Adran o’r blaen
Previous section


[Araith ddichan i'r Gwragedd, Peniarth 218, 79–95.]


[td. 79]

Araith ddichan ir Gwragedd

Rryw i wraig o naturiaeth
fod yn rrwym i wassanaeth
yn falch yn greulon odiaeth
ni wyr reswm na chyfraeth

[td. 80]
na rrol nag iawn lywodraeth
gwneuthyr bost oi chenysgaeth
eskluso pob ffordd berffaith
a dilyn llwybrau diffaeth
Ni wna ddim yn ei amser
ni cheidw gymhedrolder
ond gorwedd pann ei llocher
a neidio pann gynhyrfer
naws tan gwnias pan lidier
naws yr ia pan dristaer
ni wna ddim pann ddamuner
ond gwrando geirie over./
Oth gar hi ath gar yn rryfawr
ne hi ath gashaa hyd elawr
ni wyr vessur na rragawr
ni sai /n/ ei chower deirawr
O chais ddwyn klod am sadrwydd
hi a wna wyneb trist afrwydd

[td. 81]
yn sur yn ddrych ffyrnigrwydd./
O chais fod yn gellweirus
yn vwyn yn ymadroddus
hi a yn vyrsen wagsawys
gymhenffol ry siaradus
Knawd i wraig anwadalu
wylo awr a gowenu
weithie yn ddoeth weithie ynfydu
Ofni yr drwg ai anturio
mynn, ni fynn a wyllyssio
gwrthod kymeryd a garo
kaffel weithie nis gwnelo./
Llawn yw gwraig o ddryg addysg
ofer // a thafod gymysg
ai chogel ne ai byrllysg
hi a gur Arthur mewn terfysg

[td. 82]
Diriaid fydd ag afradlonn
anwastad gwag a chreulonn
llawn klatring a chwynionn
rroi swyddau mwy no digon./
Llawn vydd gwraig o darhustra
o drais a rrwysg a thraha
kenfigen a chybydddra
gwemal a rry ysmala
chwannog i wneuthr dirdra
hau kelwydd ag wttressa
ni rrydd ysbaid i ddiala
Diog ffrom anioddefgar
a thra chostus yw chymar
hwy y pery ei llid noi galar
lle nis gwedd y bydd hygar
lle y gweddai rry anhowddgar
swynfedr a chyfareddgar
Chwannog i gael anrrydedd

[td. 83]
ysgafn don llawn o faswedd
llattai glud llawn o daeredd
hir y pery ei chynddrygedd
o thebyge i kae fowredd
nid rraid hogi moi dannedd
Gwell i gwyr onis dysger
flas ar vwyd nog iawn arfer
dof ag anllad a thyner
dywedud gweniaeth gwag ofer
ag ymddangos mewn gwychder
hir i deil gas pan lidier
ai ddial o daw amser./
Anffyddlon angharedig
ymryssongar gythreulig
gorwyllt a rrwth a blyssig
milain hy broch a ffyrnig
edliw gwarth dyn ai dirmig
nid rraid iddi ddwyn benthig./

[td. 84]
esgussod na dechymig
ar far fo ai gyrr ychydig
Senglian kynhyrfu mowr-llid
ni sai wrth ei haddewid
gossod kas yn lle i kerid
ni wna ddim ond er proffid
Gwatwar dywedud gweniaeth
dyfalu pob kydymaeth
drwg ei moes gwaeth ei haraeth
rroi darn mewn chwedl diffaeth
A gwneuthur gorsedd Efa
yn vwy no moel y Wyddfa
y peth nis gwyr a fostia
ar hynn a wyr a ddisemlia
Gwna rrwyd i ddal y gwirion
ai gossod ar ddichellion

[td. 85]
kynn amled amryw voddion
ar ei phryd ag yn ei chalonn
A phe baut kynn gyfrwyssed
ar dyn kyfrwysa ar aned
ni allut fyth dy ymwared
rrag brad a maglau merched
I mae gwraig kynn gelfydded
ag mor hyfedr ar bob niwed
a phei rron yt ai gweled
ne ei dal ar ei drwg weithred
hi a wna yt ameu dy lyged
Hi a wna yt hynn a fynno
ai kredu ai anghoelio
da iawn i gwyr dy hudo
ath somi pann i mynno
O mynni ditheu wrando

[td. 86]
ar y gwir yt ai traetho
ti a gai glywed etto
nad oes weithred a naelo
na phrofodd gwraig ai dwylo
Tarpen er mwyn y tlyssau
a wisgen am ei breichiau
a ollyngodd wyr mewn arfau
am benn ei holl byrthnassau
Medea drwg i champau
kreulonach ydoedd hithau
a ollyngodd yn ffrydiau
waed ei mebion [~ meibion] diamau
Elen a beris lwytho
llongau Groeg ag ymgweirio
i ddifa gwyr kaer Dro
Karu ei brawd a wnai Beiblys

