Adran o’r blaen
Previous section

Llythyrau gan ymfudwyr Cymraeg o dde Meirionydd i'r Unol Daleithiau allan o NLW 2722E (1816–18)

Cynnwys
Contents

1. Llythyr oddiwrth Hugh a Catherine Thomas (Trenton, Oneida, NY) at eu merch a'u mab-yng-nghyfraith, Mr a Mrs J. W. Zachariah (Gwastad Coed, Dolgellau), 25 Medi 1816, NLW 2722E.
2. Llythyr oddiwrth David Jones (David Shone Harry) (saer o Albany, NY, gynt o Lwyngwril, Meirionydd) at ei wraig, 14 Hydref 1817, NLW 2722E.
3. Llythyr oddiwrth John Richards (o Johnsburg, Warren County, NY, gynt o Lanuwchllyn, Meirionydd), 3 Tachwedd 1817, NLW 2722E.
4. Llythyr oddiwrth William Thomas (o Utica, NY, gynt o Ryd-y-Main, Llanfachraeth, Meirionydd) at ei deulu, 17 Awst 1818, NLW 2722E.
5. Llythyr oddiwrth David Richard at ei frawd, 11 Rhagfyr 1818, NLW 2722E.


[1. Llythyr oddiwrth Hugh a Catherine Thomas (Trenton, Oneida, NY) at eu merch a'u mab-yng-nghyfraith, Mr a Mrs J. W. Zachariah (Gwastad Coed, Dolgellau), 25 Medi 1816, NLW 2722E. ]



[td. clawr]
Henry Owens Esqr.
Copy of a Letter from North America
in Septr. 1816 — to Jon Wm. Zackaria
of Gwastad-Coed, from his daughter and
her husband ———
Feby. 8th 1817
Upperoldtown


[td. 1]
Exact copy

Anerch fy nhad a mam dan obeithio eich bod yn iach megis ag
yr rum [~ ydym ] ninau i 'r Arglwydd y byddo .r. diolch dan obeithio y bydd
I hyn o leinia ddod i 'ch llaw a 'ch cael chwithe yr un modd — fellu
chwi a ddymunwch gael peth o 'n hanes ni ein hunan, yn gyntaf. I mae
yn lled gysurus mewn perthynas i 'r rhigliniaith [~ rhagluniaeth ], nid iw ein ffarm
ni ond bychan 40 Acre, ond ei bod yn gyfleus iawn. dau nant yn __?
mynad [~ myned ] trwyddi un yn y gorllewin [-: West] ar llall yn y dwyran [-: East] a 'r ffordd
dyrpeg yn myned drwy ei chanol hi. rydum ni yn cymerud gofal y
gate, am 80 dolar yn y flwyddyn. ar y ffordd Sudd o veta I Canede. fe
alle y bydd ichwi fod am wybod pa fodd y mae crefudd yma, I mae hi
yn gymysglud iawn ymlith y saeson, llawer o ddaliadau sydd yn groes
i 'n myddylia ni, llawer o fysoldeb [~ foesoldeb ] ond ychydig sydd o rum diwioldeb
yn ymddangos, ond i mae yr hen gymru wedi Cael y fraint o lefaru
yr athrawiath y groes yn ole ag yn ogoneddus, ond nid i 'r un
arddeliad ag y Clywsom ni — efo chwi —, i mae ein braint yn fawr[.]
I mae y bedyddiwrs [-: Babtists] a nine yn cud gadw Cyrdde blynyddoedd sydd
yn para ddau ddiwrnod yn Veta a dau yn Stuben a 'r gyfeilliach
ynghyd yn aroglu yn beredd. I mae yn Veta ddwy syseiat
un o 'r bedyddiwrs ag un o honom ninne — dwy yn Stuben un o 'r
bedyddiwrs ag un ohonnon ine [~ ninnau ]. dan yr enw Independent
ag yn dal ythrawiaeth [~ athrawiaeth ] Calfin — pwy su yn llefaru — atteb ein
gwnidog ini iw W.m Prys o sir garnarvon a John Rob.ts o 'r bala a
Robert Griffiths o 'r dinas mowddu [~ Mawddwy ] — I mae rhwng y ddwy
[se]ttlment 16 o fylldiroedd. Stuben yn y gogledd a Veta yn y De
[a] nine yn byw yn y Canol ar haner y ffordd. wyth o deulu y Cymru
yn agos i 'w gilidd, pob Cyflusdra ag sudd achos [~ agos ] — dwy dref farchnad
un o fewn 4 milldir a 'r llall o fewn 8. I werthu ne pa beth bynag a
fydd eusiau — digon o siopa mawr a ffob peth i 'w gael am arian
neu newid — Ysgol dda o fewn hanner milldir i 'n tû ni yn Cadw
dyn yno drwy 'r flwyddyn hon, yn talu iddo 20 dolar bôb mis neu
£4..10s o 'ch arian chwi, a 'i fwyd a 'i ddiod a 'i olchi — meline da yn agos
ffagtris gwlân a chotton — bob Crefftwur a digon ond ei bod yn ddrud
iawn a gweithiwrs hefyd — o 'n deutu ni y mae fel hyn, seiri coed a 'r
Joiners o ddeutu 10s yn y dydd — a 'r saeri maen yr oeddem ni yn
talu 12s yn y dydd a 'i fwyd — am weithio y cynauaf [~ cynhaeaf ], yn talu 8s yn y
dydd. ag am waith arall 5s yn y dydd. yr haf hwn su wedi bod yn such
ag yn oer yn y rhan gyntaf o hono, a phob peth yn ddryd o ymborth
dynion. y gwenith y Cynhauaf oedd 10s y Busiel o 'ch arian chwi, a 'r
Bwsiel iw 32 quarts, a phob graen arall yn yr un modd — gwartheg oedd
yn ddrydion, par o ychen yn £22 — Buwch o - £6 i £8 Ceffyle o £10 i £30 — defad [~ defaid ]
£p10; mewn gair pob stoc yn ddrud iawn y flwyddyn ddiweddaf; ond i mae
pob peth yn is yrwan, ond Cyfloga dynion sudd yr un fath, chydig
sydd o ddiod frag, a hono yn 6d y Cwart. Rwm 4s..6d y galwyn. Jin 6s..6d y
galwun — Brandi yn 8s y galwyn — Whisgi 2s..6d y galwun — ymenun a 'r caws
yn ddryd — y menun 11d o 'ch arian chwi — a 'r Caws breision 9d y pwys.
I mae menun y Cymru yn myned I Newyork, gan amriw o
fersiandwur, ag yn delio yn onest, ag yn dod a llawer o filoedd o
ddolars, dwy neu dair bob blwyddyn, ag yn talu yn onest — a dyma
un peth o lwyddiant y Cymru — a chida bod yr Arglw[y]dd

