Adran o’r blaen
Previous section

[Actæ yr Apostolion 24–8 (ff. 212v–220v).]


[td. 212v]


Pen. xxiiij.


Pawl wedy ei gyhuddaw yn atep dros ei vuchedd a'i ddysceidaeth
yn erbyn ei gyhvddwyr: Felix yn y deimlaw ef,
a'ei vryd ar gael gobr. Ac yn ol hynny yn ei ady ef yn-carchar.



[1] AC yn ol pemp diernot, y daeth y
waeret Ananias yr Archoffeiriat
y gyd a'r Henafieit, ac Tertullus
rryw areithiwr, yr ei a apariesont [-: * ymddangesont]
ger bron y President yn erbyn
Paul. [2] A' gwedy ei 'alw * ef [-: ‡ Paul]  ir lle, e
ddechreawdd Tertullus ei guhuddaw,

[td. 213r]
gan ddywedyt, [3] Can y ni vot yn byw yn
dra heddychol oth bleit ti, a' bot gwneythyr llawer
o bethe gwiw, ir genedl hon drwy dy ‡ racddyall [-: ‡ rrac ddarpar]
di, Hyn yð ym ni yn * cydnabot [-: [no gloss]] yn ‡ hollawl [-: ‡ gwbl] , ac ym-
pop lle, yr * ardderchocaf [-: * goreu] Felix, y gyd a chwbyl ddiolvvch.
[4] Eithr rac bot ymy dy ðalha yn rryhir ddygn,
atolwc yty ein gwrandaw oth ‡ hynawster [-: ‡ voneddigeiddrwydd] ar ychydic
'airiae. [5] Can ys cawsam y gwr hwnn yn
ddyn adwythus, ac yn * cyffroy [-: * cynnyrfy, peri] tervysc ymplith yr
oll Iuddaeon trwy'r oll vyt, ac yn ‡ brifnerthwr [-: ‡ benawdur]
ar yr * heresi [-: * opinion] y Nazarieit, [6] ac a ‡ vynysei [-: ‡ darperesei, amcanesei] halogy
y Templ: ac am hyny y daliesam ef, ac a vynesem
ei varny * yn ol ein Deddyf [-: * erwyð ein cyfraith] : [7] Eithyr y pen-
Captaen Lysias a ddaeth arnam [-: ‡ ar ein vchaf, ar ein gwarthaf] , a' thrwy drais
mawr ei duc allan o'n dwylo, [8] gan orchymyn ydd
ei guhuddwyr ddyvot ata ti, y gan ba rei y gelly
(a's myny ymofyn) wybot yr oll pethae hynn yð
ym ni yn y gyhuddaw * ev [-: * ef] . [9] A'r Iuddaeon hvvythe
hefyt a daeresant, gan ddywedyt vot y peth y moð
hynny. [10] Yno Paul, gwedy amneidio o'r President
arnaw y amadrawdd, a atebawdd, Y mae yn
‡ haws [-: ‡ llawenach] genyf atep tros vyhun, can vy-bot yn
gwybot dy vot ti lawer o vlyddynedd yn * ynat [-: * vrawdwr, varnwr, Ieustus] ir
genadleth hon, [11] can ys gelly wybot, nad oes anid
dauddec dieernot er pan ðaethym i vynydd i addoly
i Caerusalem. [12] Ac ny im cawsant i yn y Templ
yn ‡ ymddadleu [-: ‡ disputo] a nep, nac yn * cyffroy yr dyrva y
‡ gyvodi [-: * peri cyffro yn y popul] , nac yn y * Synagogae [-: ‡ cynulleidfae] , nac yn y dinas.
[13] Ac ny allant chvvaith provi y pethae, y maent im
cuhuddaw am danwynt. [14] Eithr cyffessy yty ddwyf
hyn yma, * mae [-: * taw] yn ol y fforð (rhon y alwant vvy yn

[td. 213v]
heresi) velly yr addolaf vi Ddew vy-tadae, sef gan
gredy yn yr oll pethe r' y scrivenir yn y Ddeðyf a'r
Prophwyti, [15] a' gobeith 'sy genyf ar Ddew, am yr
vn cyfodiadigeth y meirw ac y maent wytheu hefyt
yn ei ddysgwyl, y bydd ef ‡ ys [-: ‡ ac] ir cyfiawnion ac
ir ancyfiawnion. [16] Ac yn hyn ydd wy vi * ystudio [-: * ymorchesty]
vot genyf yn wastat gydwybot ‡ ddirwystr [-: ‡ iach, glir] tu ac
[at] Ddew a' thu ac at ðynion. [17] Ac yrovvon yn ol llawer
o vlyddynedd, y daethym ac y dugeis * eluseni [-: * elusendot] im
cenedleth ac offrymae. [18] Ac yn yr amser hynn, 'rei or
Iuðeon o'r Asia am cawsant ‡ wedy vy-glanhay [-: ‡ yn buredic]
yn y Templ, ac nid gyd a thorf, na thervysc. [19] ‡ Yr ei [-: [no gloss]]
a * ddylesynt [-: * ddirparesynt] vot yn ‡ gynnyrchiol [-: ‡ presennol] rac dy vron, am
cyhuddaw, a bysei ganthwynt ddim im erbyn.
[20] Ai ynte dywedet yr ei hyn yma, a gawsant vvy ðim
ancyfion * ynof [-: * arnaf] , tra sefeis yn y Cyngor, [21] ‡ dieithyr [-: ‡ anid]
am y * llef [-: * yr ymadrodd] vnic hon, a'r a lefeis yn sefyll yn ei plith
vvy, sef Am gyfodiadigeth y meirw im * bernir [-: ‡ cyhuddir]  heddyw
genwch. [22] Pan glybu Felix y pethae hynn, yr
oedawdd ef wynt, gan ddywedyt, Pan wypwyf yn
‡ yspesach [-: * hytrach, berfeithiach] y pethae a perthyn ir ffordd hon, pan
vo i Lysias y pen-Captaen ddyvot yma, y dosparthaf
eich mater. [23] Yno ydd archawdd i Gannwriat
gadw Paul, a gadael iddaw gahel * gorffywys [-: ‡ esmythder] ,
ac na 'oharddei i neb oei gydnabot ei weini, nei
ddyvot attaw.

