Adran o’r blaen
Previous section

Williams, Mathew. Hanes holl grefyddau'r byd, yn enwedig y grefydd Grist'nogol: ymha un y gosodir allan ddarluniad cywir o'r holl wahanol sectau, opiniynau, a daliadau proffeswyr yr oes bresennol, ag sydd adnabyddus wrth yr enwau canlynol, sef, atheistiaid, deistiaid, Iuddewon ... (Caerfyrddin, Aberhonddu: I. Daniel, Messrs. North, 1799), 11-58.

Cynnwys
Contents

Am y Grefydd Iuddewig. 11
Am Eilun-Addoliaeth yn gyffredinol. 22
Dechreuad Paganiaeth ac Eilun-Addoliaeth wedi'r Diluw. 25
Ychydig mewn perthynas i 'Stad bresennol EilunAddoliaeth ymhlith y Paganiaid, yn enwedig y Chinese. 27
Am Grefydd y Paganiaid yn y Carnatic, Colconda, Bisnagar, Decan, &c. 29
Crefydd y Bobl sy'n trigfannu yn Japan. 30
Crefydd y Bobl sy'n trigfannu yn Pegu. 31
Crefydd Pobl Siam. 32
Crefydd y Gaurs neu'r Gueres yn Persia. 34
Crefydd yr Indiad o fewn i'r Ganges. 35
Crefydd y Tartariaid, Suberiaid, a'r Tibetiaid. 37
Hanes y Grefydd Baganaidd yn America. 38
Hanes y Grefydd Baganaidd yng Ngogleddol Barthau Ewrop. 42
Am y Grefydd Baganaidd yn Affrica. 45
Ynghylch y Rhan oreu o'r Grefydd Baganaidd. 47
Am y Grefydd Grist'nogol. 50
Am y Grefydd Fahometanaidd. 52
Amryw Opiniynau, mewn perthynas i Berson IESU GRIST. 56


[td. 11]


Am y Grefydd Iuddewig.


YR Iuddewon o ran eu dechreuad sy 'n deilliaw
o hiliogaeth yr hen batriarc, sef Abraham;
dyn ag oedd yn fawr ei anrhydedd, a chwedi ei
ddewis gan Dduw amser byr ar ol y diluw, i gynnal
adnabyddiaeth o 'r dwyfol undeb ymhlith cenhedloedd
eilun-addolgar y byd. Y grefydd Iuddewig
a welir yn ei llawn berffeithrwydd yn
mhum llyfr Moses, sylfaenwr eu cyfreithiau gwladol
ac eglwysig; yr hwn hefyd oedd eu harweinydd

[td. 12]
o dir y caethiwed yng wlad yr Aipht, i 'w dwyn i feddiannu
'r addawedig wlad (ag oedd i fod yn gysgod
o 'u tragywyddol ddedwyddwch) sef gwlad Canaan.

Barn y bobl hynny ag oedd yn byw yn yr oesoedd
cyntaf wedi 'r diluw, ymddengys fod yn syml, yn
barchus, ac yn ddidwyll; yr oeddynt hwy yn edrych
ar Dduw fel eu Creawdwr, ac yn hollol gredu yn
ei ragluniaethau, trwy gyfeirio eu golwg ymlaen at
y Person hwnnw ag oedd i fod yn offrwm dros bechod,
neu yn gyfryngwr drostynt at Dduw. Ni
welwn hefyd, mai mewn ychydig amser ar ol gwasgariad
plant Noa, rhannu 'r teuluoedd, a chymmysgu
'r ieithoedd, i lawer iawn o ddynol ddychymygiadau
newyddion gymmeryd lle mewn crefydd,
yr hyn fu 'n achos o alw Abraham o Ur y Caldeaid,
fel y byddai iddo ef a 'i dylwyth gadw addoliad ac
adnabyddiaeth o 'r gwir Dduw.