[td. 2]
Yn ei llwyddo yn fwy nag yr un genedle [~ genhedlau ] a ddaeth i 'r america
Irwi [~ Yr wyf ] fi yn meddwl nad oes un wlad dan haul well i bob dyn
a fyddo yn weithgar ag yn onest i 'w chael na 'r america na gwell
Cyfreithia mor ffafrol I bobl weiniad, ni cheiff y gwan mo 'i sathru
na darchafu [~ dyrchafu ] y mowrion: fe geiff barch yn ol ei heiddiant nid yn ol
ei gyfoeth, gwerthu y tiroedd Coediog a rhoddi yr arian ar y llog ag i mae
y llog yn llawer o filoedd o bunne bob blwyddyn i 'w ranu drwy state
New York I gynorthwuo pob tre ddegwm I gadw ysgol feisdir [~ feistr ] ag i mae
yn rhaid i hwnw fod wedi ei gwaliffeio neu yn gymwys i 'r gwaith, ag
I mae yn beth da, mae peth arall nad iw hawdd I chwi yna ei gredu —
hynnu iw, fod yn ein tre ni dros 160 o ddolars ar log o dreth tylodion
heb neb yn gofyn un geiniog ag ni welsom ni un tlawd yn begio
er pen ydum ni yma yn buw a hynnu dros 13 flynyddoedd; eto I
mae miloedd yn gweiddi am wlad well er cystal iw y wlad. mae
yma lawer o Elynion — byd — Cnawd — a diafol, rum ni yma mewn
Cymmaint perig [~ perygl ] ag yduchwitha [~ ydych chwithau ] yna, a dyna 'r peth sudd yn peri
rhai weiddi am wlad well. llawer a fuom ninne yn son am ddwad yma
ond o 'r diwedd mi ddaethom ond ymhen y gronun bach ni fyddwn
dros derfune amser, mewn gwlad arall; fellu hwn iw dymuniad
fy Enaid .r. Arglwydd trwy ei ras ein cymhwyso mewn byr o
amser I fyned i 'r wlad ie byd a beru byth. mi dderbynias [~ dderbyniais ] eich llythur
y 29 o awst ag roedd yn dda ganddom ei dderbyn fel y gallem glywad
riw beth o 'ch helynt — am griffith Williams yr hannes diwaethaf a
glywsom ni oeddi wrthochwi ni wyddom ni pa un ai byw ai marw iw
fe — I mae dau deulu o 'n seseiet ni wedi mynad [~ myned ] yno ars [~ ers ] 15 mis _
mi ddymunes arnunt ymofyn am dano ond fe ddaeth llythur
ond nid oedd son am dano ef: I mae rhyngom ni ar fa[n]
hono 500 milldir yn y de [-: South]  — mewn perthynas I Evan William
nid allaf ddeud dim pa beth iw ei le ef, ond os iw trefn
rhagliniaeth iddo fe ddod, hynnu i fod er lles I fagu ei blant bach
I mae gwaith llongau o Newyork I Albany a hynnu dros 200, o felldiroedd
ag yn bildio llawer ar hud yr afon mewn llawer o fanne, lestri
mawrion, ond ni wn ni pa beth iw ei Cyflog — ond mi a wn ei fod
yn gyflog mawr, nid o[e]s efo ni ddim bildio llongau, ond I mae yma
le da I seiri a Joiners, da fydde genuf weld miloedd ohonoch, ag
wedi hynnu gellir dyweud eto ma [~ mae ] lle, — Merch fy mam ag
yn dymunad iddi bob llwuddiant, ag yn teimlo rhuwm arnaf
I fod yn ddiolchgar iddi am ei gofal a 'i hymgeledd I fy hen dad
dan obeithio y bydd i 'r Arglwydd ei gobrwyo — pan fyddoch yn
danfon attom, danfon helunt pa fodd y mae fy ngerunt, a 'm hen
ffrindia, fy hen fameth Cathrin Davudd a Marri Jones o 'r hen
Efal — am y gwaith mwn [~ mwyn ] nid oes dim o hono yn y parthau
yma am wyddom ni — pris y Tir Coed o ddeutu 8 dolar yr acr, ag
O 25 I 30 dolars am dir Clir — a thalu mewn 5 neu 7 mlynedd
ond talu llog bob blwyddyn — am y Cymru I mae yn anoedd I chwi
feddwl fel y maent yn llwyddo — llawer o honunt nad oeddant
werth punt yn werth llawer o ganoedd — amdanom ein hunan
nid allaf ddyweud ond fel hun — pan ddaethom yma nid
oedd genum ddim ond 195 o ddolars [-: = £45 British] , ag ar ol prynu y tir mi

