Adran o’r blaen
Previous section


Am Eilun-Addoliaeth yn gyffredinol.


EILUN neu ddelw-addoliaeth yw gwasanaeth
grefyddol a roddir i ddelwau a gau dduwiau;
ac yn gyffredinol a ddeallir am bob annuwioldeb a
phob math o goel-grefyddau. Nid yw awdwyr
yn gallu llwyr gyttuno mewn perthynas i wreiddiol
ddechreuad na 'r achos o eilun-addoliad. Lucretius
oedd yn meddwl y gallai dyn o fwriadau terfysglyd,
a fyddai 'n deilliaw oddiwrth ofn, ddarlunio rhyw
ddychymmyg o dduwiau iddo ei hun.

Yr wrthddrych gyntaf o eilun-addoliaeth a ellir
feddwl, oedd yr haul, lleuad, a 'r ser, ac yn gysgodol
o honynt, y tân. Eraill oedd yn credu fod yr addoliad
yn y dechreuad yn cael ei wneuthur i angylion.
Ffosius sy 'n gosod allan, pan ddarfu i ddynion gyntaf
ymadael â 'r gwasanaeth ag oedd yn ddyledus i 'r
gwir Dduw, iddynt roddi dwyfol anrhydedd i ddau
egwyddor, sef, y da a 'r drwg.

Mae rhai awdwyr yn meddwl bod eilun-addoliad
yn henach nâ 'r diluw, ac yn credu iddo ddechreu
cyn amser Enos; a hyn y maent yn ei brofi trwy
ddyfynnu yr adnod olaf o 'r bedwaredd bennod o
Genesis, lle y dywedir, yn ol y cyfieithad cyffredin,
'I ddynion ddechreu galw ar enw 'r Arglwydd.'—
Ond yn ol rhai awdwyr, y maent yn ei gyfieithu,
'Pryd hynny dechreuodd dynion halogi enw 'r Arglwydd.'



[td. 23]
Yn fuan ar ol y diluw, fe aeth yr holl fyd yn
benwan mewn eilun-addoliad; canys p'le bynnag y
trown ein llygaid, er a chyn amser Abraham, ni chair
gweled dim ond gau-addoliad ac eilunod trwy 'r
holl ddaear. Tad Abraham, ac Abraham ei hun,
a fuant yn euog o wasanaethu duwiau eraill tu hwnt
i 'r afon Euphrates. Mae 'n ddigon eglur fod delwau
gan Laban, pan yr y'm yn cael hanes i Rachel,
o gariad iddynt, fyned â hwynt gyd â hi. Y rhai'n,
ynghyd ag eraill ag oedd yn cael eu cadw yn y teulu,
a guddiodd Jacob dan dderwen yn Sechem, fel na
chaent eu defnyddio mwyach.

Delwau eraill a sonier am danynt yn yr ysgrythurau,
yw 'r Teraphim, y llo aur, Baal, Bel, Baalpeor,
Baal-perith, Beelzebub, Meloc, Anam-melec
Adramelec, Repham, Dagon, Nergal, Ashima, Nibaas,
Tartac, Rimmon, Nisroc, Tammus, Sheshac,
Nebo, Meni, Gad, Mahussin, Duw 'r pwerau, neu 'r
duwiau cadwedigol gan y Papistiaid, Asharoth, a
Succoth-benoth. Ond llawer o 'r rhai'n oedd yr
un peth dan wahanol enwau. Mewn amser dynion
ardderchog, neu frenhinoedd wedi marw, anifeiliaid
o bob rhyw, megis teirw, elephantiaid,
llysiau, cerrig, a phob peth a allai daro yn eu pennau,
oedd yn cael eu galw yn dduwiau a 'u haddoli.
Dynion a 'u meddyliau wedi gwibio oddiwrth y wir
orphwysfa yn y goruchel fod, ac heb gael dim gorphwysfa
mewn delw, a chwanegasant eraill attynt.
Yma, pan oedd pob gwlad a chenedl a delwau
neillduol iddynt eu hunain, yr oeddent yn barod i
dderbyn y rhei'ny perthynol i 'w cymmydogion. Ac
er cymmaint oedd eu hawl i philosophi, nid oedd
hynny yn yr hyn lleiaf yn gwella dim ar y wlad.
Yr Aiphtiaid, er cymmaint oeddent hwy yn ei glaimio
o ddoethineb, a wasanaethent deirw brithion,
adar, cennin, winwyns, &c. Yr oedd hefyd gan
y Groegiaid ynghylch deng mil ar hugain o dduwiau.
Y Gomeriaid a wnaethant dduwiau o 'u
brenhinoedd a gwir ardderchog eraill; ac nid oedd

