Adran o’r blaen
Previous section


Hwsm
Nid oeddwn i ond siarad
ynghylch yr haul a 'r lleuad,
a sôn i roeddwn am rannu trêth;
fe godwyd peth ar fagad.

Huson
Onid oeddwn i yn eich clywed
yn son am frenin Dôn ag Scotied?

Hwsm
Celwydd y M.r ydi hyn.
Myfi oedd yn gofyn defed.
Deliwch y fo, gollyngwch y fine;
fe aeth att y Brenin i gym'ryd arfe.

Exit Moris.

Huson
Rhyhwyr iddo fyned atto;
mae aer y goron newydd i guro.
I roedde [~ roeddech] chwi eich dau ar fedr myned
i godi arfe yn erbyn Rowndied.
Mi dyna y pedole oddi dana ti
am fod i mi cyn ffalsed.
Tyrd oddi yna i 'th roi mewn carchar.
Rwy [~ Rwyt] ti yn tywys yn an-wyllysgar.

Ymeylyd yn ei glyst yn ffast, ag Exit y 2.

Enter Brenin Charles 2.

Brenin
Och! wel dyma anlwch greulon
wedi enill tre Gaer-frangon [~ Gaerwrangon]

[td. 47]
llabyddio y [~ fy] 'ngwyr a cholli ngwaed [~ fy ngwaed]
i lawr dan draed gelynion.

Saer yn cael y Brenin yn y coed.
Ni wn i ble tuedda;
syched mawr sydd arna;
a reble hwythe yn waeth na dim
yn barod i 'm difetha.

Enter.

Saer
I ble y rydech chwi yn trafaelio?

Brenin
Ni choeliai yr ai chwath heppell [~ nepell] heno.

Saer
I rydech yn fy meddwl i
yn barod wedi blino.
Ai ymladd y byoch wrth dre Gaerfrangon [~ Gaerwrangon]?

Bren
Ie, am hynny prŷdd iw fy 'nghalon.

Saer
Cymerwch gyssur, chwi gewch gyfrinach.
Mi wn mae [~ mai] ffrind y Brenin ydâch.

Bren
O ran eich rheswm rwy 'n ych leiccio.
A fedrwch chwi mo 'm cyfarwyddo
i ryw ffyddlon dirion dŷ
lle gallwi 'n hû orffwyso?

Saer
Medra 'n siwr; mi a 'ch cyfrwydda
att ŵr bonheddig o 'r gonesta.
Dyma ei ferch o 'n gweddio ar ddeilin;
mae hi yn gadarn gyd'a 'r Brenin.

Enter Jane Lân.
Ai Cabelier pur caredig
a ydych chwi, y gwr bonheddig?

Bren
Ie, bychan iw fy mharch
a mawr iw fy amarch oerddig.

Jane
A wyddoch i a ddiengodd y Brenin
o ddwylo 'r mwrdwyr oedd i 'w erbyn?

[td. 48]
Brenin
Do, fe ddiengodd am hyn o dro.

Jane
Oh Duw a fo i 'w amddiffyn!
Ydech chwi yn siwr na ddiengodd mono?

Bren
Myfi a 'i gwranta fo yn ddiargol [~ ddiargel] etto.

Jane
Pa fodd y gellwch chwi dystiolaethu hynny?

Bren
Credu rwy fod Crist i 'w helpu.

Jane
Gwyn ei fyd a gawse ei weled.

Bren
Edrychwch, i mae o flaen eich lluged.

Jane
Ai chwi ydi Brenin Lloegr fawrgu?

Bren
Myfi ydyw Tywysog Cymru.

Jane yn ymgrymu iddo.

Jane
Chychwi o radde reiol wreiddin
ger fy mronn iw fy mrenin.
Deuwch gyda myfi er llês;
mi a 'ch rhôf mewn achles ddichlin.

Bren
Nis gwn pa fodd y gallai 'n ddirgel
fynd o 'r deyrnas; blin iw 'r drafel.
Siwr a fyddai o dorri mhen [~ fy mhen]
os ai dan aden Crwmwel.

Jane
Myfi a fentra gyda chychwi
dros y môr, o cerwch y [~ fy] nghwmni,
y chwi yn wâs da ar ych llês
a mine yn feistres ichwi.

Bren
Pa fodd i 'ch gelwir, blodeu Europia?
Gwas ufuddol i chwi a fydda.

