Edward chweched gwedi marw Harri .8.ed i dad
ef a ddechreüodd wledychü yr .31. dydd o vis Ionor
oedran Crist .1546.
Y nowfed dydd o Ebrill i marchokaodd Edward
brenhin
Lloegr Phrainc ac Iwerddon ai ewythr Syr
Edward Seimer ac y Stat y Deyrnas am
benn hynny or Twr i Westmestr trwy Lünden
ar heolydd gwedi llenwi o gyfrlide a charpets,
a thapitas a brethyn arian, a brethyn aür,
a phali drwy Siebseid a phob kwndid ynn
rhedec o win, a chwaryaü a phagiwns gann
blant yn cressaü y brenhin trwy voliant a
chanüaü, a Salme, a gweddie, a llawer
ychwanec
o ddigrifwch a llywenydd megis i chwarddodd
oedd ynn i weled
Yr .20. dydd o vis Chwefrol yn Westmestr i
criwyd yn vrenhin ac i enoyntiwyd ac i
coronwyd
yn vrenhin ac velly i treülwyd yr
amsser hwnnw trwy lywenydd ac vchelwrtid
ac vrddas ac anrhydedd
Yr .21. ar .22. Syr Thomas Seimer arglwydd
Admiral Lloegr ynghefeillach Denelox Syr
Antoni Kingston, Syr Pityr Carw. Knotts,
a Sieley a galeinsiodd bawb at y Tylt ac
yno
i treiysson ehünen ynn debic i [wyr] o ryfel
ac o worsib
Mis Mowrth y vlwyddyn honn Syr Andro Dwdley
Veis neü Vnder Admiral Lloegr ar y mor a
ddalodd ddwy long a llawer o garcharorion ac a
ddaüth a hwynt i Orwel hafn ac yno i tariysson
[td. 230v] wrth blesser y brenhin
Y vlwyddyn gyntaf o wrogeth Edward y .6.ed vis
Awst ir aeth y Düc o Symersed ac Iarll
Warwic
a dirvawr lüossogrwydd ganthün i y
Scotlond
ac yn agos i Edynbrow mywn lle a elwir
Mwssebrowch i'mgyfarvü [~ ydd ymgyfarfu ] gwyr Lloegr a gwyr
y Scotlond ac ynn y vrwydyr honno i lladdwyd
pedeir mil arddec o Scottied ac a ddalwyd ynn
garcharorion bymtheckant o arglwyddi a
marchogion a gwyr boneddigion
Yr ail vlwyddyn i gorchmynnwyd kymryd y
cominiwn
mywn bodd keinds [~ both kinds ]. Ar dydd diwaethaf
o vis Gorphennaf i gorchmynnwyd Doctor
Gardner ir Twr yngharchar Esgob
Winsiestr
[oedd]
Pan oedd oed Crist 1548. I gorchmynnwyd
bwrw
/r/ Delwe ir llawr ymhob Eglwys./
Y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd yn gyfreithlon
ir opheiried briodi trwy Act o Barlment./
Y vlwyddyn honn Doctor Boner Esgob Llündein
a vyrrwyd oi Esgobaeth ac a garcharwyd a
Doctor Rydley yn i le a ddaüth
Pan oedd oedran Crist .1549. I kyfododd yn erbyn y
brenhin Defnsir a Chornwel ynghylch kanol
y vlwyddyn ai kaptenied a ddalwyd ac a roed
yngharchar
yn y Twr yn Llündein ar .26. dydd o
vis Ionor gwedi hynny i llüsgwyd i
kwarterwyd
ac i croged.
