Adran o’r blaen
Previous section


[4. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Carllegan) at Theophilus Rees (Beulah, PA), 13 November 1802, NLW 14873E. ]



[td. 1]
Carllegan Tachwedd 13th 1802
anwil frawd yn y berthunas ore mi dderbenes
eich lluthur cida llawenudd a scrufensoch mihefin
diwetha ac yn dda iawn cenif [~ gennyf ] cliwed eich bod
chwi a 'ch Tlwith [~ tylwyth ] yn iach fel ac yr ydm [~ ydym ] ni yn bresnol
mawr jw rhwyme sudd arnom j cudnabod daioni
athrycaredd yr arclwidd ti atom
yrydum ni er ein calar yn munegu Ichwi I fod
ffani fu merch wedu ei chladdu oddiar dechre
mihefin diwetha a dwu ferch fach a 'r un yn
3 blwidd ar llall yn 3 mis pan farw ei mam —
yn y lluthur dweth [~ diwethaf ] chwi ofunsoch am hanes crefudd
yn Salem y mae yr tucwrdd yn cael ei atal oddiwrth
ym bob yn ail Saboth ond yr yudm [~ ydym ] yn hedduchol
yn ein plith ein hinein trwi ddaioni yr arglwydd ar cwran
[d]awur yn amalhai a rhai yn chawanegu y mai Tad a
mam cwraic funonlwid [~ Ffynnonlwyd ] wedu ei Beduddio a John
Llwelin Dreasgell ac fe wnath brophes crand
o flan yr eclwis, y mae ein brawd Thomas William
o benlan wedi ei ordaino un weinidoc yn ein plith
ac y mae yn barchus Iawn yn ycmudeth ar
eclwis y mae yr achos yn cwanhu [~ gwanhau ] yn mlith yr
arminied nid oes neb yn dufod I 'w ei cwrando [~ gwrando ]
Wm David ai wraig wedu mund I Carfurddin
I fuw llawer wedu Dufod yn ol atom ni
Ben Philps wedu mund yn Sosinian a chwedu
ei wrthod can [~ gan ] ei bobol ac nid oes yn lle canto [~ ganddo ] fe
yn bresnol I lefaru maent yn ei wrthod yn
Carfurddin ac may yn Debig I fund yn dlawd
arno fe yr wif yn meddwl na feddiliodd ef ariod [~ erioed ]
y deithei arno fel ac y daith

[td. 2]
y mae llawer iawn o achwnion can lawer o bobol ac
a funa fel yr isralied a fu yn spo cwlad [~ gwlad ] canan y mant [~ maent ]
yn rhoddi anair i 'r wlad, budde yn dda Iawn cenyf [~ gennyf ]
cliwed yn eich lluthur nesaf pa beth Iw eich
Calwediceth [~ galwedigaeth ] pa yn ai farmwr ai tfarnwr [~ tafarnwr ] ai
Carier o Dref I Dref fel y mau rhai ac y
f[u] yna un dweid y meu wedu bod yn flwiddun
oer Iawn yn ein cwlad ni rfliddin [~ y flwyddyn ] hon ond ni cawson
cunhaia [~ cynhaeaf ] dumunol ond y mae 'r crop yn waeth
na llunedd ond y mae llawer hen lafur yn ein
cwlad [~ gwlad ] eto heb ei ddurnu y barlis am 2s. 6d Winscester
y cyrch 1s. 0d Winscester ar Cenith o 6s = 9d Winscester
y da ar defed ar Cuffule ar moch pris
mawr arnunt, y mae Davit Traed yrhiw wed
marw ers 6 withnos a mab wedu priodi a John
howel nantytregl ac fe aned mab iddi nos ar wil ei mam
Beni Howel Salem wedu marw Cwanwn
Diwetha ni does cenif yn Bresenol ddim
llawer o newiddion I rhoddi Ichwi y mau ana
fu merch wedu priodi Wilmhengel [~ Gŵyl Mihangel ] 1801 ac
y may mab cuda hi ei phriod iw mab John Lewis
o 'r tu cwun [~ gwyn ] ac maent yn buw y Berllan dow,
ell ac yn cadw 2 fuwch fe un dilin ei creft
crudd mi fues yn disgwl eich cweled [~ gweled ] yn
fawr rha [~ yr haf ] diwetha yn oelei bw
ond mi cefes fu siomi mi fuddwn yn
llawen iawn eich cweled [~ gweled ] yr ochor hun I 'r
Bedd ond nid oes cenif [~ gennyf ] fawr obaith eich
cweled [~ gweled ] ond cobeithio [~ gobeithio ] cawn cwrdd yr ochor
Draw lle na budd rhaid ymadel mwu

