintieu llygredig
o fewn y corff,) er i fod ef yn
i dwyn ac yn i gyrru allan o 'r cnawd
fal i galler yn eglur i gweled, euthr
drwg ymwreddiad, ac anghymedrawl
ddeiad y gwr i hun, yw 'r
iawn achos, a 'r gwreiddyn o hynn,
felly ni ddylem ninneu roddi bai
ar dduw, o denfyn ef arnom ni, dristwch,
penyd, a thrwbleth, eythr med'wl
fod hynn, yn feddeginiaeth, ac
yn help addas, i 'n pechodae ni: a
ffob dyn a ddyle roddi 'r achos o
hynn, arno i hun, a 'i bechodau i hun,
ac nid ar ddim arall. A 'r ecsampl
hwnn a ddarfu i 'r gwyr sanctaid', a 'r
duwiol henafieit yn y cynfyd, i ddangos,
i ddatclario, a 'i adel i ninneu,
gann roddi 'r achos bob amser, o orthrwmderae,
ac o 'r cyfryw orthrwm
ofydiae, 'rhain a ddigwyddent yn
i hamser hwy, ar i pechodae i hunain:

[td. 11]
mal i llefarod' Daniel y proffwyd:
o herwyd' ein pechodae ni, ag anwireddau
ein tadau ni, i dinistriwyd
Caersalem a 'i phobl gann y sawl syd'
amgylch ogylch iddi: erwyd' paham
ny ni a ddylem wylo, ag alaru, a chrio
allan, och och, 'n hytrach 'n erbyn ein
pechodau, a 'n anwireddau ein hunain,
nag yn erbyn y gwendid, y clefyd,
ne 'r adfyd arall a 'r trwbleth,
'rhain i ddym ni yn i dioddef, o herwyd'
ein pechodae. Cans os wylem
ne os tristaem eb fesur, a rheswm, pan
fo duw ddim ond gwneuthur cyfiawnder,
ag vniondeb ar i elynion, pa
beth fydde hyn ond bod yn anfodlon
i gyfiawnder duw a charu y peth
'rhwn y mae ef 'n i gasau? a beth yw
hyn, eythr gwir gyfiawnder, a daoni [~ daioni ]
duw, pann fo ef yn ceryddu, yn marthyru,
yn darostwng, ac yn gorescyn
'n ollawl ynom, y gelynion pennaf
iddaw ef, a ninneu, hynny yw, ein
pechodeu ni? Gann hynny tristhau,

[td. 12]
ag alaru heb fesur ynghanol ein ing
a 'n trwbleth, yw, yn dangos ein hunain
yn gymdeithion i bechod, yr
hwnn yw y gelyn mwyaf i dduw, a
ninnev: erwyd' paham, ni a ddylem
yn hytrach foliannu duw, ac ymlawenychu
yn ddirfawr, nid yn vnic
'n ein adfyd a 'n blinder, ond ynghyfiawn,
a graslawn ewyllys duw,
cyfion (meddaf) am iddaw gospi pechod,
graslawn, a thrigarog, am iddaw
i gospi yn esmwythach o lawer,
nac o gyfiawnder yr heuddasom.


Pen. 3.


Mae ein oll orthrymderae a 'n blinfyd,
yn llai, ac yn esmwythach
o lawer, nag i mae ein pechodae
ni yn heuddu.


PA bryd bynac y byddo gwr yn
rhoddi yscafn, ac esmwyth gospedigaeth,
ar vn a haeddod' a fae
drymach, y mae 'n rheswm iddaw i

[td. 13]
ddioddef, a 'i dderbyn drwy ymyned':
mal, vn a fo lladdwr celain, os
caiff ef ddiainc er i guro, ne i fflangellu
allan o 'r dinas neu 'r dref, mae
ef yn cymryd hynny mewn rhann
dda, gann iddaw wybod yn dda
ddigon, i fod yn hauddu crog.

