Adran o’r blaen
Previous section

Edward y trydydd


Edward vab Edward Kaer yn Arvon o Isabel verch
Philip Lebeaw ai heyr a goroned yn vrenhin yn
Lloegr yr ail dydd o vis Chwefrol oed Christ .1326.
ac efo oedd wr anrhydeddüs gwych dewr, trügaroc
hael da wrth y sawl a garai a drwc wrth i gas,
llywodraethüs ynn i weithredoedd ac oedd yn passio
eraill mywn kyneddfeü da a gwell na neb mywn
dilechtid rhyfel./

Yr Edward hwnn a roes arfeü Lloegr a Phrainc
yn i vaner a phan oedd oed Crist yn 1346. yr vnved
dydd arddec o vis Awst i bü y vrwydr Yngressi
rhyngtho ef a Philip brenhin Phrainc ac i kilodd
Philip ac i llaas [~ llas ] brenhin Boem a brenhin Marorican
a llawer o wyr mawr am benn hynny. Ar
drydedd vlwyddyn gwedi hynny i bü i varwolaeth
gyntaf or cornwyd. A dwy vlynedd gwedi hynny
i gwnaeth Wiliam Edington tressyrer Lloegr gyntaf
arian pedair ac arian dwy./ A phedeir blynedd
gwedi hynny i daliodd Edward ap Edward y trydydd Iohn
vrenhin Phrainc./


[td. 208*v]
Y 10ed vlwyddyn o goroniad Edward y .3.edd i düc ef i ach
ai edryd i goron Phrainc nid amgen nai vod yn
vab i Edward yr ail o Isabel merch ac aeres ac etifedd
Philip Lebeau brenhin Phrainc./ Yn yr amser
hwnnw ir oedd newid ar bob peth yn Lloegr na bü na
chynt na chwedi i vath. Chwarter o wenith er ijd
a gwyd er ijd a pharchell er jd ych tew er vjs
ac viijd a davad vras er vjd

Yn y 12. vlwyddyn i gwnaeth llü dirvawr i vyned i
Phrainc ac i gadarnhaü heddwch rhyngtho a Holant
a Seland ac a Brabant ac i tiriodd yn Antwarp
A thrwy gymolonedd yr Emperodr Lewys i criwyd
ac i gwnaethbwyd yn vickar general drwy yr holl
Emperodreth./ Y 13. trwy Barlment i galwyd
ef yn vrenhin Phrainc ac yno i kydiodd arfeü
Lloegr a Phraink val i maen yno ac etto./

Y 14. vlwyddyn a brenhin Edward y .3.edd yn mordwyo
tü a Phlandrs i kyfarfü ar y mor yn emyl havyn
Slüs a brenhin Phrainc ai lü ac yno i bü
battel arüthür rhyngthün a brenhin Edward a
ennillodd y maes a brenhin Phrainc a gilodd a
phedwarkant o longe iddo ac oedd ynddün a ddistrywiwyd,
a ddalwyd ac a voddwyd./ Ychydic gwedi hynny
ir aeth Edward a llü mawr o wyr Lloegr a
gwyr yr Emperodr ac i rhoes siyts [~ sij ] wrth Dwrnai
a Chowntes Henawlt mam brenines Loegr a
chwaer brenhin Phrainc a wnaeth gyngrair rhyngthün
vlwyddyn a brenhin Lloegr a droes adref./
Yn hynn o amser trwy waith brenhin Phrainc ef a
ennillodd yr Scottied lawer o Loegr./

Y .18. vlwyddyn o goroniad Edward .3. ir ordeiniodd ef
ac i dyveissiodd er anrhydedd a mowredd i Vair vam
Grist a Saint Iorüs varchoc vrddol Patrwn y

[td. 209r]
Deyrnas honn .26. o varchogion ym mraint gradd
ac ordr Saint Iorüs ac a elwir gradd marchoc
or gardys ac yn Winsor i gwnaethbwyd./

Ynghylch y pryd hwnn i danfonwyd Iarll Derbi a llü
gantho i Asgwin ac ir ennillodd gestyll a threfydd
ac a laddodd dec mil o Phrankod a Gasgwyns ac a
ddalodd Iarll Lay i penn Capten a llawer o wyr mawr

Yr 20. vlwyddyn i mordwyodd i Normandi ac i gorescynnodd
y tir ac ai hysbeiliodd ac i danfonodd i Loegr yr
ysbeil ac yno i bü yr maes ynghresse ar maes a
ennillodd Edward y .3.edd ac yno i llaas [~ llas ] brenhin Boem
a phedwar vgein o Dwyssogion a .12. cant o varchogion
vrddolion a dec mil arhvgein or kyphredin
Gwedi hynny i rhoes Edward sawt wrth Galais ac i
bü yno yr yspas o vlwyddyn Ac yn hynny o amser i
daüth brenhin Phraink ar vedr kwnnü yr sawd ac
ymddiphin y Dref ac ir aeth phwrdd heb roi maes
ac yno i rhoed y Dref i vrenhin Edward y trydydd
Yr amser i sowdiwyd Calais i daüth Davydd o Scotlond
drwy annoc brenhin Phrainc i vordyr Lloegr
ar vrenhines a wnaeth o opheiriaid a llygion [lü] ac
yn agos i Ddürham mywn maes a ddalodd brenhin y
Scotlond a llawer o arglwyddi ac Ieirll ac a laddodd yn
y maes hwnnw or kyphredin bymthec mil./