[24] Yn ol ‡ talm [-: * niuer] o ddyddiae, yd aeth Felix ef aei wreic
Drusilla, yr hon ytoeð Iuddewes, ac ef a 'alwodd
am Paul, ac a glywawdd ganthaw am y
ffydd ys ydd yn Christ. [25] Ac mal ydd oedd ef yn ‡ dosparth
[-: ‡ rresymy] am gyfiawnder, a' * chymmedroldep [-: * cymesurdep] , ac

[td. 214r]
am y varn y ddyvot, Felix a ddechrynawdd, ac a
atebawdd, Does ymaith ‡ ar [-: ‡ dros] hyn o amser, anid
pan gaffwy amser-cyfaddas, mi alwaf am danat.
[26] Ac ydd oedd ef yn gobeithio hefyt y rhoddesit ariant
iddaw gan Paul, er iddo ei ellwng ef: erwyð
pa bleit yd anvonodd ef am danaw yn vynychach,
ac y * chwedleuawdd wrthaw [-: * ymddiddanodd ac ef] . [27] A' gwedy cerddet
dwy ‡ vlwyddyn [-: ‡ vlynedd] , y daeth Porcius Festus yn lle
Felix: a' Felix yn ewyllysio enill bodd yr Iuddaeon,
a adawdd Paul yn * rhwym [-: * carchar] .


Pen. xxv.


Yr Iuddaeon yn cyhuddaw Paul ger bron Festus. Ef yn a
tep drostaw ehun. Ac yn appelio at yr Ymperawtr. Bot
yn cympwyll am y vater ef gar bron Agrippa. A'i ðwyn
ef allan.


[1] GAn hyny gwedy dyvot Festus ir
* ardal [-: * cyvoeth] , ar ben y tridie yð aeth i vynydd
i Gaerusalem o Caisareia. [2] Yno
* yð ymðangosent [-: * appirent] yr Archoffeiriat
a' phennaethieit yr Iuddaeon
ger ei vron ef yn erbyn Paul, ac atolygasant
iddaw, [3] a' chan erchy
‡ caredigrwydd [-: ‡ ffafr] yn ei erbyn, bod iddo ddanvon
am danaw i Gaerusalem: ac hvvy a wnaethant
* gynllwyn [-: * vrad, vwriad] yw ladd ef ar y ffordd. [4] Eithyr Festus
a atebodd, ‡ bot [-: ‡ am] cadw Paul yn Caisareia, ac a ðauei
yntae ehun * eb ohir [-: * ar vyrder]  yd yno. [5] Can hyny (eb yr
ef) dauet yr ei o hanoch chwi 'sy yn abl, y gyd a

[td. 214v]
ni i waeret: ac ad oes * neb anvviredd [-: * dim coegedd]  ‡ yn [-: ‡ ar] y gwr,
cyhuddant ef.

[6] Pryt na thrigesei ef yn y plith wy * y tuhwnt y [-: * dros ben]
ddec diernot, ef aeth y waeret y Caisareia, a'r dydd
nesaf ydd eisteddawdd yn y vrawdle, ac a 'orchymynawdd
ddwyn Paul atavv. [7] Ac wedy ei ddyvot,
yr Iuddaeon y ddaethent o Gaerusalem, a safasont
o ei amgylch, ac a ddodesont lawer o achwynion
trymion yn erbyn Paul, yr ei ny ellynt ei provi,
[8] can yddaw vot yn atep, na ddaroeð yddaw pechy
dim [-: ‡ wneythy dim yngham] nac yn erbyn Deddyf yr Iuddaeon, nac
yn erbyn y Templ, nac yn erbyn Caisar. [9] Er hyny
Festus yn ewyllysiaw cahel * bodd [-: * ffavr] yr Iuddaeon,
a atebawdd i Paul, gan ddywedyt, Ai di y
vynydd y Gaerusalem, ac yno ith varny am y pethe
hyn ger vy-bron i. [10] Ac Paul a ddyvot, Ydd wyf yn
sefyll ‡ wrth [-: ‡ gar llaw] vrawdle Caisar, lle y perthyn vy-barny:
ir Iuddaeon ny wneythym i ddim yngham,
megis ac y gwyddos-ti yn dda ddigon. [11] Can ys, a's
gwneythym ddim * cam [-: * yngham, eniwed] , ai dim teilwng o angae,
ny wrthðodaf vi varw: ‡ ac anid [-: ‡ as ynte] oes dim or cyfryvv
betheu ac
y maent * wy [-: * rhein] im cyhuddaw, ny all nep vy
rroddi yddwynt: appelo ydd wyf ‡ ar Caisar [-: ‡ at yr Ymmerawtr] . [12] Yno
Festus wedy daroedd iddaw ymddiddan a'r Cygcor,
a atebawð, A appeleas ti * ar [-: * at] Caisar? ar Caisar
y cai vynet.