Y sancteidd-ferch Iudith, a dybiai
fod holl gospedigaethae trancedig,
yn esmwythach, ac yn llai nac
yw ein pechodae a 'n anwired'au ni.
Erwyd' paham, o goddefi dlodi,
glefyd, ne ryw wrthwyneb arall
ystyria, a meddwl ynot dy hun fal
hynn.

Dy amryw bechodae a haeddasont
fil filioed' o weithiau, mwy
dialeddus cospedigaeth, trymach
dolur, mwy ofnadwy rhyfeloed',
carchar mwy aneirif i oddef: ac pe
i doe oll flinderoed' y byd, ar vnwaith
yn vn pentwrr arnat, etto
rhyglyddaist waeth o lawer. Ti a
haeddaist yn dda oddef gwbl allu a

[td. 14]
chreulondeb diawl, a damnedigaeth
tragwyddol, 'rhain er hynny a attaliodd,
ac a dynnod' duw oddiwrthyt,
o 'i wir drigared', yn vnic er
mwyn Iesu Christ: Hefyd, y neb a
gafes bob amser bethau da, llwyddiannus,
ni ddyl ef ryfeddu, er
derbyn o honaw weithiau, anffawd,
ac adfyd: ie, plant, y byd hwnn a
ddoedant 'n ddiharebawl.

Ni wn ddyll iawn ddehellwch
i ddewr draw na ddaw awr drwch.


Yrawrhon, mor drigarog yw
duw, ac na ad ef neb heb i obrwyo a
rhyw wobr, ne arall, yn gystal o flaen
gorthrymder, ac wedi, ie, ac ynghanol
ein blinfyd, mae ef yn rhoddi
llawer rhod' ardderchawg, ac arbenigion
ddonieu, yn gystal ar les ein
eneidieu ni a 'n cyrff, ysprydawl a
chorfforawl.

Ac am i ddonieu ef o flaen adfyd, a
gorthrymder, mae i ni siampl odidog
o flaen ein llygaid, o Iob, gann

[td. 15]
ddoedyd: gan i ni dderbyn cymeint
o lesant, oddi-ar law dduw, pam na
fyddwn ni fodlon hefyd, i dderbyn
y drwg? Hefyd Plinius yr ail, gwr
cenedlig, wrth ddiddanu, vn o 'i gymdeithion
a fuase farw i anwylwraig
briod, ymhlith pethau eraill, a escrifenna
fal hynn.

Hyn' a ddyle fod yn ddiddanwch
mawr iti (sef) cael, a mwynhau o
honot, berl mor wrthfawr, cyd o amser:
can's pedair blyned' a deugain
y bu hi gida thi, ac ni bu erioed ymrafael,
ymsennu, nac ymryson rhyngoch:
a 'r naill, ni ddigiod' y llall, erioed:
ie, ond yr awrhon ti a ddoedi,
mae o hynny y mae yn drymach ac
yn anaws genyt fod hebddi, am i
chwi fyw ynghyd, cyd o amser, mor
heddychol: can's prysur irr anghofiwn
y pleser, a 'r cymwynase,
'rhain ni chowson ond tros fyrr
o amser. Ond i atteb hynn yma
gochel, a gwilia, rhag dy gael

[td. 16]
yn aniolchgar, os ystyri yn vnic pa
beth a gollaist, heb feddwl pa hyd i
cefaist hi y 'w mwynhau.

Ag hefyd mewn amser ac ynghanol
ein blinfid, a 'n trwbleth, mae
duw yn rhoddi i ni ras i ystyried,
dawnus, a llwyddiannus bethau eraill,
'rhain sy genym a rhain yddym
yn oestadol yn i mwynhau: fal
drwy goffadwriaeth ag ystyrieth o
rheini, ir esmwytheir, y lleiheir, ag
ir anchwanegir ein gofid a 'n poen.

