Adran o’r blaen
Previous section

Barddoniaeth rydd allan o Lyfr Gwyn Mechell (NLW 832E) (1649–98 (ms. c. 1730)), 302a–326b.



[td. 302a]

[2. Rhisiart Gray, Achwyn Gwr Ifangc ar Greulondeb ei Gariad (1649)]
Achwyn Gwr Ifangc ar Greulondeb ei Gariad, Y Gŵr oedd Rhisiart
Gray. A.M. o Dre 'r Go yn Llanbadrig, a 'r Ferch oedd Elsbeth Hughes
Merch Huw Prisiart Griffith o 'r Cefn Côch yn Llanfechell, yr hon a
briodase Wiliam Roberts o Rôs Badrig, ag a ddug iddo Risiart
Roberts yr hwn a werthodd y Cefn Côch i M.r Da. Llŵyd Person Mechell.

Merch a 'm dug i 'r Bŷd drŵy ofŷd
Merch a 'm magodd bôb ychydig
A Merch sydd debyg oni 'styrria [~ ystyria]
i ddŵyn f' Enioes [~ einioes] i o 'r Bŷd ymma
Merch a fu drŵy Gur a gofal
Ar ei Braich i 'm carrio 'i 'n ddyfal
Ac yr awrhon mewn un Ŵythnos
Merch i 'm Bêdd a 'm gyrrodd i agos
Mi fum Naw Mis yn goeg egwan
Ynghrôth Merch heb allu ymlwybran
A thri Seith Mis gwedi 'ngeni [~ fy ngeni]
Llaeth ei Bronn oedd ymborth imi
Onid ystŷr gwawr ddigynnwr
Wrth fy mhoenŷs glŵyfys gyflwr
Drŵy hawddgarwch blodau 'r Merched
Gwae fi 'n llŵyr yr Awr i 'm ganed
Och i 'r Famaeth, Ferch a 'm magodd
Och i 'r 'ffeiriad [~ offeiriad] a 'm bedyddiodd
Och a chann och drŵy ochneidiau
Am na b'aswn [~ buaswn] heb laeth Bronnau
Rŵy 'n dymuno hŷnn yn ddiball
Cyn i 'r Cybŷdd Cerndew angall
Dy briodi 'nghangen [~ fy nghangen] hawddgar
Gael awr o 'r blaen fy Nghorph i 'r ddaiar
Os yn gŷnt y bydda i marw,
Yn rhodd; i 'm Bêdd n' adewch mo 'm bwrw
Dann y bo Briodas gwengu
Dyna 'r Dŷdd y mynna 'nghladdu [~ fy nghladdu]
Yna gwelwch Wenn lliw 'r man od
A 'i holl ffrins yn Drŵp yn dyfod
A 'i Gwŷr wrth Gerdd, a 'i Miwsig odieth
Yn Chware 'flaen [~ o flaen] fy ngwawr Sidanbleth
i mewn pann ddelo pawb wrth ddawnsio
Doyded rhŷw un (rŵy 'n dymuno)
Gwiliwch, Gwiliwch ar eich Camra
Bêdd y Gŵr a 'r Gŵr Sŷdd yna.

[td. 302b]
Ag yno f' alle i 'm Cangen feindw
Pann grybwyllir am fy henw
Y bydd llŵyr edifar ganddi
Yn ddifarn heb Gwêst fy ngholli.
Cynn y rhoddo Meinir gannaid
Ei llâw fain i 'mglymmu [~ ymglymu] a 'i Chariad
Er mŵyn Duw agorwch f' Amdo
Cewch weled Gwaed o 'm Corph yn llifo
Codwch, Cerddwch, Ceisiwch Grwner
Rhifwch Gwêst i 'xamnio [~ ecsamnio] 'r Matter
Coded rhŷw rai Nghorph [~ fy nghorff] i fyni
i edrŷch pa le mae o 'n gwaedi
Yno gweliff pawb yn eglur
P'le mae Nghûr [~ fy nghur] a 'm poen a 'm dolur
Yn fy nghalon bâch o 'i deutu
Dan Saeth Ciwpŷd gwedi mrathu [~ fy mrathu]
Ac oddiyno Nghorph [~ fy nghorff] a gleddwch
A lliw 'r Eira chwi gomittiwch
Nedwch bŷth yn ôl dull Dynol
i 'm lloer burwen gael ei threiol
Ni fynnai fynd mo 'm bun gannaidwen
Nag i Lwdlo, nag i Lunden
Ond mi fynne gael 'i arrainio
Mewn Cŵrt sydd waeth dann gaeth Giwpeido
A phan ddêl hi gynta yno
Fe roir deuddeg arni i gwestio
Ag yn euog o 'm Marwolaeth
Mewn un awr fe ' bwrrir 'Soweth [~ ysywaeth]
Ha Ferch gwêl ba bêth a wnaethost
Dy ddrŵg weithred gwnn y gŵyddost
O dra serch a Chariad iti
Mâb a 'th gara ' roist di ' golli [~ i golli]
Am dy hoedel dymma Derfŷn
Gwrando adrodd Barn i 'th erbŷn
O dra llîd, nid Cariad iti
Mâb ni 'th câr a 'th rhŷdd i 'th colli

[td. 303a]
Ef a esŷd yn dra amlwg
Rŷw Ŵr Ifangc glân ei olwg
Ddau Saeth plwmm yr Ustŷs digllon
Yn farwol iawn o bobtu ei Chalon
Rhowir, Rhowir am na charwn
Gwnn ni cha, ni cheisia Bardwn
Am na baswn yn ystyrrio
Wrth y Mâb a rois mewn amdo
Pôb Merch lân, pôb Geneth ddiofal
Ohonofi cymerwch siampal
A phôb Merch o ddrŵg Naturiaeth
Doed i 'w rhann yr un Farwolaeth.
Llannerch flîn ŷw Cŵrt Ciwpeido
Gwedi entrio unwaith yno
Nêb ni ddiangc heb ei farnu.
Ond dau well na hynn oedd caru?

Rhisiart Gray a 'i Cant 1649


[3. Huw Wmphreys, Cân yn achwyn ar enllibwyr (1662)]
Cân yn achwyn ar enllibwyr.