[td. 24]
y Caldeaid, y Rhufeiniaid, a 'r Chinesiaid, yn well
nâ hwythau am eu ffolineb: ac nid hyn yn unig,
canys nid oeddent yn edrych dim ar dorri cyfraith
nattur, trwy fwrddro lluoedd o 'u cymmydogion a 'u
plant, i 'w hoffrymmu i 'w duwiau. Yr oedd rhai
cenhedlaethau yn Germani, Scandinafia a Thartari,
yn meddwl fod marwolaeth ddisyfed mewn rhyfel,
neu hunan-laddiad, yn ffordd happus o ddiweddiad,
at gael tragywyddol ddedwyddwch gyd â 'u duwiau.
Yn ddiweddar amser yr offrymwyd ynghylch 64,080
o ddynion, wrth gyssegru teml i eilunod, mewn yspaid
pedwar diwrnod, yn America.

Ni fu gan yr Hebreaid erioed ddelwau o 'u gwaith
eu hunain; ond yr oe'nt [~ oeddent ] hwy yn dderbyniol o rhai
ag oedd gan y cenhedlaethau o 'u hamgylch. Y parodrwydd
i addoli 'r llo aur wrth fynydd Sinai, sy 'n rhoi achos
i feddwl eu bod yn euog o 'r un ffieidd-dra yng wlad
yr Aipht: wedi hynny hwy a wasanaethasant ddelwau
'r Moabiaid, Ammoniaid, Canaaneaid, y Syriaid,
 &c. Ac yn yr 862 o flynyddau y buant yn
aros yng wlad Canaan, cyn eu caethiwo gan y Caldeaid,
hwy a lithrasant bedair gwaith ar ddeg o leiaf
i eilun-addoliaeth. Dan deyrnasiad y deg llwyth,
yr oedd eilun-addoliad yn sefydledig yn eu plith; ac
anfynych oedd teyrnas Juda yn cael ei phuro oddiwrthi.
Gwedi 'r Iuddewon ddyfod yn eu hol o Babilon,
yr oeddent yn llwyr wrthwyneb i addoli delwau,
ac am hynny a oddefasant lawer o galedi o 'u
hachos.

Y Mahometaniaid ydynt hefyd yn cymmeryd arnynt
fod ganddynt sel fawr yn erbyn eilun-addoliaeth.
Y gwasanaeth y mae 'r Papistiaid yn ei roddi i 'r
Forwyn Fair, i 'r seintiau eraill, ac i angylion heb
rifedi, traws-sylweddiad yr elfennau yn y cymmun,
y rhelywiau a 'u delwau, sy 'n drosedd nid bychan yn
eu golwg, ac yn peri iddynt (nid yn ddiachos) edrych
ar Grist'nogion yn eilun-addolwyr. Ac yn
wir, nid yw Crist'nogion eglwys y Groeg ddim gwell,
a 'u cymmeryd yn gyffredinol; y maent yn fwy tueddol
nâ 'r Papistiaid i eilun-addoliaeth.


[td. 25]


Dechreuad Paganiaeth ac Eilun-Addoliaeth
 wedi 'r Diluw.