Ynghylch y .22. vlwyddyn o vrenhin Edward y 3edd i bü
newyn a marwolaeth trwy yr holl vyd ac yn Itali
odid vn yn vyw am gant yn veirw./ Ynhre Baris
yn Phrainc i bü varw dec mil a deügein mil. Ac yn
Llünden yn y Chartyr hows heb law lleoedd ereill
i claddwyd dec mil a deügein mil./

Yn y vlwyddyn honn ir ymkanodd kapten Calais draetüriaeth
drwy roi yr dref ir Phrankod drychefn
Yn yr amser hwnnw i gwrthododd Edward y .3.edd vod
yn Emperodr./ Y .27. vlwyddyn i rhoed castell a

[td. 209v]
thre yr Geins i vrenhin Edward./

Ynghylch y .19. vlwyddyn ir aeth Edward Towyssoc
Cymrü mab Eduard y .3.edd i Asgwyn ac i distrywiodd
gestyll a threfydd ac a ennillodd gastell a thre
Rechemorentyn ac ychwanec./ Yr amser hwnn
yr aeth y brenhin i Galais ar vedr darostwng
Phrainc ac a droodd i Loegr achos yr y Scottied
oedd yn blino bordre Lloegr./

Yn y .30. vlwyddyn. Edward Prins Cymrü yn agos i
dre Boitiers a roes maes i Iohn brenhin Phrainc
ac arno i düc y maes ac yno i dalodd y brenhin
ai vab Philip a naw Iarll ac Esgob Sens a llawer
y chwanec o Ieirll ac arglwyddi a barwnied a marchogion
hyd vnkant arbymthec. Ac yno i llaas [~ llas ] y
Düc o Byrgwyn ar Düc o Athiens a Syr Iohn
Clermont marsial o Phrainc a llawer o varwnnied
a marchogion a gwyr o ryfel hyd yn .1700.
a 3000 eraill or kyphredin./

Y .33. vlwyddyn ir aeth brenhin Edward y .3.edd ac Edward
towyssoc Cymrü gid ac ef i Galais ac i Phrainc
ac i distrywiodd y gwledydd heb drügaredd Ac ar vyr
ir aeth yn heddwch dan i vrenhin Lloegr gael Gasgwyn
Gien, Poitiers, Lymson Beleuil a llawer
o arglwyddiaetheü a threfydd a chestyll ar holl  diroedd
a berthyne vddünt ac ar vrenhin Sion dalü
yn i rawnsswm dair mil o Ddükats yr [hynn] yw
pümp mil o bünneü. Ac yno i rhyddhawyd brenhin
Sion o Phrainc. Y 37. vlwyddyn y daüth i sportio
i Lündain ac yn y Savoy yn Llünden i bü
varw./

Yn y vlwddyn honn i kymerth Edward Prins Cymrü
 wrogeth Gien ac Acqwitan ac a wnaeth ho maets

[td. 210r]
i Edward .3. edd i dad am hynny Ynghylch
40. vlwddyn o goroniad Edward y .3.edd Dampetyr
o Spaen a vyriodd Harri i vrawd allan o vrenhiniaeth
ac am hynny i diengis at Brins Edward
oedd yr amser hwnnw yn y dre a elwid Bwrdeaux
ar Petyr hwnn drwy nerth y Prins a roes maes
i Harri i vrawd ac ai byriodd allan ac a laddodd
büm mil oi wyr ac a gafas Petyr lawer o
gestyll a threfydd drychefn yr rhai a ynnillyssai
Harri i vrawd arno or blaen ac ychydic gwedi
hynny i kynnüllodd Harri i lü ynghyd ac a ryfelodd
ar i vrawd Pityr hyd pan i gorchvygodd hyd i
varwolaeth ac heb wrthwyneb a veddiannodd  vrenhiniaeth
Spaen./

Yn y 42. o Edward y .3.edd i dechreüodd rhyfel drychefn
rhwng Lloegr a Phrainc ar düc o Lancastr
a ddanvonwyd yno a llü gantho ac yn agos i Ard
i paviliodd y Düc o Byrgwyn o vywn milldir
at baviliwns Lloegr yr yspas o .18. diwrnod ac
heb gynnic maes ond or diwedd mynd heb wybod ar
hyd nos phwrdd./

Y 45. i tyddodd [~ tyfodd ] kynnwrf mawr rhwng Phrainc a
Lloegr ar Saesson vynychaf yn colli yr maes
ac ar y gwaetha. a thre Lymog ac ereill a ryfelodd
ar Edward Brins ac yn hynny peth eisse
arian peth gan glevyde a dryge ereill yr
ymedewis Edward ar rhyfel ac i daüth i Loegyr,
ac yno i gadewis yn i ol i vrodür y Düc
o Lancastr ac Iarll Cambrids. Eithr ni hir
dariysson hwy yno./ Y 46. Iarll Penvro a
ddanfoned i gadarnhaü tre Rotsiel ac ar y

[td. 210v]
mor y kyfarvü yr y Spayniards ac i bü battel
vawr rhyngthün ac Iarll Penvro a saith oi wyr
a ddalwyd ar rhann arall a laddwyd ac a voddwyd
Ac ychydic gwedi hynny i rhoed tref Rotsiel
ir Phrankod./

Y 47. o vrenhiniaeth Edward Iohn o Gawnt düc
o Lancastr aeth i Galais a thrwy Phrainc hyd
Burdeaux dan dreisso ac ysbeilo ac anrheitho
phordd i kerddodd heb gynnic ymladd ac ef ond vn ysskirmits
i collodd .50./ o wewyr ac .20. o berchen bwae./

Yr .51. or brenhin hwnn i bü vath varwolaeth a
chlefyde yn Itali ac yn Lloegr ac i bü veirw peth
difessür o ddynion./ Y vlwyddyn honn i bü varw
Prins Edward ac ynghawnterbüri i claddwyd./
hefyd yr .21./ o vis Myhefin oedran Crist .1377. i
bü varw brenhin Edward .3.edd yr .51. oi goroniad
ac i claddwyd yn Westmestr./ Pedwar
mab a edewis Edward yn i ol pan vü varw
nid amgen Leionel Düc o Glarens, Iohn o
Gawnt düc o Lancastr, Edmwnd Langley düc
o Iork, a Thomas o Woodstock Iarll Cambrits

Richard yr ail.