Er ecsampl: bwrw dy fod yn
wann, yn ddirym, ac yn wr clwyfus
o gorff, etto fe roddes duw iti
gyfoeth yn ddigonol, a da yn rhesymol
i 'th gadw: ne os oes arnat
brinder ag eisieu da, a chyfoeth, nid
oes arnat er hynn ddiffig o iechyd
corfforawl.

Yrawrhon oni osodwn y naill
o hyn yn erbyn y llall, tebig ym i
blant bychain, 'rhain os damwain i
wr ychydig rwystro, ne dorri ar i

[td. 17]
chwareu, ne ddwyn rhywbeth oddiarnynt,
yn ebrwyd', hwy a esclusant y
cwbl, ac a gwympant i wylo: felly i
byddem ninne debygol i wneuthur,
pann ddigwyd' rhyw anffawd ini, o
digiwn ne o byddwn anfodlon, heb
gennym na chwant, nac ewyllys i
gymryd ac i fwynhau, y da rhwnn
syd' gennym.

Bwrw dy fod 'n ymddifad, ne 'n
ysbailedig, o bob diddanwch corfforawl,
etto yn dy ddwyfron a 'th galon,
mae genyt wybodaeth o Iesu
Christ, yr hwn, a 'th ryddhaod' di o
vffern, ac o ddamnedigaeth, rhain
oeddynt ddledus iti: i bwy vn, nid
yw 'r ol' ddialeddae ar y ddayar fwy
mewn cyfflybrwyd', nag yw vn defnyn
o ddwfr wrth 'r oll for.

Heb law hynn hefyd, trwy ffyd' i
ddwyd yn clywed ynot, obaith, a sicrwyd'
o lawenyd' didranc, tragwyd'ol,
 fal i scrifenna S. Paul o hynn,
gan ddoedyd: barnu irr wyf nad yw

[td. 18]
gofidiae 'r amser hynn, y 'w cystadlu
i 'rr gogoniant, a ddangosir i ni: mae
i ni siampl o hyn, o flaen ein llygaid,
o 'r mab treilgar, anobeithedic, yr
hwn, a 'i vfuddhaod', ac a 'i darostyngod'
i hunan, fal na ddysyfai, ef mwyach
i gyfri yn lle mab, eythr i droi i
weithiaw, fal gwenidog ne was cyflog,
os yn vnic, e gae aros, ynhuy ei
dad. Felly beth bynag y mae duw
yn i anfon, ni a ddylem i gymryd,
yn ddioddefgar, os yn vnic i cenadheir,
i ni breswylio ynhuy dduw, yn
y nefoed', gidac ef 'n dragwyddawl.
Yr awrhon, o tybia neb fal hynn,
nid yw duw yn ceryddu eraill, a
wnaethont anwireddau mwy dialeddus,
a chymeint o blae echrys, a
doluriae, ag i cerydda ef ni: amarchus,
ag anghristnogaid' yw ei feddwl
ef o dduw: can's beth os wyd
di dy hun yn fwy anwireddus, na
neb arall? Ond bwrw fod eraill
yn byw yn fwy anwireddus, ac

[td. 19]
yn waeth na thi, a wyddost di pa
wed' y mae duw, yn i cospi hwy?
Mwyaf, a gwaethaf poen, a chosb,
a ddichon fod, yw, cystud' oddimewn,
a dirgel gosbedigaethae y
meddwl, rhain ni welir a 'r golwg
oddiallan. Ag, er na byddo vn tristwch,
na dialed' yspysol yn eglur
yn ymddangos iti, ag er nas gwyddost
ba beth y mae duw yn i feddwl
yn hynny, etto ti a ddylit, (mal
plentyn y 'w dad) roddi iddaw ef anrhyded',
clod, a moliant, am iddaw
ef ddosparthu pob peth a chyfryw
ddoethineb, ac mewn cyfryw drefn
ac ordr: a phann welo ef i amser, ef a
obrwya, ag a ystyria 'r holl gyfryw
bethae, 'rhain a wnaethwyd ymlaen
llaw, yn erbyn i gyfion, a 'i vnion
gyfreithiau ef, megys ac ir haeddasont.



