Adran o’r blaen
Previous section


[Teithie Syr Sion Mandefyl, Peniarth 218, 179–234.]


[td. 179]


llyma symeth llyfr o deithie Syr
Sion Mandefyl marchog vrddol,
wedi i gyfieithio o Saesneg yn
Gymraeg ar ddvll Araith ag a
elwir yr athro yma ef: yr ym
ddiddan
a vy rhwng yr holwr a 'r
Gigfran / a 'r gigfran yn adrodd
rhyfeddode tyrnassoedd y byd


yr holwr
Dydd da i ti y Gigfran
ple i buost o 'r wlad allan

[td. 180]
a phara wlad a gerddaist
er yr amser i 'th welaist

y Gigfran
Mi a euthum gann y moroedd
i lawer iawn o ynyssoed
i gael gweled rhyfeddode
mewn amryw dyrnasse
val ir oeddyn yn byw beunydd
ac I dull a 'i modd a 'i krefydd

yr holwr
Ir [~ er] Duw y Gigfran vwyndec
mi a warandawa ag a ro yt ostec
mynega dithe i minne
newyddion o 'r tyrnasse
a 'r ynyssoedd a gwledydd
gwnn dy vod yn gyfarwydd

[td. 181]
y Gigfran
Nid yw abl vy meddwl
i dreuthu i ti y kwbwl
a welais o ryfeddode
mewn llawer o dyrnasse
ond er hynny etto
taw a son a gwrando
mi a vynega i ti yma
am rai o 'r gwledydd penna
a llawer o ryfeddodau
hyd i del i 'm kof innau
Mi a veddyliais yn vynghalonn
am vynd i wlad yr Eiddewon
ac a gyfeiriais o 'm blaen
i vynd drwy wlad yr Almaen
ac euthym i vrenhiniaeth Hwngari
gann ystlys avon Danuwbi

[td. 182]
honn oedd vawr a chreulonn
yn mynd i 'r mor yn union
dec ar hugain o villtyroedd
i gwelid hi yn y moroedd
yn siwr yn ddigon garw
a hynny yn ddwr kroyw
Ac a hedais yn bybyr
hyd yngwlad y Groegwyr
ac a welais yr ymerodr yna
ynGhonstinobl y dref benna
yr honn oedd ddinas gaeroc
wedi i gweithio yn dri chorneloc
ac i mae braich o 'r mor
yn union ar i chyfor.
ac yn emyl honn yma
i bu /r/ hên Gaerdroea
Ac o amgylch y Groegdir
i mae llawer o ynysdir

[td. 183]
ac yn un o 'r ynysse
yr honn a elwir Lempne
i mae mynydd Athoye
yn llawer uwch no 'r kymyle
a chyfiwch a hwnn yma
yw mynydd Olympa
a chysgod y mynyddoedd
sydd ddec a thrugain o villtyroedd
Mi a euthym yn wysc ymhenn
hyd y ninas Phylistenn
lle lladdodd Sampson greulonn
y brenin a 'i holl weission
gann dynnu i lawr y ty
a lladd miloedd ar unty
Mi a glowsswn lawer o son
am y Sawden o Babilon
yr oedd ef yn orucha
ar saith vrenhiniaeth o 'r vath decka

[td. 184]
ac o vewn kastell Babilon
yr oedd wyth mil o wyr kryfion
yn kael kyfloc ac elw
am waettio ar y Sawden hwnnw
ond nid oedd ef yn kredu
ddim i 'r arglwydd Iessu
ac yn un o 'i vrenhiniaethe
yr oedd Kaerselem yn ddie
a 'r ddinas honn yma
oedd o vewn brenhiniaeth Dsuwdea
lle bu Grist a 'i ddisgyblion
yn pregethu i 'r Eiddewon
Ac i mae Kaerselem hithe
yn sevyll ymhlith brynnie
ac o vewn kaere y dinas honn
i mae mynydd Seion
ac yn agos atti
mae llawer iawn o drefi
sef Dserico ac Ebron
Barsabe ac Asgalon

[td. 185]
Dsaffe ac Aramatha
a dyffryn dsjaffata
ac ar ystlys y wlad yma
mae Oliver vynydd penna
ac i mae yn y ddinas honn
Iddewon a Christnogion
a 'r rheini ysydd beunydd
yn kanlyn amryw grefydd
Ac i mae Nazareth yn ddie
o Gaerselem siwrne dridie
i mae hevyd dinas Bethelem
yn agos i Gaerselem
Nid yw hi ond trefan
yn gyfing ac yn vechan
ond vo viasse gayre a chloddie
gynt o 'i hamgylch hithe
ac yr oedd o 'r naill ystlys
iddi hithe lan eglwys
ac arni lawer o binagle
a phedwar a deugain o bilere

