Adran o’r blaen
Previous section

Ifan Llwyd ap Dafydd (marw c. 1607–9). ‘Ystorie Kymru’, NLW 13B ((wedi'i gyfansoddi) 1567-1609 (llsgr. yn gynnar yn y 17eg ganrif)), 198r-237r.

Cynnwys
Contents

Emrys 92v
Ythur Bendragon 100r
Arthur ap Ythur 108v


[td. 92v]


Emrys


Ac wedi hyny Emrys a wisgodd y goron /
ac a gyssegrwyd / yn vrenin ar y brytaniaid
/ a ffo a wnaeth hingestr ar saysson
oll / hyd y parth draw i hwmber / ac
yna / ymgadarnhav i drigaw o herwydd
ofni / a chlowed a wnaythoedd y ssaysson
na doedd yn ffraink neb allai ddiodde
nac aros Emrys heb angav / a hevyd
doeth hael a thrigaroc oedd ef / a
ffan glyby Emrys hyny / myned a
oric ai lu yn i hol hwynt / a thrwm
vy gantho weled yr Eglwys wedi
i dystriwio / ac addaw / os delai ef
yn vyw / yr ail waith / i parai
ef i gwnevthyr o newydd / val i
byssent orav erioed a ffan glyby
hingestr vod Emrys / yn ymgais am
dano ef / anog y saysson i ymladd
yn wrol / gan ddwedyd na doedd
vawr gally Emrys / o varchogion
llydaw / kans yno i cawssai ef nerth / ac
na doedd arnynt hwy ofn y brytaniaid
gan ddwedyd vod o honynt hwy ddaygain
mil o wyr arvoc / ac yna
myned a wnaythant ir lle a elwir
maes Beli / ar veddwl dwyn kyrch
dirybydd am benn Emrys ai lu /

[td. 93r]
Ac Emrys a fogelawdd hynny / ac a
vyddinawdd i wyr / a rhoi gwyr llydaw
ar brytaniaid blith drafflith a
hwynt a gossod a wnaeth gwyr dyved
ar y bryniav vchel / a gwyr gwynedd
gan i hystlys mewn koed gar i law /
megis i gallent erbyniaid y saysson
pa ffordd bynac i delynt / ac or ty
arall i roedd hingestr / yn annog / ac yn
dysgv i wyr ynte / ac wedi hynny /
ymgyrchy a wnaythant y byddinoedd
a lladd llawer o bob ty / a ffo a
wnaeth hingestr ai lu / ir lle a
elwid caer Gynan / ac Emrys ai
lu yn i hymlid / gan i lladd val
i gorddiweddyd hwynt / a eilwaith
ymveddino a oric o bob ty / ac ymladd yn
grevlon / ac yn y diwedd byddinoedd
Emrys a dwyllodd y saysson ac ai gwsgaryssant
hwynt trwy ddysg nerth ac
athrylith / y gwyr penaf yno / ac
velly i ddoedd Eidiol Iarll caer
loiw / yn ymgais a hingestr / ac
ymgwrdd ac ef or diwedd / ac ymladd yn
grevlon ac yn orthrwm a wnaythant
oni welid y tan oi harvav megis
mellt o vlaen tranav Ac

[td. 93v]
val i roeddent velly / nychaf Gwrlais
Iarll / ai vyddin yn dyvod atynt / ac
ar hynt yn gwssgarv y saysson / ac ar
hynny eidiol o hyder hynny A mavlodd
ymaraf hingestr / ac ai harwenodd
hyd ynghanol y llu / gan ddwedyd o
hvd i ben / gorthrymwch y saysson
bellach / cans ef a orvywyd arnynt
llyma hingestr yrowran / ac o
hyny allan i ffoes y saysson gidac
octa ap hingestr ar rhan vwiaf or
llu hvd ynghaer evroc / ac assaf i
Ewyrth ynte / a ffoes ar ran arall
or lly hvd ynghaer arcklyd /
ac wedi cael y vyddegoliaeth i daeth
Emrys hvd ynghaer Evroc / ac ef a
enillodd y gaer / ac a ddalodd octa
a llawer oi boneddigion / a lladd y
llaill / ac yno i trigodd Emrys dri
diewornod yn peri kladdy y kelanedd
/ menignaythy [~ meddyginiaethu ] yr hai briwedic
ac yn bwrw i llydded / oddiwrthynt
ac wedi hyny i daeth Emrys i
gymryd i gyngor am hingestr / ac
octa ac eraill / Sef oedd yn i
gyngor Esgob caer loiw ac
Eidiol Iarll / i vrawd