[13] Ac yn ol swrn o ddyddiae, y Brenhin Agrippa a'
Bernice ydd aethant y wared y Caisareia y * gyfarch-gwell
[-: * ymanerch] i Festus. [14] A' gwedy yddwynt aros yno
lawer o ddyddiae, Festus a venagawdd ir Brenhin
 ‡ vater [-: ‡ bethe, hawl] Paul, gan ddywedyt: Y mae yma ryw

[td. 215r]
wr wedy ei adael yn-carchar y gan Felix. [15] Am yr
hwn pan ddaethym i Caerusalem, ydd oedd yr
Archoffeiriait a' Henafieit yr Iuddeon yn * honny
[-: * cyhoeddy, menegy] ymy, gan ddeisyfy cahel barn yn ei erbyn. [16] I ba
'r ei ydd atebeis, nad yw ‡ moes [-: ‡ devod, arver] y Ruveinieit, er
* bodd [-: * ffavr] -roddy nep i angae, cyn noc y caffo yr vn a
gyhuddir, ei gyhuddwyr ger ei vron, a' chaffael o
honaw le y amddyffyn ehun, am y caredd. [17] Wrth
hyny gwedy ei dyvot wy yma, ‡ eb 'oludd [-: ‡ yn ddioet] y dydd
cyntaf rac llavv ydd eisteddais yn y vrawdle ac a 'orchymynais
 ðwyn y gwr ger bron. [18] Yn erbyn pa vn
pan savawdd y cuhyddwyr i vyny, ny * ddugesont [-: * ddyresont]
vvy vn caredd am gyfryw bethae ac y tybyeswn i:
[19] namyn bot ganthwynt ryw ‡ gwestionae [-: ‡ ymofynion ] am * y
gwangoel [-: [no gloss]]  yddynt y hunain, ac am vn Iesu a vu
varw, yr hwn a daerei Paul ei vot yn vyw. [20] A' mineu
erwyð vy-bot yn * petrusaw [-: * amhau, dowto ]  ‡ yn-cylch [-: ‡ am] cyfryw
gwestion, a 'ovyneis iddaw a elei ef y Gaerusalem,
a' chymryt-barn yno am y pethae hyn. [21] Eithyr can
ðarvot iddaw apello yn y gedwit ef i ‡ wybyðyeth [-: * holedigeth]
Augustus, mi 'orchymynais ei gadw, yd pan ðanvonwn
ef at Caisar. [22] Yno Agrippa a ddyvot wrth
Festus, A' mineu a wyl'yswn glywed y * dyn [-: ‡ gwr] . Evory
eb yr yntef, y cai y glywet ef. [23] A' thranoeth wedy
dyvot Agrippa a' Bernice a ‡ rhwysc [-: ‡ rhodres, rrwyf] mawr, a'
myned i mewn ir Orseð y gyd a'r pen-capteinieit
a' phendevigion y dinas, wrth 'orchymyn Festus
y ducpwyt Paul * yno [-: * atwynt] . [24] Ac y ‡ 'syganei [-: ‡ dywedei] Festus,
* A [-: * Ti] vrenhin Agrippa, a' chvvithe bawp ys ydd yn
presentol gyd a ni, ys gwelwch y ‡ dyn [-: ‡ gwr] hwn,
o bleit pa vn y galwodd oll * tyrfa [-: * llios] yr Iuddaeon

[td. 215v]
arnaf, bop vn yn-Caerusalem, ac yma, gan arthlefain,
na ddlei ef gael byw a vei hwy. [25] Er hyny ni
vedreis i gael arnaw wneythy dim teilwng o angae:
anid can ddarvot iddaw appelo at Augustus
mi a verneis y ddanfon ef. [26] Am pa vn nid oes genyf
ddim talgrwn yw escriveny at vy Arglwydd:
erwydd pa bleit mi y dugais ef atoch, ac yn enwedic
atta ti, Vrenhin Agrippa, yd pan yw yn ol darvot
ei holi, gaffael o honof beth yw escrivenny. [27] Can
ys anrysymol y tybiaf ddanvon carcharor, ac eb
‡ arwadocay [-: * yspysy, honny] yr achosion y cyhuddir ef.


Pen. xxvj.


Gwiriondap Paul a welit wrth adrodd ei vuchedd, cymmedroldep
ei atep wrth draha Festus.


[1] YNo y dyvot Agrippa wrth Paul,
e genietir yty * ymadrodd [-: * ddywedyt]  droso
tyhun. Velly Paul a estennodd
ei law, ac a ‡ atepodd [-: ‡ ddyvot] drosto ehun.
[2] Ys dedwydd y tybiaf vy-bot vyhun
Vrenhin Agrippa, can y mi gahel
atep heddyw geyr dy vron di, am
bop peth im cyhuddir y gan yr Iuddaeon: [3] yn benddivaddae,
can dy vot ti yn gwybot o ywrth yr oll
ddevodae, a' chwestionae 'r ysydd ym-plith yr
Iuddaeon: erwydd paam, yr atolygaf yty, vy-
gwrandaw yn ddioddefgar. [4] Ac am vy-buchedd
om mabolaeth, a' pha ryw wedd ytoedd hi or dechreat
ym-plith vy-cenedlaeth vy hun yn-Caerusalem,

