Adran o’r blaen
Previous section


Pan gadewais fy anwyl fam yr oedd gennyf lawer
iawn o aur o ddautu i mi, fel y mae arfer ein gwlad
ni, yr oedd wedi ei wneud yn fodrwyau, a rhai'n
wedi eu cysylltu un wrth y llall, a 'u gwneud yn
fath o wryd, ac felly wedi ei dodi o ddautu fy
ngwddf, fy mreichiau a 'm coesau, a darn fawr yn
hongian wrth un clust ymron yr un ddull â pheren.
Yr oeddwn yn teimlo hyn oll yn flinderus i mi ei
ddwyn, a da oedd gennyf i fy meistr newydd ei
gymmeryd oddi wrthyf. Yn awr fe 'm golchwyd,
ac a 'm gwisgwyd ar ol dull y Dutch neu 'r Saeson.
Fe dyfodd fy meistr mewn cariad mawr attaf, ac yr
oeddwn i yn ei garu yntef yn anghyffredin. Yr
oeddwn yn gwilied pob amnaid, a phob pryd yn
barod pan byddai arno fy eisiau, ac yn gwneud fy

[td. 14]
ngorau i wneud iddo wybod, trwy bob gweithred,
mai fy unig bleser oedd ei wasanaethu ef yn dda.
Mi feddyliais wedi hynny mai dyn da ydoedd ef:
yr oedd ei weithredoedd yn cyttuno o 'r gorau â 'r
fath garacter. Yr oedd arferol o ddarllain gweddiau
i wŷr y llong bob dydd Sabbath; a phan gyntaf y
gwelais i ef yn darllain, ni ryfeddais I gymmaint
erioed yn fy holl fywyd a phan gwelais y llyfr yn
chwedleua â fy meistr; canys mi feddyliais ei fod e'
felly, fel yr oeddwn I yn dal sulw arno ef yn edrych
ar y llyfr, ac yn chwarae ei wefusau. Mi ddymunais
iddo wneud felly â mi. Mor gynted ag y
darfu i fy meistr ddarfod darllain, mi a 'i canlynais
ef i 'r man y dodasai y llyfr, ac wedi ymbleseru yn
anrhaethol ynddo, a phan nad oedd neb yn fy
nghanfod, mi a 'i hagorais ac a roddais fy nghlust i
lawr arno, mewn mawr obaith y dywedai ryw beth
wrthyf fi; ond gofidus oeddwn, ac nid bychan y 'm
siommwyd pan deallais na's llafarai ddim; y meddwl
hyn a redodd i 'm cof yn uniawn, fod pob dyn a
phob peth yn fy niystyru I am fy mod yn ddu.

Yr oeddwn yn glaf iawn ar y cyntaf o glefyd y
môr; ond pan daethum i ymarfer â 'r môr, fe
dreuliodd ymaith. Llong fy meistr oedd yn rhwym
i Barbadoes. Pan daethom ni yno, fe dybiodd yn
orau i chwedleua amdanaf wrth amryw o bendefigion
o 'i gydnabyddiaeth, ac un ohonynt a ddangosodd
fawr ddymuniad i gael fy ngweled. Yr oedd
ganddo lawer o feddwl i 'm prynu; ond ni's gellsid
perswadio y Capten yn uniongyrch i ymadael â mi;
ond p'odd [~ pa fodd ] bynnag, gan fod y gwr bonheddig yn
awyddus ohonof, o 'r diwedd fe 'm gadawodd i fyned,
ac fe 'm gwerthwyd am hanner cant dollar,
hynny yw, un bunt ar ddeg a choron o arian Lloegr.
Enw fy meistr newydd oedd Fanhorn, gŵr bonheddig
ieuangc, a 'i artref yn Lloegr-newydd yn ninas
Iorc-newydd; i ba le y cymmerodd efe fi gyd ag ef.
Fe 'm gwisgodd I yn ei lifrau, ac a fu dda iawn
wrthyf. Fy ngwaith mwyaf oedd disgwyl ar y ford,

