Exit Brenin.
Frenhine[s]
Ffarwel! Trwy jechyd etto yn llawen
ei deloch eilwaith yn eich ôl
mewn braint yn ol i Lundain.
[td. 16]
Frenhines
Ni wn i yn y byd i ba le 'r a fine
rhag ofn syrthio yn ei rhwyde.
I mae nhw yn wastad drwy ei hûd
yn gosod glûd a 'i magle.
Enter y Forwyn.
Dowch i ffordd i 'r wlâd i dario
i blâs rhyw jarll lle i caffon groeso
tan obeithio troi o rhôd
ar hyn o gafod heibio.
Enter y Ffwl.
Diengwch, diengwch, y Frenhines!
Amdanoch chwi ymofyn a glywes.
Frenhine
Awn i ffordd mewn dillad gwael
rhag iddynt gael ein hanes.
Exit y 3.
Enter Pedler.
Wel dyma le
trefnus: mi osoda yma
siop;
mi a 'i llenwa hi a lliain yn llawn hyd y top.
Colere; sidane; a 'm creie [~ careiau] fydd crair!
Ni welwn i hauach siop ffeindiach mewn ffair.
Enter Cobler.
Mi a wele yma gornel odiaeth
i mi osod sett o cobleriaeth.
Mi a gâf weithan dy gwmni di
yn hawddgar i gwmnhiaeth.
Pedler
A brynwch i 'r bechgin ddim pine a nydwydde [~ nodwyddau],
o fesul y dwsin y cardia na 'r disie?
Mi a wele yma lawer dŷn:
oes neb a brynn rybanne?
Cobler
Oes neb a fyn waltysu ei esgidie?
Am ychydig o arian ceiff wniad o 'r gore!
Gwell i chwi dalu am drwsio 'ch clô
nag anrheithio ych sane [~ hosanau].
Da i medrai drwsio sodle merched,
[td. 17]
Cobler
a fydd yn pwyso ar i wared.
Rwy 'n gystal cobler amser hâ
a wniodd a mynawed.
Enter Brwx.
Sawdwr dan jarll Esex ydyw [~ ydwyf],
Lifftenant Genaral Brwx iw fy enw.
Oes yma neb a gymer fenter
i ddwad gyda myfi yn soldier?
Ceiff swllt yn y dydd a ffriquarters
am ddwad i blundrio y Cabaliers!
Cobler
Myfi a fentra yn ddigon talwych;
i blundrio yn chwanog rwy fi 'n chwenych.
Brwx
Os ymleddi yn sownd, ti gei jawn swŷdd
a dwyn yr wŷdd a fynych.
Pedler
Mine a fentre yn 'wllysgar
ei grogi iddo a êl i gario hamper.
Ymladd rwy fi yrjoed am sodle
a brith gonfeio fforio ffeirie.
Brwx
Dowch att y gwŷr i 'r gwndwn.
Cobler
Ewch ymlaen, ni a 'ch canlynwn.
Exit y 3.
Enter y Genaral Jarad.
Myfi a elwir Genaral Jarad.
Mae f' armi yn drefnus ar fy ôl i 'n dywad.
Rhaid i mi yma foreu a nôs
gwrtrio tros yr holl-wlad.
Mae 'n Brenin Jarls pur o galon
yn dwad i 'm cyfarfod a gwyr ddigon
i fynd y foru i Edgus-hul
ynghweryl yr Aur Goron.
Exit.
Enter y Ffwl.
Cyddiwch y pethe! Mae 'r ddwy armi yn dwad.
[td. 18]
ag yn dwyn cyffyle 'r holl-wlad.
Nhw ddygant y cloff wedi torri ei glŷn
ar llegis heb un llygad.
Mae 'nh [~ nhw] yn plundrio gwydde a defed,
ag yn dwyn morwyndod merched.
Ni adawsont un o Ddofr i Gaergybi
o fewn y deyrnas heb fynd arni.
Jarad
Oes llawer o wŷr gyd a 'r Brenin?
Ffwl
Mae 'r holl bur ddeiliad yn ei ddilin;
mae 'r Prins Morus, chwi adwaenoch hwnw,
y Cornol Robins a 'r Cornol marw
a Syr Williams ag armi grê.
Nhw losgant Dre Caer Loyw.
Jarad
Oes yma neb ymysc y gwerin
o gywir fron a garo ei Frenin?
