Adran o’r blaen
Previous section


Enter Brodsaw 'r Justus.
Ai myfi sydd ar Charls yn farnwr,
ystwart sydd garcharwr?
Gwae fo ddwad dan ein dwylo!
Rwy 'n barod i 'r swydd, mae browes iddo.

Crwm
Bwriwch er dim y fo i farwolaeth;
bydd hynny i chwi yn oruchafiaeth.
Ni gawn holl wchder llawnder llawen
a 'i frenhiniaeth i ni ein hunen.

Brodsaw
Ple mae Ffairfax? Ewch i 'w mofyn [~ ymofyn]
pam nad ydyw y fo 'n canlyn.

Crwmel
Nid ydi Ffairfax yn bodloni
fwrw mono ddim i 'w golli.
I mae fo yn gweddio
drwy wir ddeusyfiad am ei safio.

Brodsaw
Os felly y mae, fo safed heibio.
Nedwch yma fo rhag fy rhwystro.

Crwme
Mi af i gadw iddo fyrdwn
tra bôch yn eiste ar hyn o sesiwn.

Exit Crwmwel.

Brodsaw
Nolwch y Brenin i 'w examnio.

[td. 32]
Huson
Dyma fo, byd rhyngoch ag efo.

Brods
A flinasoch chwi yn rhyfela?

Brenin
Do, cyn dechre 'r fattel gynta.

Brods
Pam yr aech o Lundain allan?

Bren
Ond i geisio safio f' eiddo fy hunan.

Brods
Fo fy 'n Lloegr lawer lledfa.

Bren
Do, o 'm hanfodd, Duw a 'i tystia.

Brods
Ond eich ffoledd chwi wnaeth ddechre?

Bren
Nage, 'ch trawster chwi a nhwythe.

Brods
Pa beth a heuddech yn lle pardwn?

Bren
Cael y nernas fy hûn a heuddwn.

Brods
Chychwi a heuddech gosbedigaeth.

Bren
Ni chosbir monai os cai y gyfraeth.

Brods
Chwi gewch gyfraeth newydd ddefod;
gwae chwi ddwad dan ein dyrnod!

Bren
Nid ŷch chwi ond dierth i mi.
Ni by rhyngoi ddim a chychwi.
Ple mae 'r Parliament a fu 'n eiste?
Hwy wyddant ei bod mewn gormod beie.

Brods
Pa beth i mae fo yn ei brattio
heb fod un dyn yn ei wrando?
Syre, syre, pam yr ych yn siarad
o flaen y barnwr heb gael cenad?
Gelwch y cwest sydd wedi ei dyfyn
a wittness i brofi yn ei erbyn.

Hamper
Myfi a alwa ar y cwest ar wittness.

Ffwl
Galw ar bob fulen drwg fales!

Hamper
Rhowch osteg fel y caffeir clywed!

[td. 33]
Hamper
Mae rhai yn fyddar a rhai 'n ddeilliad.

Ffwl
Dewised iddynt fod yn ddeillion
os bydd arfer a thyngu anudon!

Hamper
Take him, geler! Pwy sy 'n disbrisio?

Ffwl
Taw, taw! Rwy fi wedi peidio.

[Hamper]


Henry Ieriton, Harders Wallew,
Valentine Walton, John Harris,
Edward Welew, Isaac Penington,
Lord Grau, Lord Mounser,
Syr John Derfes, Henry Marttyn,
Thomas Chalwer, John Jones,
John Huson, Edward Bradlaw, Charles Fflittwd.

Dyma 'r cwest wedi ympirio.
Ni alwn wittnes i 'w examio [~ examnio]:


Edward Robert o Dre Esgob,
Robert Lasi paentiwr,
Robert Lloyd y Towr,
James Williams y Crŷdd,
Richard Patt y Tafarnwr,
Samuel Morgan Hettiwr,
George Pile Rhaffwr,
Richard Broffild y gwehydd o Lundain,
William Huson y Bragwr,
George Crwmwel y Melinydd,
John Edwards Cigydd.