ER bod eilun-addoliaeth wedi dechreu yn fuan ar
ol y diluw, etto gallwn ddeall fod y grefydd
honno a draddododd Noa i 'w hiliogaeth, yr hon
hefyd a arferwyd gan rai o 'r Patriarciaid hyd amser
Abraham, sef, addoliad o un gwir Dduw, Penllywodraethwr
a Chreawdwr pob peth, a gobeithio yn ei
drugaredd trwy Gyfryngwr. Canys yr angenrheidrwydd
o Gyfryngwr rhwng Duw a dyn oedd,
fel y gellid meddwl, yn farn gyffredinol, wedi gwreiddio
yng nghalonnau holl ddynolryw mor fore a 'r
dechreuad. Dynion, trwy lygredigaeth nattur, a ddechreuasant
edrych arnynt eu hunain yn rhy wael, aflan
ac amherffaith, i wneuthur eu herfyniadau at fod
mor fawr, sanctaidd, a gogoneddus, ag oedd y Duw
hwnnw, Creawdwr nef a daear. Hwy a feddyliasant
ei fod yn rhy uchel ac ardderchog; eu hunain yn rhy
isel, llygredig, ac anheilwng, i wneuthur cyfathrach
ag ef; am hynny hwy a benderfynent fod yn angenrheidiol
wrth Gyfryngwr neu Gyfryngwyr, trwy
deilyngdod y cyfryw rai y gallent gyflwyno eu
gweddiau a 'u deisyfiadau i gael eu cymmeradwyo
ganddo.

Yn ganlynol, hwy a gymmerasant mewn llaw
ddychymmyg pwy a allsai fod yn fwyaf perthynol i 'r
pwrpas; ymhlith y goleuadau nefol yr haul, lleuad,
a 'r planedau, a darawsant gyntaf yn eu meddyliau;
hwy a wyddent wrth nattur fod yr haul a 'r lleuad
yn rhagori ar yr holl gyrph wybrennol eraill; ac
heblaw hyn, hwy a dybiasant fod y goleuadau rhagorol
yma 'n bebyll, neu yn drigfannau i ryw fath o
ysprydion ardderchog ag oedd, o ran eu nattur, yn
nes ac yn fwy teilwng o gymdeithas y Goruchaf nâ
hwy. Yr oeddent hefyd yn credu, fod rhyw ysprydion
yn cyfaneddu ynddynt yn yr un dull ag y mae
eneidiau dynion yn cyfaneddu yn eu cyrph daearol;
ac yn eu dwyn trwy eu holl ysgogiadau tymhorol o

[td. 26]
amgylch y ffurfafen, ac nid yn unig i lywodraethu 'r
cyrph hynny lle 'r oeddynt yn preswylio, ond hefyd,
fod ganddynt awdurdod fawr ar bethau daearol;
yn ganlynol, hwy a dybiasant mai y rhai'n oedd y
bodau mwyaf addas at fod yn gyfryngwyr i ddwyn
eu deisyfiadau a 'u gweddiau at Dduw. Yn y lle
nesaf, hwy a ddechreuasant roi enwau ar y goleuadau
hyn: Sadwrn hwy a alwent Cronos; Iau, Jove;
Mawrth, Maros; Haul, Apollo; Gwener, Prosperina;
Mercher, Hecat; a 'r Lleuad, Diana; ynghyd
â llawer o enwau eraill perthynol i 'r pethau neu 'r
lleoedd ag oeddent hwy yn ei dybied fod dan ei
hawdurdod. Dyma y rhai a wnaeth y cenhedloedd
gyntaf yn dduwiau; i 'r cyfryw yr oeddent yn offrymmu
ac yn talu eu haddunedau, i 'r diben iddynt
hwythau fod yn genhadon ffyddlon drostynt at
Dduw.

