Adran o’r blaen
Previous section



[td. 263v]

Yr ail Epistol Paul at y Corinthieit.

Pen. j.


Datcan y mae ef vaint y budd a ddaw ir ffyddlonieit ywrth
ei cystuddedic dravaelon. A' rhac yddyn vwrw yn yscavnder
meddwl arnaw, ddarvod iddo oedi ei ddyvodiad yn
erbyn ei addewid, y mae ef yn provi ei ddwysfryd ai ddianwadalwch,
yn gystal gan ei burdep yn precethu, a'
hefyt gan ddiysmudedic wirionedd yr Euangel. Yr hon
wirionedd a ddysylir ac a 'rwndwelir a'r Christ, ac a inselir
yn ein calonae gan yr Yspryt glan.


[1] PAul Apostol Iesu Christ trwy* [-: * gan, wrth]  ewyllys Duw, a'n brawd Timotheus, at Eccles Duw, ys ydd yn Corinthus y gyd a'r oll Sainctæ, yr ei 'sydd yn Achaia:
[2] Rat vo gyd a chwi, a' thangneðyf y ‡ gan [-: ‡ wrth] Duw ein Tat, a' chan yr Arglwydd Iesu Christ.
[3] Bendigedic yvv Duw 'sef Tat Arglwydd Iesu Christ, Tat y trugareddae, a' Duw yr oll * ddiddanwch [-: * gonfort, ddyhuðiant] ,
[4] yr hwn a'n diðana ni yn ein ol' ‡ 'orthrymder [-: ‡ vlinder, trallod, travael ] , val y gallom ðiðanu

[td. 264r]
yr ei 'sy mewn * dim [-: * neb, vn] gorthrymder, trwy 'r diddanwch in diddenir ninheu gan Dduw.
[5] Can ys megis yr amlheir dyoddefiadae Christ ynom, velly yr amlheir ein diddanwch ni trwy Christ.
[6] A' phwy vn bynac ai in gorthrymer, er diddanwch ac iechedvvrieth y chwi ydyvv, yr hon a weithir gan ymaros yn yr vn ryw ddyoddefiadae, yr ei ddym ni hefyd yn y dyoddef: ai diddaner ni, er diddanwch ac iechedvvrieth y chwi ydyvv.
[7] Ac y mae ein gobeith yn ‡ ffyrf [-: ‡ ddilys, ddiogel] am danoch, can y ni wybot megis ac ydd ych' yn gyfranocion o'r dyoddefiadae, velly y byddvvch hefyt gyfranoc o'r diddanwch.
[8] Can ys broder, ny vynem ywch' anwybot am ein gorthrymdr, y * vu [-: * ddaeth, wnaed a] i ni yn yr Asia, sef val y pwyswyt arnam ‡ yn anveidrawl dros ben ein gallu [-: ‡ dros vesur, ytuhwnt in nerth] , megis ydd oeddem- mewn-trachyfing-gyngor, * ac am yr [-: * sef am ein]  ‡ einioes [-: bywyt, hoedl ] .
[9] Do, ni a dderbyniesam varn angeu ynam, val na 'obeithem ynam ein hunain, anyd yn*-Duw [-: * yn-uw] , yr hwn a gyvyd y meirw.
[10] Yr hwn a'n gwaredawdd ni ywrth gyfryw ddirvawr * angeu [-: * berigl] , ac 'sy yn ein gwaredu: yn yr hwn ‡ y gobeithiwn [-: ‡ yr ymddiriedwn] , in gwareda rhac llaw,
[11] a's chvvychwi a gydweithiwch yn-gweddi trosam, pan yw tros y dawn a roddet y ni er mvvyn llawer, bod roi diolvvch gan lawer dyn y trosam.
[12] Can ys ein * gorvoledd [-: * gorawen, llawenydd] ni yw hyn, sef testiolaeth ein cydwybot, can ys yn ‡ symlder [-: ‡ diblyc, gwiriondeb] a' duwiol burdep, ac nyd yn-doethinep cnawdawl, anyd gan rat Duw y bu i ni ‡ ymgydtro [-: ‡ ymddwyn] yn y byt, ac yn * ben [-: * bennaf] ddivaddef tu ac ato-chwi.
[13] Can nac ym yn scrivennu amgenach betheu atoch', nac y ddarllenwch, neu ar ydd ych yn ei cydnabot, ac a 'obeithaf

[td. 264v]
y cydnabyddwch yd y dywedd.
[14] Sef megis y cydnabuoch ni o ran, ein bot yn orvoledd ychwi, megis ac ydd yw chwithe i ninheu, yn-dydd * yr [-: * ein] Arglwydd Iesu.
[15] Ac ‡ yn [-: ‡ ar] y gobaith hyn ydd oedd im bryd i ddyvot atoch * y tro cyntaf [-: * yn y blaen] , val y caffech ‡ ddau [-: ail] rat,
[16] a' myned hebo-chwi i Macedonia, a' dyvot drachefn o Macedonia atoch, a' chael vy * hebrwng [-: * arwain] genwch tua Iudaia.
[17] Gan hyny pan oeddwn yn amcanu [-: ‡ bwriadu, meddwl] val hyn, a arverwn i o yscavnder? neu wyfi yn amcanu y petheu 'r wy 'n amcanu, erwydd y cnawd, val y byddei gyd a myvi, ‡ Do, do, ac Na ddo, na ddo [-: ‡ Ie, ie, ac Nag ef, nag ef] .
[18] Sef ys ffyddlon yw Duw, na bu ein gair tu ac atoch, Do ac Na ddo.
[19] Can ys Map Duw Iesu Christ yr hwn a precethwyt yn eich plith chvvi genym ni, 'sef myvi, a' Siluanus a' Thimotheus, nyd ytoedd, * Do, ac Na ðo [-: * Ie ac Nac ef] : eithyr yndo ef, ‡ Do [-: ‡ Ie] y doedd.
[20] Can ys oll addeweidion Duw yndo ef ynt * Do [-: [no gloss]] , ac ynt yndaw ef Amen, er gogoniant Duw trwyddom ni.
[21] A' Duw yw 'r hwn a'n cadarna ni y gyd a chwi yn-Christ, ac a'n ‡ enneinioð [-: ‡ irodd] ni.
[22] Yr hwn hefyt a'r inseliawð, ac a roes * ernes [-: * wystleideth] yr Yspryt yn ein caloneu.
[23] Ac ydd wy vi yn galw Duw yn test i'm enait, may i'ch arbed chwi, na ddaethym i ‡ yd hynn [-: ‡ eto] i Corinthus.
[24] Nyd can eyn bot yn arglwyðiaw ar eich ffyð chvvi, anyd ein bot yn * ganhorthwywyr [-: * cyd-ðirprwywyr] ich llawenyð: can ys gan ffydd y sefwch.