[td. 15]
a 'r tea, a glanhau cyllill, ac yr oedd gennyf le esmwyth;
ond y gwasanaethddynion oeddent arferol
o dyngu a rhegu yn ofnadwy; yr hyn a ddysgais I
yn gynt nâ dim arall, a thyma [~ dyma ] 'r Saesoneg cyntaf a
ddysgais agos. Os un ohonynt a 'm hanfoddlonai
I, sicr yw y byddwn i alw ar Dduw i 'w damnio hwy
yn union; ond fe 'm torrwyd oddi wrtho ar un waith,
trwy gerydd hen was du ag oedd yn byw yn yr un
teulu a mi. Un diwrnod yr oeddwn yn glanhau y
cyllill erbyn ciniaw, pan darfu i un o 'r morwynion
gymmeryd un ohonynt i dorri bara a 'menyn [~ ymenyn ] â hi;
mi ddigiais yn aruthr wrthi, ac a elwais ar Dduw
i 'w damnio hi; pan dywedodd y dyn du yma wrthyf
na ddylaswn lafaru felly. Mi ofynnais iddo p'am [~ paham ]?
Fe 'm hattebodd fod dyn drwg ag elwid y diafol, ag
oedd yn byw yn uffern, yn cymmeryd pawb ag oedd
yn dweud y geiriau hyn, ac yn eu rhoi hwy yn y
tân ac yn eu llosgi hwynt. Hyn a 'm dychrynodd I
yn ofnadwy, ac fe 'm torrodd I yn hollol oddi wrth
dyngu. Ymhen ychydig ar ol hyn, fel yr oeddwn
yn gosod y llestri china at yfed tea, daeth fy meistres
i 'r ystafell ar yr amser yr oedd y forwyn yn ei glanhau
hi; darfu i 'r ferch trwy anhap daenellu dwfr ar
wainstcot [~ wensgod ] y ffenestr; ar ba achos fy meistres a anfoddlonodd;
y ferch yn ynfyd iawn a 'i hattebodd
hi drachefn, yr hyn a 'i gwnaeth hi yn ddiccach, ac
a alwodd ar Dduw i 'w damnio hi. Mi ofidiais yn
fawr i glywaid [~ glywed ] hyn, fel ag yr oedd hi yn wraig fonheddig
ieuangc lân, ac yn dda iawn wrthyf fi, yn
gymmaint ag na allwn lai nâ dywedyd wrthi, Madam
, ebe fi, ni ddylech ddywedyd felly, Paham, ebe
hi? o ran fod dyn du, ebe fi, ag enwir diafol yn
cyfaneddu yn uffern, ac fe 'ch dyd chwi yn y tân,
ac fe 'ch llysg chwi, ac fe fydd ddrwg iawn gennyf fi
hynny. Pwy a ddywedodd hyn wrthych chwi, ebe
fy meistres? hen Ned, ebe finnau. Ni attebodd hi
ddim ond o 'r gorau; ond hi ddywedodd wrth fy
meistr am hyn; ac efe a barodd gylymmu hen Ned
i fynu a 'i chwippo, ac ni oddefwyd iddo byth mwy

[td. 16]
ddyfod i 'r gegin gyd â 'r lleill o 'r gwasanaethddynion.
Ni's digiodd fy meistres wrthyf fi, ond yn hytrach
a ymddigrifodd ar fy symlrwydd, ac mewn dull o
ddifyrru 'r amser, hi ail-adroddodd yr hyn a ddywedais
i amryw o 'i chyfneseifiaid ag a ddeuai i ymweled
a hi; ymhlith eraill Mr. Freelandhouse, gweinidog
yr Efengyl da iawn a graslawn a glywodd, ac
fe ddaliodd lawer o sulw arnaf, ac a ddymunodd ar
fy meistr i ymadael â mi iddo ef. Ni's mynnai
wrando ar hynny ar y cyntaf, ond yn ol gwasgu
llawer arno, fe 'm gadawodd i fyned, a rhoddodd
Mr. Freelandhouse hanner cant punt amdanaf. Fe
'm cymmerodd i dref gyd ag ef, ac a wnaeth i mi
benlinio lawr, a phlethu fy nwylo ynghyd, ac a
weddiodd trosof, a gwnaeth yr un peth bob nos a
borau. Yr oeddwn yn meddwl mai peth digrif
oedd hyn, ond yr oeddwn yn ei leico o 'r gorau.
Ar ol i mi aros ychydig amser gyd â fy meistr newydd,
mi ddaethum yn fwy cyfeillgar, ac a ofynais
iddo pa beth oedd ystyr gweddi: (prin y gallaswn
chwedleua Saesoneg fel y 'm deallid) fe gymmerodd
boen mawr gyd â mi, ac a wnaeth i mi ddeall ei
fod ef yn gweddio ar Dduw ag sydd yn byw yn y
nefoedd; ac mai efe oedd fy Nhad a fy Nghyfaill
gorau. Mi ddywedais wrtho mai camsynied oedd
hynny; fod fy nhad I yn byw yn Bournou, a chwant
mawr oedd arnaf ei weled ef, a hefyd fy anwyl fam
a fy chwaer, ac yr oeddwn yn dymuno arno fod
mor dda a 'm danfon I adref attynt hwy, ac mi ddywedais
y cwbl ag allwn feddwl amdano i 'w berswadio
ef i 'm danfon yn ol. Yr oeddwn yn ymddangos
mewn blinder mawr, a hyn a weithiodd
mor ddwfn ar fy meistr anwyl fel yr oedd y dagrau
yn rhedeg i lawr tros ei ruddiau. Fe ddywedodd
wrthyf mai Yspryd mawr a da oedd Duw, mai efe
a greodd yr holl fyd, a dyn a phob peth ag oedd
ynddo, yn Ethiopia, Affrica ac America, a phob
man. Da iawn oedd gennyf glywed hyn: Wele,
ebe fi, yr oeddwn yn wastadol yn meddwl felly pan

[td. 17]
oeddwn yn byw gartref! yn awr pe bai gennyf adenydd
megis eryr mi ehedwn i fanegu i fy anwyl
fam fod Duw yn fwy nâ 'r haul, y lloer, a 'r ser; ac
iddynt hwy gael eu gwneuthur ganddo ef.

Yr oedd yn hyfryd iawn gennyf gael y fath wybodaeth
a hon gan fy meistr, o ran ei bod hi yn
cyttuno cystal â 'm barn I: meddyliais yn awr pe
buaswn yn dychwelyd adre, fy mod yn gallach nâ 'm
holl gydwladwyr, fy nhaid, fy nhad, a mam, neu
pwy bynnag ohonynt: ond er fy mod wedi cael fy
ngoleuo ronyn trwy gyfarwyddiad fy meistr, etto
nid oedd gennyf un wybodaeth arall o Dduw, ond
mai Yspryd da ydoedd, ac iddo greu pob dyn, a
phob peth. Ni's teimlais I erioed ynof fy hun, ac
ni ddywedodd neb wrthyf, y byddai iddo gospi 'r
dynion drwg, a charu y cyfiawnion. Da oedd gennyf
yn unig i glywed fod Duw, am fy mod I yn
meddwl felly, yn wastadol.