[td. 34]
Brodsaw
Wel dyma 'r bilia yn ffurm wedy tynu.
Mae accw wittnes yn barod i dyngu.
I examnio wittness ni awn yn dalgrwn
ac i roddi 'r cwest ddurectiwn
lle i mynwn i y bydd y bai
yn brysys ni a 'i disbrisiwn.

Hamper
Cilsix, does [~ dos] accw i dyngu!
Di gei fodd i fyw am hynny.

Ffwl
Mi dynga ag a rege yn ddigon cethin.
Cîg dryw, dôs, mi dora dy esgirn !
Gwell gen i dyngu dy fod wrth bren
na thyngu am ben y Mrenin.
Mi ddygaswn nad oedd un dyn
a dynga nag a ddyweda yn fy erbyn.
Ni thalai ddraen mae accw dyngu
onid ydi y Tŵr Gwyn yn crynnu.
Mae accw rog's wedi llosgi ei dwylo
yn tyngu oni dydi 'r wybr yn duo
nhw a wnân y llegis tua 'r hwŷr
i 'r creigie a 'r awyr rûo.
Ni wyddant hwy mwy na mine
ymhale [~ ym mha le] nag ar bwy mae 'r beie.
Ond nhw dyngant am ei cyflog,
mae [~ mai] oen llyweth ydi 'r llwynog.

Brodsaw
Fo dyngodd digon accw ar gyhoedd
er torri pen chwech o frenhinoedd.
Charlas y Stwart rwy 'n ei fwrw,
o 'i anrhydeddd mae 'n rhaid iddo farw.

[td. 35]
Brenin
Siwr ni wnaethont waith mor aflan
heb gael rhoi atteb drosta fy hunan.

Brods
Nid oes mo 'r dadle wedi barnu.
Chwi gewch dorri eich pen y foru.

Brenin
A gai afal [~ afael] ar y chaplan
i 'm paratoi tuag att fy nien?

Brods
Os daw fo i siarad gair a chychwi,
fo fydd siwr o gael eich gosbi.

Exit Brodsaw.

Brenin
Fe wŷr y bŷd fod hyn yn draha,
rhwystro 'r ffeiriad ddwad atta.
Fe gae leidr ei wasaneth
a 'i baratoi att ddydd marwolaeth.
Fe dyngodd digon accw yn fy erbyn,
y peth na wyddwn ddim oddiwrthyn.
Fe ddaw tâl am hyn ryw ddydd
yn ddilawenydd iddyn.
Mae 'n gwilydd ag yn gamwedd gormod
i 'r euog fy mwrw i yn ddigydwybod
i farw fel oen gwirion gwâr
o achos bâr gwiberod. ———
Hai how i ple mae fy Mrenhines
a 'm plant hefyd? Nis gwn mo 'i hanes.
Gwae i 'w calone pan gaffont glywed
mae tori fy mhen iw f' nhynged. —
Charls, Charls, gwir aer y goron,
fy anwyl fab, hwdiwch fy mendithion!
Gyd'a Duw i rydwi 'n danfon,
er darfod y 'nghurro gwnewch fy 'nghynghorion.
Canlynwch gwmpeini y cyfion ffyddloniad;
gwrthodwch y geifr, dilynwch y defaid.