[td. 20]


Pen. 4.


Pob bath ar adfyd a ddanfonir, ac sydd
yn dyfod oddiwrth dduw, o feddwl cariadus,
tadawl tuac attom.


NId yw ddigon i ni wybod fod
pob bath ar flinfyd, yn dyfod
drwy ymyned', a dioddefiad duw, o 'i
gyfiawn farnedigaeth ef am ein pechodae
ni: erwyd' yn eithawed' profedigaethae,
ag yn yr angenion
mwyaf, fal hynn i bydd y meddylie,
a 'r dychmygion cyntaf ynom. Yn
gymeint ac i mi yn ddialeddus ddigio
duw, drwy fy mhechodau, am
hynny i llidiod' ef wrthyf, ag aeth
yn elynn imi, ac a droes i ffafr od'iwrthyf:
ac oni byd' i ni ragflaenu, a
thaflu ymaith mewn amser, y cyfryw
wag feddylieu, a bwriadae ofer,
hwy a wnant i ni ymwrthod, ac
ymadael a duw, gann i gasau ef, a
gryngan y 'w erbyn; megys i gwnaeth
Sawl, 'rhwn a gwbl feddyliod'

[td. 21]
ynthaw i hun, fod duw yn i geryddu
ef, o lid a digofaint y 'w erbyn: am
hynny calon Sawl a drod' oddiwrth
dduw, ac a 'i gadawod' ef, ac a
ddechreuod' i gasau a 'i ffieiddio ef,
megys vn creulon. Gann hynny mae
y rhybyd' hwnn hefyd yn perthynu,
i 'rr cyfryw bynciau, i 'n dyscwyd
hyd hynn: sef, y dylem ni dderbyn
yn ddiolchgar beth bynag i mae
duw o feddwl tadawl, cariadus, ac
nid o ddim digofaint tu-ac attom,
yn i anfon ini, pwy vn bynac fyddo
ai hyfrydlawn, ai dialeddus i 'r
cnawd. Yr arglwyd' dduw, a ymwel
a ni ac amserawl, a thrancedic
boenau, o dadawl a gofalus galon,
rhon sy ganthaw tu-ac attom, ac
nid o ddigased' a diglloned' i 'n erbyn.
Canys duw a gymodir, ac a
gytunir a ffob Cristion drwy i fab,
ac ef a 'i car hwy o ddyfnder, ac o eigiawn
ei galon: erwyd' paham pa
sut bynac, ne pa fod' bynac, i mae

[td. 22]
duw i 'n ceryddu, ac i 'n cospi, nid yw
ef yn gwneuthur hynny o gasineb
arnom, fal pe i gwrthode ef ni, gann
ein taflu ymaith yn ollawl, eythr o 'i
fawr dosturi, a thrigared', er 'n derbyn
fal ei blant, er yn cadw, a 'n ymddiffyn,
er yn meithrin a 'n arfer, er
yn vfuddhau, a 'n darostwng, er yn
symbylu, a 'n gwthio rhag ein blaen,
fal y byddai i weddi, ffyd', ofn duw,
vfud'-dod, a rhinweddae erail' dyfu,
a chynyddu ynom, er anrhyded' iddaw
ef, ag iechydwriaeth i ninne. Testiolaethae
o hynn: yn gyntaf Ezechiel.
33.

Cynn wiried mae byw fi med' yr
arglwyd', nid oes gennyf bleser ymarwolaeth
[~ ym marwolaeth ] pechadur eythr troi o honaw,
a bod yn gadwedig. Yma mae
duw yn tyngu, nad yw ef yn cosbi
er 'n difa, ond er yn llithio, yn denu,
a 'n dwyn i edifeirwch.