Etto nid oedd hyn ddim digon; hwy a aethant i
gredu, fod gan ddynion da ac ardderchog, pan y
byddent farw, allu mawr, o herwydd eu ffafr gyd â
Duw o fod yn gyfryngwyr i eirioli drostynt; am
hynny, fe ddarfu iddynt dduwio llawer o ddynion ag
oedd wedi bod yn enwog yn eu bywyd, a chwedi
haeddu mwy o glod nag eraill, naill ai am eu helusenau
a 'u hathrawiaethau, neu o ran rhagorfraint eu
hawdurdodau. Ond nid hyn yn unig; ni fuant
hwyrach ne's iddynt gyssegru amryw eraill o is radd;
hwy a lanwasant y byd o honynt, gan osod rhai i
lywodraethu moroedd, rhai 'r coedydd, afonydd, mynyddau,
taranau, tymhestlau, &c. Ac yn y diwedd,
hwy a aethant i addoli eu lluniau, eu delwau, a phob
math o greaduriaid gwylltion a dofion, glân ac aflan,
rheibus a gwenwynog; delwau o aur ac arian,
coed a cherrig, o 'u gwaith eu hunain; i ba rai yr
oeddent ac y maent, mewn rhai mannau, yn rhoi
dwyfol anrhydedd ac addoliad iddynt hyd y dydd
heddyw.

Mae 'n ddiammeu i 'r grefydd hon o eilun-addoliaeth
ddechreu ymhlith y Caldeaid; eu gwybodaeth

[td. 27]
mewn seryddiaeth a 'u cynnorthwyodd hwynt iddi;
ac o herwydd hyn y cafodd Abraham ei neillduo,
pan ddaeth ef allan o honi; oddiwrth y Caldeaid hi
a dannodd ei hun dros holl wledydd y dwyrain, lle
cafodd ei phroffeswyr yr enw o Sabiaid. Oddi yma
hi aeth trosodd i wlad yr Aipht, ac oddi yno i blith
y Groegiaid, y rhai a 'i tannodd trwy holl genhedlaethau
gorllewinol y byd.

Mae gweddill o 'r sect hon fyth yn parhau yn y
dwyrain, dan yr enw Sabiaid; yr hon, fel y dywedant
hwy, a dderbyniasant oddiwrth Sabas mab Seth.
Ymhlith eu llyfrau, ag sy 'n cynnwys athrawiaeth eu
sect, y mae un llyfr a elwir Seth, yr hwn, meddant
hwy, a gyfansoddwyd gan y Patriarc hwnnw.


Ychydig mewn perthynas i 'Stad [~ Ystâd ] bresennol EilunAddoliaeth
 ymhlith y Paganiaid, yn enwedig
y
 Chinese.


YR ydym yn cael hanes fod y Chinese yn gyffredinol
yn addoli un goruchaf Dduw, Brenin
nef a daear, neu yn hytrach yr hwn y maent yn alw
Y Meddwl Tragywyddol, yr hwn, yn ol eu hathrawiaeth
hwy, yw bywyd yr holl greadigaeth: ond ymhellach,
y maent yn credu ei fod ef yn llywodraethu
pob peth trwy raglawiad, ac y maent hwy yn ei alw
Laocon Tzanty; a thrwy 'r haul, yr hwn y maent
yn ei gyfrif yn yspryd tragywyddol; a thrwy un
dwyfol arall a elwir Chansay, yr hwn, meddant, sy
ag awdurdod ar bob peth dan y lleuad. I 'r tri gradd
hyn o ysprydion, ac i dri * arall o lywodraethwyr
danynt, y llu nefol, ac eneidiau rhyw henafiaid ardderchog,
y maent hwy yn talu eu haddoliadau a 'u
gwasanaeth crefyddol; ond yn unig bod hyn o wahaniaeth,
sef bod y brenin yn offrymmu i 'r cyrph
nefol, megis yr haul, y lleuad, a 'r ser; yr arglwyddi,