Richard yr ail vab Eduard ddü Prins Cymrü
ap Edward 3edd yn oedran vn vlwydd arddec a goroned
yn vrenhin yn Lloegr y pümed dydd o vis
Gorphenhaf oedran Crist 1377./

Y vlwyddyn gyntaf i danfonodd brenhin Phrainc
lynges ir mor ac i tiriysson hwynte yn Lloegr
mywn swrn o leoedd ac i gwnaethont lawer o ddryge

[td. 211r]
ac i llosgyssont ddarn o dref [Rei a thref Hastings
] ac aethant i Phrainc eilwaith

Ynghylch hynn o amser Thomas o Woodstock Iarll  Cambrits
ewythr y brenhin ac wyth mil o lü gid ac ef
[aethant] trwy Phrainc hyd yn Water Swm ac o
ddyno i Droys ai hynnill ac o ddyno i Asgwyn ac
o ddyno i Vrytaen lle ir oedd Syr Iohn Mowntphord
düc o Vrytaen [yr hwnn] ai kressawodd yn llawen

Y .5. vlwyddyn i kwnnodd Kent ac Essex yn erbyn
y brenhin ac i gwnaethont gaptenied arnünt
a Siack Straw yn benn captenn yr hwnn a ddaüth
ir Twr Gwynn ynn Llünden ac yno i dalyssont
Archesgob Canterbüri ac arglwydd Saint
Iohn a phrier yr hwnn oedd Gyphesswr y brenhin
ac ar y twr hyl torri i penne a lladd ac
ysbeilo yr holl ddieithred yn Sowthwerk a llosgi ty
y Düc o Lancastr yr hwnn a elwid Savoy ac
yn i harver ehünen yn rhyfeilch ac yn diddymü
y brenhin eithr trwy wrolaeth a dilechtid Wiliam
Walworth maer Lünden i gwyhanwyd
ac i lladdwyd i capten Siack Straw./

Ac ynghylch yr amser hwnnw i crynodd
y Ddayar yn Lloegr hyd na bü na chynt na
chwedi mor vath./

Y .7. vlwyddyn Harri Spenser Esgob Norwits
a llü gantho aeth i Phlandrs wrth orchymyn y
Pab ac a ennillodd Ddwnnkyrk, a Graflyn ac
a losgodd 40. llong a llawer o stwph oedd ynddünt
ac i daüth i Loegr. Yr .8. vlwyddyn i prioded
brenhin Richard a merch Vincelaws Emperodr
yr Almaen. Y .10. vlwyddyn o Richard
yr ail ir aeth Iarll Arndel i gadarnhaü  sawdwyr
yn Gyen ac ar y mor y kyfarfü a Phlemings

[td. 211v]
ai llonge ynn llawn o win ai dala ac ynn i mysc
i dalyssont admiral Phraink. Yn .11. i tyfodd
grwyts a thrwbwl mawr rhwng y brenhin ac
arglwyddi a gwyr Eglwyssic a chyphredin y
Deyrnas trwy gyngor a help ewythredd y brenhin
ac arglwyddi eraill nid amgen y Düc o gaer
Loiw y Düc o Iork. Iarll Derbi ac Arndel
a Nottingam a ddienyddiodd swrn o gynghoried
a swyddogion y brenhin ac amkysson y Düc o Iwerddon
allan or deyrnas./

Y .15. vlwyddyn Rhyw refel a wnaeth i Lünden
golli i liberti ond gwedi hynny trwy dretmant y
vrenhines a Doctor Grinssend Esgob Llündain
i rhyddhawyd eilwaith

Y .18. vlwyddyn i siwrneiodd y brenhin Richard i Iwerddon
 lle i cafas gywilydd mwy nac anrhydedd a
cholled mwy noc ynnill./ Y 22. Harri Bolingbrok
Düc o Harephord a mab y Düc o Lancastr
ar Düc o Norpholk a vanissiwyd or Deyrnas
ac ar vyrr gwedi hynny i gyrrodd y Llündeinwyr
yn ol Henri Bolingbrok düc o Harephord
lle ir oedd yn Phraink ac i Loegr i daüth ac ychydic
gid ac ef ar kyphredin a ymgasglodd ynghyd
ac ynghastell y Phlint i dalyssont vrenhin Richard
ac i carcharwyd ynn y twr gwynn ac
yna i delifrodd ac a assignodd ir Henri Bolingbrok
düc o Harephord i holl bower ai vrenhiniaeth
ai glaim a chyfiownder ynghoron Loegr
a Phraink./


[td. 212r]