Od oes, doed mewn gwrol gariad
i 'w amddiffyn rhag y Rowndiad.
Ffwl
Myfi a fentra, os mentra undyn.
Rwy cyn wllted [~ wyllted] a 'r aderyn.
O nerth y mrauch [~ mraich] a 'r cledde hwn
mi a gurra grwn ei goryn.
Jarad
Rwyt ti yn rhagorol ar dy dafod.
Dwad i mi dy henw hynod.
Ffwl
Nis gwni mo 'm henw, mi a 'i gollynges o yn ango.
Ni ddaw cô geni mo 'm bedyddio.
Cilsix y gelwid fy 'nghledde:
mi a leddais chwech ar bymp o ddyrnodie.
Ni wŷr un dyn a 'r sydd yn fyw
mor wchio [~ wychion] yw fy mreichie.
Jarad
Tyrd i 'r maes, mentra yn hoyw.
[td. 19]
Jarad
Capten Cilsix y cei dy alw.
Mi wele 'r Brenin, rwy 'n ei adnabod,
yn dwad a 'i filwyr i 'n cyfarfod.
Enter y Brenin a Moris.
Brenin
Ydech chwi yn barod, fy neiliad ffyddlon,
i ymladd gyd a 'r ffydd a 'r goron?
Morus
Jarad
Brenin
Hwdiwch gomisiwn: tynwch ych cledde!
Prins Morus
Ple cowsoch chwi 'r capten yma?
Mae fo 'n wr sownd, mi a 'i gwranta.
Jarad
Ni chais ef ond ei hûn i 'w ganmol:
fe laddodd chwech o wŷr cyneddfol.
Ffwl
Cru [~ cryf] iw f' mrauch [~ mraich] ac awchlym iw fy nghledde.
Ni fedrwch chwi handlio mo 'ch cledde!
Edrychwch arnai yn dysgu ymffensio,
onide chwi gewch ych curro.
Oni wnewch i fel hyn, ni thâl i chwi ddraen:
cilio yn eich ôl a neidio yn eich blaen.
Cychwnwch tuag yma, ewch tu a thraw,
edrychwch ar ei draed a threwch ar i law.
Myfi ymladda 'n ddigon chwanog
a 'm rhaw, a 'm pigfforch, a 'm caib, a 'm battog.
Mi a 'i bratha nhw a 'r mynawydydd a gwiall [~ gwëyll] gwau.
Ffwrdd, Rowndied dauwynebog!
Enter y Cobler a 'r ysbeier.
Cobler a 'r Ysbeier
Cenad ym ni, sydd yn trafaelio
oddiwrth jarll Esex i 'ch sialensio.
Pa un a wnewch i: ai gildio, dywedwch,
ai dwad i faes, os lafeswch?
P Moris
Nyni a ymladdwn gyd a 'r efengil
a chyda 'r holl d'wysogawl [~ dywysogol] eppil.
[td. 20]
Cobler, Ysbeier
Gyda 'r Parliament nine a fentrwn.
Y foru y bore ni a 'ch cyfarfyddwn.
P Moris
Pam y rwyt i gwedi synnu?
Ffwl
Oni ddarfu hwn accw fy llugaid tynnu?
Och, na fawn i ymôl [~ ym mol] hên fuwch
neu yngwaelod lluwch yn llechu!
Jarad
Nid rhaid it ofni mo 'r gwasanaeth,
a thithe yn llâdd chwe gŵr ar unwaeth.
Ffwl
Nid chwe gŵr ond chwe gwybedyn
oedd yn sefyll ar fiswelyn;
a chwedi i mi dorri clŷn [~ clun] y seithfed
fo amcanodd dynu un o 'm llyged.
A gai sefyll yn ola
fel y gallwi ddiangc yn gynta?
Jarad
Tyn dy gledde a chwad [~ chwyd] dy glôs!
Fulen, dôs ymlaena!
Enter Brwx, Esex, cobler, pedler.
Esex
Rhowch dân arnynt! Cyrwch, cyrwch!
P Moris
Dowch, y ngwŷr ine, attynt, gollyngwch!
Ffwl
Ai dyma 'r parch sydd ar Gris'nogion?
Peidiwch, na chanlynwch, fulens, fel y gelynion!
Gwyn ei fyd a gae le i ffô
i bylle glô Rhiwabon.
Syrthio i lawr yn farw.
Jarad
Ple mae 'r Prins Rubert lân galonog?
