Trwbl, a chledi, sy 'n rhoddi i ni achosion, i weddio duw, y 'w foli, ac
y 'w fawrygu ef. POb Cristion a wyr yn dda, fod
yn angenrheidiol, ac yn fuddiol
[td. 80] iddaw, weddio a galw ar dduw 'n
ddyfal ac 'n ddefosionol. Yr awron,
pan fyddo gwr yn byw mewn llwyddiant, ni weddia ef ond ychydig, neu
hynny, yn oer, ac yn araf, nid oes gantho fawr dued' na meddwl ar i weddi. y weddi rhon ni yrer, ac ni wthier allan gann y groes nid yw 'n dyfod, o ddyfndwr ac o eigiawn y galon: eythr trystyd, trymder a chledi a
fywhant, ac a enynnant y meddwl, a 'i
gwthiant, a 'i heliant, ac a 'i ymlidiant at dduw, ie, hwy a 'i cymhellant
i alw arnaw yn daer, ac 'n ddyfal.
Can's pann welom a phann ddehallom yn dda, na allwn wneuthur
dim o honom ein hunain, a ffa faint
yw ein eisieu o dduw, ar fod yn wiw
ganthaw ein llywodraethu, ein cynorthwyo, a 'n amddeffynu.
Megys ac nad yw y dwfr, cyd
y byddo 'n llenwi, ac yn rhedeg
rhyd llydan, faith, wastadfaes, yn
torri allan yn rhyferthawg, eythr
[td. 81] yn ymwascaru, ac yn ymdaenellu,
rhyd pob mann yn gyffelyb, ond
pann i crynhoer ynghyd drwy synwyr, a cyfrwyddyd, a 'i ddwyn
i vn lle cyfing, megys i bistill, i
bibell, ne i gwndit, yna i pistilliff ac i saethiff ef allan yn vchel:
felly meddwl dyn, cyd i byddo 'n
llonyd', segur, ac heb flinder nac adfyd, sy 'n rhodio ac yn brwydro oddiamgylch, lle i mynno, wrth i gwrs
i hun: ond pann i dyger i mewn,
pann i gwthier, ne pann i llockier i
ryw gyfing gilfach, drwy drwbleth
neu adfyd, yna i tyrr ef allan 'n vwchel at dduw, tua 'r nefoed', drwy
ddyfal, hyderus a thaer weddiaw,
am i ras, i help, a 'i gymorth.
Ar hynn y tyfod' y ddihareb gyffredin, angen ac eisieu a ddyscant weddiaw. O Arglwyd' mewn adfyd ir
ymwelsont a thi, tywalltasont weddi, pann oed' dy gospedigaeth arnynt. Ecsampl o hynn. Pann glybu
[td. 82] plant 'r Israel o ddyfodiad i gelynion y Philistieit, hwy a ofnesont,
ac a ddoedasont, wrth Samuel: na
thaw di a gweiddi drosom at yr Arglwyd' ein duw, ar iddaw ef ein gwared o ddwylaw y Philistieit: Manasses rhwn oll ddyddieu i fywyd,
ydoed' fathueitgi gwaedlyd, a chreulon, a rwymwyd mewn cadwyni,
ac a arweiniwyd i Fabilon, a ffan
ydoed' ef yn i gledi, a 'i ing eithaf, ef
a wnaeth vfud' weddi, ac erfyn o
flaen 'r Arglwyd' i dduw, a duw a
wrandawod' i weddi ef ac a 'i dyg eilwaith i Gaersalem.
Pann godod' Temestl ar y mor,
fal i gorchguddid y llong gann donneu, a Christ 'n cyscu, yno i prysureu [~ prysurai ]
i ddyscyblion atto ef y 'w ddeffroi,
gann ddoedyd, cymorth Arglwyd'
cans mae 'n darfod am danom.