Dymma Fŷd gwrthw'nebŷs [~ gwrthwynebus] creulon,
Digon ŷw er torri Calon
Y Dŷn gonest a fae 'n ceisio
Bŷw 'n ddiniwed tre fae ynddo
Mae gan rai falais a chenfigen
Gwradŵydd [~ Gwaradwydd], Enllib a drŵg absen
Saeth mewn bŵa i seuthu atto
Gwnaed ei oreu, troed lle mynno.
Gwammal fŷdd, os llawen g'lonnog [~ galonnog]
Os Prudd, ma [~ mae] 'n gostog, Du, afrowiog
Os bŷdd cellweirgar a Pharablŷs
Mae 'n doydyd gormod, mae 'n siaradŷs
Os bŷdd iddo gyfarch Geneth
A 'i saliwtio a chusan afieth
Mae 'n Ddŷn anllad, waitiwch arno
'Mysc [~ Ymysg] Merched nid ŷw o 'i goelio.
Os distaw fŷdd, yn brŷnn ei eirie
Neu 'n ŵyl ynghwmni glân Dduwiese
Ffei anifail mud, i ffordd ag efo
Ewnuwc ŷw, mae wedi ei gweirio
Os mynd a wneiff mewn harddwisg gynnes
Mae 'r Gŵr yn falch, mae 'n llawn o rodres
Os bŷdd ei wisc yn llomm, neu 'n garpiog
Ni thâl o ddim, mae 'n Feggar lleuog.

[td. 303b]
Os bŷdd lletteugar a chroesawŷs
Yn hael o 'i fŵyd, yn fŵyn, yn weddŷs
Fe geiff ogan Glân ei Galon
Mae 'n rhodresgar, mae 'n afradlon.
Os eiff i 'r Dafarn gida chwmni
Ni bŷdd o 'n gwneuthur dim ond meddwi
Os gartre y trîg, cann gwaeth ŷw hynnŷ
Nid ŷw ond Clown a Bwmcin cegddu
Os C'lonnog [~ calonnog] fŷdd a stowt, mae 'n geccrus
Os mŵyn a llonŷdd, llyfrgi ofnus.
Os hael o 'i Bwrs, afradlon ydi
Os cynnŷl fŷdd, mae 'n Gybŷdd drewi.
Os tyngu a wneiff (ag iawn yr henwir)
Melltigedig Ddŷn f' ai gelwir.
Os gwilio a thyngu rhag ofn Melldith
Puritan ŷw, mae 'n llawn o ragrith.
Os mynd i 'r Eglwys yn fucheddol
i wasanaethu Duw 'n grefyddol,
Hela mae am glôd gann ddynion
Pharisead ŷw fo 'n union
Gwnaed ei oreu, Gwnaed ei amcan
Fe fŷdd arno fai yn rhŷw fann
Ni cheiff orwedd gida 'i 'nwylddŷn [~ anwylddyn]
Ei wraig ei hun, heb rai 'n gwarafŷn.
Hên Ddŷn gŷnt ei Assŷn rhŵymodd
a thros âllt y môr f' ai taflodd
Am na fedre 'r Hên ŵr Penffol
Wrth drafaelio foddio 'r bobol
Ond Mi a fyddaf yn synhŵyrach
Ac ni ddilynai ffordd y Cleiriach
Gwradŵyddant hŵy, a gwelant Feue [~ feiau]
Yn ôl fy meddwl y gwnâf inne
Byddaf lawen, Llonn a heini,
Prudd, os achos fŷdd yn peri
Cellwar [~ Cellwair] a wnâf mewn Cwmni hynod,
Ac etto gwiliai siarad gormod.
Os deuaf at Dduwiese gwynion
Mŵynedd, moddus, glân o galon
Cellweirio a wnâf i ennŷll Cariad
Ac etto gwilied fod yn anllad.

[td. 304a]
Mi fydda 'n ddistaw yn gymhedrol
Yn brŷnn fy ngeiria, yn ŵyl, yn foddol,
Bêth ai Ewnuwc ŵy, ai peidio,
Os bŷdd pleser, nhw gaen dreio.
Mi âf drŵy Dduw mewn harddwisc gynnes
Ac etto heb arnai 'n gronŷn rhodres
Heb lâw 'r henw o Feggar lleiog [~ lleuog]
Oer, a gwrthŷn ŷw gwisc garpiog.
Os dâw i 'm Bŵth Gymdeithion hynod
Nhw gaen rann o 'm bŵyd a 'm diod
Yn ddirodres, o bur galon
Er hŷnn ni fyddai bŷw 'n afradlon
Mi âf i 'r Dafarn gida chwmni
i fôd yn llawen, nid i feddwi
Pawb a wneiff i Landdŷn groeso
Ni cheiff y Cybŷdd ond ei fflowtio
Ni byddai ofnus, ond yn G'lonnog [~ galonnog]
Wrth Gnâf yn stowt, wrth fŵyn yn rhowiog
Nid allai aros bôd yn llyfrgi
Bôd yn geccrus blinach hynnŷ.
Ni thyngai ddim, mi 'mgroesa [~ ymgroesaf] beunydd
A dwng heb achos, ni haedda lonŷdd
Cann gwell genni ddiodde gwradŵydd
Na thrŵy dyngŷ ddigio 'r Arglŵydd
Mi âf i 'r Demel yn fucheddol
A thrŵy nerth f' Arglŵydd, yn grefyddol
Ni phrisiai chwaith, drŵy foddio 'r hael-dad
Er fy ngalw 'n Pharisead.
Gwna fy ngoreu, gwna fy amcan
Na bo arnai fai mewn un mann
Ond pe doe ddrŵg ar ffordd i 'm rhŵystro
At f' Anwylddyn profai fentrio.
Yr ydŵy 'n scornio gwradŵydd Dynion
Os Cae nghydŵybod [~ fy nghydwybod] yn heddychlon
Dŷn, er bygwth a fŷdd marw,
A 'i Domm ei hun Cymynŷr hwnnw
Tôst oedd clywed ehud ddynion
yn barnu ar eu cŷd-Grist'nogion
Fel ped faen yn ddigon ysbus
Ar ddirgelion Duw, a 'i ewyllys.
Rhag barnu nêb, mi brofa ymmattal
Duw pie barnu, Duw pie dîal
ffug a ffals ŷw barnad Dynion
Yr Arglŵydd Dduw a farna 'n union.

[td. 304b]
Dŷn Sŷ 'n barnu 'n ôl y golwg
Ni ŵyr ddim ond sŷdd yn yr amlwg,
A Duw sŷdd wîr chwiliedŷdd calon
Am hynnŷ bŷdd ei farn yn gyfion
Duw, barna fi a barn drugarog
Dy Gynddaredd sŷdd rŷ lidiog
Os berni ni yn ôl ein beie
Ni saif o 'th flaen y Cristion gore.

Huw: Wmphreys Person Trefdraeth
a 'i Cant 1662.