Enter Rubert.
Dyma fi 'n dwad, ymleddwch yn gefnog!
Esexqe
Nhw aethont yn rhy gru [~ gryf] i ni weithan.
Ymsifftiad pawb drosto ei hunan!
Exit Esexqe a 'i wŷr ôll.
Rubert
Siriwch, Frenin, byddwch lawen!
[td. 21]
Rubert
Nid â cyfiawnder i 'r ddaiaren.
Fe fy 'r diwrnod gyda ny'ni;
ni laddason beth aneiri.
Brenin
Mae hyn yn drwblaeth ar fy meddwl:
fe fy heb ddiben yn ddau ddwbwl;
er lladd llawer heddyw ar goedd
fy ngwŷr i oedd y cwbwl.
Dowch i 'r gariss i orphwyso.
Marchogwch yn suful, gwiliwch flino.
Exit oll ond y ffwl a 'r pedler.
Pedler yn chwilio 'r Ffŵl.
Mi a chwilia boccedau 'r bobl feirwon
ag a ddiosga ei dillad gwchion [~ gwychion].
Wel dyma glamp o gaptain glân:
caf aur ag arian ddigon!
Nid oedd gronun o dryssor gantho
ond dwy geniog a chettyn tobacco.
Hawddfyd i mi am ben crwn
ni fedrau hwn mo 'r plundrio.
Toro 'r ffŵl a 'r cledde, a 'r ffwl yn
codi.
Ffwl
Ai whŵ, lleidr, ai wchŵ!
A 'sbeili di ddyn gwedi marw?
Gwilia rhag ofn fy yspryd i
dy daflu di i dorri dy wddw!
Pedler
Qwarters, qwarters, hwde fy nghledde!
Ffwl
Moes i mi fy arian, picciwr poccede!
Pedler
Hwde fy aur a 'm harian hefyd.
Ffwl
Diolch i mi am gael dy fywyd.
Pedler
Diolch ichwi, a Huw a 'th gattwo.
Exit pedler.
Ffwl
Dôs di nerth dy draed i blyndrio.
Pan ddarffo itti gasglu 'r gôd,
mi a ddôf i 'th gyfarfod etto.
[td. 22]
Ffwl
Ni welais ddyn mor llwfr yn unlle:
fi yn ei ofni fo ag ynte yn fy ofni ine.
Mi faswn yn diangc fel y cî
ped fasei 'n codi yr cledde.
Ond dedwydd a fy'm i gyne fentro
yn fy mraw cyn fy mrifo.
Ac os deil fy nghledde a 'm trex,
mi dala i Esex etto.
Enter Esex.
Weld dyma fi Esex yn dwad.
Ffwl
Nid ydwyf i yn codi amrant llygad.
Esex
Rwy ti yn un o 'r Cabeliers.
Gwna naill ai ymladd ai gofyn quarters!
Ffwl
Ych nawdd, y gwr bonheddig!
Na leddwch hên ddyn briwiedig.
Esex
Ai sawdwr a 'th saethoedd [~ saethodd] di drwy dy ben?
Ffwl
Nage, dwy lugoden Ffrengig.
Esex
Oni buost yn sawdwr dan y Brenin?
Ffwl
Do, o 'm hanfodd; ni ymleddais i un tippin.
Esex
Powlia dy ben a dôs yn Rowndied,
tyrd gyd'a myfi a thro dy sieccaed.
Ffwl
Mi dro fel y gwynt; os ca fi well cyflog,
mi a ladda fy mam am ddwy geniog.
Mi fentra wneud llawer o drix.
Oni chlywsoch chwi sôn am Gapten Cilsix?
Esex
Ai capten ydech chwi 'r pendefig?
Ffwl
Oni welsoch chwi fi yn Scotland enwog
yn gapten ar y Righment Garpiog?
[td. 23]
Ffwl
Mi a dynais yno ffrittog o ffrau.
Ni thalasoch imi etto am hynny mo 'm pau.
Esex
Ti gei dy bau; hwde swllt o ernest.
Ffwl
Croes yn y post eich bod yn wr gonest.
Enter Cobler.
Mae geni newydd i 'ch confforddio:
fe ddarfu i mi enill Brusto.
Am Gabeliers ni bydd mo 'r sôn;
nid rhaid mo 'i hunon heno.
Enter Pedler.