Ac ynghylch yr vn amser i kwnnodd Norpholk
a Swpholk a Chapten Keitt ai vrawd, ond ar vyr
hwy a ddalwyd ac a varnwyd iw colli wrth
Sibede
ynn Norwits./
[td. 231r] Y vlwddyn honn i llas Kapten Gambald a
Chapten
or Spaniards a Chapten .3.ydd tü allan i
Nywgat a Phlemyn ai lladdodd. noswyl Saint
Pawl i croged yntaü a thri gid ac ef ynn
Smythphild./ Ar chweched dydd o Chwefrol i
daüth y Düc o Somersed or Twr
Yn y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd heddwch y
rhwng Lloegr a Phrainc ar .25. dydd o Ebrill
gwedi hynny i delifrwyd tre Vwlen ir
Phrancod
ar holl phortressi a berthynai iddi./
Y vlwyddyn honn i llosged Siwan Knel am i bod
yn nakaü i Grist gymryd knawd o Vair
Vorwyn./ Ynghylch yr amser hwnn i kwnnodd yngHent
swrn yn Draetüried ac y bolüdd i gostegwyd ac i
colled am i tresbas yn Asphort Richard Leion,
Godard a Goran ar ail dydd yngHawnterbri
i kolled Richard Eyrlond am y trespas hwnnw
Yr ail vlwyddyn i krynodd y Ddaiar yn
Sowthrey
ac y Mydylsex./
Y vlwddyn honn ddügwyl Valentein yn
Pheuersham
yngHent i mwrdrwyd Arden gwr
bonheddic
drwy vndeb a gwarth i wraic ac am
hynny
hi a losged yngHawnterbri ac vn a
groced [~ groged ]
mywn cadwyne yno a daü yn Pheuersham
wrth gadwyne A gwraic a losged yn
Smythphild
ac yno hefyd Mosby ai chwaer a
vygwyd
am yr vn mwrdwr./
Y vlwyddyn honn Doctor Gardner Esgob Winsiestr
a ddiesgobwyd ac ynn y Twr i rhoed
yngharchar
tre vü vyw brenhin Edward a Doctor
Penet
ynn i Esgobaeth yn i le ac nid oedd ond rhoi
[td. 231v] koes ynn lle morddwyd
Y vlwyddyn honn i torrodd y mor allan yn
Standwits
ac i boddodd llawer o dda a dynion rai ac i
gwnaeth golled vawr ir bordyr hwnnw./
Y vlwyddyn honn y .22. dydd o vis Ionor i torred
penn y Düc o Somersed ar .25. dydd o Chwefrol
gwedi hynny i colled Syr Raph Vanne a
Syr Meils Pertrids ac i torred penn Syr
Thomas Arundel a Syr Michael Stanhop am
yr vn peth
Pan oedd oed Crist 1553. y chweched oi wrogeth
y chweched dydd o vis Gorphennaf imadawodd
Eduard chweched ar byd hwnn ac yn
Winsor
i claddwyd./
Y degfed dydd o vis Gorphennaf i criodd y düc o
Northwmberlond ai barti ynte yn erbyn kyfraith
arglwyddes Sian yn vrenhines yn Lloegr merch
y Düc o Swpholk a gwraic arglwydd Gilphord
Dudley ar Düc yn y man a wnaeth lü yn
erbyn
arglwyddes Mari kyfion aer y goron, ond
o herwydd nad oedd gyfreithlonn i vryd ef ai
bwrpas
ni vynnodd Düw i vyned i ddiwedd da./ Eithyr
pan oedd ef ynn tybied i vod yn gydarnaf [~ gadarnaf ] ar
holl gryfder a chadernyd Lloegr gid ac ef yr
ymadawodd pawb ac ef ac yngHambrits i
dalwyd
efo ai veibion ac ychydic o wyr gid ac ef
ac i danfonwyd ir twr gwynn ynn Llündein
yngharchar.
