Adran o’r blaen
Previous section



[td. 54]

II. Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa.


PAN oedd Phœbus un-llygeidiog ar
gyrraedd ei eithaf bennod yn y
deheu, ac yn dàl gŵg o hirbell ar
Brydain fawr a 'r holl Ogledd-dir; ryw hirnos
Gaia dduoer, pan oedd hi 'n llawer
twymnach yn nghegin Glynn-cywarch nac ar
ben Cadair Idris, ac yn well mewn stafell
glŷd gydâ chywely cynnes, nac mewn
amdo ymhorth y fonwent; myfyrio 'r
oeddwn i ar ryw ymddiddanion a fasei
wrth y tân rhyngo'i a Chymydog, am fyrdra
hoedl Dyn
, a siccred yw i bawb farw,
ac ansiccred yr amser; a hyn newydd roi
'mhen i lawr ac yn llêd-effro, mi glywn
bwys mawr yn dyfod arnai 'n lledradaidd
o 'm coryn i 'm sowdl, fel na allwn symmud
bŷs llaw, ond y tafod yn unic, a gwelwn
megis Mâb ar fy nwyfron, a Merch

[td. 55]
ar gefn hynny. Erbyn craffu, mi adwaenwn
y Mâb wrth ei arogleu trwm a 'i gudynneu
gwlithog a 'i lygaid môl-glafaidd
mai fy Meistr Cwsc ydoedd. Ertolwg, Syr,
ebr fi, tan wichian, beth a wneuthum i 'ch
erbyn pan ddygech y wyddan yna i 'm nychu?
Ist, ebr ynte, nid oes yma ond fy
chwaer Hunlle, mynd yr ŷm ni 'n dau i
'mweled a 'n brawd Angeu: eisieu trydydd
sy arnom, a rhag i ti wyrth'nebu daethom
arnat (fel y bydd ynte') 'n ddirybudd. Am
hynny dyfod sy raid i ti, un ai oth fodd ai
oth anfodd. Och, ebr finneu, ai rhaid i mi
farw? Na raid, eb yr Hunlle, ni a 'ch arbedwn
hyn o dro. Ond trwy 'ch cennad,
ebr fi, nid arbedodd eich braw Angeu nêb
erioed etto, a ddygid i 'w ergyd ef, y gwr
a aeth i ymaflyd cwymp âg Arglwydd y
Bywyd ei hun, ond ychydig a 'nillodd
ynte' ar yr orchest honno. Cododd Hunlle
ar y gair yma 'n ddigllon ac a 'madawodd.
Hai, ebr Cwsc, tyrd ymaith, ni bydd i ti
ddim edifeirwch o 'th siwrnai. Wel', ebr fi,
na ddêl byth nôs i Lan-gwsc, ac na chaffo 'r
Hunlle byth orphws ond ar flaen mynawyd
oni ddygwch fi 'n ôl lle i 'm cawsoch. Yna
i ffordd yr aeth â mi tros elltydd a thrwy
goedydd, tros foroedd a dyffrynoedd tros
Gestyll a Thyrau, Afonydd a Chreigiau, a
ph'le y descynnem ond wrth un o Byrth
Merched Belial, o 'r tu cefn i 'r Ddinas ddihenydd,

[td. 56]
lle gwelwn fod y tri Phorth dihenydd
yn cyfyngu 'n un o 'r tu cefn, ac yn
agor i 'r un lle: lle mwrllwch oerddu
gwenwynig, llawn niwl afiach a chwmylau
cuwchdrwm ofnadwy. Attolwg, Syr,
ebr fi, p'le yw 'r fangre hon? Stafelloedd
Angeu
, ebr Cwsc. Ni chês i ond gofyn, na
chlywn i rai 'n crio, rhai 'n griddfan, rhai
'n ochain, rhai 'n ymleferydd, rhai 'n dàl i
duchan yn llêsc, eraill mewn llafur mawr,
a phôb arwyddion ymadawiad dyn, ac
ymbell un ar eu ebwch mawr yn tewi, a
chwapp ar hynny, clywn droi agoriad
mewn clo, minneu a drois wrth y sŵn i
spio am y drŵs, ac o hir graffu, gwelwn
fyrdd fyrddiwn o ddrysau 'n edrych ymhell,
ac er hynny yn f' ymyl. Yn rhodd,
Meistr Cwsc, ebr fi, i ba le mae 'r drysau
yna 'n egor? Maent yn agor, ebr ynte, i
Dîr Ango, Gwlâd fawr tan lywodraeth fy
mrawd yr Angeu, a 'r Gaer fawr yma, yw
Terfyn yr anferth Dragwyddoldeb. Erbyn
hyn, gwelwn Angeu bâch wrth bôb drŵs,
heb un 'r un arfeu, na 'r un henw a 'i gilydd,
etto, gwyddid arnynt mai Swyddogion
yr un Brenin oeddynt oll: Er y byddei
aml ymryson rhyngddynt am y cleifion;
mynnei 'r naill gipio 'r clâ 'n anrheg
trwy ei ddrŵs ei hun, a 'r llall a 'i mynnei
trwy ei ddrŵs ynte. Wrth nesâu canfûm
yn scrifennedig uwchben pôb drŵs henw 'r