Jane
Jane Lân; i 'ch achub chwi
dros foroedd myfi a fentra.

Bren
Os mentrwch i, mi fentra yn fuan
naill ai cael ai colli 'r cyfan.

[td. 49]
Saer
Mine a waettia ar eich Grâs
i fynd o 'r deyrnas allan.

Bren
I chwi eich deuwedd mi ymddirieda
am fy mywyd; mi wn y galla.
Os doi byth i 'm braint na 'm bri,
yn deilwng i chw [~ i chwi] mi dala.

Jane
Er eich mwyn chwi, Frenin graslon,
myfi a golle [~ gollaf] waed y [~ fy] nghalon.

Bren
Tewch, tewch, siaredwch lai!
Wel daccw rai o 'r gelynion.
Enter Harris a Chrwmwel.
Oes neb a fedr chware hasard
nes dwad o hyd i Charles Ystward?
Pwy bynnag a ddel ag efo i 'm magle
am ei ben ceiff fil o bynne.

Jane yn gollwn ei maneg i lawr, ynte yn ei chodi fyny, ei hystyn a 'i hett am ei ben iddi.

Jane
N' ad Duw mor anystwyth a gwnaethbwyd y chwi
Ymgrynnwch a chodwch fy maneg i mi.
Nid ydi hi y rwan yn wynt nag yn law.
Ai nid ellwch i ddal mo 'ch hett yn eich llaw?

Harris
I mae hwn yn rhy fynyddig
i fynd i dendio a 'r ferch fonheddig.

Jane
Nid yw fo a 'r peth ddim yn ymarfer.
Mi wna iddo brynny ei ddysc ar fyrder.

y hi yn ei daro fo a 'i llaw.

Exith y 3.

Crwm
Bellach y fi a pia y teyrnasoedd,
trêf a thyre, môr a thiroedd.
Cyn pen hir mi fyne [~ fynnaf] fyned
i gongcwerio cred ag angred.
Nid rhaid mwy mo 'r gofal yma;
mi yra y sawdwyr i Jamacca.

[td. 50]
Crwm
Er y byd ni roi ddraen;
mŵn aur o Spaen mi sbeilia.

Harris
Chychwi y rwan sydd orucha.
Cael un rhodd genych a ddymuna.

Crwm
Ffyddlon jawn i mi a fuoch;
pam na chewch i y rhodd a fynoch?

Harris
Mi fyna i chwi gosbi 'r Cymru,
crogi y rhan fwya o 'r rheini
a 'i distrywio nhw yn egin.
Hwy wnant daly am ei Brenin.

Crwm
Yn arâ dêg mi a 'i gostega
mewn caethiwed hyd yr eitha;
ar hyder iddynt allu troi
ni fynai mo 'i difetha.

Enter Hamper.
Mi ddyble [~ ddyblaf] ei trethi yn fil o ddyble
ag a ddyga ei meirch a 'i harfe.
Ni chânt hefyd, tra bwy byw,
mo fedydd yr eglwyse.

Haris
Oni ddygwch i ei hoedl hwythe
mewn caethiwed hyd yr eithe,
ni orphwysant hwy fyth nes dial gwaed;
nhw fynant aed o rywle.

Hamp
Nyni rwan dan yr awyr
sydd yn curo pob rhyfelwyr.
Aed i Frenin o ble a dônt
oni ddont o 'r wybyr?

Crwm
Na thyrd i 'm golwg i, yr hên gowart,
oni ddeli di Charles Ystwart.

Hamp
Pâr fodd y gallwn, gadewch glywed,
ddal y gwr heb ei weled?

[td. 51]
Hamp
Edrych amdano nid yw bwrpas;
fe aeth yn barod allan o 'r deyrnas.
Mae iddo lwcc yn ddigon siwr
i fentro 'r dwr fel Johnass.

Crwm
Rhyfedd gen i pa fodd y diengodd.

Hamp
Rhyw ferch fonheddig a 'i cnafeiddiodd.

Harris
Mi a 'i canfûm hwy, pei gwybaswn;
a 'm llaw 'n ddwysedd mi a 'i lladdaswn.
Gwae oedd i 'r gangen a 'i confeie.
Och, na bae hi ar flaen y ngheledde [~ fy nghleddyf]!

