Adran o’r blaen
Previous section

[‘Y Gwr Moel o Sythia’, NLW 13075B (=Llanover B17), 54v-58r]



[td. 54v]
Llyma ystori y gwr moel o Sythia yn dyvod at
alexander mawr / yn gennad dros vrenin Sythia //
pan oedd alexander yn dyvod a 'u lv hyd ynglann [~ yng nglan ]
yr avon a elwid Tenais // val nad oedd ryngto ef
a gwlad Sithia / ond siwrnai ddiwarnod o Vor //
llyma ddauddeg marchog vrddasaidd / yn dyvod ato ef
oddiwrth vrenin Sithia / ag amravael vairch ag
arfav ganthynt rag ofn gwyr Groeg // ag vn o
naddynt oedd ddoethach na 'r llaill oll / a hwnnw a

[td. 55r]
ddauth geyr bronn alexander / ag a ddywad wrtho
val hynn // alexander heb ef / mawr yw dy ddaisyf
di a 'th hwant [~ chwant ] // a phe bai gymaint dy allv di / ag i
mae dy vryd ti / a 'th amkan // y 'm kyffes i dduw nad
oedd ddigon gennyd / gael yr holl vyd yt dy hvn // Kans
i mae y Dwyrain / a 'r Gorllewyn / y 'th law // ag i
ddwyd ti yn sorri ar hynny / aisav kael ychwaneg /
kans ti a vynnyd oresgyn yr holl vyd o 'r gwbl
a hevyd ti a vynnyd vod y pedwar defnydd pennaf
yn darestwng [~ darostwng ] i ti // nid amgen // tan / awyr / dwfr / a
daear // ag er hynny meddwl di hynn // ti a wely y
dderwen dekaf yn y koed / yr honn a sydd vawr a
braisg a dichlynaidd / i gwraiddav / a 'u phaladr yn
llvniaidd / a 'i brig yn dew // a chwedy bo hi yn tyvy
hir oesoedd a blynyddoedd / ef a ddaw vn awel o
wynt / ag a 'u bwrw hi i 'r llawr // a hevyd pwy
bynnag a welai ffrwyth teg ar brenn / ef a ddelyai
synnaid arno yn graff / ag er chwanoked a
vai ef ir ffrwyth / na thringai ef yn ry vchel
rag ofn i goloven [~ golofn ] dorri / a 'u ollwng ef i 'r llawr /
ag velly wr da / nag esgyn dithav yn ry vchel / rag
i ti syrthio yn ry jsel // a hevyd ti a wely y llew yn
arglwydd ar yr holl anevailaid [~ anifeiliaid ] // ag nid oes vn bwystvil
o 'r byd / pan glywo ef y llew yn ryo / ag yn
digio / a vaidd ysgog o 'r mann i bo rag ofn y
llew // er hynny / ef a ddaw terfyn ag angav yddo /
ag yna i daw 'r adar bychain y 'w bigo ef / ag y 'w

[td. 56v]
vwyta // ag am hynny / ny ddyly neb ymddired
yn ormodd i olvd bydol / nag i gadernyd // a
hevyd / ti a wely y dur / a 'r haern [~ haearn ] kaletaf oll / ef
a ddaw rwd o 'r ddaear / y 'w vwyta ef yn llwyr / ag
am hynny / ny ddyly neb / er i gadernid / a 'i valchedd
nad ofno angav a 'i derfyn // a gnawd yw i
beth gwann / drwy nerth duw / orchfygv / y peth a
vo kadarn // ag velly wr da / ny ddelyy di ddyvod
atom ni / mwy nag i delom ninnav atad tithav /
am nad oes neges i vn ohonom ni / wrth i gilydd
/ os dyvod a wnaethost di yma / i vanegi dy
enw i ni // ny ddorwn ni pwy a vych di // a hevyd
/ nid oes i ni gyvanheddav // eithr mewn gogovav
/ anial / a diffaith goedydd / i byddwn ni //
megis anevailaid [~ anifeiliaid ] gwyllton // a hevyd wr da
kenedl rydd vrainiol a sydd yngwlad [~ yng ngwlad ] Sithia /
ny vynnwn ni lywodraeth neb arnom / ag ny
chaiswn ninnav vaistrolaeth ar neb // ag na chaised
neb vaistrolaeth ar i gilydd // kans duw a erchis
i bawb gynnal i eiddio [~ eiddo ] i hvn / a bod yn vodlon
i hynny // ag na chaised neb ddim o eiddio [~ eiddo ] dyn
arall yngham [~ yng ngham ] // a hynny a wna i ddyn rengi bodd
duw // ag or gwnav dithav ddim dros benn hynny /
idd wyd ti yn torri kyfraith dduw a 'u orchmynion //
ag velly / ny welaf j ddim a dykio i ti / rag maint
yw dy chwant a 'th awydd // kans ny byddy di vodlon
er a geffych // kans ti a orchfygaist wlad lidia /