[td. 57]
Angeu oedd yn ei gadw, ac hefyd wrth bôb
drŵs ryw gant o amryw betheu wedi eu
gadel yn llanastr, arwydd fod brŷs ar y
rhai a aetheint trwodd. Uwchben un
drŵs gwelwn Newyn, ac etto ar lawr yn ei
ymyl byrseu a chodeu llownion, a thryncieu
wedi eu hoelio. Dyma, ebr ef, borth
y Cybyddion. Pwy, ebr fi pioedd y carpieu
yna? Cybyddion, eb ef, gan mwyaf: Ond
mae yna rai 'n perthyn i Segurwyr a Hwsmyntafod,
ac i eraill tlawd ymhôb peth ond yr
Yspryd, oedd well ganddynt newynu na
gofyn. Yn y drŵs nesa 'r oedd Angeu
anwyd, gyfeiryd â hwn clywn lawer hyd-
yd-ydyd-eian
; wrth y drŵs yma 'r oedd llawer
o lyfreu, rhai pottieu a fflagenni, ymbell
ffon a phastwn, rhai cwmpaseu, a chyrt,
a chêr Llongeu. F' aeth ffordd yma 'Scolheigion,
ebr fi, do, ebr ynte, rai unic a dihelp
a phell oddiwrth ymgeledd a 'u carei;
wedi dwyn hyd yn oed y dillad oddiarnynt.
Dyna, ebr ef, (am y pottieu) weddillion
y cymdeithion da, a fydd a 'u traed
yn fferri tan feincieu, tra bo eu penne 'n
berwi gan ddiod a dwndwr: a 'r petheu
draw sy 'n perthyn i drafaelwyr mynyddoedd
eiryog, ac i Farsiandwyr y Gogleddfor.
Y nesa oedd scerbwd teneu a
elwid Angeu Ofn, gellid gweled trwy hwn
nas medde 'r un Galon; ac wrth ddrŵs
hwn hefyd godeu a chistieu, a chloieu, a

[td. 58]
chestyll. I hwn yr ai 'r Llogwyr, a Drwgwladwyr,
a Gorthrymwyr, a rhai o 'r Mwrdrwyr,
ond 'r oedd llawer o 'r rheini yn
galw heibio i 'r drŵs nesa lle 'r oedd Angeu
a elwid Crôg, a 'i gortyn parod am ei
wddf. Nesa i hynny oedd Angeu Cariad,
ac wrth ei draed fyrdd o bob offer a llyfreu
muwsic, a cherdd, a llythyreu mwynion
ac ysmottieu a lliwieu i harddu 'r
wyneb, a mîl o ryw sciabas deganeu ir
pwrpas hwnnw, a rhai cleddyfeu; â rhain,
ebr ef, y bu 'r herwyr yn ymladd am y
feinwen, a rhai 'n eu lladd eu hunain: mi
a welwn nad oedd yr Angeu yma ond cibddall.
Y drŵs nesa 'r oedd yr Angeu
gwaetha 'i liw o 'r cwbl a 'i afu wedi diflannu,
fo 'i gelwid Angeu Cynfigen; hwn, ebr
Cwsc, a fydd yn cyrchu colledwyr, athrodwyr,
ac ymbell farchoges a fydd yn ymwenwyno
wrth y Gyfraith, a barodd i
Wraig ymddarostwng i 'w Gŵr. Attolwg
Syr, ebr fi, beth yw marchoges? Marchoges,
ebr ef, y gelwir yma, y Ferch a
fynn farchogaeth ei gwr, a 'i chymdogaeth,
a 'i gwlâd os geill, ac o hir farchogaeth, hi
a ferchyg ddiawl o 'r diwedd o 'r drŵs yna
hyd yn Annw'n. Yn nesa 'r oedd drŵs
Angeu Uchel-gais, i 'r sawl sy 'n ffroenio 'n
uchel, ac yn torri eu gyddfau eisieu edrych
tan eu traed, wrth hwn 'r oedd coronau,
teyrnwiail, banerau a phob papureu am

[td. 59]
swyddeu, pob arfeu bonedd a rhyfel. Ond
cyn i mi edrych ychwaneg o 'r aneirif ddryseu
hynny, clywn lais yn peri i minneu
wrth fy henw ymddattod, ar y gair mi 'm
clywn yn dechreu toddi fel caseg-eira yn
gwrês yr Haul, yna rhoes fy Meistr i mi
ryw ddiod-gŵsc fel yr hunais, ond erbyn
i mi ddeffro f' am dygasei i ryw ffordd allan
o bellder y tu arall i 'r Gaer; mi 'm
gwelwn mewn Dyffryn pygddu anfeidrol
o gwmpas ac i 'm tŷb i nid oedd diben
arno: ac ymhen ennyd wrth ymbell oleuni
glâs fel canwyll ar ddiffodd, mi welwn
aneirif oh! aneirif o gyscodion Dynion,
rhai ar draed, a rhai ar feirch yn gwau
trwy eu gilydd fel y gwynt, yn ddistaw
ac yn ddifrifol aruthr. A gwlâd ddiffrwyth
lom adwythig, heb na gwêllt na gwair, na
choed nac anifail, oddieithr gwylltfilod
marwol a phryfed gwenwynig o bôb mâth;
seirph, nadroedd, llau, llyffaint, llyngyr, locustiaid,
prŷ 'r bendro, a 'r cyffelyb oll sy 'n
byw ar lygredigaeth Dyn. Trwy fyrddiwn
o gyscodion ac ymlusciaid, a beddi,
a Monwentau, a Beddrodau, ni aethom ymlaen
i weled y Wlâd yn ddirwystr; tan na
welwn i rai 'n troi ac yn edrych arnai; a
chwippyn er maint oedd y distawrwydd
o 'r blaen, dyma si o 'r naill i 'r llall fod yno
Ddyn bydol; Dyn bydol, ebr un, Dyn bydol,
eb y llall! tan ymdyrru attai fel y