Henri y .4.ydd


Henri y .4.ydd mab Iohn o Gawnt düc o Lancastr
y 4 mab i Edward y .3.edd a gymerth meddiant or
vrenhiniaeth honn y dydd diwaethaf o vis Medi
oed Crist 1399 nei val hynn mil a phedwarcant
onid vn./ Y vlwyddyn honn i bü varw brenhin
Richard yr ail, Yn y vlwyddyn honn i kytünodd
rhai o Ieirll a dügied Lloegr i wneüthür chwaryeth
mwming ynn y deüddec niwyrnod ac ynn
y chware hwnnw divetha yr brenhin Eithr y
brenhin a gafas rybüdd ac a ymgadwodd ac a
aeth i Lündein ac a ddanfonodd yn ol y traetüriaid
ac wrth y gyfreith ai difethodd./ Y vlwyddyn honn
i danfonodd y brenhin Syr Thomas Persi a llü o
sawdwyr gantho i Acqwitayn i gynorthwyio Syr
Robert Knols oedd Lieutenant yno, ac i orchvygü
y wlad honno./ Y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd
na bai i arglwydd nac i neb amgen roi
lifre na gyne i neb oi tenantied ond ei gweission
oi tai

Yr ail vlwyddyn o Harri y 4.ydd i danfonodd   brenhin
Phraink arglwydd Siamys o Bowrbon a
deüddeckant o varchogion ac ysqwieiriaid i gadarnhaü
Owen Glynn Dwr ysgwier o Gymrü
ac ynn erbyn y brenhin ac ym Plymowth i
tiriyssont Eithr ni bü hir hyd pann orfü arnün
droi drychefn achos y brenhin a gowse rybüdd ac
Owen nis cowsse./ Y vlwyddyn honn Prior ac .8.
Phrier a grogwyd yn heibwrn am Dresswnn./

Pann oedd oed Crist ynn .1401. yn amser Harri

[td. 212v]
y pedwerydd ir ymddangosses Seren angyrriol i
maint ai goleüni val blassing sterr nei gomet
Y vlwyddyn rhac wyneb i bü yr maes yn y Mwythic
ar vlwyddyn nessaf at hynny i kwnnodd  traetüriaid
yn Swydd Iork ac i dalwyd Richard Scrwp
Archesgob Iork ac arglwydd marsial a Syr Iohn
Lampley a Syr Robert Pluton wythnos y Sülgwyn
a dorred i penne yn tre Iork. Y vlwyddyn
honn i dalwyd towyssoc y Scotlond ac i bü ynn
garcharor yn Lloegr./

Pan oedd oedran Crist 1412. mlynedd gwedi gwledychü
.13. blynedd a .5. mis ac .21. diwrnod i bü
varw Harri y .4.ydd yr 20. dydd o Vawrth ac
yng Hawnterbüri i claddwyd

Harri y pümed


Harri bümed a ddechreüodd yr .21. dydd o Vawrth
oed Crist 1412. ac a goronwyd yn Westmüstr y
9.ed dydd o Ebrill oed Crist 1413./

Y vlwyddyn honno i kynhalwyd kyphredin eisteddfod
yn tre Gonstans ac i danvoned yno o Loegyr
Richard Iarll Warwic a thri Esgob a llawer o
ddoctoried a marchogion ac ysgwieiried hyd yn
wythgant o veirch ac ynn yr Eisteddfod honn
i barnwyd am heresi Iohn Wiclyph, Iohn Hwss
a Ierom o Braga

Pan oedd oed Crist 1414. i kynhalwyd parlment
yn Leycestr ac yno i gwnaethbwyd llawer o acts
da a chyfreith ac y mysc materion ereill i
rhoed bil yn erbyn yr eglwysswyr ac yn debic

[td. 213r]
i gymryd lle./ A phann welas yr Eglwyswyr hynny
ir aethont at y brenhin a dangos iddo vod y
Deyrnas yn rhyfeddü nad oedd ef yn gofyn i gyfiownder
yn Phrainc. Ac velly i gwnaeth ac ni chafas
yn i amser ef mwy enkyd i eiste ar yr Eglwys./
Ac ir Rhyfel hwnnw i talodd i Lleniaid y kyfryw
daliad ac na thalyssid i vath or blaen./

Pan oedd oed Crist .1415. i danvonodd y brenhin
Lynghes o bymtheckan llong tü a Phrainc ar dydd
kyn i mordwyaw o Sowth Hampton rhai o arglwyddi
Lloegr a amkanodd ddifetha y brenhin./ Ac am
hynn Richard Iarll Cambrits, arglwydd Scrwp a
Syr Thomas Gray marchoc ar i marwolaeth a gyphessodd
ac a addefodd mae brenhin Phrainc ai parysse
vddünt. Ac wedi hynny ir aeth y brenhin
ar i siwrnai ac i tiriodd nosswyl Vair gyntaf
ynghid Kanx yn Normandi ar ail dydd i rhoes ef
sawd wrth dref Harphlüw ar .37. dydd gwedi hynny
i rhoed y dref i vynü iddo

Y vlwyddyn honn vis hydref i bü yr maes yn Agincowrt
trwy wyrthie Düw ai weithred i hennillodd gwyr Loegr
ac nid oedd o lü gan vrenhin Harri bümed ond dwyfil
o wyr meirch a deüddec mil o wyr traed o
bob math. A chida brenhin Phraink ir oedd holl
vrddas Phrainc a thrügeinmil o wyr meirch/
heb law gwyr traed./ Ac o dü Phrainc i llas
mwy no dec mil ac or rheini ir oedd yn Dwyssogion
ac yn Ddügied ac yn Ieirll ac yn varwnnied
ac yn wyr yn dwyn banere gant a chwech
arhügein ac yn varchogion ac yn esgwieried ac yn
wyr boneddigion chwechant. Ac o dü Lloegr i llas
Edward düc o Iork ac Iarll Swpholk. Syr Richard
Burkley a Davydd Gam esgwier ac o bob rhai