[td. 57r]
a chapadosia / a Siria / a Pherres / a Media / a
branta // ag idd wyd ti yn awr / yn myned i oresgyn
yr jndia vawr // ag velly wr da / kwilydd mawr / yw i
ti ddyvod yma / i gaiso pwrkas / a chyvoeth oddiwrth
yn ridisi [~ rheidusni ] ni a 'n tylodi / a thithav kyn amled dy
vreniniaethav / a 'th gyvoeth // a maint a sydd o vrenhinioedd
/ ag amherodron / ag arglwyddi dan dy lywodraeth
di / ag y 'th wasnaethv // a maint yw dy olvdoedd
dithav a 'th allv // ag er hynny tebig yw dy vod ti yn
raidys / ag yn anghennog // kans pa vwyaf a geffych
/ mwyaf oll a gaisy // kans er kyvoethoked a
vo gwr / try [~ tra ] vo ef yn kaiso hevyd / tylawd ag aiseog
i bernir ef yn wir // ag velly / na sorred neb
ar y peth a ddanfono duw yddo yn ddibechod / nag
ychydig / na llawer vo hynny // a hevyd / ti a ddelyyd
ddyvod kof yt / am y vickdoriaeth [~ fictoriaeth ] vawr a gevaist
di / yn ymyl dinas branta / ar hyd i byost wrthi /
ag nid ky [~ cyn ] hawsed a hynny i ti yn gorchfygv ni
na 'n gostwng // Kans pan debygych di dy vod ti
gwedy yn gorfod ni // i byddwn ni yn dechrav ymladd
a thi // a phan debygych di / ddarfod i ti yn
hymlid ni a 'n gorfod / i byddwn ni yn ymvikra
a thi / ag yn ryvely arnad o vewn y 'th lv // Kans
byanach / a chynt yw yn tylodi ni // na 'th allv di a 'th
gyvoeth // ag am hynny ysgawn [~ ysgafn ] / a disger vyddwn ni
a chyvoethog wyd tithav / ag am hynny trymon a
diog vyddwchwi // ag velly wr da / ny pherthyn i ti

[td. 57v]
gaiso goresgyn gwlad Sithia // a hevyd nid oes i ni
ormodd gyvoethav na galluoedd // ag nid oes arnom
ni dra gormodd aisav / na thra chwant ar dda / na
golvd bydol // ag am hynny anodd yw i ti / na 'n dala
ni / na 'n gorddiwes // a hevyd wr da pwy bynnag a
gaffo tynghedfen dda / a llonyddwch / ag amkan o olvd
bydol ef a ddyly kaiso atal i dynghedfen dda gydag
ef // Kans anwadal / a llefn yw 'r dynghedfen / a
hawdd yw genti lithro / ag anwadaly / ag ny ellir i
hatal hi o 'i hanfodd // a hevyd / ti a gevaist y vyddigoliaeth
[~ fuddugoliaeth ] / a 'r gorfod ar lawer o gedyrn / a gormodd o
gyvoethav bydol / er hynny / na chais di ry ormodd o
ddim onaddynt // ag na vydd ry groelon [~ greulon ] rag anwadaly
y dynghedfen / a throi o 'r rod i holwyn / a 'th ollwng
dithav o 'r kwrr vchaf yddi / hyd yngwaelod [~ yng ngwaelod ] y klawdd //
Kans ef a ddwedir [~ ddywedir ] / nad oes traed i dynghedfen // ag am
hynny / ny saif hi yn ddiogel // ond i mae yddi vraichav
hirion / val i dychon [~ dichon ] hi ostwng y kadarn / megis y
gwann / a chodi y gwann / megis y kadarn // ag am
hynny / ef a ddwedir [~ ddywedir ] / vod yddi adanedd / i hydeg [~ ehedeg ] oddy
wrth ddyn // ag i ddyvod at ddyn / ag i anwadaly megis
i mynno // ag velly / pan gaffo dyn dynghedven
dda gydag ef yn llonydd // ef a ddyly knivio [~ cneifio ] i hadanedd
rag ofn yddi hydeg [~ ehedeg ] oddiwrtho ef // a hevyd / ef a allai
dy vod ti yn tybiaid / vod y bobl a wyd ti / yn y kaethiwo
/ y 'th garv di / wrth i gorchfygv // y 'm kyffes i dduw
wr da / nad oes vn dyn ar y ddaear kyn gased / gan

[td. 58r]
bob dyn a thydi // Kans rwng y rai tirion hygar /
a 'r neb / ny bo 'n kaiso kaethiwed / na maistrolaeth
ar i gilydd / rwng y rhaini i byd kariad // a thithav
a sydd yn kyffro tremysg [~ trymysg ] a ryveloedd ar bawb /
ag am hynny / i mae 'n gas gan bawb dithav // Kans
yr rai a etyd ti yn llonydd / a gav ti yn ddiwidon [~ ddiwydion ]
yt / ag y 'th garv dithav // ag velly wr da y 'm kyffes
i dduw / mae kynt i bydd ser y Dwyrain yn y gorllewyn
/ y rai na symvdant byth o 'i lle // a chynt i
kar y pysg y tir sych / nag i bydd / kywir gariad rwng
dyn o 'r byd / a 'r neb a vo yn y ddirmygv / ag yn y
ostwng // Kans er i vod yn dwedvd yn deg / ef a vydd
y gwenwyn a 'r llid yn y galon ef // ag am hynny wr
da / gorffywys [~ gorffwys ] di bellach / a phaid a 'th ryvely / a does
di adref y 'th wlad dy hvn / a gad ni yn llonydd / ag
yn heddwch // ag velly / er son a thrafferth y gwr
moel o Sythia / ny lestairiawdd alexander ar i
siwrnai / namyn dyvod a 'u longav yn rwydd
i wlad Sythia i 'r lann

ag velly terfyna

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section