Pen. ij.



[td. 265r]

Dangos ei gariat yddynt y mae ef. Gan erchi hefyd arnynt
vot yn esmwyth wrth y godinabwr-cyfathrach, can iðaw
edivarhau. Mae ef hefyt yn ymhoffy yn-Duw dros nerthowgrwydd
ei ðysceidaeth, Gan orchvygu dadl y cyfryw
gwerylwyr, ac wrth ymescus dadleu yny erbyn ef, nyd
oeddynt yn ceiso dim amgen, na dywreiddiaw y athroaeth
ef.


[1] EIthr mi tervynais [-: ‡ vernais] hyn yno y hunan, na ddelwn atoch drachefn * yn- [-: * mewn] tristit.
[2] O bleit a's mi ach tristaa chwi, pwy yw'r hwn a'm llawenha vi, dyeithyr hwn a dristawyt y can y vi?
[3] A' mi a scrivenais hyn yma atoch, rac pan ddelwn, ‡ cael [-: ‡ gymeryd]  o hanof tristit gan yr ei, y dylywn ymlawenhau: mae vy-gobaith ynoch oll, vot vy llawenydd i yn llavvenydd y'wch 'oll.
[4] Can ys yn-gorthrymder mawr, a' chyfingder calon ydd yscrivenais atoch * gan ddaigrae [-: * a dagrae] lawer: nyd val ych tristaid chwi, eithr val y ‡ gwybyddech [-: ‡ dyellech] y cariat ys y genyf, yn enwedic y chwi.
[5] Ac a * gwnaeth [-: * pharodd] nebun dristau, ny wnaeth ef i mi dristau, anyd o ran (rac i mi bwyso [-: ‡ graffu] arnavv) y chwi oll.
[6] Digon yvv ir cyfryw vn * bod [-: * gael] ei geryddu gan lawer.
[7] Megis yn hytrach yn-gwrthwynep y dylyechwi vaddau yddavv, a' ei ðiddanu rac y llyncit y cyfryw vn y gan 'ormodd ‡ tristit [-: ‡ tristwch, trymder] .
[8] Erwydd paam, yr atolygaf' ywch, gadarnhau eich cariat arno.
[9] Can ys er mwyn hyn hefyt ydd yscrivenais, val y gwybyddwn braw * o hanoch [-: * am danoch] , 'sef a vyddech vvyddion [~ ufuddion ] ‡ i bop [-: ‡ ym-pop] peth.
[10] Yr hwn y maddeuoch

[td. 265v]
ddim yddaw, y maddeuaf vinheu hefyt: can ys yn wir a's maddeuais i ddim, ir hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yn-golwc Christ,
[11] rac bod y Satan ein ‡ gorchvygu [-: ‡ [no gloss]] : can nad anwybot genym y amcanion ef.

[12] Yno, pan ddaethym i Troas * er [-: * i, y]  precethu euangel Christ, ac bot agori drws y-my' gan yr Arglwydd,
[13] ny chawn lonydd yn vy ‡ yspryt [-: ‡ meddwl] , can na vedrwn gael Titus vy-brawt, anyd * canu yn iach [-: * ymiachau] yddynt a wnaethym, a' myned ymaith i Macedonia.
[14] Anyd y Dduw y ddyolvvch, yr hwn yn wastat a wna yni ‡ 'orvot [-: ‡ gael y llaw vchaf, vyned armaes] yn-Christ, ac a eglurha arogle y wybodaeth ef trwyddom ni ym-pop lle.
[15] Can ys ydd ym ni y Dduw yn ber * arwynt [-: * arogl, sawyr] Christ, yn yr ei'n a ‡ iachêir [-: ‡ gedwir] , ac yn yr ein a gyfergollir.
[16] Ir ei hyn ydd ym yn * arogl [-: * arwynt, sawr]  angeu, i angeu, ac ir llaill yn arogl bywyt, i vywyt, a' phwy 'sy ddigonol i'r petheu hyn.
[17] Can nad ym ni val y mae llawer, yn ‡ masnachu [-: ‡ arwerthu] gair Duw: eithr val o burdap, eithr val o Dduw yn-gwydd Duw, ydd ym ni yn ymadrodd * yn- [-: * o, am] Christ.

Pen. iij.


Cymeryd y mae ef yn esempl ffydd y Corinthieit yn brouedigaeth
o'r gwirionedd a precethawdd ef. Ac y dderchafu y
Apostoliaeth ef yn erbyn colffrost y gau Ebestyl. Y mae
ef yn cyffelypu rhwng y Ddeddyf a'r Euangel.