Nyni ein dau oedd wcha [~ wychaf] yn tarro.
Chwi addawsoch i ni swydd am
fentro.
Ni a gawson ag a roeson lawer brâth.
Nid oedd mo 'n bath am fwrdrio.
Esex
Am eich bod chwi mor ymladdgar,
di gei dy alw Capten Hampar,
a thithe yn Gapten, sâ n dy rŷch,
Huwson wŷch ymladdgar.
Dowch eich trioedd gyd a myfi
yn galonog ag yn lysti
y foru i ymladd; clôd a gawn;
yn ebrwydd ni awn i Nubri [~ Newbury].
Exit y 4.
Enter y Frenhines a 'i llawforwyn.
Ni bu erioed i wraig gymaint gorthrymder
nag sydd i mi Brenhines Loegr.
Gwell oedd i mi farw yn y man
na byw mewn an-esmwythder.
Ymado a 'r deyrnas hon sŷ chwithdod,
a 'm plant bychain, gormod pechod,
oddiwrth ei gilydd fel wŷn gwâr
yn myned âr ddisberod.
[td. 24]
Frenhines
Dros y dwr y mae 'n rhaid i mi fyned
rhag ofn syrthio dan draed bleiddied.
Och, na bawn o blith ei bâr
mewn gwely o ddaiar galed!
Ystyriwch, ystyriwch, wragedd a merched
a phob gŵr sydd yn fy 'nghlywed:
mae yn fy mynwes feddwl trwm,
ni bu 'rioed blwm cyn drymed.
Forwyn
Na byddwch rû brydd i dorri 'ch calon
dan obeithio gwell newyddion.
Parhau byth yn fawr i bai
ni ddichon rhai anghyfion.
Frenhines
Nid eill calon mor anrhugarog
a maint ei gofal fod mor gefnog.
Ffarwel i Lundain burlan bêr,
ffarwel i Loegr wresog!
Forwyn
Rwy mor brŷdd a chwithe
am fy nghariad sydd mewn arfe.
Os colli a wnaeth hwnw ei oes,
mi a golla fy einioes fine.
Och, na bawn i yn ei freichie
yn lle myn [~ mynd] i hyn o siwrne
yn ymwasgu a glân ei brŷd
a gwyn ei fyd a fydde.
Mae 'r gwŷr creulon drwg ei crefydd
wedi enill part mwya o 'r gwledydd.
Ffarwel i 'm Brenin! Ofni rwy
na welwn mwy mo 'n gilydd.
Exit y 2.
Enter y Capten Hamper a 'r Capten Huson.
Hamper
Rwy 'n wr bonheddig hawddgar
rhagor bod yn cario hampar,
[td. 25]
Hamper
yn cael fy nghyfarth gan bob corgi
a 'r plant yn taflu cerrig i mi.
Bym lawer gwaith yn lûb [~ wlyb] y nible [~ fy niblau],
yn sâl fy ffâr yn cerdded ffeirie.
Rhaid oedd gwneythr wyneb truan
a diolch am lastwr oer neu succan.
Nid rhyfedd i mi fod yn falch o 'm codiad.
I mae lasie ar fy 'nillad;
mi alla gymryd fy hunan heddyw
y cwrw a 'r cig a 'r peth a fynnw.
Huson
Rwy fine o 'm codiad yn balchio.
Edrychwch
wned [~ wyned] iw fy nwylo.
A welsoch chwi 'rjoed [~ erioed] wr mor syth?
Nid ai mwy byth i bwytho.
Peth llwyddiannus ydyw trawster
rhagor bod yn byw mewn prinder
wrth drin y cwyr a 'r lleder dû
a phawb yn cablu 'r cobler.
Rwan ni gawn y gwyr bon'ddigion [~ boneddigion]
ddydd a nos i ni yn weision,
a byd brâf i gasglu braster!
Na ddêl heddwch byth i Loegr!
Enter Hwsmon.
Gwae fine fyth, gwae fine!
A welsoch chwi ddim o 'r sawdwyr's yn un lle?
Fe ddarfu [~ ymaelyd]meulyd yn y ngêg [~ nghêg]
a dwyn y [~ fy] nghaseg inne.
Hampr
Pwy a chwrâdd [~ chwaraeodd] a chwi mor hager?
[td. 26]
Hwsmon
Rhai o wŷr y Capten Hamper.
Ond da y dyle hwnnw ei grogi
am gadw lladron yn ei gwmni?
