Adran o’r blaen
Previous section


Mi ofynnais a oedd neb Crist'nogion prysur yn
cyfaneddu yno, a 'r wraig y gofynnais iddi a 'm hattebodd
ei fod; ac a ddywedodd ymhellach ei bod
hi yn un. Da iawn oedd gennyf ei chlywed hi yn
dywedyd hynny. Mi debygswn y gall'swn [~ gallaswn ] roddi
iddi fy holl galon: yr oedd hi yn cadw tŷ tafarn.
Mi roddais iddi gadw yr holl arian ag nad oedd

[td. 29]
arnaf eu heisiau yn bresennol, fel yr oeddwn I yn
tybiaid eu bod yn fwy sicr gyd â hi. Pum gini ar
hugain oedd gennyf, ond mi ddymunais arni roddi
chwech ohonynt allan yn y ffordd fwya manteisiol,
i brynu crysau, hat [~ het ] ac angenrheidiau eraill i mi.
Mi wnes iddi anrheg o ddrych (looking glass) mawr
hyfryd ag a ddygais gyd â mi o Martinico, tu ag at
ei gwobrwyo hi am y trwbl a rois arni. Rhaid i mi
wneud cyfiawnder â 'r fenyw hon i addef iddi osod
allan ychydig bach at fy achos, ond y pedwar gini
ar bymtheg a rhan o 'r chwech, ynghyd â fy watch,
ni's rhoddai yn ol, ond a wadodd na's rhoddais I
mohonynt iddi.

Mi ddeallais yn fuan i mi ddyfod i blith pobl
ddrwg, y rhai a 'm twyllasant I o 'm harian a 'm watch;
a bod yr holl happusrwydd ag oeddwn yn addo i mi
fy hun wedi gwywo; ac nad oedd gennyf un cyfaill
ond Duw, ac arno ef yr oeddwn yn taer weddio.
Prin y gallaswn gredu fod yn bosibl bod y lle ag y
bu cynnifer o Grist'nogion rhagorol yn byw ac yn
pregethu mor llawn o ddrygioni a thwyll. Mi feddyliais
ei fod yn waeth nâ Sodom, wrth ystyried y
manteision mawrion ag oedd e' wedi ei gael; mi a
lefais fel plentyn a hynny bron o hyd: ac o 'r diwedd
Duw a wrandawodd fy ngweddiau, ac a gyfododd
gyfaill i mi yn wir.

Y dafarn-wraig hon oedd â brawd iddi yn Portsmouth-common,
a 'i wraig ef oedd fenyw bur brysur.
Pan clywodd hi am y driniaeth a gyfarfum I ag ef,
hi ddaeth ac a chwiliodd i 'm sefyllfa gywir, ac a flinodd
yn fawr am y driniaeth ddrwg a gefais, ac a 'm
cymmerodd i adre i 'w thŷ ei hun. Mi ddechreuais
yn awr â llawenhau, a 'm gweddi a drowyd yn glodforedd.
Hi wnaeth ddefnydd o bob rhesymmau yn
ei gallu i berswadio honno ag a wnaeth gam â mi i
roi yn ol y watch a 'r arian, ond nid oedd y cwbl
ond ofer, gan nad oedd hi wedi rhoddi i mi un receit,
ac nid oedd gennyf finnau ddim i ddangos am
danynt, felly ni's gallwn eu gofyn. Anfoddlon

[td. 30]
iawn oedd y wraig dda gymmwynasgar yma iddi,
a hi wnaeth iddi roddi yn ol bedwar gini, y rhai
oedd hi yn dywedyd ei bod yn eu rhoi i mi o wir
elusen: er mai fy eiddo fy hun oedd mewn gwirionedd,
a llawer rhagor. Hi fuasai yn arferyd rhyw
foddion mwy garw i wneud iddi roi i fynu fy arian,
ond ni's goddefwn iddi. Gadewch iddynt fyned,
meddwn I, mae fy Nuw yn y nef. Trwy 'r holl
amser nid oeddwn yn meddwl un gronyn am fy
ngholled; yr hyn oll oedd yn fy ngofidio oedd, i
mi gael fy siommi wrth geisio ffeindio rhai ffryns
Crist'nogol, gyd â pha rai yr oeddwn yn gobeithio
mwynhau ychydig o gymdeithas gysurus a melus.

Mi feddyliais mai 'r ffordd orau i mi gymmeryd
yn awr oedd myned i Lundain, ac i ffeindio allan
Mr. Whitefield, yr hwn oedd yr unig un ag oeddwn
yn adnabod yn Lloegr, a dymuno arno i 'm cyfarwyddo
I i ryw ffordd neu gilydd i ennill fy mywioliaeth
heb bwyso ar un dyn byw. Mi genais
ffarwel i 'm ffryns Crist'nogol yn Portsmouth, ac a
aethum yn y stage coach i Lundain. Crefftwr anrhydeddus
o 'r ddinas, yr hwn aeth gyd â mi i fynu,
a gynnygodd ddangos y ffordd i mi i dabernacl Mr.
Whitefield. Gan wybod fy mod yn alltud perffaith
mi dybiais hyn yn fwyn iawn ynddo, ac mi dderbyniais
ei gynnyg; ond fe wnaeth i mi roddi hanner
coron am fyned gyd â mi, ac eilwaith wnaeth i mi
roddi iddo bum swllt yn rhagor am fy arwain i dŷ
cyfarfod Dr. Gifford.

