[1. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Caerfyrddin) at Theophilus Rees a'i wraig Elizabeth Thomas (Beulah, PA), 18 Rhagfyr 1797, NLW 14873E.
]
[td. 1]
Carmarthen Dece.
r 18. 1797
Dear Brother and Sister /
I received your Letter Dated the 5. of
Aug.
st last, and have given me, great Satisfaction to
hear of your being all well, and it gave me great
Happyness that, y fod Sam, bach mewn uechid [~ iechyd ], ag euch
bod chwthe [~ chwithau ] wedy Sufidly [~ sefydlu ] wrth euch bodd a 'r Hollallyog
a 'ch Benduthyo chwy oll, hyn yw fy Nyminuad, er fy mod
[yn ]_____s yn y gnawd, er hynny y[r] wyf guda chwy yn yr
yspryd yn gweled eych Trefen chwy,
My a Screfenes [~ ysgrifennais ] gopp o 'ch llythyr My a 'u Hales y John Thomas
yn Lyndain, ag y eryll [~ eraill ] fel ag y gorchyminasoch, y may
Llawer o Llythere [~ Llythyrau ] wedy ei Sgrefeny [~ ysgrifennu ] o feidrym ag o faney
eryll atoch chwu o bryd ey gulydd, fe ddarfy fy Mrawd
Rees, Scryfenny awst Dywetha, ag mu ddymynais ynne
ar eych Brawd John o Llyndayn y Scryfenny lawer gwaith ag
yr wy yn bwryadi yddo e wneithyr felly — Nyd oes dym cyfnewyda[d]
[y]n fy Nheyly y yr yn Ny oll yn yach, ag felly Teyly
fy [mra]wd, y may Richard eto yn Llynden y mey [~ mae ] David
yn d[al] gweithyo Rhaffe y may B[e]ttsy yn Tyddy [~ tyfu ] yn fawr —
y mae y try arall yn bwyta bwy[d] Segyr ag yn yach —
y mey [~ mae ] Sam.
l a William Meibon Re[es] ar Bwrdd Llong y Buny
n
y mey [~ mae ] John wedy pryodi a Merc[h ]_____ Nyd ydych [~ ydych ] chwy yn
adnabyddys a thylwyth ey wraig e y mae e yn gwaithyo yn
Aberystwith y may Bett yn gwasnaythy a Sall yn Bwyta
Bwyd Segyr — y ddarfych Screfenny yn byr Heleth. on [~ ond ] y may
gyda fi Lawer o Gwestwne I ofyn y chwy on Ny chynwis
fy Mhapyr yn bresenol — Pwy mor belled ydych [~ ydych ] oddy wrth Philid
phe [~ Philidelphia ]
— beth gostodd y Tyr — a oedd e wedy ei arllwys, ney yn, anyalwch
— o beth y
r ych yn byldo y Tay — Pwy mor belled ydch [~ ydych ] oddy
wrth Afon Sydd yn arwen, y 'r Mor, a beth yw y henw hy — a
odych yn dechre cody llafyr — pwy mor belled ydch oddy
wrth Dref Marchnad a beth yw ey henw hy — a ody rhan bena yr coed
ag yr ych y Son amdanyn yn Tyddi [~ tyfu ] ar eych Tyr chwy yn mwya penodol,
y pren Swgir [~ siwgr ] — a dyddyff [~ tyfiff ] y pren hwn, yn y wlad hon, pe bay hynny
yn bod fe ayr Taily [~ teulu ] (Shors) ar 5. ran ohono — Pwy amser y mai
[td. 2]
Gayaf yn dufod y mewn ag felly yr Haf, a Oes llawer o Gyfnewedad [~ gyfnewidiad ] yn yr
Hyn, hyny wy yn feddwl, a ody yr gayaf, yn oer yawn, a 'r Haf yn Dwym yawn —