[td. 186]
wedi i gweithio o 'i mewn yn bybur
o vain marbl digon pur
ac yn ymyl honn yma
yr oedd kwetkie o 'r vath lana
lle i rhodded barn yn erbyn
rhyw vorwyn o 'r dyffryn
a rhai oedd yn pennu
mewn godineb i bod yn pechu
ac a roed barn arni
ac erchi mynd a hi i 'w llosgi
Ac a roes hithe i gweddi
ar arglwydd yr arglwyddi
ar ddangos yn eglur
i bod hithe /n/ ddigon pur
a phann ddechreued gynnu /r/ tân
yn y vann vo ddiffoddodd allan
ac a dyfodd y koed krinion
yn rhos gwnion a chochion
Ac velly pawb a wybu
nad oedd hi ddim yn pechu

[td. 187]
ac val dyna y rhos kynta
ar a weled yn y wlad yna
Ac i mae /n/ dec dros benn
yr avon a elwir Urddonen
yn rhedec drwy y drysni
yn agos iawn at Bethani
A hevyd yn emyl Ierico
i mae /r/ avon honno
ac ynddi hithe yn ddie
i bedyddied prynnwr eneidie
Ac yn agos at hynny
i bu Grist arglwydd Iessu
ar y mynydd yn ymprydio
ddeugain diwrnod kynn i rwymo
Ac nid ymhell o ddyna
mae koedydd o 'r vath decka

[td. 188]
a ffrwyth arnun i 'w gweled
a 'r rheini /n/ ddigon addved
a phenn dorrid y prenn hwnnw
ni bydde ond glo a lludw
Ac yn agos at hynn yma
i bu Sodoma a Gomorra
Segor a Soloma
a hevyd tref Aldema
Y pum dinas hynny
a losgodd Duw ar unty
a than nefol a brwmstan
wedi i Lott a 'i verched vynd allan
A 'r pum dinas hevyd
a suddodd yn ddie enbyd
val na ellid mo 'i perchnogi
na mynd i 'r un o 'r rheini
A gwraic Lott oedd atkas
aeth yn garrec halen glas

[td. 189]
pann edrychodd ar y trefi
oedd o 'i hol yn llosgi
Ac yno mae /r/ mor marw
hwnn sydd vawr a garw
a heb vod yn bwhwman
o 'r vann hwnnw allan
a phob peth a el iddo
ni ddaw vo vyth o hono
Ac yn agos i 'r wlad honno
i mae ffynnon Iago
yr honn o 'i naturieth
a newid i lliw bedeirgwaith
Val i gwelo pob dyn
pedwar amser yn y vlwyddyn
weithie /n/ dew weithie /n/ eglur
weithie /n/ goch weithie /n/ wyrdd pur
A 'r Samaritans yn benna
sydd yn ruwlio y wlad yma

[td. 190]
ac i mae/n/ yn kredu /n/ dda
i Dduw byw gorucha
Ac yn agos i 'r dinas
honn a elwir Tyberias
y porthes Krist Iessu
y pum mil ar untu
Ar y pum torth vara
o haidd o 'r vath leia
gida dau bysgodyn
val i gwelodd pob dyn
A deuddec basgeded
i vyny /n/ llawn a goded
odd i wrth y rhai a viasse /n/ bwytta
wedi uddun gael i gwala
Ac yn y ddinas yma
y doeth rhai o 'r gwyr penna
ac a daflasson bentwynion
ar ol brenin yr Iddewon

[td. 191]
Ac pentewyn a dyfodd i vynu
wrth arch yr arglwydd Iessu
ac aeth yn brenn o 'r tecka
o vlaen i llygaid yna
Yno mi a euthum gan y moroedd
i weled llawer o ynyssoedd
mi a euthum ar ynghyfeirid
i dref Tansyro velly i gelwid
Yr oedd hi /n/ dec dros benn
ac yn i hemyl vrynn o halen
yr hwnn i bydde /r/ gwyr yn i geibio
pann vai raid uddun wrtho
Mi a euthym odd i yna
i gael gweled tref Gassa
honn oedd gyflawn o yd a gwin
ac ynddi y kyfarvu y tri brenin
oedd yn mynd i offrymmu
gynt i 'r arglwydd Iessu

[td. 192]
Mi a hedais yn gefnoc
hyd yngwlad Siob oludoc
honn oedd gyflawn o bob peth
i ddyn tu ac att i lunieth
Yr oedd brynnie yna
y byddid yn kael arnun vanna
hwnn oedd wynn ac eglur
a melussach no 'r mel pur
Mi a hedais yn union
i vrenhiniaeth Amasson
merched a gwragedd oedd yn tario
yn unic yn y dyrnas honno
A heb gymorth morr gwyr
yn i rheoli yn bybyr
a phenn chwenychen gwmpeini
hwy a yren dros vor heli
A hynny yn gyttun
i gyrchu gwyr attun