Mewn trefn i ddangos gwreiddiol egwyddorion y
grefydd Iuddewig, ni a gawn yn y lle nesaf osod i
lawr o flaen y darllenydd swm eu ffydd, yr hon a
gynhwysir mewn tair ar ddeg o erthiglau, y rhai
ydynt y fath a all un genedl neu Grist'nogion eu
harddel, ond honno yn unig mewn perthynas i ddyfodiad
y Mesia.

I. Yr wyf yn credu, trwy ffydd berffaith, mai
Duw yw Creawdwr pob peth, ei fod ef yn tywys ac
yn cynnal ei holl greaduriaid; mai efe a 'u gwnaeth;
a 'i fod ef yn wastadol weithredu, ac yn parhau felly
i bob tragywyddoldeb.

II. Yr wyf yn credu fod un Duw, ac nad oes
undeb ond efe: efe yn unig oedd, sydd, ac a fydd i
bob tragywyddoldeb yn Dduw i ni.

III. Yr wyf yn credu, nad yw Duw yn beth corphorol;
na all fod ganddo un naturiol briodoledd;
ac nad oes un hanfod gorpholaidd i 'w gydmaru ag
ef.

IV. Yr wyf yn credu, mai Duw yw dechreuad
a diweddiad pob peth.

V. Yr ydwyf yn credu, mai Duw yn unig a

[td. 13]
ddylid ei wasanaethu, ac na ddylid addoli dim arall
ond efe.

VI. Yr wyf yn credu beth bynnag a ddysgwyd i
ni gan y prophwydi, ei fod yn wirionedd dwyfol.

VII. Yr wyf yn credu, fod athrawiaeth a phrophwydoliaethau
Moses yn wir; mai efe yw tad a
phennaeth y doctoriaid, yr holl rai a fuant fyw o 'i
amser ef hyd yn hyn, ac a fydd o hyn allan.

VIII. Yr wyf yn credu, fod y gyfraith yn anghyfnewidiol,
ac na roddir un arall yn ei lle.

IX. Yr wyf yn credu, fod y gyfraith ag sydd
gennym yn bresennol, yr un ag a roddwyd i Moses.

X. Yr wyf yn credu, fod Duw yn gwybod holl
feddyliau dynion a 'u gweithredoedd.

XI. Yr wyf yn credu, y bydd i Dduw wobrwyo
gweithredoedd pob un a gadwo ei orchymynion, a
phoeni troseddwyr ei gyfraith.

XII. Yr wyf yn credu, fod y Messia i ddyfod; ei
fod yn oedi; mi a arosaf ac a ddisgwyliaf beunydd
am ei ddyfodiad.

XIII. Yr wyf yn credu adgyfodiad y meirw, yr
hyn a fydd pan welo Duw fod yn dda. A bendigedig
fyddo enw ein Creawdwr yn dragywydd.

O ddeutu amser ein Iachawdwr, yr oedd yr Iuddewon
wedi ymrannu yn amryw sectau; ond y
rhai mwyaf nodedig o honynt oedd y Phariseaid, y
Saduseaid, yr Esseniaid, a 'r Herodiaid.

Phariseaid, sect nodedig, a elwid felly oddiwrth y
gair Hebraeg (Pharesh) yr hwn sy 'n arwyddo ymraniad
neu ymneillduad, o herwydd eu bod hwy yn
cymmeryd arnynt i gadw 'r gyfraith a thraddodiadau,
a rhodio yn fwy perffaith a sanctaidd nag eraill o 'r
Iuddewon. Mae 'n rhy anhawdd gwybod yn iawn
pa bryd y dechreuodd y sect hon; ond mae 'n ddigon
tebygol iddynt godi fynu pan ddechreuodd traddodiadau
ddyfod mewn ymarferiad yn lle cyfraith Dduw.
Yr oedd y Phariseaid yn groes i opiniynau 'r Saduseaid,
trwy ddala adgyfodiad y meirw, a 'r hanfod o
angylion ac ysprydion, Act. xxiii. 8. Ond yn ol

