Adran o’r blaen
Previous section



[td. 26]


Pen. 5.


Duw yn vnic er mwyn Iesu Grist,
a hynny o 'i fawr drigaredd, cariad,
a ffafr, sydd i 'n cosbi
ac i 'n ceryddu.


YR iawn a 'r vnic achos, o drigarog
a thadawl wllys duw, yw,
yn, vnic rhyglyddiadae Iesu Grist,
at bwy vn, ni a ddylem dderchafu
ein calonnau tua 'r nefoed', gann feddwl,
ac ystyriaw yn ein meddylieu,
yn oestadol, fal hynn: yn pechod
a 'n anwired' ni, sy 'n haeddu newyn
drudaniaeth, rhyfel, nodeu, a ffob
rhyw blaee eraill: yr awrhon, Crist
a wnaeth arianswm a chyflawn daledigaeth,
am yr oll bechodae rhain
a wnaethom ni, ef a ailbrynnod', a dalod',
a ddigostod', ac a wnaeth 'n ddineweidiol
ini, yn oll gamweddau,
drwy i chwerw angeu, i fuddygoliaethae,
a 'i ailgyfodiad, ac a ddigonolod'
gyfiawnder ei dad fal i testiolaetha

[td. 27]
S. Paul, yn gonfforddus, gann
ddoedyd: Iesu Grist a wnaethwyd
gann dduw i ni yn ddoethineb, a chyfiawnder,
a sancteuddrwyd', a ffrynnedigaeth:
felly os blinderae a 'n gorthrymant
o erwyd' ein pechodae, a 'n
oll bechodae gwedi i digonoli, a 'i digosti,
trwy angeu a dioddefaint Iesu,
mae 'n angenrhaid addef, fod yn ol'
flinderoed' yn ddineweidiol ini, ac
na allant ein briwo: ie, Crist trwy i
ddioddefaint a 'i adfyd, a fendithiod'
ac a sancteiddiod' bob rhyw adfyd,
fal i gwasnaethent, ac fal i byddent,
i oll wir ffyddlonieit Gristnogion,
yn lle bud' gwyrthfawr, drwy ordeiniad
a rhagwelediad duw i nefawl
dad: ef yw y gwir Physygwr,
'rhwnn pann ddehallod', fod
adfyd yn arswydus gennym, a gymerod'
arnaw i hun, ddioddef pob
bath ar adfyd, blinderoed', a gofydiae
mwyaf dialeddus, er rhoddi,
a gosod terfyn, a ffenn, i 'n

[td. 28]
blinderoed' nineu, ac hefyd i bendithiaw,
a 'i sancteiddiaw, ie, a gwneuthur
angeu i hun yn brydferth ac yn
felus i ni. Oh na allem deimlaw,
gweled, ac ystyriaw, ewyllys, a meddwl
Crist, pann oed' ef yn ewyllyscar
yn dioddef ar y groes, gann oddef
i d'ryllio, a 'i ferthyru mor greulawn,
ag mor boenus, eb vn achos,
ond fal i galle ef yn ollawl ddirymmio
oll nerth ein pechodeu ni, gorthrymder
ac angeu, ac hefyd dinistrio
vffern, fal na alle vn o honynt byth
wneuthur niwed ini. Ymhellach (o)
na allem ystyriaw pa wed' i chwaethod',
ac irr yfod' ef o 'r cwpan o 'n
blaen ni, fal y gallem nineu, rhain
ym weinied, yfed a chwaethu 'n wel'
o honaw ar i ol ef, yn gymeint ac
na ddamweiniod' iddaw ef ddim
drwg o hynny, eythr yn y mann cyfodi
o honaw o angeu: oh nas galle
wybodaeth, a choffadwriaeth o hyn
aros yn iawn yn oestad yn ein calonnae

[td. 29]
ni, a llewychu bob amser o 'n
blaen ni: yno byth ni syfllem, ac ni
ddyffygiem, ac ni byddem anobeithiol,
o drigared', a daioni duw,
er i ni ymlad' mewn bateloed' enbydus,
a mwyaf dialeddus: ac er i
ni 'n hunain brofi a theimlaw, y cyfiawn
gosbedigaethae, hauddedic
am ein pechodae ni, yno y gallem
sefyll 'n wrawl, ac yn nerthawg yn
erbyn pyrth vffern, a phob bath ar
dristyd, trymder, profedigaeth, ofn,
ac anffawd, yn ollawl a ddifethid ac
a lyncid i fyny.