[td. 94r]
a ffan welas yr Esgob hingestr i dwad
ef wrthynt val hyn / ha wyr da pa
mynech i oll ryddhav / myvi vy
hyn ai lladdwn ef / val i gwnaeth
Samwel proffwyd / pan welas ef
araf brenin Amlech ynghaer
ef a barodd dorri i araf yn ddryllie
man / gan ddwedyd wrtho val hyn /
nid amgen val i gwnavthost di
vamav heb veibion i gwna vinav dy
vam dithae heb vab / ac yno i raeth
Eidiol Iarll a hingestr i ben
brynn vchel / yn ymyl y castell yn
y lle i llas ef gan wneythyr cri
mawr ywch i ben ef / megis i roedd
yr arver i gladdy Sawden / ac oddyno
i daeth Emrys i geisio kyngor / beth
a wnai ef i octa / Sef oedd i gyngor
peri i octa / ai holl lu gymryd
kadwyn yn llaw pob vn onaddynt
a thamaid o bridd ymhen pob vn
ac velly ymroi / a myned yn wllis
Emrys / gan ddwedyd wrtho val hyn
Arglwydd vrenin gorchyvedic 

[td. 94v]
ydiw yn diwiav ni ac ni Ranyssom ni
vodd dy dduw di yn gwladychy / yr
hwn sydd yn kymell y boneddigion
hyn yn dy ywllis di yn y modd
hyn / ac llyma ni Arglwydd a
chadwyn yn llaw pob vn o honam
mi / ac yn gymynol or ddayar / ac os
wllis yw genyt / par yn lladd ni Ac
yna i raeth Emrys yni gyngor
am danynt / ac yna i dywad
Eidol / ar Esgob dyvric i vrawd
chwchwi bobol ddrwc / a ddoythoch
 [och] bodd i Erchi trigaredd megis
i daeth pobl yr yssrael / ac i
kowsant / ac ni bydd gwaeth yn
trigaredd ninav / nac i bv yr yddeon
/ ac velly hevyd i daeth Assaf
ai bobl i drigaredd Emrys / ac
velly kymryd tir a wnaythant
gan Emris trwy dragwyddawl
gaethiwed / Sef hyny / alban / ac
a elwir scotland / Ac velly i
tangneveddwyd rhyngthynt ac
velly i daeth Emrys i gaer
Evroc / ac i dyvynnodd atto ef
holl Ieyrll ai varwniaid

[td. 95r]
ai Archesgobion / a chynta dim a
gowsont yni kyngor gweirio /r/
Eglwyssi / a ddistrowiassai y saysson
ar gost Emrys oll / dros wyneb yr
ynys / ar bymthegved dydd wedi
hyny i daeth ef i lyndain / ac
yno i peris ef adnewyddy yr
Eglwissi / a gwellav y kyvreithiav
drwg / a rhoddi i bawb i
tiroedd a ddygyssid yngham oddarnynt
/ a chynal gwirionedd a
ffawb / a vynai ef / ac oddyno i daeth ef
hyd ynghaer wynt i wneythyr
yr vn rhiw / ac wedi / darvod iddo
lonyddy pob lle i daeth ef hyd y
dref a elwid caer baladin / a
heddiw shatesburi i edrych beddav
y sawl a baryssai hingestr i ladd
yno drwy vrad o Ieyrll
barwniaid a marchogion yrddolion
/ a thrychant o vynnachoedd
y mynachlog mynydd / ac a elwir
Saftesburi / yn govaint ambri
cans velly i gelwid hi o achos
i gwneythyr hi o wyr

[td. 95v]
a elwid ambri / a thrwm a vy gan Emrys
weled y llef [~ lle ] hono / mor anhymoredd a hyny
ac yna i dyvynodd / ef holl seiri atto i
wnevthyr [addyrn] Ethrylithis tragwyddawl
ynghylch y vedrod hono / ac wedi dyvvod
y gynylleidva ynghyd / a ffally
i Ethrilythyr / nessav attynt tramawr
esgob caer llion Arwysg A
dwedyd wrth Emrys / arglwydd
heb ef dyvynnwch attoch verddin bardd
gwrtheyrn / cans hwnw a wyr dychmygv
gwaith Ryvedd drwy Erhrylith
dysg Sef wedi hynny i kad merddin
garllaw ffynnon galabas / a llawen
vy y brenin wrtho / ac i herchis Emrys
iddo ddwedyd a droganv / a ddelav rrac
llaw yn yr ynys hon / Sef ir attebodd
merddin / na doedd Iawn dravthy or
rryw bethav hynny / ond pan vai raid
a ffestwedwn / i heb amgen / yr yssbryd
glan yr hwn y sydd im dysgv i ai
oddiwrthif pan vai raid ym wrtho
ac yno / nid ofynodd y brenin addo ef
ym hellach ond gofyn iddo / pa
pa waith a ddychmyge