Llyma /r/ kweryl ar pynke yr oedd wyr
Cornwel a Defnsir yn i gofyn./
Yn gyntaf ni a fynnwn gael y gyfraith yn
[td. 232r] gyphredin megis i kafas yn henafied ai chadw
ai chynnal ar gyfreith Eglwys yn enwedic
2 Hefyd ni a vynnem gael kyfreith ac acts
brenhin
Harri .8.ed am y chwech articyl ai harver
megis
ir oeddid ynn i amser ef
3 Hefyd yr opheren yn Llading mal ir oedd yn y
blaen ynn amser yn henafied achos nid ym i
yn koelo bod yn vyw ysgolheigion kystal ar rhai
a vü veirw a chymryd corph Crist ehünan heb
y Llygion gid ac ef
4 Hefyd bod yn wastad y Sacrament yn wastad
vch benn yr allor megis i bü arferedic./
.5. Hefyd kael corph Crist y Pasc ir Llygion ar
amser hwnnw yn vn natüriaeth
6 Hefyd ir Eglwysswyr vedyddio ganol wythnos
kystal ac amser arall or gwile./
7 Hefyd bendigo dwr a bara opheren bob Sül ar
blode ar llüdw megis or blaen a rhoi /r/ delwe
yn yr Eglwyssi i ddwyn cof am verthyrdod Crist
ai Saint a phob pregeth gyfreithlon yn yr
Eglwys lan Gatholic megis i bü arveredic yn
amser yr hen bobyl
8 Hefyd ni vynnwn ni ddim or gwyssaneth Saesson
newydd nar chware barrys nei Gristmas gams
i mae /n/ hwy. achos ny ni a wyddom na bydd
abyl
y bolüdd y Cristnogion i ymdaro ar Iddeon
9 Hefyd ni a vynnwn Ddoctor Moor a Doctor
Crispin y sydd vn piniwn a ninnaü yn rhydd
ai danfon yn gadwedic attom megis i kaphom
hwynt i bregethü geirie Düw yn ynn mysc
10 Hefyd ni a vynnwn i ras y Brenhin ddanfon
ynn ol Cardnal Pool i gar ef ehün ac nid
yn vnic rhoi i bardwn iddo ond hefyd
[td. 232v] wneüthür yn gyntaf nei yn ail oi
gynghoried
vchaf
11 Hefyd ni a welen yn gymwys na bai ond vn
gwasnaethwr i wr dan ganmork o rent tir
ac am gan mork vn gwr
12 Hefyd ni a ddisyfem ar ras y brenhin roi
hanner
tiroedd y tai o grefydd vddün drychefn i
gynnal
gwassanaeth Düw ynddün ynn enwedic i
ddaü Dy o honün ymhob Sir i weddio dros i ras
ef a thros vyw a meirw./
13 Hefyd am a wnaethbwyd o gam ar gwledydd
yma ni a vynnwn gael llywodraeth a barn
Hwmphre Arwndel a Harri Bray maer
yn rhe Vodnam. A chael secwndid dan sel
vawr y brenhin i vyned a dyfod. a dyfod a
myned a Herod of Arm's i mywn ac allan
14 Hefyd ar gynnal a chadw a chwplaü pob
pwynt o hynn Ni a vynnwn yngwystyl .4.
arglwydd ac .8. Marchoc a .12. Ysgwier a
24./ o Yomyn gid a nyni A hynn trwy
Barlment
gwedi i ganhiadü./
Captenied yngHent a Chornwel./ Hwmphre
Arwndel./ Iohn Bwrry Scoyman. Thomas
Vnderhyl ac Wiliam Segar./
Iohn Tompson prist
Henri Bray maer Bodnam
Henri Ley maer Torriton
Roger Baret opheiriad.
Llywodraethwyr y Camp oedd
y 4 hynn./
[td. 233r]
Brenhines Mari
Gwedi marw Edward .6.ed brenhin Lloegr yr .20.