[td. 14]
hanes Josephus, nid oedd yr adgyfodiad yma ddim
yn 'chwaneg [~ ychwaneg ] nag athrawiaeth y Pythagoriaid; sef,
fod yr enaid yn cael ei symmud o un corph i 'r llall,
a 'i eni o newydd. Oddiwrth yr adgyfodiad hyn yr
oeddynt yn cau allan y rhai drygionus, gan gredu
fod eneidiau 'r cyfryw yn cael eu trosglwyddo i dragywyddol
drueni. Ond am droseddiadau bychain yr
oeddynt yn meddwl fod y rhei'ny i gael eu poeni yn
y cyrph ag oedd yr eneidiau hynny (ag oedd yn euog
o 'r trosedd) i gael eu danfon iddynt nesaf. Yn ol y
farn hon, yr oedd disgyblion Crist yn gofyn mewn
perthynas i 'r dyn dall, (Ioan ix. 2.) Pwy a bechodd,
ai hwn neu ei rieni, fel y genid ef yn ddall? A phan
y dywedodd y disgyblion wrth Grist, fod rhai yn dywedyd,
mai Elias, Jeremia, neu un o 'r prophwydi
oedd ef, (Mat. xvi. 14.) nid ydynt yn meddwl dim arall,
ond eu bod hwy yn tybied fod enaid Elias, Jeremia,
neu un o 'r hen brophwydi, wedi ei ddanfon ynddo.
Gyd â 'r Eseniaid yr oeddynt yn dal rhag-arfaethiad
ddiammodol, a chyd â 'r Saduseaid ewyllys rydd:
ond pa fodd y gallent ostegu dwy athrawiaeth mor
groes y naill i 'r llall, nid yw yn hawdd i eglurhau.

Gwahanol nodau 'r Phariseaid oedd eu sel dros
draddodiadau 'r henafiaid; yr oeddynt hwy yn haeru,
eu bod yn deilliaw o 'r un gwreiddyn a 'r gyfraith
ysgrifenedig ei hun. Yr oeddynt hefyd yn cymmeryd
arnynt gadw cyfraith Dduw i 'r manylwch
mwyaf; etto yn euog o 'r troseddiadau creulonaf
mewn nattur, dan allanol liw o grefydd. Mae 'n
Iachawdwr yn fynych yn eu galw 'n rhagrithwyr,
o herwydd eu bod yn gwneuthur cyfraith Dduw yn
ddieffaith trwy eu traddodiadau.

Saduseaid, sect ymhlith yr Iuddewon a elwir felly,
oddiwrth un Sadoc ei sylfaenwr. Hwy a ddechreuasant
yn amser un Antigonus, o Socho, rhaglaw o 'r
Sanhedrim, dysgawdwr cyfraith a difinyddiaeth y
brif ysgol yn ninas Jerusalem. Fe fu farw yn amser
Ptolomy Philadelphus, brenin yr Aipht. Yr
Antigonus yma oedd yn mynych athrawiaethu ei
ysgolheigion, nad o ofn slafaidd, nac er mwyn gwobr

[td. 15]
y dylid gwasanaethu Duw, ond yn unig trwy fabwysiadol
gariad a dyledus barch. Dau o 'i ysgolheigion,
Sadoc a Baithus, a gasglasant oddiwrth hyn,
nad oedd un gwobrwyad i ddisgwyl ar ol y bywyd
hwn; ac am hynny hwy a ymneillduasant oddiwrth
eu hathraw, ac a ddysgasant i 'r bobl, nad oedd y
fath beth ag adgyfodiad y meirw, na chyflwr tragywyddol;
ac nid hynny yn unig, ond hefyd yr oeddynt
yn gwadu 'r bod o angylion ac ysprydion, ac
yn arddel ond Duw yn unig; felly yn agos o 'r un
farn a 'r Epicuriaid, ond eu bod hwy yn addef mai
gallu Duw a greodd y byd, ac mai wrth ei ragluniaeth
ef yr oedd bob peth yn cael ei lywodraethu,
yr hyn oedd yr Epicuriaid yn ei wadu.