[td. 96r]
ef i wneythyr ywchben y lle hwnw / Sef
i kynghores merddin vyned ir werddon
ir lle i roedd gor y kwri [~ cewri ] / ar vynydd
kilara / kans yno i mae mini [~ meini ] rryvedd
heb wybod o neb ddim oddiwrthynt / ac ni
cheffir hwynt / nac o gadernid nac o
gryvder / ond trwy gelvyddyd yn vnic
a ffe baent hwynt yma / val i maent
hwy yno / hwy a savent yn dragowydd
val i bae kof kyvliw amdanynt /
ac yna i dowad Emrys / dan chwerthin
pa vodd i gellid ti ddwyn oddyno
Sef i dowad merddin / na chyffro di
arglwydd ar chwerthin / cans ni ddwedaf
namyn pryddder / a gwirionedd /
main rinwedd vawr ywr rrain / ac
amravailion gyvrwyddodav arnynt /
a chowri gynt ai dyg o eitiar yssbaen
/ ac ai rhoes val i maent yno /
Sef achos i dygassant hwynt /
oedd pan ddelai glevyd ar vn o
naddynt gwnevthyr Ennaint a
wnaent ynghanol y maen / ac
i golchant y maen / ar dwfr
hwnw / a roent yn yr

[td. 96v]
Ennaint / a thrwy hwnw i kaent gwbwl
oi hiechyd ac or gweliav a vai
arnynt / kans llysse a roent yn
yr Ennaint / Ar hain a Iachav i
gweliav hwynt / a ffan glyby y
brenin rinweddav / y main / yn ddiannod
i raeth yw kyrchy / ac yn benaf
arnynt / i raeth ythur ben dragon /
a ffymtheg mil o wyr arvoc gantho /
a merddin hevyd / am i vod yn orav /
o athrylith / kilamwri / oedd
vrenin yn ywerddon yr amser hwnw /
a ffan glyby / kilamwri hynny
dyvod a llu mawr / a wnaeth ynte
yn i herbyn / a govyn yddynt ystyr
i neges / a ffan wyby kilamwri
i neges chwerthin a wnaeth ef
a dwedyd / nid rryvedd genni vi ally
o bobol lesg / anrithio ynys brydain
gan yddynt vod mor ynvyd / a fferi
i bobol ymladd a hwynt am
gerrig / ac ymgyrchy a wnaythant
ac ymladd yn grevlon a lladd
llawer o bobty / yni ffoes kilamwri
/ ac yna i dywad merddin
gwnewchi y dychymig

[td. 97r]
gorav ac a vetroch i ddwyn y main ymaith
o ddi yma / ac ni thykiav yddynt
/ Sef a wnaeth merddin / chwerthin
am i penav / a heb ddim llavyr
dwyn y main hvd y llongav yn rhwydd /
ac wedi hynny i daethant a hwynt
hyd y mynydd mambri / ac yno i
dyvynnodd Emrys holl Ieyrll /
Barwniaid / Esgobion / a marchogion
ynys brydain / i Ardyniaw y lle hwnw
/ trwy i kyngor hwynt o adidawc
a thrym / ac yno i
gwissgodd Emrys goron y dyrnas
am i ben / ac a wnaeth wylva
yrrddassol dri diav / ac a roes i
bawb or ynys / gwbwl oi gwir ddlyed
/ gan rany bodd i bawb oi
wyr / megis i gweddav iddaw / ac
o aur ac arian a meirch ac arvay
/ ar amser hwnw i roedd dav
archesgobty yn weigion nid amgen
caer llion Arwysg / a chaer Evroc /
ac yna i rhoed Sampson yn arch
esgob caer Evroc a dyvric

[td. 97v]
yn Archesgob caer llion arwysg / ac
wedi darvod hynny / i herchis Emrys
godir meini val i roeddent ynghilara
ac velly i gwnaeth ef / ac yno i gwyby
pawb mai gwell oedd gywrainrwydd
/ na chryfder / ar amser
hwnw i roedd pasgen ap gwrtheyrn
gwedi ffo i Germania / a chwedi
kynyll yno lu mwyaf ac a gavas
trwy addaw yddynt bob rryw dda
er dyvod gidac ef / i oresgyn ynys
brydain oddiar Emrys / ac yna i
daeth gidac ef anneirif o wyr
arvoc / a ffan ddaeth y llynges ir
ynys hon / a dechrav anrrhithio /
a chlowed o Emrys hynny / ynte
a ddaeth a llu mawr gantho / ac
a yrrodd pasgen i ffo yn wradwyddys
/ hyd ywerddon / a llawen a
vywyd yno wrtho / a mawr a vy
i gresso ef gan gilamwri vrenin
ywerddon / a chwyno a wnaeth
pob vn wrth i gilidd rrac
meibion kystenin ac yna