a ody Teyly David fy Nay, wedy chwanegy — y mey [~ mae ] dda genym glywed fod
Mary wedy Syfydly [~ sefydlu ] yr wy yn gobeythio wrth ei Bodd, a bod ei chydmar yn
Ofny yr Arglwydd, y mei [~ mae ] yn deddol gyda ny ofyn a oedd e yn abal yawn gadewch
hynny yn y man yna — a Ode yn rhyw glefyddyd [~ celfyddyd ] ney grefftwr — pa le may
Martha, Bett, a odyn hwy mewn gwasaneth — pwy mor belled ydch [~ ydych ] oddywrth yr
Anyalwch lle may cryadyryad [~ creaduriaid ] Rheibys — a odych chwy yn agos y fyffyne [~ bythynau ]
y Dynion Gwillion [~ gwylltion ] — a ody ffouls Gwylltyon yn amal yn y wlad a beth
yw ey henwea [~ enwau ] — yr ydys yn dwaid fod Nadrodd Mawryon yn eych glad [~ gwlad ] a ody
felly — a Oes Geifyr, Bwch ddanas, Moch gwyllton, da, a cheffyle gwyllton
a pwy ffordd ydys yn ey dala hwy — a Oes defed gyda chwy — a oes
Llwynogod Lawer — a ody yr anyfeliad yn geffredyn yr yn faint an
ag o wahanol Lwyea [~ lliwiau ] fel ag y maen yn y wlad hon — y maynt yn
dwaid fod Dufnwnder [~ dyfnder ] mawr dail a Mwswn cyn yr eloch ar y ddayar
Bryddlyd a beth yw ey Llyw hi — a oes Clai dan y ddayar ney graig
fel Clos yr hen Draskell [~ Treasgell ] — a ody Draskell [~ Treasgell ] Newydd yn Sefyll ar Lether
a ody y Dwfwr yn Tarddy yn agos at y Ty — Ni ddarfych Son am farlys na
cyrch [~ ceirch ] yn ych Llythyr am hyny yr wy i 'n bwryady nad oes dym, a oes
gyda chwy ddym Cwrw ney ddyod gadarn — beth ydch [~ ydych ] yn yfed fwyach
O ba le yr ydch [~ ydych ] yn cal [~ cael ] Halen — Tea — a Coffy — pwy fys yr ydch [~ ydych ] yn Hay
Llafyr, ag ym Mhwy fys yr ydch yn Medy — a Oes nem[or] afaleu
Plwms &c yn y wlad — a Oes potato, Erfyn, Garesh a ffanas — yr ydys yn
dwaid fod Eyra Mawr, a Hwnw yn rhewy, fel gallo wag[ons] fyned drosto
yn y flwyddyn, a [ody] hyny yn bod — a ody yr [ani]felyad yn
mynd y Brys mawr (pob math o anyfeyliad pwy brys yw 'r menyn y Caws a 'r
Cyg o bob Rhyw — a ody ydeufydd [~ edafedd ] gwlan ar Llycu yn ddryd — a Oes
Llyn a Hemp yn Tyddy [~ tyfu ] yn y Wlad — o ba lea [~ lle ] yr ydch yn cal [~ cael ] rhafe
pwy Mor nesed attoch chwy gall Rope maker wneythyr bwyolyeth
a Oes Nemor o waith y Auctioneer yn eych gwlad chwy — o ba Le yr
ydch yn cal [~ cael ] Llider [~ lledr ] scydeu [~ esgidiau ], a beth y may ych scydea [~ esgidiau ] chwy 'n y gosty
Yn awr my ro ychydyg o hanes eyn gwlad nyney — y mae yr
anyfeylied o bob rhyw wedi gostwng yn rhyfedd oddi wrth fel y
byont yn dyweddar, ychen £30 y par yn nawr am £20 — y fywch £16
am £10 Mochyn £5. nawr £2..15..0 — ceffyl £30 nawr £12..12s..0