Siampl y wraig o Ganaan, a
ddysc i ni pa fod' y mae duw 'n oedi,
ac yn hwyrhau roddi help a chymorth
[td. 83] weithiau, o wirgythgoddef [~ o wir gwaith goddau ]
fal i 'n cynhyrfer yn fwy dirfawr i
alw arnaw, ac i barhau 'n daerach
yn ein gweddiau.
S. Austin a scrifenna fal hynn:
Y duwiol a orthrymir ac a gystuddir, yn 'r eglwys ne 'r gynelleidfa, er y perwyl hwnn: sef, pann i
gorthrymer i galwant, pann alwant i clywid, pann i clywid, i mawrygent ac i moliannent dduw. Ac fal y mae y groes, ac adfyd, yn
ein gwthio ac yn ein tanbigo yn ein
blaen i 'r rhan gyntaf o weddi, sef i
erfyn, ac i ymbil a duw, felly hefyd,
i 'n helpiff, ac i 'n annogiff i 'r rhann
arall o weddi, rhonn yw, moli duw,
a bod 'n ddiolchgar iddaw. Ollalluog allu, doethineb, cyfiawnder, trigared' a gwirioned' duw (yr vchel
a 'r ardderchawg, rinweddae hynny,
addas o bob mawl ac anrhyded')
a ymddangosant mewn croes, gorthrymder, a chledi Cristnogion, pann
[td. 84] fyddo duw yn gofwyo truain bechadurieit, yn diddanu y rhai syd'
mewn cyfyngder, a chledi, ac yn i
cynorthwyo, ac 'n i gwaredu hwy
allan o bob angenoctid, wrth hynn y
rhyfeddiff oll Gristnogaid' bobl,
'n ddirfawr, ac a dorrant allann, i
fawrygu, i ganmol, ac i addoli duw,
a chlod a mawl anraethawl.
Y mae genym y cyfryw drysor,
mewn llestri prid', fal i bydde ardderchowgrwyd' y meddiant hwnnw, o
dduw ac nid o hanom ni: sef yw hyny
i ddym yn druein ac 'n llestri gweinieid, fal i chwaneger anrhyded' a
gogoniant duw, ac nid yr eiddom ni.
Er ecsampl cymer stori D'aniel, pa
wed' i trod' carchar a chaethiwed 'r
Iddewon, 'n ogoniant ac yn foliant
mawr i dduw. Yn Iachawdwr Crist
sy 'n dangos 'r achos, pam ir ydoed'
y gwr yn ddall o 'i enedigaeth, sef
er bod gwrthieu a gweithredoed'
duw 'n oleu ac yn eglur ynddo ef.
[td. 85] Heb law hynn: yr oll Broffwydi,
Apostolion, a dewisedig duw, drwy
bwy rai y gwnaeth ef bethau mawrion, rhyfeddawl, a ddirmygwyd
ac a ddistyrwyd, ie weithieu a laddwyd ac a arteithiwyd, fal i gwele,
ac i dealle bawb, fod i ffyd', a 'i gweithred ('rhain oeddynt ddisigl, a chadarn) yn waith duw, ac nid gallu
dyn. Ac am hyn i dylid, moli a mawrygu duw, vwchlaw pob peth oll.
Pen. 12.