Fy meistr anwyl caruaidd a wnaeth yn fawr iawn
ohonof, fel y gwnaeth ei Ladi ef hefyd; hi a 'm
dododd I yn yr ysgol, ond nid oedd hynny wrth fy
modd, ac ni fynnwn fyned; ond fy meistr a fy
meistres a ddymunodd arnaf yn y dull mwya addfwyn
i ddysgu, ac a 'm perswadiasant i ddilyn fy ysgol
heb anfoddlonrwydd; fel o 'r diwedd y daethum
i 'w charu yn well, ac a ddysgais ddarllain yn ganolig
dda. Dyn da oedd fy ysgol-feistr, a 'i enw ef oedd
Fanosdore, ac yr oedd yn dirion iawn i mi. Yr
oeddwn yn y cyflwr hwn, pan ar un dydd Sabbath
y clywais fy meistr yn pregethu ar y Dat. i. 7. Wele
y mae efe yn dyfod gyd a 'r cymmylau; a phob llygad
a 'i gwel ef, ie, y rhai a 'i gwanasant ef.
Y geiriau
gafodd effaith ryfeddol arnaf; yr oeddwn mewn
mawr gyfyngder am fy mod yn meddwl bod fy
meistr yn eu cyfarwyddo attaf fi yn unig; ac yr
oeddwn I yn dychymmygu ei fod ef yn dal sulw
arnaf fi gyd â difrifwch anghyffredin. Ac fe 'm cadarnhawyd
ragor yn y gred hyn wrth edrych o gylch
yr eglwys, a methu gweled un dyn heblaw fy hun

[td. 18]
yn y fath gystudd a thrwbwl meddwl ag oeddwn I
ynddo: mi ddechreuais feddwl fod fy meistr yn fy
nghasàu, a dymuno yr oeddwn i fyned adref i fy
ngwlad fy hun; canys mi feddyliais os Duw a
ddeuai, fel y dywedodd ef, diau y buasai yn fwya
digofus wrthyf fi, gan nas gwyddwn I pa beth oedd
efe, ac na's clywswn amdano o 'r blaen.

Mi aethum adref mewn mawr drallod, ond ni's
dywedais air wrth neb: yr oedd arnaf ryw faint o
ofn fy meistr; mi feddyliais ei fod yn fy nghasàu I.
Y tecst nesaf y clywais ef yn pregethu oddi wrtho
oedd Heb. xii. 14. Dilynwch heddwch â phawb, a
sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr
Arglwydd.
Fe bregethodd y gyfraith mor greulon
ag y gwnaeth i mi grynu. Fe ddywedodd y barnai
Duw yr holl fyd, Ethiopia, Asia, Affrica, a phob
man. Fe 'm blinwyd yn awr hyd yr eithaf, heb
allu dirnad pa beth i wneuthur; fel yr oedd gennyf
yn awr achos i gredu fod fy sefyllfa I cynddrwg i
fyned ag i aros. Mi gedwais y meddyliau hyn i mi
fy hun, ac ni's manegais hwy i un dyn pwy bynnag.

Mi fuaswn yn achwyn wrth fy meistres dda am y
trwbl meddwl mawr yma, ond hi fuasai yn go ddieithr
i mi amryw ddyddiau cyn i hyn ddigwydd, o
ran celwydd a ddywedpwyd arnaf gan un o 'r morwynion.
Yr holl wasanaeth-ddynion oedd yn
eiddigeddu ohonof, ac a genfigenasant y parch a 'r
cariad a ddangosid i mi gan fy meistr a meistres; a 'r
diafol yr hwn sydd bob pryd yn barod ac yn ddyfal
mewn drygioni, a annogodd y ferch hon i ddywedyd
celwydd arnaf. Hyn a ddigwyddodd yn y
cynhauaf [~ cynhaeaf ] gwair, canys ar ddiwrnod pan oeddwn yn
dadlwytho 'r waggen [~ wagen ] i ddodi 'r gwair yn yr ysgubor,
hi wiliodd am odfa yn fy absennoldeb i gymmeryd
pig y bigfforch o 'r côs [~ coes ], a 'i chuddio hi: pan y
daethum i drachefn at fy ngwaith, a methu ei chael
hi, fe 'm blinwyd yn ddirfawr, ond mi benderfynais
iddi gwympo yn rhyw le ymhlith y gwair; felly mi
aethum ac a brynais un arall a 'm harian fy hun:

[td. 19]
pan gwelodd y ferch fod gennyf un arall, hi fu mor
faleisus a dywedyd wrth fy meistres fy mod I yn anffyddlon
iawn, ac nid y fath un ag oedd hi yn fy
nghymmeryd I; a 'i bod hi yn gwybod i mi heb
gydseiniad fy meistr i fynnu llawer o bethau yn ei
enw ef ag oedd raid iddo ef dalu amdanynt; ac fel
prawf o 'm hesgeulusdra hi ddangosodd y pig ag a
gymmerodd hi allan o 'r côs [~ coes ], ac a ddywedodd iddi
ei chael hi tu allan i 'r drysau. Fy meistres heb wybod
y gwirionedd o 'r pethau hyn oedd ronyn yn oer
attaf fi hyd onis dywedodd wrthyf, ac yna yn union
mi lanheais fy hun, ac a 'i perswadiais hithau fod y
cyhuddiadau hyn yn anwireddus.