[td. 266r]

[1] A Ddechreuwn ni ‡ ymganmol [-: ‡ ein moli ein hunain]  drachefn? ai rait i ni val i eraill, wrth * epistolae [-: * lythryae]  canmoliant atochvvi, neu lythyræ canmoliant y ‡ genwch [-: ‡ wrthych ] ?
[2] Ein epistol ni ydyw-chwi, yn escrivenedic yn ein calonae, yr hwn a ddyellir ac a ddarllenir gan bawp dyn,
[3] can ys eglur ydych, y vot yn epistol Christ, a wasanaethwyt genym ni, ac a scrivenwyt, nyd * a duy [~ du ] [-: * ac inc] , amyn ac Yspryt y Duw byw, nyd yn lleche [-: ‡ eleche] mainyn eithr yn-cnawdol leche y calon.

[4] A' chyfryw ymddiriet [-: * obaith] 'sy genym trwy Christ ar Dduw:
[5] nyd erwyð ein bot yn ‡ aðas [-: * deilwng, ddigonol] o hanam ein hunain, y veddwliet dim, megis o hanam ein hunain: eithyr ein * addasdap [-: * digonedd, teilyngdot]  ni ysydd o Dduw.
[6] Yr hwn hefyt a'n gwnaeth ni yn ‡ weinidogion [-: ‡ Wenistreit]  digonol i'r Testament newydd, nyd yn vvenidogion ir llythyren, amyn ir Yspryt: can ys y llythyren a ladd * a'r [-: * ond yr] Yspryt a rydd vywyt.
[7] Ac ad yw y wenidogeth angeu wedyr yscrivennu a llythyrennæ ai * ffurfiaw [-: ‡ argraphu] ym-mainin, vot yn-gogoniantus, mal na allai plant yr Israel edrych [-: * dremio] yn wynep Moysen, can 'ogoniant ei wynepryd (rhwn 'ogoniant a ‡ ddilewyt [-: ‡ ddivawyt, a ddarvu am dano] )
[8] pa wedd na bydd gweinidogeth yr Yspryt ym- mwy o 'ogoniant?
[9] Can ys a bu gweinidogeth * barnedigaeth [-: * gauogrwydd] yn-gogoniantus, mwy o lawer y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder yn gogoniant.
[10] Canys yr hyn ac 'ogoniantwyt, ny 'ogoniantwyt yn y rhan ‡ hon [-: ‡ hyn] , sef a berthyn ir gogoniant * trarhagorawl [-: * ardderchawc, arbenic] .
[11] O bleit a's hynn a ddilëid ymaith, oedd yn-gogoniantus, mwy o lawer y bydd

[td. 266v]
hyn a erys, yn ogoniantus.
[12] Velly can vot genym gyfryw 'obeith, ydd ym * yn arver [-: [no gloss]] o ymadrodd ‡ mor [-: ‡ vawr]  * hyderus [-: * ðiragrith] .
[13] Ac nyd ym ni mal Moysen, yr hvvn a ddodei ‡ gudd [-: ‡ llenn ] ar ei wynep, rac y blant yr Israel edrych ar * ðiben [-: * ddywedd] yr hyn a ddilëid.
[14] Am hyny y caledwyt y meddwl hwy: can ys yd y dydd heddyw y mae'r llen-gudd honno yn aros heb hi * ymatguð [-: * dadguðio, ‡ didoi] wrth ddarllen yr hen Testament, yr hon ‡ yn- [-: [no gloss]] Christ a dynir ymaith.
[15] Eithyr ac yd y dydd heðyw pan ddarllenir Moysen, y dodir y llen-gudd ar ei calonæ wynt.
[16] Er hyny pan ymchoeler ei calon at yr Arglwyð, y tynnir ymaith y llen-gudd.
[17] Weithian yr Arglwydd yw'r Yspryt, a' lle mae Ysprit yr Arglwydd, yno ymay rhyðdit.
[18] Eithyr edrych ydd ym ni oll megis * mewn drych [-: * drwy gwydr] ar 'ogoniant yr Arglwydd ac wynep ‡ ymatgudd [-: ‡ agoret] , ac in newidir ni ir vnryw ddelw, o 'ogoniant i 'ogoniant, megis y gan Yspryt yr Arglwydd.

Pen. iiij.


Mae ef yn datcan ei ddiyscaelusrwydd ai dalgrynrwydd yn
ei swydd. A'r hyn oedd ei 'elynion yn ei gymryd yn ðielw
iddo, sef, y ‡ groc [-: ‡ groes ] a'r travaelion yr ei y mae ef ei goðef,
a droes ynteu yn 'elw mawr yddaw. Can ddangos pa
vudd a ddaw o hyny.


[1] AM hyny, can vot i ni y * gweinidogeth [-: ‡ gwasanaeth, swydd] hynn, megis y cawsam drugaredd, nyd ym ni yn ‡ llaesu [-: * deffigio, lleddfu] :
[2] eithr ymwrthot a wnaetham a gorchuddiau coegedd,