[4. Cyngor Huw Wmphreys i'w Blant (1669)]
Cyngor Huw Wmphreys i 'w Blant
Y Mesur Cwymp y Dail

Arwŷdd attoch' ŵy 'n ei ddanfon
Nid o Aur nag arian Gwynion
Nid Twrci styff, nid Perl o 'r India
Nid Em'rald [~ emrald] Onyx Thus na Chasia
Nid rhôdd o Ddefaid, Mintau o Wartheg
Ond pêth ŷw brissio ganwaith chwaneg
Bŷw 'n grefyddol Dadol gyngor
Gwerthfawroccach na 'r hôll drysor
Ofnwch Dduw, ag ef gwasnaethwch
A hôll Nerth eich Calon weliwch
Er Da na Drŵg na ddigiwch mono
Yn ddiragrith glynwch wrtho
Yn ddyfal cedwch ei Orch'mynion [~ orchmynion]
Nad ânt fŷth o 'ch Co [~ cof] na 'ch Calon
Byddant i chwi 'n Riwl i weled
Bêth i wneuthŷd, bêth i 'w wilied
Hŵy a ddyscant i chwi allu
i adnabod Duw a 'i garu
Fal y galloch gael ymwared
Lle mae nawdd i gael, a Nodded
Ymarferwch weddi 'n ddyfal
Rhag Temtasiwn cymrwch ofal
Crŷ ag anial ŷw 'r Gelynion
A Chwithe 'n Ehud ag yn Wirion
Wrth ddŵys ystyried hŷnn, Gweddîwch
Yn ddibaid ar Dduw yr Heddwch
Cadarn ydi Gweddi wresog
A mawr yn Llyfrau 'r Hôll-alluog
Iago, Moses ysbŷs ydi
a dreisiasant Dduw a Gweddi
Ysbŷs hefŷd gadw o Weddi
Y Tri Llangc yn tân rhag llosgi
Grasol ŷw, a llawer ddichon
Taer ag ystig weddi 'r Cyfion
Trywanu wneiff hi 'r Nefoedd uchod
Ag ni ddescŷn heb ei cherdod.

[td. 305a]
Gair Duw 'n gyfan cofiwch wrando
Nad âed o 'ch Co [~ cof], myfyriwch arno
Fo fŷdd ichwi 'ch cadw 'n Darian
Ag yn Gledde i frathu Satan
I 'r Traed yn Llusern, goleu i 'r llygaid
Ymborth bywiol, bŵyd i 'r Enaid
Mewn Ing a blinder, Cyssur parod
Rhybŷdd da i ochelŷd pechod
Rhinwedd ŷw i wneuthŷr mowrlles
Fal Dau-finiog Gledde Achilés
Taro a brifo a wneiff yn ffyrnig
Ag i Iachau 'r un briw, mae 'n Feddŷg
Fe bâir ddychrŷn, fe bâir Syndod
Ar y Galon, ar Gydŵybod
Dŵg Bechadur o wann obaith
i 'w achub oddiwrth Borth Marwolaeth
Ar ôl hynny f' a 'i bywocca
Cyfŷd, cynnal, llawnycha [~ llawenycha]
Fo a hiachêiff a 'i addewidion
Sŷ 'n rasol pêr o Ene inion
Na Arfer Gelwŷdd, rhag cael drygair
Nag o ddifri nag o gellwair
Y Celwyddog diras difri
O Ddiawl y mae, ei Blentŷn ydi
Ymhôb Stât gochelwch falchder
Rhyfŷg, Rhodres, Traha, uchder
A ymdderchafo, a ostyngŷr
A 'r Gostyngedig a dderchefŷr
I 'ch Gwell rhowch barch, i 'ch Cydradd ynta
Rhowch iddo barch yn ôl yr haedda
Na ddiystyrwch mo 'r Cardottŷn
Rhowch iddo barch dros Dduw yn echwŷn
Eich Gwell a ddisgwŷl eich anrhydedd
Rhowch i 'ch Cydradd Barch yn weddedd
Rhowch i 'r Tlawd yn ôl eich gallu
Descynniff Bendith Duw 'chwi 'm [~ i chwi am] hynnŷ
Na adewch i Satan Rudo monoch
i gymerŷd ond yr eiddoch
Os tlawd yn bŷw, os C'waethog [~ cyfoethog] fyddwch
O 'r eiddo arall dim na cheisiwch
Byddwch Onest, gwiliwch bechu
Drŵy Butteindra, a Godinebu
Na adewch arnoch eisie ymgroesi
Am air Gogan a Thylodi
Nid oes ond Mesur bŷrr o amser
i alw 'r pechod hwnnw 'n bleser
Ond y Gwarth a ddêl oddiwrtho
Ceiff yr heppil rann ohono
Gochel gyfle, cymmer Gyngor
Cyfle sŷ 'n dŵyn Drŵg i Esgor
Dihareb wîr, a dwydiad hynod
Gochel gyfle, Gochel Bechod

[td. 305b]
Yn Fâb, yn Ferch Gochelwch yfed
i 'r naill a 'r llall y mae cin rheittiad [~ cyn rheitied]
Yn Fâb yn Ferch ger bronn yr haeldad
Y mae Meddwdod yn fai anfad
Cynnwr Penn, anrheithiad Wyneb
A llawn dorriad gwîr ddiweirdeb
Terfŷsc Tafod, cochni llygaid
Anrhaith meddwl, lladdiad Enaid
Colled amser, C'wylŷdd [~ cywilydd] buchedd
Bryntni Moeseu, gwarth anrhydedd
Difetha ei wraig a 'i Bland [~ blant] drŵy gamwedd
A wneiff y Meddw, brwnt ei fuchedd
I gadw nid ŷw 'r Meddw happlach
Nag ydi 'r Gogor, ei Gyfrinach
Na gwasanaeth ni wneiff aelod
Llâw na Throed, na chlust na Thafod
Doede Homer fôd i Circes
Droi yn Fôch Gwmpeini Ulŷsses
Wits a troadd, bêth oedd hi 'nd [~ ond] Diod?
A Droes yn Fôch aflendid Pechod.
Alexander a wnaeth Lofruddiaeth
Yn ei Wîn, gann lâdd ei Frawdmaeth
Ond pann ddefrôdd o 'r meddwdod allan
O 'r achos mynne lâdd ei hunan
Noah 'n Swrth ar Wîn a feddwodd
Ag yn ei Babell a ymddinoethodd
Lot gan feddwi anwarthus pechodd
Ac o 'i ddŵy Ferch, dau Fâb a 'nillodd [~ enillodd]
Y Cynta o 'r rheini y Bŷd a orchffygodd [~ orchfygodd]
A Noah rhag y Diliw ' ddiengodd
Rhag Tân Sodom, Lod a gadŵyd
A 'r tri gann feddwdod a orchffygwyd [~ orchfygwyd]
Cymrwch boen, gochelwch ddiogi
Ni bŷdd i Ddiog ddim daioni
Oni anŵyd Dŷn i lafur?
Y mae segurdra 'n erbyn Natur
Er i 'r Arglŵydd blannu Eden
Yn llawn o ffrŵyth yn Nhîr y Dŵyren
Oni osododd o Adda ynddi
i Lafurio, ag nid i ddiogi?
Y mae segurdra yn dra enbŷd
Fo fŷnn y Segur waith i wneuthŷd
Eiste dann y Prenn 'r oedd Adda
Pann y temptiŵyd efo 'g [~ ac] Efa.
Na chynhyrfed bŷth mo 'ch Calon
Er eich geni 'n Wenidogion
Ni roes Duw i Nêb mo 'r Cyweth
Yn rhâd, heb iddynt wneuthŷr rhywbeth
Gwasnaethodd Iacob ddau saith mlynedd
I 'w chwegrwn Laban am ei Wragedd
Dyna 'r môdd y bu i 'r Hael Dad
Roi 'ddo [~ iddo] Godiad, Parch a Chariad
O Garchar trîst, o drwmm gaethiwed
O Wasnaethu 'n wâs dann Feistred
Y Daeth Ioseph i anrhydedd
Ag anferth rŵysg, a chodiad rhyfedd.

