Adran o’r blaen
Previous section

Edward y pedwerydd


Edward bedwerydd vab Richard düc o Iork ap
Richard Iarll Cambrits ap Edmwnd düc o Iork
y 4.ydd mab i Edward y .3.ydd brenhin Lloegr./

Mam Richard düc o Iork oedd Anna verch Roger
Mortimer Iarll y Mars vab Philippa
verch ac etifedd Leionel Düc o Glarens yr
ail mab ir vn Edward .3.ydd vrenhin Lloegr ac
wrth y claim hwnn i kafas vod yn vrenhin
ai goroni Ddüw Sül y Drindod oed Crist mil
a phedwarcant ac vn a thrügein o vlynyddoedd

Edward y 4ydd hwnn trwy eiriol Elsabeth i wraic
a beris kwnnu gwyl Vair y Visitasion oed
Crist 1480. ar vlwyddyn honno i peris Edward
y 4.ydd vwstro kwbwl o Loegr a Chymrü / oi
wrogeth ef yr .20.

Pan oedd oed Crist .1462. [Brenhin Harri] a
brenhines Margred [a ddoethant] o Scotlond
a llü mawr ganthün o Scottied a Phrancod
ac yn Exam Sir [i daüth] arglwydd
Montagüw capten y Nordd i ymgyfarvod

[td. 219r]
ac wynt. Ac a orfü ar vrenhin Harri gilo
gwedi hir ymladd / ar Düc o Somersed a ymadowsse
yn hwyr kynn hynny, a brenhin Edward a
ddalwyd yn y maes a llawer gid ac ef ac a dorred
i benn

Yr ail vlwyddyn brenhin Harri a ddalwyd ac a
aethbwyd ac ef trwy Lünden ir Twr gwynn
ar vrenhines aeth ai mab gid a hi i Phrainc
at y Düc Rayner i thad./

Oed Crist 1464. i prioded Edward y 4.ydd a chwaer
brenhin Phrainc ond tra fü Iarll Warwic
yn keisso bona dros y brenhin Edward ynte a
briododd heb wybod yng Graphton arglwyddes
Elsabeth gwraic Syr Iohn Gray or blaen ac or
achos honno i bü lawer o ddrwc rhwng y brenhin
ac Iarll Warwic./

Yr ail vlwyddyn i ganed Elsabeth yr honn a vü
gwedi hynny vrenhines Harri Seithued a
mam Harri wythued

Pan oedd oed Crist .1466. i daüth bastard Byrgwyn
i Loegr i geisso kyvathrach rhwng Siarls
aer Byrgwyn a chwaer brenhin Edward
ar gyfathrach a wnaethbwyd

Oed Crist 1467. I kwnnodd Iarll Warwic ynn
erbyn y brenhin ar düc o Glarens brawd y
brenhin gid ac ef. Ac Archesgob Iork Marküys
Mowntagüw i vrodyr ar Iarll ar düc
o Clarens aeth i Galais ac yno i priododd y
Düc verch Iarll Warwic

Y vlwyddyn honn i gwnaeth gwyr Sir Iork a
gwyr y Nordd gapten arnün ai alw Robin Ridistal
ac yn agos i Vanbri arglwydd Herbert

[td. 219v]
ai vrawd Syr Richard Herbert a Thomas ap
Rhosser a llü o seithmil ganthün a ymgyfarvüon
a gwyr y Nordd a gwyr y Nordd
a ddüc y maes./ Ac arglwydd herbert
oed  Syr Wiliam Thomas Iarll Penfro a ddalwyd
a Syr Richard Herbert ac a dorred i
penne. a Thomas ap Rhosser a laddwyd
ac Elen Gethin a gyrchodd i gorph ef adref
ac ai claddodd yn Eglwys Gintün yn anrhydeddüs.
a phüm mil o Gymrü yn y maes ym
Manbri a laddwyd

Gwedi /r/ maes hwnn i daüth gwyr y Nordd i
Warwic lle ir oedd yr Iarll ar Düc o Clarens
gwedi kynnüll llü mawr a brenhin Edward ai
bower ynte a ddaüth yn i herbyn ond yn ddirybüdd
yr Iarll ar hyd nos aeth am benn camp y brenhin
ac a ddalodd y brenhin, ac ai danfonodd i Vüdylham
castel yngharchar yn Iork Sir at Archescob
Iork brawd yr Iarll ac yno drwy gyngor a
nerth Syr Wiliam Stanley a Syr Thomas Borowgh
i diangodd or carchar ac i Lündein i
daüth ac i kynnüllodd lü mawr Ac yno i kyfarvü
ac arglwydd Wels a llü mawr gantho ynte
ar brenhin a ddüc y maes ac yno i llas dec mil
ynn y lleiaf a thorri penne arglwydd Wels a
Syr Robert Wels i vab a Syr Robert Demok a
llawer y chwanec ar maes hwnn a elwir los
coat Phild. achos gwyr Lincol Sir a vyrrodd
i siackedi ac a gilodd./

Y vlwyddyn honn ir aeth Iarll Warwic ar düc o
Clarens i Phrainc ac yno i büon ynghylch