Mi ddechreuais erbyn hyn i dderbyn meddyliau
pur wahanol am drigolion Lloegr oddi wrth yr hyn
a feddyliais amdanynt cyn dyfod i 'w plith. — Fe
dderbyniodd Mr. Whitefield fi yn garedig, da iawn
oedd ganddo fy ngweled, ac fe 'm cyfarwyddodd i
le addas i lettya yn Petticoat-lane, hyd onis gallai
feddwl am ryw ffordd i 'm settlo I ynddi, ac a dalodd
am fy lletty a phob traul. Y borau ar ol i mi ddyfod
i 'm lletty newydd, fel yr oeddwn yn brecffasta [~ brecwasta ]
gyd â gwraig y tŷ, mi glywn drwst gwŷdd uwch fy

[td. 31]
mhen: mi ofynnais pa beth ydoedd; hi 'm hattebodd
mai un oedd yn gwau sidan ydoedd. Mi ddangosais
chwant mawr arnaf ei gweled, ac a ofynnais
os gallwn wneud hynny: hi ddywedodd y deuai hi
i fynu gyd â mi, a 'i bod hi yn sicr y cawn groesaw.
Hi fu cystal â 'i gair, ac mor gynted ag yr aethom i
mewn i 'r gwŷdd-dŷ, y ferch ag oedd yn gwau a
edrychodd o ddautu, ac a wenodd arnom, ac mi a 'i
cerais hi o 'r funud honno allan. Hi ofynnodd i mi
amryw gwestiynau, a minnau yn fy nhro a chwedleuais
lawer â hithau. Mi ffeindiais ei bod hi yn aelod
o gynnulleidfa Mr Allen, ac mi ddechreuais fagu
barn dda amdani, er bod arnaf bron ofn maethrin
[~ meithrin ] y farn dda hon, rhag iddi droi allan fel y lleill o
rhai a gyfarfum I yn Portsmouth, &c. a 'r hyn a fu
bron fy nodi i gasàu pob menyw wen. Ond ar ol
ychydig gyfeillgarwch mi ffeindiais er fy hapusrwydd
ei bod hi yn wahanol iawn, ac yn bur syml; ac
nid oeddwn heb obaith ei bod hi yn llettua [~ lletya ] rhyw
faint o barch i mi. Ni a aethom yn fynych gyd â
eu gilydd i wrando Dr. Gifford; ac fel yr oedd gennyf
fi yn wastadol dueddiad i gynnorthwyo pob
gwrthddrych [~ gwrthrych ] o drueni, mor belled ag oedd yn fy
ngallu, arfer yr oeddwn i roi i bob un ag fyddai yn
achwyn wrthyf, weithiau hanner gini ar unwaith,
fel nad oeddwn yn cwbl ddeall y gwerth ohono.
Y ferch rasol dda hon a gymmerodd boen mawr i 'm
diwygio a 'm cynghori yn y peth hyn, ac amryw
bethau eraill.

Ar ol i mi aros yn Llundain o ddautu chwech
wythnos, fe 'm dygwyd i ŵydd rhai o gydnabyddiaeth
Mr. Ffreelandhouse, y rhai a 'i clywodd ef yn
fynych yn llafaru amdanaf fi. Hwy fynnent fy
nghymmell i fyned i Holand. Fy meistr oedd yn
byw yno cyn iddo fy mhwrcasu I, ac arfer ydoedd o
chwedleua amdanaf mor barchedig rhwng ei gyfeillion
yno, fel yr ennynnodd efe chwant ynddynt
i fy ngweled; yn enwedigol gweinidogion yr efengyl,
y rhai oedd yn datguddio chwant i glywed fy

[td. 32]
mhrofiadau a fy holi. Mi ddeallais mai bwriad fy
hen feistr da oedd i mi fyned gyd ag ef yno pe buasai
efe yn byw; ar ba reswm mi resolfais fyned
i Holand; a hynny a fanegais i 'm parchedig gyfaill
Mr. Whitefield; croes iawn oedd ef i mi fyned ar y
cyntaf, ond ar ol i mi fanegu iddo fy rhesymmau,
fe ymddangosodd yn bur foddlon. Mi fanegais i 'm
Betti (y ferch dda a enwais uchod) o 'm penderfyniad
i fyned i Holand, ac mi ddywedais wrthi fy mod
yn credu mai hi fyddai fy ngwraig I: ac os ewyllys
yr Arglwydd a fyddai, mai hynny oedd fy nymuniad,
ac nid heblaw hynny. Ni's gwnaeth hi nemawr
o attebion i mi, ond hi ddywedodd wedi hynny na's
meddyliodd hi ddim felly y pryd hynny.