[td. 306a]
Bêth oedd Moses ond bugeilio
Praidd ei Dâd ynghyfraith Iethro
A dyna 'r prŷd drŵy fawr lawenŷdd
Yr ymddangosodd Duw 'n y Mynŷdd
O Fugeilio 'r Defaid gwynion
O fewn Corlannau Iesse ffyddlon
Y dug Duw ei gu wâs Dafŷdd
O fôd ar Israel yn ben-llywŷdd
Bêth oedd Esther wenn ond alltud
Yn bŷw 'n y bŷd mewn Coegni ag adfŷd
Pann y cododd Duw gorucha
Hi 'n Frenhines Media a Phersia
Mae Duw etto yn 'r un allu
Hawdd y dichon o dderchafu
Y sawl a gwasnaetha 'n ffyddlon
I 'w osod gida Phendefigion
Yfi [~ Myfi] sŷ 'n mynd i ffordd fy Nhadau
Ag yno ar fyrder chwi ddowch chwithe
Attolwg gwnewch fy hôll orch'mynion [~ orchmynion]
Gwasnaethwch Dduw, 'nrhydeddwch [~ anrhydeddwch] Ddynion

Huw Wmffreys Person Trefdraeth
a 'i Cant. 1669


[td. 307b]

[7. Owen Prichard Lewis, Ymddiddan rhwng Llangces Ivaengc a 'r Hedŷdd (1668)]
Ymddiddan rhwng Llangces Ivaengc [~ Ifanc] a 'r Hedŷdd
Yr achos oedd fal hŷnn: M.rs Margarett Goodman
o Dal y Llŷnn wrth nithio yn amser Eira a ddaliase
Hedŷdd, oddiwrth ba achos y mae 'r Prydydd Owen
ap Richard Lewis Taliwr o 'r Aberffraw yn cymryd
achlysur ei feddwl fôd y Llangces yn ymgynghori
a 'r Aderyn pa fâth, neu pŵy ymŷsgc ei holl Gariadau
oedd oreu iddi hi ddewis. Mae 'r Prydŷdd
yn Gwneuthŷr i 'r Aderŷn escluso [~ esgeuluso] pôb un a henwase
hi, er maint ei rinwedda da, a 'i Cyfoeth,
ag i ddewis Llangc Gwael heb ddim gantho, hwnnw
oedd fâb iddo fo hun, sêf Richard Owen Tâd i Owen
Owens o Dre-Ddavŷdd. Y Mesur. Lady Byram

Fal 'r oeddwn foreuddŷdd, mi gefais y Gâd
Yn rhodio fy hunan yn rhŷw gwrr i 'r Wlâd
Mi glown ymddiddanion ynghysgod têw Lŵyn
Rhwng Geneth ireiddwen, a 'r Hedydd bâch mŵyn
Pŵyso wneis attŷn i gyscod y Gwrŷch
i gweled nid oeddwn, eu clowed oedd wŷch
Clown adlais yr Hedŷdd yn Cŵynfan morr brŷdd
Dôd gwarters, di 'm deliast, O gollwng fi 'n rhŷdd
Bêr Heden, bur Odiaeth na chymmer mo 'r brâw
Er digwydd ohonoti ddyfod i 'm Llâw
Ni wna mo 'rr Niweidion i ti nag i 'th Rhŷw
Moes Gyngor (rŵy 'n gofŷn) i mi tu 'g [~ tuag] at fŷw?
Pa gyngor a fynnu di gael gann fy mâth
'Rwy fal y Llygoden yngwinedd y Gâth
A 'm Calon yn Cleppian, ti glowi dy hûn
Rŵy 'n ofni am fy Einioes dann ddŵylo fy Mun
Am d' Einioes na ofala, gwrandawa 'r [~ ar] dy gŵyn
Cei hedeg yn hoywŷch i frîg y têw Lŵyn
Ond ynghynta moes wybod, a hynny 'n ddiffael
Pa ffasiwn Gywelu sŷdd oreu i mi gael?
Ni fedrai roi cyngor o ganol y dsêl [~ jêl]
Ond coelia dy addewŷd, a doed i mi a ddêl
Am hynnŷ moes wybod dy feddwl yn frau
Pa ffasiwn Gariadeu yr ŵyt 'y 'w mawrhau?