[td. 3]
Brynson bar o ychain a buwch a thalu 40 dolar am y tir I ddechra
fellu mi aethom trwyddynt yn fuan wrth arloesi y tir, ond mae y ffarm
yn llawn stoc o bob peth — fe alle y byddwch am wybod pa beth sydd o
Ystoc genum; y flwyddyn hon 14 o dda Corniog, a 2 o' geffyle 4 o foch,
38 o ddefaid; I mae yn rhaid ini werthu peth o 'r da am fod y
gwair yn bring: mi roedd ganthom y llynedd o' ddeutu 20 Tynell
o wair, ond nid oes y leni ddim dros 17 o dynelli; mi ddaw ymenyn
oeddiwrth 4 buwch, o ddeutu 60 dolars — yn ei werthu am 20 dolar y
Cant — (I fund I Newyork) ond ir ydum heb orffen talu am y ffarm y
flwyddyn o 'r blaen: ni gowsom lawer o golledion — Colli Buwch y
dala 30 o' ddolars — Colli Cefful, tair blwydd oed, yn werth 70 o' ddolars
y Bleiddiad a laddoedd 12 o' ddefaid — Colli 30 o ddolars wrth drystio
Dyn am bâr o ychen; fellu mae golud yn cymerud Edenydd [~ adenydd ] ag yn
hedeg [~ ehedeg ] ymaith, fellu diben Duw drwy y pethau hun I ddyfni fy
ngalon o 'r ddaer [~ ddaear ] —— y rhan a ddewisoedd mary boed hono yn rhan I mi
ag aed y ddaer heibio i 'r sawl a 'i hoffo hi —— ni waeth Imi dewi
ni ddigonir y llygaid a gweled na 'r glust a [c]hlywad — fellu hyn
o hannes gida llawer o amherffeithrwydd at fy holl gyfeillion
a 'm Ceraint oeddiwrth

Hugh Thomas &
Catherine Thomas
Y plant am gofio attoch fel pe baent yn eich adnabod —
Ebenesar sydd wedi gadel ei 13,
Eleuasaph yn 8 oed ——
Frances sydd 11 er mis m[a]wrth

Danfonwch attom mor fuan ag y galloch — am Hugh Roberts I
mae wedi laddu gwen ei wraig ers dau fis — Howel Thomas wedi claddu
ei wraig ag ûn plentun a chanddo fachgan bach yn fyw ag ynte yn weddw
agos I ddwy flynnedd ——

Trenton
Sep.r the 25th
Nerida County [-: (supposed to be Oneyda)]
state of Newyork
North America


[2. Llythyr oddiwrth David Jones (David Shone Harry) (saer o Albany, NY, gynt o Lwyngwril, Meirionydd) at ei wraig, 14 Hydref 1817, NLW 2722E. ]



[td. clawr]
David Shone Harry's
Letter from North America
Dated Albany 14th Octr. 1817.