Mi aethum i long yn Tower-wharff am bedwar
o 'r gloch y borau, ac a ddaethum i mewn i Amsterdam
drannoeth am dri o 'r gloch brydnhawn. Yr
oedd gennyf lawer o lythyrau canmoliaeth at gyfeillion
fy hen feistr, y rhai a 'm derbyniasant I yn
roesawus. Yn wir un o 'r gweinidogion pennaf fu
yn neilltuol dda i mi; fe 'm cadwodd I yn ei dŷ tros
hir amser, ac a gymmerodd bleser mawr i ofyn
cwestiynau i mi, y rhai a attebais innau gyd â phleser,
gan fy mod yn wastadol yn barod i ddweud,
Deuwch attaf fi y rhai oll a ofnwch Dduw, a mynegaf yr hyn a wnaeth ef i'm henaid
. Ni's gallaf lai
nâ rhyfeddu camrau rhagluniaeth, a synnu i mi gael
fy ngwared mor rhyfeddol! Er fy mod yn ŵyr i
frenhin, bu arnaf eisiau bara, a buasai dda gennyf
gael y grofen galettaf ag a welais I erioed. Myfi
yr hwn oeddwn gartref wedi fy amgylchu â chaethweision,
fel na's gallai neb dynion o isel-radd ddyfod
yn agos attaf, ac wedi 'm gwisgo ag aur, yn cael
yn anrhugarog fy mygwth â marwolaeth; ac yn fynych
mewn eisiau dillad i 'm amddiffyn rhag creulondeb
y tywydd; etto erioed ni's tychanais [~ tuchanais ], ac ni
bues anfoddlon. Boddlon wyf, a chwant sydd arnaf
i gael fy nghyfrif fel dim, yn alltud yn y byd, ac
yn bererin yma; Canys mi wn fod fy Mhrynwr yn

[td. 33]
fyw
, a diolchgar wyf am bob treial a thrallod ag a
gyfarfum â hwynt, am nad wyf ddim heb obaith
nad y'nt [~ ŷnt ] oll wedi eu sancteiddio i mi.

Y gweinidogion Calfinistiaidd a ddymunasant
glywed fy mhrofiadau gennyf fy hun, yr hyn oeddwn
i yn foddlon iawn i 'w wneuthur; felly mi safais
ger bron deunaw ar hugain o weinidogion bob dydd
Iau tros saith wythnos gyd â 'u gilydd, a hwy oll a
gawsant eu boddloni yn fawr, a hwy a gredasant fy
mod yr hyn ag oeddwn yn gymmeryd arnaf fy
mod. Hwy a 'sgrifenasant [~ ysgrifenasant ] i lawr fy mhrofiadau I
fel yr oeddwn yn eu llafaru; a Duw Hollalluog
oedd gyd â mi y pryd hynny mewn modd hynod,
ac a roddodd i mi eiriau i 'w hatteb hwynt; mor
fawr oedd ei drugaredd ef i 'm cymmeryd I genedl
ddyn tlawd a dall yn ei law.

Y pryd hyn marsiandwr cyfoethog o Amsterdam
a gynnygodd i 'm cymmeryd I i 'w deulu mewn dull
o fwtler, a minnau yn ewyllysgar a dderbyniais y
cynnyg. Gwr bonheddig teilwng a grasol ydoedd,
a da iawn fu wrthyf fi. Fe 'm cymmerodd yn fwy
fel cyfaill nag fel gwas. Mi arosais yno flwyddyn,
ond nid oeddwn yn hollol foddlon, eisiau oedd arnaf
gael gweled fy ngwraig (yr hon sydd felly yn awr)
ac am y rheswm hynny mi chwennychais ddychwelyd
i Loegr: mi 'sgrifenais [~ ysgrifennais ] atti un waith yn fy absennoldeb,
ond ni's attebodd hi mo 'm llythyr, a
rhaid i mi addef pe buasai, fe fuasai gennyf waeth
barn amdani. Fy meistr a fy meistres a fynnent fy
mherswadio I i beidio a 'u gadael hwy, a 'u dau fab
hefyd, y rhai oedd â meddyliau da amdanaf fi; a
phe buaswn yn ffeindio fod fy Metti wedi priodi ar
fy nyfodiad i Loegr, mi fuaswn yn dychwelyd attynt
yn fuan drachefn.

Fy meistres a gynnygodd i mi briodi ei morwyn
hi; merch ieuangc hyfryd ydoedd hi, ac wedi troi
heibio swm fawr o arian, ond ni's gallwn I ei charu
er ei bod hi yn foddlon i 'm cymmeryd; mi ddywedais
bod fy nhueddiad wedi ymrwymo yn Lloegr,

[td. 34]
ac na's gallwn feddwl am neb arall. Ar fy nychweliad
adre, mi gefais fy Metti heb ymrwymo i neb.
Hi wrthododd amryw gynnygion yn fy absennoldeb,
ac a ddywedodd wrth ei chwaer ei bod yn meddwl
os priodai hi fyth, mai fi fyddai ei gwr hi.