[td. 3]
a 'r ddehilw barnr cida [~ gyda ] llaweudd, Leicwn wibod
hnes [~ hanes ] James y cweidd [~ gweydd ] a 'i bobol yn y lluthur nesaf
y me [~ mae ] Gryphudd Morus or Llew auredd a 'i wraig
yn dumno [~ dymuno ] ei cofio atoch —
David Thomas Cilcod [~ Cilcoed ] wedu claddu ei inig
fab ac y may un alarus Iawn efe a 'wraig
yn awr farwl y tro hwn nid
oes cenif [~ gennyf ] ond ei corchmn [~ gorchymyn ] I dduw ei
yr udum y ni oll fel Teilu yn roddi ein
Cwasneth [~ gwasanaeth ] I chwi a 'Teilu
Samuel Thomas

I have opend this Letter in
order to put the other Letter
Inclosd as they will have a better chance to com to hand


[5. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Carllegan), heb ddyddiad [1802/3?], NLW 14873E. ]



[td. 1]
Carllegan Samuel Thomas
Anwil Frawd yn y Berthunas Ore,
Yr wyf Gwedi Gweled Eich Llythur Chwi
ag yn Llawen Iawn Genuf Glywed Eich Bod Gwedi
Sefudlu Eich hunain Mor Ddumunol — yr wyf
Gwedi Cael y Cyfle hwn I Isgrufenu [~ ysgrifennu ] r ychudig
Leine hun Attoch Gan Obaithio y Byddant ddod yn
Ddiogel I ich Llaw Chwi ag y Cafarfuddan [~ cyfarfyddant ] a Chwi oll
yn Eich Cenfunol [~ cynefinol ] Ieichud [~ iechyd ] fel ag yr ym ni oll yn Bresenol
ag Nid oes yn Cyfnewidad yn ein plith fel Teilu Oddi ar
pan ymadawsoch a ni Mawr Iw r Rhwime Sydd arnom
I Ddiolch yr Arglwydd am Ei ddaioni Tu[ag] Attom
Yn awr Mi Roddaf [y]chudig hanes Eglwys S[ale]m yr ydym
Mewn Yndeb a Heddwch a 'i Gilydd Trwi Dd[a]ioni Ein
Duw Da — Er Ein Gofid yr yn Gwedi Gorfod Rhoi Rhai
A Dderbuniasom yn Llawen oddi ar yr Enw Rhagorol a Chwi
Arnom Ymusg y Rhai y mai Daniel John wedi Cael Ei
Ddiaelodi ag nid oes un Argoel Iddo Droi Ei aeb yn ol
A Rhai gwedi mund y ffordd yr holl Ddaiar David Thos fu
Mrawd a Thos David Laugharne; Rhai Gwidi Cael Ei
Derbun y 'n plith: Benjn. Davies Gwidi [~ gwedi ] Cael Ei Ddewis yn
Winidog [~ weinidog ] Yn funon will Na Bwch ag mae Llwyddiant
Mawr yno — Y mae Thomas Williams Benlan yn Pregethu
Yn Ein plith — Nid oes fawr Cyfnewidad Etto yn y Gymd-ogaeth
Y mae David Traedyruch Gwidi Marw a 'i wraig
a Blant mewn Tylodi mawr — yn awr mi Rhoddaf hanes
pa fodd yr ymdrawis a 'ch helunt fe orfu arnaf Rhoi £8..10s..6d. at y
£0..10s..6d. a Roisoch y mi yn Lawreni Cyn Cael Gyda John Evans
I Goncern Dim G[y]da mi I Derbin yr ari[an] fu yn Ofidus
Iawn arnaf Cyn Ei Cael ag fe aeth £20..0s..0d. o arian parod
I mi Dalu Griffith Evans ag mi fues Ine yn Ei Derbun
Bob yn ychudug o gwmpas Dau fis yn ol sydd oddiar pan
Darfuddes a 'r Count ag mi Golles £0..12s..0d. yn y Count
y ffair y Cwbwl ywf [~ wyf ] y maes o Bocket yw £4..2s..6d. —
Mi Ddymunwn gael gwybod hanes Eich Crefydd yn America
yn y Llythir Nesaf — y mae Michael James wedi priodi a Chwaer
Thos. Thomas Frowen, — y mae Lettie ffynon
Beder Gwedi Cael Plentin o Mr. Williams Ofeirad Meidrim
y mae Jno. Lewis Corngavor [~ Corngafar ] gwidi Priodi — yr ydum ni yn
Dymyno Ein Carid [~ cariad ] I Chwi oll fel Teulu a 'm Gw at Eich Gwraig
yn Benodol / ydwyf Eich Caredig frawd (yn yr Arglwidd
Samuel Thomas