[td. 98r]
i daethant illdav o gytyndeb a
llynges vawr ganthynt i dir myniw /
a ffan glyby ythur brawd y brenin
hyny argysswr mawr a vy
ganto / cans i roedd Emrys yn
glaf ynghaer wynt / ac ynte na
doedd gantho bower i roi kad ar
vaes yddynt / ond pan glyby pasgen
/ a chilamwri / vod Emrys yn
glaf / llawen a vy ganthynt
dros ben / gan dybiaid na allai
ythur ymdaro a hwynt ylldav / a
thra vywyd yno / Sef a ddoeth vn or
saysson a elwid Eppa a ddaeth
at pasgen / a govyn iddaw a wnaeth
ef / beth a roddai ef o dda ir neb
a laddai Emrys / pasgen attebodd
gan ddwedyd / mi a roddaf mil o
bynnoedd am kydmeithas inav tra
vwy byw / ac o bydda i vrenin / mi
ai hanrydeddaf / o dir a dayar a
chyvoeth / val i bo ef bodlon ac
yna i dywad Eppa / wrth Pasgen
moes imi Sicrwydd ar

[td. 98v]
Addewaist / a mi a wnaf angav i Emrys
ac wedi cael y sicrwydd Eppa
a eilliodd gwallt i ben / ai varf ar
ffyrf mynach / ac aeth ac offer meddic
gantho / ir kwrt ney lys y brenin a
manegi i rai yno / i vod ef yn veddig
da / a manegi hynny a wnaethbwyd i
Emris / ar brenin a barodd i ddwyn ef
atto ef / ac wrth ymddiddan ai gilidd
dwedyd a wnaeth ef wrth y Brenin
i medrai i wneythyr ef yn iach ac
a vy lawen Iawn gan y Brenin
ac Eppa a ddarparodd ddiod ir
Brenin / ac a roes wenwyn arni / ac
yved y ddiod a wnaeth ef / ac yna i
kynghorav y twyllwr iddaw orffowys
a llechy yn ol y ddiod
megis i lladdai y gwenwyn ef
yn gynt / ac yna divany a oric
Eppa allan or llys / ac yna
ir ymddangosses seren Kometa
anveidrol o vaint i ythur / a ffaladyr
yddi ac ar ben y
paladr hwnw / pellen

[td. 99r]
o dan ar lun draic / ac o enav y
ddraic i roedd dav baladyr yn kodi /
y naill onaddynt yn kodi ac yn ymestyn
dros eithavoedd ffrainc / ar
paladyr arall dros ywerddon /
ac yn Ranny yn saith o Baladrav
bychain / ac yna ir ofnodd ythyr / a
ffawb ac a welsai y weledigaeth
hono / gan ovyn ir gwyr
doythion / pa beth arwyddokav
hynny / ac yna ir wyles merddin
gan ddwedyd / o genedl y brytaniaid
yn awr i rychi yn weddw / ag
yn ymddivad am Emrys weledic /
chwi a gowssoch golled / ni ellir byth
moi hynill dracheven / ac er hyny
nid ydychi yn ymddivad am vrenin
kans ty di vydd vrenin / ythyr / a bryssia
di i ymladd ath Elynion o herwydd
ty di a orvydd arnynt / ac a
vyddi veddianys or ynys hon / a thi
arwyddocaf y seren a welaisti
ar ddraic danllyd ar

[td. 99v]
paladyr a ystynodd dros ffrainc yw
mab a vydd iti a chyvoethawc a
vydd hwnw / a llawer or byd a veddiana
ar paladyr arall yw merch a vydd
iti a meibion hono ai hwirion a veddianant
oll ol yn ol Sef a oric
ythur / kyd na bai petrys gantho
a ddodyssai verddin / gyrchy i
Elynion a wnaeth ef ac ymladd
ac hwynt a llawer o bobty a las /
ac yn y diwedd i gorvy eythyr
arnynt / ac wedi cael y vyddegoliaeth
/ i raeth ythyr hyd ynghaer
wynt / wrth varolaeth Emrys
i vrawd / ac yna i daeth holl
Esgobion a ffenaithiayd y dyrnas
a thrwy anrhydedd mawr i
claddwyd ef garllaw
mynachlog ambri o vewn
kor y kowri wedi iddo ef
dyrnassy ond vn vlwyddyn
[ar] vgain

Tervyn

[td. 100r]


Ythur Bendragon


Ac wedi hynny drwy gyngor ac yndeb
penaythiaid y dyrnas / i kymerth ythur
bendragon goron y dyrnas am i ben /
ac ynaf i daeth kof i ythur / am y
pethav a ddwedyssai verddin wrthaw /
ac i peris ef wneythur dwy ddraic
o aur / yn y ffyrf i gwelsai ef hwynt
ar ben y paladyr yn y ddwyrain /
ac vn or delway hyny a roes y brenin
ir Eglwys benaf ynghaer wynt
ar llall / a barai ef i dwyn oi
vlaen / pan Elai ef i vewn brwydyr
 ar Ryvel / ac o hyny allan /
i gelwid ef ythur bendragon /
Sef a oric octa ap hingestr gwahawdd
y saysson attaw / gan ddwedyd
wrthynt / gwedi marw Emrys i bod
hwynt yn rhydd or llw a roysent
iddaw / ac yna anvon a oric / hvd yn
Germania i geisio nerth a hevyd
hyd at pasgen ir werddon ac
wedi cynyll aneirif o bobloedd a
goressgyn holl loiger hyd yng
haer Evroc / a ffan oeddent