Crwm
O frynted ei fynd o 'r deyrnas allan;
pwy nad ymgroga ohono ei hunan?
Os daw o fyth i Loegr etto,
ni fynwn roddi waich i waittio.

Exit ôll.

Enter Huson.
i settlio cyfraith yr eglwysi.
Huson yn Gomitti.
Mi fedra hynny, fe wŷr pawb,
yn well nag esgawb gwisgi.
Ni cheiff neb mo 'r bod yn swyddog
ond yr Independant's rhywiog.
Na ddisgwiliwch fyth mo 'r ffydd a fu
Ni fynwn ein ffydd ein hunen
dros wyneb y ddaiaren.
I lawr ni rown ni a 'i trown o 'i três
bob math yn Bres'bitterien.
y gwŷdd [~ gwëydd] a 'r eurach [~ eurych] minddu
a 'r gôf a geiff bregethu
a phawb a fu 'n colli ei gwaed
a 'r person aed i ddyrnu.

[td. 52]
Huson
Ni cheir na chymun na chrefydd,
nag ofer fiwsic, cerddor na phrydydd,
na brenin byth yn Lloegr wenn,
ond pawb ymhen ei gylydd.
Yr Justus sydd ar osteg
yn priodi 'r merched glandeg.
Ni cheir mwy fedyddio rûn [~ yr un]
nes i'r elo hi yn un ar bymtheg.

Ffwl
Gyd'a 'ch cenad, y gwŷr sy 'n cowrttrio!

Huson
O ba wlad y rwyt i yn rhodio?

Ffwl
Myfi a rodiais bart o 'r hollfyd
ag a dreiais bob celfyddyd.
Ond y rwan rwy 'n amcanu
peidio a gweithio a mynd i bregethu.

Huson
A fedri di ddarllain llyfre?

Ffwl
Medre [~ Medraf] 'r wyddor Gymraeg o 'r gore;
na ffendiwch arnai ormod bai
er misio rhai llythrenne.

Huson
Oni chyfarfuost di a 'r yspryd,
ni fedri di yn jawn mo 'r gelfyddyd.

Ffwl
Roeddwn i neithiwr yn ddigon chwannog
yn troi ngheffyl [~ fy ngheffyl] i gae fy nghymydog.
Rhyngddwy a 'r clawdd mi welwn ryw huttan;
rwy 'n tybiad mae [~ mai] 'r yspryd roedd o 'n croppian.
Ond tebyccach ei ystym ydoedd i chwi
nag i mi fy hunan.

Huson
Dangos dy waith, beth a fedri?

Ffwl
Gwrandewch-ithe yn ddyfal ar y [~ fy] ngweddi:

[td. 53] Ffwl
Yn Arglwydd Prottector a 'r Comitti,
Fflittwd a Lambart a 'r holl armi,
Cymru a Lloegr, Gwlad yr Hâ
a fyddo gyda nyni.
Wel dyna i chwi weddi weddus.
Gwrandewch ar dext y bregeth felus:
Edrychwch, cewch weled yn y rebel
mae [~ mai] peth daionus ydi rhyfel
i gael ei fyd wrth ei fodd,
a hynny a gododd Grwmwel.
Pwy a fydde mor anrhesymol
a chadw meibion yn yr ysgol
i ddarllen Ladin, Groeg, hên chwedle,
jaith anweddol fel jaith hen wydde,
a 'n brodur ni heb fedr ei habsi
yn wyr grasol mewn eglwysi.
Beth a wneir a Chamridge [~ Cambridge] a Rhyd-Ychen
pa 'n waeth Gwrexam neu Lan-gollen?
Ni gawn yno ormod o ddysc
yn ein mysc ein hunen!
Cewch weled yn Llyfr y Cybyddion
mae [~ mai] drwg iw chware ddyddie gwylion.
Chware a bair werthu tir;
wrth weithio fe gesglir digon.
Peth llwyddiannus ydi trawster
i 'r sawl a fedro ei drin a 'i arfer
i gael ei fyd yn jawn i' w fodd;
hyn yma a gododd Grwmwel.
Edrych yn Llyfr y Mawr Draha

