Adran o’r blaen
Previous section

Ystorïau allan o NLW 13075B (=Llanover B17) (ms. c. 1590 (wedi'i gyfansoddi cyn 1561)), 52r-54v (‘Hanes Taliesin’ / ‘Llyma val i kavad Taliesin’), 54v-58r (‘Ystori y gŵr moel o Sythia’, 69r-84v (‘Ystori Alexander a Lodwig’), 104v-106v (‘Ystori'r llong foel’)).

Cynnwys
Contents

Llyma val i kavad Taliesin 52r
‘Y Gwr Moel o Sythia’, NLW 13075B (=Llanover B17), 54v-58r 54v
Llyma ystori alexander a lodwig yr hain a vyont gedmaithion kywir / yw gilydd // val i dywaid yr ystori sy n kalyn 69r
Llyma ystori y llong Voel 104v


[td. 52r]


Llyma val i kavad Taliesin


Gwr bonheddig oedd gynt / a elwid Tegid Voel /
a 'u dref tad ef oedd y bala ymhenllyn [~ ym Mhenllyn ] // a 'r llynn
a elwid llynn Tegid hyd heddiw // ag o Graidwen
i wraig briod / i ganed mab yddo / yr hwnn a elwid
Morfran ap Tegid // a merch a elwid Crairw /
yr honn oedd y vorwyn dekaf yn holl ynys Brydain
// a garwa kriston yn y byd oedd y mab // ag
yna i meddyliawdd Graidwen / i vam / nad oedd ef
debyg i gael i gynwys ymlith [~ ymhlith ] boneddigion
anrydeddvs / ony bai vod arno ryw gampav da /
ne ryw wybodav vrddasaidd // Kans yn amser
dechrauad arthur / a chasglad y vord gron oedd
hynny // ag yna i ordainawdd Graidwen i vam
drwy gelfydd llyfrav Pheryll / vrydon pair o awen
a gwybodav i 'r mab // val i bai yn vwy i gyvarch
a 'u gymeriad / am i gyfrwyddyd a 'u ddysg // ag yna

[td. 52v]
i dechrauwyd berwi y pair / yr hwnn pan ddechrauid
i verwi / ny ellid torri y berw arno hyd ymhenn [~ ym mhen ]
vn dydd a blwyddyn / na dydd / na nos / hyd pan geffid
y gwybodav // a Gwion bach mab gwrauank [~ gwrêng ] o
lann Vair ynghaer [~ yng nghaer ] Einon ymhywys [~ ym Mhowys ] / a osodes
hi / i ymod y pair // a Dallmor dallme i gynny
tan dan y pair // a gorchymyn yddynt / na edynt
y berw i dorri arno / hyd ymhenn [~ ym mhen ] vn dydd a
blwyddyn // a hithav wrth lyfrav estronomi [~ astronomi ] / ag
oriav / a phlanedav / yn llysaua baenydd [~ beunydd ] o bob ryw
amravael lysav rinweddol // ag val ir oedd hi ddiwarnod
yn llysya [~ llysieua ] / pan oedd hi yn agos i benn
y vlwyddyn // ef a ddamchwainawdd disgyn tri dafn
o 'r llynn brwd hwnnw / ar vys Gwion bach / a rag
i vryted / ef a drawodd i vys yn y enav // ag yn
kyn gynted / ag i sipawdd ef o 'r dafnav gwrthfawr
hynny / ef a wyddiad bob peth / ag a ddelai rag
llaw // ag yna i adnabv ef / mae mwya perigl oedd
yddo rag bwriad ag ystryw Graidwen // kans mawr
oedd i gwybodav hi // a rag dirfawr ofn / ef a veddyliawdd
ffo parth a 'u wlad // ag velly / y pair a
dorres yn llapre / pan aeth y dafnav gwrthfawr ohano
// am vod y llynn oll yn wenwyn ond y tri
dafn hynny // val i gwenwynawdd ef vairch Gwyddno
garanir / lle rydysai [~ rhedasai ] / y dwr hwnnw / i 'r nant
dan y ty // ag am hynny i gelwid y nant hwnnw / o
hynny allan / gwenwynfairch // ag ar hynny / nachaf