[td. 60]
lindys o bob cwrr. Pa fodd y daethoch,
Syre, eb rhyw furgyn o Angeu bâch oedd
yno? Yn wîr, Syr, ebr fi, nis gwn i mwy
na chwitheu. Beth y gelwir chwi, ebr
ynte? Gelwch fi yma fel y fynnoch yn eich
gwlâd eich hun, ond fe 'm gelwid i gartre,
Bardd Cwsc. Ar y gair, gwelwn gnap o
henddyn gwargam a 'i ddeupen fel miaren
gen lawr, yn ymsythu ac yn edrych arnai
'n waeth na 'r Dieflyn côch, a chyn dywedyd
gair, dyma fe 'n taflu penglog fawr heibio
i 'm pen i diolch i 'r Garreg fedd a 'm
cyscododd. Llonydd, Syr, ertolwg, ebr fi,
i Ddyn dieithr na fu yma 'rioed o 'r blaen,
ac ni ddaw byth pe cawn unwaith ben y
ffordd adre. Mi wnâ 'i chwi gofio 'ch bod
yma, eb ef, ac eilwaith âg ascwrn morddwyd
gosododd arna 'i 'n gythreulig, a
mineu 'n oscoi 'ngoreu. Beth, ebr fi, dyma
wlâd anfoesol iawn i ddieithriaid, Oes yma
un Ustus o heddwch? Heddwch! ebr
ynte, pa heddwch a haedditi na adewit lonydd
i rai yn eu beddi? Attolwg, Syr,
ebr fi, a gawn ni wybod eich henw chwi, oblegid
nis gwn i flino ar neb o 'r Wlâd yma
'rioed. Syre, ebr ynte, gwybyddwch mai
Fi, ac nid chwi, yw 'r Bardd Cwsc, ac a gês
lonydd yma er's naw cant o flynyddoedd,
gan bawb ond chychwi, ac a aeth i 'm cynnyg
i drachefn. Peidiwch ymrawd, ebr
Merddyn oedd yn agos, na fyddwch ryboeth;

[td. 61]
diolchwch iddo 'n hytrach am gadw
coffadwriaeth parchus o 'ch henw ar y Ddaiar.
Yn wir, parch mawr, eb ynte, oddiwrth y
fâth bembwl a hwn; A fedrwch wi, Syre,
ganu ar y pedwar mesur ar hugain, a fedrwch
wi ddwyn acheu Gog a Magog, ac acheu
 Brutus ap Sylvius hyd ganmlwydd cyn
difa Caer-Troia? A fedrwch wi frutio pa
bryd, a pheth a fydd diwedd y rhyfeloedd
rhwng y Llew a 'r Eryr, ac rhwng y Ddraig
a 'r Carw coch? ha! Hai, gadewch i minneu
ofyn iddo gwestiwn, ebr un arall, oedd
wrth fyddan fawr yn berwi, soc, soc, dygloc,
dy-gloc. Tyrd yn nês, ebr ef, beth
yw meddwl hyn?

Mi fyddaf hyd Ddyddbrawd,
Ar wyneb daiarbrawd,
Ac ni wyddis beth yw nghnawd,
Ai Cîg ai Pyscawd.

Dymunaf eich henw, Syr, ebr fi, fel i 'ch
attebwy 'n gymwysach. Myfi, ebr ef, yw
Taliessin ben-beirdd y gorllewin, a dyna beth
a 'm difregwawd i. Nis gwn i, ebr finneu,
beth a allei 'ch meddwl fod, onid allei 'r
Fâd-felen a ddifethodd Faelgwn Gwynedd,
eich lladd chwitheu ar y feisdon a 'ch rhannu
rhwng y Brain a 'r Pyscod. Taw ffŵl, ebr
ef, brutio 'r oeddwn i am fy nwy alwedigaeth,
Gwr o Gyfraith a Phrydydd: A

[td. 62]
ph'run meddi di rwan debycca ai Cyfreithiwr
i Gigfran reibus, ai Prydydd i Forfil? Pa
sawl un a ddi-giga un Cyfreithiwr i godi ei
grombil ei hun, ac oh! mor ddifatter y
gollwng e 'r gwaed, a gadel Dyn yn lledfarw!
A 'r Prydydd, ynte, p'le mae 'r Pyscodyn
sy 'r un lwnc ag ef, ac mae hi 'n fôr
arno bob amser, etto ni thyrr y Môr-heli
moi syched ef. Ac erbyn y bai Ddyn yn
Brydydd ac yn Gyfreithiwr, pwy a ŵyr p'run
ai Cîg ai Pyscod fyddei: ac yn siccr, os
byddei 'n un o Wŷr Llŷs fel y bum i, ac
yn gorfod iddo newid ei flas at bob geneu.
Ond dywed i mi, ebr ef, a oes y rwan nemor
o 'r rheiny ar y Ddaiar? Oes, ebr fineu,
ddigon, os medr un glyttio rhyw fâth ar
ddyri, dyna fe 'n Gadeir-fardd. Ond o 'r
lleill, ebr fi, mae 'r fâth blâ yn gyfarthwyr,
yn fân-Dwrneiod a Chlarcod nad oedd locustiaid
yr Aipht ddim pwys ar y Wlâd
wrth y rhain. Nid oedd yn eich amser
chwi, Syr, ond bargeinion bol clawdd, a
llêd llaw o scrifen am dyddyn canpunt, a
chodi carnedd neu goeten Arthur yn goffadwriaeth
o 'r pryniant a 'r terfyneu: Nid
oes mo 'r nerth i hynny rwan, ond mae
chwaneg o ddichell ddyfeisddrwg, a chyfled,
a chromlech o femrwn scrifennedig i siccrhau
'r fargen; ac er hynny odid na fydd
neu fe fynnir ryw wendid ynddi. Wel',
wel', ebr Taliessin, ni thalwn i yno ddraen,