Mi barheais mewn cyflwr annedwydd iawn amryw
ddyddiau. Fy meistres dda a haerodd ar fynnu
gwybod pa beth oedd yr achos. Pan rhoddais iddi
wybod sefyllfa fy yspryd, hi roddodd i mi John Bunian
ar y Rhyfel ysprydol i 'w ddarllen; mi ffeindiais ei
brofiadau ef yn gyffelyb i fy rhai fy hun, yr hyn a
wnaeth i mi feddwl mai dyn drwg ydoedd ef; fel
yr oeddwn I wedi cael fy argyhoeddi o fy nattur
lygredig fy hun, a thruenusrwydd fy nghalon; ac
fel yr oedd ynte yn cyfaddef ei fod ef ei hun yn yr
un cyflwr, ni's profais un cysur oll wrth ddarllen ei
waith, ond yn y gwrthwyneb. Mi aethum â 'r llyfr
at fy meistres, ac a fanegais iddi nad oeddwn yn
leico oll mohono, ei fod yn perthyn i ddyn drwg
fel fy hun; ac nad oeddwn yn dewis ei ddarllen ef,
ac a ddymunais arni roddi i mi un arall, wedi ei
'sgrifennu [~ ysgrifennu ] gan well dyn, sef un ag oedd yn sanctaidd
heb bechod. Hi dystiodd i mi fod John Bunian yn
ddyn da, ond ni's gallai hi fy mherswadio I; mi
feddyliais ei fod ef yn rhy gyffelyb i mi fy hun i fod
yn ddyn cyfiawn, fel yr oedd ei brofiadau ef yn
ymddangos i atteb i fy rhai innau.

Yr wyf yn hollol wybodus na's gallasai dim ond
mawr allu ac anrhaethol drugareddau yr Arglwydd
i gysuro fy enaid tan y fath faich trwm ag oeddwn
y pryd hynny yn ei ddioddef. Rai diwrnodau wedi

[td. 20]
hyn rhoddodd fy meistr i mi Alwad yr annychweledig.
Nid oedd hwn un gronyn o gysur i mi drachefn;
ond ar y llaw arall fe barodd gymmaint o derfysg ag
a wnaeth y llall o 'r blaen, fel yr oedd yn galw pawb
at Grist; a minnau yn cael fy hun cynddrwg ac
mor druenus ag na's gallaswn ddyfod. Yr ystyriaethau
hyn a 'm taflodd i gystudd yspryd mawr na's
gellir ei ddisgrifio; gymmaint ag y darfu i mi gynnyg
gwneud diben arnaf fy hun. Mi gymmerais
gyllell fawr, ac a aethum i 'r stabal [~ ystabl ] gyd â bwriad i
ddinystrio fy hun; ac fel yr oeddwn yn cynnyg â fy
holl allu i wthio y gyllell i mewn i 'm hochr, hi
blygodd yn ddau. Fe 'm tarawyd mewn mynydyn
â dychryn wrth feddwl am fy myrbwylldra, a 'm
cydwybod a lafarodd wrthyf pe buaswn yn llwyddo
yn y cynnyg hwn y buaswn yn llwyr debygol o fyned
i uffern.

Ni's gallaswn ffeindio un esmwythâd, na 'r cysgod
lleiaf o gysur; cystudd dwfn fy yspryd a effeithiodd
gymmaint ar fy iechyd fel y parheais yn bur sael [~ sâl ] dri
diwrnod a thair nos, ac ni fynnwn arferyd dim
moddion at fy iachâd, er bod fy meistres yn bur
hawddgar, ac yn danfon amrywiol bethau i mi; ond
yr oeddwn yn gwrthod pob peth at adferu iechyd, a
dymuno yr oeddwn gael marw. Ni fynnwn fyned
i 'm gwely fy hun, ond mi orweddais yn y stabal [~ ystabl ] ar
wellt. Mi deimlais holl ddychrynfàu cydwybod
derfysglyd, mor galed i 'w dioddef, ac a welais holl
lid Duw yn barod i syrthio arnaf. Mi deimlais nad
oedd un ffordd i mi i gael fy ngwared heb ddyfod at
Grist, ac ni's gallwn ddyfod atto; meddyliais
fod yn amhosibl iddo dderbyn y fath bechadur a mi.

Y nos ddiweddaf yr arosais yn y lle hwn, ynghanol
fy nghyfyngder y geiriau hyn a ddygwyd adre
ar fy meddwl, Wele Oen Duw. Fe 'm cysurwyd
ronyn ar hyn, ac a ddechreuais esmwythàu a dymuno
gweled y dydd fel y gallwn ffeindio 'r geiriau
hyn yn fy Mibl. Mi godais yn foreu iawn y boreu
drannoeth, ac a aethum at fy ysgolfeistr Mr. Fanosdore,

[td. 21]
ac a gyfrennais amgylchiadau fy meddwl iddo;
a llawen iawn oedd ganddo glywed fy mod yn gofyn
y ffordd i Seion, ac a fendithiodd yr Arglwydd a
wnaeth mor rhyfeddol trosof fi ddyn gwael o 'r cenhedloedd.
Yr oeddwn yn fwy eon [~ eofn ] ar y pendefig da
hwn nâ fy meistr, nag un dyn arall, ac yn fwy
rhydd i chwedleua ag ef: fe 'm cefnogodd yn fawr,
ac a weddiodd gyd â mi yn fynych, ac yr oeddwn
bob amser yn cael adeiladaeth oddi wrth ei eiriau ef.