[td. 193]
ac ni chen hwy dario
yn hir o amser yno
Ond i gyrru yn union
i 'r un wlad ac i doethon
ac os meibion a vydde
i 'r un o 'r merchede
Ef a 'i gyrrid yn ddiame
i 'w dad yn siwr hyd adre
a phob un o 'r llanckesse
a vagen o 'r vath ore
Ac a ddysgen uddun seythu
i vyned i ryfelu
a chario ffonn a chledde
a tharian o 'r vath ore
A hynn yn enwedic
i bob merch vonheddic
i llosgid i bronn assw
i gario y tarian hwnnw

[td. 194]
Ac mi a gymerais hedva
ac a ddoethym i Ethiopia
ac yn y wlad honn
i mae /r/ bobl yn dduon
A llawer un o honyn
a aiff yn noeth lumyn
ac mae yno lawer dyn
heb ond un troed ganthyn
Ac ar y troed sy vawr a llydan
hwy a redan yn vuan
ac a 'i kode uwch i benn
rhac haul a glaw o 'r wybrenn
Ac yr oedd yno ffynnon
y dydd ni alle ddynion
un amser i phrofi
rhac maint oedd i hoerni
a 'r nos yr oedd hi kynn vrytted
val na alle neb i hyfed
Mi a hedais oddi yma

[td. 195]
hyd yngwlad yr India
ac yn yr afon ddyfnfawr
mae llawer maen gwrthfawr
Ac ynddi y mae hevyd
lysowod o bum gwryd
ac o vewn i hamgylchoedd
mae pum mil o ynyssoedd
Ac ymhob ynys o 'r rheini
mae llawer iawn o drefi
ac uwch benn y wlad honno
mae Sadwrn blaned yn ruwlio
Yno y doir i ynys Hermes
honn sy wlad vawr i gwres
rhaid i 'r gwyr a 'r gwragedd
vynd i 'r dwr i 'w gorwedd
i vwrw y gwres heibio
nes darfod i 'r dydd bassio
Ac yn yr ynys honn
mae llonge heb heyrn hoelion

[td. 196]
rhac ofn i 'r adamant gerric
i tynnu attun bob ychydic
Euthym i ynys elwir Lana
lle /r/ oedd brenin yn orucha
a hwnn nid oedd i ffydd o 'r gore
ond addoli y gau Dduwie
Yr oedd y brenin yn vynych
yn addoli delw gwr a 'i benn yn ych
ac yn addoli yn wastadol
pob anifel pedwar karnol
Ac i mae yn ynys Kana
lygod o 'r rhai mwyia
a 'r rheini oedd yn kerdded
yn gimin a bytheied
Ac o vewn fforest Tombyr
i mae llawer o bupyr

[td. 197]
ac i mae y fforest yma
o vewn tir Lomba
deg a deugain o ddiwrnodie
yw siwrne i hyd hithe
Ac yn agos iawn att honn
i mae pur ffynnon
kynn deked i harogle
a llawer o lyssieue
A phob awr a phob ennyd
yr oedd yr arogleu yn kyfnewid
a phwy bynnac vydde
ac a yfe o honi hithe
deirgwaith yn wir ddie
ai yn wych o bob klefyde
Mi a gyfeiriais yn union
tu a brenhiniaeth Mabaron
ac euthum i ddinas Kalami
y decka o 'r holl drefi

[td. 198]
Honn oedd vawr i hurddas
ac ynddi vedd sain Tomas
a 'r llaw oedd heb lygru
a vuasse yn ystlys Iessu
allan o 'r bedd yn ddilwgwr
drwy wrthie y kreawdwr
Ac o bydde ymrysson
am amryw vaterion
ef a scrifennid henw
y ddau barti hwnnw
A 'r kyfiownder hi a 'i dalie
a 'r kam hi a 'i gwrthode
ac yn y wlad honn
nid oes vawr Gristnogion
Mi a ddoethym i Lamori
honn sydd wlad vawr anneiri
ac yn y dyrnas honn
y mae /r/ bobl yn noethion

[td. 199]
Medd y bobl hynn yma
noeth oedd Eva ac Adda
ac velly kimin hun
ni wisgann ddim amdanun
Ac o vewn yr holl dyrnas
nid arferir o briodas
ond yr holl wrageddoedd
yn gyffredin i 'r bobloedd
Ac velly y wlad honn
sydd i gyd yn gomon
ac i mae yn llawn ynddi
yd aur ac arian heb ri
Yr ydis yn y wlad yma
kig dynion yn i bwytta
Ac yn union ar i chyfor
mae ynys a elwir Somobor
ac i mae y bobl hwythe
wedi markio yn i talkenne
I gael i adnabod
odd i wrth y bobl uchod