Mae 'n anhawdd deall, pa fodd y gallent wadu 'r
bod o angylion, gan eu bod hwy yn derbyn llyfrau
Moses, lle mae son yn fynych am angylion a 'u hymddangosiadau.
Mae rhai 'n meddwl nad oeddynt yn
edrych ar angylion fel bodau neillduol, neu hanfod o
honynt eu hunain, ond megis galluoedd yn dylifo
oddiwrth y Bod dwyfol, fel ag y mae llewyrch yn
beth gwahanol oddiwrth yr haul. Neu, f'allai, eu
bod yn dal, nad oedd angylion ac ysprydion ond rhai
marwol; fel ag yr oeddent yn tybied am y defnydd
sy 'n bywhau cyrph dynion, ac yn marw gyd â hwynt.
Mae llawer o 'r sect hon etto ymhlith yr Iuddewon
gwasgaredig; ond y mae 'r Phariseaid, y rhai mwyaf
aml, yn eu galw hwynt yn Hereticiaid.

Esseniaid, sect o bobl ag oedd ymhell tu hwnt i 'r
Phariseaid am y manylwch i gadw 'r gyfraith. Mae
rhai yn meddwl, a hynny yn ddigon tebygol, i 'r sect
hon godi i fynu yn amser herledigaeth Antiogus
Epiphanus, pan giliodd rhifedi mawr o 'r Iuddewon
i 'r anialwch, lle y darfu iddynt arfer eu hunain i bob
caled-fyd o fywiolaeth. Yr oedd dau fath o honynt,
rhai yn byw yn gymdeithasol, yn priodi, ac yn cyfaneddu
mewn dinasoedd, ac yn arferyd eu hunain
mewn hwsmonaeth a rhyw gelfyddydau diniwaid
eraill; yr oedd y rhai'n yn cael eu galw 'r ymarferol.

[td. 16]
Y lleill oeddent yn arferyd eu hunain i fyfyrdodau,
am hynny yn cael eu galw yr Esseniaid myfyrdodol.
Yr oedd y rhai'n yn gochelyd byw mewn trefydd,
rhag ofn i hynny dynnu ymaith eu myfyrdodau duwiol,
a 'u dwyn dan amryw fath o brofedigaethau.
Yr oedd pob un o honynt yn dilyn yr un defodau.
Nid oedd neb yn yfed gwin yn eu plith; yr oedd
pob peth yn gyffredin yn eu mysg, yn llettygar i
ddieithriaid, yn anghydmarol am eu diweirdeb, ac i
bob math o bleserau yn llwyr ddieithriaid. Yr oeddent
yn credu anfarwoldeb yr enaid a bywyd tragywyddol,
ond yn gwadu adgyfodiad y corph.

Er bod ein Iachawdwr yn argyhoeddi yr holl
sectau Iuddewig eraill, etto, ni ddywedodd ef ddim
am yr Esseniaid, ac nid oes air o son am danynt yn
y Testament Newydd; yr achos o hyn oedd, mae 'n
debyg, o herwydd eu neillduolrwydd oddiwrth bawb
eraill ond y rhai a fyddai o 'r un farn a hwynt eu
hunain. Yr oeddent yn derbyn dieithriaid, ac
llettygar i drafaelwyr; nid oeddent byth yn newid
eu dillad ne's byddent wedi eu llwyr dreulio; yr
oeddent ymhob peth yn grefyddol. Nid oeddent
byth yn chwedleua cyn codi haul, oddieithr gweddio
ar Dduw, am iddo wneuthur i 'r haul godi arnynt.
Yr oeddent yn manol chwilio 'sgrifenadau [~ ysgrifenadau ] 'r henuriaid;
yn gyfarwydd i wella doluriau, ac yn adnabyddus
ag amryw lysieuau meddyginiaethol. Rhai o honynt
oedd yn cymmeryd arnynt ragfynegi pethau i
ddyfod.