[td. 1]
1817 October the 14th City of Albany; where David Shone Harry late
of Llwyngwril, but now of the City of Albany ) Dates his Letter from.

His address is thus — ( Mr. David Jones, Joiner
Cappytol Street, Albany State,
New York, North America

He writes thus to his wife among other subjects of no importance to others
That he was alive, and in health at the time of writing —
That he sailed, in company with 60 passengers, on
board a smallish Ship, bound for New York — That they
met with very Cross Winds and tempestuous Weather, which
forc'd them back Eastward, near to Spain, 700 Miles — That
previous to this they were drove back by contrary Winds to
Ireland twice — That then they set Sail again from thence
and had fair Wind for seven Days; and that it was after this they
met with very heavy tempests whereby they were drove back
Eastward seven Hundred Miles to near Spain. That during
this bad Weather It became necessary towards securing
one of our Masts to Fish it with 5 cletrra — That he after the Storm with
four of the Ships-hands, had a very severe and alarming
Fever, during which he was for 3 weeks extremely ill;
and that, by the time he recovered, all the Meat we had
in the possession of us all, was eaten and expended; and the
Water stunk to that degree as a dog could not bear to smell at it
and this was caused by the Casks it was kept in being not clean
when put in. But as it should seem there was longer life for me as in this helpless, and, as it seemed to us,
hopeless State, with an infirm Mast fish'd, as before mentioned,
with 5 Cleats fixed thereto by me, and famine
staring us in the face, we were providencial Met with and relieved
as far as they could, by a small French Scooner coming
from the West Indies; from whose Captain we had as much as
he could spare of Rice, Pork Water, and Sugar; and
after this we came into the right road or Way; and Met,
in our Course, almost daily or frequently American Ships
in their Way to England; these help'd us with Meat & Water:
So on this long and tempestuous Voyage we met with great
troubles and hardship: But at last when we came in Sight
of Land we forgot all our trouble & danger. He goes on
to give an account of the Country


[td. 2]
This Country pleases the heart of every Man when he sees it;
but it is a very great undertaking to encounter and so make the Voyage
hither. Few if any count the cost of the trouble, anxiety and danger sufficiently before they set out —
I maen cant o bethau yn cyfarfod a dŷnion na ddarfynt yrroud
feddwl amdanunt cyn cywchwun. He here says (after expressing
his love for his Wife & children) I never thought before setting out he was
coming so far from them: but my faith is strong that this Voyage will
be of much good to me and them (meaning his Children). If I had come to
this Country 4 or 6 Years sooner I should have been under no necessity
of taking off my hat to any Man. If I have my life & health for a
little time my Children shall not be a burden upon no one else.
No one knows of what great value Trade (Crefft) is . I got
erned, while at Sea, two Pounds with my old Tools I got much trouble
to get them safe on Ship-board unknown to the Custom-House Officer.
With those Tools, a few in Number as they were, under Providence I saved
the Ship from Sinking and consequently the lives of all on Board while
others were bewailing their Wrechedness in leaving their homes. You,
Wife, never saw such a thing as what it is to come here over the great
& almost boundless Sea with such a Number or flock of People as we
were on Board. But who-ever has a heart and resolution to come here
such one will never be sorry after he once sets his foot on the Land
Here is a very good Place for all handy Craftsmen
Weavers excepted, here is no work for such.

Here is thick good Silk for 4s per Yard; of this Women here wear
much. Men and Women are very proud in their Cloathing here.
I earn 12s of currrency per Day, this sum is equal in value of Your
Money in England 6s,,9d — 8s of American currency is a Dollar
of the 4s,,6d Sterling Value. This Country has not as yet in many things recovered
from the effects of last War. Old England, by burning the Towns
in America, has cut out work enough for Handy Craftsmen,
for many Years. Here is a very good place for such as follows
vizt. for Masons, Stone Cutters, Bricklayers, Plasterers,
Painters and Joiners; and for the last named better than them
all, because we, Joiners, can work at all times of the Year.