[td. 200]
ac i mae rhyfel kreulon
rhyngthunt wy a 'r bobl noethion
Mi a adewais y wlad yma
ac a euthym i ynys Iana
honn oedd vawr anguriol
ac ynddi vrenin reiol
Ac yr oedd dano ynte
saith o vrenhiniaethe
yr oedd yn tyfu yn urddedic
yno y sinsir a 'r Nytmic
A llawer o lyssieue
a 'r rheini o 'r vath ore
Ac i mae i blas hevyd
yn decka yn yr holl vyd
nid yw grissie i holl siambre
ond aur ac arian o 'r gore
A hevyd holl lorie
i neuadde a 'i barlyre
yn dec dros benn y 'w rodio

[td. 201]
o 'r un vettel wedi i weithio
Ac i mae i barwydydd
wedi i gweithio yn gelfydd
a hynn yn ddigon glan
o vettel aur ac arian
anodd gan neb i goelio
ond a vytho yn i rodio
Ac o vewn ynys Pater
o brenie i mae llawer
a ffrwyth y rhain yma
a vydd val peillied o 'r vath ffeindia
Ac a wnair o hono vara
val o 'r gwenith o 'r wlad yma
yn yr ynys honn yn enwedic
i mae llawer o goed gwenwynic
Mi a hedais ymhellach
i vrenhiniaeth Talonach

[td. 202]
o wragedd vo vydde i 'r brenin
y vaint a vynne yn gyffredin
Yr oedd yno ryfeddod
ef a ddoe yr holl bysgod
unwaith yn y vlwyddyn
val i kae pob rhyw ddyn
ddal y vaint a vynne
odd i ar y lann o 'r holl bysgode
Pob rhywogaeth ol ynol
a derien dridie yn wastadol
ac medde y bobl gyffredin
mae i addoli y brenin
yr oedd y pysgod hynny
yn dyfod yno velly
Ac yr oedd yn i veddiant
dair mil ar ddec o Oliffant
a 'r rheini o 'r vath ore
dygen gestyll ar i kefne

[td. 203]
Mi a welais ynys Melca
a hevyd ynys Tracota
lle /r/ oedd bobl anffyddlon
yn yfed gwaed y dynion
a llawer o honyn hevyd
ni vedren ddim o 'r doedyd
Mi a gymerais hedvann
i dir Makumeran
lle /r/ oedd anffyddloniaid
ac uddun benne bytheiaid
Ac i mae yn yr ynysse
wydde gwlltion a dau benne
a llawer o wiberoedd
a llawer iawn o nadroedd
Ac yn ynys Dodyn
byddir yn bwytta pob dyn

[td. 204]
a phann vo un marw
i ffreind a bair alw
ynghyd i gyfnesseivied
i vwytta i gig a 'i waed
os un o honyn ni ddaw yno
ni bydd o ffreind ddim iddo
Ac mewn ynys a elwir Raso
hwy a gymran y rhai gwedi klwyfo
ac a 'i krogan i vynu ar brenn
i gael o adar yr wybrenn
ddwad i vwytta hwnnw
kynn darfod iddo gwbwl varw
o herwydd maen /yn/ kredu
mae angylion yw /r/ adar hynny
Ac yn yr ynyssoedd yn emyl
mae llawer math ar bobyl
rhai o honyn heb ddim ffroene
eraill a llygaid i 'w talkenne

[td. 205]
eraill heb ddim penne
ar i dwyfron mae llygade
Mae yn emyl y wlad honn
ynys a merched a meibion
a 'r bobl yn rhyfedda
ar a vu er oes Adda
Mae gan bob un o honyn
ddeubar o drecks y 'w galyn
a hynn sydd ryfedd yn siwr
weithie /n/ wraic weithie /n/ wr
Mi a euthym i dyrnas Vansi
ac ynddi mae dwy vil o drefi
a 'r rheini o 'r vath lana
a 'r sydd ar y ddaear yma
Ac i maen yn doedyd
mae hi yw /r/ dyrnas ore yn y byd
ac o vewn yr India vwia
i mae y dyrnas honn yma

[td. 206]
ac i mae yno ieir gwnnion
yn dwyn arnun wlan ddigon
ac i mae dinas Kassai
o vewn brenhiniaeth fansi
a hyd y klowais ddoedyd
hi yw /r/ dref deka /n/ y byd
Ac i mae i chwmpas yn gyhoedd
yn ddec a deugain o villtyroedd
ac val y doeded i mi
mae mwy no deuddec porth arni
O vewn tair milltir at honn
i mae rhyw brif avon
ac ar i glann mae tref newydd
ac arni ddeuddeng mil o bontydd
Ac yn y dref honn
i mae llawer o gristnogion
yn i chadw yn gryfion
rhac ofn yr anffyddlonion