[td. 216r]
e wyr yr oll Iuddaeon, [5] yr ei am adwaenent
* gynt [-: * or blaen] (pe mynent testolaethy) bot imi yn ol y
‡ sect [-: ‡ gohanred]  * cynnilaf [-: * craffaf] o'n creddyf vyw yn Pharisai. [6] Ac
yr awrhon ydd wy yn sefyll ac im cyhuddir am obaith
yr addewit a wnaed y gan Ddew i ein tadae.
[7] At ‡ pa addevvit [-: ‡ yr hwn] ein dauddec llwyth yn gwasanaethy
Dew eb dorr ddydd a' nos, a 'obeithant ðyvot:
er mwyn pa 'obeith, a Vrenhin Agrippa im cyhuddir
y gan yr Iuddaeon. [8] Paam y tybir yn beth
ancredadwy y genwch, bot y Ddew gyvody y
meirw dragefyn? [9] Mineu hefyd yn ðiau a dybiais
yno vy hun, y * dylewn [-: * dyleswn] wneythy llawer peth ‡  gwrthwyneb
[-: ‡ trawsedd] yn erbyn Enw yr Iesu o Nazaret. [10] Yr hynn
beth a wnaethym i yn-Caerusalem: can ys llawer
o'r Sainct a 'orchaeais yn-carcharoedd, can
vot genyf awturtat o ywrth yr Archofferait: ac
wrth ei ‡ divetha [-: ‡ lladd, rhoi yw marwo laeth] , y rhoddeis varn. [11] A' mi y * poeneis [-: * cospeis]
wy yn vynech drwy yr oll ‡ Synagogae [-: ‡ gynnulleidvaon] , ac ei cympelleis
i gably, a' chan ynfydy ym-pel'ach yn y herbyn
wy, mi ei herlidiais, hyd ar ddinasoedd * estron [-: * dieithr] .
[12] Ac yn hynn, pan aethym i Ddamasco ac awturtawt,
a' ‡ chaniatat [-: ‡ chomission ] yr Archoffeiriait, [13] ar [-: * am] haner
dydd, a' Vrenhin, ar y ffordd y gwelais ‡ leuver [-: ‡ lewych, goleuni, goleuad]
or nefoedd, yn rhagori ar ddysclaerdap yr haul, yn
towynny om amgylch, mi ar ei oeðynt yn ymðeith
y gyd a ni. [14] A' gwedy daroedd y ni oll * ddygwyddo
ar y ddayar [-: * gwympo, syrthio, ir llawr] , y clywais lef yn llavaru wrthyf, ac yn
dywedyt yn-tavot Hebreo, Saul, Saul, paam
im ‡ erlidy [-: ‡ ymlidy] ? * Calet [-: * Anhawdd] yw yty wingo yn erbyn y swmbylae.
[15] A' mineu ddywedais, Pwy ytwyt Arglwyð?
Ac yntef ddyvot, Myvi yw Iesu yr hwn wy ti yn ei

[td. 216v]
erlit. [16] Eithyr cyvod y vyny a' sa ar dy draet: can ys
er mwyn hynn yr ymddangoseis yty, sef er dy 'osot
ti yn 'wenidawc ac yn test, * ys [-: * yn gystal] am y pethae 'ry weleist,
ac am y pethae yn yr ei y ymddangosaf yty,
[17] gan dy waredy y wrth y * popul [-: ‡ 'sef yr Iuðaeon ] , ac ywrth y Cenedloedd,
at pa 'r ei yd anvonaf yr awrhon, [18] er
yty agory ei llygait, ac ymchwelyt o hanwynt y
wrth dywyllwch i 'oleuni, ac ywrth ‡ veðiant [-: * allu]  Satan
 * ar [-: ‡ at] Ddew, yny  dderbyniont vaddeuant pechotae,
ac etiveddiaeth ym-plith yr ei, a sancteiddiwyt
trwy ffydd yno vi. [19] Am hyny, Vrenhin
Agrippa, nid anvfyddheis i ir weledigaeth nefawl,
[20] anid dangos yn gyntaf ydd wynt wy o Damasco,
ac yn-Caersalem, a' thrwy oll or wlat Iudaia,
ac yno ir Cenedloedd, ‡ er [-: * ar] yddwynt edivarhay,
ac ymchwelyt * ar [-: ‡ at] Ddew, a' gwneythy gweithredoedd
a vei teilwng i wellaat buchedd. [21] Am
yr achos hynn yr ymavlawdd yr Iuddaeon ynof [-: * y daliawð yr Iuddaeon vi]
yn y Templ, ac a geisiesont vy lladd. [22] Er hyny mi
gefeis borth y gan Ddew, ac wyf yn ‡ aros [-: ‡ parhay] yd y
dydd hwn, gan destolaethy ac i vychan a' mawr,
* ac eb [-: * nad wyf yn] dywedyt dim amgen no'r pethae y ðyvawt
y Prophwyti a' Moysen y delei, [23] ys ef yvv hyny, bot
i Christ ddyoddef ac yðaw ef vot yn gyntaf a gyvotai
o veirw, ac a ddangosei 'oleuni ir popul, ac
ir Cenedloedd. [24] Ac mal ydd oedd ef yn atep hynn
drostaw ehun, y dyvot Festus a llef vchel, Paul,
ydd wyt yn ynvydu [-: ‡ wedy ampwyllo] : ‡ lliaws [-: * llawer] o ðysc syð ith wneythy
'r yn ynvyd. [25] Ac yntef ddyvot Nyd wyf wedy ynvydy,
 ‡ arðerchawc [-: ‡ ddayonus, bendevic] Festus eithyr gairiae gwirionedd
a' sobrwyð wyf yn ei hadroð. [26] Can ys * gwyr [-: * ef a wyr, y mae yn espes gan]