[td. 100v]
yn dechrav ymladd ar dinas / i daeth
ythur ai lu atynt / ac ymladd kreylon
a vy Rhyngthynt ac yn y diwedd
i gyrrwyd y saysson i ffo ai hymlid hyd
y lle a elwir mynydd damen / kans
lle ychel kadarn oedd hwnw / o greigiav
a cherric / ar nos hono i byant
yno / ac yno i gelwis ythur i gyngor
atto / ac i kodes gwrlais Iarll
cerniw / gan ddwedyd / llai yw
yn aniver ni nai aniver hwynt /
a ffan vor nos yn dowyll / awn am
i penav hwynt / ac yno i kawn
hwynt yn Rad ac velly i gwnaythant
/ a goresgyn y mynydd arnynt
a lladd llawer o bobloedd / a dal
octa ac assaf / a gwasgary y
llaill oll / ac wedi cael y vyddegoliaeth
hono / i daeth ythyr
hyd ynghaer alclyd / ac ymgylchy
yr holl gyvoeth / a
chadarnhav y kyvrithiav hyd
na lavassai neb wnevthyr kam
ai gilidd / ac wedi

[td. 101r]
gwastatav pob peth / i raeth y brenin
i gaer lydd / ac yna i peris ef
gyrchy octa ac assaf atto ef / o herwydd
  agos at y pasg oedd hi
ac yna gwneythyr gwledd y pasg
a gwahawdd Ieyrll barwniaid
a marchogion / ai gwragedd hwyntav /
o gwbwl o ynys Brydain ir wledd
honno / a llawen a vy ythur wrth
bawb o naddynt / a thriliaw y
wledd a wnaythant trwy Esmwythder
a digrivwch / ac yna ir
aeth gwrlais Iarll kerniw / ai wraic
ynte / Eiger verrch amlawdd weledic /
ac ni doedd yn ynys brydain / na
gwraic na morwyn kyn deced a
hi / a ffan edrychodd ythur erni / i
chary yn vawr a wnaeth ef megis
nas gallodd i gelyf [~ gelu ] / ac ni vynai
ef vod hebddi a anvon mynych
anrhegion i Eigir / nid amgen diodydd
mewn ffiolav Eyraid / modrwiav
aur a ffethav eraill Euraid / hyd
pan ydnaby gwrlais

[td. 101v]
Iarll cerniw hyny / ac yna / llidiaw
a wnaeth Gwrlais / a gador llys / heb
genad y brenin / a ffan wyby y brenin hynny
i llidiawdd ynte / gan anvon kenadav / ar
i ol / i erchi i wrlais ddyvod dracheven
/ kans sorhad mawr oedd ado llys
y brenin heb i gennad / ac ni ddoeth ef
ddim / ac yna i dowod y brenin am
wrlais / i digowethef ef oni ymhwelai
ac nid amhweles ef mwy / ac yn
ddiannod / kynyll llu mawr a oric ythur
a lladd a llosgi drwy holl gyvoeth
gwrlais / Sef gwrlais am na
doedd aniver gantho / i roi kad ar
vaes ir brenin / a gadarnhaodd y
kestill oedd iddaw / a elwid Dindagol
ac ar lan y mor i ddoedd / a rroi
i wraic yn y castell hwnw / ac ynte
i hvn aeth ir castell / a elwid
Dinblot / ac yn yr Estron iaith
Terrabill / ac er i govidiaw i gid
i daeth ythur ai lu am ben y castell
lle i roedd / gwrlais / a gwasgary
i wyr / ac ni las nemor onaddynt
ac yna i daeth kenad at Eigyr i
vanegi hyny / ac i gelwis ythur
atto / wlffin yn yr Estron iaith

[td. 102r]
Vlffius / o gaer gariadawc / oedd
varchog iddo ef / a manegi a wnaeth
y Brenin iddo i holl veddwl / ai
gariad / ty ac at Eigr / a govyn
kyngor iddaw / Sef i dywad wlffin
wrth y brenin / Arglwydd heb
ef / ni thyckiaf / gan gadernid geissior
castell i mae Eigr yndo / o
herwydd ar ben karreg yn y mor
i mae ef / ac ni does vn ffordd i
vyned atto / namyn vn ffordd / a
honno tri o varchogion ai kadwai
rhac yr holl vyd eythyr llyma
vynghyngor i ti Arglwydd /
Dyvynny merddin atad / a manegi
iddo ef dy gyvrinach / ac o gwna
neb i ti ddim lles ne help hwnw
ai gwna / ar brenin a wnaeth
hyny / ac yna i dowod merddin wrth
y brenin / oss hynny y sydd raid
rhaid yw i ti / gymryd ffyrf a
rrith gwrlais arnati / a minef
af yn ffyrf brithael a elwir
yn yr Estron iaith Brastias
marchog / ac anwylwas Gwrlais
a mi a roddaf ar wlffin ffyrf
medaf yn yr Estron