[td. 220r]
chwe mis ac yno i daüth Iarll Warwic ar düc
o Clarens ac Iarll Penvro ac arglwydd  Rhydychen
ar kyphredin a ddaüth attün ac Edward
a gilodd i Phlandrs at y Düc o Byrgwyn a
brenhines Elsabeth ai mab Edward a gymerth
Seintwari ynn Westmestr ______

a Harri chweched ynn i vrenhiniaeth drychefn
a chrio Edward yn Draettür, ond hynny ni
bü hir byrhaodd

Oed Crist 1470. i kyfarvü vrenhin a brenhin
Harri yn i gwmpeniaeth ac Iarll Warwic
Ddüw Pasc y Marnad Phild dec milltir o Lündein
ac yno rhyngthün i bü vaes kreülon ar
gore a gafas brenhin Edward ac yno i llas
Iarll Warwic a elwid Richard Nevyl a Marküys
Mowntagüw i vrawd a dec mil ychwanec./
Ac ar vyrr ynn ol y maes hwnnw i kymerth
brenhines Margred Seintwari y Mewley yn
Hamsir ac atti i daüth y düc o Somersed
ac Iarll Defnsir a llawer y chwanec o lü
a brenhin Edward a llawer llü mawr gantho
a ymgyfarvü ac wynt yn emyl Tewksbri ac yno
i bü vaes creülon rhyngthün ond brenhin
Edward ai düc a brenhines Margred a ddalwyd
ac a roed [iddo ef] ac Edward i mab gerr bronn
y brenhin a vwrdrwyd yn gwilyddüs./

Ar maes yn Tewksbri [a vü] ar ddüw Sadwrn
y 4ydd dydd o Vai a Düw llün gwedi hynny i torred
penne Edmwnd Düc o Somersed a Phrior Saint
Iohns o Gaerüsalem ac ychwanec ac i danfoned

[td. 220v]
brenhines Margred yngharchar i Lünden
yr honn gwedi hynny a brynodd i Thad ac i danfoned
i Phrainc./

Gwedi hynn i kwnnodd Bastart Phawconbrig
a gwyr Kent ac Essex gid ac ef yn erbyn y
brenhin ond hwynt a orvüwyd ar vyrder ac
a roed i veirw./

Y vlwyddyn honn i bü varw y brenhin Harri .6.ed
ac ai gorph i doüthbwyd or twr gwynn i Bowls
ac yno i bü noswaith ac medd rhai Richard düc
o Gloseter ai lladdodd a dager brawd Edward
vrenhin oedd y Düc

Pan oedd oed Crist 1473. ir aeth brenhin Edward
4ydd i Phrainc ond eisse gallel ymddired ir Ddüc
o Byrgwyn idd heddychodd ef a brenhin Phrainc
ac ar vrenhin Phrainc dalü i vrenhin Edward
bymthec a thrügein mil o gorone. A phob blwyddyn
ymyw brenhin Edward dec mil a deügein
o gorone./

Pan oedd oed Crist 1477. y vlwyddyn o wrogeth
Edward y 4ydd y 17.ec i boddwyd Georg Düc o
Clarens brawd y brenhin mywn tünnell o win
yn y Twr gwynn./ Y vlwyddyn rhac wyneb
i bü varwolaeth vawr yn Llünden a thrwy Loegyr


Pan oedd oed Crist 1482. i bü varw Edward
4ydd yn nechre y 23. vlwyddyn oi wrogeth ef
y .9.ed dydd o Ebrill ynn Westmestr ac yn Winsor
i claddwyd

Ac yn i ol y gydewis [~ gadewis ] Edward i vab hynaf a
Richard Düc o Iork a thair merched Elisabeth
yr honn a vü gwedi hynny vrenhines, Ciceli a Chatrin./


[td. 221r]

Edward y pümed


Edward bümed a ddechreüodd meddiannü yr
Ynys honn yr .11. dydd o Ebrill pan oedd oedran
Crist 1483. ac nid oedd yr Edward hwnn ond
.11. vlwydd nei ynghylch hynny ac ef ni choronwyd
er ioed ond wrth orchymyn Richard
y .3.ydd i mwrderwyd ar Richard hwnnw aeth
ynn i ol ef yn vrenhin

Richard y trydydd


Richard y .3.ydd a ddechreüodd teyrnassü yr .21.
dydd o vis Myhevin oedran Crist .1483./ ar .6.ed
o vis Gorphennaf nessaf at hynny
i coroned ynn Westmestr

Y vlwyddyn honno i torred penn y Düc o Bwckingam
yn Salsbri./

Pan oedd oed Crist 1485. i bü yr maes yn Bossworth
rhwng brenhin Richard a brenhin
Harri seithüed y .22. dydd o Awst ac i gorfü
Harri seithved ac i kafas y vyddygoliaeth
yn vwy o nerth a gallü y gorüchaf Ddüw
nac o vilwriaeth gwyr Ac yn y maes i
llas Richard vrenhin y .3.edd vlwyddyn oi wledychiad
ac arglwydd Lorel a gilodd ar Düc o
Northpholk a las a llawer o arglwyddi eraill./


[td. 221v]