dydd o vis Gorphennaf oedran Crist 1553. I
dechreüodd arglwyddes Mari verch Harri .8.ed vab
Harri .7.ed ap Edmwnd Iarll Richmownt ap Owen
ap Merd ap Tüdr ap Gronwy ap Tüdür ap
Gronwy ap Ednyved Vychan ap Kynvric
ap Ioreth ap Gwgon./ O Gatrin verch Philip
brenhin Spaen ap Maximilian vab Elnor
verch Edward vab Philippa verch Iohn o
Gawnt vab Edward .3. ap Edward yr ail
ap Edward gyntaf. Mam Gatrin oedd
Siwan brenhines Gastil verch Elsabeth
brenhines Portiugal verch Iohn brenhin
Castil vab Catrin verch Iohn o Gawnt ap
Edward
y .3../
Pan ddalwyd y Düc o Northwmberlond yn
Norwits
ir oedd vrenhines Mari yn
Phramingham
yn Swydd Swpholk ac o ddi yno i daüth y
trydydd dydd o Awst i Lündein ac ir Twr
gwynn i gymryd meddiant. a thra oedd i gras
hi yno hi a ryddhaodd o garchar y Düc o
Norpholk
a Doctor Gardiner Esgob Winsiestr
ac arglwydd Cowrtney ac Esgob Dürham ac
Esgob Sisiestr ac Esgob Caervrangon ac
esgob Llündein a llawer y chwanec
Ac ybolüdd gwedi hynny hi a roes bob Esgob
o honün ynn i esgobaeth ac a vyrrodd y llaill
allan nid amgen Doctor Poynet o Winsiestr
Doctor Rydley o Esgobeth Lündein Doctor
[td. 233v] Scori o Esgobeth Sissiestr Doctor Hooper o
Esgobeth Gaerangon, a Chofrdal allan o
Esgobeth
Exeter./
Y .22. o vis Awst yn y Twr hyl i torred penn
Iohn Dudley Düc o Northwmberlond a
phenne
Syr Iohn Gats a Syr Thomas Palmer./
ar Düc wrth i varwolaeth a gyphessodd i vod
er ystyddie [~ er ys dyddiau ] mywn kam vywyd ac a'm wrthododd [~ a ymwrthododd ]
ac ef ac a erchys [~ erchis ] i bawb na chwilyddien droi
ir phydd gatholic./
Ar dydd kynta o vis Hydref i coroned
brenhines
Mari yn Westmestr ac Esgob
Winsiestr
Doctor Gardner ai coronodd./
Thomas Cranmer Archesgob Cawnterbri oedd
yn y Twr yngharchar am Dresson./
Ar vath reiolti na chimaint o ddynnion wrth
goroni na brenhin na brenhines erioed ni
welpwyd or blaen./
Y degved dydd o vis Hydref i dechreüwyd
kynnal
Parlment a sierten o Acts a
wnaethoeddid
yn amser Edward .6.ed a ddadwnaethbwyd./
Yn vn or Acts hynny priodi yr opheiriaid
arall y gwassanaeth yn Saessonaec ar hen
wassaneth Llading i ddyfod drychefyn./
Hefyd yn y Parlment hwnn i titiwyd o
dresson
Iohn Düc o Northumberlond. Thomas
Cranmer Archescob Cawnterbri. Wiliam
Markwys o Northampton Iohn Iarll
Warwic
Syr Ambros Dwdley marchoc. Gilphord
Dwdley esqwier a Sian i
wraic / Harri Dwdley esgwier Syr Iohn
Gat a Syr Thomas Palmer./
[td. 234r] Pan oedd oed Crist .1553. I daüth o ddiwrth yr
Emperodr
yn enw ty Byrgwyn yn
Embassators
yr Cownti de Egmont Cownti Dynlyn
a Monsier Cwrrier
Y vlwyddyn honn y .15. dydd o Ionor Syr Thomas
Weiat Georg Harper, Henri Isley a
Leonard
Diggs ac eraill a ddechreüodd ryfela
yn erbyn y vrenhines ar goron yn Rhe
Maedston yngHent./ Ac a roessont gri
ymddiphynniant
hwy y Deyrnas rhac yr y
Spaeniards
a dieithred eraill a thybied y kaen
ganllyn
[~ ganlyn ]
a sevyll yn i hanghrediniaeth a goresgyn
brenhines Mari a diley y phydd gatholic ac yno
i daüth y Traetüriaid hynn i Rotsiestr ac