[td. 36]
Er colli 'ch tair teyrnas a llawer o 'ch deiliaid
cedwch yn ffyddlon, na chollwch mo 'ch enaid.
Ir drwg dros amser mae rhydddid yn llydan;
er i 'r gwynt dori y pren tecca yn y berllan,
o ffrwyth y gwraidd melus fo ddichon gwinwydden
dyfu a chynuddu yn frigog dychrefen [~ drachefn].
Gwae, gwae, yn fy erbyn a gododd
drwy ryfel mawr gwrthyn, a gwae rhai a 'm gwerthodd.
Gwae 'r anudonwŷr yn fy erbyn a dyngodd;
gwae 'r cwest a 'm bwriodd; gwae 'r justus a 'm barnodd.
Nid wy mor hên ag mor ynfyd
y rhaid im fod yn flin o 'm bywyd.
Nid wy hefyd mor ddiobaeth
ag yr ofnai loes marwolaeth.
O 'i hachos rwy 'n mynd i fywyd arall,
lle mae tangnheddyf [~ tangnefedd] uwch law pob deall,
a lle nas geill un gwaedlyd elyn
drwy dwyll yn byrbwyll godi yn f' erbyn.
Mae 'n ddrwg geni dros fy milwyr ffyddlon
sy 'n diodde dirmyg dan ddwylo rhai trawsion.
Ffarwel! Nhw a 'm daliason i
mewn mieri mawrion.

Enter Hamper.
Hai, Syr, gwnewch ddiben o 'ch gweddi.
Mae 'r ystaffle [~ ysgafell, ysgafellau] gwedi codi,
a 'r hangmon ynte a 'r fwyach finiog
yn barod i 'r gwaith am ei gyflog.
Ry'chwi yn twyso yn an-wellysgar.
Oni ddowch o 'ch bodd, chwi ddowch drwy hagar.
I 'r ystafell daccw hi
mi a 'th lysga di yn Ewyllysgar.

[td. 37]
Brenin
Gwr a 'm rhaglyniodd gwrandawed y nghyffes [~ nghyffes].
Rwy 'n barod i 'm diwedd, fy hoedl a golles.
Brenin Brenhinoedd uchel fri,
dod fy enaid i yn dy fynwes!

Exit y 2.

Enter Ferch.

Enter y ferch cariad i Jarad.
Rwy 'n gla jawn, mi ges y consymsion;
mae swp o serch dan y nwy fron;
sythion saethau fawr ei nwy
a 'm rhedodd drwy fy nghalon.
Rwy mor alarus a 'r oen am y ddafad.
Dros y mor yr aeth y [~ fy] nghariad;
gwae fi nad allwn fynd ar ei ôl,
y gwrol Genaral Jarad!
Mwy o bleser yn fy nghlistieu
oedd glywed sŵn un gair o 'i eneu:
na chlywed muwsic yr holl fyd
ple mae fy anwylyd inne.
Ni lyfasai [~ lafasaf i] gan dratturied
ddwed lle caffwy mwy mo 'i weled.
Cyn pen hir o gariad mwyn-bur
marw a wnawn ein dau o 'r un dolur.

Enter Huson.
Dywedwch i mi, meinir weddus,
am bwy 'r ydych mor alarus?

Ferch
Am wr têg aeth o 'r tir,
glan Gabelir caradus.

Huson
Ni charai neb o 'r Cabelier;
ni bydd hwnw byth ond eger.
Gwell i chwi rwan, mwy ydi ei rent,
gael gwrol Parlamentier.

[td. 38]
Ferch
Gwell oedd geni fegio y [~ fy] mara
gyd'a gwrol fab a gara
na phe cawn dir y deyrnas
er bod yn wraig i Rowndied diflas.

Huson
Nid yw y Cabeliers ond gweision
i ni Rowndied sŷ gywaethogion.

Ferch
Ped faechwi ar hyn cyn gywaethoged
a Job, ni byddech ond tratturied.

Huson
Os cerwch fi, mi a 'ch bodlona,
mewn dillad o sidan a melfed mi a 'ch gwisga
i fod yn well eich stât o 'r haner
nag un o ferched Brenin Lloegr.

Ferch
Nid eich aur a 'ch dillad plundrio
— rwyn well fy hyder — eill fy hudo.
Mae llawer melldith ar ei hôl;
nid wy mor ffôl a 'i gwisgo.

Huson
A gerwch i neb o 'r Rowndied gwchion?

Ferch
Na chara byth yn y [~ fy] nghalon.

Huson
Ow, pam hyny, gwen lliw 'r ôd?

Ferch
Ond am ei bod yn ffeilsion.