[td. 28]
a 'r rhai mwyaf ardderchog i bethau daearol; sef, i 'r
mynyddau, gelltydd, llynoedd, a bryniau; boneddigion
a swyddwyr i 'r gwlaw, taranau, a thymhorau 'r
flwyddyn; a 'r bobl gyffredin i ddelwau neu dduwiau
teuluaidd, ac i 'r angylion addysgiadol. Y wlad helaeth
hon sy 'n llawn o demlau a monachlogydd,
wedi eu llenwi â delwau, y rhai y mae 'r offeiriaid
dichellgar yn porthi ag anwedd y bwyd, eithr yn
bwyta 'r sylwedd eu hunain. Mae gan yr offeiriaid
yma gymmaint o awdurdod ar y duwiau, fel ag y
maent yn eu cospi a 'u chwipio pan na fyddont yn
atteb eu dibenion. Mae ganddynt un ddelw a thri
phen yn perthyn i 'r un corph, i 'r hon y maent yn
rhoddi mawr barch: y mae hon yn personoli tri
philosophydd mawr, Confusius, Xequiam, a Tanzu.
Maent yn dala athrawiaeth y Pythagoriaid, neu
drawsglwyddiad yr enaidiau i ryw greaduriaid eraill;
am hynny mae rhai o honynt na laddant gymmaint
ag un creadur mwyaf distadl. I 'r pwrpas yma mae
parc yn Quinsay, wedi ei furio oddiamgylch, yn
perthyn i Fonachlog, lle mae 'r Monachod yn porthi
pedair mil o greaduriaid byw o bob math ar elusennau,
er lles i eneidiau rhai pobl fawrion ag sydd
wedi myned i mewn i gyrph y creaduriaid hyn i
gyfaneddu. Nid oes neb yma yn cael ei rwymo at
un addoliad neillduol, ond gallant ddewis y sect a
fynnont. Am eu gwybodaeth mewn perthynas i
ddedwyddwch nefol, neu boenau uffernol, nid yw
ond ychydig neu ddim i son am dano: maent yn ofnus
iawn pan welont ddiffyg ar yr haul neu 'r lleuad,
y rhai y maent yn eu hystyried fel gwr a gwraig, ac
yn meddwl eu bod yn ddig wrthynt ar y cyfryw
amser. Mae yma lawer o seremoniau mewn perthynas
i wyliau, newydd leuadau, genedigaethau, ac
angladdau eu perthynasau, dros y rhai y maent yn
fynych yn myned i lawer o draul. Nid oes neb o
honynt heb eu Jos, neu dduw teuluaidd, y rhai y
maent yn eu cospi yn lled ddrwg: canys os bydd
iddynt weddio arnynt am ryw beth, ac heb gael dim

[td. 29]
effaith oddiwrth eu gweddi, hwy nid yn unig ddannodant
iddynt y diofalwch, ond hefyd hwy a lusgant
y ddelw trwy 'r lleoedd mwyaf drewllyd a diffaith ar
hyd yr heolydd: etto os digwydd ar y pryd hynny
iddynt gael eu herfyniad, hwy a osodant y ddelw yn
ei lle, ac a syrthiant o 'i blaen i ddeisyf maddeuant,
ac at ei heddychu, hwy a 'i golchant, ac a 'i paentiant
hi yn ardderchog o 'r newydd.


Am Grefydd y Paganiaid yn y Carnatic, Colconda,
Bisnagar, Decan,
 &c.


MAE 'r bobl hyn, medd hanesion, yn addoli yr
un duwiau, er eu bod dan wahanol enwau,
a 'r Bramiaid; yr ydys yn galw eu crefydd Banian,
a 'r bobl Baniaid. Nid yw hwn ddim titl o waradwydd,
ond gair ag sy 'n arwyddo dwysder, anrhydedd,
a nodedigrwydd, mewn perthynas i 'r gerwindeb
a 'r creulondeb y maent yn arferyd yn eu temlau
a 'u bywydau.