Trwbleth ac adfyd a 'n tywysant
i rinweddae da, ac i
dduwioldeb Y groes ag adfyd, a darfant, ac a
yrrant ymaith bechodae, a wnaethwyd o 'r blaen, ac a rwystrant, ac
a wrthnebant, bechodae syd' ar ddyfod, a helpant i blannu, i feithrin, ac i
chwanegu pob rhinwed' dda, fal i
dener ac i dyger yr anuwiol i edifeirwch, newydd-deb a gwellant
[td. 86] buched', a 'r duwiol i fyned rhagddo
i chwaneg o rinweddae, a duwioldeb: cans pwy adfyd bynag a ddiod'efo 'r cnawd, y mae yn i boeni yn
ddirfawr, gwell o lawer fydde gantho fod yn llawen, yn heddychol ac
yn ddihelbul: yr awrhon pob dyn
'rhwn syd' ganthaw ddim rheswm,
a wyr yn ddigon da, i fod ef yn dwyn
llawer o adfyd ar i wddwf i hun
drwy i drachwantae, a 'i ymwreddiad drwg i hunan: am hyny ef a ddechreu wilio, a gochel yn well o hynny allan fuched' afrwolus ac anllywodraethus, megys achos, gwreiddin, a dechrevad pob blinder, a
thristwch: fal hefyd (heb law cosbedigaeth presennol) na ffoener ef yn
dragwyddol. A hyn a fanegir, ac a
brofir yn gyntaf, a chyfflybiaethae,
yn ail a thestimoniae o 'r Scrythur
lan, ac yn drydyd' drwy hynod a
gwybodedig ecsampleu. Dwfr 'r hwn
sy 'n oestadol yn sefyll yn i vnlle, er
[td. 87] gloywed fyddo, y mae yn llygredig ac 'n ddiffaith: eythr y dwfr syd'
rydegog bob amser, pwy fwya i rhua
ac i rhed, drwy 'r creigiau a 'r cerrig,
teccach, croywach a pherffeiddiach
fyd' o lawer: felly y gwr duwiol heb
y groes, syd' ddiddarbod, dwl, a
lluddedig, eythr drwy 'r groes, ac
adfyd, ef a fywheir, a faethdrinir,
ac a chwanegir ymhob daioni. Yr
hayarn rhydlyd, cancredic, gan y llif
ddur, a loewir, ac a lyfnheir, felly
i 'r hen Adda lygredic, mae 'n angenrhaid cael, ing ac adfyd y 'w ffwrbio
ac y 'w lanhau oddiwrth gancr a rhwd
pechod. Cyllell er llyfned fyddo, oni arferir, a gascl rwd, a 'r rhwd a 'i
difa ac a 'i hyssiff: eythr pwy fwya ir
arferir, er iddi ddarfod peth, etto
gloewach fyd': yn 'r vn mod', er bod
llawer vn yn naturiol ac yn hynaws
etto oni arferir, ac oni feithrinir ef,
mewn trwbleth ac adfyd, ef a lygriff gann rwd a chancr pechod.
Eythr drwy 'r groes ac adfyd, er
[td. 88] i 'r rhwd ynill peth o honaw, (oblegit ei ddynawl wendid) etto ef a
loywir, a lanheir, ac a wnair yn
fwy disclair, ac yn brydferthach
drachefn.
Yr had rhwn a havir, yn y maes,
er iddaw oddef gwynt, glaw, eira,
rhew a ffob bath ar demestl, etto fe
gynyddiff, ag a ffrwythiff, felly 'r
ysbrydol had, 'r hwn yw gair duw,
pann i derbynir mewn calon dda
ddefosionol, ni ddinistrir ddim o hanaw drwy drwbleth, eythr ef a
ddwg allan ffrwyth da proffidiol.
Prenn cnau ffrengig pwy fwya
i curir, wellwell fydd: felly gwr
drwy aml wialennod, a llawer o adfyd, a dru oddiwrth i ddrigioni, ac
a wnair yn well.
I galed ac i dewgroen march ne
assyn, nid oes dim well na ffrewyl'
dost y 'w fflangellu: felly nid oes dim
mwy addas, na mwy buddiol i 'n
cnawd afrowiogfalch nineu, na
[td. 89] thristwch a thrwbleth, er i gynhyrfu a 'i yrru yn well rhagddo.
Brethyn syd' raid i fynych haulo a 'i frwyssio, rhag (mal y mae yr
ddihareb) i yssu gann bryfed: felly
yr ysbrydol bryfedae, a gwyfynnae, sef, anwired', pechod, a ffieidddra, syd' yn llai i grymm i fagu ynom nineu, os nyni a gurir ag a frwyssir mewn amser, gann orthrymder ac adfyd.
