[Pwy yw'r syr goray oll, NLW 13081B, 162v-164r. (= HG –)]
[td. NLW 13081B, 162v]
Pwy ywr syr goray oll
yn yr holl vrenhiniaeth
syr siorys mathay sy
yn berchen tyaeth
yn yradyr mawr ywr graes
ymaer vras gynhaliaeth
pawb syn medry kyrchy lle
ymay goray llyniaeth
maen hwy yn dyfod mal wrth wys
[td. NLW 13081B, 163r]
ato yr llys yn llawn faeth
ynte gresewi pawb ar goedd
velly ddoedd yn....eth
ymayr gayr yddo ef
gore y ganhaliaeth
na doedd yni gael
hael oy rywogaeth
hael yn fab llawen hy
arhyd y by fabolaeth
ar ymroddi y vod yn hael
gwedi kael gwroliaeth
dilis jawn y farbara hael
gael taladigaeth
ysyn enill tref ythad
gwlad nef ynhelaeth
pawb yddaw yradyr lân
yno y kan y kyd faeth
at y teyly goray braint
ymaint lly 'merhodraeth
nyd oes gwrthod klaf nag jach
mawr na bach na mamaeth
[td. NLW 13081B, 163v]
hen ac jevaink don yr llys
dilys o brydigaeth
kan gwyn brwd arhost
difan gost gwin faeth
medd meddyglyn bragod pur
kwrw byr rhagoriaeth
dan dy gadwyn ayr yddwyd
yllew llwyd llawen faeth
velly yroedd y keylog fry
dy o waedoliaeth
y proffwydi yddowad hyn
kyn y genedigaeth
mab duw y ddelayr byd
hyd yddoedd ganihadiaeth
ymay term gar yn llaw
y daw ynaw brenhiniaeth
ac ni chanhaliant ddim or hedd
medd y broffwydoliaeth
pen for gath yn ka.. klawr
y dawr fawr farolaeth
llwynog ffwlbert lleyad krank
[td. NLW 13081B, 164r]
jefank ywr anogiaeth
Sarff a blaidd a baedd glas
dyrngas ymarchogaeth
ki llew gwyn a gwadd
lladd yw y llywodraeth
tarw eryr gwenol bran
galwan y genhedlaeth
llew koch keilog mynydd
hydd o gudd herwriaeth
pymp kwarter blwyddyn hir
hir heb arddeliaeth
kyn y trotho dyw y law
at y ganllaw digaeth
llawer gwraig heb y serch
allawer [merch] mewn hiraeth
llawer mab heb y dad
mewn ymddifadaeth
jesu grist anprynay y gid
prid y fyr prynedigaeth
gway ni aros yn y byd
symyd y wasanaeth
Thomas ap Iefan ap rhys Ay kant