A hynn yw y diddanwch pennaf,
a mwyaf, a glowyd, ne a ddarlleuwid
[~ ddarllewyd ] o honaw, er dechreuad y byd.
Duw i hun yn vnic a ddichon (os ystyriwn
o honaw, ac os gafaelwn
arnaw, mal y dylem) blannu, ac impio,
y cyfryw feddwl ynom, fal y
gallom nid yn vnic na thristhaom,
eythr gorflleddu a llawenychu yn
ein blinder a 'n cledi, fal i gorfoleddod'

[td. 30]
S. Paul yn odiaeth lle i dywaid
ef: os duw nid arbedod', i vnic
genedig fab, eythr i roddi ef drossom
ni oll, pa wed' na ryd' ef i ni bob peth
gidac ef? Beth gann hynny a wnawn
a 'n ofer ofn, a 'n gofal, a 'n tristwch,
a 'n trymder? Erwyd' pa ham,
o byddwn Gristnogion, rhaid i ni 'n
ddiolchgar osod allan, ganmol, a
mawrygu 'r ardderchawg, anfeidrawl,
a nefawl ras, a daoni [~ daioni ] duw,
a 'r vchel ddiddanwch rhwn sy gennym
drwy Grist: cans pawb oll a 'r
y syd' ddeffygiawl mewn gwybodaeth,
o 'r daioni rhwnn yddym yn i
gael trwy Grist, ac a wrthodant y
mawr, a 'r ardderchawc drysor hwn,
pwy vn bynac fyddant, ai Iddewon, ai
Cenhedloed', ai Mahometiaid, ai Pabyddion,
ni fedrant roddi gwir, perffaith,
ac iachusawl gyssur, iddynt i
hun, nac i eraill chwaith, mewn ofnawg,
ac amheus gydwybod, neu
mewn adfyd a chledi arall. Tra gaffont

[td. 31]
heddwch a llonyddwch, heb
glowed nac ystyr ddim poenau angeu,
na 'r cyfryw flinder, a chledi,
hwy a allant fyw yn ddiogel, ac yn
hyderus, heb ofn: eythr pann ddelo
'r awr ddrwg vnwaith, ac ychydic
dro ar y towyd', mal naill ai
trwy weledigaeth, ac eglurhad o 'r
gyfraith i clywant, ac i dehallant,
ddigofaint duw tu-ac attynt, ne
drwy yspys ac eglur arwyddion, a
chyhoeddiad o gyfiawn gospedigaeth
a dial duw, ne drwy brofiad, o
ryw blaee presennol, nes i cynhyrfu
yn ddysyfyd gan ofn, yna i ol' ddoethineb,
ei cyngor, a 'i synwyr i wrthnebu
y cyfryw ddrwg, a ballant yn
ollawl, ac a 'i sommant 'n ddiatreg: yna
i ffoant oddiwrth dduw, ac ni
wyddant i ba le i rhedant, ne ple
ir ymguddiant: ac er bychaned fyddo
i profedigaeth, a 'i plaee, ei caloneu
er hynny a gynhyrfir, ac a
ofnir mor ddirfawr (mal i tystia

[td. 32]
Moeses) gann chwthiad deilien,
ac pe i bae ddyrnod taran.

Ac i 'rr cyfryw ddynion, oll gwrs
i bywyd o 'r blaen, i oll lafur, a 'i trafael,
a 'i goglud oll, yn ei argoeledig
wasnaethu duw, ac yn ei dirwestawl
fuchedd, yn ollawl a gollir ac
a fernir yn ofer: a ffa ddiddanwch
bynac a geisiasant heb Grist, nid
yw ddim oll, ond chwanegiad o 'i
dialeddus ofn, a brisc, yw tywys i
anobaith ac felly heb law yr Arglwyd'
Iesu, nid oes dim diddanwch,
help na chymorth i edrych
am dano.


