Adran o’r blaen
Previous section


[3. Llythyr oddiwrth John Richards (o Johnsburg, Warren County, NY, gynt o Lanuwchllyn, Meirionydd), 3 Tachwedd 1817, NLW 2722E. ]



[td. clawr.a]
Copy of a Letter from
John Richards
Johnsburg —
Warren County
State of New York
Nov 3d. 1817
North America
N.B. The said John Richard
went from Llanuwchyllyn
to North America about
Years ago; he was then
a school master & at first
follow'd the same occupation in
America; he understood Navign.
and this sometime after enabled
him to become Land Surveyor
for Purchasers in Lots of Wild
Land in its natural state; he
map'd the same, each Lot of
Half mile Square —

[td. clawr.b]
He has now 1000 acres
Cleared of his own; &
has erected thereon a Forge
& Furnace. He lives
In going from Albani
to the North Westward
Emigrants pass over a neck
of Land to Shorten their way
up to the Mohawk River.
"/>From Albani over the said
neck of Land to the Mohawk
the distance is about 15 Miles;
from thence to Uttica 15 More;
from thence to Stuben 15 More;
to Stuben is about 45 miles
from Albani.

[td. 1]
Anwyl Syr/ Mi a dderbyniais eich Llythr caredig wedi ei ddatio Tyddyn-yFelin
Mai 26. 1817. Fe ddaeth i 'm llaw o fewn yr wythnos; mae yn
ddrwg genyf fod cynifer o 'm perthynasau ac o 'm hên gydnabyddiaeth
mewn amgylchiadau mor gyfyng. Yn ddiamau mewn trueni
mawr fod cynifer o aelodau da wedi ei gwisgo allan mewn
llafur caled mewn gwlad ac nid ydynt mewn ystyr yn cael
dim am ei poen. Ond pwy help sydd iddynt. Myfi a dreiais fy
ngorau i 'w helpio ers 20 mhlynedd, ond fe aeth fy holl ymdrechiadau
yn ofer; mae 'n rhaid siarad a Dynion yn uwch
nag y gallaf fi cyn y bo iddynt deimlo a gweled ei mantais
naturiol ei hunain a 'i breintiau mewn pethau tymhorol.
Ond a aeth dynol ryw i 'r fath amgylchiad ac y dymunent
yn hytrach farw o eisiau Bara nac ymsymud i 'r fan lle mae
cyflawnder o fara a llaeth? Oddiwrth y fath benglogrwydd gwared
ni Arglwydd daionus. Y ddaear a wnaethpwyd er mwyn plant
dynion, ac ni allesid yn gyfleis mo 'i gosod oll yn Lloegr a
Chymru, nac yn Llanuwchllyn. Eithr mae ar bobl y lleoedd
hynny eisiau rhagor o ddaear nac sydd ganddynt, ond ni
wneiff y Creawdur byth i 'm tyb i un Acre o dir yn ychwaneg
yn Llanuwchllyn, nac mewn un rhan arall o Loegr hyd ddiwedd
amser. Ond fe wnaeth y Duw da yn y dechreuad ddigon o dir a
daear i holl blant Adda i 'w llafurio hyd ddiwedd y byd. Ac
y mae yn rhaid i mi ddweud i chwi fy nghyfeillion i mi
weled ddigon o dir i holl drigolion Cymru fyw arno yn gysurus
heb gymaint ag un enaid yn ei gyfaneddu nac yn ei feddiannu.
Yr Nentydd a 'r Afonydd hyfryd yn rhedeg trwyddo, yr haul yn tywynnu;
a 'r glaswellt a 'r Coed yn tyfu, y cynnar a 'r diweddar wlaw [~ law ] yn disgyn
arno, y Ceirw yn chwareu ar y tir, yr Adar yn ehedfan yn yr Awyr,
a physgod yn y dyfroedd ddigon ar bob amserau er dechreuad y greadigaeth
ac yr un modd hyd y dydd heddyw yn ymddangos yn ddiles i
holl ddynol ryw. Ond y mae breintiau y rhain yma, a chwithau yna;
y canlyniad yw fod yn rhaid i chwi ddyfod yma i 'w meddiannu, neu
beidio a 'i meddiannu byth. A pha beth a allaf ddywedyd yn ychwaneg[,]