[td. 213v]
hyd ymhümcant nei chwechant or mwyaf./

Pan oedd oed Crist 1416 y 4. vlwyddyn o Harri y
5.ed i daüth Sigismwndws Emperodr Rhüfain i
Loegr i geisso heddwch rhwng brenin Loegr a
brenhin Phrainc eithr ef a ballodd./ Y vlwyddyn
honn i rhodd brenhin Phrainc sawd wrth dref Harphlüw
o ddwr a thir Eithr Harri 5.ed a ddanfonodd
y Düc o Betphord i vrawd a llü gantho ar y mor
a gydiodd a llonge brenhin Phraink hyd yn rhif o
bümkann  llong ac ai lladdodd ac ai boddodd ac ai dalodd
i gyd a phann glybü y llü oedd ar dir hynny hwynt
a ymadowson ai sawd ac ar dref

Pan oedd oed Crist 1417. ir aeth brenhin Harri
ai vrawd y Düc o Clarens a Gloseter a llü  ganthün
mawr ym mis Gorphennaf i Normandi
ac i hennillyssont Gayn a chestyll gan mwyaf
holl Normandi./

Oed Crist 1408 Iohn oldcastel marchoc ac arglwydd
Cobham a grogwyd ac wedi hynny a losged
ar vlwyddyn honn i sowdwyd Roon ar ddwr ac ar
dir ar .19. o vis Ionor ir ymrodd y dre a chwedi
hynny ir ymroes holl Normandi./

Y vlwyddyn honn i bü drafaes ac ymrysson rhwng
arglwyddi Phraink ac ynn enwedic rhwng y
Dolphyn Düc o Byrgwyn ar Düc o Oliawns
a lle a mann a bwyntiwyd i ymgyfaruod ac i heddychü.
Ac ir lle i daüth Dolphyn ar Düc o Byrgwyn/
ar Düc o Orliawns ar i liniaü yn dywedüd
i chwedyl wrth y Dolphyn i daüth Tanaguy
Dükastl ac a drewis y Düc ar i benn a hatsied
ac velly yn waradwyddüs i mwrdrywyd y Düc o
Orliawns. Ar vlwyddyn honno ir ennillodd y
brenhin Harri .5.ed dref Bontoys ac i crynodd

[td. 214r]
Paris a holl Phrainc rhac ofn./

Pann oedd oed Crist 1420 vis Mai ir aeth yn heddwch
rhwng brenhin Lloegr a brenhin Phrainc
ac i priododd Harri y .5.ed brenhin Lloegr arglwyddes
Gatherin verch brenhin Phrainc yn rhe Droys
yn Siampayn ac yn ol y briodas honno i kriwyd
Harri .5.ed yn aer i goron ac i vrenhiniaeth Phrainc
ac yn Regent o Phrainc./ Y vlwyddyn honn
i kynhalodd brenhin Harri .5.ed i natolic yn rhe Roon
megis regent o Phrawns ac yn debic i Emperodr
val i daüth atto lawer o wyr o vrddas Lloegr a
Phrainc a theyrnassoedd ereill lawer ac ir aeth
ychydic i dy brenhin Phrainc y natolic hwnnw
A gwyl Vair y kanhwylle gwedi hynny i daüth
y brenhin ar vrenhines i Loegr o Galais i Ddofr
a dyddgwyl Vathew y coroned y vrenhines yn Wesmyster
gwedi gadel y Düc o Clarens yn lieutenant
ac yn llywodraethwr dano ef yn Phrainc
ac yn Normandi

Pan oedd oed Crist yn 1421 ir aeth y Düc o Clarens
i Angeow a Lwmbart a wnaeth i vrad ac
velly i lladdwyd a llawer o wyr o vrddas gid ac ef
Ar vlwyddyn honn vis Mai ir aeth y brenhin i Phrainc
ac yr ymlidiodd y Dolphyn o Phrainc o le i
le hyd nad oedd hawdd iddo gael lle i ymgüddiaw
rhagddaw. Ar vlwyddyn honn i rhoes ef sawd
wrth y dref a elwid Meax ym Bryttaen. A thra
oeddid ynn y sawd honno i ganed mab ir brenhin
Harri a Harri oedd  henw hwnnw./

Ar vlwyddyn honno i bü varw brenhin Harri .5.ed yr
.21. dydd o vis Awst. y vlwyddyn o oedran Crist 1422.
gwedi gwledychü o hono naw mlynedd a phüm mis


[td. 214v]
Yn Westmestr i claddwyd./

Harri y chweched.