Y cig yr hwnn syd' newyd' lad',
yn dyfod o 'r farchnad, ac yn ir, yn
brysur a ddiflesiff, ac a gynrhoniff,
eythr yr heli, a 'r halen a 'i ceidw yn
felus ac yn ddilwgr: felly duw syd'
yn taunu ac yn taenellu halen arnom nineu, drwy amryw brofedigaethae, a gorthrymderae, er yddynt yn halldu, rhag yn llygru a 'n
cyfergolli mewn pechod.
Y corff rhwn sydd yn oestadawl 'n
segur, ac heb wneuthur dim, a ddigwyd' yn hawd' i glefydon a doluriau,
[td. 90] eythr cyrff y rhai a weithiant ac
a lafuriant, ydynt iachach, ac ifiengach, ac a barhant yn well: felly yr
enaid rhwn a faethdrinir, ac a arferir mewn trwbleth a blinder, sydd
iddaw achosion i fod, yn brydferthach
yn iachach, ag yn ddisclairiach.
Mae yn ddihareb wir, pwy tosta
yr lleisw, glana i gylch: felly i 'n natur lygredig, wenwynig nineu, mae
yn angenrhaid cael, tost, a garw feddiginiaeth, a ffwy tosta fyddo yr
adfyd, mwyaf o 'r cwbl a ylch ef ymaith o aflendid, ac anghymesurwyd'.
I gylla gwann, drwgfaethus, y
mae yr chwerw wermod yn dda, ac
yn iachus, felly i enaid llesc, gwaelus, chwerw drwbl ac adfyd syd'
iachus ac angenrheidiol: cofia yr ddihareb honn.
Pann gaffo yr claf i iechyd,
E fyd' gwaeth, na chyn ei glefyd. Ac am hyny clefyd syd' angenrheidiolach iddaw, rhag i waethygu, a
[td. 91] byw yn fwy anwireddus. Bellach,
mi a roddaf i lawr destimonae o 'r
scrythur lan. Duw syd' yn bygwth
anfon saith mwy pla, ar blant 'r Israel, os hwy ni wellhaen pann i cosbid, yn yscafn ac yn esmwyth ganthaw: gan ddwyn ar ddevall drwy
Foeses, fod adfyd a blinder, i 'n dyscu,
i gyweirio, ac i wellhau ein buched'.
Briwiau, cleisiau, a dyrnodiau,
yn curo celloed' y bol, ydynt scrafellau i gosi yr anuwiol.
Ni welir chwaith yn hyfryd, vn
cospedigaeth, tros 'r amser presennol, eythr yn anhyfryd: etto wedi
hynny, heddychol ffrwyth cyfiawnder a ryd' hi, i 'rr rhai a fyddant wedi eu cynefino a hi.
Ac eilwaith fe a ddoedir: gan ddioddef o Grist trosom ni yn y cnawd,
chwithau hefyd arfogwch eich hunain, a 'r vnrhyw feddwl, sef peidio
o hwnn a ddioddefod' yn y cnawd a
ffechod: fal na byddo iddo o hyn allan
[td. 92] tros hynn syd' yngweddill o 'r amser 'n y cnawd, fyw ar ol trachwantae dynion, eythr ar ol ewyllys
duw.
A hyn a wnair yn eglurach trwy
ecsample. Dann Iosua yr enillod'
plant yr Israel, lawer maes, a hwy
a yrrwyd i ymlad' yn erbyn i gelynion, ac ni chwympasont, ac ni yscogasont, oddiwrth yr Arglwyd',
nes i dyfod i esmwythdra, ac i gael
pob peth yn ddigonawl: hynn sy ecsampl o liaws o bobl.