[td. 54]
Ffwl

yn y bennod faleusus a 'r wers nesa,
mae [~ mai] trawster a gododd i fynu 'n rhwydd
yr Justus brydswydd Bradsa-w.
Bydd rhai pobl yn ymgroesi;
ynfydion cattyliaid ydi y rheini.
Wrth godi ei bodie att ei penne,
mae nhw yn sigo bôn ei breichie.
Edrychwch ym henod [~ mhennod] yr Anghyfiawnder
ag chwi beidiwch a dywedyd eich pader.
Madde i ni ein dyledion fel y maddeuwn ni i 'n dyledwyr.
Wel dyna air heb ronun [~ ronyn] o synwyr.
Dyled y wlad yw taly i ni ein trethi;
nid ym ni mor ffol ag y maddeuwn i y rheini.
Yn enw 'r Arglwydd a 'r Prottector,
mi a 'i tyna nhw o groen y clector [~ colector].
Mi dorra ar fyr — mae 'r dydd yn pasio —
rhag ych dal chwi yn rhy hir heb eich cinio.

Huson
Mi a 'th wele [~ welaf] di 'n bregethwr odieth;
mae geni [~ gennyt] ti ormod o ddysgeidieth.
Di gei rent eglwys geni yn rhywle
am bregethu hyd y teie.
O chai 'r fan i rwy 'n ei ddewis,
trowch i ffordd y ficcar Jervis. —
gweddi-ai [~ gweddïai] am rent Llan Silin —
mae fo 'n gweddio gyd'a 'r Brenin.

Enter Hamper.
Rhedwch am yr hoedel
i hebrwng corph Oliver Cwrwmwel!
Fe ddarfu i 'r ange i daro i lawr,
reolwr mawr o ryfel.

Ffwl
A fu farw y Prottector

[td. 55]
Ffwl

yn jâch bregeth mewn esgybor?
Mi dafla fy llyfre i ficcer y plwy;
ni phoenai mwy yn ei hagor.

Huson
Ond rhyfedd ag ystowtiad fydde
yn rheoli ei wyr a 'i arfe.
Pa fodd y dichon ange gwan - pa
fentro dan ei gledde?

Hamp
Fo fwried o 'i lawr yn un llam;
mae 'n ddrwg i holl Gomitti Gwrexam.
Awn i 'w gladdu; ni welir dridie
un wên lawen ar y [~ fy] ngene.

Ffwl
Mae 'n chwith jawn gan ine amdano;
mi gymrwn ychydig ag ochneidio.

Exit oll.

Enter Hwsmon a 'r Cabelir P. Moris.
Oes neb a bryn nag ôg nag ared [~ aradr],
jau na thîd, rhaw na hatched?
Mi gymres ormod y boen yn methu;
nid ai i lafurio tir ond hyny.
Er ys ugain mlynedd rydwi yn poeni,
a 'r sawdwyr segur sy 'n gwresogi,
mynd a 'm gwair a mynd a 'm hŷd,
a 'm harian i gŷd yn drethi;
dwyn yr wŷn a 'r mynnod,
y gwydde a 'r jeir a 'r clomennod [~ colomennod].
Nid allai fagu dim ond chwain
oddi gerth brain neu lugod.
Gwaetha dim sy 'n torri y [~ fy] nghalon
eisio cael ei galw yn lladron
plundrio a dwŷn fy holl dda 'n glîn
oer ddiwedd i 'r Jddewon!
Er pan rhyw beth a 'r Protector

[td. 56]
Hwsmon

nid oes arnynt hwy mor ordor
o ffydd i ffydd yn gwau trwy ei gilydd
yn dweyd yn deg a thyngu celwydd.
Mab Crwmwel sy dda ei gydwybod;
mae fo ar swydd yn ymwrthod.
Pe cae fo i wllys, fe roe i goron
yn wir cofus i 'r aer cyfion.
Y rwan un Hasrig a Fflittwd
ag un Lambart gefell gofrwd
ydyw fo 'n erbyn Rwmp o Lundain.

Cabelir
Mi glywais ei fod gan Bresbiteriain.

Hwsm
Os dechre Mwngc a 'i armi daro,
mina fentrwn gyd ag efo.
Hai how, Wyddelod a Chymru,
gwell i ni 'n lladd yn lân na nychu.
Mi a fine o nerth y [~ y] nhraed tuag adre
i chwilio 'r clawdd a 'm cledde.

Cabelir
Aros, aros, cymer gwmni;
mi ddôf fine gyda thydi.