Huson
Pa beth a wneithym yn eich erbyn
i beri i chwi fod mor gyndyn?
Edrychwch arnai; rwy 'n wr gwŷch.
Pam nad ych yn chwerthin?

Ferch
Chwi a yrasoch i ffordd o 'r deyrnas yma
y gweddus fab a garai fwya.
Os marw o 'i gariad ô wna i,
rhof arnoch chwi nglanastra.

Enter Ffwl.
Ai amdana i yr wyt ti yn wylo?
Taw sôn, druan, paid ac ochneidio.

[td. 39]
Ffwl
Hwra hon, meinir wen;
hi a 'th wneiff di yn llawen etto.

Ferch
Ffei, ffei, cedwch eich pethe!

Ffwl
Ceriwch nhw yn eich ffedog adre;
fe fydd noswaith lawen ffri
rhyngoch chwi a nhwythe.

Huson
A wyddost a phwy yr wyt ti yn siarad?
Paid, gna, na thwitsia ar ei dillad!

Ffwl
Cnâf a ddwad cnaf yn gynta.
Moes dy law, nis gwn i pa'r un gnafeiddia.
Gwell iddi roi peth am fy 'nghael i
na chael cyflog am dy garu di.
Mae geni living lawer
o lai heuad pecced a haner.
Gwna draean o hynny arna ti.
Hawdd i ti borthi balchder.
Ac mae geni blâs o ddwy lath uchder
a châth i arlwyo a chywoeth lawer.
Wy [~ Wyt] ti yn tybied y cei di hi
yn legar ladi ar fyrder?

Ferch
Nid allai edrych ar un ohonoch;
mwy na 'r neidr chwi a 'm digiasoch.
Da yr ymdrawsoch, gnafiad câs,
mi a wranta, yr andras ynoch.

Huson
Ewch lle mynoch, mi a 'ch canlyna.
Oni chai chwi o 'ch bodd, o 'ch anmodd [~ anfodd] mi a 'ch myna.

Ferch
Os doi di, Rowndied, yn y nghyfel [~ nghyfer],
myfi a weudda [~ waeddaf] hai wchw yn uchel.

Exit.

[td. 40]
Enter Sequestrator.
Gwrandewch ar Act yr holl Gyffredin:
fe ddarfu torri pen y Brenin.
Sequestrator iw
Hamper a 'r ffwl.
Pwy bynnag a sonio amdano
yn ddiffyniant caiff ei ffinio.
Oliver Crwmwel aeth yn arglwydd;
tan haul a lleuad mae 'n ben llywydd.
Drwy holl grêd y flwyddyn nesa
fo fydd yn emprwr, myfi a 'i gwranta.
Ni cheir darllain dim wrth gladdu
rhag i 'r meirw godi y fynu.
Ewch a 'r Comon Prayer i 'w losgi.
Torrwch groese ar y bedydd feini.
Gwiliwch gadw dyddiau gwylion.
Gweithiwch eich gore ag ewch yn gybyddion
i gael casglu aur i ni;
cewch taly trethi trymion.
Mi gefais swydd o 'r gore:
rwy 'n sequestratu gwair, gwartheg a lloye.
A glywi di arnat fyn [~ fynd] mewn câs
a dwad yn wâs i mine?

Ffwl
Do, do, rwy 'n wr o 'r gore.
Mi af att y gôf i roi swmbl yn fy jre [~ irai].
Gwyn ein byd y swydd y gawn.
i 'r Bala ni awn i ddechre.

Seque
I roi dychryn yn y dechre
ni awn yn union i 'r Clynnene [~ Clenennau].
Ni ddown adre heibio i fuches
y Cabelier yr Hughes o Wercles [~ Werclas].

[td. 41]
Seque
Ni awn a da y Curnel Mostyn;
ni adawn i 'r tulwyth un cattelyn,
nag i Syr Euan Lloyd o Jâl
oni thâl amdanyn.
Lle i bytho gwr a chregin gare
er na bu fo erioed mewn arfe
nid adwen i mono, teuraf yn glir,
ei fod yn Gabelir o 'r pura.