Yn fuan ar ol dyfod adre, mi aethum at Dr.
Gifford, yr hwn a 'm cymmerodd I i 'w deulu, ac a
fu dda iawn wrthyf. Caracter y pendefig teilwng
duwiol hwn sydd hyspys; ni fydd fy nghlod I iddo
o ddim defnydd. Yr wyf yn gobeithio y caf byth
gofio yn ddiolchgar am yr holl gymmwynason a
dderbyniais ar ei law ef. Yn fuan ar ol i mi ddyfod
at Dr. Gifford mi fanegais bod gennyf ddymuniad
i 'm derbyn i 'w eglwys ef, ac eistedd i lawr gyd â
hwynt; hwy ddywedasant bod yn rhaid i mi gael
fy medyddio yn gyntaf; felly mi roddais i mewn
fy mhrofiadau o flaen yr eglwys, â pha rai yr oeddent
yn hollol foddlon; ac fe 'm bedyddiwyd gan Dr.
Gifford gyd â rhai eraill. Mi wnes y pryd hynny
yn gydnabyddus iddynt fy mwriad o briodi; ond
mi ffeindiais fod amryw wrthddadleuon yn ei erbyn,
am fod yr un y rhoddais fy serch arni yn dlawd.
Gwraig weddw ydoedd hi, a 'i gwr a 'i gadawodd hi
mewn dyled, ac yn feichiog, felly yr oeddent yn
fy mherswadio I i beidio a 'i phriodi, o wir barch i
mi. Ond yr oeddwn wedi addo, ac mi resolfais ei
chymmeryd hi; fel yr oeddwn I yn gwybod mai
menyw rasol ydoedd hi, nid oedd ei thlodi yn un
gwrthddadl i mi, gan nad oedd ganddynt un peth
arall i ddywedyd yn ei herbyn. Pan darfu i 'm cyfeillion
ddeall na's gallent newid fy marn ym mherthynas
iddi, hwy 'sgrifenasant [~ ysgrifenasant ] at Mr. Allen, y gweinidog
ag yr oedd hi yn ei gynnulleidfa, i 'w pherswadio
hi i 'm gadael I; ond fe attebodd na wnai ef
ddim yn yr achos, gwnaem ni y peth a fynnem.
Mi resolfais i ychydig ddyled fy ngwraig gael eu talu
cyn i ni briodi; fel darfu im' werthu bron pob peth
ag a feddwn, a chyd â 'r holl arian ellais godi a gliriais
y cyfan o 'i gofynion; ac ni wnes ddim gyd â

[td. 35]
mwy o foddlondeb yn fy holl fywyd, canys mi a
gredais yn gadarn y byddem yn ddedwydd iawn gyd
â 'n gilydd, ac felly y bu, canys hi a roddwyd i mi
gan yr Arglwydd: ac mi a 'i ffeindiais hi yn gymmar
fendigedig, ac nid edifarhausom ni byth, er ini
fyned trwy lawer o drallodion mawrion ac anhawsderau.


Fy ngwraig oedd yn ennill llawer o 'i bywioliaeth
wrth wau, ac yn dyfod i ben yn rhagorol dda; ond
yn yr amser hynny yr oedd terfysg mawr ymhlith y
gwehyddion; fel yr oedd ofn arnaf i adael fy ngwraig
i weithio, rhag ofn iddynt wasgu arnaf i gynnorthwyo
y terfysgwyr, yr hyn na's gallaswn feddwl am
dano, ac f'allai [~ feallai ], pe na's gwnaethaswn y buasent yn
fy nharo I yn fy mhen. Felly fel trwy hyn ni's
gallasai fy ngwraig gael dim gwaith, ac nid oedd
gennyf finnau ddigon i gynnal fy nheulu. Ni buom
flwyddyn etto yn briod cyn i 'r holl aflwyddiant
hyn i 'n cyfarfod.

Yn gymmwys ar yr amser hwn, gwr bonheddig
ag oedd yn ymddangos ei fod yn gofidio drosom,
a 'm cynghorodd I i fyned gyd ag ef i Essex, ac a
addawodd i mi gael gwaith. Mi dderbyniais ei
gynnyg caruaidd ef, ac fe ddywedodd wrth gyfaill
iddo o Gwacer, gwr o feddiannau mawr, ag oedd
yn cyfaneddu ychydig ffordd oddi wrth dref Colchester
; ei enw ef oedd Handbarar; fe barodd i 'w
oruchwiliwr i roi gwaith i mi. Yr oedd amrywiol
wedi cael gwasanaeth yn yr un gwaith a minnau.
Yr oeddwn I yn ddiolchgar iawn, ac yn foddlon er
nad oedd fy nghyflog ond bychan. Nid oeddid yn
rhoi i mi ond wyth ceiniog y dydd ar fy mwyd fy
hun. Ond ar ol im' fod yn y sefyllfa hon tros bythefnos,
fy meistr gafodd glywed fod dyn du yn ei
waith ef, chwant ddaeth arno fy ngweled. Fe
welodd fod yn dda i chwedleua â mi tros ychydig,
ac yna fe ofynnodd pa gyflog oedd i mi; pan dywedais,
fe ddywedodd ei bod yn rhy fach, ac yn
uniawn fe barodd i 'w oruchwiliwr roddi i mi ddeunaw

[td. 36]
ceiniog y dydd, yr hyn a roddwyd i mi wedi
hyn o hyd; ac yna mi ddes i ben yn rhagorol.