Exit y 2.
Enter y 2 Fflitwd.
Fy ffrind Hasrig, rwy mewn trymder.
Hasrig.
Fy ffrind Fflittwd, beth iw 'r matter?

Fflittw
Rwy 'n ofni mae gwell a fase i ni
gadw Lambert gyda nyni
rhag ofn bod General Mwngc mewn males;
pwy wyr pa feddwl sy 'n i fynwes?

Hasrig
Os oes ond hynny, byddwn lawen.
Gadewch iddo ddwad i Lunden.
Oni wneiff o 'r peth a fynwn,
mewn cur chwerwedd ni a 'i carcharwn.

[td. 57]
Enter Mwngc.
Fflittwd a Hasarig, aedwyr penna,
chychwi ei deuwedd a gyfarcha.

Fflittwd
General Mwngc, a ddarfu i chwi flino?
I Citti Lundain mae i chwi groeso.

Mwngc
Mi drafaelias yma attoch
i edrych pa ddiffyg a fu arnoch.
Mi glywais eich bod chwi heb jawn gyttuno;
yn gandryll jawn pwy all ych coelio?

Fflittw
A sefwch i gyd'a nyni yn jawn-wych
i chwilio 'r deyrnas yn gadarn-wych?
Dywedwch eich meddwl i ni 'n rhydd,
pa ffordd i 'r ffydd sŷ genych?

Mwngc
Dirgelwch gwr ydyw [celu ei] [~ ] feddwl.
Mi ddyweda i chwi beth, ni ddweydai mo 'r cwbbwl.
Pa'r ymrafel sydd yn Llundain
rhyngoch chwi a 'r Presbitterian?

Hasrig
Gwyr North Cymru oedd yn gweinio;
yng-Haer [~ yng Nghaer] y byont hwy 'n rubelio.
Os sefwch chwithe gyda nyni,
ni wnawn ein rhann am guro y rheini.
Mae prentisiad Llundain hefyd
a haeddent gosbedigaeth waedlyd.
Mae nhw yn ymgodi yn gyttun
ag yn an ufudd yn ein herbyn.

Mwng
Ffri Parliament i yn gynta
i ddadwreiddio 'r anwiredda.
Nes cael gwybod ar bwy mae 'r beie,
mi a 'ch carchara chwi a nhwythe.

[td. 58]
Mwngc
Yr ydwi yn comittio Fflittwd a Hasarig
ac yn comittio pob ffenattig
ag yn ufuddhau i bob gofernor
a fy 'n rhwyda 'r hên Brottector.
Pob gofernor, pob capteiniad a phob offis
dan y Rwmp sy 'n byw 'n gariss.
Gildio, rhoddwch i lawr eich arfe
ag ewch yn fuan i 'ch trigfanne.

Enter Ffwl.
Mr Mwngc, Duw a 'ch cattwo;
myfi yn gynta sydd yn ildio.
Mi flinais yn plundrio gyd'a Rowndied;
i rydwi 'n leiccio troi fy siecced.

Mwngc
Mae i tti groeso. Glŷn yn ei harfe
a dyro y gwyr gerfydd ei sodle.

Ffwl
Fflittwd a Hasrig, y ddau rebel,
seccuttorion Oliver Crwmwel,
dowch yn fuan gyda mi
i ofun mersi i 'r marsiel.

Exit y 3.

Mwngc
Gwrandewch drwy 'r deyrnas, bonedd a gwerin!
I riwlio 'ch bonedd chwi gewch ych Brenin.
Myfi sy 'n ei ddethol a Duw sy 'n ei mddiffin [~ amddiffin]
ag yn ei blannu lle 'r oedd yr hên wreiddin.
Charles; Charles a fydd reolwr,
aer y goron, wiw-lan gongcweriwr.
Ni chewch i weled mwy o 'r trattur
o hên dreftadaeth Owen Tudur.

[Exit Mwngc].

Enter 4
1 Fflitwd a
2 Hasarig a
3 Hamper a
4 Huson.

Fflitwd
Ffei, ffei, ni aethon yn ffylied;
Mwngc a 'n tywyllodd o flaen ein llyged.

[td. 59]
Ei ollwng a wnaethon i dre Lundain
a rhoi iddo ein harfe i 'n lladd ein hunain.
Och, na chawson dirion derfyn
cyn clywed proclaimio 'r Brenin!
Llawenach a fase gan y [~ fy] nghalon
fy mrathu a chledde dan y [~ fy] nwy fron.