Mae 'r Baniaid, megis y rhan fwyaf o 'r Paganiaid,
yn credu fod un Duw goruchaf, ac yn ei alw Parabrama,
yr hyn yn eu iaith hwy sy 'n arwyddo perffaith;
ei fod ef o hono ei hun yn anllygredig, ac yn
anfarwol. Maent hwy 'n dywedyd iddo orchymyn
pob peth perthynol i grefydd Brama ei fab hynaf; i
Winstow, mab arall iddo, roddi gofal dros angenrheidiau
a chyfiawnderau ei bobl; i 'r trydydd, dros
yr elfennau a chyrph dynion. Mae y rhai'n yn
cael eu haddoli ar ddull delw fawr, ac iddi dri phen.
Ond o ran eu bod hwy 'n credu i Dduw greu 'r diafol,
er mwyn tormento a gwneuthur rhyw ddrwg i
ddynolryw, maent yn ei addoli yntef, nid o gariad,
ond rhag ei ofn; ac y mae ganddynt ddelw o hono
ar ddull hagr ac ofnadwy. Mae 'r bobl hyn yn arferyd
puro eu hunain trwy offrymmau ac ymolchiadau,
ac yn rhoddi llawer o 'u heiddo i 'r Braminiaid
a fo 'n attendo arnynt. Mae 'n beth rhyfedd yr

[td. 30]
hybarch sydd gan y bobl hyn i 'r afon Ganges;
maent yn ymolch ynddi o bur addoliad, ac yn mynych
daflu iddi fel yn offrwm, ddarnau o aur ac arian.
Llawer iawn o ymdeithyddion sy 'n wastadol
yn dyfod i ymweled â 'r afon ardderchog hon; a thra
maent yn ymdrochi ynddi, maent yn dala gwellten
fer rhwng eu bysedd. Ar ol i 'r ymdeithwyr ymolchi
eu hunain, a chyflawni eu seremoniau, maent
yn cael eu derbyn gan y Bramins, a 'u dwyn i mewn
i 'w padogau, lle maent yn cynnyg arian a reis.—
Tra fo 'r seremoniau hyn yn cael eu gwneuthur,
mae 'r ymdeithwyr yn ail adrodd llawer o weddiau;
a hwy a ddywedant, fod pechod pob un wedi eu
maddeu, trwy ymolchi yn y Ganges.


Crefydd y Bobl sy 'n trigfannu yn Japan.


MEWN perthynas i 'r Japanîs, nid oes fawr o
wahaniaeth rhyngddynt hwy a 'r Chinese;
maent yn cyfaddef fod un goruchaf Dduw, ag sy 'n
byw yn y nefoedd, a bod llawer o dduwiau eraill o
is radd, ag sy 'n trigfannu ymhlith y ser; ond etto ni
ellir meddwl eu bod yn addoli un o 'r rhai'n; eithr
y duwiau y maent hwy yn addoli yw llywodraethwyr
a fu 'n byw ryw amser ar y ddaear, ac a gawsant
yr anrhydedd yma trwy ryw weithredoedd
rhagorol; trwy rinwedd y rhai'n maent yn barnu y
gallant fod yn ddedwydd neu 'n druenus yn y bywyd
hwn, a thrwy eu cynnorthwy a 'u cyfryngdod, y
cânt eu gwobrwyo yn ol eu gweithredoedd yn y byd
a ddaw. Maent yn meddwl fod llawer paradwys,
lle mae pob un o 'u duwiau yn cario eu haddolwyr;
i 'r fath ddychymygol ddedwyddwch a hyn y mae 'r
bobl ddwlon yma mewn cariad, fel ag mae rhai yn
myned i foddi, eraill yn torri eu gyddfau, neu 'n taflu
eu hunain dros greigiau uchel; i hyn y maent yn
cael eu hannog gan eu hoffeiriaid trachwantus,
oddiwrth y cyfryw rai y maent hwy yn ymgyfoethogi.