Harri .7.ed


Harri seithved a ddechreüodd wledychü pan oedd
oedran Crist 1485. ar .13.ec dydd o vis Hydref i
coroned ef yn Westmestr ar Harri hwnnw
oedd vab Edmwnd Iarll Richmownt ap Owain
ap Meredydd ap Tüdür ap Gronwy ap Tüdür
ap Gronwy ap Ednyfed Vychan ap Kynwric
ap Ioreth &c. ac a vü vrenhin anrhydeddüs
clodvawr kadarn kreülon dewr trügaroc,
kyfion, kelvyddüs anodd i berchen tafod
draethü i weithredoedd da./

Pan oedd oed Crist .1486. yr ail vlwyddyn oi
wrogeth i priodes ef Elsabeth verch brenhin
Edward .4. a mis Medi nessa yn ol hynn i ganed
Prins Arthür yn Winsiestr./ Y vlwyddynn
rhac wyneb i coroned y vrenhines ynn
Westmestr

Pan oedd oed Crist 1488. i lladdodd kyphredin y
Nordd Iarll Northwmberlond. Ar vlwyddyn
honno i bü vaes yn Phlawndrs rhwng arglwydd
Dawbnee ac arglwydd Morley a las
yno./

Pan oedd oed Crist 1490. i ganed Harri yr ail
mab i Harri .7.ed yn Grinwits vis Myhevin./

Oed Crist 1493. I bü yr bwyssel gwenith er
chwe cheinoc yn Llünden ac yn y vlwyddyn honn
i torred penn Syr Wiliam Stanley./

Oed Crist .1496. I bü yr maes ynn y Black
hieth y .18. dydd o vis Myhevin./


[td. 222r]
Oed Crist .1499. I torred penn Iarll Warwic
ac ir aeth y brenhin i Galais at y Düc o Byrgwyn


Pan oedd oed Crist .1500. yr .16. vlwyddyn o wrogeth
Harri seithved i tiriodd arglwyddes Katrin chwaer
yr Emperodr merch brenhin Spayn ym
Hlümwth./

Oed Crist .1502. I bü varw brenhines Elsabeth
yn y Twr gwynn a hithe ar i gwely. Ar wythved
dydd o Awst y priododd brenhin y Scotlond
arglwyddes Margred y verch hynaf./

Oed Crist .1505. I byrrodd gwynt geiloc clochty
Powls i lawr ac i byrrodd y Düc o Byrgwyn
i dir ynn y West cowntri./

Oed Crist. 1507. I llosgodd llawer o dai yn Rhef
Norwits./

Y vlwyddyn honno i bü varw brenhin Harri
.7.ed yr .21. dydd o vis Ebrill yn Richmownt
y bedwaredd vlwyddyn arhügein oi wrogeth
ac yn Westmestr i claddwyd./


[td. 222v]

Harri wythued


Harri wythved a ddechreüodd teyrnassü y .22.
dydd o vis Ebrill oedran Crist 1509. ac a goroned
yn Westmestr ddydd gwyl Ieüan Vedyddiwr
nessaf at hynny./ Y vlwyddyn honn
i torred penne Empson a Dwdley./

Oed Crist 1510 i ganed mab i Harri yn Richmownt
ar Ddüw Calan a dydd gwyl Vathew  nessaf
i bü varw yr mab./

Oed Crist .1511. I daliodd arglwydd Haward
Andro Berton a thrügein a chant o Scottied
a dwy long dec./

Pan oedd oedran Crist .1512. I torred penn Edward
Dela pwl ac i danfoned Marqwys Dorsed
i Spayn a dec mil o lü gantho ac yno
i gwnaeth lawer o ddrwc yn Gien ac ar ddydd
gwyl Saint Lawrens i llosgodd y Regent
ar Karrik y rhai oedd ddwy [long] arüthr
o vaint./

Yr ail vlwyddyn ir aeth Syr Edward arglwydd
Admiral Lloegr ac i llas ar ddydd gwyl Vark
ym Brüttaen vechan./ Ar vlwyddyn honn i rhoes
y brenhin sawd wrth Derwyn ac i gorchvygodd
bower Phrainc ym boemye ac ir ennillodd
Derwyn a Thwrney./

Ar vlwyddyn honn i daüth Siames brenhin Scotlond
i Loegr a chan mil o lü gantho y nawed
dydd o vis Medi ac i pwyntiwyd maes rhyngtho
ac arglwyddi o Loegyr nid amgen arglwydd

[td. 223r]
Tressorer ac arglwydd Haward a marchogion
vrddolion a boneddigion ambenn hynny ar
maes a vü yng Krakmor dwy villtir o Northampton
ac yno i llas Siamys brenhin Scotlond
ac vnarddec o Ieirll y Scotlond a thri o
Esgobion a phedwar arddec o varchogion vrddolion
a deüddec mil o voneddigion a chyphredin
am benn hynny o Scotlond./

A chwedi hynny i gwnaethbwyd xxx. o varchogion
ynn Lloegr./

Weithian llyma henwaeü pendevigion o Scotlond
a las ynn y maes nid amgen./

Ynn y ward gyntaf Iarll Lenog./ Iarll o
Lewys / Iarll Argil / Iarll Castil / Iarll
Egillton./

Yn yr ail ward Brenhin Scotlond./ Esgob
Saint Andro / Iarll Morton / Arglwydd  Siamberlenn./
Iarll Angwys / Iarll Mowntres./