[td. 207]
Mi a welais wlad brenin Pigme
lle mae /r/ gwyr o dair troedvedde
ac hwynt yw /r/ gweithwyr gore
ar velfed a sidane
Mi a hedais yn union
hyd yn ninas a elwir Kadon
ac o amgylch honn hevyd
mae ugain milltir o hyd
A deuddec porth o 'r glana
y sydd ar honn yma
a honn sydd dref benna
i amerodr Kataia
Ac ynddi i mae i blas
a dwy villtir yw i gwmpas
a phedwar ar hugain o bilere
yn i neuadd o 'r aur gore
Ac i mae i steddva ynte
lle i bydd bob dydd yn eiste

[td. 208]
wedi i gweithio odd i wrth lawr
o aur a main gwerthvawr
Ac i mae i 'r amerod
dair o wragedd priod
a phob un o honun
yn eiste wrth i glun
yn wir mewn tair ysteddva
a 'r rheini o 'r vath ffeindia
Ac i mae i vwrdd bwytta
o aur o 'r vath bura
a grissie i holl eisteddva
yw main gwerthfawr o 'r rhai penna
wedi i gweithio yn addas
a pherl yn i kwmpas
Nid wyf abl i rifo
hynn sydd vn waetio arno
o dywyssogion a barwnied
a llawer o bennaethied
Y vo yw /r/ ymerodr penna
y sydd ar y ddaiar yma

[td. 209]
ac nid yw i ffydd ynte
ddim o 'r vath ore
Ac yn Assia ddyfna
i mae gwlad Kataia
ac i mae yn heleth
ddeuddeng brenin yn i goweth
yn waettio wrth i orchymun
pann alwo vo am danun
Nid yw y Prestr Sion
na /r/ Sawden o Babilon
nac ymerodr Persia
i elvyddu hwnn yma
Mi a hedais yn uchel
uwch benn avon Eckel
un o 'r avonydd mwia
a 'r sy /n/ y byd yma
Ac a ddoethym o Gataia
i goweth amerodr Persia

[td. 210]
a hwnn sydd yn odieth
yn rholi dwy vrenhinieth
Ac a hedais yn y mann
i dyrnas brenin Abkan
ac i mae gwlad yn y tir
a Hamson i gelwir
A thair milltir o honi
ni welir mo 'r goleuni
ac i mae kynn dywylled
na all neb ddim o 'i cherdded
Na dim a 'r sydd ynddi
ddyfod allan o honi
ond vo glowir weithie
megis llais keilioge
a meirch yn gweryry
a llais gwyr gida hynny
Ond mae llawer yn son
vod gynt ymerodr kreulon

[td. 211]
yn ymlid y Kristnogion
ar plaen a elwid Mecon
Ac a ddoethon hwythe
ac a syrthiasson ar i glinie
am vod o Grist yn prynnwr
uddunt wy yno yn helpiwr
Ac a ddoeth kwmwl o 'r awyr
ar yr ymerodr a 'i wyr
ac o vewn y kwmwl etto
mae rheini vyth yn tario
a hynn drwy wyrthie rhyfedd
o waith brenin y drigaredd
Ac yn nessa at hynny
i mae gwlad y Twrky
ac o vewn i holl bower
o wledydd i mae llawer
ac o vewn y wlad honn
mae llawer o drefi mowrion

[td. 212]
Mi a veddyliais yn ynghalonn
am weled gwlad y prester Sion
hwnn sydd ymerodr ucha
ar holl dir yr India
lle mae llawer o bethe
a llawer o vain gwrthie
Mae o vewn i dyrnassoedd
ddeg a thrugain o vrenhinoedd
a phob un o honun
bob awr wrth i orchymyn
Ac o vewn dinas Suwsse
mae i gwrt penna ynte
ac ar y twr ucha
mae dwy bel o aur o 'r fwia
Ac yn wir yn i hemyl
i mae dau garbwnkyl
a 'r rheini yn disgleirio
ymhell iawn odd i wrtho
Nid yw i byrth a 'i blasse
ond aur a main gwrthie

[td. 213]
y rhain sy ddierth i henwe
o vewn yn gwlad ninne
Ac i mae y meini hynny
y nos yn llewyrchu
val i tybid yn ddie
i bod yn ddydd gole
nid yw abl mo 'm ko
i ddangos y ganved peth sydd yno
Ac i mae yn i lys reiol
bob dydd yn wastadol
saith yn wir o vrenhinied
a deg a thrugain o ddugied
a thrychant yn ddiame
o ieirll yn i gwrt ynte
a deuddec archesgob
yn gwisgo aur ar i chob
ac o vewn y llys honn
mae ugain o esgobion
ac o serving men mae yno
ddengmil a thrugain yn waetio