Harri .6.ed yn naw mis oed a ddechreüodd wledychü y
dydd diwaethaf ond vn o vis Awst ar wythued vlwyddyn
oi vrenhiniaeth ef i coroned ef yn Westmestr ar
.10.ed i coroned ef yn Phrainc yn rhe Baris yn vrenhin
Ar .24. vlwyddyn oi vrenhiniaeth i priodes ef
verch brenhin Cicil a Düc o Angeow. A thra vü
ieüank yn llywodreth i ewythredd i bü nid amgen
y Düc o Betphord a Gloseter nei gaer Loiw./

Pan oedd oed Crist 1424. y Düc o Betphord regal
o Phrainc a ryfelodd ar y Dolphyn o Phrainc ac a
roes maes iddo yn Vernoyl ac a ddüc y maes lle i
lladdwyd wyth mil or Phrancod./ Y vlwyddyn honn
i gollyngwyd Siamys brenhin Scotlond o garchar
Lloegr yr hwnn a wnaeth homaets dros vrenhiniaeth
Scotlond i vrenhin Lloegr ac a briododd arglwyddes
Sian verch Iarll Somersed a chares y
brenhin./

Pan oedd oed Crist 1425. i danfonodd y Düc o Glosetr
nei o gaer Loiw dec mil i Regal Phrainc i vrawd
o help iddo i ryfela yn erbyn y Dolphyn o Phrainc
Y vlwyddyn honn hefyd i bü vaes yn Vernoyl ynn
Perch rhwng y Regal ar Düc o Alanson ar
maes a ennillodd Lloegr ac ynddo i lladdwyd .9. mil
a .7. kant o Phrancod ac y Scottied ac vn cant
arbymthec or Saesson./

Pan oedd oed Crist 1428. i rhoed sawd wrth dref
Orliawns a Syr Iohn Phostolph a llü gantho aeth
o Baris tü ac yno a bwyd gantho ac yna ar

[td. 215r]
y phordd i kyfarvü llü or Phrancod ac ef ac yn ol
hir ymladd i syrthiodd y maes ir Saesson ac yno i
llas or Phrancod .25. cant ac i dalwyd xij cant
yn garcharorion./

Pan oedd oed Crist 1429. i torrodd y sawd wrth Orliawns
ac ir ennillwyd llawer o drefydd a chestyll nid
amgen Geneuile Menin a Phort a .5. mil o
wyr oedd gan arglwydd Talbot a their mil arhügein
or Phrancod ac yno i dalwyd yn garcharorion
arglwydd Talbot ac arglwydd Scals ac eraill
ac or Saesson i llas hyd xij cant A hynny a vü
lawen gan Ddolphyn ac eraill oi ran ef./ Y
vlwyddyn honn i rhyfelodd Dolphyn ac ir ennillodd
Droys yn Siampayn a thre Raynes a llawer
o drefi eraill a chestyll./ Ac ynghamp Dolphyn
ir oedd Iane a stont Ramp ar Phrancod ai galwai
hi Pwsel de diew hynny yw merch Düw. Ac yn
y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd y Dolphyn ynn
vrenhin yn Phrainc yn rhe Reymes yngolwc
pawb oi bobyl ef./ A phan glybü y Düc o Betphord
hynn ef a wnaeth lü angyrriol i vaint
o Saesson a Normaniaid ac a ganllynodd [~ ganlynodd ] y Dolphyn
o le i gilydd hyd pan ddaüth i Semles barr
lle y gwelai y llüoedd bob vn i gilydd ac yno ir arrhoessont
 ddeüddydd a dwynos ac yno megis Capten
 llwfr ar hyd nos i kilodd y Dolphyn i dre
Bray. A phan [welas] Regal Phrainc [hynny]
rhac na allai ymddired i wyr Paris ef a ymadewis
a Dolphyn ac a ddaüth i Baris./

Y vlwyddyn honn drwy gynhorthwy Pab Rhüfain
i danfoned Harri Benphor Cardinal o Winchestr
ac a elwid yn gyphredin y Cardinal kyfoethawc
a .4. mil o wyr gantho ac i Phrainc ir aeth

[td. 215v]
y gynhorthwyo y düc o Betphord a Regal Phrainc
yn erbyn brenhin Phrainc./

Pan oedd oed Crist 1430. yr .8.ed oi vrenhiniaeth i gydewis
Regal Phrainc yr hwnn oedd y Düc o Betphord
lywodraeth Phrainc ynn llaw Esgob Eli Siawnsler
Phrainc. Ar Regal a gynhalodd  Barlment
yn Ron ac a gynphorddiodd y Normaniaid
i vfüddhaü ac i ddarostwng i vrenhin Lloegr. Ar
amser hwnnw ir anfonodd brenhin Phrainc y düc
o Alanson a Iane I wyts Düwies vawr y Phrancod
i ysgolio Paris ac o ddyno i kürwyd ac i gyrrwyd
trwy gwilydd yn i hol a Iane i Düwies yn
y clawdd ac i bü lownwaith ymddiphin i bowyd

Yr .8.ed vlwyddyn o wrogeth Harri .6.ed i priododd
Philip Düc o Byrgwyn Isabel verch Iohn brenhin
Portiugal modryb brenhin Lloegr ac yn
y neithor honn ir ordeinodd y Düc Philip y golden
phlis./

Pan oedd oed Crist 1432. y .10.ed vlwyddyn oi wrogeth
i coroned Harri .6.ed yn vrenhin yn Phrainc yn
rhe Baris trwy lawer o anrhydedd a gwychder a
chrio heddwch rhwng Lloegr a Phrainc .6. blynedd/

Pan oedd oed Crist 1433. i torrodd y Phrancod yr heddwch
ac i gwnaethbwyd llüoedd o bob tü ac i kadarnhawyd
trefydd a chestyll a thrwy draetürieth i dünyssont
a Phyrs Andebwph Constabl Ron gael
dyfod o ddeücant or Phrancod i mywn i Ron mywn
dillad Saesson a rhybüdd a gafad a rhai o
honünt hwy a laddwyd ac eraill a grogwyd ac
eraill a ransymwyd wrth ewyllys y Regal.