Fe ddarfu i un o wŷr y Brenin
ddwyn y cyfrwy; fe aeth ynte a 'r pilin.
Nis gwn i pâ'r fodd yn y bŷd
yr â [~ af] ine a 'r ŷd i 'r felin.
O flaen y fattel fawr yn Nubri
dygason y cwbwl oll oedd genni;
dwŷn y forwyn — ond dyna fâr? —
a 'r ferch yn legar ladi;
dwyn y ddiod a 'r bwyd o 'r bwttri;
dwyn pais y wraig wedi mynd arni;
dwyn dillad y gwâs oddiwrth y gwely:
yn ei grŷs y mae o 'n dyrnu.
Hampar
Mae arnai eisio hettan finne:
cerdda di yn ben-noeth adre.
Hwsmon
Nad ewch a 'm hett i, y gwr bonheddig!
Gan ffrind gyne y cês ei benthig.
Rhag digio fy 'nghymydog, moeswch hi i mi;
myfi a roddaf i chwi galenig.
Hamper
Di a 'i cei hi yn ôl; moes i mi arian!
Hwsmon
Hwdiwch swllt o glempyn llydan.
Hamper
Hawdd i 'r call dwyllo 'r ynfyd:
mi âf a 'r swllt a 'r hettan hefyd.
Dôs di adre i drin dy
gattel;
di gest ddigon o gwrs rhyfel.
[td. 27]
Hwsmon
Ni lyfasai [~ lafasaf i] fyth fynd adre
wedi dwyn fy swllt a 'm hett ore.
Huson
Diang i ffordd a bydd fwŷn
rhag i mi ddwyn dy esgidie.
Hwsmon
Gwell i mi fynd adre 'n ben-noeth;
nid ai adre dridie 'n droed noeth.
Exit hwsmon.
Huson
Rwyt ti 'n gyfrwysach, gwn, o 'r haner
na myfi er maint fy nhrawster
i sbeilio pen ffordd neu fygwth gwrâch;
mi a 'th wele di yn lewach lawer.
Hamper
Ond ffein y medrais iddo brattio
nes cael ei arian yn y nwylo?
Dowch i rodio tu'a 'r bryn;
ni dwyllwn ryw un etto.
Exit y 2.
Enter Brenin, a Genaral Jarad, Prince Morys.
Morys
Wel, pa fŷd a gawn i bellach?
Jarad
Ny nhw sy 'n myn [~ mynd] yn gryfâch gryfach;
mynd yn wanach rydym nine,
waeth waeth bob dydd er's dyddie,
er darfod lladd Brwx ar wndwn
a throi Esex o 'i gomisiwn .
Mae rhai eraill gwaeth o 'r haner:
Syr William Brutwn, Syr William Walter.
Mae un a elwir Olifer Crwmel,
sydd yn bena yn riwlio rhyfel,
ac un Harison yn nesa atto
yn gwneythr mawr drais ag yn mwrdrio.
Fe ddarfu i Fferfflax ynte rowtio;
[td. 28]
Jarad
armi 'r Prince Rubert a 'i dinistrio.
Mae seets [~ sîj] wrth Gaer lleon gawr
a 'r sitti fawr ar glemio.
Brenin
Mae nhw wedi mynd yn gryfion.
Moeswch 'ch cyngor, filwyr gwchion [~ gwychion]:
tu'a pha le yr awn i yn gynta
i relivio rhai o 'r trefydd mwya?
P Moris
Mae digon o gryfdwr genym etto.
O dôs [~ Od oes] dim lwcc, scorn genym
gilio.
Nyni a ymladdwn am y bêl.
Mae Crwmel yn returio.
Nyni a fentrwn i faes Asbri,
un ai cael ein lladd ai colli.
Ag oddi yno ni awn yn union
i relivio gwŷr Caer lleon.
Trowch yn ôl, wŷr Bonddigion:
cymerwch galone, dyma 'r gelynion!
Enter Harison a Huson a Hamper, yn ymladd heb
ddweyd gair.
Criwch, criwch, ceisiwch becavi!
Huson
Dowch, Olifer Crwmel, trowch yn y mharti!
[Enter Olifer Crwmel.]
Olifer
Ymleddwch, ymleddwch, mae hi 'n mynd yn hwŷr.
Moris
Rhaid i ni ildio: fe a 'n lladded ni 'n llwŷr.