yno i daüth attün yn gystal rai a anyssid o
vaes Kent ac yngHent nid amgen Robert
Rwdston. Cwtbert Vychan Water Mantels,
Kneuet, Godphrey a llawer ychwanec ac er
a ddaüth attün o bob tir etto er hynn Cawnterbri
a vü gowir yn gymaint a thrwy borth Düw a
synwyr a gwroleth Iohn Twein Maer ai gyd
vrodyr ac aldermen y Dref a nerth a
chynhorthwy
kowiried eraill ymddiphynnwyd y Dre
hyd nad aeth vn o honi erioed at Weiat nac at
vn oi barti
Y .30. dydd or mis hwnnw i daüth y Düc o
Northpholk
i Strond ac a raeodd i [wyr ac aeth ai] lü
yn erbyn Weiat [oedd] yn Rotsiestr eithr gwyr
Lündein ai Captenied Breian Phits Wiliam
a ddaüthe gid ar Düc yn erbyn Weiat a
ddiangodd
o ddiwrth y Düc at Weiat a braidd i diangodd
y Düc./ yr ail dydd ir aeth Weiat i Cooling
ac i dalodd arglwydd Cobham a Düw Iaü gwedi
[td. 234v] hynny ir aeth y vrenhines ac arglwyddi Lloegr gid
a hi i Ild hawl ac a wnaeth i deissif ar y Maer
ac ar y dref ac a orchmynnodd vddünt vod yn
gowir
iddi ei nerthü hi ac ei chynorthwyo yn erbyn
Weiat ai gyfeillon A phawb a gytünodd o wyllys
i galon i vyw a meirw gida hi yn y kweryl./
A noswyl Vair y Kanhwyle Weiat ai barti a
ddaüth i Sowthwerk dan dybied i herbynniyssei wyr
Llündein ef y mywn val y hyddowssen [~ haddawsent ] Eithr y bont
a godyssid yn i erbyn ef ac arglwydd Haward yn
yr vn Comissiwn ar Maer megis i [bai] gryfach
i ymddiphin y dref.
Y .6.ed dydd o vis Chwefrol ir aeth Weiat i
Gingston
dros y dwr ac yno ar nos kynn hynny i kilodd
llawer o ddiwrtho ac ef aeth phwrdd ddüw merchyr
y llüdw y .7.ed dydd o vis Chwefrol efo ai barti a
ymlidwyd
rhyd [~ ar hyd ] y meyssydd ac a ddalwyd ond Weiat aeth
kynn hynny i Siaring Cross ac i Phlit Strit
kynn i ddala a vüassai yn Lwdgat a phan welas y
porth yn gayad e droodd drychefn. a Chnevet
megis
traetür a saethodd gwnn at y Cowrt gat ar
Rebel
hwnn a ddechreüwyd yngHent a Defnsir
trwy Syr Gawen Carw Syr Pityr Carw, Gibbs,
Champernham
ac eraill a Syr Pityr Carw a gilodd dros y mor./
ond Syr Gawen a Gibbs ac eraill a ddalwyd ac a
vyrwyd
am Dresson yn Westmestr y .17. o vis Chwefrol
ac a ddioddefodd angeü ar y Twr hyl y .23. dydd
o Chwefrol
Harri Islye yn dyvod at Weiat a gyfarfü
arglwydd
Abergeyni a Mastr Warham a Wiliam
Sentler ac ef ac ynteü a ddiangodd i Hamsir
ac yno i dalwyd mywn dillad Llongwr ai wyneb
gwedi anphürfo a glo ac a thom ac velly y
daüthbwyd
ac ef i Lündein./
[td. 235r] Y deüddegved dydd o vis Chwefrol i torred penn
Gilphord Dwdley a Sian i wraic ef Y .14.ec dydd
i colled ynghylch .30. rhai or Gard a rhai o wyr
Kent./
A chwedi hynny Robert Rwdston Wiliam Cromer
Brett Cutbert Vychan mab Siamys Vychan
o Hergest. Harri Vain, Thomas Culpeper o
Aelphort a Chnevet, a Water Mantels ac
arglwydd
Iohn Graye a Syr Leonard Diggs a
vyrwyd am Dresson ac ynn y man gwedi i
bwrw ir aethbwyd a hwynt ir Twr gwynn
yngharchar
ac ir oedd arglwydd Gray a Syr Iams
Cropht ynghyfeillach y Düc o Swpholk ynn
y Rebel hwnnw./
Gwedi hynny y pardynodd y vrenhines .4. cant
or kyphredin ac ychwanec a ddaüth i Westmestr