Hasrig
Gwaeth na dim mae 'r Cabeliers
gwedi myned yn ffri howlders,
uwch ein penne ni yn 'swagrio
a nine tan ei traed ar syrthio.
Ffei, ffei ini fod mor feddal!
Ffei, o lid am fedru ymddial,
am na basem ni yn ei fwrdrio,
pan oedd dialedd dan ein dwylo.
Diymadferth iawn a fuom nine
a digoel jawn a digalonne
am golli 'r trefydd mawr a 'r cestyll
ni lesen o 'i hanfodd fyth mo 'i henyll.

Hamper
Roeddem ni ei gyd wedi diffrwytho;
roedd rhyw beth yn dal ein dwylo.
Er maint ein serch i golli ein gwaed,
nid alle ein traed symudo.

Fflittwd
Er bod ympiniwn yn ein penne,
ni fedrwn droi mo 'n tafode,
nag i ddywedyd gair i 'n safio,
pan ddaeth y matter i 'n comuttio.

Hasrig
Na ymrowch i farw cyn eich condemio.
Mae geni newydd i 'ch confforddio;
rhag colli ych parch a 'ch uchel râdd,

[td. 60]
Hasrig

ni ymrown i ymladd etto.
Nyni a 'scrifennwn lythyr
drwy dir Brydain att ein brodur.
Ni ddown fel eirth ei gyd ar unwaith
i 'w mwrdrio yn ei gwlaŷ [~ gwelyau] ryw noswaith.

Huson
Hynny a wnawn a byddwn barrod.
Ni fynwn bowdwr gwyn ryw ddiwrnod,
ag a ymladdwn yn ddisŵn
yn waeth na 'r cŵn cynddeiriogod.

Enter Ffwl.
Ai yma 'r ydych i gyd yn plottio?
Ewch att y marsiel, rwy 'n rhybiddio.

Fflittwd
Pam y rhaid i ti ein cyhyddo?
Nyni a 'th gododd di i falchio.

Ffwl
Mi a 'ch gadawaf i chwithe, y gwyr bonddigion,
pan ddarffo i 'r coedydd dyfu digon.

Huson a Hamper yn cychwyn ymaith.

Ffwl
Arhoswch yma etto!
Mae geni awdurdod i 'ch disbandio.
Moeswch arfe, ladron breision!

Hasarig
Cymer iti ynhŵ; yn boeth a bothon.

Rhoi 'r arfe i lawr.
Pa beth a gawn ni i 'n maentaenio
gan fod y matter i 'n comuttio?

Ffwl
Dydd a nôs, hai, dos di
o nerth dy wythi i weithio.

Huson
Os rhaid i ni sydd wedi pesgi
deithio a gweithio o nerth y gwythi
ymado a 'r bir a 'r cwrw croyw-deg,
yr ydwi yn ofni y tawdd y [~ fy] mloneg.

Ffwl
Mi a 'th wele [~ welaf] di wedi casglu braster,
yn din dew jawn ag yn dender

[td. 61]
Ffwl
ag yn barod jawn i 'r hatched
a fynd di nôl y gigydd attad?

Hampr
Nid wy abl byth i weithio;
nid all y [~ fy] nghefn i mo 'r ystwytho.

Ffwl
Ow, paham iw hynny 'n rhodd?
Ai pawl a dyfodd drwŷddo?

Hamper
Wrth gael cymaint o seguryd,
mi ollyngais dros gô fy 'nghelfyddyd.
Nid oes geni ond gweddio;
bid byan yr êl hi yn rhyfel etto.

Ffwl
Ofer iti roi dy weddi;
dysg wers arall rhag dy grogi.

Hamp
Nis gwn i ple ar ddeu pen daiar
i gadewais i fy hampar.

Ffwl
Di a 'i gadewaist hi yn Llandderfel,
yngwystl cwrw wrth fynd i rhyfel.

Huson
Pe cawn i fenthyg manawed,
mi awn i drwsio sodle 'r merched.
Os medrai ddim o 'r hên gelfyddyd,
mi ai i chwilio am hemp i wneythr pwyntryd.

Ffwl
Ni chei di hempen yleni,
pe rhoi [~ rhoddet] ti aur amdani.
Nid ei i goblerieth i blygu garra
nes darfod naw mis y cebysta.