[td. 2]
mi ddywedais i chwi y purwir; gwnewch chwithau eich dewis ei gredu
au peidio. Mi ddywedaf unwaith etto geill Myrddiynau o bobl gael
tir i 'w lafurio yn y wlad yma; ac nhw fyddant abl i dalu am
dano a 'i wneuthur yn eiddo iddynt ei hunain am byth, ymhen ychydig
o flynyddoedd o ddiwidrwydd. Mae hyn yn wirionedd; a 'r ffordd oreu
i chwi ydyw ei dreio fel y gweloch chwi eich hunan. Mae amrywiol
fath o diroedd, o ran brâsder, oerni, a gwrês o fewn unol
daleithiau America. Yn y rhannau gogleddol hyn lle 'rwyf fi yn
byw mae 'r gauafau yn hirion, yn eiriog ac yn oerion iawn, mae 'r
wybr yn glîr ac yn iachus, mae 'r dwfr hefyd yn bur dda, nid ydyw
y tir ddim mor frâs ac ydyw y rhannau gorllewinol y dalaith
hon; ond y mae ein tir ni yn gyffredin yn y rhannau yma yn dwyn
o 20 hyd yn 30 o fwysheli (Winchester) o Rŷg neu Geirch ar bob Acre,
hyny yw, pan y bo y tir wedi ei drîn yn dda. Mi godais i 40 Bwyshel
o Rŷg ac Indian Corn oddi ar un Acre. Mi gefais 350 o fwysheli o Potatoes oddi ar
Acre, ond nid cymaint a geir yn gyffredin. Yr ydym ni yn codi o
10 hyd yn 25 o fwysheli o wenith yn Johnsburg oddi ar Acre.
Mae yma le da am wair, a marchnad dda hefyd yma. Pris y tir
yma ydyw o 4 Dollar i 5 yr Acre (rhyw beth yn debyg i bunt
gyda chwi) a deg mlynedd neu yn chwaneg i dalu am dano, fe
gymmer y perchenogion yn gyffredin Anifeiliaid ne Yd yn daledigaeth
gyda ni yn Johnsburg, ac hefyd mewn ychydig fannau eraill; ond taledigaeth
mewn Arian sydd oreu. Mae 'r tir yn y rhannau gorllewinol
o 'r Dalaith hon ac yn y rhannau o 'r ty cefn i dalaith Pensylvania
(ac yn mhryniad Holland) yn dwyn dau cymaint o wenith ac a
gawn ni yn Johnsburg, ond nid yw hi yno ddim mor iachus yn
gyffredin ac ydyw hi gyda ni. Yn y mannau ag y mae y dwfr yn ddrwg
y mae 'r bobl yn afiach, pris y tir yn y rhannau hynnu sydd o 5
Dollar i 10 yr Acre, Credit byr a thaledigaeth mewn Arian; mae
genym ni gymaint o Rŷg, Ceirch, Pytatws, a Gwair, ac a gânt hwythau,
mae Stubend yn debig i Johnsburg, nid oes dim tir newydd i gael
ei werthu yn Utica, ond yn unig hen dyddynnod, ond y mae hi lawer yn
well i grefftwyr a labrwyr yno, y rhai nid ydynt byth yn meddwl
prynu tir (ond y ffordd oreu ydyw myn'd ym mhen ychydig i fall lle
y gellir prynu tir yn fwy rhesymmol) nhwy allant gael mwy cyflogau