y cyg eydon a Maharen wedy cwmpo O 6 y 3
d/2 a 4
d cyg moch o 6
d y 3
d a 3
d/2, Gwenyth o
6 y 7
s/6
d, Barlys 3
s a 3
s/9
d cyrch [~ ceirch ] 16
d y 20 pob yn o 'r rhayn yn
[td. 3]
ddrwg yawn gan Egyn, y Cyniah a fu yn anhemerys yawn [~ cynhaeaf ] y Mae yr
Towydd yn Nawr gyfatal ag yn lwyb [~ wlyb ] yawn — pwy fath dowydd sydd yn
eych gwlad chwy yn gyffredyn — a Oes Llawer o fellt a Tharane — a odyn
Nhw yn gadarn yawn — My ddymynwn roy ychydyg o hanes y Llwodrell [~ llywodraeth ]
y mae yr papyr yn cwtogy — y mae y trethy yn amalhay, y mae pob ceffyl
ffarmwr yn 6s o dreth yn nawr y mae yr cwn heb gody eto y mae y Llwodrell [~ llywodraeth ]
medden nhwy yn, resolfo pery y 'w deylyad, Daly y Dreth fawr, y Gole, y cwn
a 'r Ceffyle beder gwaith Drostin [~ drostynt ] y flwyddyn hon ag ar hyny fe fydd £20
ar bob £100. ney 4s ar bob pynt — y may yr Deylyed o bob gradd yn grwgnach
yn rhyfedd ond y mae pethe hyn eto heb gymerid Llea [~ lle ] — may yr Stamps
wedy cody yn rhyfedd y mae 6
d yn 8
d Stamp am fond o £100 yn costy 10
s
&c yr ydys yn dwayd fod y dwymyn felen wedy bod yn gadarn yawn yn nghyfynea [~ cyffiniau ]
Philidelphia ag fod Mylodd wedy cal [~ cael ] ey Symyd y dragwyddoldeb — a ody hyn
y wyr — a oes yn eych gwlad chwy — Trefen y gadw Cyfeillach, yr wy
bwryady Screfeny [a]toch bob Quarter, hyny yw y cynta a fydd 25 o Mawrth 2
nd. 25 June
3 25 Sepm. 4 25 Decb. yn gyson pa yn y byddaf w[edy] derbyn Llythyr nay beido, ag yr
wyf yn Deisyf arno[ch] scryfeny ateb mor gynted ag y delo hwn y 'ch Llaw, ag wedy hynny yn
gyson fel ag y gwel[wch] Ichod, ag felly chwy fyddwch yn gwybod y dydd y byddaf y yn Screfenny
[ac] felly fyne [yn gwy]bod y dydd y byddwch chwythe [fel] Dwad Agrypa wrth Paul
Received January
26 1799
y fod e wedy ey Enyll o fewn ychydyg y fod yn
Grystion may arnaynne [~ arnaf innau ] chwant
dwaid fod eych Llythyr chwithe yn agos yn perswadio yne ymadel a 'r wlad ormessog
Hon — beth y mae yr Rhaglynieth yn drefny Nis gwn — dymynaf arnoch Gofyo
amdanaf y a 'm plant amddyfad Ger bron yr Orsedd — yr Arglwydd yr hwn
a bya yr fendyth a 'y cyfrano y 'ch Teyly chwy a fyne byth Amen
Rhowch fy Ngharyad Gwresog y 'ch Blant y gyd, ag y gwraig Dafydd
ych Mab ag y fy anwil chwar, a 'r Nodi ysod nay Sel sydd yn arwydd
y My roddy cysan yddo, ag felly rhodded hythe, dym yn
chwaneg oddy wrth eych anwillaf frawd
y mae y ffryns yn ey cofyo Sam
l. Thomas
atoch
[2. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Caerfyrddin) at Theophilus Rees a'i wraig Elizabeth Thomas (Beulah, PA), 25 Mehefin 1800, NLW 14873E.