Pan oedd oed Crist .1434. y 12.ed vlwyddyn o Harri
.6.ed i tyddodd [~ tyfodd ] terfysc rhwng Regal Phrainc ar

[td. 216r]
Düc o Byrgwyn yr hwnn a wnaeth drwc mawr
i Loegr ac i Vyrgwyn

Pan oedd oed Crist 1435. i bü rew o ddydd gwyl St
y Katrin hyd dydd gwyl Saint Valentein hyd
na allodd na llong na bad rodio Temys./ Y
vlwyddyn honn ir aeth yn heddwch rhwng brenhin
Phrainc ar Düc o Byrgwyn. Y vlwyddyn
honn i bü varw y Düc o Betphord Regal Phrainc
ac yn Eglwys Vair yn Ron i mae yn gorwedd
ac yn i le y dewisswyd Richard Düc o Iork./

Yn y vlwyddyn honn ir ennillodd y Phrancod dre
Baris ac i lladdyssont lawer or Saesson oedd yn
i chadw./ Y vlwyddyn honn i rhoes y Düc o ______
sawd wrth Galais ac arglwydd Croy sawd wrth
y Geins. Ac ybolüdd gwedi hynn i daüth arglwydd
Protector ac i llongodd tü a Chalais ar Düc ac arglwydd
Croy ar hyd nos a gilodd ac yn i hol i gydowssont
i tents ai paviliwns ai hordnawns./

Y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd Iarll Warwic yn
Regal yn Phrainc ac i diswyddwyd y Düc o Iork
oed Crist yno 1438./

Pan oedd oed Crist 1440. y .17.ec o Harri .6.ed i bü
ddrüdannieth mawr. Yr ail vlwddyn i gwnaethbwyd
y Düc o Iork yn regal yn Phrainc drychefn
ac yn i gyfeillach arglwydd Rhydychen
ac yn Normandi i tiriodd. a phan glybü vrenhin
Phrainc i ddyvodiaeth ir ymedewis ai sawd wrth
Bontoys ac aeth ymaith ar hyd nos./ Ar vlwyddyn
honn i rhyddhawyd y Düc o Orliawns a vüysse
yngharchar yn Lloegr er ys .25. mlynedd ac yn
i ranswm i talodd y Düc o Byrgwyn bedwar cann
mil o gorone./


[td. 216v]
Pan oedd oed Crist 1441. ir aeth daü lü ar vnwaith
i Phrainc vn a ddanvonwyd i Bickardi ac arglwydd
Talbot i roi sawd wrth dref Dip. Ar düc ehünan
ac yn i gwmpeiniaeth y Düc o Somersed aeth
i Angeow.

Pan oedd oed Crist 1442. i llosges klochdü Powls
gan dan mellt ac ir aeth malais rhwng y Cardinal
ac arglwydd Protector ac or achos honn i
collodd llawer dyn i vowyd

Pan oedd oed Crist ______ i prioded Margred
merch brenhin Cecil ar brenhin A chwedi hynny
i koroned yn Westmestr ac ni wnaeth na
phrophid ir Deyrnas nac Vrddas ir brenhin.

Pan oedd oed Crist 1449./ i rhoed Ron i vyny
i vrenhin Phrainc a chann mwyaf holl drevydd
Normandi Ar düc o Somersed ac arglwydd  Talbot
a ymedewis./ Ar vlwyddyn honn ir aeth y
Düc o Iork i Iwerddon yn Lieutenant dan y brenhin
ac i ostegü y Gwyddelod gwylltion oedd yn rhyfela
yn erbyn y brenhin

Pan oedd oed Crist 1450 ir ennillodd [y Phrancod]
vn maes ar y Saesson. Syr Thomas Kiriel oedd
y capten ac nid [oedd] gantho ond mil ac wythgant
o wyr ac or Phrancod .4. mil./

Pan oedd oed Crist 1452. ar .30./ o wrogeth Harri
6ed i bü ymgyfaruod rhwng y brenhin ar Düc o
Iork ar Vrent hieth yng Hent ond yn heddwch
ir aeth. Y vlwyddyn ir ennillodd y Phrancod Aqwitayn
yr honn a vüyssai Loegr er ynn amser
Harri .3.edd nei drychan mlynedd ac ychwanec./

Pan oedd oed Crist 1453. ir ennillodd Iarll y Mwythic
 Vwrdeaux a llawer o drefi yn Gasgwyn ac
yn y maes yngHastylton i llas yr Iarll ai vab

[td. 217r]
arglwydd Talbot a llawer o gaptenniaid Loegr./

Y vlwyddyn Mahomet y Twrk mawr a gwnkweriodd
Gonstantinobl ac a laddodd lawer o Gristynogion./


Pan oedd oed Crist 1454. Y vlwyddyn honn ir aeth
rhwng y düc o Iork yr hwnn oedd yn cleimio yr
goron ar Düc o Somersed oedd yn cadw yr brenhin
Ac yn Saint Albons i bü vaes mawr rhyngthün
ar düc o Iork ai ennillodd./ Ac o dü /r/ brenhin
i llas y Düc o Somersed ac Iarll  Northwmberlond
ac arglwydd Staphord ac wyth mil y
chwanec ar Düc o Iork a ddüc y brenhin yn
anrhydeddüs i Lündain ac yno i gwnaethbwyd
y Düc o Iork yn arglwydd Protector y Deyrnas
ac ar y brenhin./

