Adran o’r blaen
Previous section


[llyma yr ymddiddan a fv rhwng yr wttresswr ar Dyllvan, Peniarth 218, 153–78.]


[td. 153]


llyma yr ymddiddan a fv rhwng
yr wttresswr a 'r Dyllvan./


yr Wttresswr./
A m'vi [~ myfi] /n/ mynd yn dra dwrstan:
blygeingwaith o 'r ty tafarn,
yn ddisymwth klown dylluan
a 'i dau lygad sowserdan.
i 'm kyfarch yn dra uchel;
yn debic i siowt medel.

[td. 154]
yn ol hynn gwrandewch chwithe
morr ddiflas wrthyf i doede.

y Dyllvan./
Rhwyddynt rhagot overwr;
a hyd y nos wttresswr.
mynd ir wyt yn ddigynnwr
erbyn y dydd i gudd val anwr.
deuwell itti a vyasse,
vod yn sychion draed dy sane [~ hosanau]
heb gydnabod dy rinwedde
er dy vod dros dy ysgidie [~ esgidiau].

yr Wttresswr./
Dy drwst a 'th lais eiddiges [~ eiddigus]
mor ddisymwth a 'm hofnes
kynn dy vyned i 'th loches
dowaid i mi beth o 'th hanes

[td. 155]
ple i buost er dechreunos,
a phara vann yr wyt yn aros:
a hevyd dowaid yr achos
y dydd nas gelli ymddangos.

y Dyllvan./
Mi a vum yn ddiniwed
lle ni biasse [~ buasai] waeth vy ngweled
er bod vy llais yn oer i glowed
ni pherais erioed i neb golled.
achos vy mod yn wirion,
adar y byd sy /n/ greulon:
rheir a vydde /r/ ymadroddion,
sydd yn dangos yr achossion./

yr wttresswr./
Ti a vuost mewn klydwr,
heb gennad i 'r meddiannwr:

[td. 156]
nid ir [~ er] lles iddo yn siwr
ond er llenwi dy gwthwr
yr owran rhac dy weled
i ryw geubren ir wyt yn myned
mi a 'th adwen wrth dy lyged
nas gellir i ti mo 'r ymddiried.

y Dyllvan:/
O bum mewn tai gweigion
heb wybod y 'w perchnogion
kefais lunieth yn dda ddigon
heb ddifa bwyd kristnogion
yn wttressa dithe a vu
dros dy blant heb ovalu
kymer rybydd i edifaru
rhac i 'r kythrel dy orchvygu./

yr Wttresswr./

[td. 157]
Vy mhlant a liwiaist [~ edliwiaist] i mi
rhyfedd gennyf a ddoedi
ni biasse [~ buasai] waeth i ti dewi
byw /r/ wyt mewn tylodi./
a minne sydd yn ddiveth
yn aml iawn vy nghoweth
i ventimio [~ faentumio] vy nghwmpnieth [~ nghwmnïaeth]
yn gynt noc i wrando pregeth
i mae hynn yn ddewisedic
gan nad ydiw /r/ byd ond benthic

y Dyllvan./
Vy nhylodi /r/ wyt y 'w liwio [~ edliwio]
a 'th goweth yr wyt y 'w fostio
mae dy wraic a 'th blant heb huno
eissie rhann a vuost y 'w drelio
y kydymeth gwrando arna
eiste i lawr wrth dy ysmwythdra
dowaid yr achos o 'r dechreuad

[td. 158]
pam i rhoddaist serch a chariad
ar gwmpnieth [~ gwmnïaeth] mawr i afrad
mewn hir amser heb ddiwygiad
mae /n/ beryglys y diweddiad
twyll y kythrel a 'i vwriad
y 'w keissio hudo dyn yn wastad
i 'w dragwyddol distrowiad

yr Wttresswr./
Kynn vy myned ymhellach
di a gai rann o 'm kyfrinach
wrth gwmpnieth [~ gwmnïaeth] i kair kyfeddach
ac wrth yfed vwynach vwynach
kynta gwaith pan godwn
rhodio allan i 'r gwndwn
a rheir a vydde dybygwn
i 'r dafarn oni ddelwn
kael y gwr yn voessol iawn
a 'r wraic yn llaes i rhawn