Herodiaid, sect ag sy 'n cael ei henwi 'n fynych yn
yr efengyl, er nad yw Josephus na Philo yn son dim
am dani. Mae 'r disgedigion yn ymrannu 'n fawr
mewn perthynas i 'r sect hon; ac fe ellir cyfrif naw
gwahanol opiniwn mewn perthynas i 'w gwreiddiol
ddechreuad. Mae rhai 'n barnu i 'r Herodiaid gymmeryd
Herod yn lle 'r Messia; ond fel ag y bu llawer
Herod yn llywodraethu ar yr Iuddewon, maent
etto yn ymrannu mewn perthynas i ba un o honynt
oedd yn cael ei adael yn Fessia. Mae y rhan fwyaf yn

[td. 17]
meddwl mai Herod y mwyaf, mab i Antipater, yr
hwn a fu farw ychydig fisoedd wedi geni ein Iachawdwr.
Fe ymddangosodd mewn amser pan oedd
yr holl fyd yn disgwyl am y Messia. Yr oedd ef
yn dywysog galluog, yn ddyn ardderchog, ac yn
rhyfelwr enwog. Fe ddywedir iddo gasglu cof-resau
cenhedlaethau tŷ Ddafydd, a 'u llosgi, fel na allai
neb brofi nad oedd ef yn dyfod o 'r hiliogaeth hynny,
o ba un y gwyddid fod y Messia i ddyfod. Yn ddiweddaf,
fe ddywed Persius, fod gwledd fawr i frenin
Herod yn Rhufain ymhlith yr Iuddewon, ynghyd â
goleuadau gorfoleddus. Eraill sydd o 'r meddwl,
mai Herod II. a gyfenwir Antipas, a Thetrac o
Galilea, oedd pen yr Herodiaid. Yr oedd ef yn
dywysog glân, ac yn ddigon trachwantus; canys
mae 'n Iachawdwr yn ei alw ef yn gadno, Luc xiii. 32.
Fe ellid yn hawdd feddwl ei fod ef yn drachwantus,
i gymmeryd arno mai ef oedd y Messia. Heblaw
hyn, mae llawer o opiniynau eraill mewn perthynas
i 'r sect hon, ond yr hwn a fynegwyd uchod, sy 'n
cael fwyaf o dderbyniad gan ddifinyddion.

Yn gymmaint a bod y gyfraith Iuddewig yn fygythiadau
tymhorol, mae 'n gwestiwn, pa un a oedd
ganddynt wybodaeth am gyflwr tragywyddol ar ol y
bywyd hwn; mae 'r opiniwn yma wedi cael ei ymddiffyn
yn ddysgedig gan Doctor Warburton, a 'i
wrthwynebu gan Doctor Sykes, a rhai awdwyr
cymmeradwy eraill.

Mae 'r Phariseaid a 'r Saduseaid yn mynych gael
eu henwi yn y Testament Newydd; adnabyddiaeth
o 'u hegwyddorion a 'u harferiadau a all fod o fawr
wasanaeth i oleuo llawer o ymadroddion a hanesion
ysgrythurol.

Yn bresennol mae 'r Iuddewon wedi ymrannu yn
ddwy sect; sef, Carasists, y rhai na fynnant derbyn
un rheol o grefydd ond cyfraith Moses yn unig, a 'r
Rabbiniaid ag sydd yn chwanegu at y gyfraith, fel y
dywedwyd uchod, amryw draddodiadau 'r Talmud.
Ond gan nad oes fawr yn gwybod beth yr ydys yn

[td. 18]
ei feddwl wrth y gair Talmud, yn y lle nesaf ni a
gawn roi ychydig o eglurhad o hono.