O ddautu cwarter milltir oddi wrth dŷ fy meistr
yr oedd derwen fawr anghyffredin hyfryd ynghanol
coedwig; yno yn fynych yr oeddwn I yn cael fy
ngosod i dorri lawr goed, (gwaith ag yr oeddwn yn
ymhyfrydu yn fawr ynddo) prin y methwn fyned
i 'r lle hwn bob dydd; rai prydiau ddwy waith yn y
dydd os gellid fy arbed. Y pleser mwya ag a feddwn
I oedd eistedd tan y dderwen hon; canys yma
yr arferwn dywallt fy holl achwynion o flaen yr Arglwydd:
ac mi arferwn pan byddai gofid neilltuol
arnaf i fyned yno, ac i chwedleua â 'r pren, ac i
adrodd fy noluriau, megis pe buasai yn gyfaill
i mi.

Yma yn fynych y galarwn o herwydd fy nghalon
ddrwg, a 'm cyflwr truenus; ac a ffeindiais gysur a
diddanwch mwy nag a gefais erioed o 'r blaen. Pa
bryd bynnag cawn fy nirmygu a fy ngwawdio, arferwn
ddyfod yma a chael heddwch. Dechreuais
yn awr i flasu ar y llyfr a roddodd fy meistr imi, sef
Galwad yr annychweledig, o waith Baxter, ac a gymmerais
bleser mawr ynddo. Da iawn oedd gennyf
bob amser i gael y gwaith o dorri coed, rhan fawr
o 'm gorchwyl ydoedd, ac mi a 'i dilynais ef gyd â
phleser, fel yr oeddwn I y pryd hynny yn hollol
unig, a 'm calon yn dyrchafu i fynu at Dduw, ac
fe 'm galluogwyd i weddio yn ddibaid; a bendigedig
fyth y fo ei enw mawr ef, fe attebodd fy ngweddiau
i yn ffyddlon. Ni's gallaf fyth fod yn ddigon diolchgar
i 'r Hollalluog Dduw am yr amrywiol odfeuon
cysurus a brofais I yno.


[td. 22]
F'allai [~ feallai ] na fydd yr amgylchiad ag wyf yr awr hon
yn myned i 'w adrodd ddim ennill crediniaeth gyd â
llawer: ond hyn a wn I, na's gall y llawenydd a 'r
cysur a roddodd e' i mi ddim cael ei osod allan, ond
yn unig ei amgyffred gan y rhei'ny ag a brofasant
yr unrhyw.

Yr oeddwn un diwrnod mewn tymmer meddwl
mwya hyfryd; fy nghalon oedd yn dilifo [~ dylifo ] o gariad
a diolchgarwch i Awdwr fy holl gysuron. Fe 'm
tynnwyd I gymmaint allan ohonof fy hun, ac fe 'm
llanwyd ac a 'm synnwyd felly o bresennoldeb yr Arglwydd,
fel y gwelais, neu y tybiais im' weled goleuni
anrhaethadwy yn tywynnu i lawr o 'r nef arnaf,
ac yn disgleirio o ddautu i mi yspaid munud. Mi
arosais ar fy ngliniau, a llawenydd anrhaethadwy a
berchennogodd fy enaid. Yr heddwch a 'r tawelwch
a lanwodd fy enaid yn ganlynol i hyn oedd ryfeddol
ac anrhaethadwy. Ni's cyfnewidiaswn yn awr fy
nghyflwr, neu fod yn rhyw un arall ond fy hun am
yr holl fyd. Yr oeddwn yn bendithio Duw am
fy nhlodi, na feddwn ddim cyfoeth daearol nac
uchder i dynnu fy nghalon oddi wrtho ef. Mi ddymunaswn
ar y pryd hynny, pe buasai posibl i mi, i
aros ar y fangre honno fyth. Yr oeddwn yn teimlo
anewyllysgarwch ynof fy hun i gyfathrachu dim
mwy â 'r byd, neu ymgymmysg bellach fyth â dynion.
Mi feddyliais fy mod yn perchennogi llawn
sicrwydd fod fy mhechodau wedi eu maddeu i mi.
Mi aethum adref ar hyd y ffordd yn llawen; a 'r
testun hyn o 'r 'Sgrythur [~ Ysgrythur ] a redodd yn gyflawn i fy
meddwl, Ac mi a wnaf â hwynt gyfammod tragywyddol,
na throaf oddi wrthynt, heb wneuthur lles
iddynt; ac mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau, fel na
chiliont oddi wrthyf
, Jer. xxxii. 40. Ar yr odfa
gyntaf ag a gefais, mi aethum at fy hen ysgol-feistr,
ac a fynegais iddo ddedwydd gyflwr fy enaid, ac
yntau a unodd â mi mewn diolchgarwch i Dduw
am ei drugaredd i mi y gwaelaf o bechaduriaid. Yr
oeddwn yr awr hon yn berffaith esmwyth, a phrin