]
[td. 1]
Carmarthen June 25 1800
Anwyl Frawd A 'm Chwar /
yr wy yn gobeithyo y bydd
yr Llythyr hwn ych gwrdd [~ cwrdd ] mewn yechyd chwy a 'ch holl
Dylwyth yn america fel ag y mae yn ein gadel Ny
oll — My a screfenes atoch yn ddywethar yn mys may ag
mi ades Le in y Llythyr y Shon ych Brawd o Lindain
y Sgrifeny intho [~ ynddo ], yn mha yn my a roddes y chwy hanes
y wlad yn byr heleth, ag am ych frynde yn y parthe yma
y rhai a ddymynasant e[u] cofyo atoch yn fawr, Mr. W
ms. Watch
Maker Mr. Watkins, Mr. Morris a 'y deily y Lew ayr, Tho
s. Jephtha
a 'y wraig, Benjamyn Bon a Llawer o 'r hen frindea
nas gallaf ey henwy, [yr] wy wedy halu atoch o
o Bryd y gylydd on [~ ond ] wrth eich Llythere nyd yw fy [L]lythere y
yn dod y 'ch Llaw, peidwch a thybed fy mod yn gollwng yn
ango yr addewyd, o a[ch]os fod fy Llythere yn methy dod
y 'ch Law mae hynny yn pery y mi screfeny yr yn pethe mwya
hynod yn y dyddye hin — y llafyr sydd wedy mynd
yn Rhyfedd o brys a Llawer wed [~ wedi ] marw o eyse [~ eisiau ] Bara
[y] me [~ mae ] newyn yn wyneby ein gwlad y mae yr
[gwe]nyth 17
s/ Barlys 9
s/5
d cyrch [~ ceirch ] 5
s/ Wynchester
potatos hene 2/6 ffy[o]led Rhay newydd 4s/
Gyg eidon 8
d Defed 6
d. a 7
d, Moch 6
d, y mae yn dda
y ny fod eych gwlad chwy a llafyr ynthy oblegyd
y mae Llawer yn dod ohony yma o flawd a
Llafyr, mae R yn gwerthy am 5
d. y pound ag y mae yn
cal [~ cael ] ey faly am ben Barlys y wneuthyr Bara ag hefyd
maynt yn cymiscy Bran a flwr lloyger y wneythyr Bara
y mae ann o 'r felly, a Mab gyda hy, hy a 'y henwodd
Theophilus o gof am[da]noch, y mae Mab Tho
s. David o
St. Clears wedy cal [~ cael ] p[len]tyn o 'r forwn [~ morwyn ], yr wy wedy [h]yspysy
hyn y chwy mor , caffwch y yn
dyfal mi screfenaf yno, y mae yn bleser mawr yawn genyf
weled Enw Sam Bach yn eich Llythyr Gofywch
hynny, y mae yn dewydd da yawn ar y cyneia [~ cynhaeaf ] wayr ag
ar ol Llafyr da ar y ddaiar, Menyn Llestry 10
d y pound
y mae y Rhyfel yn cael ey garyo yn y blan mewn
forse fawr rhwngom ny a 'r french, may plant Rees yn fyw
ag ynte yn yach may Richard a David fy Meibon yn Lyndain
mae lleyll o 'r tylwyth yn yach ag yn eich anerch, Nid oes genyf ddym
y ddywaid yn Rhagor, on [~ ond ] dymyno fod ystryd yr Hollall[u]og yn
preswylyo ynoch, cymynt [~ cymaint ] a hynny oddy wrth eych anwyll frawd
Saml. Thomas
[td. 2]
y mae y llythyr hwn yn dod gyda Llong o fryste
y Philedelphia, my weles James Penlan Dydd
Sadwrn dywethaf maynt oll yn yach, y mae Mr
John Williams o fynon Clwyd a myne wedi addo y 'w gylydd ddod
y roy tro ych gweled, ag y mae e yn caryo fy nghost y
yn nol [~ ol ] ag yn mlan [~ ymlaen ].
Mr. Theophilus Rees
Bula State of Pensylvania
/Via/ Harrisburg & Huntingdon
America
[3. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Carllegan) at Theophilus Rees (Beulah, PA), 28 Mai 1801, NLW 14873E.