Cynhulliad o athrawiaethau crefyddol a moesol
yr Iuddewon yw 'r Talmud. Mae dau fath ag
sy 'n myned dan yr enw hwn; y cyntaf a elwir y
Talmud o Jerusalem; a 'r llall, y Talmud o Babilon;
mae pob un o 'r rhai'n wedi eu cyfansoddi yn
ddau ran, y * Misna a 'r Gamara.

Mae 'r Talmud o Jerusalem yn fyrrach ac yn dywyllach
nâ hwnnw o Babilon, ond yn henach o ran
amser. Mae 'r Iuddewon yn dewis y Talmud a
gyfansoddwyd yn Babilon o flaen hwnnw o Jerusalem,
am ei fod yn fwy goleu, ac yn helaethach. Y
Talmud o Jerusalem a 'r Misna, yn ol dehongliad
y Caldeaid, Onkelos, a Jonathan, yw 'r llyfrau hynaf
o athrawiaeth ag sydd gan yr Iuddewon, ond yr
awdwyr sanctaidd eu hunain. Mae Lightfoot wedi
tynnu llawer iawn o oleuni o honynt at eglurhau
amryw ymadroddion yn y Testament Newydd,
trwy gydmaru geiriau 'r Misna a 'r apostolion â 'r
efangylwr.

Pan ddinystriwyd Jerusalem gan Titus ymmerawdwr
Rhufain, yr hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn
70 o oedran Crist, fe gafodd yr Iuddewon eu gwasgaru
dros wyneb yr holl ddaear, fel nad oes braidd
un wlad na thalaith heb rai o honynt yn ei chrwydro;
maent hyd heddyw yn disgwyl y Messia, yr
hwn yn y iaith Hebraeg sy 'n arwyddo Eneiniog.—
Crist a elwir felly, canys efe yw 'r gwir Fesia, yr
hwn sy 'n Frenin, Offeiriad, ac yn Brophwyd; ac o 'i
herwydd ef y cafodd brenhinoedd, offeiriaid, a phrophwydi
eu heneinio, yr hyn oedd yn cael ei wneud
yn ffiguraidd neu 'n gysgodol o hono, oddiwrth y
gair Mesach, fe eneiniwyd. Felly Saul, Dafydd,
Solomon, Joash, a brenhinoedd Juda, a dderbyniasant
y frenhinol eneiniad, Aaron a 'i feibion yr

[td. 19]
offeiriadol wisgoedd cyssegredig, Elisha, disgybl Elija,
y brophwydol eneiniad.

Mae 'r Crist'nogion yn credu, mai Iesu Grist
yw 'r gwir Fesia, ymha un y mae 'r holl brophwydoliaethau
wedi cael eu llwyr gyflawni. Ond y
mae 'r Iuddewon etto, yn eu hynfydrwydd, yn parhau
i ddysgywl am Fesia tymhorol, yr hwn, meddant
hwy, a ddarostwng y byd, ac a osod i fynu un
lywodraeth gyffredinol; felly yn credu yn ei ddyfodiad.
Rhai mwy diweddar o honynt sy 'n tybied ei
fod eisoes wedi dyfod, ond ei fod heb wneuthur
ei hun yn amlwg, o herwydd mawr bechodau 'r
Iuddewon: eraill yn meddwl fod dau Fesia i ddyfod,
y naill ar ol y llall; un mewn cyflwr o ymddarostyngiad,
a 'r llall mewn anrhydedd, godidowgrwydd,
a gallu. Ond bydded i bob Cristion gofio,
fod Iesu wedi dywedyd yn rhagflaenol, er ein rhybuddio,
 'Os dywed neb wrthych, Wele dyma Grist,
neu dyna, na chredwch; canys cyfyd gau gristiau
a gau brophwydi lawer.' Ac wrth y wraig o Samaria,
 'Myfi yr hwn wyf yn ymddiddan â thi yw
hwnnw.'