Yn y drydedd ward Esgob Catnais / Esgob
Argil / Incastor of Angwys

Pan oedd oed Crist yn .1514. ir aeth yn heddwch
rhwng brenhin Lloegr a brenhin Phrainc ac i
priododd brenhin Phrainc arglwyddes Mari chwaer
Harri wythüed./ A Düw Calan gwedi hynny
i bü varw brenhin Phrainc ac i danfoned
y Düc o Swpholk Syr Siarls Brandon iw
chyrchü drychefn./

Pan oedd oed Crist .1515. I ganed arglwyddes Mari
 verch Harri wythüed ynn Grinwits./ a
mis y prioded y Düc o Swpholk Siarls Bran don

[td. 223v]
ac arglwyddes Mari brenhines Phrainc./

Y vlwyddyn honn i daüth arglwyddes Margred
brenhines Scotlond a chwaer brenhin Lloegr
i Loegr ac ynn Harbottel i ganed iddi verch a
elwid Margred. A mis Mai i daüth i Lünden
ac i tariodd vlwyddyn.

Oed Crist .1516. I bü rew kimaint ac i gellid
myned a chenired o Westmestr i Lambeth a
cheirr ac a cherti./ Ar vlwyddyn honn vis
Mai i kwnnodd prentissied Llünden yn erbyn
gwyr dieithr oedd yno ac am hynny i colled
llawer o honün ac i daüth y rhann arall o
honün i Westmestr a chebystre am i gyddfeü
ac i pardynwyd. Ar .24. dydd o Vai ydd
aeth brenhines y Scotlond tü ac adref./

Oed Crist .1517. I rhoed Terwyn a Thwrne
i vrenhin Phrainc eilwaith. Yr ail vlwyddyn
y dewisswyd Siarls bümed yn Emperodr
Rhüfain. Ar vlwyddyn honn i danfoned Iarll
Surrei i Iwerddon./

Y vlwyddyn rhac wyneb i kyfarvü vrenhin Lloegyr
a brenhin Phrainc ynn y camp rhwng
Ard ar Geinys./ Gwedi hynny i kyfarvü
Harri .8.ed ar Emperodr ac ir aeth y brenhin
gid ar Emperodr i Raflin ac o ddyno i
Galais [i daüth yr Emperodr] gid ar brenhin
Ac i daüth y brenhin adref./

Oed Crist .1520. I torred penn y Düc o Bwckingam
y .22. dydd o Vai. Y mis yr aeth y
Cardinal i Galais i geisso heddwch rhwng

[td. 224r]
brenhin Phrainc ar Emperodr ac yno i tarriodd
hyd vis Rhacvyrr heb nes i heddwch

Oed Crist .1521. y chweched dydd o vis Mehevin
i daüth yr Emperodr i Lünden ac o Lünden
ir aeth i Winsor ac yno i gwnaethbwyd yn
varchoc or gardys Ac o ddyno i Sowthampton
a thross y mor y Yspaen ar amser hwnnw
Iarll ______ arglwydd Admiral a losges
Morlais ym Brüttaen ac yno i tiriodd yng
Calais ac o ddyno i Bickardi ac yno i Llosges
gestyll a threfi Ac a rodd wrth Heldyng ond
y min gayaf oedd i kwnnodd i sawd ac i daüth
adref./

Y vlwyddyn honn i daüth y Düc or Alban i Loegr
a llü mawr gantho a phann glybü mae Iarll
y Mwythic oedd yn dyfod i ymladd ac ef trüws
a gymerth dros chwe mis./

Oed Crist .1522. I daüth Crustern brenhin Denmark
i Loegr vis Myhevin. Y vlwyddyn honn
i llosgodd Iarll Swrrey ______ a llawer
o drefi a chestyll ac ynn bennaf o honün tref
Iodworth ynn y Scotlond. Ar vlwyddyn honn
ir oedd y Twrk y sowdio Rods a Düw Nadolic
i rhoed i vynü iddo

Oed Crist 1523. y bymthegved o wrogeth Harri
.8.ed ir aeth y Düc o Swpholk i Phrainc
a dec mil o lü gid ac ef hyd tros Water
Swm heb gynnic vn maes ac i dünüstriodd
llawer o drefydd a chestyll. a mis Rhagvyrr
i troes drychefn./

Y vlwyddyn honn ir oedd y Düc o Albani yn rhoi

[td. 224v]
sawd wrth gastell Wark. a phann glybü ef vod
Iarll Swrrey yn dyfod a llü mawr gantho
efo a gilodd./

Oed Crist .1524. I daüth Embasseters o Spaen
ac y Scotlond ac o leoedd ereill i Loegr a
heddwch rhwng Lloegr a Phrainc a Rebel
ynn Norpholk a Swpholk a delifro brenhin
Phrainc o garchar vis Mawrth./

Pan oedd oed Crist 1526. ir aeth y Cardinal
i Phrainc ac i gwnaeth heddwch rhwng brenhin
Phrainc a brenhin Lloegr ac yn vn ynn erbyn
yr Emperodr a mis Medi i danfonyssont lü
i Itali ac ir Rhüfeindir. Mis Hydref i daüth
y great mastr o Phrainc i Loegr i sickraü
ac i rwymo yr heddwch hwnnw./

Pan oedd oed Crist 1528. mis Myhevin ir eisteddodd
Legat y Pab yn hy /r/ Phriers düon am briodas
y brenhin

Y vlwyddyn honn ir heddychwyd rhwng y brenhin ar
Emperodr.