[td. 308a]
Rŵy 'n caru Gŵr Ivangc Bonheddig glân mŵyn
A hwnn nid 'wy [~ wyf] 'n ammeu na wrendi fy nghŵyn
Ped fae gantho Gowaeth rhann a gawn i
Nid oes ond ychydig o ddoeydŷd i chwi
Gwŷr Ievangc Bon'ddigion sŷ 'n Llownion o Serch
Ni adwaen mo 'i ffittiach i 'mweled [~ ymweled] a Merch
Pan ddarffo 'r Gynysgaeth, a 'r Power yn wann
Fe dderfydd y Mŵynder a 'r Caru 'n y mann
Mae Cerlŷn tra Ch'waethog [~ chyfoethog] mewn ewyllŷs da i mi
A Chantho dda bydol na ŵyr o mo 'u rhi
Er maint ydi gowaeth, a 'i Arian yn Bwnn
Ni ddâw at fy nghalon i garu mo hwnn
Os Cerlŷn a geri fo ddoydŷff yn Dêg
Cottyn cybyddedd ni wneiff o dda i neb
Fo 'th rhydd di mewn gofal tra bo'ch [~ bych] ti 'n y Bŷd
Pan weloch di hynny fe altria dy brŷd
Gŵr Ievangc o Uchelwr Sŷ 'n bŷw gida 'i Dâd
A hwnn sŷ 'n fy ngharu ni cheisia fŷth wâd
A minneu sŷdd weithieu o adde i chwi 'r gwîr
Yn gweled yn ddedwŷdd gael Tyddŷn o Dir
Er maint ydi gowaeth, er daued i 'w Dîr
Gwilia gam-gymrŷd dy feddwl yn glîr
Ei Dâd sŷ 'n uchelwr tra bo fo 'n y Bŷd
A Wyddost ti a beru dy Einioes di Cŷd?
Secuttor tra Ch'waethog [~ chyfoethog] ynghyntedd y Wlâd
A hwnn sŷdd i 'm caru ni cheisiai mo 'rr wâd
A phawb a 'r a 'i hedwŷn sŷ 'n doydyd yn ffrom
i fod o 'n Gyfoethog a chantho Gôd tromm
Odid secuttor na rŷdd o Gaw camm
Cyndŷn, anhydŷn, ni pherchiff mo 'i Fam
Dwndrio 'm y Cowaeth a gafodd wrth Siawns
Os dwedi dimm wrtho fo ddilia dy Bawns
Gŵr Gweddw pert C'waethog [~ cyfoethog] sŷ 'n bŷw yn fy mhlŵy
Fo gladdodd yn barod o Wragedd Da ddŵy
A minneu 'di [~ ydyw] 'r Drydedd a fynuff o gael
Neu atteb y foru, a hynnŷ 'n ddiffael
Mi ddoeda 'ti [~ i ti] chwedel os celu fy Mun
Gŵr Gweddw go anhydŷn gwna 'i gyngor ei hun
A dwndrio 'm y Gwragedd a roes yn y Bêdd
Pann glowoch di hynnŷ fo altria dy Wêdd
Un ffyddlon o Lengcŷn mewn Synwŷr ag Oed
A hwnn pe dymunwn, doe gida mi 'r Coed
Pe bae o C'waethogcach [~ cyfoethocach] mi cerwn o 'n gu
Dŷn Ievangc naturiol hawddgaredd mŵyn hu.
Na ddyro mo 'th hyder ar Fwnws y Bŷd
Nyddu di ei feddwl yn wden o hŷd
Gwybŷdd hŷnn ymma, considria fy Ngwenn
Bŷdd anodd ei ŵyro pann êl o 'n hên Brenn.
Ni roddai mo 'm hyder ar fwnws difŷdd
Ond bellach gollyngai 'r Carcharor yn rhŷdd
Ag am dy Gynghorion ni 'nghofiais [~ anghofiais] i 'r un
Mi rendri nhw o newydd pann gaffwy fy hun
Ag yno fo Hedodd yr Hedŷdd yn ffri
Rhoi ffarwel tybiase heb ŵybod i mi
i 'w Dseler Naturiol hawddgaredd myn Mair
Lle Base fo ' ngharchar [~ yng ngharchar] dros ddwyawr neu dair

[td. 308b]
Yna mi godais o gyscod y tŵyn
Lle clowswn i 'r cwbwl ymddiddan tra mŵyn
M' [~ Mi] Edrychais o 'm Cwmpas ni welwn i 'r un
Ond Geneth ireiddwen a minneu fy hun
Cyferchais well iddi y Gannaid Lân wenn
A Minneu 'n Ddŷn Ofer, da heuddwn gael Senn
Mi bwysas nes atti 'r arafedd Dlŵs Fun
Dymunais gael Cusan heb wybod i 'r un.

Owen Prichard Lewis a 'i Cant
1668.


[td. 309a]

[9. Rhŷs Gray, Ymddiddan rhwng Hên Ŵr a Llangc (1661)]
Ymddiddan rhwng Hên Ŵr a Llangc.

A m 'fi [~ A myfi] 'n rhodio ar foreuddŷdd
Dann fyfyrio, 'r [~ ar] lether Bronŷdd
C'arfum [~ Cyfarfum] a Henwr mŵyn afieithŷs
A 'm Crosafau yn Gynghorŷs
Dŷdd da i 'r Glanddŷn pert ei foddeu
Duw 'n rhŵydd f' Ewŷrth a fo i Chwitheu
Par a helŷnt sŷdd i 'th ymlyd?
Serch, a ffoledd ag Ieviengctŷd
Bu rhain gŷnt i 'm trwblio inneu
Nhw allen fôd, nid ydŵy 'n ammeu
Ond yn awr mi rhois i fynŷ,
Pan elŵy 'n Hên gwna inne hynnŷ
Serch a laddodd Byramus, fawrgrŷ
Mâth ar ansiawns ydoedd hynnŷ
Ag a ddifethodd lawer Glanddŷn
Nid y fi mo 'r un ohonŷn
Gwagedd sŷ 'n cynhyrfu 'viengctŷd [~ ieuenctid]
i ba beth? rhowch atteb diwyd?
i bôb mâth ar annuwioldeb
Och! ni ddilynai fŷth ffolineb.
Amser sŷdd i bôb Masweidddra
Di a 'i cymeraist gida 'r hŵya
Pa'm a doedwch f' Ewŷrth hynnŷ
Am fôd ffoledd i 'th orchffygy
Bêth sŷdd oreu 'm gosbi ffoledd?
Synwŷr faith a Duwiol fuchedd
At bŵy mae mi geisio 'r heini
Gann wneuthurwr pôb Daioni
Pa fôdd y Ceisiai gann fy ngheidwad?
Drŵy ddŷfn weddi a phur ddeisyfiad
A geidw 'r Rhain fi 'ddiwrth [~ oddi wrth] bôb dialedd?
Os Di a 'i dilŷn hŷd y Diwedd.
Os dâw gofŷn pŵy yn gyson
A geisiodd lunio 'r ymadroddion
Rhŷw Ddŷn Ievangc mŵyn cyfannedd
Sŷdd yn ffaelio barrio ffoledd.

Rhŷs Gray a 'i Cant. 1661.