[6. Llythyr oddiwrth Moses David (Trelech), 4 Mehefin 1806, NLW 14873E. ]



[td. 1]
Velindre Trelech, June 4.th 1806
parchedig Sir, Mai yn ddrwg iawn
genif am fy mod wedi eich twyllo
cyhyd ag fy mod yn ffeily cyflawny fy
addewid ag nis gallswn ei chyflawny
am i mi newid fy sefyllfa a symyd o
Llanwinio i 'r felin felindre Trelech ag
amgylchiad mawr arall sef fy merch
Briodi. yr oedd genif feddwl mawr I
ddyfod trosodd y gwanwyn hyn ond mi
ffeiles bartoi [~ paratoi ] erbyn yr amser yr aith y
llong ymaith o milfford, yr ydwyf yn
meddwl Dyfod trosodd atoch y spring nesaf
os gallaf mewn un modd yn y byd yr ydwyf
yn dymuna' [~ dymuno ] arnoch os halwch lythyr i 'n gwlad ni
I hala atteb hwn os gwelwch fod yn dda, a cadwch
y tir i mi os ydy yn ei llaw,
y mae yn bron yn amhosibl i fyw yn y wlad hon
Nis gwelsoch chwi y fath galedi yr ys holl amser
y buoch chwy ynddi a 'r fath brinder n[i]d oes
yma on [~ ond ] ychydig of fara ond sydd yn dyfod o wledydd
erill yn mis mai ag mai y trethe yn codi yn anherfynol.
ar dai bach a mawr: y mai chwech swllt o
dreth ar bob math o geffyl gwaith ag 16s o dreth
ar bob ceffyl cyfryw a 4s o dreth ar bob ci yn ein
gwlad ni nawr onid yw hyn yn gathiwed anrhesymol
a ffein mawr os na rodder y cyfri yn gowir
am bob ci a ceffyl i 'r trethwyr

[td. 2]
A pheth sydd waeth y mai erledigeth
grefyddol yn amalhai yn ofnadwy ag ymraniade
dinistrol rhwng crefeddwyr o 'r un sectau canys
y mai y calfiniested yn cyfri pawb ag sydd yn
whahanol [~ wahanol ] farn a nhwi yn heriticied damniol
ag yn parhay yn anymynol Rhwng cynlleidfa Salem
r hyd yr ydwyf yn eich cyfri chwi yn happys
am eich bod wedi ymadel a 'r wlad hon mewn
ystyr tymorol ag ysprydol, ag yr ydwyf fine
y'n [~ yn ] gobeitho y caf yr yn fraint ag y mai
pawb o 'ch perthnase yn fyw ac yn iach hyd
ddim ag a wn i. Byddwch wych
y mai Richard Richard waynllan yn cofio ei gariad
atoch ag yn dymyno eich bod yn iach ag yn
llawen,
Yr ydywyf eich ewellyswr da ag
yn eich anwyl ffrynd. Moses David