[td. 102v]
Iaith Iordans / o dintagol marchog
ac anwylwas arall i wrlais / ac
yna ni wyr neb / na bo gwrlais ai
ddav anwylwas ydym ni / a ffan
ddarvy yddynt ymrithio yn y ffyrf
hynny / myned a wnaythant hyd y
morth castell dindagol ddechrav
nos / gan vanegi ir porthor / vod
Gwrlais wrth y porth Sef a oric
y porthor a ygores y porth / gan
dybiaid mai gwrlais ai ddav
was oedd yno / ac y mywn i daethant
ac ir aeth ythur i gysgy /
at Eigr / gan ddechrav ymddiddan
twyllodrys gariad oric a dwedyd
may yn lledrad i daethodd ef yno
or castell arall i ymweled a hi
ac na allai ef er dim / na ddelai
a chredy hyny a oric hithae
ar nosson hono ir enillwyd arthur
ap ythur / ac yna pan wyby llu
ythur na doedd ef gida hwynt ymladd
yn lew a wnaythant ar castell
oni vy raid i wrlais ddyvod allan
a rhoi kad ar vaes yddynt /

[td. 103r]
ac yna i llas gwrlais / a gwasgary
i lu ai wyr / ac yn Ebrwydd manegi
hyny i Eigr / val i roedd hi yn y
gwely gidac ythur / ac yna i dywad
ef dan chwerthin yn rhith Gwrlais
nim llas i etto / ond mi af
i edrych / pa vaint a golles i om
gwyr / gan gyssyrio Eigr / a dwedyd
wrthi / Arglwyddes / byddwch i
wych / ac nac ofnwch i ddim ar a
glowoch / ac wedi hyny i raeth ythur
at i wyr ef i hvn / yn i ffyrf ef i
hynan / a drwg vy gan ythur ladd
gwrlais / ond o hynny allan / i kymerth
ythur Eigr ddirgeledic yn wraic briod iddaw
ar goedd / ac i kavas vab a merch
o honi nid amgen / arthur ac
Anna i chwaer / ac wedi hynny i
kelvychodd [~ clafychodd ] ythur o orthrwm glevyd
/ ac i by ef yn nychy yn
hir o amser / oni ddigiodd y gwyr
oedd yn kadw octa ac assaf / ac
o dra digovain wrtho ef / i gollyngyssant
y twyssogion hynny

[td. 103v]
yn rhydd / i vyned yw gwlad i hvn
ac ir aethant hwynte i Germania
ar gwyr oedd yn i kadw gida hwynt
ac yna ir ofnes gwyr y dyrnas Rag
dyvod gwyr Germania i oresgyn ynys
Brydain / a gwir fy hyny / hwy
a ddaythant ir alban / ac anrhithio
y wlad / i lladd / ai llosgi a
wnaythant / Sef ir oedd llew ap
kynvarch yn dwyssog ar y
brytaniaid cans ef a briodyssai anna
verch ythur bendragon / a gwr mawr
hynaws oedd ef a gwr a garai wirionedd
/ ar llew ap kynvarch hwnw / a
rodd lawer kad ar vaes ac o
frwydrav / yn Erbyn y saysson / yn
hir o amser / a mynychaf i gorvyddai
y saysson arno ef oni vy agos a
distrowior holl ynys / a manegi
hyny a wnaythbwyd i ythur ac
na allai /r/ Iarll ddarostwng y
saysson / a llidio a wnaeth y Brenin
yn vawr / a dyvynny holl wyrda
/r/ ynys gar i vron ef / ac yna
ymliw a wnaeth ef a hwynt / am
i methedigrwydd / yn erbyn y
saysson / ac i paratodd ef lu

[td. 104r]
ac a barodd ef i ddwyn / ar Elor o vlaen
y llu / hyd oni ddaythant at dinas
verolan y sydd yn agos at saint
albons / cans yno i roedd y peganiaid
ssayson yn lladd / ac yn llosgi /
a ffan glyby octa ac assaf vod ythur
y Brenin yn glaf / yn i ddwyn ar
Elor o vlaen y llu ty ac yno /
llawen vy ganthynt hynny / gan i
vockio ef yn ddirmygys / ai alw
yn haner gwr marw / ac myned a oric
or saysson / ir dinas honno / a gador
pyrth yn Egored / o watwar am ben
ythur ai lu / ac ythur a beris amgylchy
y gaer / a myned a wnaeth
llawer i mewn ir dinas / ac ymladd
yn greylon a wnaythant / a lladd
llawer o bobty / oni aeth hi yn nos
ar bore dranoeth i daeth y
saysson i maes or gaer / ac yna
ir ymladdodd y brytaniaid yn
wrolwych / ac i llas octa ac assaf
ac eraill / a ffoes / o dwyssogion y saysson
yn wradwyddys / ac yna i kodes ythur
yn i eistay [~ eistedd ] ar i wely /