Here in these parts of the Country the Weather is very Cold for four Month,
in the Winter; but in this part of the Country it is very healthy[,]
But it is always warm or very very many day hot to the Southward and thereabout it is very
unhealthy — the Yellow Fever kills a great number thereabout
almost without any respite — When it comes into those parts it
proceeds on Northwards as far so as Phyladelphia: but not
more Northward than that City, nor so high to the North as that
but very seldom. Here it is very hot in the Summer
but if you can get shaded from the Sun it will be bearable
enough. This Country differs greatly from Wales:

[td. 3]
every thing, that you can think of, grows here. Every thing is now
very low in Price here this Year. Wheat at 7s of your English
Money per Winchester Measure. Good Rye at 4s —
The Horses eats up all the Oats. Here are the best Horses I ever
saw. They come forty Miles from the Country in teams drawing Small
Wagons, like Coaches, on Gallop, with every thing to the Towns to Sell.
And in the Winter when the grownd is covered with Snow, Sledi with
work about them very pretty. Snow is very acceptable with the Farmers[.]
When there is Snow of considerable depth they cut down & fall Timber
and they leave a yard of the Stem or Stump near the roots to hasten
them to rotten sooner and so it is they clear their ground (Arloesi 'r tir).
The Earth [is] fine and the ground is free from Stones. Clay-dir tywodlad in
the Middle of the Country — In Stuben, where all the Old Welshmen
are collected together, the earth is of a blackish (go ddu) full of Timber
the finest your eyes ever beheld, are burnt, on account of their being
too far distant from a Water-Carriage. There are none here that place
a Timber Tree on a Waggon. The Old Welsh People here make
their Rents of the Butter they make
[-: yn buw ag yn talu am i tiroedd wrth wneud Menyn] . But Many of them sudd yn crafu 'r
cwbwl fel yngymru [~ yng Nghymru ], and live very close in their houses.

I hope that none of you are in trouble on my account: I live
better now here than I have ever done before at any other time
in my life: but I would rather than any thing I was ever possessed
of, had I have known before I left Llwyngwril what I do
know now since I came here: that is, I am concerned and it
gives me trouble to think of it that I did not come, at the expence of Old England,
to Canada and my family with me: there are in that
Province 100 Acres of Land for a Man & his Wife; and
one hundred of the same Acres for every Boy for nothing, & all this
for ever. (Cant o Gyfeuria i bob Gwr a Gwraig a Chant o
Gyfeuria i bôb Bachan am ddim tros buth, a bwud
flwyddyn at drin y ddaiar a 'r Tir: i mau canudd [~ cannoedd ] o
Ddetha Cwmru wedi mund ono yleni. I mae y Brittis
Cywnslar (Counselor I think he means) yn buw yn New York, ag yn rhoi Livin
i bawb o Loegar ag sudd yn mynd atto fo i 'w geisio — O Dir
da nid oes dim o 'i sort o yn Cymeru [~ Cymru ]. I mae 'r Cymru
yn wirionach na dim Dynion — Gwuddelod (Irish)
lawer iawn sydd gwedi dyfod yma. Rwu fi yn dymunad
arnoch, fy anwyl Wraig am byudio [~ beidio ] a bod yn wan 'uch [~ eich ]
meddwl ohonaf o ran fy môd i môr bell oddiwrthoch.
i mae gennuf fwu o blesar ynill [~ ennill ] Arian yma na bod yn segyr yn Llwyngwril.;


[td. 4]
mi ddôs i 'r Wlad yma yn bwrpasol i dreio ynill [~ ennill ] arian,
ag mi rydw i yn meddwl na budd fy siwrna i ddim yn ofar.
Ni a fuom bedwar diwrnod tan Quarantin naw Milltir
ti isa i New York cyn cael yn gollwng yn rhydd gan y
Doctor sydd yn perthyn i 'r Hospital fawr ag sydd yn derbun
pôb dyn sâl a ddelo tros y Môr ar gôsd y State New York:
Ni cheuff [~ chaiff ] nêb sâl ddyfod i 'r Dre. — Mi âs [~ es ] yn gynta, ar
ôl mynd i 'r lan, i du Nelly Merch Hugh Lewis; ag mi gafes [~ gefais ]
groeso mawr iawn — Yn ail mi âs [~ es ] i Du fy ngyfrithar [~ cyfnither ] Margaret
ag nid ychydig o dendanse oedd arni: Mi fûm yno bedwar
diwrnod. I mae New York yn Dre hardd iawn; a chwedi
hynnu mi gymeras [~ gymerais ] Long i dyfod i Albany; mi ddoes
i hud i fy 'nghemdar [~ cefnder ] Lewis yn inion; ag mi roudd yn dda
iawn ganddo fo fy ngwelad i — fe 'm rhodd i mewn gwaith
da yn inion: I mae ef wedi gweneud [~ gwneud ] i hun i fynu: Nid
rhaid iddo fo weuthio dim. I mae fy Ewrth Hywel yn
edrych yn Rob gida gwr bonheddig yn ymmil y Dre yma[;]
i mae fo yn cofio at fy nhâd; ag yn dyweud os daw fo yma
y taliff fo i gôst o trosodd, gida fflesar [~ pleser ]. Dywedwch wrth
Evan David y Crydd os geull o dyfod yma riw sut y budd
o yn siwr o waith yn inion yn mhôb cwr o 'r Wlâd. I have
heard nothing of Nancy Jones since I saw her in Ireland;
the Ship was not arrived at Baltimore when I was at
New York: there came Six Ships to New York very near one another
and each of them encountered with very hard Weather. Twm o
Bryscia and Betty live not far from this Town, he has a
Ferry carrying over the River Hutson; he made it himself[;]
i mae yn dda 'r bŷd arno. Nid oes possible i mi roi mo 'r haner
account am y Cwmry i gîd. Os byddaf i byw, ag yn iach,
tros dippin o flynyddodd, mi rwufi yn gobeithio y cewch
chwi (fy nheulu) fy ngweled i er ich cysur; nid iw [~ wyf ] fi ddim
yn ame na bum i yn llawer o flinder i bôb un ohonoch,
Ond nid oedd gennif ddim help os oeddwn ni yn ddi barch
yna; Nid wuf i ddim fellu yma. Pe buaswn i yn
dwad yma yn lle mynad i 'r Gêl da fysa [~ fuasai ] i mi. Rwy 'n
meddwl llawar am gael y ddau Fachan hynaf ymma y
gwainiwn [~ gwanwyn ] Nesaf; mi naunt [~ wnânt ] lawer o blessar i mi,