[td. 217r]
y Brenhin am y petheu hyn, ger bron yr hwn hefyt
ydd wyf yn * cympwyll [-: * ymddiðan, amadrodd] yn ‡ hyf [-: ‡ eon, yn hoderus] , ac ydd wyf yn tybieit
nad oes dim or pethe hynn yn guddiedic racðaw
 ef: can na wnaethant hynn yma mewn congyl.
[27] A Vrenhin Agrippa, a gredy di y Prophwyti?
Mi wnn dy vot yn credy. [28] Yno y 'saganei Agrippa
wrth Paul, Yðwyt * o vewn ychydic [-: * wrth vron, hayachen] im annoc y
vot yn Christian. [29] Ac Paul a ddyvot, Mi ‡ ddamunwn
[-: ‡ buchwn, rybuchwn] gan Dew nid yn vnic y tydi, namyn a' phavvp
oll ys ydd im clywet i heddyw, eich bot ac o vewn
ychydic ac yn gwbyl oll yn gyfryw ac ydd wyf vinef
 * dieithyr [-: * anyd] y rrwymae hynn. [30] Ac wedy yddaw
ddywedyt hyn, y cyvododd y Brenhin i vynydd, a'r
President, ac Bernice, a'r ei oedd yn cyd eistedd ac
wynt. [31] Ac wedy yddwynt vyned o'r ailltu, wynt
a gympwyllesont yn ei plith e hunein, gan ddywedyt,
 Nid yw'r * dyn [-: * gwr] hwn yn gwneythy dim
teilwng o angae, na rrwymae. [32] Yno y dyvot Agrippa
wrth Festus, Ef 'ellit gellwng y ‡ gwr [-: ‡ Gr. dyn]
hwnn, pe na bysei iddaw appelo ar [-: * at] Caisar.


Pen. xxvij.


Mor peryglus vu * taith [-: * sivvrnai] Paul ai gyfeillion parth a Ruuein.
Pa wedd a' pha le ei tiriasont.


[1] GWedy daroedd yddynt * gytvarny [-: * ymgynghori] ,
y ni hwylio ir ‡ Ital [-: ‡ Eidal] , hwy a roðesant
 bob un Paul, a' rryw garcharorion
ereil' at Gannwriat aei enw
Iulius o * gatyrva [-: * ranwyr] Augustus. [2] A'
dringo a wnaethom i long o Adramyttium
ar vedr hwyliaw ar

[td. 217v]
dueðae yr Asia, ac a dynasom ymaith, ac Aristarchus
or Macedonia o vvlad Thessalonia, oedd gyd a ni.
[3] A'r dydd * nesaf [-: * Gr. arall] y tiriesam yn Sidon: ac Iulius a
ymdduc yn * ddyngar [-: * voneddigaidd, hawðgar] wrth Paul, ac a roes iðaw
ryðdit i vynet at ei gereint, y gahel ced ganthwynt.
[4] Ac o ddyno y moriesam [-: ‡ diangara=] , ac yr hwyliesam eb
law Cyprus, erwydd bot y gwyntoedd yn wrthwynep.
[5] A' gwedy ‡ traweny [-: ‡ hwyliaw] o hanam dros y mor
ger llaw Cilicia ac Pamphylia, a' dyvot i Myra,
dinas yn Lycia: [6] ac yno cahel or Cannwriat long o
Alexandria, yn hwyliaw ir Ital, ac a'n * gosodes [-: * dodes]
ynthei. [7] A' gwedy y ni hwyliaw yn ‡ llusgenaidd [-: ‡ hwyr, ddyurys]
dros lawer o ddyddiae, ac o vraidd dyvot gar llaw
Gnidum, can vot y gwynt in * lluddiaw [-: * rhwystro] , hwylio
a wnaetham ‡ yn-goror [-: ‡ gan ystlys] Candi, gar llaw Salmone,
[8] ac o vreidd yr hwyliesam hebddei, ac a ddaetham
i ryw le elwit y Porthlaðoeð prydverth, ac
yn gyfagos iddaw ydd oedd dinas Lasaia. [9] Velly
wedy cerddet llawer o amser, ac yn awr bot moriaw
yn * periclus [-: * enbydus] , can ‡ ddarvot [-: ‡ vynet] hefyd amser yr
vmpryt, Paul y cygcorawdd hvvy, [10] gan ddywedyt
wrthynt, Ha-wyr, mi welaf y byð * yr hynt hon [-: * y daith yma] gyd
a sarhaed ac eniwed mawr, nid am y llwyth a'r
llong yn vnic, anid am ein ‡ eneidiae [-: ‡ bywyt, ho edl, einioes] hefyt. [11] Er hyny
y gyd mwy y credei y Cannwriat ir llywydraethwr
a'r llong-lywydd na' ar pethae y ddywedesit
gan Paul. [12] A' phryt nad oedd y porthladd yn aðas
y 'ayafy ‡ yntho [-: ‡ ynthei] , llawer a gymersont yn ei cygor,
voriaw o ddyno, a's gallent mewn ryw bodd ddyvot
hyd yn Phoinice a' gayafy yno, yr hwn 'sy porthladd
yn-Candi, ac y'sydd ar gyfor Deau-'orllewyn