Ni's daethum â 'm gwraig gyd â mi; mi ddaethum
ar y cyntaf fy hunan, a 'm hamcan I oedd os
troi pethau allan yn ol fy ewyllys i ddanfon am
dani. Yr oeddwn yn awr yn meddwl dymuno arni
ddyfod attaf, pan dderbyniais lythyr i 'm gwneud yn
gydnabyddus ei bod wedi ei dwyn i 'w gwely, a 'i bod
mewn eisiau o amryw angenrheidiau. Y newydd
hyn oedd dreial trwm i mi ac yn gystudd newydd;
ond fy Nuw, yr hwn sy 'n ffyddlon ac yn gyflawn
o drugaredd, ni wrthododd mohonof yn y cystudd
hwn. Fel na's gallaswn ddarllain Saesoneg, gorfu
arnaf ddymuno ar ryw un i ddarllain y llythyr a
dderbyniais am fy ngwraig. Fe 'm cyfarwyddwyd
gan ragluniaeth dda yr Arglwydd i fyned at wr
bonheddig teilwng o Gwacer, a ffrynd i fy meistr.
Mi ddymunais arno gymmeryd y poen o ddarllain
fy llythyr i mi, yr hyn a wnaeth efe yn union, yr
hwn a 'i cynhyrfodd ef cymmaint, fel ag y dywedodd
y gwnai gasgliad i mi, yr hyn a wnaeth, ag fu un
o 'r rhai cyntaf a daflodd atto. Yr arian a ddanfonwyd
y prydnhawn hwnnw i Lundain gyd ag un a
ddigwyddodd fod yn myned yno. Nid hyn yn unig
oedd y cymmwynason a brofais ar ddwylo y gwyr
caredig hwn, canys, mor gynted ag y daeth fy
ngwraig i godi, ac i allael trafeulu [~ trafaelu ], hwy a ddanfonasant
amdani attaf fi, ac a fuant yn yr holl draul
o 'r dyfodiad: mor eglur oedd cariad a thrugaredd
Duw yn ymddangos trwy bob trallod ag a ddarfu i
mi erioed ei brofi. Ni dreuliasom yr haf yn gysurus
iawn; ni fuom byw mewn bwth bychan yn agos
i dŷ Mr. Handbarar; ond pan daeth y gauaf gorfu
arnaf fyned ymaith am nad oedd ganddo waith i mi
ymhellach. Ac yn awr hi ddechreuodd dywyllu
arnom drachefn. Ni feddyliasom fod yn well i ni
symmud ein hannedd ychydig yn nes i 'r dre, fel yr
oedd y tŷ yr oeddem byw ynddo yn oer iawn, yn
wlyb, ac yn barod i gwympo lawr.


[td. 37]
Anherfynol ddaioni Duw i mi fu mor fawr fel yr
wyf yn dymuno gyd â 'r diolchgarwch mwya gostyngedig
i daflu fy hun i lawr o 'i flaen ef; canys mi
gefais fy nal i fynu yn rhyfeddol ymhob [~ ym mhob ] cystudd.
Ni adawodd fy Nuw mohonof. Mi gefais weled
goleuni o hyd trwy 'r tywyllwch mwya dudew.

Fy ngwraig anwyl a minnau yn awr oeddem yn
ddiwaith. Nid allem gael dim i wneuthur. Y
gaiaf aeth yn llym iawn; a ninnau aethom i 'r cyfyngderau
mwya ellid ddychymmyg. Ni fynnwn
mewn un modd yn y byd geisio dim: ni's gallwn
fegian; ac nid oeddwn yn dewis gwneuthur fy angenrheidiau
yn gydnabyddus i un dyn, rhag ofn eu
tramgwyddo, fel yr oeddem ni yn hollol ddieithr:
ond y briwsionyn diweddaf o fara oedd wedi darfod,
a gorfu arnaf finnau feddwl am ryw beth i 'w wneuthur
at ein bywioliaeth. Nid oeddwn yn gofalu
dim oll amdanaf fy hunan; ond gweld fy ngwraig
anwyl a 'm plant mewn eisiau oedd yn fy nhrywanu
at fy nghalon. Mi feiais fy hun yn awr am ei
dwyn hi o Lundain, o ran diau pe buasem yn aros
yno ni fuasem yn ffeindio cyfeillion i 'n cadw rhag
newynu. Yr eira oedd y pryd hyn o ryfeddol drwch;
fel nad oeddem yn gweled un tebygoliaeth o i ni
gael ein cynnorthwyo. Yn y sefyllfa druenus hon,
heb wybod pa gamrau i ganlyn, mi resolfais wneud
fy nghyflwr yn adnabyddus i arddwr gwr bonheddig
ag oedd yn byw yn agos attom, ac i ddymuno arno
roddi i mi waith: ond pan daethum atto mi ddigalonnais,
a chywilydd oedd arnaf i wneud yn amlwg
iddo fy amgylchiad. Mi wnes orau ag allwn
i 'w berswadio ef i roddi i mi waith, ond nid i un
pwrpas: fe 'm sicrhaodd I nad oedd hynny yn ei allu
ef: ond yn gymmwys fel yr oeddwn yn myned
ymaith, fe ofynnodd i mi a gymmerwn ryw faint o
foron cochion (carrots) ganddo? mi a 'u derbyniais
hwy gyd â llawer o ddiolchgarwch, ac a 'u dygais
hwy adre'; fe roddodd i mi bedair, ac yr oeddent
yn fawrion ac yn dda. Nid oedd gyd â ni ddim i

[td. 38]
wneud tân, ac yn ganlynol ni's gallem eu berwi
hwynt, ond da oedd gennym eu cael hwy i 'w bwytta
heb eu berwi. Nid oedd ein plentyn ieuangaf
ond baban bychan iawn, fel gorfu ar fy ngwraig eu
cnoi hwy iddo, ac a 'i porthodd ef felly amryw
ddyddiau. Nid oeddem yn rhoi i ni ein hunain
ond un bob diwrnod, rhag iddynt ddarfod cyn i ni
gael rhyw beth arall i 'n cynnal. Anfoddlon oeddwn
i fwytta dim ohonynt fy hunan; ac ni's cymmerais
I ddim ohonynt y dydd olaf buom yn yr
amgylchiadau hyn, fel na's gallwn ddioddef meddwl
fod fy ngwraig anwyl a 'm plant mewn eisiau o un
moddion at eu cynhaliaeth. Ni fuom byw yn y
dull hyn nes oedd y moron cochion wedi darfod:
yna fy ngwraig a ddechreuodd alaru am y babanod
gwirion: ond yr oeddwn I yn ei chysuro hi hyd
eithaf ag allwn; o hyd yn gobeithio, ac yn credu
na's gadawai Duw i ni farw: ond y gwelai efe fod
yn dda i 'n cynnorthwyo, yr hyn a wnaeth ef bron
trwy wyrthiau.