Pen. 6.


Tebygoliaethae, a chyfflybon yn dangos,
pa fod' y mae duw i 'n cospi, ac
i 'n ceryddu, o fawr gariad,
trigaredd, a ffafr tuac
attom.


PAn fo 'r ollalluog dduw, er rhyglyddiadae

[td. 33]
i fab, nid o feddwl digofus,
ne o ddigter, eythr o ewyllys
da, ac o galon gariadlawn tu-ac attom,
i 'n cospi ac i 'n ceryddu, ef a ellir
i gyfflybu, a 'i alw 'n debyg, i dad,
i fam, i feistr, i physygwr, i lafurwr,
i Eurwr, ac i 'r cyffelyb, fal
hynn.

Mal y mae tad naturiol, yn gyntaf
yn dyscu i anwyl blentyn, ac yn
ail yn i rybuddio, ac yn i gynghori,
ac yn y diwedd yn i geryddu, felly,
y mae y tad tragwyddol, yn profi
pob fford' gida nineu, rhai ym
gwedi cynyddu mewn oedran, ac
etto, ifainc a meddalion yn y ffyd'.
Yn gyntaf, ef a ddysc i ni ei ewyllys,
drwy bregethiad ei air, ac a 'n rhybuddia.
 Yrawrhon os nyni nis
canlhynwn [~ canllynwn ] ef, yno ef ychydic a 'n
cur, ac a 'n chwystringa [~ chwistringa ] ni a gwialen,
fal weithieu a thlodi, weithieu
a chlefydon, ne ddoluriau, ne ryw
wrthwyneb arall, rhwn nis dylid
i farnu

[td. 34]
ryw wrthwyneb aral', rhwn nis dylid
i farnu, na 'i alw, 'n ddim oll, ond
gwialen ne fachgennaidd gospedigaeth.
Os y cyfryw wielyn ni helpia,
ac ni wnaiff ddim lles, yno i cymer
y tad ffonn, ne fflangell, mal os
i fab a bengleda [~ bengaleda ], ne a dreilia i arian, a 'i
smonnaeth [~ hwsmonnaeth ] yn drythyllgar, ac yn afradlon,
mewn socandai ynghyd
a chymdeithion diffaith, yna y daw
y tad, ac a 'i tynn erbyn gwallt i
benn, ef a rwym i draed, a 'i ddwylaw,
ac a 'i cerydda nes dryllio i escyrn,
ac a 'i denfyn i garchar, ne ef a 'i
gyrr ymaith ymhell o 'i wlad. Yn
'r vn mod' pan elom nineu 'n gildynus,
'n afrowiog, ac yn ddibris genym
am eirieu, a gwialennodae,
yna i denfyn duw attom blae trymach,
a chyffredinolach: mal, nodeu,
drudaniaeth, cyfryssed', cynddryged',
trychineb gann dan, llawruddiad,
rhyfel, colliant o 'r oruwchafieth,
fal pan' i 'n dalier gan ein gelynion,

[td. 35]
yn caethgludo yn garcharwyr.
Hynny ol' a wnaiff ef, er 'n ofni
a 'n dofi ni ac megys wrth nerth er
yn cymell, a 'n gwthio i edifeirwch,
a gwellant buched'. Yr awrhon, gwir
yw, fod yn erbyn ewyllys y tad, fal
hyn geryddu i fab, namyn gwneuthur
 id'aw cymeint o les, ac a alle ef
fwyaf: eythr y plant, trwy oddefgarwch
a gormod mwytheu, a ant yn
anhywed', ac a angofiant bob dysc.
Ac am hynny mae ef yn i ceryddu,
eto ynghanol i ddig a 'i geryd', i dadawl
galon a ymddengys: fal, o rhyd'
ef i blentyn ymaith oddiwrtho, am
ryw fai dialeddus, etto ni enfyn ef
ddim o honaw, 'n ollawl yn ddigyssur,
eythr ef a ryd' iddaw beth dillad,
a geirieu confforddus, ac felly
ef a 'i enfyn nid i aros dros byth allan
o 'i wlad ond er i alw ef adref drachefn,
pann i gostynger, ir vfuddhaer;
ac i gwellhaer y-chydic:
a hynn yn vnic yw meddwl y