Ionas Broffwyd pann ydoedd
ymol [~ ym mol ] y morfarch, a gofiod' ei bechodae, a 'i newidiod' i hun, a droes, ac a
fu vfuddol i dduw.
Y mab colledig, anystywalld, yn
gyntaf amser a droes adref att i
dad, pann ganfu a ffann welod' ef i
drueni, a 'i dlodi i hunain.
Craffa, ar arfer beunyddol y
byd: nyni a feddyliwn ynom ein hunain yn fynych fal hyn. O pe i bawn
[td. 93] vnwaith etto yn iach, yn wir myfi
a ymddygwn, ac a 'm ordriwn fy hun
mal i dylwn: myfi a gynorthwywn
ac a wnawn wasanaeth i bawb, &c.
O na bawn gyfoethawg, mi a rannwn ac a roddwn yn llawen ac yn
ffyddlon i 'r tlodion: eythr cyn gynted ac i delom allan o 'n perigl, ni a
ollyngasom hynn oll yn angof: tra
fyddom heb eisiau dim arnom, ni
ddichon neb rwystro, nac attal yn
camwedd.
Bellach i ddyfod at ecsample:
meddwl ddau amryw duy, naillduawl, vn, yn yr hwnn i cedwir priodas lle i mae gorfoled' a llawenyd' a ffob daynteth: arall, yn yr
hwn y mae vn yn ei glaf-wely ymronn angeu. Ynhuy yr briodas lle i
mae dawnsio, ir arferir pob hoewder a gwamalrwyd', geirieu anweddus, aflan, cynghaneddion a rhimynau bustleddaid', digwilyd' ymwreddiad ag arfereu, hoyw a gwamal
[td. 94] drwssiadae, vn a neitia, ac a winga, fal march: aral' a ddilia ei draed
wrth lawr, fal assyn: y trydyd', a yf,
oni feddwo: y pedweryd' ni wnaiff
ddim a fyddo gonest, fal y dichon
gwr ddoedyd yn wir, i bod hwy yn
waeth nac anifeileit. Ond lle i mae
y claf 'n i welu, mae pob peth 'n ddistaw, ni ddoedir gair ond a fyddo
gonest, a gwed'us: pob peth a wnair
'n sobr, yn arafaid', a chan bwyll. A 'r
pryd hyny, nid 'n vnic y gwyr, eythr
y gwraged', a 'r plant hefyd, a 'r hol' du
a arferir 'n dduwiol: hwy a weddiant,
hwy a 'i cyssurant i hunain, gan dorri
allan i 'rr rhain, ne i 'rr cyfryw ymadroddion: pa beth yw dyn? O mor
drancedig ac mor ofer yw 'r oll bethau syd' genym ar y ddayar yma?
ond nid fal hyn y byd' yn y byd syd'
ar d'yfod. Ac hefyd o duy 'r briodas
llawer vn a aiff adref yn drymhyrddig, yn drist yn helbulus, ac yn
ddirmygus ei feddwl, am nad yw ef
[td. 95] mor hapus, ac mor ddedwyd', ac eraill: ac yn ddisymwth ef a dreisir
gan bryd a gwed', rhyw wraig, ne
forwyn, a welod' ef 'n y dawns, 'rhon
a 'i clwyfod' hyd att i galon: A ffann
d'el ef adref, ef a edrych 'n sarug ar ei
wraig, e fyd' chwerw wrth i blant, anynad wrth ei deuluy, a neb ni fedr
ryngu bod' iddaw. Ond 'r hwn a
aiff adref o duy 'r claf, a 'i tybia i hun
yn ddedwyd', ac 'n fendigedig, am
nad yw ef yn gorwed' yn y cyfryw
ddialeddus ing, ac os oes arnaw ef i
hun, ryw ofyd ne flinder, y mae ef yr
awrhon 'n aplach y 'w ddioddef 'n esmwythach, ac 'n fwy ymorthoys, pan i
cyfflybo i ferthur dialeddus, ac i anoddefus boen, yr vn syd' ymhoene
Angeu. Ac o achos hynn, mae ef yn
fwy ei ymyned', 'n hawddgarach, ac 'n
foneddigeiddiach tuac at ei wraig
ei blant, a 'i hol' deuluy, ie, ac heb law
hyn, ef a gymmer achos o hyn i wel'au i ddrwg fuchedd.