[td. 214]
A phann ddel i ryfelu
dygir tair kroes yn i lu
wedi i gweithio yn bybyr
o vain gwrthie ac aur pur
ac yn waettio ar y kroesse
mae tair mil o wyr mewn arfe
A dwy ddesgil o aur neu o arian
bob amser o 'i vlaen a ddygan
ac ar un o 'r dysgle
mae aur a main gwrthie
i ddangos yr urdduniant
ar y sydd yn i veddiant
Yr ail ddesgil a ddygir
o 'i vlaen yn llawn o bridddir
i gydnabod wrth hwnnw
i vod ef yn bridd a lludw
A 'i vod yn enwedic
yn beth darfodedic
ac nad oedd i ddibenn
ond mynd i 'r ddaearen

[td. 215]
Ac i mae /n/ kredu yn gyfan
i 'r tad a 'r mab a 'r ysbryd glan
ac i Grist arglwydd Iessu
i vod ynte yn wir i 'n prynnu
Yn wir mae i wlad ynte
draed yn draed i ninne
ac i mae yn y wlad yma
vor o 'r vath ryfedda
heb un dafn dwr ynddo
ond tyfod graian a gro
Vo vydd yn treio a llenwi
val i gwelwch y mor heli
ac yn donne yn taflu
rhyfedd yw gwaith yr Iessu
Er nad oes ddwr ar i waelod
mae ynddo ynte bysgod
a 'r rheini o 'r blassussa
val pysgod y mor penna
Ac o 'i vewn mae kreigie
yn llawn o vain gwrthie

[td. 216]
Ac y tu hwnt i hynny
mae koed rhyfedd yn tyfy
yn dwyn ffrwyth beunydd
a hynny hyd hanner dydd
ac hwy a ddiflannan
o hanner dydd allan
Ac i mae ffrwyth y rheini
val na all neb i provi
a phen vo /r/ haul yn machludo
ni welir ddim o hono
Mi a vum yn rhef Affi
yr hynaf o 'r holl drefi
lle mae assen un o 'r Kowri
a deugain troedfedd o hyd ynddi
Mi a welais avon Belyon
a 'r ffos lydan a elwir Mynon
yr honn ffos o 'i gweled
mae ergid saeth ynddi o led

[td. 217]
yn llawn grafel yn disgleirio
a gwydyr gwynn a wnair o hono
Er maint a dynner allan
hi a lenwiff yn y mann
ac a vyddir o bell o wledydd
yn kyrchu hwnnw beunydd
A phob peth i mewn ar a fwrian
aiff yn rafel yn y mann
ac o 'i mewn yn wastadol
i mae gwynt anrhysymol
Minne a welais y bobl
yn y wlad a elwir Sinobl
y rhain oedd yn dra ffyddlonn
ac er hynny yn mynd yn noethion
Pann ddoeth Alexander attun
i geissio tyrnged ganthun
hwy a ddoedasson wrtho
i kae vo yr oedd i 'w geissio

[td. 218]
Ond ystyn o hono yntey
ddydd i hoedl hwythey
a hynny yn wir nis galle
er maint i holl dyrnasse
Pam yr wyt yn rhyfely
hebr y bobl hynny
i ynnill i ti y kwbl
oni elli ystyn dy hoedl
ac wrth yr atteb hwnnw
vo gavodd y wlad i chadw
Ac ar lann avon ffyson
mae glynn yn llawn peryglon
nid abl neb i 'w drafaelio
rhac kythreilied yno yn rhuo
a thymestloedd a tharane
yn wastad o 'i mewn hithe
Mae llawer yn doedyd yn wir
mae drws uffern i gelwir

[td. 219]
ac i mae honn yn llawn
o aur ac arian ddigawn
Ac i mae llawer dyn
o chwant yr aur melyn
yn mynd i honn yn vuan
ac ni ddon hwy vyth allan
Ac yn agos at honn yma
mae gwlad a gwyr o 'r mwia
wyth ar hugain o droedfedde
yn wir yw i hyd hwythe
Ac mewn ynys mae merched
a main gwerthfawr yn i llyged
a phan von yn ddigllonn
hwy a laddan wyr a 'i golygon
Ac i mae gwlad arall
a hynn ir wyf yn i ddeuall
a wna lawer o riddvan
pann aner dyn bychan

[td. 220]
Ac yngwrthwyneb hynny
pan vo ef yn trengy
hwy a vynan gerddorion
ac a vyddan lawen ddigon
A phann vo ef marw
hwy a losgan i gorff yn lludw
o herwydd hwy a ddoedan
pan aner y dyn bychan
i vod ef yn wir yn dyfod
i lawer o boen a thrallod
A phann ymadawo ac yma
i vod yn mynd i esmwythdra
lle mae bowyd a heddwch
a hwnnw /n/ llawn digrifwch
A phette yno y brenin
yn lladd un o 'i gyffredin
ni chae mo 'r llunieth i 'w brofi
na neb yn i gwmpeini
Ond i gadw ef velly
yn wir i hir nychy