[td. 5]
ag i fydd yn ddaioni mawr uddynt [~ iddynt ] hwu: ma [~ maent ] nhw
yn yr oed goreu yr rwan ag sudd i fôd at ddwad i 'r
wlâd ymma. Nid wuf fi yn gwelad fy 'Mhlant erill
yn ddigon hên i ddwad tros y Môr mawr, yn enwedig
yr enath fach — I mae Merchad bach evanc [~ ifanc ] yn colli 'r
treual agos bôb un ohonunt. — Ond hoggia o fechin ni
budd arnunt ddim yn y byd ond cymerud gofal rhag
uddunt ddringo i 'r Raffa a chwmpo i 'r Môr os gewch
chwi, fy anwyl Wraig, i gollwng nhw (he means the two
eldest boys) ymma — Ni budd hyn yn fawr o drwbwl i chwi;
Mi yraf fi Arian i chwi i brynnu dillad uddunt, ag
i ddwun i Côst i Liverpool, ag dyn gida nhw i 'w rhoi
yn y Llong: Mi gyttunaf fi a Chaptain yn New York
am i bwud a 'i Passage; Ag mi rôf i Lythur yn y Llong
i ddwad ag arian i chwi: Ag rhudd y Captain Account ynddo
pwu amser i chwi ddwad at y Llong. Os budd
Harry Robert yn dewis dwad efo nhw Mi dala fi i gôst
o ag mi rhôf o mewn gwaith da hefud; ne riw un
arall a fo 'n medru tippin o Saisnaeg — Sionum W.m
Siôn fydda buw yn glyfar yn y wlâd ymma. Nid iw [~ wyf ]
fi ddim am dynnu fy Mrawd rhag ofân [~ ofn ] nad iw i Wraig ef ddim
y fodlon i ddwad: Ond gadewch imi gael gwubod ych Meddwl
mewn Llythur mor fuan ag a bo bossible, a gyrwch gownt
(account) i mi pwu sut sudd arnoch wedi i mi dyfod
y ffwrdd. Dear Wife, I can send the money every month by
going down to New York: But this would be attended with
considerable expence, they would be to be had at the Bank in
Dôlgelley, or some other place you may chuse; there will be
no danger of their being lost at Sea; As all business is
transactded between England and America, yn sâff. Dont
stay a day before you send off your Letter to me. Put the
Letter, you send, into the Post Office at Dôlgelley; and
take Dr. Owen or some other person with you And pay
for its Postage to Liverpool, and I will be sure of receiving
it. I mae fy meddwl yn drysu wrth scrifennu 'r Llythur
ymma, gan gumaint [~ gymaint ] o betha sudd ar fy Meddwl — I mae
yn rhyfedd gennif feddwl fôd Rhaggliniath wedi dyfod

