[O Dduw nef, pa vyd yw hi ar ddynion, NLW 13070B, 18-20. (= HG 11)]
O dduw nef pa vyd yw hi ar ddynion
dialedd a rhoist vel ar dalon
[td. NLW 13070B, 19]
darostwng idd wyd bawb yn driston
marfolaeth a wnaeth mawr ovalon
e vagwyd yn gwlad bendefigion
y dygodd duw holl gymodogon
y ddynwyd y kael yr nen ddynion
o 'i vebaint ve dyg duw hwy 'n vaibon
y llysoedd lle bu egin llaison
ny thygiawdd yn bryd aeth yn waigon
o gwenfair y 'th blwyf gwae 'n hwyr gwainon
tir lidnerth a 'th blwyf gwaer tylodion
a dewi dy blwyf lef brain duon
llwydd kewydd bu ddwyn lladd y kywion
ry dannwrth ny wlad i rhy dynion
arythlef ar dduw trist hiraethlon
kerdd orwag oedd gynt gwaith kerddorion
poen adfyd a wnaeth pawb yn vudion
dwyn matho 'n y ol nyd ym waithon
brawd Adda vras oedd ar brydyddion
ny welwn i kair gwnawn ni wnelon
mab wiliam gan dduw er ambilion
a 'i 'dwaenai e 'n dda ymysg dynion
a 'i gwelas ve gan gwae i galon
roi gairav am wys yn rhagorion
digryvach na neb o 'r digryvion
ny gwindai ai blas mawr ny gwyndo[n]
tra haelach nag vn o 'r tri haelion
[td. NLW 13070B, 20]
oes daunydd a bod degoes dynion
i gwelir ny byd vab vn galon
dwyn harri 'n y ol nyd anhirion
brywysgerdd a wnaeth odlav braisgon
brytaniaidd nyd dim yw bryd dynion
nav siarad am gael oesav hirion
sion airav mor ddoeth a sain sieron
yn siroedd oedd vab domas wirion
gwir jesu erjoed a garyson
e dygawdd duw lan gymodogon
glynn ogwr lle bu vairdd glynogion
ar ddiwedd y byd hwy ddarfyon
o dyrwyd ir mab dydded oeron
o vairig e vaeth gwawd yn vyrion
ym methiant ny byd yma waithon
maen wbwb ny hol nef i 'r maibion
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 39