[td. 96]
Pen. 13.
Tristwch ac adfyd, a 'n dyscant i
ofni, ac i garu duw. ADfyd, a blinder a fagant ofn
duw, yn y Sawl a 'i goddef, ac
hefyd, yn y Sawl a glywant, ac a
wyddant o hynny: ac felly mae llawer yn cymryd siampl, ac addysc
drwy hynn, ar na amcanant ddim
yn amhwyllog yn erbyn ewyllys
duw: canys ef yn gyfraithlawn a
ddylid i ofni a 'i arswydo, 'rhwnn a
ddichon ddwyn, a gosod arnom, bob
bath ar ddialeddae, ac syd' iddaw
iawn achosion, a hawl arnom, i, wneuthur hynny: yr awrhonn ny ni yn
wael ac yn weinieid ni allwn mewn
mod' yn y byd, wrthnebu, na gwrthryfela yn erbyn y nerthawg, a 'r
galluawg dduw, nid allwn cymeint a gwrthod ne droi ymaith y
diwrnod lleiaf o 'r acsus ne o 'r crud
[td. 97] crynnu: ie, nid allwn i rwystro, i 'rr
gwaelaf, ac i 'rr dystyraf, o greadurieit y byd, yn dialeddu, a 'n aflonyddu: megys, llau, chwain, pryfed,
a 'r cyfryw gymyscbla, rhain, a feistriasont, ac a orfuont, rymus ac ardderchawg frenin yr Aipht.
Mae yn ddihareb wir, llaw a
loscwyd vnwaith a ofna yr tan, canys yn y synwyr a 'r deuall hwnnw,
i doedodd Moeses wrth y bobl ofnus, i 'ch profi chwi y daeth duw, ac i
fod i ofn ef garr eich bronnau, fal na
ffechech. Er ecsampl: pwy fwyaf ir
ymdroe ac ir ymhelie yr Arglwyd'
ynghylch Dafydd, dilusach yr oed'
Dafydd yn edrych ar yr Arglwyd'
ac yn i ofni: ac nid yn vnig Dafydd,
eythr eraill hefyd, pann welsont, a
phan ddeuallasont ei trueni, a 'i gwaeled', a gymerasont achos o hyn, i ofni
duw 'n fwy nac y gwnaethent o 'r blaen
ac yn enwedig pan welsont, pa fod'
i cospodd duw lawruddiaeth a godineb
[td. 98] Dafyd', drwy derfyscae, cyfrysed', celaned', ac a cholledau lawer
o bobloedd.
Yr Scrythur lan syd' yn gosod
o flaen ein llygaid ni, lawer o 'r fath
siamplau ofnadwy, fal na byddo i
ni brisio ofn duw, yn yscafn beth, eythr ofni o honom bob anwired', pechod, a ffieidd-dra.
Pan ddyger allan vn a fo troseddwr y gyfraith i dorri i ben, y 'w grogi, y 'w losci, ne mewn rhyw fodd arall y 'w ddihenyddio: eraill a 'r a 'i
gwelant ef, a ddyscant ofni, a gochel
y peth a 'i dyg ef i 'rr diwed' hwn: yn
'r vn mod' pan ddanfono duw ryw
ddialedd, naill ai ar ryw rai yn enwedic, ne ar 'r oll gyffredin, pawb
eraill a ddylent ystyriaw o hyny,
fal pe i baent hwy i hun, yn lle y rhai
gorthrymedig hynny: ac fal pe i bae
adfyd y rheini yn orthrymder yddynt hwy i hunain, ac ofni duw 'n wel'
a gwilio rhag cwympo o honynt
[td. 99] hwythau, i gyfryw ddialedd duw.