ger bronn y vrenhines a chebystre am ei gyddfe
Y bolüdd gwedi hynny y pwyntiwyd Parlment yn
Rhydychen ac yn Westmestr i kynhalwyd./
Yr .11. dydd o Ebrill i torred penn Weiat yn y
Twr hyl ac i kwarterwyd ac i danfonwyd o le
i gilydd ai benn a roed ar y krogprenn yn Hay
hyl
Y .18. dydd o Vai Wiliam Thomas a lüsgwyd a
grogwyd ac a gwarterwyd yn Heibwrn am
draettüriaeth nei dressyn./
Yr .20.ed dydd o vis Gorphennaf i tiriodd Philip ynn
Sowthampton lle i herbynnodd kynghoried y
vrenhines
ef ac y Stad y Deyrnas yn anrhydeddüs
ac ar ddodiad y droed ar dir Lloegr i gwisgwyd
y gartyr am i esgair yr hwnn a ddanvonysse
y vrenhines iddo./
Düw llün gwedi hynny i marchokaodd ef a gwyr
[td. 235v] o vrddas Loegr gid ac ef o Sowthampton i
Winsiestr
ar .23./ o vis Gorphennaf i herbynnwyd
i Winsiestr ac ir mynstr i ddaüth [~ ydd aeth ] kynn kymryd
i letty ac yno Esgob Winsiestr a thri o Esgobion
eraill ar opheiriaid ar gwyr ar plant a
phrophessi
ai kope amdanünt a phedair croes oi
blaen
yn i erbynn y mywn./
Y .24. dydd ynghylch tri ar y gloch gwedi
hanner
i daüth ef oi letty ar i draed ac arglwydd
Stiwart ac Iarll Derbi gid ac ef ac Iarll
Penfro a llawer o Ieirll a gwyr mawr eraill
oi vlaen ac ar i ol ac ynte wrtho ehün ynn
y kanol ac velly ir aeth ir Cowrt ac yno i
tariodd ychydic ac o ddyno ydd aeth ir Mynstr
ar vam Eglwys i Osber./
Ar nosson honno i danfonodd yr Emprowr att
Ras y Vrenhines bod i vab ef ynn vrenhin
Napyls
a darpar i gwr hithe a hefyd yn
vrenhin
Caerüsalem Ac velly i danvonodd dan i
Sel vawr
Dügwyl St Iams yr hwnn oedd y .25.en dydd o vis
Gorphennaf ynghylch .11. ar y gloch i daüth y
brenhin ar vrenhines oi lletty tü ar Eglwys
ar i traed a gwisgoedd brenhinol amdanün a
phob vn a chleddeü noeth oi vlaen Oi blaen hi
Iarll ______ yn dwyn cledda. ac oi vlaen
yntaü Iarll Penvro yn dwyn y cleddaü a chynn
gynted ac i darfü yr opheren y brenhin Herod
ar ostec yn yr Eglwys yngwydd y brenhin ar
vrenhines ar arglwyddi ar arglwyddesse ar
holl gynnülleidua a griodd ac a ddowod val hynn
Philip a Mari trwy ras Düw brenhin a
bren
hines
[td. 236r]
Loegr Phrainc, Napyls, Caerüsalem
Iwerddon ymddiphynniawdr y phydd Prins o
Spaen a Sisil, Archddüc Awstrich, Düc
Mülayn
Byrgwyn a Brabant Cowntie Haspwrg
Phlawndrys a Theirol./
A phann ddarfü y brenhin ar vrenhines aeth law
yn llaw ar ddaü gleddaü oi blaen ac y Stad
Lloegyr
yn waetio arnün ir Cowrt. Ar .18.ed dydd o
vis Awst i daüth y brenhin ar vrenhines i blas
y Düc o Swpholk yn Sowthwerk ac i
kinowsson
yno a chwedi kinno yno i marchokaessont
drwy bont Lündein./ Gid a hwynt i daüth y rhann
vwyaf o vrddas Loegr./ A thrwy Lünden ac o
gwmpas yr heolydd i rhoed brethynneü mawr
werthoc a chloth o Raens a brethyn aür a
brethynn
arian a llawer o bagiwns a chwarye a
chanüe o glod a moliant ac anrhydedd ir
brenhin
ar vrenhines ac yno i herbynnwyd i Eglwys
Bowls ac yno Esgob Llündein ai cressawodd yn
vchelwriedd ac yn anrhydeddüs a chwedi
gwneüthür
i gweddi i marchokayssont i Westmestr/.