]
[td. 1]
Carllegan May 28 1801
Anwil frawd yn Berthunas oreu
yr wif yn awr wedu cael y Cufleustra hwn
I 'ch anerch can obeithio y Cuferfudd hyn o leine
a chwi yn iach a 'ch Teilu fel yr udym ni mewn
mesur heleith yn Bresnol [~ presennol ] Rhwyme mawr Sudd
arnom I fod yn dduolchgar i 'r arglwidd am ei fawr
Dirondeb Tiac atom y mae y dwumun wedu bod
yn Teilu ond heb wneithur yn Rwïgiad eto y may
Bety fu ngwraig wedu bod yn claf acos [~ agos ] cwrter [~ chwarter ]
blwidd Sef y flwiddun hon ac heb wella fel ar fend
y mae cenif [~ gennyf ] 4 Lluthur y
n bresenol o fu mlan ar y ford y 1
chwefrol 15 1799 2 Mawrth 18 1800 3 Hidref 14 1800
4 o philadelphia Ionor 20 1801 yr wif yn ddiolchcar
Iawn I chwi am fod mor Llafuris I cofio am danaf
chwi a ofunsoch yn eich lluthur am fu nglun Dost
ac a ddarllenwn i Heb yn Sbectel y mae fu nglun
a Llai o boen o beth nac oedd ynddi ond yr wif
Corfod [~ gorfod ] Iwso Sbectel yn Cuson chwi ddwedsoch
a Leico'ch [~ leiciwch ] wibod pa rai o ailode Salem Sudd wedi
Sefull at Crefudd yn awr mi ddwedaf
I chwchwi yrudm [~ yr ydym ] ni o 80 100 aelode yn besenol [~ bresennol ] Rhai
wedu cael dicon [~ digon ] ar y Cibei yn troi un ol ac yn tustio
ei bod wedu cael ei twillo y mau y tu cwrdd bob nail [~ yn ail ]
Saboth cuda ni [~ gyda ni ] ar cwrdde erill yn Drassgell [~ Treasgell ]
a 'r Llaell yn Troedurhin y mae John Llwelun
weddol Iach ac yn erchi ei cofio atoch David Rees
yn Buw yn Dreasgell [~ Treasgell ] nid Dafudd Eich brawd ond
y perchen — ac yn erchi ei cofio atoch B
y rhai Sudd wedu ymadel a ni Iw Job Lewis W
m.
John crudd a 'i wraig W
m. Davidd [~ Dafydd ] a 'i wraig meichal [~ Michael ]
a 'i wraig Sioni saer Jinkin [~ Jenkin ] a Davidd [~ Dafydd ] Cof
ana hansel Bety Drefach
[td. 2]
a rhiw ferchetos bach erill o 'r Cumdogeth nad oes
fawr o ran Crefudd arnent [~ arnynt ] Davidd [~ Dafydd ] panturhedn
yn pregethy cuda nhwi [~ gyda nhw ] Tho
s. William penlan
wedu Bod Cwarter blwiddun yn Claf ac y [~ yn ] cadw yr
cwelu [~ gwely ] yn awr y mae yn Dechre Cwella [~ gwella ] yno
wedu bod yn precethu [~ pregethu ] 3 Saboth ac y mae yn
obeithiol Iawn I fod yn weinidoc [~ weinidog ] Da I Iesu Crist
y mae y rhwiciade ac Sudd wedu Cumrd [~ cymryd ] lle un
yr Eclwysi un Suro ysprudodd Dunïon at Ei cilidd un
Dost fel y mae Crefudd wedu mund I cael ei dan
Siencun + Ei celinion [~ gelynion ] ni Does neb o 'r bud un admeuro dim
ar yr athrawieth newidd yn Salem nac yn lle arall + y mae W
m.