Ac yn ddiau mae cymeint o achos
i 'r da, a 'r duwiol i ofni, ac syd' i 'r anwir a 'r anuwiol. Canys wrth hyn ir
ystyr y ffyddlon, fod y trancedig ddialeddae hynn, yn arwyddion ac yn
destimoniae eglur, o 'r cospedigaethae tragwyddol, syd' i ddyfod,
'rhai ynt fil filoedd o weithiau 'n fwy
gofidus, ac heb ddiwed' yddynt, erwyd' paham, yn gystal i adfyd ei hunain, a gorthrymder eraill, a rydd
yddynt ddigon o achos i wellau, ac
i ymwrthod a 'r peth, drwy 'r hwn y
mae pawb oll, yn dwyn plaeæ tragwyddol, ar i gyddfe ei hunain. Yr
Anwir a 'r anffyddlonieit hwythau
(oni fyddant ry gildynnus, a gwrthnysig, ac o bydd dim rheswm ganthynt) a ddechreuant hefyd ofni duw,
a meddwl ynthynt i hunain fal hyn:
gan fod duw 'n gofwyo, 'n scyrsio, ac 'n
ceryddu y da, a 'r ffyddlon, drwy drymder, ac adfyd, rhai nid ydynt elfyd'
mor
[td. 100] anuwiol ac ym ni: pa wedd i diengwn nineu 'rhai a hauddasom,
ddengwaith, ie, vgeinwaith fwy dialeddus cospedigaeth na hwynt
hwy? creffwch ac ystyriwch (medd
y Proffwyd Ieremi) canys wele
mi a ddechrevais ddrygu y ddinas,
yr honn i gelwir fy enw arni, ac a
ddiengwch chwi? Canys yr ydwyf
yn galw am gleddyf ar oll drigolion y ddayar, medd Arglwyd' y lluoedd. Ac hefyd: os gwnant hyn i 'rr
prenn ir, beth a wnair i 'r crin? Yr
amser a ddaeth (medd S. Petr) i
bydd rhaid, i 'rr farn ddechreu ar dy
dduw, ac os ydyw yn gyntaf yn dechreu arnom ni, pa ryw ddiwed'
a fydd i 'r rhai ni chredant efengyl
dduw?
Ci diniwed, 'rhwnn ni wnaeth
ddim drwg, a gurir yngolwg y
llew, fal i byddo i 'r llew, pan wypo
ddigio, a sorri i feistr, fod 'n fwy i ofn.
A. S. Grygor a escrifenna fal hynn.
[td. 101] Os yw duw yn ceryddu cyn drymed y
rhai y mae ef yn i caru, pa wedd na chur
ef yn dostach ac yn drymach, y sawl nid
yw ef yn caru ddim o honynt? Cristnogion, rhain a ddygant y
groes, ac ydynt orthrymedig, a garant dduw a mwy awyd', yngymeint ag yddynt glywed ynghanol
i hadfyd, yr hyfryd ddiddanwch,
'rhwnn sydd yn dyfod oddiwrth ei
tad nefol: o drigarog ewyllys pwy
vn, nis gallant ammeu nac anobeitho.
Ci ffyddlon, er ei feistr i daro ef,
eto fe a 'i car er hyny, ac a ymlewyd'
ac ef drachefn: plentyn da er i guro,
nid anllai i ceriff i dad a 'i fam, gann
ddamuno i nawd' eilwaith: felly yn
yr vn mod' mae meddylieu y gwir
Gristnogion, tuac at i tad nefol, eythr y cyfryw blant ac ydynt ddrigionus, ac anhynaws, pann i curer ychydig hwy a ffoant ymaith oddiwrth i rhieni gann furmur a grwgnach y 'w erbyn.