[td. 36]
tad, sef, tynnu ymaith, a chadw oddiwrth
ei etifed' 'r ol' gyfryw bethau
a fyddent eniweidiol iddaw, ne a 'i dinistrient,
ac nid gwrthod, a thaflu ymaith
i blentyn dros byth: felly yn
ddiau, pann fo duw 'n anfon trueni,
a blinfyd ar ein gyddfe nineu, mae
tued', a chalon dadawl, dann i wialen
yn guddiedic: can's naturiol, ag
iawn briodoldeb duw, yw, bod yn
gariadlawn ac yn garedigawl, i iachau,
cynorthwyo, a gwneuthur daioni
y 'w blant, sef, i hiliogaeth dyn.
Adda ag Efa pan i cyfleuwyd ymharadwys,
oni chynyscaeddwyd
hwy yn ddigonawl, a ffob peth da?
eto ni fedrent hwy (ac ni fedr vn o honom
ni) i ordrio a 'i iawn arferu: eythr
cyn gynted ac i caffom bob peth a
chwenychom heb arnom eisieu dim
a 'r a fedrwn i ddysyfu, yna yn ddisymwth
irr awn yn ddifraw ac yn
ddiddarbodus: ac am hynny i denfyn
duw i ni ddrwg, fal i gallo wneuthur

[td. 37]
i ni dda, ac etto ynghanol ein
oll flinfyd, a 'n cospedigaeth, ef a enfyn
beth esmwythdra, di-ddanwch, a
chymorth: ac ni a al'wn gymryd siampl,
o 'n rhagddoededig rieni, Adda ag
Efa: pann ydoed' duw yn cwbl fwriadu,
ac ar ael i bwrw a 'i taflu allan
o Baradwys, yn gyntaf ef a 'i dilladod',
rag rhew, ac angerd' y towyd',
ac ef a 'i diddanod' hefyd a gaddewid
o 'r bendigedic had, 'rhwn a wnaiff
bob adfyd, nid yn vnic yn esmwyth,
ac yn ddineweidiol ini, eythr yn iachus
ac yn fuddiol hefyd.

A 'r natur honn ni newidia 'r anewidiol
dduw byth, eythr ef a 'i ceidw
yn oestadol, ni wrthyd ef ny ni yn
gwbl, ond yn vnic ef a oddef i ni ferwino
ychydig, am y pechodae a wnaethom,
ac felly ef a 'n ceidw rhag pechu
drachefn, rhag digwyddo o honom,
i enbydrwyd' poenau tragwyddol.


Heb law hynn, bwrier fod i wr

[td. 38]
ddau o feibion, vn drwg anwireddus,
ac etto i dad ni chosbiff, ac ni
cheryddiff ddim o honaw, a 'r llall a
godir i fyny, ac yn brysur a geryddir
am y bai lleiaf: beth yw 'r achos
o hyn, ond bod y tad yn ddiobaith,
o wellhad y naill vn amser, a 'i fod
'n bwriadu am hyny i ddietifeddu
ef 'n llwyr ac na roddo ef ddim iddaw?
Can's yr etifeddiaeth yn gwbl
a berthyn i 'r mab a geryddir, ac a
gosbir: etto y plentyn truan a gosbir
fal hynn, a dybia yn i feddwl, fod
ei frawd yn ddedwyd'ach, nac yw
ef, am na churir, ac am na cheryddir
ef vn amser. Ac am hyny, ef a ochneidia,
ac a gwynfan wrthaw i hun
ag a fed'wl fal hyn: wele, fy mrawd
a wnaiff yr hynn a ewyllysiff yn erbyn
ewyllys fy nhad, ac heb i gennad,
ac ni ryd' fy nhad air hagr iddaw:
ef a ad id'aw gael ei bleser a rhodio
lle i mynno, ond tuac att yfi nid
edrych ef vnwaith yn rhowiog onid
bod

[td. 39]
byth 'n fy nhop, os edrychaf vnwaith
ar gam. Llyma i gelli weled ffolineb,
ac anwybodaeth y plentyn, yr
hwnn a ystyr yn vnic y gofyd presennol,
heb gofio nac ystyr vn amser
yr hynn a gedwir iddaw ef yn stor.