[td. 267r]
ac nyd rhodiaw ydd ym yn * hoccedus [-: * callinep, dilechtit] , ac nyd ym yn ‡ camdraethu [-: ‡ ffalsau, siomi am] gair Duw: eithr can eglurhau y gwirionedd ydd ym yn ymbrifio wrth cydwybot pop dyn yn-golwc Duw.
[3] Ac ad yw ein Euangel yn guddiedic, ir ei a gyfergollwyt, y mae hi yn guddiedic.
[4] Ym-pa 'rei * Duw y byt hwn [-: * sef Satan] a ddallawdd y meddiliae, 'sef ir anffyddlonion, rag towynnu yddynt ‡ llewyrch [-: ‡ 'olauni, 'oleuad] y gogoneddus Euangel Christ, rhwn yw delw Dduw.
[5] Can nad ym yn ymprecethu ein hunain, anyd Christ Iesu yr Arglwydd, a' ninheu yn weision ywch er mwyn Iesu.
[6] Can ys Duw 'rhwn a 'orchymynnawð ir golauni lewyrchu allan o dywyllwch, yvv ef yr hwn a lewyrchawdd yn ein calonae, y roddi golauni'r gwybodaeth y gogoniant Duw yn wynep Iesu Christ.
[7] Eithr y tresawr hwn 'sy genym mewn llestri pridd, val y byddei arðerchowgrwyð y meðiant hwnw o Duw, ac nyd o hanom ni.
[8] Yð ys in gorthrymu o bop ‡ parth [-: ‡ tu] , er hyny nyd ym mewn cyfyngder: ydd ym mewn * cyfing gyngor [-: * tlodi] , er hyny nyd ym yn * ðigyngor [-: * dlawd anobaith] .
[9] Ydd ys yn ein ymlid, and ny'n gedir eb ‡ navvdd [-: ‡ ymgeledd ] : ydd ym wedy ein tavlu y lawr, eithr ny'n collir.
[10] Ym pop lle ydd ym yn arwedd o y amgylch yn ein corph * varwoleth [-: * varwhad] yr Arglwyð Iesu, val yr eglurer hefyt vywyt Iesu yn ein corphe.
[11] Can ys ny ni 'rei sydd yn vyw, a roðir yn wastat y angeu er mwyn Iesu, val yr eglurhaer hefyt vywyt Iesu yn ein marwol gnawd.
[12] Ac velly angeu a weithia ynam ni, a' bywyt yno-chwi.
[13] A' chan vot i ni yr vn Yspryt ffyð, erwydd y mae yn scrivenedic, Credais, ac am hyny * y llavarais [-: ‡ yr adroddais, dywedais] , ac ydd ym ninheu

[td. 267v]
yn credu, ac am hynny * y llavarwn [-: * yr adroddwn, dywedwn] ,
[14] can wybot y bydd y hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, eyn cyfodi ninheu hefyt trwy Iesu, ac a'n gosyd ni y gyd a chwi.
[15] Can ys pop peth oll ys ydd er eich mwyn chwi val yr amylhao yr helaethaf rat gan ddiolchiat llaweroedd er ‡ gogoniant [-: ‡ moliant] y Dduw.
[16] Am hyny nyd ym ni yn * ymellwng [-: * deffygiaw, llipau, myscrellu] , eithyr cyd llygrer ein dyn o ddyallan, er hyny y dyn o ddymewn a adnewyðir beunydd.
[17] O bleit yscavnder ein gorthrymder ‡ rhwn ny phara ddim hayachen [-: ‡ trangedic] , a * bair [-: * weithia] y ni dra arðerchawc a' thragyvythawl bwys o 'ogoniant,
[18] pryd nad edrychom ar y petheu hyn a welir, anyd ar y petheu, ny welir ddim hanynt [~ ohonynt ] : can ys y petheu a welir, 'sy  dros amser [-: ‡ amserol] : a'r petheu ny welir, 'sy tragyvythawl.

Pen. v.


Paul yn myned rhacddaw y venegy y budd a ddaw ywrth y
* groc [-: * groes] . Pa wedd y ddylyem ni ymparatoi yddei. Drwy
bwy, Ac er pa dervyn. Ef yn espesu am rat Christ, A'
swydd gweinidogion yr Eccles, a'r oll ffyddlonion.


[1] CAn ys gwyddam pe a's ein dayarol duy y * pebyll [-: * lluest, trigva] hyn a ddinistrir, vot i ni adailat vvedy roddi gan Duw, nid amgen, tuy nyd ‡ o waith llaw [-: ‡ gwneuthuredic gan ddwylo] ddyn, anyd tragyvythawl yn y nefoedd.
[2] Can ys am hyny ydd ym yn vcheneidiaw, gan ddeisyf u cael ein gwisco a'n tuy, rhwn 'syð or nef.
[3] O bleit a's gwiscir-ni,

[td. 268r]
ny'n ceffir yn noethion.
[4] Can ys yn ddiau nyni 'r ei 'sydd yn y * pebyll hynn [-: * pabell hwn] , ydym yn vcheneidio, ac yn llwythoc, can nad wyllysem ein ‡ diosc [-: ‡ dihatry] , anyd cahel ymwiscaw am danom, val y darllyncit marwolaeth gan vywyt.
[5] A' hwn a'n creawdd ni ir peth hyn, ydy Duw, yr hwn hefyt a roddes y- ni * ernes [-: * wystleideth]  o yr Yspryt.
[6] Am hynny ydd ym bop amser yn ‡ hyderus [-: ‡ hyf, ehovn] , cyd gwypom mae tra ydym * gartref [-: [no gloss]] yn y corph, eyn bot yn  ymddeith [-: * ðyvodieit, ddyeithreit] ywrth yr Arglwydd.
[7] (Can ys wrth ffydd y rhodiwn, ac nyd wrth ‡ 'olwc [-: ‡ edrychiat] )
[8] er hyny ydd ym yn * hyderus [-: * hyf, eovn] ac a vynnem yn hytrach ‡ ysmutaw [-: ‡ vudo] allan o'r corph, a' * thrigiaw [-: * phreswilio] y gyd a'r Arglwydd.
[9] Am hyny hefyt y ‡ chwenychem [-: ‡ ðamunem puchem] , a ni yn trigo gartref ac yn mudo o ddygartref, vot yn gymradwy ganto ef.
[10] Can ys * dir [-: * rait] yw y ni oll ‡ ymðangos [-: ‡ apero] geyr bron * brawdle [-: * gorsedd] Christ, val yd erbynio pop vn y petheu a vvnaethpvvyt yn ei gorph, erwydd yr hyn a wnaeth, pa vn bynac ai da ai drwc.
[11] Velly can y ni * wybot [-: * adnabot] ofnhad yr Arglwydd, ydd ym yn peri y ddynion gredu, ac in eglurhawyt i Dduw, ac yddwy yn gobeitho hefyt ddarvot ein egluraw ni yn eich cydwybodae chvvi.
[12] Can nad ym yn ymganmol drachefn wrthych, anyd rhoddy ywch achos ‡ gorvoledd [-: ‡ llawenhau] am danom, val y caffoch beth y atep yn erbyn yr ei 'sy ai gorvoledd * yn [-: * ar] yr wynep, ac nyd yn y galon.
[13] Can ys pa vn bynac ai ampwyllo ydd ym, y Dduw ydd ym: ai ynteu bot yn ein iavvnpwyll, y chwi ydd ym.
[14] Can ys cariat Christ a'n cympell: can y ni varnu val hyn, o bleit a's bu vn varw trosam * bavvp [-: * ni ] oll, yno ys meirw ‡ oeddynt [-: ‡ ydym] oll,
[15] ac ef vu varw dros bavvb