Gado y cleddyfe a diangc, ag exit Jarad a
Moris.
Olifer Crwm
Arnynt, canlynwch! Mi a 'i gwele nhw 'n ffô.
Deliwch y Brenin er dim ar a fô.
Exit oll.
Enter Ffwl.
Oes neb a bryn gleddyfe,
mynawydydd na nodwydde?
Ffwl yn codi y cleddyfe.
Ni bydd yn Lloegr nag ynghymru
mo 'r sôn am Gabelir ond hynny.
Diryfedd oedd i 'r Brenin golli
a maint o dwyll oedd yn ei armi,
yn ddauwynebog ag yn ffeilsion
[td. 29]
Ffwl
yn gwerthu am aur y trefi mawrion.
Mi werthais i lawer tre fy hunan,
yn brysur, heb achos, am bris bychan.
Ni cheisiais i ond gwerth grott o benwig
yn amheythyn am Dre' r Mwythig.
Mi âf a 'r cledde i Mr Crwmel
i ddangos mae fi a enillodd y fattel.
Walle [~ Efallai] y cai gan felldith ei fam
ryw beth am y trafel.
Exit ffwl.
Enter Moris.
I ba wlâd yr awn i weithan?
Yn Asbri ffight wan troed ni allan.
a Jarad.
Mae 'n ddrwg geni dros y Brenin,
fo drosedded yn ei erbyn.
Trwm i nghalon [~ fy nghalon], mi a gonffesia,
am y ferch a garai fwya.
Pe gallaswn fyned atti,
hi fase yn mentro gyd'a myfi.
Gwae fi nad allwn ar ei mwŷn
farw ar dwŷn amdani!
P Moris
Ai cariad a drû Ryfelwr?
Mentrwch i ffordd, gariadus filwr.
Waeth [~ Fe aeth] y Brenin tu'a Scotland;
nine yn hwylus awn i Holand.
Exit y 2.
Enter Huson, Crwmel, Hamper.
Huson
Ny ni nillasson gestyll Cymru.
Oes dim o 'r gwaith genych ond hynu [~ hynny]?
O Gabelir ni adawson i
mewn dichell heb i bradychu.
Crwmel
Os ewch i ymladd etto i 'r Werddon,
chwi gewch aur ag arian ddigon;
[td. 30]
ag yno fyth y cewch chwi fod
yn lle 'r Gwyddelod gwlldion.
Huson
Am aur ag arian nyni a ymladdwn,
ag yn ei tai a 'i tir ni dariwn;
tyny cleddyfe yn y dydd
o achos ffydd ni phoenwn.
Enter Scot.
Pa ryw newydd, noble Crwmel?
Crwmel
Dim ond darfod cwrs y rhyfel.
Myfi sy 'n raenio gyd a 'm soldiers;
fe dored gwres y Cabeliers.
Ai gyd'a chwi 'r Scotiaid dichlyn
y mae Jarls, hwn oedd yn frenin?
Scot
Yno y daeth pan drodd y rhôd
i ochel y gafod ddychryn.
Crwmwel
Chwi gewch gyweth a 'ch bodlono.
Gadewch i mi gael gafel ynddo.
Scot
Dan amod i chwi roi iddo bardwn
ag aur i nine faint a fynwn
y rwan yn eich dwylo chwi
yn onest ni a 'i dilifrwn.
Crwme
Wel dyna ben, dowch ag efo.
Scot
Rhaid bod a 'r Brenin yn barod i 'w roi.
Crwm
Ewch ag efo, Huson hawddgar,
i garis Brwx [~ Carisbrooke] Castl; rhowch o 'ngharchar.
Myfi sydd heddyw yn uwch na neb
a 'r sydd ar wyneb daiar.
Enter Ffwl.
Ai ffair sy yma? Pwy sy 'n prynu?
Pa beth yr ydech yn ei werthu?
[td. 31]
Scot
Mi wn pa beth a ddaw o 'r Deyrnas:
myfi a werthais y Brenin Charlas.
Ffwl
Mi wn na cherddi gam yn rhwydd.
Ail iw dy swydd i Suddas.
Crwm
Ni gawson y Brenin dan ein dwylo;
pa beth weithan a wnawn iddo?
Huson
Pa beth a wnawn ond gwasgu 'r feg
a rhoddi deuddeg arno?
Crwm
Nyni ddechreuwn gadw sesiwn;