Cyffelyb feddylieu a bwriadau, a
fyd' mewn cristnogion, pann oddefont
flinder lawer, a gweled pa fod'
o 'r tu arall y llwydda 'r anuwiol a 'r
anwir. Hwy a ddylent yn hytrach
i sirio a hunain, gann gofio yr etifed'iaeth
'rhon' a gedwir yddynt hwy
'n y nefoed', ac a berthyn yd'yn hwy
megys i blant da rhinweddol: am y
llaill 'rhain a lammant, ac a neidiant,
a wnant yn llawen, ac a gymerant
ei pleser yrawron dros ennyd,
hwy a ddeolir o 'r etifeddiaeth yn
dragowyd', megys dieithrieit, ac ni
chant, rann na chyd, o honi. A hynn
a brwfia Sanct Pawl, pann ddywaid
ef: Fy mab, nac esclusa
gosbedigaeth yr arglwydd, ac

[td. 40]
na lausa pann i 'th gerydder di gantho:
canys y neb a garo 'r arglwyd'
ef a 'i cosba, a fflangellu a wna ef bob
mab a dderbynio: os goddefwch gosbedigaeth,
megys i feibion y mae
duw yn ymgynig i chwi: canys pa
fab fyd' nis cosba i dad ef? Eythr os
heb gospedigaeth yddych, o 'r honn y
mae pawb 'n gyfrannog, meibon ordderch
ydych ac nid o briod. Yn y geirieu
hynn, mae S. Pawl yn eglur
yn cyfflybu cosbedigaeth yr arglwyd'
i geryd' tad cnawdol, ac i bwy
ni wnaiff y geirieu hyn' ofni, a chrynnu,
lle i dowaid ef, fod yr oll rai ni
cheryddir yn fastardieit, ac nid plant
cyfraithlon? Ag eilwaith pwy nis
llawenheiff, pann ddowaid ef, fod y
sawl a geryddir, yn blant o briod?
Erwyd' paham, er bod yr ollallvog
arglwyd', yn i ddangos i hun yn ddigllon
wrthym, nid yw hyn ddim, ond
anwes tad naturiol, caredigaid', yr
hwn' ni chais ein dinistr, a 'n cwymp

[td. 41]
eythr yn vnic, ein gwellad, a 'n bud':
ymddyro dy hun gann hynny drwy
ymyned', i ewyllys duw dy dad
ffyddlon, byd' orfoleddus ynghosbedigaeth
'r arglwyd', gann dy fod yn
siccr drwy hynny, i fod ef yn dwyn
calon, med'wl, ac ewyllys graslawn,
tadawl tuac attat.

Heb law hynn, duw a gyfflybir i
fam: y famm a fwydiff, ag a fegiff i
etifed', a 'r oll ddaioni a ddichon hi,
hi a 'i gwnaiff iddaw, a hynn o galon
fammawl rowiogaid': ac etto drwy
anhyweithder ag afrwoldeb y plentyn,
hi a gythruddir, ac weithiau hi
a gynhyrfir i ddigio wrthaw, y 'w
ddwrdio, y 'w geryddu, ag y 'w guro
ef: felly i mae gwir natur a ffriodoldeb
duw, na ddioddefe ef i anffawd
yn y byd ddigwyddo ini, etto ein
amryw bechodae ni, a 'i cymellant
ef i 'n cospi ag i 'n ceryddu: yr awrhon,
fal nad yw y fam, yn gwadu: yn
gwrthod, nac yn rhoi ymaith i etifed',

[td. 42]
er i bod 'n ddicllon wrthaw felly
duw ni wrthyd ac ni wediff ddim o
honom ninneu, yn ein ing, angen, a 'n
cledi mwyaf, er iddaw gymryd arnaw,
fod yn ddigofus aruthr wrthym:
yr scrythur lan yw yn awdurdod
am hynn: a anghofia gwraig ei
phlentyn sugno fal na thosturio
wrth fab ei chroth? pe anghofie y
rhai hynn, etto myfi nid anghofiwn
di.