[td. 3]
yn Utica nag a ellir ei gael yn Johnsburgh a chymeryd yr holl flwyddyn
drwyddi. Nid ydyw yn dda i ddieithriaid aros yn y dinasoedd (minau
Moroedd) yn hir amser ond myn'd ymlaen i gefn y wlad cyn gynted ag
y gallont. Mae 'r Llywodraeth yn dda, yn dyner, yn rhydd ac yn
uniawn, yn gadarn i Ryfel neu i heddwch. Fe ellir cael tir mewn
rhannau o Dalaith Ohio, Michigan, ac Indiana, a thir da hefyd am o
gylch 2 Ddollor yr Acre. Ond yn y mannau hyny nid yw 'r cynnyrch ond
isel iawn, ni all y Ffarmwr gael ond hanner Dollar y Bwyshiel am
ei wenith pryd y caffo fo 2 Ddollar neu 2 Ddollar a hanner yn
Johnsburgh; ac y mae yr un gwahaniaeth mewn llafur arall
ac anifeiliaid. Yn nhalaith Ohio mae 'r Hyson Tea yn myn'd o gylch
4 Dollar y pwys, ond yn Johnsburgh fe a 'i ceir am Ddolar; ac y mae 'r
un gwahaniaeth mewn pethau eraill. Fe all Labrwr gael tri chwarter
Dollar yn gyffredin, ac ond hanner Dollar yn Johnsburgh. Yn
amser cynhauaf gwair ac ŷd fe all Labrwr gael o dri chwarter hyd yn
Ddollar, neu fwyshiel o 'r Rŷg neu Indian Corn. Fe all dyn ieuangc da
o 16 hyd yn 20 oed gael o 10 i 12 Dollar y mis am y chwe' mis
haf, ac o gylch 8 Dollar y mis yn y gauaf. Ond y mae nhw' yn
cael 12 Dollar y mis am Arloesi yn fynych; fe all dyn Ieuangc gael
Buwch am ddau fis o waith. Y rhai nid ydynt yn gyfarwydd a
gwaith y wlad ni allant gael cymaint ar y cyntaf, ond fe all pob
un ddysgu ein ffordd ni o weithio ac a geisio ddysgu: mae digon
o waith bob amser yn rhyw gwrr i 'r wlad; eithr ychydig o waith
a geir yn y dinasoedd yn y gauaf; mae Canals yn cael eu gwneuthu[r]
yn y wlad yn bresenol, ac fe wniff [~ wnaiff ] pobl yr hen wlad y tro at y
gwaith hwnw yn bur dda. Fe wneiff merched ieuaingc y tro yn
bur dda ymhob cwrr o 'r wlad haf a gauaf. Fe all bechgyn
ieuangc da gael gwaith a (lleoedd) a chyflogau da ymhob man. Y
ffordd oreu i 'r rhai ac sydd ganddynt deuluoedd lliosog ydyw dyfod
i le tebig i Johnsburgh a chymeryd tyddyn ar y cyd (os na byddant
yn abl i 'w Stockio ei hunain) hyny ydyw i gael hanner y gwair,
yr holl borfa, hanner yr ŷd, hanner y Caws, a hanner y menyn; a
pherchenog y Tir yn rhoi Gwedd, Arad [~ aradr ], Ôg &c a 'r Buchod. Mae genyf
fi Farm yn Johnsburgh, ac yr wyf yn foddlon i 'w gosod ar yr Amodau
hyny. Os daw fy Mrawd Hugh drosodd yn y Gwanwyn fe all ei