Dear sir if you please Send some account
What sort of employment is there to a
Landsurveyor for I am a young man which
cannot get any good employment here and if please
your honour to send me an account [if] such
employment is to a Landsurveyor there and how
much is for surveying Land there the Acre
Honoured sir I am your humble servant
William Richard
Landsurveyor
Wein llan [~ Waunllan ] Llanwinio South Wales


[7. Llythyr oddiwrth John D. Evans (Beulah, PA) at Theophilus Rees (Seiotha, OH), 5 Mai 1807, NLW 14873E. ]



[td. cefn]
Mr.
Theophilus Rees
Seiotha,
State of Ohio.

Mi Gamsinies yn y Llythyr
. Nid oedd Ef wedy
Scrifenny attoech
sef David Thomas


[td. 1]
Fy hen Gyfell / Beulah Mai 5fed 1807.
Yr ydwyf an [~ yn ] cofledio
y cyfleistra presenol i ddanfon gyda
James Evans y Llythyr hwn attoch
gan obeithio eich bod Chwi a 'ch Teuly
yn mwynhau eich Cynefenol [~ cynefinol ] iechyd
fel ag yr ydwyf i yn bresenol diolch
i Awdwr pob daioni. — Mi a dderbynies
lythyr nythwr [~ neithiwr ] o Lunden oddiwr [~ oddiwrth ]
Thos. Thomas fy Mrawd yn nghyfreth
a 'ch hen Gymodog chwitheu oedd fe a 'i
deuly yn iach pan yr
yscrifenodd y llythyr, yr hyn oedd Mawrth
10fed 1807 Fe fu Ef ddwy flynedd a
hanner yn lled afiach, a chwech mis o
hynny mor glaf ag iddo fethy Gweithio. fe a
aeth i Gymry Mis Awst, ag yn mhen
chydig amser a ddaeth yn hollol iach.
ag a aeth yn ol i Lunden Nadolig
canlynol. sef y Nadolig dywedda.
yn mhen saith diwarnod wedy mynd
adre. fe aeth yn Glaf a 'r Plurys ag

[td. 2]
a fu yn debig iawn yn ngolwg dinion i ymadel a 'r byd
hwn, ond fe gas ei adferyd y 'w gynefinol iechyd trwy ddaioni
yr hollalluog. fel mai yn debygol i wneud
drosto ei hun a 'i deulu. — Mi Scrifenes lythyr at
Simon James o Attebyad i un a dderbynies i oddiwrtho
fe gyda James James Evans, Yr oeddwn wedi Sulwy yn
hwnnw bod llawer o 'r Cymru yn son am fyned oddi
yma i Dir yr Holand Company, fe aeth rhai ohonynt
ar yr Eira i weld y tir hynny, ag a aethant
yno yr ail waith i pigo y tir goreu yn gynta iddint
ei hunen, a rhai o 'r Saeson gyda nhwy, ond Erbyn
hyn yr oedd yr eira wedi myned i bant, hwy a
ffeilsant a chael gafel yn y tir da a Gwastad
a welsant y tro cynta, hwy a ddychelsant [~ ddychwelsant ] fel Gwyr
Dafydd Canys y Gwyr oedd wedi Cywilyddio yn
Lawr. 2 Sam 10.5 — Ni wn i ddim pa le byddont
yn meddwl o So'n [~ son ] amdano nesa. — Wedi i fyScrifenny
llythyr Simon James dychwelsant i nol yr ailwaith,