Nid oes vn athro, na gwr o gelfyddyd,
a gymer scolhaig, ne brentis
y 'w ddyscu, heb wneuthur yr amodau
hynn ac ef yn bendifaddef,
sef na byddo i 'r llanc fod yn opiniongar,
ne yn gildynus, ac na chanllyno
ef i synnwyr a 'i feddwl ei hun, eythr
gofalu yn ddiwyd ac yn dyfal,
am yr hynn irr addyscer gann i athro,
ac o byd' ef difraw, ac yn chware
'r gwas diofal, bod yn fodlon
ganthaw i geryddu gann i feistr.
Yr awrhon, nid yw y meistr yn ceryddu

[td. 43]
ei scolaig, neu ei was er meddwl
i friwo ef, ne o falais a drwg
ewyllys iddaw, ond er dyscu o honaw
yn well o hynny allan, bod yn
fwy dilys, a chymeryd mwy gofal.

Felly yn 'r vn mod' ni dderbyn
Christ vn scolaig, na dyscybl attaw
heb wneuthur amodau ag efo, angenrheidiol
i bob cristion, 'rhain a
yspysir yn Efengil Sainct Mathew.


Ac yn ddiau gair duw yw y rhwol
wrth ba vn i dylem ni, yn llywodraethu
ein hunain eythr gwell gennym
o lawer, galyn ein dyfais a 'n
synwyr ein hun, rhain yn fynych a 'n
twysant ar gam, allan o 'r iawn
fford': am hynny y nefawl athro,
a 'n cur ni (rhyd ein byssed') hyd oni
ddehallom ac oni ddyscom i ewyllys
ef yn berffeiddiach.

Mal y mae yn rhaid i 'r physygwr,
ne 'r meddig, dorri ymaith, a llosci,
ymarwgig pydredig a 'i hayarn,

[td. 44]
ne a 'i offer, rhag llygru a gwenwyno
'r oll gorff, a 'i gyfergolli, felly
duw sy weithiau yn cosbi ein cyrff
ninneu yn dost, ac yn ofidus, er cadw,
ac iachau ein eneidiau ni. Ac er
dyfned i gwthio duw 'r hayarn i
fewn i 'n cnawd, a 'n cyrff ni, ef a 'i
gwnaiff yn vnic, er yn helpio a 'n iachau:
ac os damwain iddaw yn llad'
yno ef a 'n dwg i 'r iawn fywyd. Y
Physygwr wrth wneuthur y triagl
a gascl y Seirff a 'r nadroed', sef,
i orchfygu vn gwenwyn drwy rym
y llall: felly, duw pann i 'n ceryddiff,
ac in cospiff ninneu sy yn fynych yn
codi ac yn gosod Diawl, a ffobl anwir
i 'n herbyn, a hynn oll a wnaiff
ef, er daioni i ni.

Tra fyddo gann y Physygwr
ddim gobaith o wellad yn y claf, ef
a braw bob fford' a ffob meddeginiaeth,
yn gystal y sur a 'r tost, a 'r melys
a 'r hyfryd: ond pan amhevo ef
fod dim gwellad yn agos, ef a ad

[td. 45]
iddaw gael i rydyd ar bob peth, a 'r
y mae ef yn i flysio: felly y nefawl
physygwr tra gymero ef ni, ghristnogion,
yn lle 'r eiddaw i hun, a
chanthaw obaith o 'n iechyd, ef a
rwystr ac a wahard' i ni ein ewyllys,
ac ni ad i ni gael y peth i ddym
yn i chwantu fwyaf: eythr pan fytho
ef anobaithol o honom ni a ffann
i 'n rhoddo ef ni i fyny yno i gediff
ef i ni tros amser, gael a mwynhau
ein chwant, a 'n pleser. Y cyfflybrwyd'
hwn a dynnwyd allan, o 'r pumed
llith o Iob: os yr arglwyd'
dduw a archolliff, i law ef eilchwel
a iacheiff.