Yn ol y brophwydoliaeth hon, yr ydym yn cael
hanes am lawer o dwyllodwyr a gymmerasant arnynt
enw 'r Mesia. Pob oes ymysg yr Iuddewon sydd
wedi bod yn hynod am ryw gau gristiau, neu gau
brophwydi, y rhai oedd yn dra llwyddianus i dwyllo'r
bobl. Y cyntaf, a 'r mwyaf enwog, oedd Simon
Magus, yr hwn a gyhoeddodd ei hun yn Samaria,
mai efe oedd gallu Duw. Yn yr oes ganlynol, un
Barchochobas, trwy ei dwyll, a dynodd erledigaeth
echryslawn ar yr Iuddewon. Yr ydys yn dywedyd iddo
ef gymmeryd yr enw hwn, ag sy 'n arwyddo yn Hebraeg,
 Mab y Seren, o herwydd fod prophwydoliaeth
Balaam yn dywedyd, y deuai seren allan o lwyth
Jacob; yr hyn ag oedd ef yn ei osod iddo ei hun,
gan roi allan, mai efe oedd y Mesia. Fe dynnodd
yr Iuddewon i wrthryfela yn erbyn llywodraeth
Adrian. Mae hanesion yn dywedyd fod ganddo

[td. 20]
25,000 o ddisgyblion; i Dduw ddatguddio amryw
bethau iddo ef, ag a gadwodd yn guddiedig oddiwrth
Moses; ac na allasai un llyfr gynnwys ei holl weithredoedd
a 'i ymadroddion ynddo.

O ddeutu 'r flwyddyn 434, fe ymddangosodd yn
ynys Candy gau Fesia a elwid Moses; yr oedd hwn
yn dywedyd mai efe a roddodd y gyfraith gyntaf i 'r
Iuddewon, iddo ddyfod i lawr o 'r nef i waredu 'r
Iuddewon o 'r ynys honno, trwy wneuthur iddynt
basio dros y môr yn eu hol i dir yr addewid: fe fu 'r
Iuddewon mor ddwled a 'i gredu, a llawer o honynt
a neidiasant i 'r môr gan debyg y caent ffordd agored
i fyned trwyddo. Llawer o honynt a foddasant, a 'r
lleill a ddaethant allan fel y gallent; pan aed i ymofyn
am y twyllwr, yr oedd ef wedi diflannu, am
hynny hwy a dybiasant mai yspryd ydoedd ar ddull
dyn wedi dyfod i amharchu 'r Iuddewon.

Yn yr oes ganlynol, 530, fe ymddangosodd gau
Fesia yn Palestina, a elwid Julian; fe roddodd hwn
ei hun i maes yn goncwerwr i wared yr Iuddewon
o ddwylaw gorthrymedig y Crist'nogion trwy nerth
arfau. Hwy a gymmerasant eu camarwain trwy 'r
addewidion hyn; fe gymmerodd yr Iuddewon i fynu
eu harfau, ac a dorrasant yddfau llawer o 'r Crist'nogion;
ond fe ddarfu i 'r ymmerawdwr Justinian
ddanfon byddyn i 'w cynnorthwyo: Julian a gymmerwyd,
ac a ddihenyddwyd, a 'i ganlynwyr a wasgarwyd.


Yn y flwyddyn 714, Iuddew a elwid Serenus, a
osododd ei hun i maes i 'r Iuddewon yn Yspain, mai
ef oedd i 'w harwain i Palestina, ac i osod i fynu ymmerodraeth
yno. Llawer (a gredasant mai efe
oedd y Mesia,) a adawsant eu gwlad a 'u gorchwylion
i 'w ganlyn. Ond hwy a ddeallasant yn ebrwydd
nad oedd ef ond twyllwr, ac a gawsant amser ddigon
i edifarhau am eu ffolineb a 'u crediniaeth.