[td. 218r]
a'r Gogledd 'orllewin. [13] A' pan * chwythawð [-: * gyvodes]
awel vach o ddeheuwynt, wyntwy yn tybieit caffael
ei ‡ pwrpos [-: ‡ helhynt] , a ddatdodesont * i Asson [-: * yn nes] , ac a hwyliasont
eb law Candi. [14] Eithyr cyn pen ne-mawr o
amser
, e gyvodes yn ‡ ei hemyl [-: ‡ wrthi] rhyvelwynt y elwir
* Euroclydon [-: * Gogleddddwyreinwynt] . [15] A' phan attelit y llong, ac na allai
‡ wrthladd [-: * vwhwman ] y gwynt, ni adawsam yddi * borthi yr
mor
[-: [no gloss]] , ac in ‡ arweddwyt [-: ‡ ducpwyt] ymaith. [16] A' gwedi yni redec
goris ynys vach a elwit Clauda, braidd y gallesam
gahel ir bad, [17] yr hwn a dderchafesont i vyny,
ac arveresont o bob canhorthwyon, gan * gylchy
[-: * wregysy] y llong o ddydenei, ac ofny a wnaethant rac syrthio
mewn ‡ Syrtis [-: ‡ sugyndraeth] , a gadael y llestri waeret, ac
velly y ducpwyt hwy. [18] A'r dydd nesaf gwedy cyvodi
 * morgymladd [-: * tempestl] ddirvawr arnam, ‡ y diyspyddesont
[-: ‡ yr yscafne sont] wy yr llong: [19] a'r trydydd dydd y bwriesam an
dwylaw ein hunain daclae y llong allan o hanei.
[20] Ac pryd na welit na'r haul na'r ser dros * liaws [-: * lawer] o
ddyddiae, a' thempestl nyd bychan oedd ar ein
gwartha, ys daroedd ‡ trosgwyddo [-: ‡ dwyn] oll 'obeith bywyt
o ddyarnam. [21] Eithyr yn ol hir * ddirwest [-: * newyn, cythlwng] , y
safodd Paul yn y canol hwy, ac a ðyvot, Ha-wyr,
chvvi ðylysech wrandaw arnavi a' pheidio a ‡ datdot
[-: ‡ diangori] o ywrth Candi, ac yno * y diengesech [-: * enill] rac y sarhaed
a'r gollet yma. [22] Ac yr awrhon ydd eiriolaf arnoch
vod yn dda ei cyssir: can na chollir vn map eneit dyn
o hanoch, amyn y llong yn vnic. [23] Can ys safawdd
gar vy llaw [-: ‡ yn v'emyl, wrthyf] y nos hon Angel Dew, yr hwn am
piae, ac ydd wyf yn ei wasanaethy, [24] gan ddywedyt,
Nac ofna Paul: can ys dir yw dy * ðwyn [-: * osot] gerbron
Caisar: ‡ a' nachaf [-: ‡ ac wele, llyma] y rhoddes Dew yty yr oll rei

[td. 218v]
'sydd yn moriaw gyd a thi. [25] O bleit paam, ha-wyr,
byddwch lew-eich-calon, can ys credaf Ddew, mae
velly y bydd yn y moð ac y dywetpwyt ymy. [26] Eithyr
dir yw ein * tavly [-: * bwrw] i ‡ nebun [-: ryw] ynys. [27] A' gwedy dyvot
y petwaredd nos ar ddec, mal ydd oeddem yn
* bwhwman [-: * mordwyo, in trawsddugit] yn y mor Adrial yn-cylch hanner nos,
y tybiawdd y morinwyr ‡ nesau [-: ‡ ymddangos ] o ryw wlat ydd
wynt, [28] ac a * sowndiasont [-: * blwmiesont] , ac ei cawsont yn vcain
'wrhyd o ddyfnder: a' gwedy myned ychydic pellach,
sowndio drachefn a wnaethant a' ei gael yn pempthec
'wrhyd. [29] Ac wy yn ofny rac syrthio mewn ryw
leoedd ‡ geirwon [-: ‡ agarw, geirw] , bwrw a wnaethant pedair ancor
 allan o'r parth-ol-ir-llong, gan ddamunaw
* gwawrio o'r dydd [-: * y myned hi yn ddydd] . [30] Ac mal ydd oedd y llongwyr
yn ceisiaw ffo allan o'r llong, a' gwedy gellwng bad
i wared ir mor, mal petyssent ar veidr bwrw ancorae
 allan o'r pen-blaen ir llong, [31] y 'syganei Paul
wrth y Cannwriat ar milwyr. A' ddieithyr ir ei
hyn aros yn y llong, ny ellw-chwi vot yn gadwedic
[-: ‡ ddiangol] . [32] Yno y torawdd y * milwyr [-: * sawdwyr] raffae yr bat, ac
y gadaosont yddaw ‡ ddygwyddaw [-: ‡ gwympo, syrthio] ymaith. [33] A'
gwedy dechrae y bot hi yn ddydd, yr eiriolawdd
Paul ar bawp gymeryt bwyt, gan ddywedyt,
Llyma 'r pedwerydd dydd ar ddec ydd arosoch, ac
y parhaesoch * yn ymprydiaw [-: * ar eich cythlwnc] , eb gymeryt ddim
llunieth. [34] Am hyny yð eiriolaf arnoch gymeryt bwyt:
can ys lly'ma eich ‡ iechyt [-: ‡ diogelrwydd] : o bleit ny ddygwydd
vn blewyn y ar ben yr vn o hanoch. [35] A' gwedy
iddaw ddywedyt hynn, y cymerawdd vara, ac y
diolchawð i Ddew, yn- golwc [-: * gwydd]  pavvp oll, ac ei * drylliawdd
[-: ‡ torawdd] , ac a ddechreawdd vwyta. [36] Yno y ‡ siriodd [-: * ymlewhaoð, llonhodd]
pawp, ac y cymersont vvythe vwyt hefyt. [37] Ac ydd