[td. 4]
chael; ond os bydd yn dewis rhyw ran arall o 'r wlad eled yno.
Rwyf yn meddwl danfon i New York gyfarwyddiadau iddo pa
fodd i ddyfod ymlaen, ac hefyd oddeutu £35 o 'ch Arian chwi. Bydded
i 'r sawl ac a ddelo drosodd ddyfod a hyny allont o ddillad
gwisgo, a dillad gwelyau gyda hwynt, oblegid maent yn
ddryd iawn yma. Na fydded i 'r Môr na 'i donnau rwystro neb
i ddyfod trosodd, canys yr hwn a wnaeth y tir, a wnaeth y Môr
hefyd. Steubend yw 'r unig le lle y pregethir cymraeg ac a wn
i am dano yn y wlad hon. Mae yma ddigonedd o Ŷd y leni; yr
oedd yr ŷd yn brin iawn y llynedd o achos y sychder mawr a
fu dros yn agos i flwyddyn o amser, ac hefyd am fod peth
dirifedi o yd wedi ei myned tros Fôr o bob rhan o 'r wlad hon.
Cofiwch fi yn garedig at fy hen Fam os byw yw hi etto, ac at fy
Mrodur am Chwaer, a 'm hên gyfeillion i gyd oll yn Llanuwchllyn,
pan fyddont yn agos at Dduw, cofiont am danaf finnau.
Na feddylied y rhai a ddelont yma mae Nefoedd ar y Ddaear yw hi;
Nag e ddim: Yma y mae croesau, a phechod, a Satan,
ond etto y wlad hon yn ddiau yw 'r oreu i ddyn tylawd i enill ei
fara, a magu ei blant ar wyneb yr holl Ddaear: a molianus
fyddo enw yr Arglwydd am ei fawr ddaioni i ni oll. Dylau y
rhai a ddelont yma fod yn ffyddlon i 'r Llywodraeth hon. Od
oes neb yn meddwl am ddyfod yma ac yn caru Llywodraeth
Brenhinol, elent i Upper Canada, un o daleithiau Brenhin
Lloegr, hwy allant fyw yn dda yno yn amser heddwch, ond
yn amser rhyfel nhwy gânt drwbl fe allai. Y mae yma
Ddaear a Dŵr, Bara, Rhyddid, a diogelwch personol; Iechyd a
Saldra, Eirch a Beddau; a ffordd i 'r Nefoedd; Gwrês ac Oerni,
Gwynt a Gwlaw, fel gwledydd eraill. Creawdur pob peth
a 'ch diogelo ar for a thir, ac a 'n cymhwyso ni oll i ymddangos
ger ei fron yn gymeradwy, Y 'w deisyfiad,
Johnsburgh Warren County, Eich Serchiadol Ewyllysiwr da
State of New York John Richards.—
Nov.r 3.rd 1817 —


[4. Llythyr oddiwrth William Thomas (o Utica, NY, gynt o Ryd-y-Main, Llanfachraeth, Meirionydd) at ei deulu, 17 Awst 1818, NLW 2722E. ]



[td. 5]
The following is a Copy of a Letter from William Thomas, son of
Thomas Jones of Ty-mawr near Rhyd y Main, Parish of Llanfachreth,
Merioneth Shire, who went to North America with ______ of Dy Nant
and others near Bala & Dôlgelley in May 1818 —

Utica August 17.th 1818
Fy Anwyl Dâd a Mam, fy Mrodyr a 'm Chwiorydd/
Yr wyf fi yn danfon hyn o leiniau attoch gan
obeithio eich bod chwi oll yn iach fel ac yr wyf finnau yn bresenol,
i Dduw y byddo 'r diolch am bob Trugaredd: nid oes gennyf fi fawr
o newyddion, ond fy mod i yn gweithio yn y Cut (Canal) hefo
Saeson, heb ddim cymraeg, am dair Dollar ar ddêg y mis, ac y mae
Dollar yn 4s .. 6d. o 'ch arian chwi; mae amriw o 'r cymru yn yr un fan
am 22 Dollar yn y mis ar ei bwyd ei hynain, ond yr wyf fi yn
cael bwyd a diod a golchi ganddynt hwy: nid ydyw llawer o 'r
cymru yn leicio mo 'r wlad mor dda ac y cawsom glywed gan
John Jones o 'r Penrhyn a John Richards, fe ddarfu rheini ddanfon
llawer iawn o anwiredd: mae John Richards gwedi ymadel
a 'i wraig er ys 2 flynedd, ac nid ydyw fo hanner mor abl ac
y mae yn danfon am dano ei hyn: ac fe aeth John o 'r Penrhyn
i New York i ymofyn am waith, o herwydd nad oes yn Stuben
ddim i 'w gael, ac felly fe gafodd llawer o 'r Cymry ei siomi trwy
lythyrau y gwyr yma: Oni bai fod y Cut (Canal) fe fuasau
llawer iawn o 'r Cymru heb ddim gwaith. Yr wyf fi yn erfyn ar
bawb o 'm Cymmydogion beidio a meddwl am ddyfod yma o herwydd
hwy a wariant fwy wrth ddyfod yma nac a fedrant feddwl am
dano; am hynny fy nghyngor i ydyw ar yddynt garu ei bro a thrigo
ynddi, o herwydd fy môd yn meddwl am ddyfod yn ôl fy hûn erbyn
y Gwanwyn os caf gymmorth gan yr Arglwydd; a llawer o 'r
Cymru yr un môdd os gallent gael modd erbyn y Gwanwyn.
Mae 'r Tir yn anialwch gwyllt o goed heb glirio fawr o hono, ac
am hynny nid yw o mo 'r gwerth gan y Cymru ei brynu. Mae 'r
Haf yn boethach eleni nac y bu er ys lawer o flynyddoedd. Yn y
fan lle 'r yr wyf fi yn gweithio, o fewn milldir i Utica, nid oes yma