Yr ail vlwddyn i coronwyd yr Emperodr ynn
Bononi. Y drydedd vlwddyn i rhyddhawyd plant
brenhin Phrainc ac i bü varw yr Cardinal./

Pan oedd oed Crist 1531. I dechreüodd y brenhin adeilad
yn Westmestr ac ir aeth y brenhin
i gyfarvod a brenhin Phrainc vis Hydref
ac i torred penn Mr Rh ap Sr g'. Rh.

Pan oedd oed Crist .1532. Ir ysgarwyd y brenhin
a brenhines Katrin ac achos na chyttüne y
Pab ar anghyfreithlonn ysgar hwnnw efo ai
bower a nakawyd yn y Deyrnas [honn] ac ni
bü ddim gwelliant ir ynys hynny./

Gwedi hynny brenhin Harri .8.ed a briododd Ann
Bwlen yr honn a goroned Ddüw sül y Sülgwyn

[td. 225r]
gwedi hynny./ Dydd gwyl Ieuan gwedi  hynny
i bü varw Mari brenhines Phrainc chwaer
brenhin Lloegr a gwraic Syr Siarls Brandon
Düc o Swpholk./

Oedran Crist pan aned arglwyddes Elsabeth yn
Grinwits ar noswyl Vair y seithued dydd o
vis Medi .1533.

Pan oedd oed Crist 1533. y .23. o Harri .8.ed i llosged
yr holi mayd o Gent a daü vynach a daü  phrier
ac opheiriad a groged ac a dorred i benn
am Dresson a blasphemi ac hyppocrisi ac
ir aeth yn heddwch rhwng Lloegr ac y Scotlond./


Y vlwyddyn honn i byrrwyd y Pab ynn gweit ai
bower or Deyrnas honn./ Yr ail vlwyddyn
i kwnnodd arglwydd Kildar ac i rhyfelodd ynn
erbyn y brenhin ac i lladdodd Esgob Dülün ac
yno idd yrrodd y brenhin Syr Wiliam Skevington./


Y vlwyddyn honn i kanhiadwyd ir brenhin y
phrwytheü kyntaf ar degued or phrwytheü yr Eglwyssi
trwy Loegr a Chymrü./

Mis Myhevin i torred penneü Esgob Rochestr a
Syr Thomas More am wrthnevo nei nakaü y
brenhin yn benn ar Eglwys Loegr a thri
mynach or Siartrhows am yr vn achos a varnwyd
i veirw./

Pan oedd oed Crist .1535. I torred penne brenhines
Ann Bwlen ac arglwydd Rochephord
a Norrys, Weston a Brerton a Marks
ac i priododd y brenhin arglwyddes Sian Seimer./


Y vlwyddyn honn i bü yn Swydd Iork ac ynn

[td. 225v]
Swydd Lincol ynvydrwydd mawr yn erbyn y
brenhin o waith arglwydd Darci arglwydd Hwssi
Syr Robert Constabl a Robert Ask ac o synnwyr
y brenhin ai gynghoried heb golledigaeth
gwaed i heddychwyd

Yr ail vlwyddyn i kwnnodd arglwydd Darsi Syr
Phrawncis Bigot a Syr Robert Constabl yn erbyn
y brenhin a hwynt a ddalwyd ac a vyrwyd
i varw

Pan oedd oedran Iessü Grist .1537. o vlynyddoedd
noswyl St Edward i ganed Prins Edward yn
Hampton Cowrt ac ar i enedigaeth ef i bü varw
brenhines Sian i vam ef ac yn Winsor i claddwyd


Pan oedd oed Crist 1538. i dechreüwyd casglü
ir tylodion./ Mis Mai i colled ac i llosged Phrier
Phorest

Y vlwyddyn honn vis Rhagvyr i torred penne y
Markwys o Exeter ac arglwydd Mowntigüw a
Syr Edward Nevyl

Pan oedd oed Crist .1539. vis Mai i mwstriwyd
holl Lünden mywn harnes gwynnion a
siackedi o sidan gwynn a brethyn gwynn a chadwyneü
aür mywn tri maes o ryfel hyd pan
oedd ynn rhyfeddod i lawer o ddieithred o amryfaelion
Deyrnassoedd

Y vlwyddyn honn vis Rhagvyrr i daüth arglwyddes
Ann Clif chwaer y Düc o Clif i Loegr
ac ar ddügwyl Ystwyll gwedi hynny i prioded
ar brenhin Harri wythued. A mis Gorphennaf
ynn ol hynny i troes y brenhin y hi i phwrdd./

Mis Tachwedd y vlwyddyn honn i torred penne
Abad Reading ac Abad Glassynbüri ac Abad
Colchester./