[td. 63]
ni waeth genni lle 'r wyf: ni cheir byth
Wir lle bo llawer o Feirdd, na Thegwch lle
bo llawer o Gyfreithwyr, nês y caffer
Iechyd lle bo llawer o Physygwyr. Yn hyn,
dyma ryw swbach henllwyd bâch a glywsei
fod yno Ddyn bydol yn syrthio wrth fy
nhraed, ac yn wylo 'n hidl. Och o druan,
ebr fi, beth wyti? Un sy 'n cael gormod
o gam yn y byd beunydd, ebr ynte, fe
gai 'ch enaid chwi fynny i mi uniondeb.
Beth, ebr fi, y gelwir di? F' a 'm gelwir i
Rhywun, ebr ef, ac nid oes na llatteiaeth
nac athrod, na chelwyddeu na chwedleu, i
yrru rhai benben, nad arna 'i y bwrir y
rhan fwya o honynt. Yn wir, medd un,
mae hi 'n Ferch odiaeth, ac hi fu 'n eich
canmol chwi wrth rywun, er bod rhywun
mawr yn ei cheisio hi. Mi a glywais rywun,
medd y llall, yn cyfri naw cant o bunneu
o ddlêd ar y stât honno. Gwelais
rywun ddoe, medd y Cardottyn, a chadach
brith fel moriwr a ddaethei â llong fawr o
yd i 'r borth nesa; ac felly pob cerpyn am
llurgunia i i 'w ddrŵg ei hun. Rhai a 'm
geilw i 'n Ffrind; mi gês wybod gan
Ffrind, medd un, nad oes ymryd hwn a
hwn adel ffyrling i 'w Wraig, ac nad oes
dim di-ddigrwydd rhyngthynt; rhai eraill
a 'm diystyrant i mhellach gan 'y ngalw 'n
Frân, fe ddywed Brân i mi fod yno gastieu
drŵg meddant. Iè, rhai a 'm geilw ar

[td. 64]
henw parchediccach yn Henwr, etto nid
eiddo fi hanner y coelion, a 'r brutieu, a 'r
cynghorion a roir ar yr Henwr; ni pherais
i erioed ddilyn yr henffordd, os byddei
'r newydd yn well, ac ni feddyliais i erioed
warafun cyrchu i 'r Eglwys wrth beri,
Na fynych dramwy lle bo mwya dy groeso, na
chant o 'r fath. Ond Rhywun yw fy henw
cyffredina i, ebr ef, hwnnw a gewchwi
glywed fynychaf ymhob mawrddrwg; oblegid
gofynnwch i un lle y dywedpwyd y
mawr gelwydd gw'radwyddus, pwy a 'i
dyweid; yn wir, medd ynte, nis gwn i
pwy, ond fo 'i dyweid Rhywun yn y
cwmnhi, holi pawb o 'r cwmpeini am y
chwedl, fe 'i clybu pawb gan rywun, ond nis
gŵyr nêb gan bwy. Onid yw hyn yn
gamm cywilyddus, ebr ef? Ertolwg, a hyspyswchwi
i bawb a glywoch yn fy henwi,
na ddywedais i ddim o 'r petheu hyn, ni ddyfeisiais
ac ni adroddais i gelwydd erioed i
wradwyddo nêb, nac un chwedl i yrru ceraint
bendramwnwgl ai gilydd; nid wy 'n
dyfod ar eu cyfyl, nis gwn i ddim o 'u
storiâu, na 'u masnach, na 'u cyfrinach felltigedig
hwy, na wiw iddynt fwrw mo 'u
drygeu arna 'i, ond ar eu 'menyddieu llygredig
eu hunain. Ar hyn, dyma Angeu
bâch, un o scrifenyddion y Brenhin, yn gofyn
i mi fy henw, ac yn peri i Meistr Cwsc
fy nwyn i 'n ebrwydd ger bron y Brenin.

[td. 65]
Gorfod mynd o 'm llwyr anfodd gan y
nerth a 'm cippiodd fel corwynt, rhwng
uchel ac isel, filoedd o filltiroedd yn ein
hôl ar y llaw asswy, oni ddaethom eilwaith
i olwg y Wàl derfyn, ac mewn congl
gaeth ni welem glogwyn o Lŷs candryll
penegored dirfawr, yn cyrraedd hyd at y
Wàl lle 'r oedd y drysau aneirif, a rheiny
oll yn arwain i 'r anferth Lŷs arswydus
hwn: â phenglogeu Dynion y gwnelsid y
murieu, a rheini 'n 'scyrnygu dannedd yn
erchyll; du oedd y clai wedi ei gyweirio
trwy ddagreu a chwŷs, a 'r calch oddi allan
yn frith o phlêm a chrawn, ac oddifewn o
waed dugoch. Ar ben pôb twr, gwelit
Angeu bach â chanddo galon dwymn ar
flaen ei saeth. O amgylch y Llŷs 'r oedd
rhai coed, ymbell Ywen wenwynig, a Cypres-wydden
farwol, ac yn y rheini 'roedd
yn nythu ddylluanod, Cigfrain ac Adar y
Cyrph a 'r cyfryw, yn creu am Gîg fŷth,
er nad oedd y fangre oll ond un Gigfa fawr
ddrewedig. O escyrn morddwydydd Dynion
y gwnelsid holl bilereu 'r Neuadd, a
Philereu 'r Parlwr o escyrn y coeseu, a 'r
llorieu 'n un walfa o bôb cigyddiaeth. Ond
ni chês i fawr aros nad dyma fi yngolwg
Allor fawr arswydus lle gwelwn y Brenin
Dychrynadwy yn traflyncu cîg a gwaed
Dynion, a mil o fân angheuod o bob twll
yn ei borthi fyth, â chîg îr twymn: Dyma,