[td. 6]
na ffair na marchnad i bobl fynd a 'i hanifeiliaid; na nêb yn dwad
ar hyd y wlad i brynu fel ac y maent efo chwi: maent yn dywedyd
y bydd y Gauaf yn Eira am 4 Mis; yn rhewi y bobl ar y ffyrdd
os na bydd ganddynt ddillad lawer am danynt; maent hefyd yn
dywedyd na bydd neb yn gallu gweithio am yr amser yma
ac felly y mae llawer peth yn erbyn Ynnill; mae 'r tai yn bur ddrudion
 yma, o 4 i 6 Dollar yn y mis; a thai coed ydynt hefyd:
mae 'r dillad yn ddrudion iawn. Mae 'n well gan i weithio yn
yr hên wlâd am £8 .. 8 . 0 na chael yma £20 . 0 . 0; nid
yw hi ddim gwell i 'r Crefftwyr na 'r Labrwyr. Mae 'r Carpenters
yn gweithio yn y Cut (Canal) heb ddim gwaith. Felly nid
oes yma mo 'r llawer o bethau ac y clywsom fod, cyn gweled;
o herwydd mi fu David Jones o Ben y bont-Lliw yn nhy John Richards,
ac mi roedd o yn edrych yn hên ac yn sâl, mewn anialwch gwyllt
a dillad pur sâl am dano. Mae 'r wlad yr un fath ag y darfu
fy 'nhad ddweud i mi cyn cychwyn; a hyn yn fyr oddiwrth
eich Mab,
W. Thomas
Gyrwch ar David Jones Pen y bont i ddweud fod
Dafydd ei Fâb yn gweithio mewn Tannws yn Utica, yn
iach ac yn cofio at bawb o honynt yn Llanuwchllyn. —

This Letter was thus directed.
( Mr. Thomas Jones — Ty-mawr, Aber Iddon,
August 17th. ( Llanfachreth near Dolgelley, Merioneth Shire
1818 — ( N. Wales .... British Packet for Liverpool —


[5. Llythyr oddiwrth David Richard at ei frawd, 11 Rhagfyr 1818, NLW 2722E. ]



[td. 7]
Utica, Rhagfyr 11. 1818
Anwyl Frawd /
Cefais y fraint o anfon hyn o leiniau attet [~ atat ],
dan obeithio y derbyni hwy yn dy iechid fel y 'th adewais, fel
ag yr ydym ninau ôll, i Dduw y byddo yr diolch am
ei ryfedd ddaioni imi ymhôb amgylchiad. Mae fy iechud
yn dda er pan ddaethym i 'r wlâd hon; er bod yr hâf riw faint
yn boethach. Maent yn dyweud bydd y Gauaf yn oer iawn;
mae yr Eira wedi dechra ers tri diwrnod: Ond maent yn
dweud y toddiff hwn etto, ond daw Eira o ddeutu yr Gwyliau
ag yr erus hyd ganol Mawrth neu agos i Glamai [~ Galan Mai ], ac felly mae
yr amser i lafurio yn fyr. Rydwyf yn ddiolchgar iawn i chwi
am ddanfon Llythyr, yr hwn ddaeth i 'm llaw Rhagfyr 7.fd o
flaen: yr un Llythyr arall o 'r hên Wlâd, ond cefais yn rhodd
gan yr Arglwydd, ac a wnaeth i mi wylo a chwerthin yr un
pryd, a 'm calon yn llammu o lawenydd, yn anisgwyliadwy,
cael gweld fy Anwyl Fâb Richard Richards, wedi bod ar ei
Basets, (Passage) naw wythnos, ac yn sâl 5 wythnos, a chael
ystorm fawr ne's [~ nes ] i 'r hwyliau fyn'd yn ddarnau lawer gwaith,
roedd y Môr yn aml yn taflu trosto ar y Deck; ond daeth yn
iach i 'r lan i New York, rhosodd [~ arhosodd ] yno 5 diwrnod gyda ei Frawd
Humphrey, yr hwn a gafodd yn bur garedig. Mae Humphrey
yn enill o ddolar a hanner i ddolar a thri chwarter yn y dydd,
ac yn ei cadw i gyd, ond ei fod yn talu tri dollar yn wythnos
am ei fwyd (4s./6d. o arian Lloegr ydyw Dollar,) bu Richard yn
agos i bythefnos yn dyfod o New York i Utica.