Richards o Lynn wedu Rhoi funu acos [~ agos ] yn Lan a
precethu [~ pregethu ] — Leicwn wibod yn eich Lluthur nesaf
a odu yr athrawieth o Ewllus Rhudd yn amal
yn eich cwlad [~ gwlad ] ai nid iw ac os iw pa fodd y mae
yn Llwiddo — y mau yr Cumanfa yr flwiddun hon
yn Llan Clophan + ac y mau crefudd wedu mund
un farwedd Iawn yn Cuffredin yn yr ynus hon yn
bresenol mi a ddumunwn i fod: Seion yn Clafuchu ac
yn Escor ar feibion a merched eto mi a ddwedaf yr
arglwidd a fuwhaio ei waith eto ac a baro fod ffurdd
Seion yn fwu Sathredig — fe ddaeth amriw o Luthre [~ llythyrau ]
i 'r Cumdogeth hon oddiwrthich oddiar pan ymadawsa
Rhai I p[lw]y Llethrach Rhai I Cabrel Rees gun I
Moses Davidd [~ Dafydd ] ac y mae mosus yn bwriadu dod
Trosodd yna mi Bruneis y Leas ar y Cwbwl ac oedd canto [~ ganddo ]
Ef yn felin panthowel ac y maeu [~ mae ] fani fu
merch a 'i Cwr [~ gŵr ] yn Buw yno oddiar Dechre
Ebrill Cabrel [~ Gabriel ] yn buw yn panthowel
a chwedu prynu yr Les a 'r Cwbwl ac oedd yn
pant howel Thomas fu mab wedu priodu ac yn
[td. 3]
Buw yn penRhoscain yn plwidd [~ plwyf ] Trlech [~ Trelech ] ac y mae
arno £52 or rent amdano Ei wraig iw merch
Davis o Abrnant [~ Abernant ] yn awr nid oes cenif [~ gennyf ] ddim llawer
newiddion Thos Jephtha a claddwid ddoe yn
Salem ac fe Rhows pencoed bet ei wur a 'r
tu Suddiyn [~ sydd yn ] y Caerfurddin ac yma bet wedu
priodu a Teitus Lewis o blaenuwaen mab
yr hen Lewis Thomas o Cilfowis yr wif
yn barny ei fod heb ddechre precethu [~ pregethu ] pan
ymadawsochwi ni Does un ynghmri [~ yng Nghymru ] o un
parti yn cael Cadel [~ gadael ] fod Custal pregethwr ac
ef yn bresenol — y mau wedu mun [~ mynd ] yn amser
Caled Iawn ar dulodion [~ dlodion ] yr ynus hon yn presenol
y mae 'r Llafur yn ddrud iawn cwenith [~ gwenith ] winsister [~ Winchester ] £1 .s barlis
[o] 12s I 14s Curch [~ ceirch ] 5s a 5s:6d Winsister [~ Winchester ] Ci[g Maha]ren 8
Eidon 8d pound — Symau yr fath B ar
da yn awr nad os neb yn cofio ariod [~ erioed ] I w
fath yr uchen yn mun [~ mynd ] o £15 I £20 r Eidon Cwartheg [~ gwartheg ]
O £8 i £14 aneirod o £6 I £10 y Defed o £1 10s
Leicwn Wibod pa beth Iw eich biwolieth chwi
a pha beth y mau James y Cweudd [~ gweydd ] yn ei wneid
a Thomas ei fab a odu
[td. 4]
nid ym ni yn deall for [~ fod ] Mr. Rhees wedi gwneid dim angyfiawnder a
Mr Griffiths a 'r executors oedd ef i Sefydlu — a 'u fod ef unwaith wedu
roddi yr papurau a 'r Llyfrau cyfrifon W
m Griffith iddynt hwy sef
Mr. Houghton a Mr. Maywell y 'w sefydlu, wedi iddo gymeryd
llawer o boen yn gyntaf i gasclu yr dyledion, eithur yr ym
yn clywed yn awr ei bod hwy heb sefydlu 'r materion a 'u bod hwy
yn meddwl taflu yr boen a 'r drafferth ar Morgan
drachefn — yr a fydd yn niwiedol iddo o herwydd ei sefyllfa
Mr. Theophilus Rees
Bula
Cambria Settlement
by way of Harrisburgc
and Hunting Ton
America Philedelphia