[td. 226r]
Pan oedd oed Crist 1540. yr .28. dydd o vis
Gorphennaf Thomas Cromwel Iarll Essex ac
arglwydd Water Hwngerphord a dorred i
penne ynn y Twr hyl am dresson. Ac oni
bai vynny o Ddüw hynny e drigse Richard ap
hoel esqwier a Sersiant of arms a Sion
Lloyd mab dd ap hoel ddü gwr bonheddic a Hoel
ap Syr Mathew prydydd a gwr g. a deüddec ychwanec
o wyr Dyphryn Tyveidad am ovyn i kyfraith
ac yno i gwnaeth Hoel y ddaü Englyn
hynn nid amgen./

Nid awn tüt on küt nim kar / Düw Iessü
Dowyssoc nef a Daiar
ni ddown i benn ddwyn i bar
nid oes vodd Düw sy vyddar

A phan ddarfü am Gromwel bwrw i ddüw  glowed
ynn gweddie a chanü val hynn [yr Englyn
arall] iddo ehünan

Na ddowed vned o nyn / ond wyd veddw
vod düw /n/ vyddar Hwlyn
nid yw vyddar Düw vowddyn
nac yw e glyw Düw bob dyn./

Y .30. dydd or mis hwnnw i llosged Barnes Gared
a Sierom am heresi ar dydd hwnnw  Abel,
Powel a Phederston a lüsgwyd a groged
ac a gwarterwyd ynn Smythphild am dresson./

Sychdwr mawr oedd yr haf hwnnw yn gimaint
ac i rhoid y naill vwyssel er malü yr llall. ar
vlwyddyn honno i gellyngwyd Esgob Chichestr
a Doctor Samson a Doctor Wilson or Twr
wrth bardwn y brenhin./

Yr .8.ed dydd o Awst y prioded y brenhin ac arglwyddes
Catrin Haward kares y düc o Norpholk

[td. 226v]
ond ni hir byrrhaodd honno hefyd ac yno i darfü
y kasgyl ir tylodion

Y vlwyddyn honn i colled Egerton a Harmon am
gowntyrphettio Seal y brenhin ar vlwyddyn
honn i dechreüodd y brenhin adeilad ynghalais
ac ynn y Geinys. Ac ynn swydd Iork i
kwnnodd opheiriaid a Llygion ynn erbyn y brenhin
ac ar vyrr i gorvüwyd ac i barnwyd i
veirw mywn llawer lle./ Ac vn Leight a daü
eraill a golled ynn Llünden y 27. dydd o vis
Mai. ac am yr vn achos Syr Iohn Nevyl marchoc
a lüsgwyd a groged ac a gwarterwyd yn
Iork ddügwyl Grist ne i noswyl./

A .30. am ledrad ac ysbeil a groged

Y vlwyddyn honn y 6ed o vis Mai i bü orchymyn
ordeinio /r/ beibyl yn Saessonaec ymhob Eglwys
drwy /r/ Deyrnas honn yn barod i bawb
ei ddarllen ac i wrando geiriaü Düw mywn
amser kyfleüs

Y vlwddyn honn i torred penn Iarlles Salsbri
yr .8.ed dydd arhügein o vis Mai ar 9ed dydd o
Vyhefin i croged daü o Ard y brenhin am
ysbeilo ynn siampl i bawb./

Y degved dydd o vis Myhefin y torred llaw Syr
Edmwnd Knevet oni bai drügaredd a phardwn
y brenhin./

Y 22. dydd o vis Gorphennaf i bü broclamasiwn
yn Llünden na bai gadw dim gwiliaü ond gwilie
Mair ar deüddec Abostol ar .4. Angel Ystor [~ angelystor ]
a gwyl Iorüs a Mair Vagdalenn ac na bai
vmpryd ddügwyl Vark na noswyl St Lowrens
na phlant wyl St Nicolas St y Katrin, St
Clement na dügwyl y vil Veibion vyned

[td. 227r]
i gardotta o gwmpas./ Ar .28.en dydd i torred
penn arglwydd Leonard Gray am lawer o
draetüriaeth a wnaethoedd ef yn Iwerddon penn
vüassai Ddebiti ir brenhin yno./ Ar dydd hwnnw
i croged trowyr boneddigion a elwid Mantyl
Roydon a Phrowds.

Hefyd arglwydd Dakers or dehaü a golled ynn
nheibwrn a Chymro am bennill o brophwydoliaeth
a ddowod Yr ail vlwyddyn i berwed merch
yn Smythphild am wenwyno swrn o ddynion

Y vlwyddyn o oedran Crist .1541. I torred penn Katrin
Haward y vrenhines am odineb ac arglwyddes
Rochphord am gadw kyfrinach./

Y vlwyddyn honn yr ymrodd Iarll Desmwnt ar
great Anel yn gras y brenhin ac i gwnaethbwyd
y great Anel ynn Iarll Tyron ai vab
yn Varwn Denkamen

Y vlwyddyn honn i llosged opheiriad a daü Lyg
ynn Winsor ac i criwyd rhyfel rhwng Lloegr
a Phrainc. Yr ail vlwyddyn i bü veirw  llawer
yn Llünden ac i symüdwyd y term i St
Albons.