[10. Rhŷs Gray, Cân a wnaed i M.r Harri Bulkeley (1672)]
Cân a wnaed i M.r Harri Bulkeley, mâb i
Arglŵydd Tomas Bulkeley o 'r Barn-Hill
yr hwnn a amcanodd ddwyn trais ar Ellen
Prŷs o Ben-Hwnllŷs, ag a rwystrŵyd gan un
Michael Prŷs a ddigŵyddodd fôd yn clowed
yr Ymadroddion. Y Mesur. Cŵymp y Dail.

A m 'fi [~ A myfi] 'n myned (mi fynega)
Heibio i Lŵyn o Goed o 'r tecca
Gwelwn Ferch 'r un liw a 'r Ewŷn
îs lâw 'r Coed yn Medi Rhedŷn
Gwelwn Fâb yn llammu llŵyneu
Drŵy fawr frŷs yn torri cloddieu
Ag yn cyrchi 'n inion atti
Ag yn doedŷd nôs dawch wrthi

[td. 309b]
Cynta golwg Gwelwn arno
A bereu ei hŵyneb grasol wrido
O wîr ddychryndod Och, O Druan!
i lawr o 'i Llâw gollynga 'r Crymman
Yn ei Gwen law ynteu 'mela
Dymma 'r Sutt a 'r môdd a doeda
Llawer gwaith fy Ngwenn lliw 'r Eira
Y dymunais dy gael di ymma
Gwae fi nyfod! Gwae fi ngeni
Och Dduw! bêth a wnewch a myfi?
Er mŵyn y Gŵr a 'ch prynnodd chwithe
(Rŵy 'n glâ iawn) a gae fynd adre?
Nid oes arnat di mo 'r Dolur
Mae gennit ddigon o ddrŵg Nattur
Gwnn nad eid di 'n Forwŷn weithan
Nes y Caffŵy Nghwbwl amcan
Duw! par amcan ydi hwnnw
A wnewch a Merch sŷ 'n ymil marw?
Gwnn na byddwch chwi mor Anlan
Mae 'chwi [~ i chwi] Bedair Chwaer chw' hunan
Ped fae i mi Chwiorŷdd Ddeuddeg
O Gwnae undŷn iddŷn Niwed
Mynn y Diawl mi traetha iti
Mynnwn naill ai Lâdd neu Grogi
Er eich bôd yn Ŵr Bonheddig
Yn cael eich perchi bôb ychydig
Duw a safo gida Siarlas
Sŷ 'n Rheolwr ar y Deyrnas
Well, Go to! fe ddarfu 'r siarad
C'ôd a 'th Lâw dy hun dy ddillad
Eich nawdd er Duw! a llai o 'ch Geirieu
Na wna dros fy mrathu a Chleddeu
Myned yn ei chŷlch o ddifri
Yr oedd ar gael y Maes oddiarni
Min' [~ Minnau] attebais am y Terfŷn
Paid a 'r Ferch, tydi 'r Gelŷn
Mae 'n well ginnî na Mîl o Bunna
Fôd yn gwrando dy 'Fadrodda
Er afrowoccad ŵyt ti 'r Ceneu
Hi geiff fynd yn Forwyn adreu
Os dâw gofŷn bŷth yn unlle
Aeth y Ferch yn Forwŷn adre
Na chaffŵy Gymmun ond a gefais
Ond aeth i yn y môdd y doedas.

Rhŷs Gray a 'i Cant 1672


[td. 310a]

[11. Edward Morus, Epithalamium (1673)]
Epithalamium.
Neu Gerdd Priodas Hên Ŵr a Hên Wraig
Y Mesur. Tromm Galon.

Yn ôl Crëu 'r Bŷd a 'i Degwch,
Ein Tâd Adda trŵy ddedwyddwch
Ni bu heb gael ymgeledd gymmŵys
Amhriodol Ymharadŵys
Gwnaethŵyd hardd Gymares iddo
Un Naturiaeth, wiw happ helaeth i heppilio
Asgwrn oedd o Esgyrn Adda
Glân Briodas, cwlwm urddas, cael y Mawrdda
Fellŷ Heppil Adda ag Efa
Fal yr Hên Rieni cynta
Sŷ 'n Cysylltu Gwrŷw a Benŷw
Ymhôb Oes Erioed hŷd heddŷw
Ac i Drî diben yn enwedig
Mor gyfaddas, gwnaed Priodas Gnawd puredig
Ynill Plant, Ymg'leddgar [~ ymgeleddgar] burdeb,
Ag i 'w ffrŵyno, a 'th Cadŵyno rhag Godineb.
Ond Mae gormod y Blant Dynion
Yn croesi 'r gwîr a 'r iawn ddibennion
Drŵy Anifeiliadd ymgyssylltu
Marchnad wael fal prynnu a gwerthu
Chwant y Cnawd a 'nafodd [~ anafodd] Nifer
Neu Chwant Arian, gwaith a 'liwian gwaeth o lawer
Hên ag Ievangc anystywall
Heb ddim Cariad, neu Henuriad a Hên arall
Dau fu Leni Difoliannus
Yn eu Hiëuo 'n anghymarus
Gŵr Du wrth Wraig; Gŵr dŵy a Thrigiain
Yn anfelus ag yn filain
A 'r Wraig yn Hanner Cant a Chweblŵydd
Trinied Weithan un yn oedran anynadrŵydd
Yr hên Gŷrph sŷdd wedi pallu
Darfu 'r Nŵyfiant, er bôd trachwant yn eu trechu
Cybŷdd blin o chwant Cynhysgeth
Ar feder cael chwanegu ' gyweth [~ ei gyfoeth]
Ond erbyn gwneuthur inion gyfri
'R oedd dyledion i 'w dylodi
Pann ddêl Dŷdd Tâl yr hawl ddyleddus
Bŷdd anynad, garw ei Driniad Gŵr Oedrannus
Tŵyllo 'r Cybŷdd; yn lle mowrdda
Croesi ' feddwl [~ ei feddwl], hynny, Fwdwl, a 'i hynfyda
Y Gŵr Têw, a 'r Geirieu tauog
Blina hugwd a blonhegog
Oedd feddylgar pann ddewiseu
Y Wraig dyner rowiog Deneu
Fal y bydde hawsach cydio
Cŷrph trachwantus, waith hîr dyrus a thorr Daro
Ni wnaethŷd fŷth wrth fynd ynghwpplws
Rhwng dau Dewion, iâch hŵyl fŵynion Orchŵyl Venus
Yr Hôll Briodas ni ddarllennodd
Y Parchedig Len a 'th rhŵymodd
Oblegid (onid oedd y Gwrda)
Fôd y Wraig dros oedran planta
Ydŷw 'r Cwlwm (wedi 'r Coledd)
Yn gyfreithlon, bur naws inion, Barn y Senedd?
A Eill y Ddeuddŷn (os daw Cyffro)
Ag anghydfod, dorri 'u hammod wedi rhwymmo?