Pan oedd oedran Crist 1554. I daüth yr hen
wassanaeth
ir Eglwys drwy Barlment drychefn./
Yr amser hwnn i daüth Embassators o bob ynys
ynghred
at y brenhin ar vrenhines./
Pan oedd oed Crist .1555. I daüth Cardnal Pool o
Rüfein i Loegr ac i kressawyd yn anrhydeddüs ac
i kynhalwyd Parlment yn Westmestr ac y mysc
Acts a gweithredoedd eraill i dadwnaethbwyd y
gwassaneth
a llyfr y Cominiwn a phardwn ir Cardnal
Pool a dad wneüthür pob peth ar a wneithid
yn i erbyn kynn no hynny./
[td. 236v] Y vlwyddyn honn ir aeth Esgob Ili ac arglwydd
Mowntigüw ynn Embassators i Rüfein dros
Loegyr./
Pan oedd oedran Crist 1555. mywn llawer lle yn
y Deyrnas honn llawer phordd ar y Cominiwn
ac ar y Sacrament oedd ar sawl ni throodd gid
ar hen wassaneth a losged mywn llawer o
leoedd
yn yr ynys. Yn Llündein Rogers.
yngHaer
Loiw Hooper lle ir oedd ef yn Esgob a
Pharrer Ynhy Dewi lle ir oedd ef yn esgob
Doctor Taylowr yn Hadley yn Swpholk a
Bradphord yn Llündein a Bland opheiriad
yngHawnterbri a llawer y chwanec
Y vlwyddyn honn arglwydd Siawnsler Lloegr,
arglwydd
Harri Iarll Arndel, arglwydd Paged
aeth dros y mor i Galais ac yn agos i Vark
i büon yn Embassators yn trettio am heddwch y
rhwng yr Emprowr a brenhin Phrainc ac
arglwydd Cardnal oedd yno ac adref i troessant
a phallü yr heddwch
Y vlwyddyn honn yn niwedd mis Myhevin i bü
vndaneth
yn rhith chwaryeth ynghylch Wadharst ynn
Sowthsex ac i kafad ac ar vyrr i gostegwyd./
Y vlwyddyn honn yr .11. dydd o Awst i bü ymladd
angyrriol
ar y mor rhwng y Phrancod ar
Duchemenn
yn agos i Rwmney Nasse lle llosged .xj.
o longe a rhai a ddalodd y Phrancod
Y vlwyddyn honn ynn nechre mis Medi ir aeth
brenhin Philip i Galais ac o ddyno i Vrüssels
ym Brabant at yr Emprowr i Dad.
Pan oedd oed Crist .1555. yr aeth yn heddwch rhwng
Siarls Emprour a Harri brenhin Phrainc./
[td. 237r] Y vlwyddyn honn y mis Tachwedd Nicolas Rydlei
a Hugh Latimer a losged ynn Rhydychenn
ar Grawys gwedi hynny Cranmer Archescob
Cawnterbri or blaen gwedi iddo vnwaith
recantio
a losged./
Y vlwyddyn honn y .10.ed dydd o Vawrth ir
ymddangosses
Comet neü seren angyrriol i maint
ac i ganed llawer o blant anafüs mywn
llawer
lle ynn Lloegr
Ar vlwyddyn honn i gwnaethbwyd Cardnal Pool
ynn Archescob yngHawnterbri./
Y vlwyddyn honn imkanwyd bradwrieth vawr
ir brenhin ar vrenhines ar Deyrnas i gyd ac
am hynny i dioddefodd Vdal, Throckmerton,
Daniel,
Pecham, Stanton, ac ychwaneg a
llawer
a ddiangodd or Deyrnas allan./
Pan oedd oed Crist .1556. I croged arglwydd
Sto
..
ton
am vwrdro daü o wyr boneddigion [ac] ynn
Salsbri [i croged ef] y chweched dydd o Vawrth
Oedran Crist .1557. Pan ddaüth Embassato
r
o ddiwrth
Emprowr Rwssia at Philip a Mari
Y vlwyddyn honn i daüth y brenhin ar vrenhines
o Rinwits trwy Lündein i Westmestr./