[td. 159]
a chwrteissi mawr a gawn
a 'r vorwyn yn llawen ddigawn
yn y mann a 'r pott yn llawn
a minne y 'w plith val penn y dawn./
gwneuthur i mi vawr ufudddod
y kwpan a 'r tost yn barod
gwedi rhoddi yn y ddiod
a gar fy mronn i gossod
vy nghymell nid oedd orfod
y 'w hyfed hyd y gwaelod./
gossod i mi ar vrys eisteddle
kadair a chlystoc o 'r vath ore
bwrw heibio vy ysgidie [~ esgidiau]
i gael twymno vy sodle./
difyr iawn y llynn oedd i mi
yn fy slippers a 'm brafri
yn aros y kwmpeini
y tan yn ffres yn llosgi
a 'r wraic yn vwyn a heini
mynd a 'r pott drachefn y 'w lenwi

[td. 160]
a chynn i bod yn hanner dydd
kael kymdeithion yn ddirybydd
gwledd vwyn a gloddest ddibrydd
a gwyr o gerdd yn gelfydd
a ddoe yno /n/ ddigon ufydd./
i chwanegu vy llawenydd
a chwedi darfod i 'r dydd bassio
a than a chanwyll i oleuo
kael telyn rawn a 'i chweirio
a phawb ar hwyl pennillio./
nid oedd raid vynd i 'r ysgol
kynn kael dyri a charol
o law i law i roi /r/ delyn
i gael isgower ac englyn
ac nid hwyrach kynn ymado
gaffel llankes lân y 'w theimlo
ac o bydde dyn afrolus [~ afreolus]
i 'n plith a bod yn gekrus
ni chae yno ond byrr ddewis
pawb a 'i afel yn i lewis
a thros y drws yn drefnus

[td. 161]
i daflu nid oedd happus
a chau /r/ drws a 'i adel allan
heb wrando ar i gwynvan
a ninne wrth y tan
yn tossio pawb i gwpan
torri knau a rhostio avale
a 'i bwrw i 'r kwppane
a rhai yn knoi kackenne
heb vwytta dim er y bore
rhai /n/ ufudd a save
amgylch bord i driglo [~ dreiglo] dissie
eraill ynghyd a eistedde
o ddechreunos hyd y bore
a llawer ymrafel chware
a 'r dabler a brithion gardie
rhai yn ddifyr i chwedle
a rhai /n/ troedio downssie
rhai yn garedic ddigon
yn yfed iechyd ffyddlon
at i ffreinds a 'i kymdeithion

[td. 162]
a throi kwppane yn sychion
eraill ar lawr heb wyro
troed wrth droed yn karwsio
a rhai ydoedd yno,
yn yfed y Tabacco [~ tybaco]:
eraill wedi twmno [~ twymno],
o gredicrwydd [~ garedigrwydd] yn wylo./
a phawb i 'r pott a 'i vendith,
gwell ffrwyth y brâc no 'r gwenith:
bychan a mawr oedd i 'n plith,
yn dewis kwrw o vlaen llefrith.
ac yno ir af beunydd,
lle keir ymrafael ddiodydd:
ac yfed mewn llawenydd,
nas gwnn ragor rhwng nos a dydd./
ac val dyma i ti /r/ arfer,
a vydd i 'n plith bob amser:
a mwy no hynn o lawer,
o ddigrifwch a mwynder./
ar nas galla mo 'i treuthu

[td. 163]
mae /n/ pwysso arna y gysgu
bydd vodlonn ar hynny
kais dithe vynd i 'th letty.