[td. 31]
Mae yma beth aneirif o Badogau; ymhlith y
cyfryw, yn nheml Macca, mae un ddelw wedi ei
gwneuthur o bres, ac yn cyrraedd hyd gronglwyd y
deml; mae 'r gadair, medd Sir Thomas Herbert, yn
drugain a deuddeg troedfedd o uwchder, ac yn bedwar
ugain o led; ei phen yn ddigon mawr i ddala pumtheg
o ddynion, a 'i fawd-fys yn ddeugain modfedd
oddi amgylch.

Maent yn cadw gŵyl, ymha un y maent yn llosgi
peth aneirif o lampau wrth eu drysau, ac yn
rhodio i fynu ac i wared ar hyd yr heolydd, i gyfarfod
ag eneidiau eu cyfeillion a fuasant feirw 'n
ddiweddar, o flaen pa rai y maent yn gosod bwyd a
diod, ac yn eu gwawdd i 'w tai i orphwys, fel na
ddiffygient yn eu siwrnai i baradwys, yr hyn meddant
hwy, sy 'n daith tair blynedd o leiaf.

Pan fyddo dyn marw, mae ei dylwyth yn gorfod
dwyn dau neu dri o dystion, i brofi nad oedd ef ddim
yn gristion ar amser ei farwolaeth, ac y maent yn
myned mor belled a holi pa un a bu ef felly yn holl
ystod ei fywyd; os deuir i wybod ei fod, mae ei
gorph yn cael ei daflu i ryw dommen fel ci.


Crefydd y Bobl sy 'n trigfannu yn Pegu.


PEGU yw un o 'r taleithau ag sydd tu hwnt i 'r
afon Ganges; eu crefydd sefydlog yma yw
Paganiaeth. Yn eu barn, mae 'r bobl yn meddwl
yr un peth a 'r Crist'nogion hereticaidd, sef, y Manicheans;
canys maent hwy 'n dala fod dau ben-llywodraethwr,
un da a 'r llall yn ddrwg; ac am hynny
y maent yn offrymmu i 'r diafol, fel yn awdwr o
bob drwg; ac nid i 'r un da, am nad yw ef yn dymuno
dim niwed iddynt: felly y maent yn addoli 'r
diafol am gael ei ffafr a 'i diriondeb; ac iddo ef, trwy
wahanol ddull o ddelwau, y maent yn cyfeirio eu
haddunedau a 'u gweddiau. Maent yn credu mewn
tragywyddol barhad o fydoedd, ac mor gynted y

[td. 32]
byddo un yn cael ei losgi, fod un arall yn codi o 'r
lludw. Mae 'r fath barch anrhydeddus ganddynt i 'r
crocadil, fel ag y maent yn credu, pwy bynnag a
ddifethir ganddo, fod ei enaid yn cael ei ddwyn yn
uniawn i 'r nef. Y maent hefyd yn credu fod gan
yr epaid enaid dynol, a 'u bod gynt yn ddynion; ond
at eu poeni, am ryw ddrwg weithredoedd a wnaethant,
i 'r duwiau eu troi ar y dull hynny. Ond y
creadur mwyaf ag sy 'n cael ei anrhydeddu yn eu
plith hwy, yw 'r elephant wen; ac un o deitlau brenin
Pegu yw, Arglwydd yr Elephant wen. Mae 'r
creaduriaid hyn yn cael eu gwasanaethu ar ddisglau
arian; a phan maent yn cael eu harwain allan i gael
aer, mae cerddorion yn canu o 'u blaen ar lawer
math o offerynau; a phan ddelont adref, mae un o
weision y brenin yn golchi eu traed â dwfr o ddisgl
arian.