[td. 221]
ni alle goweth nac arglwyddiaethe
ddim o 'r help iddo ynte
Mi a welais ynys dda iawn
ac ynddi bobyl yn gyflawn
nid ydyn yno yn arbed
ddim o briodi i merched
Ac yngwlad Arabia
mae anifel o 'r vath decka
ac i mae iddo ynte wddw
ac ugain kufudd o hyd yn hwnnw
ef a gyfyd i benn
uwchlaw pob nenbrenn
I mae yn y wlad honn
ynifel a elwir Kamelion
a hwnn nid yw ond issel
ac ni chymer ddim o 'r vittel
a 'i liw yn kyfnewidio
a hynny pann i mynno

[td. 222]
Mae yno ynifel a elwir Lanhoren
a thri chorn yn i dalken
a 'r rheini sydd yn ochroc
val kledde llym dauvinioc
ac a 'r kyrn hynn yma
vo ladd yr Oliffant kryfa
Mae yno ynys hevyd
a 'r bobl dduwiola yn y byd
a 'r ynys a elwir Bragamon
eraill a 'i geilw yr ynys ffyddlon
Ac i maen kimin un
yn kadw y decgorchymun
ac o vewn yr holl wlad
nid oes odineb na lladrad
Ac o vewn i holl drefi
nid oes drais na lladd na llosgi
ac o gwmpas i therfyn
nid oes un kerdottyn

[td. 223]
A rhac daied ydiw hithe
ni bydd yno vellt na tharane
na rhyfel na dim newyn
na thrwbleth ar un dyn
Ac i mae yn ddigon tebic
i bod gan Dduw yn ddewissic
mae i kredinieth a 'i meddwl
ar y gwr a wnaeth y kwbwl
nid addolan mo 'r delwe
na chwaith mo 'r gau Dduwie
Ac o vewn i holl goweth
yn gyffredin mae pob peth
ac yn hynn o randir
mae /r/ bobl yn byw yn hir
A phan ddoeth Alexander a gyrru
i 'r wlad honn i 'w gorchvygu
hwy a ddoedassan i 'r kennade
nad oedd mo 'r koweth i 'w meddianne
ond koweth yr holl wlad
oedd heddwch a chydgordiad

[td. 224]
Nid oedd yno mor afrad
ar ymdrwssio mewn dillad
i ddangos y korff yn degach allan
nac i gwnaethe Duw i hunan
A phob da yn gyffredinol
tu ac att i llunieth korfforol
nid oedd arnun eissie brenin
i reoli mo 'i kyffredin
na chwaith mo 'r kyfreithie
am nad oedd dim trespasse
Pann glybu Alexander hynn yma
vod y bobl o 'r vath Dduwiola
ef a ddyfod wrthun
tra voch yn byw mor gytun
ni chaiff neb o 'm gwassanaeth
wneuthur arnoch drwbleth
Mi a hedais yn y mann
i vrenhiniaeth Taproban

[td. 225]
ac yn y dyrnas honn
i gwnair brenin wrth elecsion
Ac yn y wlad honn yma
mae dau Aiaf a dau Ha
ac yn medi i hyd yn ddie
yn y vlwyddyn ddau o amsere
ac yn vlodeuoc y gerddi
bob amser o 'i mewn hi
Mae dwy ynys i 'w gweled
a elwir Oriel ac Arged
ac o 'i mewn ymhob mann
mae mwyn aur ac arian
Ac o vewn yr ynysse hynny
ni welir mo 'r sêr yn llewyrchu
ond un seren yn glir
a Chanapos i gelwir
a 'r lleuad ynddi ni lewyrcha
ond yn unic y penn diwaetha

[td. 226]
Ac nid ymhell o 'r rheini
i mae kreigie a drysni
a brynnie a chorsydd
ac yno heb liw dydd
A 'r rheini yn anguriol
hyd ymharadwys daearol
yn lle bu Adda ac Eva
yn wir kynn i dyfod yma
Ac ir ydis yn siarad
i bod hi yn uwch no sicl y Lleuad
val na allodd dwr Noe
dyfod kyfiwch a hithe
Ac ynghanol y Baradwys honn
maen yn doedyd vod ffynon
ac mae /n/ rhedec yn vuan
bedair avon o honi allan
Ac ar i gwaelode
mae llawer o vain gwrthie
maen yn rhedec beunydd
drwy lawer iawn o wledydd