Mae John fy Mâb yn yr un man, mewn lle da, yr un modd
ag y dywedais o 'r blaen, nid wyf yn gweled yn wiw anfon yr un
peth ag a anfonais o 'r blaen. Rydym ni oll yn bur iach, a
Mab bychan gan fy Merch Grâs er ys Pythefnos, maent yn
buw yn bur gysurus; Gweithio Atsis, (Arches) tan y Canal:
rydwyf fi a William Thomas tan yr wan; mae fo yn myned i
ddyrnu yn ymyl y Dre, ar y ddegfed ran am ei boen, a 'i fwyd
a 'i ddiod. Cafodd fy Mab Richard le ymhen dauddydd yn ymyl
ei Frawd John, gyda gwr bonheddig mawr, yr un gwaith a 'i
Frawd, edrych ar ol tri o Gyffylau a Buwch a thendio o ddeutu

[td. 8]
yr Ty, ni raid iddo roi ei amser am ychydig gyflog, ni chafodd
amser i ddod i 'r Ty; dynu am dano heb fynd yno, ond cafodd
ddod yw tynu y nos, nid rhaid iddo wneud dim y nos, geill
sbarin mwy o arian na myn'd i 'r Excise, gwnaeth yn gall ddyfod
trosodd, geill ddyfod adre os bydd yn dewis ac yn hiraethu
am ei hen feistr. Yrwan mi dreiaf roi ychydig attebion i 'ch
gofynion, cewch wirionedd hyd y gallwyf fi ei amgyffred, ond
credwch fi fel dyn ffaeledig; mae 'r tir yn wahanol yn ei bris
yn ol ei sefyllfa. Tir Stuben heb ei glirio o gwmpas 5 Dollar
yr Acre, ond y mae yn lle uchel pur fryniog, heb godi fawr
o fwyd ond Pytatws, mae 'n lle da am wair a fforfa, Plwyf ydyw
Stuben, a chanoedd o Gymru yn buw ynddo, os nad Miloedd, nis
gallaf ddweud faint iw Tir wedi ei glirio yn Stuben, Pris
Tir Coediog o ddeutu 'r Dre o 15 hyd 20 Dollar yr Acre. Mae 'r
Coed yn werth mawr yn ymyl Tre. Pris Tir tan Rent o ddollar
hyd 2 ddollar yr Acre, ac y mae digon i 'w gael ar bôb amser;
nid yw y Trethi ond isel, maent yn prisio 'r Stock i gyd,
ac nid yw 'r Trethi ar y Tir, ond ychydig iawn. Maent yn hel
y Trethi i gyd ar unwaith, ac yn eu rhanu at bôb achos yn y
wlad, cyflogau Bechgyn ieuanc o 8 i 10 dollar yn Mîs; yn yr
Hâf o 10 i 12 dollar y Mis; cyflogau Merched o 4 dollar hyd 4 a
chwarter y Mis. Cyflog yn y Canal iw dollar y dydd, wrth y Mis
o 13 hyd 14 a 'i Bwyd, a 'i diod, a 'i golchi a hanner pint
o Whiskey bob dydd; ar eu Bwyd eu hunain o 22 i 23 dollar,
gwlyb a Sych. Nid ydyw Esgydiau ond tebig i 'r hên Wlad,
ond bod eu gwneud yn ddrutach; eu pris wedi eu gwneud gwmpas
2 ddolar, Brethynau sydd beth yn ddrutach. Mae 'r Anifeiliaid
a 'r llafur yn codi, pris Bychod o 28 hyd yn 40 dollar; Cyffylau
o 60 hyd yn 100 dollar; Defaid gwmpas dollar a hanner; Ymenyn
18d y pwys o arian Lloegr, Caws 5d o arian Lloegr, Gwenith gwmpas
Dollar a hanner y Bwshel, yr un mesur a Dolgellau, Pytatws
19d a 'r Afalau yr un fath, Nid yw ddim iws i Lifiwrs ddyfod
i 'r ardaloedd yma, melinau sydd yma yn llifio 'r cwbl, mae lle
da yn New York i Lifiwrs, maent yno yn adeiladu 300 o dai
y leni, gofaint sydd a chyflog mawr, ond nis gwn ydyw yn hawdd
iddynt gael gwaith, clociau nid oes dim galw mawr am danynt
ond mae ei pris beth yn fwy na 'r hen Wlad, a Watches yr un fath.
Nid iw cyflogau Shopwyr fawr ond yr un fath a Hwsmun, mae bron
pawb yn ysgolheigion da, mae cyflogau Merched yn fwy yn New
York nag ydynt yn gyffredin o ddeutu Utica, ond ei bod yn iachach
rwi 'n meddwl i 'r Cymru yma, — mewn perthynas i Grefydd, nid ydyw