[td. 268v]
oll, val y bo ir ei byw, na vyddant vyw rhac llaw yðyn y hunain, anyd i hwn a vu varw drostwynt, ac a adgyvodes.
[16] Ac velly, ar ol hyn nyd ym yn adnabot nebun * erwydd [-: * yn ol] y cnawt, a' chyd adnabysem ni Christ erwydd y cnawt, er hynny o hyn allan nyd ym yn y adnabot ef mwy.
[17] Can hyny a'd oes nebvn yn-Christ, byddet ef yn creatur newydd. Yr hen betheu aethan heibio: wely, yr oll petheu ‡ sy wedy gwneuthur o [-: ‡ aethon yn] newydd.
[18] A'r oll petheu ynt o Dduw, hwn a'n * cysiliawdd [-: * cymododd, cytunodd ]  ni yddo ehun, trwy Iesu Christ, ac a roddes i ni weinidogeth cysiliat.
[19] Can ys Duw ytoedd yn Christ, ac a gysiliawdd y byt yddo yhun, eb ‡ liwio [-: ‡ gyfrif] yddynt ei pechotae, ac a ddodes i ni 'air y * cysiliat [-: * cymmot] .
[20] Wrth hynny ydd ym ni genadwri dros Christ: megis pe bai Duw ‡ ich adolwyn [-: ‡ ervyn] trwyom ni, atolygwn yvvch yn lle Christ, bot ych cysilio a Duw.
[21] Can ys gwnaeth ef hwnw y vot yn bechot trosam, yr vn nyd adnabu ddim pechot, val in gwnelit yn gifiawnder Duw ynddo ef.

Pen. vj.


Eiriol i vuchedd Christianoc, Ac ar vot gantyn gyffelyp serchvryd
yddaw ef, ac ys y ganto ef yddyn hwy. Hefyd ar
ymgadw o hanynt y wrth oll halogrwydd * delw-addoliat [-: * eiddol-addoliat ]
yn-corph ac enait, ac na bo cyfadnabot a delw-addolwyr.


[1] VElly nineu can hyny megis yn gydweithwyr a atolygwn yvvch, na dderbyniochvvi rat Duw yn over.
[2] Canys dywait ef, Yn amser cymradwy ith * erglywais [-: * wrandawais] , ac yn-dydd iachydvvrieth ith ganhorthwyais

[td. 269r]
: wely'r awrhon * yr amser [-: * y pryd]  cymeradwy, wele'r awrhon ddydd yr iechedvvrieth.
[3] Nyd ym ni yn rhoi vn achos ‡ tramcwydd [-: ‡ chwymp, rhwystr] yn-dim, rac * cael bei ar [-: * coddi] ein gweinidogaeth.
[4] Eithyr ym-pob peth ydd ym yn ‡ ein provi [-: ‡ ymosot, ymðangos] ein hunain val yn wenidogion Duw, * yn [-: * mewn] ammynedd mawr, yn gorthrymderae, yn anghenion, yn-cyfyngderae,
[5] yn-gwialenodae, yn-carcharae, yn-tervysce, yn-travaelion, ‡ gan [-: ‡ trwy] wiliaw, gan vmprydiaw,
[6] gan burdep, gan wybyddieth, gan hirddyoddef [-: * hwyrðigio] , gan ‡ diriondeb [-: ‡ vwynder] , gan yr Yspryt glan, gan gariat diffuantus
[7] gan 'air gwirionedd, gan nerth Duw, gan arvae * cyfiawnder [-: * vniondeb] ar ddeheu ac ‡ aswy [-: ‡ aseu] ,
[8] gan barch, ac amparch, gan glod ac ac anglod, megis twyllwyr, ac er hyny yn gywir:
[9] megis yn anadna*byddus [-: *=bodedic] , ac er hyny yn adnabyddus: megis yn meirw, ac wele ni yn vyw: megis wedy ein cospi, ac nyd wedy 'n lladd:
[10] megis yn ‡ dristion [-: ‡ trwmveddylio] , ac eto * yn 'oystat [-: * bop amser] yn llawen: megis yn dlodion, ac eto yn ‡ cyvoethogi [-: ‡ goludogi] llawer: megis eb ddim cenym, ac eto yn meddyannu * pop dim [-: * y cwbl, oll] .
[11] Chvvi Corinthieit y mae ein geneu yn agoret ychwi: ein calon a ‡ ehengwyt [-: ‡ lydanwyt] .
[12] Ni 'ch cadwyt yn cyfing ynom ni, eithr ich cadwyt chwi yn gyfing yn eich ymyscaroedd eich vnain.
[13] Yrowon yn lle taliad, y dywedaf vegis wrth vy * meibion [-: * vy-plant] . Ehenger chwithe hefyt.
[14] Nac ‡ iauer [-: ‡ chwplyser] - chwi yn * ancymparus [-: * anghyfelypol] gyd a'r anffyddlonion: can ys pa ‡ gymddeithas [-: ‡ gyfeillach] 'sydd i wiredd ac anwireð: a' pha * gommun [-: * gyffredinrwydd, gyfraniat] 'sydd y 'oleuni a thywyllwch:
[15] a' pha ‡ gyssondeb [-: ‡ gydvot] ys ydd * i [-: rrwng] Christ a Belial? neu pa ran 'sydd i hwn a gred gyd a'r ‡ hwn 'sy eb ffyð [-: ‡ anffyddlon ] :
[16] a' pha gydfot 'sydd i Templ Dduw * ac eiddoleu [-: * a delweu] ?