[td. 104v]
o lawenydd / a chyn hyny ni allai ef dro
ond o nerth dav wr gryvion / gan ddwedyd
/ ha /r/ twyllwyr Am galwent
"haner gwr marw / gwell yw haner
"gwr marw a orvyddo / na gwr byw a
orvydder / a gwell yw marw yn
"glodvawr na byw yn gwilyddys /
ac wedi y vyddegoliaeth hono y gweddillion
a ddianghyssai or saysson / amgassglyssant
yn yr alban / Sef i
mynyssai ythur i hymlid / ac nis
gadawai i gynghoriaid iddaw vyned
a chlaved oedd ef / ac o hyny allan
meddylio a wnaeth y saysson pa
vodd i gallent vradychy ythur /
ac ar hyny / anvon rhai a wnaythant
yn rhith rhydyssion i ymddiddan
ac ef / ar heini a gowssant wybod
nad yvai ythur ddim diod / namyn
dwfr ffynon / yr hon oedd yn agos
i ddinas verolan / Sef y saysson
a baryssant wenwyno /r/ ffynon
hono / ac a oedd o ddwfr yn i
hamgylch / ac yna ir yvodd y
brenin ythur y dyvwr [~ dwfr ] / ac i
gwenwynwyd ef / a ffan

[td. 105r]
wyby y brenin hyny / ef a orchmynodd
koron y dyrnas i arthur
i vab / ac wedi hyny i by ef varw
ar sawl ai hyvodd gidac ef / wedi
iddo ef dyrnassy vn vlwyddyn ar
bymtheg / ac ai claddwyd yngwal
y kowri / ac a elwir heddiw
ston hing / ar amser hwnw i roedd
arthur gidai dadmaeth / nid
amgen kynar varvog / marchog ynghaer
kynar varvog / o vewn tair
milldir at dre /r/ bala o vewn
Penllyn yn sir veirionydd / ac
a elwir heddiw kaer kai ap
kynar varvog / ac wedi ir saysson
wybod marw ythyr / anvon a
wnaythant hyd yn germania / i
geisio nerth i ynill ynys brydain
ac i danvoned yddynt lynges ddir
vawr o vaint / a kholgrin yn
dwyssog arnynt / ac velly goresgyn
a wnaythant / o hwmber / hyd
ymhenryn Bladdon
yn y gogledd / kans yn yr amser
hwnw / anghytyndeb oedd

[td. 105v]
ymsyg y brytaniaid / am wneythyd
brenin arnynt / a ffan wyby y
penaithiaid o ynys Brydain / vod
y saysson yn aflonyddy Eilwaith /
ymgynyll a wnaythant hvd
ynghaer vyddav / holl yrrddas y
dyrnas / i gymryd i kyngor pwy
a wnaent yn vrenin arnynt / ac yno
trwy athrylith merddin / a chyngor
yr archesgobion / ir ymgynhyllodd
holl twyssogion a marchogion / ac
eraill / o benaithiaid y dyrnas hyd
ynghaer lydd / o vlaen dydd natalic
krist / nessa yn ol hynny / a ffan
ddaethant yno ir aethant / yn i
gweddi ar ddyw / o vlaen Temyl
apolo / val i genyssid Iessy
Brenin y Brenhinoedd / ar y dydd
hwnw i ryddhav y byd / oddiwrth
i pechodav / ddangos o honaw
ef / oi vawr wrthiav yddynt
oleini / drwy wrthiav pwy oedd
vrenin tilwng [~ teilwng ] ir ynys hono / rrac
kolli gwaed gwirioniaid /

[td. 106r]
wrth darowsder [~ drawster ] / ac yn ddiannod
erbyn darvod y gwsaneth / ar
fferenav / i roedd o vewn y vynwent
hono / gyverbyn ar allor vawr /
vn garreg vawr / gyffelib i
mynor / yn bedwar ochrog / ac
yn i chanol i roedd gyffelib i
Einion o ddur / ac yn hono yn sevyll
gleddav noeth / o erbyn i vlaen /
a llythrenav o aur yn yssgrivenedig
arno / yn yr ystyr hyn /
nid amgen / mae pwy bynac a dynav
y kleddav hwnw allan or garreg /
ar Einion honno / a enyssid yn vrenin
kyvion i ynys brydain / a ffan
wyby yr archesgobion / twyssogion
ar penaithiaid hyny / rhyveddy
a wnaythant / gan roddi gogoniant
i dduw / ac wedi yddynt ddarllain
yr yssgriven ychod / rhai o honynt /
a brovyssant dyny y cleddav allan
ac nis gallent / ar archesgobion
a ddywedyssant / na doedd yno / mor
neb oedd deilwng / iddo gael