Ffwl
Ond gore i mi yru gynta galla.

Seque
Prisia 'r ŷd â 'r gwair yn gynta
a phob dim a 'r sydd y' [~ yn] nesa,
a phrisia yr holl ger hwsmoneth
a phob dim cyn myned ymeth;
prisia 'r gwlân a 'r coffre,
prisia 'r pedill a 'r crochane,
a chwilia bob cornel glûd
nes dwad o hŷd i 'r code.
Dwg y fflagen a 'r dysgle
yn esgus gwneud bwlede.
Brysia, tyrd a nhw i ffwrdd!
Prisia 'r bwrdd a 'r meingcie.

Ffwl
I rydwi yn prisio yn ddigon prysur,
ond nid y fi ydi sequestratur.
Mi brisia y piccyne a 'r llwye 'n llawen,
y dillad brethyn a 'r dillad llien,
y gogr rhawn a 'r rhidill rhwth
a 'r drybedd a 'r crŵth halen.

[td. 42]
Ffwl
Gore i mi brisio 'r bwyd a 'r ddiod.

Seque
Prisia; gwilia yfed gormod.

Ffwl
A brisiai 'r dorth sydd wedi ei thorri?

Seque
Prisia 'r gyllell gyd ag i hi.

Ffwl
A brisiai y mynawydydd a 'r nodwydde
a 'r efel binsio a 'r corn esgidie
a 'r haiarn crochon sy 'n y'nen,
y gyllell wen a 'r gwelle?
A brisiai y wraig a 'r plant sy 'n gweiddi,
Richard a Margred, Roger a Mari?
Nid ydynt hwy ond stŵff gô sâl,
ychydig a dâl y rheini.
Mi chwiliais yn llwyr bob cilfach
ac a brisiais y cwbl bellach.
Gore i mi yru, mae 'r dydd yn furr.

Seque
Hai, tyrd, gur, nag eiriach!

Ffwl
Hai how, yswan ag yswitting,
briad a brown a Duwc a darling.
Ni wnawn yma fyches lom,
a gwae chwi llom eich living!
A yrai yr ŷch gwan ei afel
a 'r llall sŷ ar llŷg ar ei hegel?

Seque
Gyrr hwnnw a rhwngc yn ei glŷn;
na âd yno un anifel.

Ffwl
Hob how, y bychod a 'r teirw!
A glywch chwi neb yn gweiddi hi whw?
Hys hys y defaid, sihwa 'r ceffyle,
tat tat y moch, lac lac y gwydde.

[td. 43]
Ffwl
Gore i mi yru 'r geifr a 'r mynod.

Seque
Gyrr y cwn a 'r cathod!

Ffwl
Hai sihwa, cath o hŷd,
a gwyn ei fŷd y llygod!
Hai how, gyrwch y meister!
Neidiwch i 'r groesffordd, hi aeth yma 'n brysyrder.
Gwiliwch golli yr un o 'r gwartheg.
Os cawn i le, ni ddygwn ychwaneg.
Rhedwch o 'i blaen, neidiwch y pylle.
Rydech chwi yn eich bwtties a mine yn fy esgidie.
Ffe ni gawson siwrne drom,
o 'r diwedd daethom adre.
Fe ddarfu i ni flino, rwy gwedi chwsu.
Gelwch am ddiod rhag ofn i mi dagu.
Pott i fynu ag yfed gwin!
Celfyddyd flin iw gyru.

Exit y 2.