[td. 87]
a gorwedd gan ei ystlys
dyna weithred anhapys
nes estynn rrwym ei gwregys
Karu ei thad a wnaeth Myrha
Semiramys ei mab hyna
hynn a wnaeth ei difetha
Beth am verched Deoclesia
a wnaethant yr nos gynta
ar ei gwyr yr oer laddfa
Nid gwell oedd wragedd Asia
am ladd yr awdur penna
rrag gwir gwilidd ni alla
dreuthu yr drwg a wnaeth Pasiffaa
Pawb a wyr a wnaeth Phedra
ysbys yw twyll Rebeka
a gwenwyn Deianeira
eithyr er amser Adda

[td. 88]
hyd at y dydd hwnn yma
ni bu wraig waeth nog Efa
Koelied fi bob bigelydd
mynn y sant sy yn y mynydd
a fynno gweled kynnydd
a ffynniant yw gorlennydd
hefyd kymred rrybydd
a fynno kadw ei grefydd
a chael hedd a llawenydd
iddo e hun yn dragowydd
Na ddened yw gorlannau
nag Eigr nag aur Degau
na merched orwyllt ei nwyfau
Dywedwch wir yn ddiamau
er a welsoch o lyfrau
a ddarlleniassoch chwitheu
o wraig a ddoeth ir goleu

[td. 89]
o dywyllwg ufferneu
Euridig ni thynne ganwr
o deyrnas y dyrwestwr
er mawr boen ei diddanwr
a gymerth val ymgleddwr
o gariad ar ei chwthwr
Proserpina mewn anghyflwr
a drige i gyd ai threissiwr
yr Uffernol gwnkwerwr./
Eithr Eneas ddwyfol
ag Orffews iaith ragorol
Erkwlff a Thesews wrol
ar ddau vroder derfysgol
a Christ ein harglwydd nefol
an keidwad yn dragwyddol
a ddoethant yn ddigonol
o blith pryfed uffernol./

[td. 90]
A pha beth ydyw yr pryfed
nag uffern ond merched
minnau fal moriwr diried
ar y mor a gafodd golled
pe i mynent wy fynghlowed
a rown gyngor it bigeilied
na wnen ormod ymddiried
ag na cheren mor pryfed
Eithr fal y ffy yr gwylain
rrag eryr llym ei adain
fal wyn rrag bleiddiau milain
fal hydd rrag ki kanolfain
felly ffowch chwitheu druain
rrag hud pob kyfryw riain
ai gweniaith ai hwylofain./
Wylofain Krokodeilus
dichell Hien dwyllodrus
pann fo merch drwg arferthus [~ drygyrferthus]

[td. 91]
ne ith gyfarch yn wenieuthus
hi ath ddwg i fagl astrus
Am hynny od wyd hapus
y bigail anrrydeddus
ffo ymhell rrag merched heinus
pawb a vyddant drwg dybus
ag na vydd ry hyderus
oth nerth ath rinwedd ddownus
Pei rron yt fod mor hapus
a chael targed hen Bersus
rryd honn yn ddidramgwyddus
y dringodd nadrodd Medus
Lladd gormessiaid a chowri
a wnaeth gwyr o filwri
eraill distrowio trefi
rrai am stopio /r/ mor heli
eraill am ynnill meistri

[td. 92]
wrth antur grym a nerthi
a haeddynt ei koroni
ni welais mewn stori
wr a allodd veistroli
na gorfod gwraig heini
Dafydd hen frenin enwog
a wnaeth y deml odidog
a Samson filwr nerthog
y rroes merch arnyn warrog./
Ni ddistrywiodd mor donnau
na than na gwyr nag arfau
gymaint o wyr da eu kampau
a gweniaeth y merchedau
Hi a bair yw phryd ddiskleirio
yn loewach nag i bytho
hi a fedr ymdemprio
a gossod ei gwallt ai lifo

[td. 93]
ag wrth y drych ymbinkio
hi a wna lawer o ymdrwssio
i ladd y dyn ai gwelo
Hi a wyr wemal gerddediad
a llusgo kwrr ei llygad
a phob munudyn anllad
i rwystro dyn oi chariad
A phan fynno ganhiadu
nag a rydd rrag ei barnu
ag adrodd or holl deulu
fod yn hawdd ei gordderchu
wylo a wnaiff wrth ymdynu
a chwerthin oi gorfygu
Hi a ad yn noeth ei dwyfron
a rrych rrwng ei dwy wenfron
i wenwyno golygion
ag i ddwyn blys ar ddynion
peryglys yw i veibion

[td. 94]
wrth weled ei twull ai moddion
Yr hain yw yr anghenfiloedd
a pheryglon y moroedd
y sydd yn difa yr bobloedd
nid oes na mann na lleoedd
na themlau na mynwennoedd
na gwledydd nag ynyssoedd
na meysydd na mynyddoedd
na mor na man ar diroedd
na bu ddrwg gwraig yn gyhoedd
Y mae rrinwedd a thynged
hefyd iddunt a rodded
i drossi wrth ei weled
y milwr yn faen kaled
ieuank a hen gocheled
am hynny garu merched
Hynn o wawd yr hen brydydd

[td. 95]
Winber barod ei awenydd
a ddysgais ar y mynydd
ar fynhafod laferydd
yn kalyn y bigelydd./

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section