[td. 66]
eb yr Angeu, a 'm dygasei i yno walch a
gês i ynghanol Tîr Ango, a ddaeth mor
yscafn-droed, na phrofodd eich mawrhydi
dammeid o hono 'rioed. Pa fodd y gall
hynny fod, ebr y Brenin, ac a ledodd ei
hopran cyfled daiargryn i 'm llyncu. Ar
hyn, mi a drois tan grynu at Gwsc; Myfi,
ebr Cwsc, a 'i dygais ef yma. Wel', ebr y
Brenin cul ofnadwy er mwyn fy mrawd
Cwsc, chwi ellwch fynd i droi 'ch traed am
y tro yma; ond gwiliwch fi 'r tro nesa.
Wedi iddo fod ennyd yn bwrw celanedd
i 'w geubal ddiwala, parodd roi dyfyn iw
ddeiliaid, ac a symudodd o 'r Allor i Orseddfainc
echryslawn dra-uchel, i fwrw 'r carcharorion
newydd ddyfod. Mewn munyd,
dyma 'r meirw fwy na rhi o finteioedd
yn gwneud eu moes i 'r Brenin, ac
yn cymryd eu lle mewn trefn odiaeth.
A 'r Brenhin Angeu yn ei frenhinwisc o
Scarlad gloewgoch, ac hyd-ddi lunieu
Gwragedd a Phlant yn wylo, a Gwŷr yn
ochneidio; ac am ei ben gap dugoch trichonglog
(a yrrasei ei gâr Lucifer yn anrheg
iddo) ar ei gonglau scrif'nasid Galar
a griddfan a gwae
uwch ei ben 'r oedd
myrdd o lunieu rhyfeloedd ar fôr a thîr,
trefi 'n llosci, y ddaiar yn ymagor, ar Dw'rdiluw;
a than ei draed nid oedd ond coroneu
a theyrnwiail yr holl Frenhinoedd a
orchfygasei fe 'rioed. Ar ei law ddeheu

[td. 67]
'r oedd Tynged yn eiste, ac â golwg ddu
ddèl yn darllen anferth Lyfr oedd o 'i flaen:
Ac ar y llaw asswy 'r oedd henddyn a elwid
 Amser, yn dylifo aneirif o edafedd aur,
ac edafedd arian, a chopr, a haiarn lawer
iawn, ac ymbell edy 'n prifio 'n well at ei
diwedd a myrddiwn yn prifio 'n waeth;
hyd yr edafedd yr oedd orieu, diwrnodiau, a
blynyddoedd; a Thynged wrth ei Lyfr yn
torri 'r edafedd einioes, ac yn egor dryseu 'r
Wàl derfyn rhwng y ddau Fyd. Ni chawswn
i fawr edrych na chlywn alw at y barr
bedwar o ffidleriaid oedd newydd farw.
Pa fodd, ebr Brenin y Dychryn, a daed
gennych lawenydd na ddaliasechwi o 'r
tu draw i 'r Agendor, canys ni fu o 'r tu
yma i 'r Cyfwng lawenydd erioed? Ni
wnaethom ni, ebr un Cerddor, ddrwg i
nêb erioed, ond eu gwneud yn llawen, a
chymeryd yn distaw a gaem am ein poen.
A gadwasoch i nêb, ebr Angeu, i golli eu
hamser oddiwrth eu gorchwyl, neu o fynd
i 'r Eglwys, ha? Na ddo, ebr un arall,
oddieithr bod ymbell Sul wedi gwasanaeth
yn y tafarn-dy tan dranoeth, neu amser hâ [~ haf ]
mewn twmpath chwarae, ac yn wîr, yr
oeddym ni 'n gariadusach, ac yn lwccusach
am gyn'lleidfa na 'r Person. Ffwrdd, ffwrdd
â 'r rhain i Wlâd yr Anobaith, ebr y Brenin
ofnadwy, rhwymwch y pedwar gefn-gefn,
a theflwch hwy at eu cymeiriaid, i ddawnsio

[td. 68]
'n droednoeth hyd aelwydydd gwynias,
ac i rygnu fyth heb na chlôd na chlera. Y
nesa a ddaeth at y barr, oedd rhyw Frenin
agos i Rufein: Cyfod dy law garcharor, ebr
un o 'r Swyddogion: gobeithio, ebr hwnnw,
fôd gennych beth gwell moes a ffafr i
Frenin. Syre, ebr Angeu chwitheu ddylasech
ddàl y tu arall i 'r Agendorr lle mae
pawb yn Frenhinoedd; ond gwybyddwch
nad oes o 'r tu yma 'r un ond fy Hunan,
ac un Brenin arall sydd i wared obry, a
chewch weled na phrisia hwnnw na minneu
yn ngraddeu 'ch mawrhydi eithr yngraddeu
'ch drygioni, i gael cymmwyso
'ch côsp at eich beieu, am hynny attebwch
i 'r holion. Syr, ebr ynte, gwybyddwch
nad oes gennych ddim awdurdod i 'm dàl,
nac i 'm holi: Mae genni faddeuant o 'm
hôll bechodeu tan law 'r Pâp ei hun, am i
mi ei wasanaethu e 'n ffyddlon, ynte roes i
mi gynnwysiad i fynd yn union i Baradwys,
heb aros funud yn y purdan: Wrth hyn,
dyma 'r Brenin a 'r holl gegeu culion yn
rhoi oer-yscyrnygfa i geisio dynwared
chwerthin; a 'r llall yn ddigllon wrth y
chwerthin yn eu gorchymyn i ddangos
iddo 'i ffordd. Taw ffŵl colledig, ebr Angeu,
tu draw i 'r Wàl o 'th ôl y mae 'r purdan,
canys yn dy fywyd y dylasit ymburo:
Ac ar y llaw ddeheu tu hwnt i 'r Agendor
yna, y mae Paradwys. Ac nid oes