[td. 6]
a 'myfi ymma. I mae Duw yn gyfalu [~ gofalu ] amdanon i
yn mhôb Man yn well na dyminiad llawar; ond
rwu fi yn Credu fod wullys drwg rhai yn dwad yn
daioni i mi. My dear Wife I think no less of you than
if I was with You. If you will let the two eldest boys
come over here, to me for a while it will be of great benefit to them;
They will be taught Gratis untill they will be fourteen Years
Old: Here are the best Schools in all the World, in every part
& Corner of the Country ar gôst y Talauthau (States) .
Mi allwn ni dyscu John yn bûr fuan; ag mi gawn gyflog
iddo hefyd: Ag os na byddwch yn fodlon uddunt dyfod
Nid allaf i ddim aros ymma yn hîr heb ddwad adref.
I mae ymma y lle goreu i ynnill [~ ennill ] arian ag sudd dan
y Haul; Ond mae ymma gannoedd o ddynion yn llâdd
i hunan wrth yfad Liquours: Y dyn a gadwa i hun
yn sober fe geiff Barch a galwad, a 'r Cyflog Mwuaf
a alloch chwi feddwl amdano. Nid iwfi [~ wyf i ] am dynnu
nêb ohonoch ymma o achos hyn. i mae Cantoedd
o bôbl wedi dwad ymma yleni yn bûr dylawd a llawer
o blant ag heb yr un greft ganddunt chwaith; ag wrth
hynnu yn mynd yn bwisi ar y State. I mae ganddunt
le ymma i bôb dyn gael llond i fol o fwud heb fund y
feggio o du i du. Nid oes ymma ond lle sâl iawn
i Labrwr; Ond dynion a fo am dîr (Land) mi gânt
dîr ar goel (on Credit) yn inion a thalu pan
allant; Ond mae gofun fôd tippin o arian i gael dechra
trin y Tir: mi gâdd [~ gafodd ] y Cumru lawar iawn o herbul [~ helbul ] cun
dwad mewn fawr o drefn buw yn debig fel ag y mae nhw
yn y wlâd ymma: Ond dynion diarth [~ dieithr ] sudd ymma yn
Mron i gid o 'r dechra triniath ymma. Indiad gwilltion
ydi pobl y wlâd ymma; Mae nhw yn buw yn
mhell yn y wlâd yn buw wrth ffowlio ag hela
y creadiriad gwulltion, ag yn dwad a 'r Crwun i 'w
gwerthi i Fersiandwur: Y nhw ydi etifeddion y Wlâd;
ond i mae nhw yn gwerthu Lot i 'r gwur mowrion, ag
yn cymerud pur chydig [~ ychydig ] amdano: ag mau 'r rhai

[td. 7]
hynnu trachefn yn werthu i bawb a ddelo i brynu. Remeber
me to my father & mother, I hope to see them on this side the Grave.
I am not for drawing my Brother here because of his Wife & his little
Children being too young — I have seen and have had trial ar y
fasiwn beth; Ond os bydd o am ddwad mi dala fi i Bassage
o ymma yn y Bank; Ond dwad gida Llong — America sudd ore
because they know how to come sooner than the English Ships, and
also they keep better Meat (bwud) in their Ships. If any of you are for coming
here cymerwch ofal rhag dwad efo Slates from Carnarfon
mae dynion yn cael cam na bu 'r roed [~ erioed ] y fasiwn [~ ffasiwn ] beth.
Cerddwch i Liverpool, hynnu fudd ratta i chwi yn y
diwedd. Mi roeddan ni yn talu 5 Gini am i'n passage: Mi
gostiodd am fwud o gwmpas 10 punt i bôb un ohonom cun
dwad i a chyradd New York; mi roedd y Captain yn gwerthu
y peth oedd y Llonga yn roi i ni ar y ffordd yn ddrud iawn.

I mae ymma Ddolar am wneid pair o Escidia i Grydd
(Shoemaker) I mae pair o Escidia yn costio ymma two Dollars
To a Taylor two Dollars for making a Coat dda; nid ois
ymma ddim Closa ond Pantaloons gan bawb. I mae
ymma bôb peth i gael ar werth in the Towns, but for in the
country nid iw hi ddim cystal. Mae ymma newid fawr ar lawar
o betha i 'w bwuta; Y Tea am 2s,,6d y pwus; Sugar for 5d
y pwus; Salt for 3 shilling per Winchester Bushel;
we do not weigh any of it here in this Country; yr Cig,
y Caws a 'r Menun yn debig fel y mae nhw yna (in Wales)
Apples ni welas i yrroed [~ erioed ] y ffasiwn beth, y mae y Caua yn llawn
yn mhôb Man. Syidar (Cyder) y faint y fynnoch chwi yn
mhôb Ty. Prîs y Fala [~ afalau ] 2s ag y 'r Potattws 2s per Buchel. I
mae rhai petha yn bûr anwadel fel byddo yr amser gan
y Ffarmwur i dwad a petha 'r Dre. I mae llawar iawn o
Byscod yn 'r Afonudd ymma yn afonudd Braf sudd ymma
mi Nai [~ wnai ] William Lewis i ffortiwn toc iawn; mi gai goud
i wneud Cwch am Goron: remember to him & his wife; mi fedylias
lawer am Lewsun i fâb o yn New York wrth welad y
bechin Llongwrs. Rwi yn cofio at Rich.d Jones o 'r Borth Wen a 'i
frodur; a Griffith Jones o 'r Tu du; ag at Rhees William;
Pe dau nhw hud cyrredd i mi mi cadwn nhw a digon
o Tobacco goreu a fu 'y'n dwula [~ dwylo ] nhw 'r roed [~ erioed ]. Remember me
to Hugh Robert o 'r Gors, and tell him I have had hanes (intelligence)
Harry, ond fy' môd i heb i welad etto;