[td. 269v]
can ys * chwi yw [-: * ydywch] Templ Dduw byw: val y dyvod Duw, ‡ Preswiliaf [-: ‡ Mi a drigaf ] ynthwynt, ac a rodiaf yn y mewn: a' byddaf yn Dduw yddwynt, ac hwy vyddant yn popul y mi.
[17] Can hyny dewch allan oei plith wy, ac ymohanwch, medd yr Arglwydd: ac na chyhwrddwch ddim aflan, a' mi ach derbyniaf chvvi.
[18] A' byddaf ywch yn Dat, a' chwi vyddvvch yn veibion ac yn verchet i mi, medd yr Arglwydd oll * gyvoethawc [-: * alluawc] .

Pen. vij.


Eu heiriol y mae ef gan addeweidion Duw yd cadw y hunain
yn bur, Gan eu diogelu am ei gariat arnyn, Ac nyd
yw yn escuso galeted ei awdurtot tu ac atynt, anyd ymhoffi
wrthaw, gan ystyried pa vudd a ddaeth. Ywrth hyny,
Am ddauryw * dristit [-: * drymvryd ] .


[1] WEithion can vot i ni yr addeweidion hyn, vy-garedion, * ymgarthwn [-: ‡ ymlanhawn] y wrth oll ‡ vrynti [-: ‡ vndreddi, halogrwyð] y * cnawt ac yspryt [-: * corph ac enaid] , gan ymgwplau i saincteiddrwydd yn ofni Duw.
[2] ‡ Derbyniwch [-: ‡ Cynwyswch] ni: ny wnaetham gamvvedd i nebun: nyd anreithiesam nebun: ny ‡ siomesam [-: [no gloss]] nebun.
[3] Nyd er ech barnedigaeth y dywedaf: can ys rac ddywedais, ych bot chwi yn ein calonheu ni, y gyd varw a' byw.
[4] Y mae * hyfder [-: ‡ vy-diragreithwch, ehovnder] vy ymadrodd wrthych: mae genyf ‡ 'orvoledd [-: ‡ ymhoffedd] mawr ynoch: im cyflawnir o ddiddanwch, ac ydd wyf yn dra llawen yn ein oll * 'orthrymder [-: * vlinvyd] .
[5] Can ys gwedy ein dyvot i Vacedonia, ny chai ein cnawd

[td. 270r]
ni ddim * llonydd [-: * heddwch] , eithr in gorthrymid o bop parth, gan ymladdae oddy allan, ac ofnion oddy mywn.
[6] Eithr Duw, yr hwn a ddiddan [-: ‡ gonfforðia] yr ei custuddedic, a'n diddanawdd ni * gan [-: * wrth, trwy] ddyvodiat Titus:
[7] ac nyd gan y ddyvodiat ef yn vnic, anyd hefyd y gan y diddanwch y diðenit ef genychwi pan venagawð ef i ni eich awyddvryd chwi, eich ‡ galar [-: * wylofain, nad] , eich * anwylserch [-: * goglyd] i mi, mal y llawenhawn yn vwy o lawer.
[8] Can ys cyd tristeais i chwi a llythyr, nyd edivar yw genyf, cyd ‡ byðei [-: ‡ bu] ediuar genyf: can ys * gweled [-: * dyall] yddwyf ddarvot ir llithyr hwnw ych tristau chwi, cyd bei any tros amser.
[9] Yr awrhon yr wy'n llawen nyd can ich tristëit chwi, anyd am ych tristau i edweirwch: canys tristau a wnaethoch yn ‡ ðuwiol [-: ‡ herwydd Duw] , val na chawsoch enwed yn-dim y genym ni.
[10] Can ys duwiol dristit a * bair [-: * weithia] ediuerwch er iechydvvrieth diedivarus: eithr bydol dristit a bair angeu.
[11] Can ys wely, hyn yma am ðuwiol dristau o hanoch, pa ‡ astudrwyð [-: ‡ 'ofal, carc] ei veint a weithioð ynoch: anyd pa * amðeffen [-: * ymiachaad, ymgliriad] : anyd pa gilwc: anyd pa ofn: anyd pa 'oglyd: anyd pa wynvyd: anyd pa ddial: ac ym pop peth yr ymðangosasoch ych bot yn pur yn y ‡ devnyð [-: ‡ helhynt, mater, gwaith] hwn.
[12] Erwyð paam, er scrivenu atoch, nyd scrivenais oi bleit ef yr hwn a wnaethoedoedd y camvvedd, nac o bleit yr hwn a gafas y camvvedd, and er bod y gofal * tu ac atoch [-: * am danoch] chwi yngolwc Duw yn eglur y chwi.
[13] Am hyny in diddanit ni, achos ych diddanyad chwi: eithr llawenach o lawer ‡ mwy [-: ‡ byt] oeddem ni am lawenydd Titus, can * lonni [-: * esmwytho] y ‡ yspryt [-: ‡ glaan] ef genwch 'oll.
[14] Can ys a's ffrostiais ðim wrthaw am danoch, ny'm cywilyddiwyt: eithyr megis y dywedeisam