y Dyllvan./
Paid a 'th gychwyn aros gwrando,
yr wyt yn gadel mwy /n/ ango:
yr hynn gore yr wyt y 'w vostio,
a 'r gwaetha heb son amdano.
hynn yr ydwy y 'w gyfadde,
angenrheidiol vod tafarne
pann vo dieithred ar i siwrne
i gael lletty a 'i kyfreidie.
A llawer o achossion beunydd
sydd i bobl y gwledydd
i gyfarfod nos a dydd
rhai /n/ llawen rhai yn brudd.
Gadwn heibio yr achossion
trof i goffa dy gymdeithion

[td. 164]
modd i gwelais yn greulon
gwedi yfed mwy na digon
mewn tafarne y bum ine
vagad o nosweithie
yn llechu ar y trowstie
ac yn gweled diflas bethe
gwelwn rai ar y llorie
yn llithric iawn i ysgidie [~ esgidiau]
ac od oeddyt ti un o 'r rheini
rhyfedd dy vod yn gallu kodi
gwelwn rai gwedi ymliwio
er dechreunos gwedi brwysco
ac nis gwyddwn ar fy llw
beth oedden ai byw ai marw
gwelwn rai gwedi ymystyn
tann y bwrdd i gael y kyntyn
av vo ddoede gwraic y ty
i bod gwedi bwrw y vyny
gwelwn rai yn ymlusgo
at y gornel i bisso

[td. 165]
a merch y ty a ddoede
ddarfod i ryw un ddwyno [~ ddifwyno] i sane [~ hosanau]
gwelwn rai val gweission gwchion
wedi ymwisgo i 'r un goron
wrth yfed mynd mor gryfion
dim wrthynt nid oedd Samson
gwneuthur dwndwr dilio byrdde
nid oedd wr heb dyngu llyfe
bost a ffrost pwy waetha i grefydd
tybio i gellynt ysmudo mynydd
bydde vagad o 'r kwmpeini
gwedi myned i 'r prenn digri
rhoi mowrllw i lladd a 'i llosgi
nad oedd i bath yn rhodio trefi
rhai oedd a chalonne feilsion [~ ffeilsion]
yn adroddi geirie duon
eraill heb i diodde
oedd yn taflu godardie
kynn diwedd y noswaith ddigri
gwelwn daflu kannwyllbrenni

[td. 166]
klown rai dann i dwylo
gore i gallen yn ymddulio./
Ac y 'w plith yr oedd llawer och
yn waeth i sutt no chwn a moch
ac yn debic yn y diwedd
kyd rhyngthunt vod kelanedd./
Gwelais yno rai /n/ chwaryddion
yn kario dissie ffeilsion
wrth ymddadle i tyfe geckri
weithie yn anodd iawn i rholi [~ rheoli]./
A rhai o 'r chwaryddion kardie
yn ddrwc i harfer weithie
er bod i 'm ko [~ cof] i treythu
nid yw /r/ amser yn gwasneuthu

yr Wttresswr./
Gwell i gwedde i ti o geubrenn
roddi kreglais oer aflawen

[td. 167]
ne bigo nyth llygoden
na chwmpnieth [~ chwmnïaeth] pott a chacken.
Ne lechu mewn hen graic
oni byddech di gwmpniwraic [~ gwmniwraig]
ni wyl vy ngolwc garrec sarn
ond a 'm dycko i 'r dafarn./

Y Dyllvan.
Pe bai lygoden wenwynn
ni ladde ond korff wrth dorri newyn
kwrw a ladd enaid dyn
ni llai syched un gronyn
ac os kaiff y korff a chwenych
vo ddwc yr enaid i hirnych
Er bod vy ngreglais [~ fy nghreglais] yn dwyn rhagor
mi a roddwn i ti gyngor
na vynn yfed ytt yn dryssor
ac os e bydd gwac d' ysgubor