[td. 53r]
Graidwen yn dyvod i mewn // ag yn kanfod i llavur
es [~ ers ] blwyddyn yn golledig // a chymeryd y rwyf a orug
hi / a tharro Dallmor dallme / ar i benn / yny oedd
vn o 'i lygaid ef ar i rudd // ag yntav a ddywad // drwg
o beth y 'm kwairaist / a mi yn wirion // ag ny bv i
ti ddim kollad o 'm hachos j // Gwir a ddwedy di
heb hi // Gwion ffalst a 'm ysbailawdd j // a chyrchv
allan a orug hi / yr vn ffordd ag ir athoedd yntav o 'r
blaen / dan godi phais a rydeg [~ rhedeg ] // ag velly hi a 'u harganfy
ef yn drychaf [~ dyrchaf ] i 'r mynydd / amkan milltir a
hanner / oddywrthi // a Gwion bach / a 'u harganfy hithav //
ag yna ymrithawdd ef yn rith ysgyvarnog // a rydeg [~ rhedeg ] a
orug ef // Sef a orug hithav / ymritho yn rith milast
a 'u ddilyn ef // ag o 'r diwedd i droi ef a 'u benn tia [~ tua ] 'r
gwaered / at yr avon // Sef a orug yntav yna ymritho
yn rith pysgodyn / a naido i 'r avon // Sef a
orug hithav / ymritho yn rith dyfrast / ag ymgais
ag ef dan y kaulenni // yny vy raid yddo ef ymritho
yn rith aderyn / a hydeg [~ ehedeg ] i 'r wybr // a hithav a ymrithwys
yn rith hebog // ag velly ny adewis hi vn
awr lonydd yddo ef yn yr wybr // ag velly / pan oedd ef
mewn dirfawr lydded / ag ofn angav arno ydd arganvy
ef gryg o wenith / gwedy nitho / ar lawr ysgibor [~ ysgubor ]
y nyffryn [~ yn nyffryn ] yr avon // Sef a orug ef / disgyn / ag ymritho
yn rith vn o 'r gwenith // a hithav a ymrithwys
yn rith jar ddu gwta / ag a 'u hadnabv ef ymlith [~ ymhlith ] y
gwenith // a hi a 'u llynkawdd ef // ag velly / i mae 'r

[td. 53v]
ystori yn dwedvd / i vod naw mis yn y bola hi //
a chwedy darfod yddi esgor arno ef // ny allai hi
ar i chalon i ladd ef // eithr peri i wnio ef mewn
kod groen / a 'u vwrw yn y mor / yn ewyllys
duw / yr jgainfed [~ ugeinfed ] dydd o vis ebrill // ag yn yr amser
hwnnw / idd oedd kored i Wyddno Garanir
ar y traeth rwng Dyvi ag ystwyth / geyr llaw i
gastell i hvn // ag yn y gored honno / i kaid gwerth
kanpynt bob nos glamai [~ Galanmai ] // a mab oedd i Wyddno
Garanir / a elwid Elffin ap Gwyddno // ag vn o 'r
rai jevaink dirasaf oedd ef / a mwyaf aisav da
arno / am i vod ef yn droelfawr [~ dreulfawr ] ar dda // ag yn
drwm gan i dad / a 'u vam / i vod ef velly // gan
dybiaid i eni ef ar awr ddrwg anhapvs // a
thrwy ddaisyf i wraig // ef a roddes i dad /
i Elffin / ddamwain y gored y vlwyddyn honno /
i edrych / a ddanfonai dduw ddim gras / a fforten [~ ffortun ]
yddo ef byth // a nos glamai [~ Galanmai ] // ny chawsant ddim
yn y gored / ond y god groen honno // ag yna i dywad
y gwas wrth Elffin // O byost di ddirras
erjoed // dirasach a wyd ti heno // Kans ti a dorraist
ar gynheddfav kored dy dad / yr honn bob nos glamai
[~ Galanmai ] / i kaid yndi werth kanpynt // ag nid oes yma
heno / ond y kroenyn hynn // Ha wr hebe Elffin /
ef a allai vod yna werth kanpynt // ag velly
agori y god groen / ar gyvair wyneb y mab a
wnaethant // ag yna i dywad Elffin // llyma dal

[td. 54r]
jesin // Taliesin bid i enw hebe 'r gwas // a chodi
y mab / ar y march / rwng Elffin a chorf / a orug
y gwas // ag yna i peris Taliesin / i 'r march a
oedd yn droter o 'r blaen / rygyngo mor  esmwyth
/ a phe baint [~ baent ] yn eistedd yn y gadair esmwythaf
/ yn holl ynys brydain // ag yna / i gwnaeth
Taliesin / voliant / i lawenhav / ag i proffwydo
vrddas i Elffin // yr hwnn a elwir dihiddiant [~ dyhuddiant ]
Elffin // ag val hynn i dechrauawdd ef / ar vesur
englynion

Elffin deg taw a 'th wylo
na chabled neb yr eiddio
ny wna lles drwg obaitho
nid a wyl a 'u portho
nid a 'n goeg gweddi kynllo
ny thyrr duw a addawo
ny chad ynghored [~ yng nghored ] wyddno
erjoed gystal a heno

Elffin deg sych dy ddaurudd
ny 'th weryd bod yn ry brudd
kyd tybiaist na chevaist vudd
ny wna lles gormodd awydd
nag amav wrthav [~ wyrthiau ] dovydd
kans o vor ag o vynydd
ag o aigion avonydd
i try duw dda i ddedwydd

Elffin gynheddfav diddan
anfilwriaidd yw d' amkan

[td. 54v]
nid raid yt ddirfawr gwynfan
gwell duw na drwg ddarogan
kyd bwyf aiddil a bychan
ar nod gorferw mor dilan
mi a wnaf y [~ yn ] nydd kyfran
yt well na thrychant maran

Elffin gynheddfav hynod
na sorr ar dy gyvaelod
kyd bwyf wann ar lawr vy nghod
mae rinwedd ar vy nhavod
nid raid yt ddirfawr ofnod
tra vwyf j y 'th gyfragod
trwy goffav enw 'r drindod
ny ddychon [~ ddichon ] neb dy orfod

Taliesin a 'i kant

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section