[td. 69]
dim ffordd bossibl i ti ddianc weithian, na
thros yr Agendor i Baradwys, na thrwy 'r
Wàl-derfyn yn d' ôl i 'r Byd: Canys, pe
rhoit dy frenhiniaeth (lle ni feddi ddimmeu
i roi) ni cheit gan borthor y drysau
yna, spio unwaith trwy dwll y clo. Y
Walddiadlam y gelwir hon, canys pan ddeler
unwaith trwyddi, yn iâch fyth ddychwelyd.
Ond gan eich bod cymmaint yn
llyfreu 'r Pâp, cewch fynd i gyweirio 'i
wely ef at y Pâp oedd o 'i flaen, ac yno
cewch gusanu 'i fawd ef byth, ac ynte fawd
Lucifer. Ar y gair, dyma bedwar o 'r mân
angheuod yn ei godi, ag ynte erbyn hyn
yn crynu fel dail yr aethnen, ac ai cippiasant
fel y mêllt allan o 'r golwg. Yn nesa
at hwn daeth Mâb a Merch: Ef a fasei 'n
gydymaith da, a hithe 'n Ferch fwyn, ne 'n
rhwydd o 'i chorph: Eithr galwyd hwy
yno wrth eu henwau noethion, Meddwyn a
Phuttain. Gobeithio, ebr y Meddwyn, y
câfi gennych beth ffafr, mi yrrais i chwi
lawer ysclyfaeth dew mewn llifeiriant o
gwrw da; a phan fethais yn lladd eraill,
daethum fy hun yn 'wyllyscar i 'ch porthi.
Trwy gennad y Cŵrt, nid hanner a yrrais
i iddo, ebr y Butten, wedi eu hoffrwm yn
ebyrth llôsc, yn Gîg rhôst parod i 'w fwrdd.
Hai, hai, ebr Angeu, er eich trachwanteu
melltigedig eich hunain, ac nid i 'm porthi
i y gwnaed hyn oll: Rhwymwch y ddau,

[td. 70]
wyneb yn wyneb, gan eu bod yn hên gyfeillion,
a bwriwch hwy i Wlâd y tywyllwch,
a chwyded ef i 'w chêg hi, pised hitheu dân
i 'w berfedd ynte hyd Ddyddfarn; yna cippiwyd
hwytheu allan a 'u penne 'n isa. Yn
nesa i 'r rhain, daeth saith Recordor: peri
iddynt godi eu dwylo ar y barr, ni chlywid
mo hynny, canys 'r oedd y cledreu 'n
ireiddlyd; ond dechreuodd un ddadleu 'n
hyfach, ni ddylasem gael dyfyn teg i barotoi
'n hatteb, yn lle 'n rhuthro 'n lledradaidd.
O nid ŷm ni rwymedig i roi i
chwi 'r un dyfyn pennodol, ebr Angeu, am
eich bod yn cael ymhôb lle, bôb amser
o 'ch einioes rybudd o 'm dyfodiad i. Pa
sawl pregeth a glywsoch am farwoldeb
dyn
? Pa sawl llyfr, pa sawl bedd, pa
sawl clul, pa sawl clefyd, pa sawl cennad
ac arwydd a welsoch? Beth yw 'ch
Cŵsc ond fy mrawd i? Beth yw 'ch penglogeu
ond fy llun i? Beth yw 'ch bwyd
beunyddiol ond creaduriaid meirwon? Na
cheisiwch fwrw mo 'ch aflwydd arna fi,
chwi ni fynnech sôn am y dyfyn er ei gael
ganwaith. Ertolwg, ebr un Recordor coch,
be sy gennych i 'n herbyn? Beth, ebr Angeu?
Yfed chwŷs a gwaed y tlodion, a
chodi dwbl eich cyflog. Dyma wr gonest,
eb ef, gan ddangos Cecryn oedd o 'u hôl, a
ŵyr na wnaethum i 'rioed ond tegwch: ac
nid têg i chwi 'n dàl ni yma heb gennych

[td. 71]
un bai pennodol i 'w brofi i 'n herbyn. Hai,
hai, ebr Angeu, cewch brofi 'n eich erbyn
eich hunain: Gosodwch, ebr ef, y rhain
ar fin y Dibyn ger bron Gorsedd Cyfiawnder,
hwy a gânt yno uniondeb er nas
gwnaethant. Yr oedd yn ôl etto saith o
Garcharorion eraill, a rheiny 'n cadw 'r fâth
drafferth a thrŵst, rhai 'n gwenieithio,
rhai 'n ymrincian, rhai 'n bygwth, rhai 'n
cynghori, &c. Prin y galwasid hwy at y
barr, nad dyma 'r Llŷs oll wedi duo 'n
saith hyllach nac o 'r blaen, a grydwst, a
chyffro mawr o gylch yr Orseddfainc a 'r
Angeu 'n lasach nac erioed. Erbyn ymorol
un o gennadon Lucifer a ddaethei â Llythyr
at Angeu, ynghylch y saith garcharor
hyn ac ymhen ennyd parodd Tynged ddarllen
y Llythyr ar osteg, ac hyd yr wy 'n
cofio dyma 'r geirieu:
Lucifer Brenin Brenhinoedd y Byd, Twysog
Annw'n a Phrif-Reolwr y Dyfnder at
Ein naturiol Fâb, y galluoccaf Ddychrynadwy
Frenin Angeu, cyfarch a goruchafiaeth
ac yspleddach dragwyddol.