Ni aethom i 'n gwely fel arferol, cyn ei bod hi
yn hollol dywyll (am nad oedd gennym na thân na
chanhwyllau) ond ni buom yno yn hir nes i ryw
ddyn guro wrth y drws a gofyn a oedd James Albert
yn byw yno? mi attebais ei fod, ac mi godais yn
union; mor gynted ag yr agorais y drws mi ffeindiais
mai gwas ydoedd i gyfreithiwr mawr ag oedd yn
byw yn Colchester. Fe ofynnodd i mi pa ddull yr
oedd hi gyd â mi? a oeddwn I ddim ymron newynu?
mi dorrais allan mewn wylofain, ac a ddywedais
fy mod I yn wir. Fe ddywedodd fod ei
feistr yn tybiaid felly, a bod arno eisiau chwedleua â
mi, a bod yn rhaid i mi fyned gyd ag ef. Enw y
gwr bonheddig hwn oedd Daniel, a Christion cywir
ydoedd efe. Yr oedd efe yn arferol o sefyll a
chwedleua â mi yn fynych pan oeddwn yn gweithio
ar y ffordd dros Mr. Handbarar, ac fe fuasai yn
rhoi gwaith i mi ei hunan pe buasai arnaf eisiau
gwaith. Pan daethum i 'w dŷ ef dywedodd wrthyf

[td. 39]
iddo feddwl llawer iawn amdanaf yn ddiweddar, a 'i
fod yn ofni fy mod mewn eisiau, ac na's gallasai fod
yn esmwyth nes ymofyn am fy helynt. Mi wnes
yn adnabyddus iddo fy nghyfyngder, yr hyn a effeithiodd
yn rhyfeddol arno; ac yn ewyllysgar a
roddodd i mi gini; ac a addawodd fod yn drugarog
i mi yr amser oedd yn ol. Ni's gallwn lai nâ llefain
allan O anherfynol drugareddau 'r Arglwydd! mi
waeddais arno ac fe 'm gwrandawodd; mi ymddiriedais
ynddo, ac efe a 'm cadwodd I:
pa le y dechreuaf
ei glodfori, neu pa fodd y caraf ef yn ddigon?

Mi aethum yn union ac a brynais beth bara a
chaws, a glo, ac a 'u dygais hwynt adref. Llawen
oedd gan fy ngwraig anwyl fy ngweled I yn dychwelyd
 â rhyw beth gennyf i 'w fwytta. Hi gododd
i fynu 'n union ac a driniodd ein babanod, tra fum i
yn gwneuthur tân, ac ni's gwnaeth pendefigion pennaf
y deyrnas erioed wledd mwy cysurus. Ni's
darfu i ni anghofio diolch i Dduw am ei holl ddoniau
i ni
. Yn fuan ar ol hyn, pan daeth y gwanwyn
ymlaen, Mr. Peter Daniel a roddodd i mi waith i 'w
gynnorthwyo ef i dynnu tŷ i lawr, a 'i adeiladu ef
drachefn. Yr oedd gennyf y pryd hyn waith da
iawn, a digon ohono: fe ddanfonodd am fy ngwraig
â 'm plant i Colchester, ac a barottodd i ni dŷ lle buom
byw yn gysurus iawn. Yr wyf yn gobeithio y
bydd i mi yn ddiolchgar addef ei gymmwynasgarwch
i mi a 'm teulu. Mi weithiais wrth ei dŷ ef fwy nâ
blwyddyn, hyd nes gorphennwyd; ac ar ol hynny
mi gefais waith gan amryw ol yn ol, ac nid oeddwn
fyth mor ddedwydd a phryd yr oedd gennyf ryw
beth i 'w wneuthur; ond wrth weled y gauaf yn
agoshau, a bod gwaith yn hytrach yn brin, mi ofnais
y byddem drachefn mewn eisiau, neu fod yn
bwys ar rai o 'n cyfeillion.

Fe roddwyd cynnyg i mi yn awr o fyned i Norwich,
a chael gwaith bob amser. Fy ngwraig oedd
foddlon i 'r cynnyg, am ei bod yn meddwl y cai
waith yno yn y wehyddiaeth, am mai dyna 'r alwad

[td. 40]
y dygwyd hi i fynu iddi, ac yn fwy tebygol o lwyddo
yno nag un man arall; ac ni feddyliasom fel
yr oedd gennym gyfleustra i symmud i dref lle gallem
ein dauoedd [~ deuoedd ] gael gwaith, mai 'r ffordd orau oedd
gwneuthur hynny; ac f'allai [~ feallai ] gallem aros yno tros
ein bywyd. Pan darfu in' resolfo ar hyn, mi aethum
yn gyntaf fy hunan i weled pa fodd yr attebai;
yr hyn a edifarheais yn fawr o 'i blegid ar ol llaw;
canys nid oedd yn fy ngallu i ddanfon un cynnorthwy
yn union at fy ngwraig, o herwydd i mi
gwympo i ddwylaw meistr nad oedd nac yn fwyn
nac yn ystyriol; a hi a syrthiodd i galedi mawr, fel
gorfu arni werthu 'r ychydig feddiannau oedd gennym,
a phan danfonais amdani yr oedd hi tan yr
angenrheidrwydd anghysurus hynny o orfod gwerthu
ein gwely.