[td. 23]
yr oedd gennyf ddymuniad am ddim tu hwnt i 'r hyn
oeddwn yn ei feddu, pan dihangodd fy holl gysuron
tymhorol oll trwy farwolaeth fy anwyl a fy nheilwng
feistr Mr. Ffreelandhouse, yr hwn a gymmerwyd o 'r
byd hwn yn ddisymmwth; ni's cafodd ond cystudd
byr, ac a fu farw o dwymyn. Mi ddeliais ei law ef yn
fy llaw pan ymadawodd â 'r byd: dywedodd wrthyf
iddo roddi i mi fy rhydd-did. Yr oeddwn yn
rhydd i fyned lle mynnwn. Fe ddywedodd wrthyf
iddo weddio trosof, a 'i fod yn gobeithio y parhawn
hyd y diwedd. Fe adawodd i mi yn ei ewyllys
ddeg punt a fy rhydd-did.

Mi ffeindiais pe buasai fy meistr yn byw, mai ei
fwriad ef oedd fy nghymmeryd I gyd ag ef i Holand,
fel yr oedd ef amryw weithiau wedi dweud amdanaf
wrth rai o 'i gyfeillion yno ag oedd yn chwennych
fy ngweled; ond gwell oedd gennyf i aros gyd â fy
meistres, yr hon oedd mor dda i mi a phe buasai
yn fam i mi.

Y colled o Mr. Freelandhouse a 'm gwasgodd I yn
enbaid [~ enbyd ], ond fe 'm gwnawd [~ gwnaed ] fyth yn fwy truenus gan
sefyllfa dywyll gystuddiol fy meddwl; gan fod gelyn
mawr fy enaid yn barod i 'm cystuddio, fe osodai fy
nhrueni fy hun o 'm blaen gyd â 'r fath oleuni echrydus,
ac a 'm gwasgai i lawr ag amheuon, ofnau,
a chyd â 'r fath deimlad dwfn o 'm hanheilyngdod fy
hun, fel ar ol yr holl gysur a 'r cefnogrwydd a gefais
yn fynych y 'm temtiwyd i gredu mai gwrthodedig
fyddwn yn y diwedd. Pa mwyaf yr oeddwn yn
gweled tegwch a gogoniant Duw, mwyaf yr oeddwn
yn cael fy narostwng tan deimlad o 'm gwaelder
fy hun. Mynych yr awn i fy hen le gweddi, ac
anfynych y deuwn oddi yno heb gysur. Un diwrnod
yr Ysgrythur hon a gymhwyswyd yn rhyfedd at
fy meddwl, Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo
ef, yr hwn yw Pen pob tywysogaeth ac awdurdod
.
Yr Arglwydd welodd fod yn dda i fy nghysuro trwy
gymhwysiad o amryw addewidion graslawn ar brydiau
pan byddwn yn barod i suddo tan fy nhrallod.

[td. 24]
Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai
trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn
byw bob amser i eiriol drostynt hwy
, Heb. vii. 25.
Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragywyddol
y rhai sydd wedi eu sancteiddio
, Heb. x. 14.

Ni fu fy meistres fwyn, dirion, fyw ond dwy
flynedd ar ol fy meistr. Ei marwolaeth hi fu golled
mawr i mi. Hi adawodd ar ei hol bum mab, oll
yn wŷr ieuaingc grasol, ac yn weinidogion yr Efengyl.
Mi arosais gyd â hwynt oll un ar ol y llall,
nes eu meirw: ni's buant byw ond pedair blynedd
ar ol eu rhieni. Pan rhyngodd bodd i Dduw eu
cymmeryd atto ei hun. Fe 'm gadawyd yn hollol
ymddifad [~ amddifad ], heb gyfaill gennyf yn y byd. Ond am
fy mod mor fynych wedi profi daioni Duw, mi
obeithiais ynddo i wneud fel y mynnai â mi. Yn
y cyflwr digymmorth hwn mi aethum i 'r coed i
weddio fel arferol; ac er fod yr eira o uchder mawr,
nid oeddwn deimladwy o anwyd, nac un diffyg
arall. Ar amserau yn wir pan gwelwn y byd yn
gwgu arnaf o gwmpas, fe 'm temtiwyd i feddwl fod
yr Arglwydd wedi 'm gadael. Mi ffeindiais gysur
mawr oddi wrth fyfyrdodau ar y geiriau hynny yn
Esaia xlix. 16. Wele, ar gledr fy nwylaw y 'th argreffais;
dy furiau sydd ger fy mron bob amser
. Ac
amrywiol addewidion cysurus a gymhwyswyd attaf
yn hyfryd. Y lxxxix Salm a 'r 34 adn. Ni thorraf
fy nghyfammod: ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan
o 'm genau
. Hefyd Heb. xvi. 17, 18. Phil. i. 6.
ac amryw eraill.

Gan fy mod yn awr wedi colli fy holl gyfeillion
anwyl a gwerthfawr, pob lle yn y byd oedd yr un
fath i mi. Chwant fu arnaf tros amser hir i ddyfod
trosodd i Loegr. Mi ddychymmygais fod holl
drigolion yr ynys hon yn sanctaidd; am fod pob
rhai ag oedd yn ymweled â Meistr oddi yno yn
ddynion da, (Mr. Whiteffield oedd ei ffrynd
neilltuol ef) ac Awdwyr y llyfrau a roddwyd i mi
oeddent oll yn Saeson. Ond uchlaw pob lle yn y

[td. 25]
byd dymuno yr oeddwn i weled Kidderminster, canys
ni's gallwn lai nâ meddwl nad oedd ar y spot o
ddaear y bu Mr. Baxter byw yr holl bobl yn dduwiol.