[td. 8]
he lives in a place called Bulan further in the Gorllewin
o 5 cant o Filltirodd na 'r Cymru erill. Tudir bachen Hugh
Robert sudd fachen clyfar iawn yn y Dre ymma. I mae
Will wedi colli 8 Cant ar Ddun o Lundan am Frâg, ag
gwedi munt [~ mynd ] at i dâd i 'r Tir. I mae ymma bôb sort o grefudd
a chappeludd grand iawn; ond i mae nhw (y bobl)
yn bûr lygredig boda gun o ran golwg oddiallan. Mi welas
i drochi 28 o Baptists ar foreu Sul mewn gywna gwinnion
bôb un ohonynt. There is great danger of Fire
here, On account of the greater number of the Houses being
built with Timber. I mae ymma fwu o Tree Stones o lawer
nag sudd o gerig arall; a Marbles gwinion ddigon; a digon
o Frics (Bricks) ond mae 'r gwaith yn ddrud iawn.

Rwfi yn dymunad arnoch fy mrawd Lewis am dreuo cychwin
fy Mechin bach i ymma, i mae gan i fantas fawr i 'w
rhoi mewn buwoliaith ymma ragor sudd yna yn Ngymru;
ag nid ydi ond peth bach uddint ddwad a chael i carrio
mewn Llong Marchiant ragor dwad fel floc o Fôch, yn
Llonga bach Cwmru: mi gant bôb chware têg ag sudd
bosibl, a digon of fwn da — I mae 'r Americans yn bobl
glyfar angcreffredin iawn — Ni welsoch chwi 'r roed mor
dda ydunt hwu wrth bobl ddiarth. Rwu i yn ynill
arian faint a fynnwi [~ fynnwyf ]: Nid rhaid i neb waithio yn 10
awr ymma yn y dudd; Eating owr breakfast before going to
our Work, and begin to work at 7; a' gollwng am 12; a' mund
atti am un; a' gollwng am chwech. Mae ymma le da iawn am
small jobs, ag arian parod: I mae ymma 2 Dollars am Bedoli
Ceffyl; Ond i mae 'r Gofiad di wichio i gid, y Cwmru
yn waeth na neb. I mae ymma ormod o newid ar Liquors,
i mae 'r Rwm goreu am 1 y quart o arian Lloegar; a ffôb
Liquors erill yn debig. Gwlâd ydi hon yn difa i thrigolion,
a hyn o achos i ffrwutha. The Women lose their teeth
before they are twenty years old the greater number: Men
at 45 year's old look very old: there are here no old people to be
seen; i mae nhw, yn gyffredin, yn difetha i hun wrth Yfad.
I mae 'n lle da iawn i ffowlio, pôb sort o ffowls i 'w cael heb ddim
drwg am y lladd: Pawb y carrio Gwn (Gun); i mae Gwn
yn bûr ddrud. Rwi yn meddwl llawar am fy hên Wlâd bôb dydd
ond chwedi dyfod mor bell nid ydi ddim yn dro call

[td. 9]
i mi dwad yn ôl ar hâst heb dreuo Marchnatta tippin.
Os bydd bossibl i chwi welad cerrig Llyn Udwal hôns prynwch
nhw i gid; mae Hôns yn brunach na dim ymma;
nid oes ymma sort yn y byd o Hôns yn wlâd ymma.

Gyrwch Llythur i mi mor fuan ag a bo bossibl, i mi i gael
gwubod a fudd y plant (his two eldest boys) yn dwad; ag
na ddônt mi a fi 15 Cant o filltirodd i 'r De mi gâf
ono 16 o Syllda yn y dudd: ag mi gâf well siawns am le
i waithio fy masads adra.

A hyn ar fur oddi wrth

David Jones, yn gunt, o Llwyngwril —

Direct to me thus — ( Mr. David Jones, joiner, )
( Cappytol Street — Albany — State )
( New York — North America )

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section