[td. 270v]
wrthych bop dim yn-gwirionedd, velly hefyt ydd oedd ein * ffrost [-: * gorvoledd, bost] ni wrth Titus yn gywir.
[15] Ac y may y ‡ galondit [-: ‡ ymyscaroedd] ef yn helaethach tu ac atochvvi, pan goffaeych vvyðdot [~ ufudd-dod ] chwi oll, a' pha wedd * gyd ac [-: [no gloss]] ofn ac echryn yd erbyniesoch ef.
[16] Am hyny llawen wyf can i mi allu ymddiried [-: * ymddires, hydery] ynoch ym-pop dim.

Pen. viij.


Wrth esempl y Macedonieit, A' Christ y mae ef yn cygori i
barhau i gymporth y Sainct tlodion. Gan ganmawl yðyn
ddechreu yn dda. Gwedy hyny mae ef yn gorchymyn Titus
a'i gydymddeithion yddwynt.


[1] YDd ym ni hefyt yn espesu ywch, broder, y rhat Duw a roðwyt i Ecclesi Macedonia,
[2] can ys ym-mawr brovedigeth gorthrymder yr amylhaoð y llawenyð hwynt, ai l'wyr eithaf dlodi a amylhaodd y'w ehelaeth haelioni.
[3] Can ys yn ei gallu (ddwy 'n testiolaethu) ac * uchlaw [-: * tuhwnt]  ei gallu, ydd oeddent yn 'wyllysgar,
[4] ac a ‡ weddiesant [-: ‡ archesant] arnam a mawr ervyn ar dderbyn o hanam y rrat, a' chymddeithas y weinidogaeth ysydd ir Sainctæ:
[5] A' hyn a vvnaethant vvy, nyd mal ydd oeðem ni yn edrych am danaw: anyd y rhoi y hunain, yn gyntaf ir Arglwydd, ac yno y ninheu gan ewyllys Duw,
[6] er bot i ni ‡ annoc [-: ‡ eiriol] Titus, pan-yw yddaw val y dechreawð, velly ac yddo * 'orphen [-: * gwplau] yr vnryw rat yn eich plith chvvi hefyt.
[7] Can val ydd ych yn amylhau

[td. 271r]
ym-pop dim, * yn [-: * mewn] ffydd a' gair, a' gwybodaeth, ac ym-pop astudrwydd, ac yn eich cariat ‡ i [-: ‡ tu ac atom] ni, bot i chvvi yr vn modd amylhau yn y rhat hyn hefyt.
[8] Ny ddywedaf hyn wrth 'orchymyn, anyd o bleit astudrwydd 'rei eraill: am hyny ydd wyf, yn provi * rywiowgrwydd [-: * naturioldep ] eich cariat.
[9] Can ys adwaenoch ‡ rat [-: ‡ ddawn] ein Arglwydd Iesu Christ, 'sef am iddo ac ef yn * gyvoethawc [-: * oludoc] , vynet er eich mwyn chwi yn dlawt, val ‡ can [-: trwy] y dlodi ef y cyfoethogit chwi.
[10] Ac ydd wyf yn dangos vy meddwl * yn [-: * ar] hyn: can ys da vyddei hyn ychwi, yr ei a ddechreusoch nyd yn vnic gwneuthur, anyd hefyt wyllysyavv, er es blwyðyn.
[11] Ac yr awrhon gorphenwch wneuthy'd hyny hefyt, val megis ac ydd oedd ‡ awydd [-: ‡ parodrwydd] y wyllysyavv, velly bot y-chwy hefyt eu * 'orphen [-: * gwplau]  ‡ o hynn 'sy genych [-: ‡ or caffaeliat] .
[12] Can ys a's bydd yn gyntaf 'wyllysgarwch, cymradwy yw * erwyð [-: * yn ol, wrth] yr hyn 'sy gan ddun, ac nyd erwydd yr hyn nyd yw gantho.
[13] Ac nyd yvv er esmwytho ac eraill, ‡ a'ch gorthrymu [-: ‡ a phwyso] chwitheu.
[14] Eithr dan yr vn ambot, bot y pryt hyn i'ch * helaethrwydd [-: * ehengder,] chwi ddivvallu y ‡ eisieu [-: ‡ deffic, digondap] hwy, val y bo hefyt y helaethrwydd hwy * tu ac at [-: ‡ yn borth] eich eisieu chwi, val y bo cymmedroldep:
[15] megis y mae yn escrivenedic, Yr huun a gasclavvdd lawer, nyd oedd gantho ‡ vwy [-: * ddim dros ben] , a'r huun a gasclavvdd ychydic, nyd oedd gantho lai.
[16] Ac y Dduw y bo 'r diolvvch, yr hwn a ðodes yn-calon Titus yr vnryw * 'ofal [-: ‡ gur, gark]  y trosoch.
[17] Can iddo gymeryd ‡ yr eiriol [-: * y cygcor] , and ydd oedd ef mor * astud [-: ‡ ofalus] ac ydd aeth ‡ oi vodd [-: * ar ei am-] yhun yd atoch.
[18] A' ni a ddanvonesam hefyt y gyd ac ef y brawd, rhwn 'sy a moliant iddo * yn yr Euangel [-: ‡ sef am precethu] trwy'r oll Ecclesi,

[td. 271v]