Fy amgylchiadau I oedd yn gofyn i mi aros yn
hŵy yn Iorc newydd, fel ag yr oeddwn wedi rhedeg
rhyw faint mewn dyled, ac mewn blinder pa fodd
i 'w talu. Ynghylch yr amser hyn pendefig ieuangc
ag oedd o gydnabyddiaeth neilltuol ag un o fy meistri
ieuaingc, a gymmerodd arno fod yn ffrynd i mi, ac
a addawodd dalu fy nyled, yr hyn oedd dair punt;
ac fe 'm cadarnhaodd na's gofynnai ef byth o 'r arian
drachefn. Ond cyn pen mis, fe gofynnodd hwynt
gennyf; a phan manegais iddo nad oedd gennyf
ddim i dalu, fe fwgythodd [~ fygythodd ] fy ngwerthu I. Ac er
y gwyddwn nad oedd ganddo un hawl i wneud hynny,
etto gan nad oedd gennyf un ffrynd yn y byd
i fyned atto, fe 'm dychrynodd I yn greulon. O 'r
diwedd fe bwrpasodd i mi fyned i 'r môr i brifatiro,
fel y gallwn trwy y moddion hynny i 'm galluogi i
dalu iddo, i ba beth y cyttunais. Enw ein capten
oedd——— ——— mi aethum dan enw cogydd iddo.
Yn agos i St. Dominigo ni a ddaethom i fynu at bump
o longau marsiandwyr Ffraingc. Fe ddarfu in' gael
ymladdfa danbaid, yr hon a barhaodd o wyth o 'r
gloch y borau hyd dri brydnhawn, pan darfu i 'r fuddugoliaeth
gwympo o 'n hochr ni. Ymhen ychydig
ar ol hyn ni gwrddasom â thair o longau Lloegr, y
rhai a unasant â ni, ac a 'n cefnogodd ni i ymladd â
ffleet o 36 o longau. Ni a ennillasom y tair blaenaf,
ac yna ni a ganlynasom y lleill, ac a ennillasom 12
eilwaith; ond y lleill a ddihangasant arnom. Llawen
o waed a dywalltwyd, ac mi fues agos i angau amryw
weithiau, ond yr Arglwydd a 'm cadwodd.

Mi gyfarfum ag amryw elynion, a llawer o erledigaeth
ymhlith y morwyr; un ohonynt yn enwedigol
oedd yn anfwyn iawn wrthyf, ac yn dyfeisio
ffyrdd i 'm blino a 'm cythryblu. Ni's gallaf lai
nag enwi un digwyddiad a 'm niweidiodd yn fwy nag
un o 'r lleill, yr hyn oedd iddo dynnu llyfr o 'm llaw

[td. 26]
ag oedd yn hoff iawn gennyf amdano, ac yr arferwn
yn fynych bleseru fy hunan ag ef, ac a 'i taflodd
ef i 'r môr. Ond yr hyn oedd hynod, efe oedd y
cyntaf a fu farw yn yr ymladdfa. Nid wyf yn anturio
dywedyd i hyn ddigwydd iddo am nad oedd yn
ffrynd i mi; ond meddwl yr wyf ei fod yn rhagluniaeth
ddychrynllyd iawn i weled fel y mae gelynion
yr Arglwydd yn cael eu torri ymaith.

Ein capten ni oedd ddyn creulon calon-galed: ac
yr oeddwn yn ofidus iawn am y carcharorion a gymmerasom;
ond cyflwr truenus un gwr ieuangc a 'm
blinodd I i 'm calon. Yr oedd efe yn ymddangos
yn garuaidd iawn; ac yn lân anghyffredin. Fe
gymmerodd ein capten bedair mil o bynnau oddi
wrtho; ond nid oedd hynny yn ei foddloni, fel yr
oedd ef yn tybiaid fod ganddo ragor, a 'i fod wedi
eu cuddio hwy mewn rhyw le, fel darfu i 'r capten
fygwth ei ladd; ar ba achos fe ymddangosodd yn y
cyfyngder mwyaf, ac a gymmerodd y buclau [~ byclau ] oddi
wrth ei esgidiau, ac a ddatg'lymmodd [~ ddatglymodd ] ei wallt, yr
hwn oedd yn hardd iawn, ac yn llaes, ymha [~ ym mha ] un yr
oedd amryw fodrwyau gwerthfawr wedi eu cylymmu
i fynu. Fe ddaeth i 'r cabin attaf fi, ac yn y dull
mwya gostyngedig ag ellid amgyffred, fe ofynnodd i
mi am ryw beth i fwytta ac i yfed; yr hyn pan
roddais iddo, yr oedd ef mor ddiolchgar ac mor
hyfryd yn ei ymddygiad fel yr oedd fy nghalon yn
gwaedu drosto; ac mi ewyllysiais o 'm calon i allu
llafaru mewn rhyw iaith wrtho na's gallasai pobl y
llong fy neall; fel y gallwn ei ddodi ef i ddeall ei
berygl; canys mi glywais y capten yn dywedyd ei
fod yn resolfo ei ladd ef; ac fe ddygodd i ben ei
fwriad barbaraidd, canys efe a 'i cymmerodd ef i 'r
traeth gyd ag un o 'r morwyr, ac yno y saethasant ef.