Pann roddo marchog ceffyl, i
farch ifanc, hoew, nwyfus, ormod o 'r
ffrwyn, e fyd' gwylld a thrythyll,
ac ni cherd' fal i dyle: ac ond odid
pann ddel i le gwlyb llithrig, ef a
syrth i lawr bendromwnwgl: felly
yn 'r vn mod', os yn creawdr, a 'n
gwneuthurwr, a oddefe i ni ormod
gann

[td. 46]
ormod rhwysc a rhydid, yn ebrwyd'
ni aem yn wylltion, ac a falchiem o
hynny, ac ond antur ni a 'n drygem
ac a 'n difethem 'n hunain, am hynny
e' ryd' hayarn llym yn 'n safnau ni,
ac a 'n helpia i ffrwyno, ac i ddofi y
cnawd, rhag cyfergolli 'r ardderchawg,
a 'r gwyrthfawr enaid.

Drachefn: fal i mae Certweiniwr
yn curo i feirch, a 'i chwip ne i fflangell,
ac 'n i baeddu 'n dost, pryd na
thynant, a phann nad ant yn i blaen,
ac er hynny ef a 'i herbyd hwy hefyd,
ac a wnaiff yn fawr o honynt,
er mwyn i caffael y 'w mwynhau a
fo hwy, felly duw a 'n curiff, ag a 'n
fflangeliff nineu, pann na wnelom
'r hyn a ddylom, yn iawn: ac er hyn
i gyd ef a 'n erbyd, ac ni wnaiff ddiwed'
yn gwbl o honom.

Fal y mae y bugail, pann gyfeiliorno
i ddefaid ef, yn y gwlltoed', a 'r
anialwch ymhlith bleiddieid, yn i
gyrru drwy lwybrau dieithr i 'rr

[td. 47]
iawn fford', ac yn i hel y 'w corlannau,
lle i gallant fod yn ddiofal: felly
yn 'r vn mod' (yn gymeint a 'n bod
ni yn fynych yn gymyscedig a rhai
bydol, ag yn gymdeithion i 'rr sawl
syd' elynnion i 'n crefyd' gwir Gristnogaid')
fe ddaw duw attom, ag a 'n
didol drwy dristwch ac edifeirwch
oddiwrthynt, rhag yn difetha a 'n
cyfergolli gidac hwynt. Bugeil y
gwartheg a ad i 'rr cyfryw loie a ordeiniwyd
i 'r lladdfa, redeg, a llammu
fford' a fynnant o amgylch y borfa:
eythr y rhai a gedwir i lafurio, a feithrinir,
ac a arferir dan yr iau: felly 'r
ollalluog d'uw, sy 'n goddef ac 'n gadael
i 'r anuwolion (rhai syd' a 'i dinystr
garllaw) fwynhau ei chwant, a 'i
pleser ar y ddayar hon, a chyflawni, a
chwplau, i wllys a 'i damuniant: eythr
y rhai duwiol, rhain a feithrin ef
er i anrhyded', a 'i ogoniant, a geidw
ef dann 'r iau, gann i gwahard' a 'i attal
oddiwrth oll chwantae bydol.


[td. 48]
Y llafurwr synhwyrol, celfyd'
ni theifl, ac ni hauiff i had, mewn
maes, ne dir, ni byddo gwedi i dorri,
i aredig, a 'i lafurio yn iawn mal i dyle,
ond ef a ddeil ei ychen, ac aiff i 'r
maes, ef a dry ac a eird' y tir, gann i
ffaethu a 'i raglyfnu, ac yno ef a 'i haviff,
ag a 'i llyfn, fal pann ddescyno 'r
glaw, i cadwer yr had, ag i gyrrer
i 'rr ddaear, fal i gwreiddio, ac i cynyddo
ynthi: cyffelyb lafurwr yw
duw, a nineu ym i lafur ef: ac nid
yw ef yn rhoddi ei yspryd a 'i wirioned',
i 'r rhai syd' wylldion, ac heb
ofn duw arnynt.