Pan oedd oed Iessü .1455. yr .34. o Harri .6.ed wrth
gyngor y Vrenhines y byrrwyd y Düc o Iork
oi swydd yr hynn a wnaeth malais vawr a
grwyts drychefn yn y Deyrnas./ Yr ail
vlwyddyn i bü anllywodraeth a reiot yn Llünden
o blegid y Lwmbards ar Italians./ Ar
drydedd vlwyddyn i daüth dwy Long o Phrancod ac
i tiriyssont yn y Downs ac ir ysbeilyssont dre
Sandwits

Yn tre Vents yn Sermania i preintiodd Iohn
Phawstiws gyntaf erioed ac efo a gafas y gelfyddyd
honno gyntaf oed Crist 1458. A Harri
.6.ed .36./ Y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd heddwch
rhwng y brenhin ar düc o Iork ond na
hir byrhaodd./ [~ barhaodd ]

Pan oedd oed Crist .1459. i bü yr maes ymlor
hieth ynn Swydd y Mwythic rhwng arglwydd
Awdley o rann y brenhin ac Iarll Salsbri
o rann y Düc o Iork ar maes a ddüc Iarll

[td. 217v]
Salsbri ac arglwydd Awdley a laddwyd

Oedran Crist .1460. Harri .6.ed .38. i gwnaeth
y Düc o Iork lü anveidrol o Gymrü a gwyr y
Nordd ac Iarll Warwic a ddaüth a llü mawr o Galais
ac yn agos i Lwdlo ymordyr Cymrü i bü
rhyngthün vaes a thü ac yno i daüth y brenhin
ar düc o Somersed a llü arüthür ganthün
ar nos kyn y vattel i kilodd Andro Trolop
o ddiwrth y Düc o Iork at y brenhin ar nos
honno y kilodd y Düc ehün ac ir aeth i Iwerdd on
ac Iarll Warwic a Salsbri i Ddefnsir ac
o ddyno i Galais./ Y vlwyddyn honn I gwnaethbwyd y Düc o
Somersed ieüank yn gapten yng Halais ond
pan ddoeth ef yno ni chae ef ddyfod ir dref eithr
[bod] yn dda gantho gymryd y Geins gan yr Iairll
oedd yno oi vlaen ef./

Y vlwyddyn honn i daüth Iarll y Mars ac Iarll
Warwic ac i tiriyssont yn Sandwits ac i
daethan i Lündein lle i cressawyd yn anrhydeddüs
A chwedi hynny ir aethont a phümp
mil arhvgein o lü ganthün i gyfarvod ar
brenhin yr hwnn oedd ai lü gantho yn emyl Norddhampton
ac yno i bü yr maes ac yno i syrthiodd
y maes i Iarll y Mars ai barti ac o dü yr
brenhin i llas y Düc o Bwckingam ac Iarll  Salsbri
a dec mil y chwanec o Saesson./ ar darn
arall or llü a gilodd ac a ydewis [~ adewis ] y brenhin ehünan
ar Düc o Somersed ar vrenhines ai mab
a gilodd i Esgobaeth Ddürham Ac yn ol y maes
hwnn ydd aeth Iarll y Mars ar brenhin i Lündein
ac yno i gwnaethbwyd Parlment ac
yn y Parlment hwnnw i gwnaethbwyd y Düc
o Iork yn aer apparawns ai heyrs ynn i ol

[td. 218r]
yntaü./ Y vlwyddyn honn brenhines Margred
a gynnüllodd gwyr y Nordd lü mawr ac yn Wakphild
i bü yr maes ac i lladdodd y Düc o Iork ai
vab, Iarll Rwtlond ac Iarll Salsbri a ddalwyd
ac a dorred i benn ym Pwmphred ai benn a
ddanfoned i Iork. Ar vrenhines ai llü aeth i St
Albons ac a ymladdodd ac Iarll Warwic ac ar
Düc o Northpholk ac a ryddhaodd Harri i gwr
ac yn y maes hwnn i llas dwy vil a thrychant
Ac vn Marchoc a wnaethoeddid yn varchoc y
dydd kynn hynny ac a elwid Syr Iohn Gray./
Gwedi yr maes hwnn pann glybü y brenhin ar
vrenhines ddyfodiad Iarll y Mars a Iarll  Warwic
a llü arüthür o vordr Cymrü ganthün kymryd
i siwrnai a wnaethont tü ar Nordd. Ar
Ieirll aeth i Lünden ac yno drwy vndeb vrddas
 Lloegr ar kyphredin Edward Iarll y Mars
a griwyd ynn vrenhin y 4ydd dydd o vis Mawrth
oed Crist .1460.

Pan griwyd Edward yn vrenhin efo a ganllynodd
[~ ganlynodd ] vrenhin Harri .6.ed tü ac Iork ac a gyfarvü
ai lü yn y lle a elwir Towton ac yno
i bü vaes kreülon rhyngthün ond Edward ai
hennillodd. Ac yn y maes hwnnw i llas chwe
mil arhügein a seithgant ac yno i lladdwyd
Iarll Northwmberlond ac Iarll Westmerlond
ac arglwydd Cliphord a llawer ychwanec ar
brenhin Harri a gollodd i gyd ac a gilodd or Deyrnas
gwedi teyrnassü dair blynedd arbymthec
arhügein a chwe mis./


[td. 218v]
Gwedi y maes hwnnw idd aeth brenhin Harri i
y Scotlond ar gil ac ir aeth brenhines Margred
ai mab at i thad y Düc o Angeow./

Pan oedd oedran Crist vn mab Mair Vorwyn
 wyry brenhines nef amherodres vphern
arglwyddes y byd hwnn .1461. y .29. dydd o vis
Myhevin i coroned Edward .4.ydd yn Westmestr./

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section