Enter Hwsmon.
Oes un ohonoch chwi 'r Cwmpeini
a rŷdd chweigian i daly trethi.
Fe ddarfu i 'r rwbars ddwyn fy march
a gwneythyr amarch i mi.
Ni chês i noswaith ddiofal ddiflin
er pan dorwyd pen y Brenin.
Breibio comitti a bygwth fy llâdd
tra i parhâdd fy lifin.
Breibio 'r comitti a 'r capteiniaid
rhag iddynt dynu fy llygaid.
Taly trethi a chwartrio clêrs
o riw ddrwg wners gweiniaid.
Roedd rhai yn tybied mae [~ mai] rhyw angel

[td. 44]
Hwsmon

ar y cynta oedd Arglwydd Crwmwel.
Y rwan fe aeth wrth ei drin
fel rhyw ysgethrin gythrael.
Mae ganthynt hwy ryw gyfraith newydd
i ffordd ar hŷd ar glyd y gwledydd:
ni ellir tyngu llw yn y byd,
ond fe ellir dywedyd celwydd.
Pe bae nhw ei gyd wedi ei crogi,
os oes ynthynt ddim daioni.
Oni ddaw rhyw dro ar fŷd,
gwae ni ei gŷd ein geni!
Mi glywais gan wr oddiyma i Rythyn
ei bod mewn gofal mawr a dychryn.
Ag os gwir a glywais i,
fe ddarfy llosgi Dylyn.
Fe ddywedodd gwraig oedd ar ei siwrne
i mi chwedl newydd gyne,
fod llawer o longe ag ymladd trwm
yn Aber-Cwm-dau-gledde.
Fe landiodd llawer o 'r Iddewon
ddoe i ryde 'r cerig gwnion.
Mi glowais ddweyd fod yn ei brŷd
fyd ynghyd a 'r Saeson.

Enter Morus ag yn ddierth yn siarad a 'r Hwsmon.
Wel dyma un o 'r Cabelir gwchion.

Moris
Pa ryw bwynt, y poenus hwsmon?

Hwsmon
Edrychwch gûled iw fy 'ngrydd:
i rydwi yn brydd y [~ fy] nghalon.
Cul a thene iw pob hwsmon
ymlâdd a gweithio i gadw carn lladron,

[td. 45]
Hwsmon

a hwythe yn segur heb ddim chwŷs
yn mynd ar frŷs yn freision.

Moris
Diodde, diodde ychydig etto
a bydd fyw dan wir obeithio.
Maent gwedi dringo i frig y gangen ucha i gyd
yn swrth mae yn ei bryd syrtho.

Hwsm
Ie, diodde ychydig etto!
Ai diodde iddynt hwy fy mlingo?
Mi ddioddefais trwy fawr boen
hyd fy nghroen fy nghneifio.
Mi a ddioddefais fel y ddafaid
a ddioddefai dynu ei llygaid.
Oni bae fy mod i ddur neu gareg,
nid allai ddiodde dim ychwaneg.

Moris
Diodde etto haner blwyddyn
nes iddynt gael y mêl yn wenwyn.
Ni bydd hyd Loegr deg ei llŷn
hanes am un ohonyn.

Hwsm
A glywsoch i ddwad o 'r Iddewon
yn siwr i rŷd y cerig gwnion?

Moris
Chwedle gwanwyn sydd gan ti;
di gei gan i newyddion.
Mae 'r Brenin jeuaing gwedi ei goroni
yn Yscottland, dedwydd i ni.
Rhaid i nine rhag cael barn
i 'w blaid yn gadarn godi.

Hwsm
Ai gwir iw hyn, y [~ fy] ngharwr ffyddlon?

Moris
Gwir, gwir, fe gadd ei goron.
Mae fo a chanddo armi grê
yn ymul trê Gaer-frangon [~ Gaerwrangon].

[td. 46]
Hwsmon
Dow bow, dow bow, mae nghalon [~ fy nghalon] y [~ yn] neidio.
Mi af yno i ymladd; mae nwylo [~ fy nwylo] yn merwino.
Er darfod dwyn y cledde a 'r gwn
mae geni bastwn etto.

Enter Huson.
Pwy sydd yma 'n dywedyd celwydd
ag yn plottio yn mysc ei gilydd?
A fynwch i frenin? Cewch yn haws
y cledde ar draws eich ysgwydd!

mynd ynghyd a 'r hwsmon a Moris yn diangc.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section