Adran o’r blaen
Previous section



[td. 104v]


Llyma ystori y llong Voel


Gwedy amravaely y jaithoedd o Babilon / a gwasgarv
o blant Noe yn genedloedd dros wyneb y ddaear /
Yna ir oedd Phaleg ap eber ap sale ap Kaunan ap
Arffaxat ap Sem ap Noe hen yn vrenin yn yr Aphrick
// ag i hwnnw i bv bedair merched ar igain // Sef

[td. 105r]
oedd i henwav . albion / basolika . Casilia . Carion
Eva . Phelicea . Elarion . Hilarin . judeg . Colan
lawdamen . Monidan . Olimpiades . Polisena . Omspilon
. Rosona . Sisilia . Tenais . Vermon . Xpipiles
jsopona . Zosvlin . Woden // ag ef a roesbwyd y
merched hynny / yn wragedd pedwar brenin ar igain
o dernasoedd yr aphrick // sef yw yr aphrick y drydedd
rann o 'r byd // yr hwnn a ranysai Phaleg yn
bedair ternas ar igain / ag ef a wnaeth pedwar
brenin ar igain arnaddynt // ag ef i hvn yn vchel
vrenin arnynt oll // ag ef a roddes vn o 'i verched
i bob vn o 'r brenhinioedd yn briod // yr hynaf o 'r
merched . i 'r hynaf o 'r brenhinioedd / ag velly / o hynaf
i hynaf // eithr nid velly ydd ymgerynt / a thryan
vy hynny // ag ymhenn yspaid o amser / i gwnaeth
Phaleg wledd ddirfawr i maint // a honno a byrhaodd
vn dydd a blwyddyn // ag i 'r wledd honno i
gwahoddawdd ef y brenhinioedd hynny a 'i gwragedd
a holl benaduriaid yr aphrick gydag hwynt // a chwedy
 troelo [~ treulio ] llawer o 'r wledd mewn llawenydd mawr
o vwyd a diod / ag anrydedd // Tristav a orug y merched
/ na ddamwainysai yddynt gaffael o bob vn
onaddynt / y gwr mwyaf a garai o 'r brenhinioedd
a phan welsant nad oedd vodd i hynny / myned a
wnaethant mewn lle dirgeledig / ag ymddiddan
yn y wedd honn // pond oedd well i ni vod heb vn
gwr / na bod gyda gwyr nys karem // ag velly i

[td. 105v]
gwnaethant amod ryngtynt y nos honno / i bob vn
onaddynt / ladd i gwr yn y gwsg // ag aisoes drwg
a vy gan Woden y verch jauaf yr amod hwnw /
kans hi a gawsai / y brenin mwyaf ag a garai /
eithr ny levase [~ lafasai ] hi ddwedvd yn erbyn i chwiorydd
rag ofn yddynt hwy i lladd hithav yn y lle hwnnw //
a chwedy myned pob vn o naddynt i gysgi gyda i
gwr yn anrydeddvs / val i delyai vrenhinioedd
a breninesav vyned // yna koffav a wnaethant
ar gyflenwi i prwmaison // ag yn ddaisyved pan
gysgawdd y brenhinioedd // torri i gyddygav a 'i lladd
yn vairw a orug y merched // aisoes ny allodd
Woden / y verch jauaf ar i chalon ladd i gwr
kans hi a 'u karai ef yn vawr

drannoeth pan gyvodes pawb i vynydd // dyvod
a orug y merched i 'r vn lle i gyd / Ond Woden y
verch jauaf // a phan oedd amser o 'r dydd i anrydeddv
y duwiav / ag i droelaw [~ dreulio ] y wledd // ryveddy
a orug Phaleg / na bai y brenhinioedd jevaink
yn kodi vynydd // ag anfon kenadav atynt a
orug ef / i erchi yddynt ddyvod i 'r nauadd // gan
ddwedvd / mae hir i kysgysynt y borav // a phan wyby
Phaleg y gyflavan honno // dryllio i ddillad a
orug ef / a thynny i wallt a 'u varf / a thorri i
groen a 'i winedd [~ ewinedd ] / gan gymeryd y brenhinioedd
lladdedig / a 'u gosod mewn kadairav yn y heistedd
a dodi i koronav ar i pennav // a pheri dwyn
y merched bob vn ar naillty geyr bronn y brenin

[td. 106r]
a laddysai // ag erchi i 'r nesaf o genedl pob vn o 'r
brenhinioedd / varny arnynt val i mynnai y
gyfraith // sef y barnwyd i llosgi hwynt oll // ag
yna i barnawdd Phaleg i tad / dawly [~ daflu ] i llydw
hwynt gyda 'r gwynt // a phan welas pawb yvydddawd
i tad hwynt / i kaniadwyd i Deitys i mam /
i roddi hwynt mewn llong ddireol heb nag ystur
na hwyl // a heb vn dyn yn y llong / ond y tair
merched ar higaint yn noethion / a choronav aur
am i pennav / yn arwydd mae breninesi / a vysynt //
ag velly i rodded hwynt / yn y llong voel gyda 'r
gwynt / lle damwainiav i tenghedfenav [~ tyngedfennau ] // ag velly
i byont yn dyborthi moroedd / saith mis a thri
diwarnod // ag o 'r diwedd hwy a welynt dir // ag
yna i dywad y chwaer hynaf / yr honn a elwid
albion // er 'dolwyn [~ adolwyn ] heb hi i chwi roddi i mi
enw y dwarchen [~ dywarchen ] akw / er mwyn vy mod yn
hynaf / os y duwiav a 'n trosa ni yddi // ag velly
i gwnaethant // ag i 'r tir i dauthant yn y lle a
elwir Penryn Rianedd yn y Gogledd // ag yn ol
enw albion i gelwir hi yn ynys albion // Sef
yw hynny y wenn ynys // ag velly i gelwid hi
hyd pan ddauth brytvs // ag velly i by 'r ddwy
verch ar higain / yn kyvanheddv y wenn ynys
yn hir o amser // a 'r drydedd ar igain a vysai
varw ar anedigaeth merch a enillysai hi ar y
mor yn y llong // kans yn y gwydd i gyd / i dauth

[td. 106v]
ryw beth kyflym i gidio [~ gydio ] a hi // a merch a aned o 'r
gwaithred hwnnw / ag ir oedd y llaill hanner yddi
yn bysg // a phan gavas hi y dwfr / ny ddauth hi mwy
i 'r lann // a honno a elwir y vorvorwyn // a 'r
merched eraill a dyvoedd gwylldineb yndynt / ag a
ymgydnabv ag hwynt ysbrydion kymysgedig /
rwng wybr a daear // ag o 'r rai hynny / ir enillwyd
y kewri / a 'r gwiddonese [~ gwyddonesau ] / a mwy oedd i gwybodav
na dynion // kans waithav i byddynt ysbrydion
waithav ar eilvn dynion // ag am hynny i
bv anodd i Vrytvs i diva hwynt

ag velly terfyna

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section