Pan y daeth fy ngwraig i Norwich, mi huriais
'stafell [~ ystafell ] â dodrefn ynddi. Mi brofais lawer iawn o
wahaniaeth yn ymddygiad fy meistr oddi wrth yr
hyn oeddwn arferol o gael gan fy meistri eraill. Yr
oedd ef yn anrheolaidd iawn yn ei daliadau i mi.
Fy ngwraig a huriodd wŷdd, ac a wauodd bob amser
ag byddai ganddi arfod, ac ni a ddechreuasom
wneud o 'r gorau, hyd onis darfu i ni gael ein gorddiwes
gan groes-ragluniaethau newyddion. Fe
gwympodd ein tri phlentyn yn glaf o 'r frech-wen;
hyn oedd dreial mawr i ni; ond fyth yr oeddwn yn
cael fy mherswadio ynnof fy hunan na's caem ein
gwrthod
. Ac mi wnaethum y cyfan yn fy ngallu i
ddal i fynu ysprydoedd fy nghymmar anwyl rhag
suddo. Ei holl waith hi oedd yn awr ynghylch y
plant, fel na's gallai hi ofalu am ddim arall, ac nid
oedd y cwbl ag allwn I ennill ond ychydig i gynnal
teulu yn y fath amgylchiad, heblaw talu am hur yr
ystafell, yr hyn oeddwn yn orfod peidio ei wneuthur
tros lawer o wythnosau: ond y wraig i ba un yr
oedd y dyled, ni fynnai ein hesgusodi, er i mi addo
y cai yr arian cyntaf ag allem ennill ar ol i 'r plant
wella, ond ni's digonai hyn hi, ond yr oedd mor

[td. 41]
greulon a 'n bygwth onis talem hi yn union y troi
hi ni allan i 'r heol. Y meddyliau o hyn oedd yn
fy suddo I i lawr i 'r cyfyngder mwyaf, wrth ystyried
sefyllfa fy mabanod truain; pe buasent yn iach ni
buasai ddim cymmaint gofid am y fath fisfortun.
Ond fy Nuw I, yr hwn sydd yn wastad yn ffyddlon
i 'w addewid, a gododd i mi gyfaill. Mr Henry
Gurdney
, cwacer, gwr bonheddig grasol a glywodd
am ein cyfyngder, fe ddanfonodd was iddo ei hun
at y wraig y rhentasom ni yr ystafell ganddi, ac efe
a dalodd ein rhent, a brynodd yr holl ddodrefn, gyd
â gwŷdd y wraig, ac a 'u rhoddodd hwynt oll i ni.
Rhai boneddigion eraill wedi clywed ei amcan ef a
welsant fod yn dda i 'w gynnorthwyo ef yn y gweithredoedd
hyn o drugaredd, am ba rai ni's gallwn fod
fyth yn ddigon diolchgar: ar ol hyn fy mhlant yn
fuan a godasant; ac yna ni wnaethom o 'r gorau drachefn:
fy anwyl wraig a weithiodd yn galed, ac yn
ddyfal pan y gallai hi gael gwaith, ond hyn oedd ar
sylfaen anwadal, fel yr oedd y gwaith mor gyfnewidiol,
rai prydiau ni's cai hi ddim i 'w wneuthur,
a phrydiau eraill pan cai gwehyddion Norwich orchymyn
o Lundain, fe fyddai y fath frys anghymhedrol
arnynt ag y byddai 'r gweithwyr yn gorfod
gweithio ar ddydd Sabbath; ond hyn ni's gwnai fy
ngwraig I fyth, ac yr oedd e 'n achos o ofid i ni na's
gallem gael ein bywioliaeth mewn dull rheolaidd;
er ein bod ein dauoedd [~ deuoedd ] yn ddiwyd, yn fanwl, ac
yn foddlon gweithio. Yr oeddwn I ymhell o fod
yn ddedwydd yn fy meistr, nid oedd efe yn delio a
mi yn dda; prin y gallaswn fyth gael fy arian
ganddo: ond mi barheais yn amyneddgar hyd nes
i Dduw weled bod yn dda i gyfnewid fy sefyllfa.