[td. 227]
Mae llawer iawn yn son
am yr avon Ganges ne ffyson
sydd ac aur ynddi heb ri
mae lignwn aloes ynddi
A 'r rhann vwyiaf o 'i graian
yn vwyn aur ac arian
ac i mae honn yma
yn rhedec drwy dir yr India
A henw yr ail avon
yw Nilws ne Gyron
ac yn rhedec y mae hithe
trwy Egipt ac Ethiope
A 'r drydedd yw Tygrys
honn sydd yn rhedec ar vrys
trwy wlad Assiria
a thrwy vrenhiniaeth Armonia
Ewffrates yw /r/ bedwaredd
ac arni mae llawer o rinwedd
a honn mi a 'i doeda
i bod yn rhedec drwy Bersia

[td. 228]
Val dyna henwi yn gymwys
y pedair avon o Baradwys
ac o 'r rhai yma a henwyd
mae dwr kroiw yr hollvyd
Ac i vynd i Baradwys daiarol
nid abl un dyn bydol
gann y kreigie a 'r drysni
a henwais o 'r blaen i chwi
Na hyd yr un o 'r afonydd
nis gellir yn dragowydd
gann y tonne odd i ar greigie
yn rhuo yn dy glustie
a hynny yn dragowydd
o waith Duw yn dovydd
Efe a wyr bob bachgen
pob peth o vewn Rhuven
val i maen yn byw beunydd
ar i dull a 'i modd a 'i krefydd

[td. 229]
Ac wedi i mi weled y kwbwl
mi a ddoedais yn vy meddwl
nad oedd y byd yma
ond kalun kybydddra
A bod chwant anrhysymol
am ynnill koweth bydol
a balchder a chenfigen
dros wyneb y ddaearen
Godineb a medddod
yr oedd pawb yn i adnabod
yr oedd yn ddigon gole
anudon ymhob rhyw le
A phob gradd yn gyfan
oedd yn treissio y dyn truan
val pettwn yn i henwi
o radd i radd bob un i ti
Val dyna ddangos i ti stil
val pettwn inne Mawndvil
yr holl wledydd a 'r tyrnasse
yn wir a welais inne

[td. 230]
Kynn vyrred ac i gellais yn siwr
rhac ofn blino y darlleniwr
a minne /n/ wir wedi blino
rhac maint y siwrne honno
A phob un a 'i darllenio
kymred hynn dann a dalo
heb edrych ar i veie
er bod ddigon iddo o le
Ac velly yr wf [~ wyf] i y gigvrân
yn kanu ffarwel i ti yr owran
hyd oni welwy di etto
Duw gida thi vyth a drigo

yr holwr yn doedyd bellach
Ac wedi darfod i 'r Gigvran
ddangos i mi i hamkan
ynghylch y bobloedd a 'r nassiwne
oedd mewn amryw dyrnasse

[td. 231]
A 'i dull a 'i kyneddve
gida llawer o ryfeddode
a bod yr holl vyd yn gyfa
yn llosgi mewn kybydddra
A phob dyn yn heleth
yn karu /n/ vawr gybyddieth
a chariad perffaith wedi boddi
a chydwybod gida hi
Ac yn wann iawn y ffydd
y mysc y bobl beunydd
minne a glowsswn vynegi
er ystalm hen ystori
Val i mae y kythreliaid
a chanthun dair o bele euraid
y 'w taflu yn ddiamme
i dwyllo /r/ holl eneidie
Ac o 'r tair pel yma
Godineb yw /r/ bel gynta
ac ef a 'i teifl yn heleth
i ddyn yn i vabolaeth

[td. 232]
Balchder yw /r/ ail bel
sydd anodd iawn i gochel
a deifl y kythrel elyn
yn wroldeb i ddyn
A 'r ddwy bel uchod
sydd anodd iawn i gorfod
ond trwy gyffes ac edifeirwch
a 'r rheini a wna tegwch
Gida lussenau a cherdode
i helpio yr eneidie
a hynny a 'i rhyddha
odd i wrth y ddwy bel yma
A 'r drydedd bel gocheled
honn sydd drom a chaled
i mae yr uffernol gythrel
yn i thaflu yn ddiogel
A honn sy ddrwc i braint
a vwrir o vlaen henaint
oni bo dyn o 'i vewn yn llosgi
rhac maint i awydd iddi

[td. 233]
A henw y bel yma
yn wir yw kybydddra
a phwybynnac ni orchvyga
y bêl yma a 'r ddwy gynta
Ef a gyll yn dragwyddol
holl lawenydd tyrnas nefol
i 'r honn dyrnas yn ol trengu
dyger ni gan Grist Iessu / Amen.

Ef a wnaethbwyd ac a ysgrifenwyd
yr araeth vchod y
dydd diwaethaf o fis mihefin
oed krist yna /1586/ gann Rissiart
ap Sion (o lanngynhafal ap
Rhobert ap Grvffydd ap llewelyn
ap Einion) allan o lyfr mawn
[td. 234]
defil /

pob peth diniwed sydd dda
o flaen yr owdvr penna /
Terfynn y /22/ die o Chwefror
oed krist /1610/

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section