[Pob rhyw Griston glan i galon, NLW 13070B, 35-8. (= HG 21)]
Pob rhyw griston glan i galon
gwrandewch er mwyn duw vi n achwyn
gwae bob henddyn myvi wyr hynn
berchen gwraig kryf jevank hainyf
gwae r anhawgwr gwraigog llwvwr
ar gair yddo er nas haeddo
[td. NLW 13070B, 36]
gwaer gwr a vo a gwraig yddo
a honno n wir arnoe n veistir
or disgin bod dim anghydfod
rhyddyn hi a ar llaw n ywcha
i mae klwtyn o wyndon gwyn
wrth ddrws y ty wi ny rhenty
llai nag erw beth hwnnw
lle mae porfa gwaedde r wraigdda
mae gwyr perchen parav ychen
yddi n addo i lavurio
a minnav sy yn prydery
na chai hadyd yddoe ym bywyd
nychai lonydd na nos na dydd
genti ond a ir vro i ytta
bwrais j honn bob esguson
o ddiogi mynd i erchi
hawraig maen vlin Act y brenin
ag yn rhwystro pawb i gaiso
taw di waithon ath esguson
[t]i gau hadyd nyr vn hwndryd
mi aetho n js jslawr palis
...ni vyo valch o ddyno
[td. NLW 13070B, 37]
beth a ddwedaf o chranfyddaf
ar hen aran du wylmorgan
kerdda vydredd wytin addef
ofni tavod y gogysgod
siars sy arnaf j na chanaf
ddychan ny byd yn vy mywyd
os dechre wna ymddivarcha
na garbed kan ir hen aran
gwna dy neges yn rhe lales
a llangewydd ynyr vndydd
does drwa ir dwr i dir ogwr
ti gesgly had dau lavuriad
a nad vndyn heb vynd atyn
o sant dynod hed ymhytgod
ny phall vndyn o dre golwyn
hed ynharen y dwnrheven
na pherchen yd o lann ylltyd
ir priordy veder pally
maen hwyn saesnig ynghylch y wig
ny wis beth vo j ny gaiso
mith ddysga di ffol i erchi
ond kadw yth go vel yth ddysgo
j prav jow syr ffor lov maestyr
god wil giv mi and owr ladi
[td. NLW 13070B, 38]
pan ddwetoe kom hom syre
jl kwm to yow god redward yow
er peck o od ny ddawr tavod
ny modd i bu r wraig ym dysgi
mawr ywr taeredd vn or gwragedd
bwedd i mae ddyn bally yddyn
kael y trybedd ny chyndaredd
rhoi ergid ar blygiav nwyar
braidd i gellais j gael vymhais
am pig a gwân vymhenn allan
llyma orfod arnai ddyvod
vnwaith ych plith gwyr y gwenith
er mwyn jesu provwch vy helpu
myvi golla dre onys ka
Thomas ap jeuann ap Rys ai kant 49