Fy anwyl ffrynd Mr. Gurdney a 'm cynghorodd
i 'r alwad o dorri gwellt, ac a brynodd i mi offeryn
at yr achos hynny. Nid oedd ond ychydig bobl yn
y dref ag oedd yn gwneud hyn yn waith iddynt ond
myfi; felly mi wnes yn rhagorol dda, ac ni ddaethom
i fod yn esmwyth ac yn ddedwydd. Ond ni

[td. 42]
buom yn hir yn y cyflwr dedwydd hwn: amrywiol
o 'r bobl o isel radd oedd yn genfigennus ac yn annaturiol,
ac a osodasant i fynu yr un gwaith, ac a
weithiasant tan bris, o ddiben i gael fy ngwaith I
oddi wrthyf; ac fe ddarfu iddynt lwyddo cystal fel
mai prin y gallwn I gael dim i 'w wneuthur, ac y
daethum drachefn yn aflwyddiannus: ac ni ddaeth
yr aflwyddiant hyn ei hunan, canys y pryd hyn ni
gollasom un o 'n merched bychain, yr hon fu farw
o dwymyn; yr amgylchiad hyn a barodd in' gystuddiau
newyddion, canys gweinidog y bedydd a
ommeddodd ei chladdu o ran nad oeddem ni yn
aelodau o 'u cynnulleidfa. Offeiriad y plwyf a ommeddodd
am na fedyddiwyd mohoni erioed. Mi
ddymunais ar y cwaceriaid, ond ni lwyddais; a
thyma [~ dyma ] un o 'r treialon mwyaf a gyfarfum â hwy erioed,
fel na's gwyddwn I pa beth i 'w wneuthur a 'n
baban tlawd. O 'r diwedd mi resolfais dorri bedd
yn yr ardd tu cefn i 'r tŷ, a 'i chladdu yno; pan
danfonodd offeiriad y plwyf amdanaf i ddywedyd
wrthyf y claddai efe fy mhlentyn, ond nad oedd efe
yn dewis darllain gwasanaeth y gladdedigaeth drosto.
Mi ddywedais wrtho nad oedd e' ddim gennyf fi pa
un ai gwnai ai peidio, gan nad oedd y plentyn yn
ei glywed.

Fe ddarfu i ni gyfarfod â llawer o ddrwg-driniaeth
gwedi hyn, ac a gawsom wybod ei bod hi yn anhawdd
iawn byw. Prin y caem waith i wneuthur,
a gorfu arnom wystlo ein dillad. Yr oeddem bron
a suddo tan ein cystuddiau. Pan gosodais I o flaen
fy ngwraig am fyned i Kidderminster i edrych a allem
fyw yno. Yr oedd ynof bob amser dueddiad at y
lle hwnnw, ac yn awr fwy nag erioed, am i mi
glywed Mr. Fawset yn cael ei enwi yn y dull mwya
parchedig, fel gwr bonheddig duwiol a theilwng, ac
mi welais ei enw ef mewn llyfr ag oedd anwyl gennyf,
sef Gorphwysfa dragwyddol y Seintiau, o waith
Mr. Baxter; ac fel yr oedd gweithiau yn Kidderminster
yn tebygu addo i fy ngwraig ryw faint o

[td. 43]
waith, hi gwympodd yn union i 'r un meddyliau
a mi.

Mi gadewais hi un waith yn rhagor, ac a osodais
allan i Kidderminster, i edrych a oedd y lle yn gyfleus
i ni. Mor gynted ag y daethum yno, mi
aethum yn union at Mr. Fawset, yr hwn a welodd
fod yn dda i 'm derbyn gyd â charedigrwydd, ac a 'm
danfonodd I at Mr. Watson, yr hwn a 'm rhoddodd
i gyhudo [~ gyhydo ] sidan ac wysted [~ wstid ] ynghyd. Mi arosais yma
o ddautu pythefnos, a phan y tybiais yr attebai ein
disgwyliad, mi aethum yn ol i Norwich, i ymofyn
fy ngwraig; yr oedd hi y pryd hyn yn agos i 'w
hamser i esgor, ac yn rhy anhwylus. Felly fe orfu
arnom aros hyd onis dygwyd hi i 'w gwely, ac mor
gynted ag y gallai hi drafaelu ni a ddaethom i Kidderminster,
ond ni ddygasom ni ddim gyd â ni, o
ran i ni orfod gwerthu 'r cwbl ag oedd gennym i dalu
ein dyled, a thraul fy ngwraig tra fu yn gorwedd i
mewn.

Y fath hyn yw ein hamgylchiad yn bresennol.
Mae fy ngwraig trwy weithio yn galed wrth y gwŷdd
yn gwneuthur pob peth ag ellir ddisgwyl oddi wrthi
tu ag at ein cynnal; ac y mae Duw yn gweled bod
yn dda i dueddu calonnau ei bobl ar rai amserau i
roi i ni gynnorthwy; am nad wyf fi fy hunan trwy
oedran a gwendid yn abl gwneuthur ond ychydig at
ein cynhaliaeth.

Fel pererinion, a phererinion tlodion iawn, yr
ydym yn trafaelu trwy lawer o anhawsderau tu a 'n
nefol artre, ac yn disgwyl yn amyneddgar am
ei alwad grasusol ef, pan bydd i 'r Arglwydd ein
gwared allan o ddrygau y byd presennol hwn, a 'n
dwyn i ogoniant tragywyddol y byd a ddaw.
Iddo EF bo gogoniant byth bythoedd, AMEN.

DIWEDd.

[Nodiadau gan yr awdur]
[Notes by the author]



* Barn gyffredin pobl Lloegr yw, bod trigolion
Affrica yn myned yn hollol heb ddillad; ond mae 'r farn
hon yn gyfeiliornus iawn: mae ganddynt fath o wisgad
ag sydd yn eu gwneud hwy i edrych yn addas, er
ei bod yn ysgafn ac yn denau iawn.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section