[td. 168]
yr Wttresswr:
ffei ffei o 'r kyngor hwnnw
nis galla vyth i gadw
lladd vy nghalon yn varw
oedd vod yn hir heb gwrw
Vy nghymale a gydgordian
ac i 'r dafarn i 'm dygan
val dyna glefyd glan
gael o 'r galon i hamkan

y Dyllvan./
Pum synwyr a roed itti,
yr un weithie nis meddi:
eissie medryd i rholi [~ rheoli],
wrth gael y byd mor ddigri:
Korff ac enaid yn kolli,
heb drugaredd Duw keli./

[td. 169]
Yr wyf vi /n/ ofni wrth dy dremyn
vod ynot ti anffortyn
y kwrs hwnn paid a 'i ddylyn
onid ef vo ddaw i 'th erbyn.

Yr wttresswr./
Anras i 'th doppan karth
byddi hyd y nos yn kyfarth
vo 'th glowir hyd Deheubarth
a byth ni byddi diwarth
A minne sydd gwmpniwr [~ gwmnïwr]
kaf gadair a than mewn Parlwr
a 'r kwbwl val i doedais
gida morwyn lan a hoffais

Y Dyllvan./
Diwarthach wyf yn wir
na thydi wttresswr dihir

[td. 170]
gwaetha i mi a edliwir
mae Tylluan i 'm gelwir
Duw a roes i mi naturieth
i gael vy mowyd heb goweth./
Nid gwaeth i mi dewi
na cheissio dy gynghori
dy rwysc dy hun a vynni
yr hwnn sydd i 'th dylodi./
Meddwl hynn dy hunan
gormod serch i verch a thafarn
peri deubeth trwy vawr ogan
y pwrs yn wâg a 'r kefn yn wann./
Y nos pann vo hi yn rhewi
kwyno a wnai rac oerni
mae arnatti veie
na 'm wrandewi a 'th ddolurie
ac ni wyddost di gan veddwi
vod dy draed yn magu y dropsi./

Yr wttresswr./

[td. 171]
Tro yn d' ol i vynd i geubrenn
ynghroc [~ yng nghrog] i bych wrth wden
mae vy mhenn yn drwm greulon
a dolur mawr i 'm kalonn./
A 'm koesse wrth i teimlo
mi a 'i klowa megis chwyddo
Duw Iessu o 'r nef a 'm katwo
rhac ovyn itti vy wittsio./

y Dyllvan./
Y dafarn sydd i 'th wittsio
a 'r kwrw sydd i 'th hudo
ni all dyn am a gasglo
gwneuthur gwaeth no 'i overdreilio
drwy ffolineb a gwagedd
y 'w anrheithio yn y diwedd./
Drwc yw ymarfer a gormod chware
gwaeth wttressa mewn tafarne

[td. 172]
kwmpnieth [~ cwmnïaeth] nid wyf yn gwadu
mewn moddion sydd y 'w garu
wrth i pic a 'i penn a 'i adenydd
adweinir yr adar beunydd./
Wrth dy voddion ir wyf yn gwybod
vod dy serch a 'th chwant i 'r ddiod
dy ddifyrrwch a 'th lawenydd
yw meddwi /r/ nos a chysgu /r/ dydd./

Yr Wttresswr./
Aro gwrando y dylluan
er vy mod yn dyfod o 'r dafarn
yr wyf yn medru y ffordd a 'r llwybre
yn union i vyned adre
ac nid oes mo 'rr achos hwnnw
i ti ddoedyd vy mod yn veddw./

Y Dyllvan./

[td. 173]
O gyfrwystra yr wyt velly
yn ymlusgo adre i gysgy
i mae eraill o 'th gymdeithion
wedi ymdreiglo dros y lledfronn
Ac od ydoedd dim y 'w dwylo
rhoesson ergid iddo heibio
ar hynn vynycha y byddi dithe
heb vedry myned adre
Ymorweddiad pawb o 'r untu
o vewn y dafarn obru
heddiw nac yfory
nis down i o benn o 'i treuthu./
A phwy bynnac a hir ddilyno
hynny vydd ydifar [~ edifar] iddo
os gelli aros etto vunud
mae rhagor gennyf y 'w ddoedyd
Modd i bum yn llechu weithie
yn gwrando ar gadw dadle
mewn sir gwtta a hwndryde
ac eraill o 'r mân gyrtie.