Mae yma rai temlau o faintioli mawr, ac fe ddywedir
fod un o honynt yn cynnwys ynghylch chwech
ugain mil o ddelwau; ond fe allai nad yw rhai o
honynt ond bychain, neu fath o hieroglyphics, yr hyn
sy 'n beth cyffredin yng wledydd y dwyrain. Ymhyrth
y temlau hyn y mae ffont neu lestr mawr â
dwfr, yn yr hon y mae 'r ymdeithyddion yn golchi
eu traed cyn myned i mewn. Y rhan gyntaf o 'u
haddoliad yw gosod eu dwylo ar eu pennau, yn arwydd
o barch dyledus i wrthddrych eu haddoliad.
Trwy 'r holl deyrnas hon, dydd Llun y maent hwy
yn ei osod o 'r neilldu at addoliad crefyddol; ac ar y
diwrnod hwnnw mae eu hoffeiriaid, neu 'r talapoins,
yn pregethu i 'r dynion yn eu temlau.


Crefydd Pobl Siam.


MAE 'r wlad helaeth hon tu draw i 'r Ganges;
ond eu crefydd sydd yn agos yr un peth a 'r
rhai a soniwyd am danynt eisoes yn y taleithau rhagflaenol.
Mewn ychydig o bethau maent yn wahanol;

[td. 33]
yn hyn ni gawn ddala rhyw gymmaint o sylw.
Mae eu holl gyfraith foesol yn gynhwysedig yn y
pump gorchymyn canlynol, sef, na ladd, na wna un
fath o aflendid; na ddwg gam-dystiolaeth; na ladratta;
ac na ŷf un math o ddiod i feddwi.

Mae y rhai'n yn agos yr un peth ag sy 'n ysgrifenedig
yng nghyfraith Moses, yr hyn a ddengys,
fod crefydd nattur yn oestad yr un peth, ymhob oes,
ac ymhlith pob cenhedlaeth, er ei bod yn cael ei
dirywio trwy ymarferiadau a seremoniau o ddyfais
dynolryw.

Y duw y maent hwy yn ei addoli trwy fawr anrhydedd,
yw Sommona Codon, am yr hwn y mae
ganddynt yr hanes ddychymygol hon; mai efe yw
brenin Seylon, ac iddo adael ol ei droed mewn tri
man o 'r byd, sef yn nheyrnas Siam, Pegu, a 'r ynys
ragddywededig Seylon. I 'r lleoedd hyn mae llawer
o bererinion yn tramwyo bob blwyddyn, i roddi i
fynu eu gweddiau iddo. Mae 'r pererinion yma yn
cael cennad i weled esgyrn Sommona Codon, y rhai
a ddywedant eu bod yn llewyrchu mor danbaid, fel
na allant edrych arnynt dros un funud o amser.

Yr oedd gan Sommona Codon ddau ddisgybl
neillduol, delwau pa rai sy 'n sefyll o 'r tu iddo ar
ei allor, ond nid cymmaint ag ef ei hun; enwau y
rhai'n yw, Pra Molga, a Phra Scarabout; Pra
Molga, yr hwn sy 'n sefyll ar ei law ddeheu, wrth
ddeisyfiad rhai o 'r ysprydion damnedig, a drodd y
ddaear â 'i hwyneb i lawr, ac a gymmerodd dân uffern
yng nghledr ei law; ond er cymmaint ei chwennychiad,
ni allai mewn modd yn y byd ei ddiffodd:
am hynny fe ddeisyfodd gael cynnorthwy Sommona
Codon i wneuthur hyn o gariad drosto; ond fe
wrthododd y duw hwn wneuthur hyn o gymmwynas,
gan ddywedyd wrtho, pe b'ai [~ bai ] poenau uffern
unwaith yn cael eu symmud oddiwrth ddynolryw,
ni fyddai dim ond drygioni ac anlladrwydd yn y
byd. Mae rhyw beth yn y farn hon yn ddigon tebyg
i 'r hyn sy 'n gynhwysedig mewn crefydd nattur;

[td. 34]
a 'r dull yr ydym ni, greaduriaid darfodedig, yn farnu
am gyfiawnder ac anghyfiawnder.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section