Yr amgylchiad hyn a 'm dychrynodd I yn ofnadwy,
ac ni's gallaswn ei yrru ef allan o fy meddwl
amser hir. Pan ddychwelasom i Iorc newydd, y
capten a rannodd arian yr yspail rhyngom. Pan
galwyd arnaf fi i dderbyn fy rhan, mi elwais y pendefig

[td. 27]
ag a dalodd fy nyled, a 'r hwn oedd achos o i
mi fyned i brifatiro, i wybod pa un a ewyllysiai efe
fyned gyd â mi i dderbyn fy arian, neu myfi a ddygai
iddo ef yr hyn oedd ddyledus arnaf. Efe a ddewisodd
fyned gyd â mi; a phan osododd y capten fy
arian I ar y bwrdd, yr oeddent yn un cant a phymtheg
punt ar hugain; mi ddymunais arno gymmeryd
yr hyn oedd ddyledus iddo; ac efe a ysgubodd y
cwbl i 'w napcin, ac ni's gwnai neb iddo roi ffyrlling
o 'r arian yn ol i mi, na dim arall yn eu lle hwynt.
Ac fe ddygodd hefyd hogshead o sugar oddi arnaf ag
oedd yn yr un llong. Yr oedd y capten yn anfoddlon
iawn iddo am y creulondeb hyn i mi, fel ag yr
oedd pob rhai eraill ag a 'i clywodd. Ond mae gennyf
achos i gredu, fel ag yr oedd ef yn un o brif farsiandwyr
y ddinas, ei fod ef yn gwneud achosion
dros y capten, ac ar y cyfrif hynny nid oedd efe yn
dewis ymrafaelio ag ef.

Yn y cyfamser pendefig teilwng iawn, a 'i enw
Dunscum, a 'm cymmerodd I tan ei nodded, ac a
fuasai yn cyfodi fy arian trosof pe buaswn yn dewis;
ond mi berais iddo ei adael heibio, mai gwell oedd
gennyf fi fod yn llonydd. Mi gredais na's llwyddent
hwy gyd ag ef, ac felly y digwyddodd; canys
trwy amryw golledion a chroes-ragluniaethau fe aeth
yn dlawd, ac ymhen ychydig wedi'n fe foddodd,
fel yr oedd gyd â chyfeillion yn myned i 'r môr o
ran pleser. Y llestr a yrrwyd allan i 'r môr, ac a
darawodd yn erbyn craig, trwy ba foddion pob
enaid a suddodd.

Bu drist iawn gennyf pan glywais, ac fe 'm gofidiwyd
yn fawr o ran ei deulu ef, y rhai oedd wedi
cael eu dwyn i amgylchiadau cyfyng. Ni's medrais
I erioed pa fodd i osod pris uniawn ar arian, os
bydd gennyf ychydig o fwyd a diod i atteb angenrheidiau
'r bywyd presennol, ni ddymunais ddim yn
rhagor erioed: a phan y byddai gennyf ond ychydig
yn wastad mi a 'i rhoddwn os gwelwn un gwrthddrych
[~ gwrthrych ] o drugaredd. Ac oni bai er mwyn fy anwyl

[td. 28]
wraig a 'm plant ni's rhown fwy o barch i arian yr
awrhon nâ phryd hynny. Mi arosais ryw faint o
amser gyd â Mr. Dunscum fel ei was; ac yr oedd yn
addfwyn iawn wrthyf. Ond yr oedd tueddiad cryf
ynnof i ymweled a Lloegr, a dymuno yr oeddwn
yn wastadol i ragluniaeth weled bod yn dda i wneud
ffordd rydd i mi i ymweled â 'r ynys hon. Mi ymborthais
ar feddyliau os gallwn fyned i Loegr na
chawn fyth mwy brofi na chreulondeb nac anniolchgarwch,
felly fel yr oeddwn yn ddymunol iawn i
fyned i blith Crist'nogion. Yr oeddwn yn adnabod
Mr. Whitefield yn dda iawn; mi a 'i clywais ef yn
pregethu yn fynych yn Iork newydd. Yn y cyflwr
hwn mi listais yn yr wythfed regiment ar hugain o
wŷr traed, y rhai oedd wedi eu pwrpasu i Martinico
yn y rhyfel diweddaf. Ni aethom yn ffleet admiral
Pocock o Iorc newydd i Barbadoes; ac oddi yno i
Martinico. Pan cymmerwyd honno ni aethom i
Hafanna, ac a gymmerasom y lle hwnnw eilwaith.
Ac yno cefais fy ngollyngdod.

Yr oeddwn y pryd hyn yn talu deg punt ar hugain,
ond nid oeddwn yn rhoi fyth barch i arian yn
y rhan leiaf, ac ni fuaswn yn aros i dderbyn fy
nghyflog rhag i mi golli fy siawns o fyned i Loegr.
Mi aethum gyd â charcharorion Spain i Spain; ac
a ddaethum i hen Loegr gyd â charcharorion Lloegr.
Ni's gallaf fanegu fy llawenydd pan daethom i olwg
Portsmouth. Ond synnodd arnaf pan clywais drigolion
y dref honno yn tyngu ac yn rhegu. Ni
ddisgwyliais i gael dim ond daioni, tiriondeb, ac
addfwynder yn y tir crist'nogol hwn; yno mi oddefais
lawer o feddyliau cythryblus.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section