[td. 9]
ond go lesg, i 'w chydmaru a 'r hên Wlâd, nid ydyw y Llefarwyr ond
anaml iawn, er bod ugeiniau o Aelodau proffesedig ymlith y
Cymru os nad Canoedd, ac mae yma Lywodraeth rydd iawn i 'r
Efengyl, a 'r un modd hefyd i Bechu. nid ydyw yn beth rhyfedd
gweled dynion yn lladd gwair ar y Sabath ac ereill yn ei gyweirio
ac ereill yn cario, eraill yn troi, ac eraill yn cario i 'r
Dre a 'i Gwageni, a phob math o Buteindra o thor Priodasau,
nid ydyw y ddau Sacrament ond yr un fath a 'r hen wlad
gan Ddysenters a Babtists, ond nid oes dim cynylleidfa o
Fethodist lle y gwn i am danynt, mae pob enw yn Priodi
yn eu plith eu hunain, nis gwaeth ganthynt pa amser na
pha le. gartre ai oddi gartre ai nos ai dydd, ond mae lle
i gladdu wrth rai Tai addoliad, a rhai llefydd pwrpasol hyd
y Meusydd, ymbell un yn claddu ei Etifedd yn ymyl ei Dy i
spario trafferth, nid oes neb yn darllen dim uwch ben y
Corph marw, ond claddwch fy Marw allan o 'm golwg, nid oes
fawr wahaniaeth rhyngddynt a 'r hên Fethodist yn gynnal eu
gweinidogion yma, nid oes yma neb yn byw wrth Bregethu yn
unig, ond maent bawb yn dilin rhyw alwedigaeth, buasau
dda genyf gofio fy ffrindiau wrth eu henwau, ond mae 'r lle
yn fychan, cofiwch fi at Catrin Robert, a Betsan, a phobl y
Pantclyd, a 'r Graig, a Magdalen, yn neillduol fy anwyl Eneth
sydd yn aml ar fy meddwl, Nis gallaf annog ffarmwyr fyddo
yn byw yn dda yn eu gwlad i ddyfod trosodd, ac yn gallu talu eu
ffordd gartre, mae 'r Efengyl yn ei Sandalau yn yr hen wlad.
Rhaid i mi ddibenu a 'ch gadael oll i 'r hwn a greodd For a Thir,
Bydd dda genyf gael Llythyr ganthoch, mae yn ddrwg genyf
na allaswn roi mwy o 'm hanes fy hun ond mae 'r lle yn rhy
fach, yr hwn wyf eich Brawd ______ David Richard

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section