[td. 106v]
y goron / ac or achos hono / drwy gyngor
a dyndeb yr archesgobion
twyssogion ar penaithiaid / gossod
a wnaythant / varchogion / o yrrddas /
i wiliad y kleddav hwnw / a rhoi
kri a rhybydd i bawb ddyvod yno /
erbyn dydd puredigaeth mair nessa /
ar ol hyny / pawb a brovai dyny
y kleddav allan or garreg / a rhybyddio
yno hevyd / kampav / a chwareon
/ val i gallai bob marchog / ar ai
mynai dorri ffon ar varch / ne ymwan /
ac velly dydd puredigaeth mair
wedi darvod y gwsaneth / i raeth yr
archesgobion / twyssogion Barwniaid
marchogion / ac eraill o benaithiaid y
dyrnas / ir lle gosodedig / rhai i
dori ffyn / a rhai i ymwan / ac val
i roeddent velly i daeth kynyr
varvog marchog a khai hir i vab
marchog / ac arthur mab maeth
kynar gidac hwynt yno / ac i
kyvyrgollodd Arthur ganthynt /ac [ir]
aeth ef ir vynwent lle i roedd y
kleddav yn y garreg / ar amser
hwnw ni doedd neb yn disgwyl

[td. 107r]
y kleddav / cans y marchogion oll
aythant / ir chwaroedd ychod / ac yn
ddirwystyr [Arthur] a dynnodd y kleddav
allan or garreg / ac a varchogodd ef
oni ddaeth ef at i vrawd maeth kai
hir ac a rodd y kleddav iddo ef /
gan ddwedyd iddo yr ystyr / val
or blaen / ac yna ir aeth kai / ar
kleddav at i dad kynyr varchog
gan ddwedyd / wele / llyma y kleddav
oedd yn y garreg / gweddys imi vod yn
vrenin or ynys hon / a ffan glyby
kynar varvog hyny / tyngy a
wnaeth ef / i vab kai hir Ar
lyvyr / a gorchymyn iddo ddwedyd
gwir/ pa vodd i kawsai ef y
kleddav hwnw / ac yna ir attebodd
kai / ac a ddowod mai gan
arthur i kowsai ef y kleddav / ac
yna y govynodd kynar / i Arthur
pa vodd i kowsai ef y kleddav hwnw
ac i dowad yntav y ffyrf ar ystyr
i kawsai ef y kleddav val or blaen
ac yno i dowod kynar wrth arthur
mai ef a oedd dilwng i vod yn vrenin
ar ynys brydain / kans ni allai
ef / na neb arall / dyny mor

[td. 107v]
kleddav hwnw allan or garreg / ond
y neb y sydd gyvion vrenin ir ynys / ac
o herwydd hyny / gad i mi weled a
elli di roddi y kleddv val i
byassai / ac velly i gwnaeth Arthur /
ac ar hyny kynar a brofodd i dyny
allan / ac nis gallodd a gwedi hyny i
peris kynar i arthur brofi i dyny ef
allan yn i olwg ef / ac
ai tynodd Arthur ef yn hawdd / ac er
hyny arthur a roddes y kleddav / yn
y maen / yn y ffyrf i kawsai ef /
wrth gyngor kynar i dadmayth / ac
wedi hyny i raeth ir goedd ddarvod
i arthur dyny i kleddav allan or
garreg / ac i proves aniver or twyssogion
ar penaithiaid i dyny ef / ac
nis gallent / ac wedi ir Archesgobio[n]
twyssogion / ac eraill or penaithiaid
ddyall darvod i arthur wneyd hyny /
ir aethant oll Eilwaith i brovy
tyny y kledday allan / ac nis galla[i]
neb o honynt / ond yn vnic Arthur /
ai tynodd / ef allan / yn i gwydd hwynt
oll / ac o herwydd hyny / diclloni

[td. 108r]
a wnaythant / a dwedyd vod yn gwilidd
yddynt oll / adel i vachgen /
rioli / a anillyssid kyn priodas
ac ar hyny yr archesgobion / ar penaythiaid
eraill / a wnaythant bedwar
o varchogion yrrddol / yn olygwyr
govalys ar arthur / nos a dydd /
nid amgen / kai hir / Bawdewyn /
o vrytayn / Vlffin / a Brithael / a
elwir yn yr Estron Iaith Brastias
hyd y sylgwyn nessa at hyny / ac
o vewn yr amser hwnw i raeth y twyssogion
/ ar penaithiaid i gymryd i
kyngor / am hyny / a ffan ddaeth y
sylgwyn / pob vn o naddynt / a
broves dyny y kleddav allan or
garreg / ac nis gallodd / neb ohonynt /
ond yn vnic Arthur ai tynnodd yn
i gwydd hwynt oll / ac nid oedd ef o
oedran / ond pymthengmlwydd / ac nid
oedd ef yn goddiwes o dda / agos gmaint
ac a roddai /

Tervyn

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section