Heb law hynn, fal i mae garddwr
yn cau i ard' o 'i hamgylch, ac yn
i chadw a drain a mieri, fal na ddichon
yr anifeilieit i drygu, felly
mae duw yn ein ymddyffyn, yn ein
gwilio, ac yn ein cadw nineu oddiwrth
bob drwg cyfeillach, ac oddiwrth
bob pechod, drwy ddrain a mieri,
(sef yw hynny) drwy y groes ac

[td. 49]
adfyd, fal i dywaid Oseas: mi a gavaf
i fyny dy fford' di a drain, ac a
furiaf fur fal na cheffych dy lwybrau.
 Os y garddwr a scythra ymaith,
y cnyckieu a 'r ceincieu ceimion
o 'r prennie yn yr ard', gann i
difrigo ychydig: etto cyd biddo 'r
gwreid'in 'n ddifriw, nid gwaeth y
prennieu, eythr cynyddu a wnant, a
ffrwytho: felly mae duw yn torri ac
yn cymynu 'r hen Adda gnykus,
drwy y groes, nid er meddwl ein
briwo ne wnethur eniwed ini, ond
er ein cadw mewn ofn, ac er yn cadw
mewn duwiol arferau. Ac yn
ddiau cyd byddo gwreiddin ffyd'
yn aros ynom, er ein bod yn ysbailedig
ac yn ddiddim o olud, a ffob
bath ar ddiddanwch bydol a chorfforawl,
eto ni a ddygwn ffrwythau
daionus, er mwy anrhyded', a gogoniant
i sancteiddlan enw duw.

Cristnogion heb y groes a gyfflybir
i 'r grawnwin, 'rhain sy yn tyfu

[td. 50]
ar y gwinwyd', ac yn cael mwyniant
yr wybren egored, ac etto, 'n oestad
ydynt ar ei gwyd' yn anffrwythlawn,
eb neb yn well erddyn: Erwyd'
paham y nefawl winllanwr,
a 'i dwg hwy i 'rr gwinwryf, y 'w curo,
y 'w sigio ag y 'w dryllio, nid er i
difa, eythr er i gwaredu oddiwrth
lygredigaeth, a halogiad trachwantae
bydol, ag fal i gallant ddwyn allan
win melys, a ffrwythau hyfrydlawn.
Eurwr, a deifl ddryll o aur,
i 'r ffwrn danllyd, nid y 'w yssu gan y
tan, ond y 'w burhau oddiwrth lygredigeth
sy ynthaw, ac fal i byddo
i bob peth syd' ynthaw, (rhwn nid
yw aur) losci ymaith gann y tan, a
myned yn lludw: felly, duw yw gof
yr aur, y byd yw 'r ffwrnais, adfyd
yw 'r tan, y ffyddlonieit Gristnogion
yw 'r aur, yr amhured' a 'r llwgr yw
pechod. Yr awrhon, duw a buriff ac
a lanheiff y rheini a berthynant iddaw
ef, oddiwrth bob bryche, a llygredigaeth,

[td. 51]
ac a 'i gwnaiff yn ogoneddus,
ac yn brydferth iddaw i
hun. Y Saer maen a dyrr y cerrig
cledion [~ caledion ], ac a 'i nad', peth yma, peth
ackw, peth ffordd arall, oni wneler
hwy, yn gyfleus ac yn gymwys i 'rr
man lle i gosoder: felly yn 'r vn
modd, duw 'r hwn yw 'r saer maen
nefawl, sy 'n adeilad eglwys ghristnogaid',
ac ef a 'n gweithia ac a 'n
addurniff ni rhai ym gerrig costus,
gwrthfawr drwy y groes ag adfyd,
fal i tynner ymaith pob ffieidddra
ac anwired', 'rhain ni chydgordiant,
a 'r adeilad ogoneddus honn. Drachefn:
mal i mae y lliwyd', a 'r vn sy
yn cannu lliain, a 'r olchwraig, yn
golchi, yn curo, ac yn gwascu y budron
a 'r aflan ddillad, fal i gwneler
yn wnnion, yn lan, ag yn gannaid,
felly i gwnaiff duw yn fynych o amser
a ninneu, er yn gwneuthur yn
bur, yn lan, ac yn ddifeius.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section