Pann oedd oedran Crist 1544. ar .36. o Harri
8ed i danfonodd y brenhin lü i Lith ac y Scotlond
ac i lladdyssont ac i dünüstryssont y wlad
heb arbed na thref na chastell na dyn. Ac yn
Lith i gwnaethbwyd pümp a deügein o varchogion.
Ar vlwyddyn honn i danvoned llü i
Phrainc ac i ddaüth [~ ydd aeth ] y brenhin ehün yno

Y vlwyddyn honn i rhodd y brenhin sawd wrth
Vwlen nid amgen y 14. dydd o vis Gorphenna
idd aüth o Ddofyr i Galais ar .15.ed o Galais
i Vorgeissyn ac yno i campiodd noswaith ar
.16.ec wrth Vwlen ac yno i campiodd ar dü /r/

[td. 227v]
Gogledd ir dref ar .17.ec Iarll Swpholk a rodd
sawd wrth dre Vwlen ar dü Dwyrain. Ar
28ein or mis ir ennillwyd yr owld mann nei /r/
waets towr./

Yr .11.ec o vis medi i rhoed alarwm wrth y dref
ar castell aeth ynn ddryllie gan ddeünaw  bariled
o bowdwr gwnn a roessid dano ai gerric
a laddodd gwyr a meirch villdir a hanner o ddi
wrth y dref ac o gwmpas ac ni bü vychan
y drwc a wnaethont i bawb yn amgylch y dre

Y .13.ec or vn mis i kwnkweriwyd tre Vwlen ac
i hennillwyd ac o drügaredd y brenhin i kafas
gwyr y dre gennad i vyned bag an bagaets
ac velly i hymydowssont [~ hymadawsont ]./

Y .14. dydd o vis Medi i hagored pyrth y dref ar
dri ar y gloch gwedi hanner ______ ac yno i dechreüsson
 ddyfod allan ac hyd yn saith ar y gloch
or nos i pyrhaesson [~ parheusont ]. Ac yno ir oedd o wyr a gwragedd
a meibon a merched 4000. ac o hynny
1500. ynn abl i ymladd a chanthün ir aeth a
allyssont i ddwyn ai kephyle ai gwarthec ac a
allen i ddwyn. ar brenhin a roes vddün o nerth i
ddwyn i heiddo ganthün .75. gwagen

Y .15.ed o vis Medi ir aeth y brenhin gyntaf i dre
Vwlen ai holl wyr o Stad gid ac ef ac ynn y
siwrne honn ir oeddwn i Howel ap Syr Mathew
yn vn yn gweled hynn ac ynn i wybod./

Pan oedd oed Crist 1544. yr .36. o Harri .8.ed
y dydd kyntaf o vis Hydref i'madawodd [~ ydd ymadawodd ] o Vwlen
ac i daüth i Ddofyr ac ar lan y mor i gwnaeth
ef 4 marchoc wrth fyned i phwrdd

Yr .8.ed dydd o hydref i daüth Dolphyn o phrainc

[td. 228r]
a phower mawr gantho a champio y Morgeisseyn
a danfon i drwmpeter a chann march
gid ac ef tü a Bwlen ac a ddeüthont lle büyssei
y brenhin ynn campio ar Trwmpeter a ddaüth
wrth Vwlen iat ac a ganodd i Drwmpet i geiso
dyfod at arglwydd Debiti ac yno i tariodd o naw
ar y gloch kynn hanner hyd daü ar y gloch
gwedi hanner. ac i hagorwyd y porth iddo
ac i daüth gerr bronn arglwydd Debiti ac a
ddowod / Dolphyn v'arglwydd am meistr [am
gyrrodd] ith ddyfynnü di, ar dref honn gerr i
vronn ef./ Y Debiti ai gyngor ai depheiodd
ef ai ddyfyn. Ar Trwmpeter ar Bwsment
gwyr a ddaethoedd gid ac ef aeth drychefn i Vorgeissyn


Ar vyrder gwedi /r/ atteb hwnnw ir aeth y Dolphyn
a llü arüthr gantho at Vwlen ac a wnaeth
lawer skyrmaits ac or diwedd ar hyd nos i daüth
am benn bas Bwlenn ac i llas gwyr a gwragedd
meibion a merched ond a ddiangodd i hei
Bwlen./ Gwedi hynn i daüthbwyd o hei Bwlen
am benn y Phrancod i vas Bwlen ac i lladdwyd  llawer
ac i dyrrwyd phwrdd y darn arall ac ennill
eilwaith bas Bwlen

Ar degfed dydd o Hydref i danfonodd Dolphyn
i Drwmpeter at arglwydd Debiti i wybod pwr
gaptenied a phwr wyr o ryfel oi wyr ef
a ddalyssid yn yr ymladd hwnnw a pheth oedd  yngharchar
gan y Saesson. Ar arglwydd Debiti
a ddowod nad oedd ond vn./ Ar Trwmpeter a ddowod
golli wrth hynny or Phrancod o bob math wyth
gant ac ychwanec. Ac arglwydd Debiti a

[td. 228v]
ddelifrodd yr vn hwnnw ynn rhydd ac i delifrodd
ynte oedd gantho or Saesson./