Yn gymaint a darfod i rai o 'n cennadon
cyflym sy 'n wastad allan ar Yspî, yspysu i
ni ddyfod gynneu i 'ch Brenhinllys, saith
Garcharor o 'r saith rywogaeth ddihira 'n y
Byd, a pherycla, a 'ch bod chwi ar fedr eu

[td. 72]
hyscwyd tros y Geulan i 'm Teyrnas i:
Eich cynghori 'r wyfi i brofi pôb ffordd
bossibl i 'w gollwng hwy 'n eu hôl i 'r Byd:
gwnânt yno fwy o wasanaeth i chwi am
ymborth ac i mineu am well cwmnhi:
Canys, gwell gennym eu lle na 'u cwmpeini,
cawsom ormod o heldrin gyda 'u
cymmeiriaid hwy er's talm, a 'm Llywodraeth
i 'n cythryblus eusys. Am hynny
trowch hwy 'n ei hôl, neu gedwch gyda
chwi hwynt. Oblegid myn y Goron Uffernol
os bwri hwy yma, mi a faluriaf tan
Seiliau dy Deyrnas di hyd oni syrthio 'n
un a 'm Teyrnas fawr fy hun.
O 'n Brenhinllys ar sugnedd yn y Fall-gyrch
eirias yn y Flwyddyn o 'n Teyrnasiad
5425.
Safodd y Brenin Angeu a 'i wep yn wyrdd
ac yn lâs ennyd ar ei gyfyng-gyngor. Ond
tra bu e 'n myfyrio, dyma Dynged yn troi
atto 'r fath guwch haiarn-ddu a wnaeth
iddo grynu. Syre, ebr ef, edrychwch beth
a wneloch: Ni feiddia fi ollwng neb yn
ol trwy Derfyn glawdd Tragwyddoldeb y
Wàl ddiadlam, na chwitheu eu llochi hwy
yma; am hynny, gyrrwch hwynt ymlaen
i 'w destryw heb waetha i 'r Fall fawr; Fe
fedrodd drefnu llawer dalfa o fil neu
ddengmil o eneidieu bôb un i 'w le mewn

[td. 73]
munud, a pha 'r gledi fydd arno rwan gyda
saith er eu perycled? Pa ddelw bynnac, pe
troent y llywodraeth uffernol tros ei cholyn,
gyrr di hwynt yno 'n sydyn, rhag
ofn i mi gael gorchymyn i 'th daro di 'n
ddim cyn d' amser. Am ei fygythion ef,
nid ŷnt ond celwyddog: Canys er bod dy
ddiben di a 'r henddyn draw (gan edrych
ar Amser) yn nesau o fewn ychydig ddalenneu
'n fy Llyfr disommiant i; Etto nid
rhaid i ti uno'n [~ unofn ] soddi at Lucifer, er daed fyddei
gan bawb yno dy gael di, etto byth
nis cânt: Oblegid mae 'r Creigieu dûr
a diemwnt tragwyddol sy 'n toi Annwn
yn rhy gedyrn o beth i 'w malurio. Ar
hynny galwodd Angeu 'n gyffrous am un
i sgrifennu 'r atteb fel hyn:
Angeu, Frenin y Dychryniadau, Cwncwerwr
y Cwncwerwyr at ein Parchediccaf Gâr a 'n
Cymydog Lucifer Brenin Hirnos, Penllywodraethwr
y Llynclyn Diphwys annerch.

Ar ddwfn ystyried eich brenhinol ddymuniant
hwn, gwelsom yn fuddiolach nid
yn unic i 'n Llywodraeth ni, eithr hefyd
i 'ch Teyrnas helaeth chwitheu, yrru 'r carcharorion
hyn bella, bai bossibl, oddiwrth
ddryseu 'r Wal ddiadlam, rhag i 'w Sawyr
drewedig ddychrynu 'r holl Ddinas ddihenydd,

[td. 74]
fel na ddêl dyn byth i Dragwyddoldeb
o 'r tu yma i 'r Agendor, ac felly ni
chawn i fyth oeri ngholyn, na chwitheu
ddim cwsmeriaeth rhwng Daiar ac Uffern.
Eithr gadawaf i chwi eu barnu a 'u bwrw
i 'r celloedd a welochwi gymmwysaf a siccraf
iddynt.
O 'm Brenhinllys isa yn y Goll-borth fawr
ar Ddistryw. Er blwyddyn adnewyddiad
fy Nheyrnas, 1670.

Erbyn clywed hyn oll, 'r oeddwn inne 'n
ysu am gael gwybod pa ryw bobl allei 'r
Seithnyn hynny fod, a 'r Diawliaid eu hunain
yn eu harswydo cymmaint. Ond cyn
pen nemor, dyma Glarc y Goron yn eu
galw hwy wrth eu henwau fel y canlyn.
Meistr Medleiwr, aliàs Bys ym hôb brywes,
'roedd hwn mor chwidr a phrysur yn
fforddio 'r lleill nad oedd e 'n cael mor
ennyd i atteb trosto 'i hun nes i Angeu
fygwth ei hollti a 'i saeth. Yna Meistr
Enllibiwr, aliàs Gelyn y geirda, dim atteb:
mae e 'n orchwylus glywed ei ditlau, eb y
trydydd, nis gall aros mo 'r llysenwau.
Ai tybied, eb yr Enllibiwr, nad oes ditlau i
chwitheu? Gelwch, ebr ef, Meistr Rhodreswr
mel-dafod, aliàs, Llyfn y llwnc, aliàs, Gwên
y gwenwyn. Redi! ebr Merch oedd yno
tan ddangos y Rhodreswr. O, ebr ynte,