Hefyd, y sawl a gar duw, ef a 'i cerydda,
ac er hynny mae gantho bleser

[td. 23]
ynthynt megys tad yn i blentyn.
Hynn sy destiolaeth eglur, nad yw
adfyd, trwbleth, a blinfyd, yn arwyddion
o lid, a diglloned' duw, eythr
yn hytrach arwyddion sicr, o 'i rad, o 'i
drigared', a 'i ffafr, drwy bwy rai, y
mae duw yn sicr-hau i ni, i drigarog
ewyllys, a 'i dadawl galon, tuac
attom. Drachefn fe a ddoedir, ni a
wyddom fod pob beth 'n cydweithio
i 'rr hynn goreu, i 'rr sawl a garant
dduw. Ac hefyd, fe a 'n cosbir, ac a 'n
ceryddir gann yr arglwyd, rhac yn
barnu yn euog gida 'r byd.

Hynn hefyd i gyd a greffi, ag a
ystyrri drwy holl stori Iob.

Yn yr vn mod', Ioseph a werthwyd
gan ei frodur, ac a rod'wyd ynwylaw
'r anffyddloneit, o dwyll, a
chenfigen, drwy annog, a chyngor y
cythraul: eythr y ffyddlonaf dduw a
droes hynn er bud', a lles, yn gystal
i duy yr Israel, ac i holl frenhiniaeth
yr Aipht. Cans felly y darfu i

[td. 24]
Ioseph i hun ddeongl hynny.

Hefyd eglwys Ghrist, (sef yw
hynny) y gynelleidfa Ghristnogaid'
yr hon yw priodasferch crist, sy raid
iddi ddioddef adfyd a blinder, ar y
ddaear honn, ond yn gymeint a bod
düw yn hoffi priodasferch i anwyl
fab, ('r honn yw cynelleidfa y rhai
ffyddlon) mae ef yn bwriadu i chonfforddio
hi, a bod yn ddaionus iddi;
gann hynny, megys ag i cyfodod' ef
i fynyd' o angau, Grist i gwr priod, i
ffenn, a 'i brenin, felly hefyd i gwared
ef hithau o bob adfyd, gann roddi
iddi lawenychol fuddigoliaeth, ar
bob peth syd' y 'w gorthrymu: eythr
cyfryw yw gwaeled', a gwendid 'n
golwc ni, ac nas gallwn graffu, a
gweled drigarog, a charedigol ddaioni
düw, dann i wialen a 'i scwrs.

Pa bryd bynac gann hynny irr
ymwelir a ni a blinder ne adfyd, yn
wir ein dled yw, yn gyntaf gydnabod
a chofio ein pechodae, ac ystyriaw

[td. 25]
hefyd iau, a gefynnae diawl am
bechod, ond ni ddylem ni farnu, na
meddwl o 'r cyfryw flinderoed', yn ol
meddwl, ac ewyllys diawl (rhwn o
frad, a meddwl maleisus, tu-ac attom,
ni chais ddim oll, onid dinistriad
ollawl, a chyfan wradwyd'
pob rhyw ddyn) ond yn hytrach ni
a ddylem farnu ac ystyriaw o 'r oll
flinderoed' a 'r gofydiau hynny, ar
ol meddwl duw, (ac felly i derbyn)
rhwnn o 'i fawr ddaioni, sy 'n i troi
hwy oll, er bud' a llesant i ni, gann
weithiaw drwyddynt hwy, ein perffaith
iechydwriaeth ni.

A phle bynac ni ddichon y galon,
dderbyn y diddanwch hwnn (sef
bod duw yn ceryddu, ac yn cosbi, o
wir drigarog ffafr, a chariad arnom)
yna yn angenrheidiol, mae 'r profedigaeth,
a 'r dialed' yn drymach, ac
yn fwy, a 'r dyn hwnnw o 'r diwed' a
gwympa, ac a syrth i ddirfawr anobaith.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section