O ddeutu 'r ddeuddegfed oes yr oedd yr amser yn
bur ffrwythlon am dwyllwyr o 'r fath hyn; fe ymddangosodd
ynghylch saith neu wyth o honynt yn

[td. 21]
Ffraingc, Yspaen, Persia, &c. un nodedig yn Morafia,
yr hwn, meddant hwy, a allai wneuthur ei hun
yn anweledig pryd y mynnai, trwy swyno llygaid ei
ganlynwyr. Yn yr oes ddiweddaf fe ymddangosodd
twyllwr nodedig a elwid Sabatai Tzevi, a osododd ei
hun i fynu yn lle Mesia, ond yn groes i ddisgwyliad
yr Iuddewon, fe a drodd yn Fahometan, yn 1666.

Yn olaf, fe ymddangosodd un Rabby Mordecai o
ddeutu 'r flwyddyn 1682, yr hwn a gymmerodd arno
yr enw o Fesia, ac a dwyllodd beth mawr o 'r Iuddewon
yn Itali a Germany i 'w ganlyn; ond fe gafodd
hwn ei gymmeryd i fynu gan yr Inquisition a 'i
drin fel twyllwr, yn ol ei haeddiant. Fel hyn y
mae 'r Iuddewon ymhob oes wedi bod yn gosod i fynu
gau gristiau, y naill ar ol y llall, er amser ein Iachawdwr
hyd yn awr, nid i un diben arall ond i ddangos
eu ffolineb a 'u angrhediniaeth.

Y pethau mwyaf neillduol a ddigwyddodd yn
amser neu hanes yr Iuddewon yw, galw Abraham o
wlad y Caldeaid, arwain yr Israeliaid o wlad
yr Aipht trwy 'r môr coch; rhoddi y gyfraith i
Moses ar fynydd Sinai, eu sefydlu yng wlad Canaan
dan lywodraeth Josua, adeiladu teml Salomon;
rhannu 'r llwythau, eu caethgludiad yn Babilon, eu
hadymchweliad dan Zorobabel i adeiladu 'r deml yr
ail waith, dinystrio hon drachefn gan Titus, a
gwasgariad yr Iuddewon dros yr holl fyd. Mae 'n
ddiammeu mai llyfrau 'r Hen Destament yw 'r hanesion
goreu a 'r hynaf ag ydym ni yn adnabyddus o
honynt. Yn dystiolaeth o hyn, edryched y darllenydd
i waith Josephus, un o 'u haneswyr goreu, o ba
waith y mae llawer cyfieithad yn Saesonaeg.

Pob dyn ag sy 'n caru 'r gwirionedd, ac yn chwennych
cael iawn dystiolaeth o 'i grefydd, nid oes achos
i Gristion fyth gael gwell nâ 'r hyn a welir mewn
perthynas i gyflwr yr Iuddewon yn bresennol! Duw,
er hynny, sy 'n ein gwarafun i wneuthur cam-ddefnydd
o 'r tystion hyn, a 'u sarnu dan draed, ond yn
hytrach i ddangos ein hynawsedd drugaredd tu ag
at y bobl annedwydd yma, y rhai sydd a 'u calonnau

[td. 22]
yn awr wedi caledi mewn tywyllwch ac angrhediniaeth.


Nid yw yn adnabyddus i ni, pa mor belled y
byddai i 'r bobl hyn ganiattau rhydd-did i Grist'nogion,
pe byddai 'r llywodraeth yn eu dwylo; ond
hyn a wyddom, nad oes gan Grist'nogion un hawl
i erlid; canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt
gnawdol, ond nerthol trwy Dduw, i ddyfod ag
eneidiau yn ddarostyngedig i Grist.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section