[td. 219r]
oedd o hanam y gyd oll yn y llong ddaucant, trivgain
ac vn ar pemthec o eneidiae. [38] A' gwedy daroedd
yddynt vwyta * digon [-: * ei gwala] , yr yscafnhasont y llong,
gan vwrw yr gwenith allan ir mor. [39] Ac pan ytoedd
hi ddydd, nid adnabuont wy yr ‡ tir [-: ‡ vro, wlad] , ac hwy ganvuesont
ryw * ebach [-: * borthladd vach] a' ‡ thorlan [-: ‡ glan, phen rryn] iddaw, ir lle y
meðyliesant (a's gallent) wthio yr llong y mewn.
[40] Ac wedy yddwynt dderchafy yr ancorae, y maddeuesont
 ‡ y llong [-: * y hunain ] ir mor, ac y gellyngesont yn
rhydd rwymeu y llyw, ac y dyrchafasont y lliein-
hwyl parth ar gwynt, ac a dynnasont ir 'lann.
[41] A' gwedy dygwyddo o hwynt mewn lle dauvor-
gyhvvrdd, y gwthiasont y llong y mewn: a'r pen-
blaen-iddei a lynawdd eb allu ei sylfyd, a'r penn-ol
a ymoascarawdd gan ‡ nerth [-: ‡ rwys, hwrddiat] y tonnae. [42] Yno cycor
y milwyr oedd lladd y carcharorion, rac bot ir
vn o hanynt, wedy nofio ir 'lan, * ffo [-: * gilo, ðianc] ymaith. [43] Eithyr
y Cannwriat yn ewyllysio cadw Paul, ei goharddawdd
ywrth y cygcor hvvn, ac a 'orchymynodd
ir ei vedrent nofiaw, ymvwrw ir mor yn gyntaf,
a' myned allan ir tir: [44] ac bot ir lleill, 'rei ar * estyllot
[-: ‡ vyrdde, vorde] , ac ereill ar ryw ddrylliae o'r llong: ac velly y
darvu, dyvot o bawp oll ir tir yn ddiangol.


Pen. xxviij.


Paul a'ei gydymðeithion yn cahel yr estron genedl yn vwyn
ac yn gymmwynasgar. Bot y * wiper [-: * neidr ] eb wneythur eniwed
iddo. Ef e yn Iachay tad Publius ac ereill, a' gwedy
iddo gael ei ddiwally ganthwynt o bethe angenreidiol,
tynny a wnaeth i Ruuein. Ac yno wedy dderbyn gan y
broder, y mae yn dangos ei negesae. Ac yno yn precetha
yspait dwy vlynedd.



[td. 219v]
[1] AC wedy yddwynt ddianc yn-iach, yno
y gwybuant mae * Melita y gelwit
yr ynys [-: * hon y elwir heðyw Malta] . [2] A'r ‡ Barbarieit [-: ‡ Estron genedl] a ðangosesant
yni * hawðgarwch [-: * ddyngarwch, vwynder]  nid-bychan:
can ys wy a gynneuson dan,
ac an derbyniesant y gyd oll, o bleit
y gawat gynnyrchiol, ac o bleit yr oervel. [3] A' gwedy
casclu o Paul talm o vriwyð, a'ei dody ar y tan,
e ddaeth ‡ gwiper [-: ‡ rryw neider bericlaf] allan o'r gwres, ac a ruthrawð
y ei law. [4] A' phan welawdd y Barbarieit y * bwystvil
[-: * pryf] yn-crog wrth ei law, y dywedent yn ei plith
ehunain, Yn sicr ‡ lleiddiat [-: ‡ lladdwrcelain] yw 'r dyn hwn, yr hwn
cyd diangawdd * or mor [-: * ar vor] , ny's gad dialedd i vyw.
[5] Ac ef e a yscytwodd y bwystvil y wrtho ir tan ac
ny bu arno ddim eniwed. [6] Eithyr wyntvvy a ddysgwilient
gantaw am chwyddo, ‡ nai [-: * neu]   dygwyddo [-: ‡ cwympo, syrthio] y
lawr yn ddysyvyt yn varw: ac wynt yn hir o amser
yn * edrych [-: * dysgwyl] , ac eb welet dim ‡ ancyflwr [-: ‡ an cymmesur] yn dygwyð
iddaw, troi ei meddwl a wnaethant, a' dywedyt,
Mae Dew ytoedd ef. [7] Yn y cyfleoedd hyny, ydd oeð
* tiredd [-: * cyfanneddion] i bennaeth yr ynys, (aei enw oedd ef Publius)
yr hwn an erbyniawdd, ac 'an lletyawdd
dros dri-die yn ‡ anwyl [-: ‡ gu, yn voesawl, yn gwrtais] . [8] Ac e * dderyw [-: * ddamwyniodd] , bot tad
Publius yn gorwedd yn glaf ‡ o gryd, a' darymred
gwaedlyt [-: ‡ o'r ddeirton a haint ei galon] : ac attaw ydd aeth Paul y mewn, a'
gwedy iddo weddiaw, y dodes ei ddwylo arnaw,
ac yr iachaodd ef. [9] A' gwedy gwneythyd hynn, yr-
eill hefyt or ynys, ar oedd heintiae arnynt, a ðaeth
attaw, ac eu iachawyt: [10] yr ei an * parchasont [-: * anrrydeddesont] yn
vawr iawn: ac wrth longi o hanam, in llwythesant
a phethae angenreidiol.