[td. 310b]
Mae 'n Nerthol Gwŷnt y Gŵr pann ddigio
Fal Penn Prês fe ' chwŷth oddiwrtho
Pêth anaddas oedd cadŵyno
Blaidd ag Oen heb Le iddi gŵyno
Llygoden êl i 'r Trapp i 'mlonni [~ ymlonni]
Daw 'difeirwch [~ edifeirwch] rhŷw wareiddiwch rhowir iddi
Ar Eden êl i 'r Rhŵyd mewn penbleth
Er a wingo, nid 'ŵy [~ wyf] 'n coelio y diangc hi Eilwaith
Clymmu Esgŷrn Hên yn Suttiol
Mae 'n waith anhawdd amherthynol
Ni Ddŵg Tîr mo 'rr ffrŵyth pann flino
Hwsmon Hên nid eill lafurio.
Trychu 'r Gwynwŷdd trŵch wâg ana
Pann ddiflannodd, gwnn nid allodd gwann a dŵylla
Oeri wnaeth y Gwelŷ 'n Rhybell
Ni Chynesir, un nôs difŷr yn eu Stafell
Deuddŷn Ievangc a Briodo
Diwall heddwch Duw a 'th Llŵyddo
Ag na chlower drŵg ymddrysŷ
Fŷth fynd Hên at Hên ond hynnŷ
Dau Farr haiarn oer yn 'r unlle
Bŷth nid Assian, un têw anian ag un Tene
Yn iâch Gariad pur diragrith
Yn eu hamser, yn iâch fwynder, yn iâch Fendith

Edward Morus o 'r Perthi Llwydion yn
Sir Ddinbech a 'i Cant 1673.


[12. Huw Morus (?), Cerdd i ofyn Coffor i Sion ap Huw Morus ]
Cerdd i ofyn Coffor i Sion ap Huw
Morus, lle mae pôb Braich i bôb penill
yn Diwedd fal eu gilŷdd

Sion ap Huw Morus sŷ 'n barchus yn bôd
Hŷd Wledŷdd a Threfŷdd glân arwŷdd glain glôd
Gida chwi 'n geidwad mae rhediad y Rhôd
Gwrandewch ar fy Nhestŷn Eglurŷn y Glôd
Y Chwi Sŷdd Ŵr mŵynlan da wiwlan di-wael
Creadur Caredig Bonheddig Baun hael
Eich ail ffordd yn rhodia y mŵyna i roi mael
O fewn y Deng milltir ple gellir ei gael?
Chwi gowsoch wêdd foddus oedd reunus dda ei Rîn
Fal Haul yr hawddgarwch gwîr harddwch yr Hîn
Mae 'wyllŷs [~ ewyllys] eich Mynwes morr gynnes a Gwîn
A 'ch Mŵynder a dastia fal Manna 'r fy Mîn
Cydymaith afieuthus cellweurus call iawn
Synhŵyrol, Gŵybodol Bucheddol wŷch lawn
Fal cangen a blyge pann dyfe mewn dawn
Yn bur ag yn beredd i 'ch cyrredd' ni 'ch cawn
Eich Synwŷr a 'ch Calon ail Solomon Sŷdd
Syberwŷd Siob hefŷd hôff hyfrŷd ei ffŷdd
Pigmalion o amcan pawb doedan pôb Dŷdd
Am waith eich Myfyrdod rhyfeddod a fŷdd
Pôb crefftwr a 'ch barna yn benna lle bôn
Y Llâw ucha 'i eiste wŷch raddci chwi 'rôn
Nid oes rhwng y Ddeufor a Faelor i Fôn
Yn Wâs nag yn Feister un Seiner ail Sion
I ddyscu 'r Seineriad y Lluniad eich Llâw
Hîr-weithio gyflymwaith fanylwaith a Nâw
Yn Llifn gida 'r llinin heb friwsin o frâw
i dorri Cerfiadeu yn ddeheu hi ddâw
Wrth glywed gann ddynion mawr foddion mor faith
Eich geirdadrŵy Gymru yn tyfu 'mhôb [~ ym mhob] taith
Mi ' rois yr ymennŷdd a 'r 'wenŷdd [~ awenydd] ar waith
i 'ch gyrru chwi i chwysu 'm werth chwe Swllt neu Saith