[td. 75]
Madam Marchoges! eich gwasanaethwr tlawd,
da genni 'ch gweled yn iâch ni weles i
'rioed ferch harddach mewn clôs; ond
o'ch feddwl druaned yw 'r Wlâd ar eich
ôl am lywodraethwraig odiaeth, etto 'ch
cwmnhi hyfryd chwi a wnâ Uffern ei
hun yn beth gwell. O Fâb y Fall fawr,
ebr hi, nid rhaid i nêb gyda thi 'r un
Uffern arall, 'r wyti 'n ddigon. Yna galwodd
y Criwr Marchoges, aliâs, Meistres y
Clôs!
 Redi, eb rhywun arall, ond hi ni
ddywedodd air, eisieu ei galw hi Madam.
Yn nesa, galwyd Bwriadwr Dyfeisieu, aliàs,
Siôn o bob Crefft
. Ond ni attebei hwnnw
chwaith, 'r oedd e 'n prysur ddyfeisio 'r
ffordd i ddianc rhag Gwlâd yr Anobaith.
Redi, redi, ebr un oi ôl, dyma fo 'n spio lle
i dorri 'ch brenhinllys, ac oni wiliwch, mae
ganddo gryn ddyfais i 'ch erbyn. Ebr y
Bwriadwr, gelwch ynte 'n rhodd, Meistr
Cyhuddwr, ei frodyr, aliàs, Gwiliwr y gwallieu,
 aliàs, Lluniwr Achwynion. Redi,
redi
, dyma fo, ebr Ceccryn cyfreithgar,
canys gwyddei bob un henw 'r llall, ond ni
addefei neb mo 'i henw ei hunan. Gelw
chwitheu, ebr Cyhuddwr, Meistr Ceccryn
cyfreithgar, aliàs, Cwmbrus y cyrtieu:
Tystion,
tystion o honoch, fel y galwodd y cnâ fi,
ebr Cecryn. Hai, hai, ebr Angeu, nid wrth
y Bedyddfaen, ond wrth y Beieu 'r henwir
pawb yn y Wlad yma, a thrwy 'ch

[td. 76]
cennad, Meistr Ceccryn, dyna 'ch henweu
a sai arnoch o hyn allan byth. Aie, ebr
Ceccryn, myn Diawl, mi wnâ 'n hâllt i
chwitheu, er y galleich fy lladd, nid oes
gennych ddim awdurdod i 'm llysenwi.
Mi rôf gydcwyn am hynny, ac am gamgarchariad
arnoch wi ach câr Lucifer ynghwrt
 Cyfiawnder. Erbyn hyn, gwelwn
fyddinoedd Angeu wedi ymdrefnu, ac ymarfogi,
a 'u golwg ar y Brenin am roi 'r gair.
Yna, ebr y Brenin, wedi ymsythu ar ei frenhinfainc,
Fy lluoedd ofnadwy anorchfygol
na arbedwch ofal a phrysurdeb i hebrwng
y Carcharorion hyn allan o 'm Terfyneu i
rhag diwyno Ngwlâd; a bwriwch hwy
'n rhwym tros y Dibyn diobaith, au penne
'n isa. Ond yr wythfed y gwr cwmbrus
yna sy 'n fy mygwth i, gedwch ef yn
rhŷdd uwchben y Geulan tan Gwrt Cyfiawnder,
i brofi, gwneud ei gwyn yn ddâ
i 'm herbyn i, os geill. A chyda 'i fod e 'n
eistedd, dyma 'r holl Fyddinoedd marwol
wedi amgylchu a rhwymo 'r Carcharorion,
ac yn eu cychwyn tu a 'u lletty. A minneu
wedi mynd allan, ac yn lled-spio ar
eu hôl, Tyrd yma, ebr Cwsc, ac a 'm cippiodd
i ben y Tŵr ucha ar y Llŷs. Oddiyno,
gwelwn y Carcharorion yn mynd
rhagddynt i 'w dihenydd tragwyddol: A
chyn pen nemor, cododd pwff o gorwynt,
ac a chwalodd y Niwl pygdew cyffredin

[td. 77]
oedd ar wyneb Tir Ango, onid aeth hi 'n
llwyd oleu, lle gwelwn i fyrdd fyrddiwn
o ganhwylleu gleision, ac wrth y rheiny,
cês olwg o hirbell ar fin y Geulan ddiwaelod:
Ond os golwg dra echryslawn oedd
honno, 'roedd yno uwchben olwg erchyllach
na hitheu, sef, Cyfiawnder ar ei Gorseddfainc
yn cadw drws Uffern, ar Frawdle
neilltuol uwchben y safn i roi barn ar y
Colledigion fel y delont. Gwelwn daflu
'r lleill bendramwnwgl, a Checcryn ynteu
yn rhuthro 'i daflu ei hun tros yr ymyl
ofnadwy, rhag edrych unwaith ar Gwrt
Cyfiawnder, canys och! 'r oedd yno olwg
rydost i wyneb euog. Nid oeddwn i ond
yspio o hirbell, etto mi a welais fwy o erchylldod
arswydus, nac a fedrai rwan ei
draethu, nac a fedrais i 'r pryd hynny ei
oddef; canys, ymdrechodd a dychlammodd
f' yspryd gan y dirfawr ddychryn, ac ymorchestodd
mor egniol, oni thorrodd holl
gloieu Cŵsc, a dychwelodd f' enaid iw
chynnefin swyddeu: A bu lawen iawn
genni 'ngweled [~ fy ngweled ] fy hun etto yn ymŷsc y
rhai byw; a bwriedais fyw well-well, gan
fod yn esmwythach genni gan mlynedd o
gystudd yn llwybreu sancteiddrwydd, na
gorfod gweled cip arall ar erchylldod y Noson
honno.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section