[td. 174]
Pob baili yn ddichware
yn rhoddi i lawr i dyfynne
parod oedd y sierri yno
o vewn i lyfr y 'w hentrio./
Gida hynny i klown ostegion
a dechre galw yr hen gwynion
rhai /n/ kolli dirwyion
eraill yn taflu adswynion./
A rhai yno o ddifri
yn krio am gael kopi
yr oedd eraill ar i tro
yn taflu arian ymparlio./
Mynne rai eitha kyfraith
kontinuwio ac adswyn talaith
hynn oedd y 'w plith o gelfyddyd
nid wyf abl byth y 'w ddoedyd
A 'r hen gwynion er ystyddie [~ er ys dyddiau]
oedd yn myned a 'r deuddege
a 'r rheini val i derfid
yn dwod [~ dyfod] i mewn a 'i verdid

[td. 175]
Rhois inne vy nghlust i wrando
ar y kwynwr yn declario
y rhann vwya o achossion
a 'r a glowais i o gwynion
am waith wttresswyr yn ysgorio
y tafarnwyr oedd yn kwyno.
O chait ti a 'th vath ych kredu
hyd dydd varn nis mynech dalu
nes goresgyn drwy gyfreth
a dybly /r/ gost /n/ helaeth.
Kynn diwedd hynn o ymswn
gwneuthur presseb i gwelwn
a chael y baili /n/ dalgrwnn
i wneuthur y sekissiwn./
A myned yn ddigynnwr
i 'r karchar a 'r wttresswr./
ac o bydde gantho arian
mewn amser i kae ddwod allan./
Os heb arian y bydde
kyfing iawn oedd i gyfle

[td. 176]
heb chwerthin na chwarau
ac aros yno hyd angau
y kyffelib gochel dithe
ymgroessa rhac tafarne./
yn ol hynn doed y ddelo
mae /n/ rhaid i mi ymado
kwad [~ cyfod] bellach dithe i vynu
os kyrheuddi adre i gysgu.
Ac ar hynn ffarwel wttresswr
mae /n/ ddigon drwc dy gyflwr
mi a 'th wela /n/ magu haint
ni byddi varw byth o henaint
Y gwr a 'th wnaeth a 'th mendio [~ emendio]
ni alla mwy mo 'r trigo
nis kyrhaedda vynd i 'm lletty
mewn rhyw berthen rhaid ymlechy./

Yr Wttresswr./

[td. 177]
Y Dylluan kai dy ragor
rhof ytt ddiolch am dy gyngor
Duw a rotho /r/ gras i minne
i ymadel a 'r tafarne.
Ac am a wneuthum o gamwedde
dymuna ar Grist i madde
a chann ffarwel i ti a rodda
dy lais byth nis digara
Nid oes ederyn i ti /n/ gymar
mor ddiniwed ar y ddaear
llyma ddiwed hymn o 'mddiddan [~ ymddiddan]
rhwng wttresswr a 'r Dylluan
Sawl a vynno hynn y 'w glowed
a gwr gweddus ymaroled
dwys i 'r kwppann y rhydd ddyrnod
a hynn i mae y 'w gydnabod
A darlleniwr Kymraec weithie
a swrn gyfarwyddyd mewn iache
mae rhinwedd hevyd arno
nid yf gwrw ond pan gaffo

[td. 178]
terfyn hynn yn siwr./
hebr Tomas y darlleinwr./

Tomas y Darlleinwr /a/ kant./
Ac fal hynn y terfyna yr ymddiddan
hwnn rhwng yr Wtresswr
a 'r Dvllvan, Ddywllyn kyntaf
o 'r Grawys glan oet krist
1610./

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section