Mae yn ddrwg gen i glywad eich boed [~ bod ] mor
anamal o Lefarwyr. Gobeithio cewch y fraint yma.
sef ymarferyd yn Gydwybodol a moddion gras fe
ofala yr Arglwydd am ei achos. ni Edi Efe ei bobl.
Mi a ddyweda yr un peth wrthych ag a ddiwedes i
wrth Simon James, yr ymdrechaf i dyfod i 'ch
gweled cynted ag y Gallwyf, Arwydd dda yw bod
tymlad [~ teimlad ] o 'r dyffyg yn aros, o hireth am weled Custal,
ag os ewyllys Duw gwell na 'r amser gynt.
Ag fel y byoch yn ymdrechgar dros yr Achos goreu
flynyddeu maith, mae lle cryf, ar sail dda i
hyderu, na chewch fo'd [~ fod ] mewn newyn o gael clywed
y Gair yn eich hen dduddieu — Ar amserau mai
llawer o Lyfarwyr mewn rhai manneu a manneu
erill heb neb. mai rhyw ddoeth ddibenion yn hyn

[td. 3]
Yr ydwyf fi custal ag y dymynwn o ran fy Amgylchiadau
temhorol [~ tymhorol ], ond bo'd [~ bod ] arian yn bring iawn
yma yn bresenol, Ni wneuthym i yn burion yn
yr amser, er pan daethym yn ol o Mary land
tair Blynedd i nawr. mae Sefyllfa gusurus yn
dieddol i wneud y meddwl yn llonydd, Pan
bo y meddwl trwy lywodreth gra's yn Sefydlog
ar bethau o bwys, mai yn hawsach lefaru, trwy h[yn]
rwyf fi yn fwy gusurus i fy hun. ag a fwy lles
i erill, nag oeddwn y tro cynta cyn myned i
Mary land, fel nad wyf o ddim pwys ar y Cymry,
trwy Diriondeb Duw yr ydwyf yn mwynhau iechyd
da yma, dyna un peth sy yn fy nghadw
yma. nghyd [~ ynghyd ] a boed [~ bod ] arwyddion fy mod o les yn
rhai o Cymry. a 'r Saeson yn y Sefylad y [~ yn ]
Brush Valley. ar Black, — Ag etto mai o Bosibl
bydd gwaith y 'w wneud yn eich ardalodd
chwi: yn y Gorllewynol dir.
Cofiwch fy yn Garedig at
Betty a 'r plant, David Thos, a 'i wraig
a Martha Eich Merch. nid wyf yn nabod ei gwr,
ag at Martha eich hen ferch yn Ynghyfreth. [~ yng-nghyfraith ]
Ydwyf Eich Ewyllysiwr Da
John D Evans
Mae Thos Thomas fy Mrawd yn nghyfreth yn
un o 'r Pregethwyr Sefydlog yn Llunden
yn misg y Methodists cymraeg, —
Mi ddymynwn gael llythyr yn ol cynted a
byddo yn gyfleis i chwi, a hanes llawn o 'ch
rhan Chwi o 'r wlad, — Rwyf yn dyall bo'd [~ bod ] David,
Thomas a Bet wedi Scrifeny attochi Mi gweles
E heddyw. maent oll yn iach.


[8. Manylion bywgraffiadol am Theophilus Rees, NLW 14873E. ]



[td. 1]
Mr Theophilus Rhees
Cambria Settlement
near Beula
Pennsulvania


[td. 2]
Theoph Rees o Shir Gaerfyrddin a anwid n Lanwrthginin
ym mhlwif Midrim yn y flwiddin 1747
a fediddiwid n Rhydevelin gan David Thomas n 17 oed

Elizabeth ei wraig anwid n r un Shir n y grove
m mhlwif llanginin n y flwiddin 1743 a fediddiwid
n eglwis abartawe gan Griffith David
y Cyfriw oedd n ailode gwreiddiol n Corffoli eglwis
Salem n Shir Caerfyrddin n y flwiddin 1753

David Rees a anwid n y Dreascell n Shir Gaerfyrddin
ym mhlwif Llanfihangel abar-Cowin n y flwiddin
1773 a fediddiwid n Salem gan Benj Phillips
n y flwiddin 1794

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section