[td. 311a]
Hŷn ŷw fy hyder yn rhu daer f'm rhoed
Gael gennŷch Gîst gostus ar drefnus ddau droed
Cewch fawl am eich trafel yr Angel da 'rioed [~ erioed]
Taith ole (oni thale) mi 'ch care 'm eich Coed
Am roddi Aur ynddi mawr ydi fy mrŷd
Ond casglu cynghorion fy Nhgalon ynghŷd
Fe ddarfu mi ddiogi yn ddigon o hŷd
A phawb oedd yn credu mae methu wnae 'Mŷd
'Rŵy 'n gweled pôb Hunŷdd o Gybŷdd o 'i Go
Yn cael y braint ucha yn benna lle bo
Er bôd y Gŵr anfŵyn morr ynfŷd a llo
Y Merched a 'i caran, ni fynnan ond fo
Finneu 'n oferedd a fwriais yr ha
'Rŵy 'n ofal dâw Gaua yn Eira 'g [~ ac] yn iâ
Os llwybŷr y Cerlŷn i gychwŷn a ga
'Rŵy 'n gwybod mae 'n Gybŷdd ŵr ufŷdd yr â
Os peru fy Einioes i fyned yn Hên
Ar f' Wyneb edrychwch ni welwch un Wên
Yn G'waethog [~ gyfoethog] mi goetha heb eu gwaetha 'n eu Gên
Yn Gybŷdd da dedwŷdd pawb doedad Amen
Ni wnae mo 'rr Gerdd ofer o bleser i Blant
Nag unferch a 'r aned er mŵyned ei Mant
Yr awron 'rŵy 'n myned cin sobred a Sant
A hŷnn oedd yn ammeu gwnn gynne ginn gant
Pann elŵy i gwmnhiaeth mewn afiaeth a Nŵy
Mi ddysge fynd heibio (gwnn tebŷg i bŵy)
Os Cariad â 'n fychan, f' â f' Arian yn fŵy
Y ffyrling yn Ddimme, a 'r ddimme eiff yn ddŵy
Mi 'mgroesa [~ ymgroesaf] rhag Crowsio, 'rŵy 'n addo rhoi Nâg
A yfo ormodedd ar diwedd fe dâg
Cynnes ŷw Ceiniog, ag oer ŷw 'r Pwrs gwâg
Ond mawr oedd oferedd y Cynta wnaeth Frâg
Mae ganni gariad i 'r Arad a 'r Ôg
Mi'n mynne cin duwsul a Cheffŷl a chlôg
A Gwreigan fŵyn anllad a 'nillo [~ enillo] i mi Lôg
i drwsio 'i gonestrŵydd gwna Gowŷdd i 'r Gôg
Mi gadwa Dŷ tacclŷs morr drefnŷs a 'r Drŷw
Pŵy bynnag a geisio ffael iddo ffôl ŷw
Pann ddêl un i gnoccio, mi golla fy nghlŷw
Mae Males fy Mynwes ar fantes i fŷw
Dŷdd Sul y bore lle myned i 'r llann
Mi wna werth fy Nghinio wrth gwsnio 'r Dŷn Gwann
Yn debŷg i Lŵynog mi lyna 'n fy rhann
A mŵy nag a haedda mi a 'i mynna 'mhôb [~ ym mhob] mann
Pann elŵy ' farchnatta [~ i farchnata] , mi dynga Lw dŵys
A Chalon ddichelgar, a moddgar air mŵys
A brynno ddim genni ceiff falc yn ei gŵys
Bŷdd siwr iddo fisio ar fesur a phŵys
Mi a 'n gwla, mi a 'n galed, mi a 'n grabed mi a 'n Grîn
Mi a 'n benna Cribddeiliwr, mi a 'n floeddiwr, mi a 'n flîn
A bwrriad anynad, mi a 'n anodd fy Nhrîn
Am undyn ni phrisia y lleia o 'r hâd llîn
A 'r Gaib, ag a 'r Crymman yn rhŵyddlan a 'r Rhâw
Mi Geibia, mi feda, mi gloddia 'r y Glâw
Ymeulŷd a 'r golŷd i 'm gwelir i drâw
Fal Gwraig a fae 'n godro 'n dyludo 'i dŵy Lâw
Mi grafa, mi gasgla, mi rodda fy mrŷd
Yn chwannog yn dauog yn glyttiog yn glŷd
Pann ddarffo i mi feggio heb ango 'n y bŷd
Mi â 'r trysor yn sobor i 'r Coffor igŷd
Gweithiwch hi 'n ddichlŷn 'rŵy 'n erfŷn yn Awr
Yn hardd iawn ei gweled yn gowled i Gawr
Yn ddyfn ag yn grothog, yn foliog, yn fawr
Rhag ofn i 'm trysor fynd trosodd i lawr.

[td. 311b]
Pann fyddo hi 'n barod, rhŷw ddiwrnod mi ddo
Fe ddiolch yn ddiflin aur frigin ei fro
F' anwylŷd, mi a 'i nola yn gyfa 't [~ at] y Gô
Dann lunio dau Englŷn i 'r Glanddŷn am Glô
Un pêth sŷ 'n fy nhrwblio, i 'm clŵyfo fal Clêdd
O chasglai wrth ddrŵg weithio heb huno mewn hêdd
'Rŵy 'n ofni mae arall (oer angall ŷw 'r Wêdd
A 'i gwarria dann chwareu a minneu 'n y Mêdd
Er myned mewn uchder mŵy mowredd na Maer
Nid adwaen i 'n unlle un tene ddŷn taer
Na Brawd, na Chyfnither, na Chefnder na chwaer
A digon o Synwŷr i 'w wneuthŷr yn Aer
Pan gaffŵy 'r da 'n grynno i 'w rhifo mewn rhôl
Mi gym'ra [~ gymeraf] f' Esmŵythdra, mi Eistedda 'r fy Stôl
Ni waeth i mi am gwrw i gwarrio nhw 'n ffôl
Na 'i gadael nhw i chwithe i chwerthŷn ar f' ôl.

Huw Morus o Lansilŷn a 'i Cant mêdd rhai,
ond nid ŵyfi 'n coelio fôd pêth mor drwscwl wedi
dyfod erioed o 'i Ene.


[13. Huw Morus, Deisyfiad Priodas (1675)]
Deisyfiad Priodas. Y Mesur Trom Galon.
neu Heavy Heart.

Y fun dyner f' Enaid Anwŷl
Euraid osgedd hîr ei disgwŷl
Nid ŷw addewid heb gowiro
Ond fal gweithred sâl heb selio
Sŵydd o 'r Sala blina blinder
Ŷw gwasaneth gwirion afieth garu 'n ofer
Madws bellach glymmu Cariad
Cwlwm ffyddlon, i 'n rhoi 'n gyson rowiog asiad
Mae fy hyder ar dy addewid
A 'm serch a 'i Sylfaen ar dy Lendid
Mae dy fŵynder yn fy mhorthi
Ac etto heb gael mo 'm llawn fodloni
Ŵyt yn berffaith Eneth unig
O rywogeth, fŵyn dêg odieth fendigedig
Dy gael dann Sêl mewn gafel gyfion
Am hawddgarwch, hafedd degwch, a ffŷdd digon
Er fy môd yn anhymoredd
Cawn Le i aros Meinael iredd
Yr hên ddaiar Lŵyd sŷ lydan
A rhann o honn i ninneu 'n rhywfan
Mae Duw 'n rhannu doniau a rhinwedd
A lle i aros (fal dŵy Eos) i ni 'n deuwedd
Fe geir Tay a Thîr am Arian
Ond cael Priodas, fŵynedd addas i fŷw 'n ddiddan
Cymmer Galon Gwenfron gynnes
Dda, fal finne 'n ddiofal fynwes
Mae rhai mewn Plasau mawr yn Methu
A rhai mewn bythod bâch yn ffynnu
Od doi meinwen er dymuno
Di gei Gariad a thêg siarad i 'th gysuro
Nid ŷw beryglŷs iti fentrio
Cyfell ffyddlon, gwŷch hael Galon gochel gilio
I mi 'n fy Mywŷd mi 'th ddewisa
A thrŵy 'r dŷdd mi 'th anrhydedda
Ni chymerwn Blŵy Llandrillo
Euraid Rosun er dy ruso

[td. 312a]
O chae dydi, mi ga 'm bodlono
Gida'g [~ Gydag] Iechŷd (Dedwŷdd olŷd) doed a ddelo
Awn i glymmu 'n gloyw ammod
Wiwddŷn weddedd, aur fîn beredd 'r ŵyfi 'n barod.

Huw Morus a 'i Cant. 1675.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section