[td. 220r]
[11] Ac ar ben y trimis ir aetham ir mor mewn llong
o Alexandria, yr hon y vesei yn gaeafy yn yr
ynys, a'r harwyð hi oeð Castor ac Pollux. [12] Ac wedy
ein ‡ dyvot [-: ‡ tirio] i Syracusa y trigesam yno dri-die: [13] Ac
odd yno y cyrchasam amgylch, ac y daetham i
Rhegium: ac yn ol vn dydd, y chwythawdd Dehauwynt,
ac y daetham yr ail dydd i Puteoli, [14] lle
causam vroder, ac in deisyfwyt i drigo gyd ac wynt
saith diernot, ac velly ydd aetham * parth a [-: * i] Ruuein.

[15] Ac o ddyno, pan glybu yr broder oddywrthym, y
daethant y ‡ gyfarvot [-: ‡ gyfwrdd] a ni yd ym-Marchnat Appius,
a'r Tair tavarn, yr ei pan welawdd Paul, diolvvch
i Ddeo a wnaeth, a bot yn * hyderus [-: * ehon, hyf] . [16] Ac
vel'y wedy ein dyvot i Ruuein, y rhoðes y Canwriat
y carcharorion at y Captaen-goruchaf: eithyr
Paul y adwyt y drigo ‡ vvrtho ehun [-: ‡ yntef] y gyd a * milwr [-: * sawdiwr]
oedd y ei gadw. [17] Ac ar ben y tridie, y galwoð Paul
‡ bennaethieit [-: ‡ blaeno rieit] yr Iuðeon yn-cyt: Ac wedy ei dyvot,
y dywedawdd wrthwynt, Ha-wyr vroder, cyd na
wneythym ddim yn erbyn y popul, nai Cyfreithiae
yr tadae [-: * henuriait]  eto, im rroðwyt i yn garcharawr o Gaerusalem
i ðwylo y Ruueinwyr, [18] yr ei wedy darvot yðwynt
vy holi, a vynesent vy-gellwng ymaith, can
nad oedd ðim achos angae ynof. [19] Eithyr can vot yr
Iuðaeon yn gwrthðywedyt, im cympellwyt i appelo
 * ar [-: * at] Caisar, nid o herwydd bot genyf ddim y
achwyn ar vy-cenedl. [20] ‡ Ac or achos hyn [-: ‡ Can hyny] y galweis
am danoch, y eich gwelet, ac y * gytgympwyl' [-: * ymðiddan a chvvi ] :
er mvvyn gobaith yr Israel im cylchynir [-: ‡ rrwymir] a'r catwin
hon. [21] Ac wythe a ðywedesont wrtho. Ny wnaetham
ni na chael l'ythyre o Iuðaia * am danat [-: * oth bleit di] , na dyvot
neb o'r broder a venegoð nei a ddyvot dim * anvad

[td. 220v]
[-: ‡ drwc] am danat. [22] Eithyr ni wyllysem glywet genyt' pa
beth a * synny [-: * dyby] : can ys am ‡ y sect [-: ‡ yr opinion] hon, y mae yn
* wybodedic [-: * honneit] genym, vot ym-pop lle yn ei gwrthðywedyt.
[23] A' gwedy gosot diernot iddo, e daeth llaweredd
attaw ir ‡ hospyty [-: ‡ yw letuy, ostri] , i ba rei yd esponiodd ac testolaethawdd
ef deyrnas Dew, ac a precethawð
yddwynt am yr Iesu ac o Ddeddyf Moysen ac or
Prophwyti, o'r borae yd * 'osper [-: * pryd gosper, prydnawn, hwyr, nos] . [24] A'r ei a gydsynient
a'r y pethae, ry ðywedesit, a'r ei ny chredent.
[25] A' phryt nad oedden yn cydcordio yn ei plith ei hunain,
ymadael a wnaethant, gwedy dywedyt o
Paul vn gair, nid amgen, Da y ‡ llavarawdd [-: ‡ dywedodd] yr
Yspryt glan trwy Esaias y Prophet wrth ein tadae,
[26] gan ddywedyt, Cerdda at y popul hyn, a' dyweit,
 * Yn [-: * Gan] clywet y clywch, ac ny ðeallwch, ac yn
gwelet y gwelwch, ac ny chanvyddwch. [27] Can ys
calon y popul hynn a vrassawyt, ac aei clustiae ys
pwl y clywant, a'ei llygait a gaeasont, rac bot
yddwynt welet a ei llygait, a' chlywet a ei clustiae,
a' deall a ei calonae, ac ymchwelyt ‡ y n yd [-: ‡ val yr]  iachawn
 i hwy. [28] Gwybodedic gan hyny vo ychwy, mae
yr * iechydvvrieth [-: * iecheit] hwn ‡ gan [-: ‡ eiddo] Ddew a ðanvonwyt
ir Genetloedd, ac wyntvvy ei * clywant [-: * gwrandawant] . [29] A' phan
ddyvot ef y pethae hyn, ydd aeth yr Iuddaeon ymaith,
gan vot ymresymy mawr ganthwynt yn
ei plith ehunain. [30] Ac Paul a drigawdd ddwy vlynedd
yn ei duy ardrethol, ac a dderbyniawdd bawp
oll a ddaeth y mewn attaw, [31] gan pregethy teyrnas
Ddew, a dyscy cyfryw bethae, ac a 'sydd ‡ herwyð [-: ‡ yn perthynu]
yr Arglwydd Iesu Christ, yn gwbyl * hyderus [-: [no gloss]] , ac
eb nep yn ‡ gohardd [-: * rrwystro, llestair, lluddias, deor, rragot] .


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section