Yr .11. dydd o Hydref i daüth toryf arüthr o
longaü ar y mor i ymddangos ynghyfer tre
Vwlen ac yno i harroesson ddaü ddiwrnod mywn
golwc ir dref. Ac o ddiyno i hwyliysson
rhwng Bwlen a Chalais i ymofyn am i meistyr
y Dolphyn o Phrainc./ Y vlwyddyn honn
i dalwyd o longeü Phrainc ynn y West Cwntre
drychant ac ychwaneg

Y .26. dydd o Ionor i campiodd ar dü /r/ Gorllewin
i dre Vwlen tü draw ir hafyn lü o ddeünaw
mil o Phrancod ac yno i campiysson ddec diwrnod
ar chweched dydd o vis Chwefrol i gyrwyd
i gilo. Ac Iarll Harphord ai gwmpeini
ai dyrrodd ac arglwydd Admiral oedd  Ddebiti
y Mwlen ac heb ladd mawr o Loegyr
a lladd llawer or Phrancod./ Ac ynn ol cael
y goreü arnün i gwnaethbwyd Syr Thomas
Poynings ynn arglwydd/ ynghylch yr .20. dydd
o vis Gorphennaf i hentriodd y Phrancod
yn yr Eil o Wicht ond ni bü hir nes i gyrrü
ir dwr eilwaith a lladd llawer o honün./

Y vlwyddyn honn Eglwys St Geils o vaes Krüppül
gat a losges./

Oedran Crist .1545. yr xxxvij vlwyddyn o wrogeth
Harri .8.ed I rhwymwyd gwraic ynn y
Smythphild wrth stak ar vedr i llosgi ond
pardwn y brenhin a ddaüth iddi kynn rhoi yr tan
wrthi

Pan oedd oed Crist .1546. I criwyd heddwch y
rhwng Lloegr a Phrainc yn Rhe Lündein
a phrophessi a diolch mawr i Ddüw am yr

[td. 229r]
heddwch a Bonpheir drwy y Dref a llawer o
lawenydd./

Yr ail vlwyddyn y .27. dydd o vis Myhefin i recantiodd
Doctor Crom ac i kyphessodd i ddryg lyfre
a phals ddysc i dwyllo

Y vlwyddyn honn i llosged Ann Asgüw ynn y
Smythphild a thri y chwanec am heresi ac i recantiodd
Doctor Saxton

Y vlwyddyn honn i daüth i Loegr o ddiwrth vrenhin
Phrainc Mownsier de Veneval vchel Admiral
Phrainc a chid ac ef y Sacr o Ddip a .12.
galei gwychaf ar a welsid yn Llündein er ys
lawer dydd./ ac yn y Twr gwynn i tiriodd ac
o ddiyno i blas Esgob Llündein i daüth ac i bü
ddeüddydd a dwy nos. Yr 21 ar .22. dydd o Awst oed Crist
.1546. ar .23. I marchokaodd i Hampton Cowrt
lle /r/ oedd y brenhin ac ar y phordd kynn i ddyfod
yno i kyfarfü y brenhin ac ef a thrügein a phümcant
o wyr mywn siackedi o velued vn lliw
gid ac ef a siacked y Prins gwedi i brodrio
ac aür ai llewys o aür dilin. Ac yno i daethont
i Hampton Cowrt at y brenhin Harri .8.ed a
brenhines Gatrin a thrannoeth i torrodd ac i gwahanodd
yr ost i ddangos bod heddwch

A chwedi hynny i trigodd arglwydd Admiral
ar brenhin ynghylch .6. diwrnod i gydwledychü
ac ni welpwyd na chynt na chwedi dreiwmph
na bankets nar vath vwmings nar vath riolti
hyd yn oed yr rhai oedd ynn dwyn y tyrtsie
mewn brethyn aür. ac yno ir aeth yr Admiral
i Phrainc, gwedi cael dirfawr lawenydd
a chresso a rhoddion ac anrhegion iddo ef ac ei

[td. 229v]
gyfeillon ai gwmpeini

Pan oedd oedran Crist yn .1546. ar .38. o wrogeth
Harri .8.ed I torred penn Iarll Swrrey

Y vlwyddyn honn yr .28. dydd o vis Ionor i bü
varw brenhin Harri .8.ed terfysgwr kyfreith
Ddüw a chyfreith ddyn

Llyma Englynion a wnaeth Howel
ap Syr Mathew pann oedd y llü wrth
Vwlen.

Kresso i Phrainc phraethgaink phrwythged/
kwrs o wyr / kresso Harri wythued
kresso i ddwyn kwrs eüddüned
kresso Düw groes Crist i gred./

Ni chair Bwlen gair gwirion / a gredir
heb grydwst ar ddynion
nid ymroes ond ymrysson
nid yma ir wyf ond ymronn

Llyma ddaü Englyn a wnaeth ef yno
i Syr Thomas Iohnes./

Tro att Vwlen iatt vlaenwaiw on / tanllyd
hennllaw Iarll y phynnonn
torr a chwila trwy i chalonn
twyn i hais Syr Tomas Ion.

Braint Syr Rys dyrys derwen / Caerüw wyd
krydwst Phrainc ac Alben
bronn kawr parth brain kaer ai penn
Bran a Beli bronn Bwlenn.

Howel ap Syr Mathew ai cant./

[td. 230r]

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section