[19] (ac nyd hyny yn vnic, eithr hefyt ef a ddywyswyt gan Ecclesidd yn gydymddeithvvr y-ni ‡ erwydd y rhat hyn [-: ‡ am, o bleit y rhodd hon] a wasanaethwyt genym er gogoniant yr vnryw Arglwydd, ac amlygiat eich ewyllysgarwch chvvitheu)
[20] gan ymochelyd hyn, * rac [-: * val na] y neb veio arnam yn yr helaethrwydd yma rhyn a ‡ wasanaethir [-: ‡ weinir] genym,
[21] yr ei ddym yn racparatoi petheu * sybervv [-: * honest] , nyd yn vnic rac bron yr Arglwydd, an'd hefyt rac bron dynion.
[22] Ac anvonesam y gyd ac wynt ein brawt, yr hwn a brovesam yn vynech o amser y vot yn ‡ ddiwyt [-: ‡ astud, ddyscaelus ddyval] , yn llawer o betheu, ac yr owrhon yn ddiwytiach o lawer, am y mawr ymddiriet 'sy genyf ynoch.
[23] Neu a's gofyn neb am Titus, efe yvv vy-cyfaill a' chydweithydd tu [ac] ato-chwi: neu am ein brodur, y maent yn * gennadae [-: * Apostolon] yr Ecclesidd, ac yn 'ogoniant Christ.
[24] Can hynny dangoswch tu ac yddynt wy, a' rac bron yr Ecclesi brovedigeth o'ch cariat, ac ‡ o'n [-: ‡ o'r] gorvoledd 'sy cenym * o hanoch [-: * am danoch] .

Pen. ix.


Achos dyuodiat Titus ef ai gymddeithion atynt wy. Mae ef
yn eiriol rhoi elusen yn dirion, Gan ddangos pa ffrwyth
a ddaw o hyny.


[1] CAn ys tu ac at am y weinidogeth ir Sainctæ, afraid yw i mi scrivenu atoch.
[2] Can ys adwaen eich * ewyllysgarwch [-: ‡ astudrwyð] chwi, 'rhwn ydd wyf yn ymffrostio am danoch wrth yr ei o Macedonia, gan ddyvvedyt, bot Achaia gwedy hi pharatoi er ys

[td. 272r]
blwyddyn, ach * awyddvryd [-: * zelus ] chwi a annogodd lawer.
[3] A' mi a ddanvoneis y broder, rac y ein gorvoeð ni am danoch vot yn ‡ over [-: ‡ vyned yn wac] , yn y rhan * hon [-: * hyn] , val (vegis y ) y boch parot:
[4] rac a's y Macedonieit a ðawan gyd a mi, a'ch cahel chwi yn amparot, yno bot i ni nyd wy 'n dywedyt vot y chwi gael cywilyð ‡ yn yr hyderus 'orvoledd [-: ‡ am y gwastadol vost] hyn veuvi.
[5] Erwyð paam mi a dybiais vod yn angenrait annoc y brodur y ddyvot yn y blaen atoch, a' chwplau eich * bendith [-: * ymporth, elusen] rac ðarparedic, a' bot yn parat, a' dyuot  megis o ‡ vendith [-: ‡ galon erwydd, giried] , ac nyd megis * o gympel' [-: * yn gribddail ] .
[6] A' hyn bid ich cof, may hwn a heua yn ‡ eiriachus [-: ‡ arbedus, yn brin] , a ved hefyt yn eiriachus, a hwn a heuo yn * ehelaeth [-: * hael, yn dirion, mewn ciried] , a ved hefyt yn ehelaeth.
[7] Megis y ‡ damuno [-: ‡ pucho] pop dun yn ei galon, velly may iddo roi, nyd yn * athrist [-: * vgus] neu ‡ wrth yr ing [-: ‡ o ddir, ne gymmell, ne angen] : cans Duw a gar roðiawdr tirion.
[8] Ac y mae Duw yn abl i beri ir oll rat amylhau ‡ arnoch [-: ‡ ywch] , val y bo ywch ac oll ddigonoldeb genych ym-pop dim, allu amylhau ym-pop gweithret da,
[9] megis y mae yn scrivenedic, Ys tanodd ef ar lled a' rhoddes ir tlodion: ei * giried [-: * gyfiawnder, elusen, haelder]  ef a erys yn ‡ oes oesoedd [-: ‡ dragwyðol, ei oes ef] .
[10] Hefyt yr hwn a bair had ir heuwr, a bair eisioes vara yn ymborth, ac a * liosoca [-: * amylha] eich had, ac a angwanega ‡ ffrwyth eich ciried [-: ‡ doreth ych elusen] ,
[11] val o bop ran ich cyuoethoger y ‡ bop calondit-dda [-: ‡ haelioni] , yr hyn a weithia trwyddom ni ddiolvvch y Dduw.
[12] Can ys gwenidogeth y gwasanaeth hwn nyd yw yn vnic yn * cyflanwy [-: * diwygio, diwallu, cwplau ] angenreidiae 'r Sainctæ, anyd y mae hefyt yn aml gan ddyolch llaweroedd y Dduw,
[13] (yr ei wrth broviad y weinidogaeth ‡ hon [-: [no gloss]] a volant Dduw dros eich * cydsynniol [-: [no gloss]] ymddarostwngedigaeth ir Euangel

[td. 272v]
Christ, a' thros eich dibrin gyfraniat yddynt wy, ac y bawp oll)
[14] a' chan ei gweddi trosoch, gan ych * deisyfu [-: * cyfarch, trachwenychu] chwi yn vawr, am ‡ yr ardderchawc-rat [-: ‡ y rhagorawl ras] Duw 'sy ynoch.
[15] Ac y Dduw bo'r diolvvch dros ei * an traethawl ddawn [-: * anveidrol rodd] .


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section