Huson
Gofyn i Fwngc a gawn i fynd tano;
ni drown yn Gabeliers etto.

Ffwl
Ffwrdd, ffwrdd a chwi ffalswyr!
Ni wnewch fyth wasan'eth cywir.

[td. 62]
Huson
Awn, ni chawn mo 'r aros yma.

Ffwl
Gwared ohonoch gore pan [~ po 'n] bella.

Hamp
Awn, ni chawn ddim o 'r croeso
ffordd y bŷon gynt yn cwarttio
am ein castie pam y cawn
och Huw, i ble 'r awn heno?

Ffwl
Canlynwch eich trwyn tua 'r Nordd
i dreio 'r drâtt i sbeilio pen ffordd.

Huson
Am ein bod ni cŷd yn y sbeilio,
mi ro i ti fflagen wrth ymado.

Hamp
Mi ddo gyda thi yn y man
i geisio rhan ohono.

Exit ôll.
Enter 2 Mwngc.
Fy Mrenin Charles o reiol waed cyfan,
mae 'n groeso wrthych i' ch eiddo eich hunan,
a dilynwch eich jawn ffŷdd
ag impiwch newydd winllan!
a Brenin.
I chwi rwy' yn rhwymedig,
fy amddiffynwr Mwngc garedig.
Mi alla eich cyfri yn ddiwâd
yn anwyl dad nodedig.

Mwngc
Gwyr gonest y deyrnas, bonedd a gwerin,
ufuddhewch, chwi gewch eich Brenin
i gael troi 'r ffanattig ymaeth
a raglyniodd y gelyniaeth.

Brenin
Chwi wyddoch y cam a wnaethont a myfi,
dwyn y teyrnasoedd a 'r cwbl oedd geni.
Hynny oedd yn peri i chwi gael pwŷs
a 'ch llwytho yn ddwŷs a threthi.
Nid wy 'n 'wllysio cosbi undyn
a fy 'n ymladd yn fy erbyn,

[td. 63]
Brenin
ond dial ar y rhai a dore heb derfysc

Mwng
Chwi ddywedasoch wreiddin fy meddwl:
y nhw a haeddant anferth drwbl,
y cigyddion a wnaeth gam;
can ddiodde am y cwbl.
Mi ddaethim unwaith etto i Lundain
lle bym a 'm llywydd yn byw 'n llawen.
Gwae fi; gwae hwythe dreigie drygfodd
pen grynion dwysion a 'i diosodd.

Enter Frenhines.

Mwngc
Yr Urddas Frenhines Mari,
mae 'n groeso wrthych i Lundan Citti.
Chwi ellwch bellach ddydd a nôs
yn ddiofal aros ynddi.

Brenin
Chwi, General Mwngc gywirlan,
i mae i mi ddiolch am y cyfan.
Chwi godasoch ar ei draed
o reiol waed y rwan.

Frenhines
Fy mab, fy mab, na byddwch ry feddal!
Nid ellwch i fod un awr yn ddiofal
nes ichwi grogi yr holl dratturied
a fu i 'ch erlyd mewn caethiwed.

Brenin
Rhaid i mi fod yn drugaroccach
a chymryd y matter yn arafach
nes i 'r Parliament yn gyfion
farnu 'r drwg a chadw 'r gwirion.

[td. 64]

Ffwl
Oes yma neb yn ofni y Rowndied?
Doed i 'r tir gole, dim hwy nag ymguddied!
Mae 'r Cabelir yn mynd yn frâs
drwy jawn wych urddas chwardded!
A welodd neb yr Justus Brodsa?
A fu'o er ystalwm ddim fordd [~ ffordd] yma?
Gwr synhwyrol jawn oedd hwnw;
fo fu farw ddoe rhag ei grogi heddyw.
Chwi gewch yr un fath ar gyfreithie
ag oedd yn amser eich hen dade
a 'ch teidie wnae gadw diwrnod gwyl.
Wel dyna 'r gorchwyl gore:
rhag ofn penyd nid eill undyn
o fewn y deyrnas fyned ar'nyn.
Pan edrychwi ar ei thegwedd,
mi glywa sŵn y gynffon senedd.
Pob un sy 'n caru hawddgarwch
yn well na 'r trwst na 'r tristwch,
gan fod ein Brenin yn ein brô
fe ddarfu cwyno. Cenwch!

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section